Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Flwyddyn yn ôl, llofnodwyd Cytundeb Cydweithio gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Nodwyd yn y Cytundeb gyfres o ymrwymiadau – y mae gennym ddiddordeb cyffredin ynddynt i gyflawni atebion blaengar – ar gyfer mynd i’r afael â materion sy’n cymryd yr ymdrech bolisi a gwleidyddol fwyaf i’w datrys, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i bobl Cymru.

Mae’r Cytundeb yn amlinellu rhaglen dair blynedd o bolisïau – o weithio gyda’n gilydd i ymchwilio i ddyfodol hirdymor gofal cymdeithasol i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyma’r adroddiad cyntaf sy’n manylu ar y cynnydd a wnaed ers mis Rhagfyr diwethaf i gyflawni yn erbyn y rhaglen uchelgeisiol hon.

Yn erbyn cefndir yr argyfwng costau byw, pandemig y coronafeirws, y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng dyngarol sy’n dod i’r amlwg ar ein stepen drws ac, wrth gwrs, yr helynt gwleidyddol yn San Steffan, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ym mlwyddyn gyntaf y Cytundeb Cydweithio.

Gan weithio gyda’n gilydd, rydym wedi dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd; rydym wedi rhoi ystod eang o ymyriadau radical ar waith i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn ail gartrefi mewn llawer o gymunedau a chefnogi pobl i allu fforddio byw yn eu cymunedau lleol. Rydym hefyd wedi cymryd y camau cyntaf i ehangu gofal plant o safon i blant iau, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

A hithau ond yn flwyddyn gyntaf y Cytundeb, mae’n galonogol gweld y nifer sylweddol o ymrwymiadau yr ydym wedi gallu eu datblygu a’u gweithredu. Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud eto er mwyn cyflawni’r gyfres lawn o ymrwymiadau a gwireddu’r addewid o ddiwygio radical.

Wrth inni gychwyn ar ail flwyddyn y Cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, byddwn yn canolbwyntio ar adeiladu ar fomentwm y flwyddyn gyntaf hon a gwneud penderfyniadau ynghylch y meysydd hynny sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Yn bwysicaf oll, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd a gwireddu ein huchelgais i gyflawni ar ran pobl Cymru.

Image
Mark Drakeford AS Prif Weinidog Cymru
Mark Drakeford AS Prif Weinidog Cymru
Image
Adam Price AS Arweinydd Plaid Cymru
Arweinydd Plaid Cymru

Crynodeb gweithredol

Ers inni lofnodi’r Cytundeb Cydweithio ar 1 Rhagfyr 2021, rydym wedi gwneud gwir gynnydd ar yr ymrwymiadau polisi yn y Cytundeb.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn tynnu sylw at y cynnydd sydd wedi ei wneud ers i’r Cytundeb gael ei lofnodi fis Rhagfyr diwethaf ac mae’n rhoi trosolwg o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni drwy gydweithio â’n gilydd.

Mae’r Cytundeb Cydweithio yn rhaglen uchelgeisiol, dair blynedd o ymrwymiadau. Mae gwaith sylweddol yn parhau ar draws Llywodraeth Cymru i fwrw ati gyda’r polisïau sy’n sail i bob un o’r 46 o ymrwymiadau, a’u datblygu, fel y gellir eu cyhoeddi a’u cyflawni yn ystod oes y Cytundeb. Edrychwn ymlaen at wneud rhagor o gyhoeddiadau dros y ddwy flynedd nesaf.

Drwy gydweithio, hyd yma, rydym wedi:

  • Sicrhau bod 45,000 yn rhagor o blant wedi cael cynnig cinio ysgol am ddim wrth ddechrau yn yr ysgol fis Medi wrth inni ddechrau cyflwyno ein hymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Gyda chymorth £200m o gyllid refeniw, bydd pob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Cefnogwyd hyn gyda £60m mewn cyllid cyfalaf o’r portffolio Addysg i wella cyfleusterau ysgolion a sefydlu’r seilwaith angenrheidiol i sicrhau bod modd cyflawni. Rydym hefyd wedi cytuno y bydd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i deuluoedd ar incwm is yn parhau yn ystod y gwyliau ysgol.
  • Cymryd y camau cyntaf i ehangu gofal plant am ddim o safon i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, ac ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg i 2,500 yn rhagor o blant o dan bedair oed.
  • Cyflwyno pecyn newydd o fesurau i helpu pobl i fyw yn eu cymunedau lleol ac i fynd i’r afael â’r niferoedd uchel o ail gartrefi. Mae hyn yn cynnwys gweithredu gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.
  • Cyhoeddi adolygiad annibynnol o lifogydd a brofwyd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21.
  • Cyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru) gyda gwaith yn mynd rhagddo ar welliannau pellach y byddwn yn eu cyhoeddi ar y cyd yn ystod Cyfnod 1. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig hefyd wedi cael ei gyhoeddi, gan gynnwys manylion y cyfnod pontio a thaliadau sefydlogrwydd.
  • Penodi Jane Davidson i gadeirio’r gwaith o ymchwilio i lwybrau posibl i gyflawni sero net erbyn 2035.
  • Cytuno ar ffordd ymlaen ar ddiwygio’r Senedd. Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid argymhellion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd.
  • Sefydlu panel arbenigol i ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol. Byddai’r Awdurdod yn gyfrifol am lunio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen i Gymru, ac am gymryd camau tuag ato, yn barod ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.
  • Cyhoeddi £11m o fuddsoddiad dros y tair blynedd nesaf ar gyfer rhaglen Arfor 2 i hybu ffyniant economaidd mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.
  • Lansio ymgynghoriad ar Strategaeth Arloesi i Gymru, sy’n seiliedig ar genhadaeth ac a fydd yn cael ei gweithredu ar draws y llywodraeth.
  • Sicrhau bod gwersi Cymraeg am ddim ar gael i bawb o 16 i 25 oed, o fis Medi 2022.
  • Pasio Safonau’r Gymraeg newydd ar gyfer naw corff y DU sy’n darparu gwasanaethau yn y sector iechyd – wyth corff rheoleiddio proffesiynol a’r Awdurdod Safonau Proffesiynol.
  • Cadarnhau’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn amddiffyn rhag llifogydd – mwy na £214m dros dair blynedd.
  • Penodi grŵp arbenigol i gefnogi’r gwaith o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.
  • Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch rhoi pŵer yn ôl disgresiwn i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr.
  • Lansio ymgynghoriad ar newidiadau i’r Cod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a chanllawiau i wella’r addysgu am hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth mewn ysgolion.
  • Pasio Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), sy’n cyflwyno gweledigaeth newydd ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 ac sy’n creu stiward cenedlaethol newydd ar gyfer addysg ôl-16 i ehangu dysgu gydol oes, canolbwyntio ar les dysgwyr, ac i gefnogi ein colegau a’n prifysgolion.
  • Yn dilyn cyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a gafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol, rydym yn parhau i gydweithio i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cryfhau caffael cyhoeddus a chynrychiolaeth gweithwyr.
  • Cyhoeddi cynigion Cam 1 ar gyfer treth gyngor decach, ac ymgynghori ar y cynigion hynny.
  • Ymgynghori ar ddeddfwriaeth i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal.
  • Cyhoeddi bod Sharron Lusher wedi ei phenodi yn gadeirydd y Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol, a fydd yn adolygu’r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.
  • Cytuno ar gwmpas Strategaeth Ddiwylliant newydd a chyhoeddi gwahoddiad i dendro i fod yn bartner arweiniol i weithio gyda ni i’w chyflawni.
  • Bwrw ati gyda’r gwaith o ddatblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru.

Trosolwg o’r Gyllideb

Ym mlwyddyn gyntaf y Cytundeb, rydym wedi dod i gytundeb ar gyllideb tair blynedd i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a gwella cyfleoedd addysgol.

Mae’r gyllideb yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau cyllid sy’n adlewyrchu’r Cytundeb Cydweithio tair blynedd.

Fframwaith llywodraethu a threfniadau trosolwg

Penodwyd Siân Gwenllian AS a Cefin Campbell AS yn Aelodau Dynodedig ar gyfer y Cytundeb Cydweithio. Maent yn cydweithio’n agos â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cytundeb. Mae’r Gweinidogion a’r Aelodau Dynodedig yn cyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu’r ymrwymiadau, ac mae Cyd-bwyllgorau Polisi yn cael eu cynnal yn rheolaidd er mwyn dod i gonsensws.

Mae’r Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru yn cadw trosolwg o’r Cytundeb ac yn cynnal cyfarfodydd misol o’r Bwrdd Trosolwg i adolygu’r cynnydd a’r camau nesaf.

Rhaglen bolisi: Gweithredu radical mewn cyfnod heriol

Yn y flwyddyn gyntaf hon o’r Cytundeb Cydweithio, rydym wedi canolbwyntio ar yr ymrwymiadau hynny a fydd yn helpu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. Rydym wedi gweithio’n gyflym i roi amrywiaeth o fesurau ar waith – mesurau a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar bob cenhedlaeth. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwn dros y 12 mis nesaf.

Prydau ysgol am ddim

Rydym wedi buddsoddi £60m mewn ceginau ysgol ac ystafelloedd bwyta er mwyn cefnogi’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru ac ymestyn hyn hefyd i fwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir.

O fis Medi 2022, dechreuodd y plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd dderbyn prydau ysgol am ddim wrth i’r polisi gael ei gyflwyno fesul cam. Rydym wedi gweithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gynllunio a pharatoi ar gyfer y broses o gyflwyno’r cynllun, a fydd wedi ei chwblhau erbyn mis Medi 2024.

Darparwyd cyllid refeniw o hyd at £200m i awdurdodau lleol gyflawni’r ymrwymiad – mae £40m ar gael yn 2022-23, £70m yn 2023-24 a £90m yn 2024-25.

Yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, na welwyd ei debyg o’r blaen, mae plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Y dysgwyr ieuengaf, felly, yw’r cyntaf i elwa ar y prydau ysgol am ddim sy’n cael eu cyflwyno mewn ysgolion cynradd.

Gyda’n gilydd, rydym hefyd wedi gallu cyhoeddi y bydd darpariaeth prydau ysgol am ddim yn parhau i gael ei chynnig i blant o deuluoedd incwm is yng Nghymru yn ystod y gwyliau ysgol, hyd at ddiwedd hanner tymor mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Bydd ymestyn y ddarpariaeth yn cefnogi teuluoedd incwm is drwy’r argyfwng costau byw, gan fod disgwyl i ynni a chostau eraill godi dros y gaeaf. Mae £11m yn cael ei ddarparu i ariannu’r cymorth drwy gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Gofal plant

Rydym wedi ymrwymo i ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg. Cymerwyd y cam cyntaf tuag at gyflawni hyn drwy’r rhaglen ragorol, Dechrau’n Deg.

O fis Medi 2022, cafodd y rhaglen Dechrau’n Deg ei hehangu i gyrraedd hyd at 2,500 yn rhagor o blant rhwng 0 a 4 oed drwy gynyddu ardaloedd targed Dechrau’n Deg ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd plant o dan bedair oed yn yr ardaloedd hyn yn gallu elwa ar wasanaethau Dechrau’n Deg, a bydd hyn yn cynnwys gofal plant i’r rheini o ddwy i dair oed.

Cyhoeddwyd buddsoddiad o bron i £100m i gefnogi’r agenda hon ym mis Medi. Mae’r cyllid yn cynnwys £26 miliwn ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan amser Dechrau’n Deg; £70 miliwn ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol sydd ar gael i bob lleoliad gofal plant; a £3.8 miliwn i gefnogi mwy o ddarparwyr gofal plant a’r sector i wella eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Diolch i’r cyllid hwn, bydd modd ehangu mynediad at ofal plant wedi’i ariannu ymhellach i blant dwyflwydd oed o 2023-24. Wrth inni barhau i gyflawni yn unol â’r ymrwymiad hwn, bydd gan deuluoedd ar draws Cymru sydd â phlant dwyflwydd oed fynediad at ofal plant wedi’i ariannu.

Dyfodol gofal cymdeithasol

Ein huchelgais ar y cyd yw creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, a fydd yn parhau yn wasanaeth cyhoeddus.

Fel cam cyntaf, gwnaethom sefydlu panel arbenigol gyda chynrychiolaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, cyllid ac economeg, y byd academaidd a’r rhai sydd â phrofiad o ofalu. Rydym yn ystyried adroddiad ac argymhellion y panel, a bydd y rhain yn llywio ein cynllun gweithredu ar gyfer bwrw ati i wireddu ein huchelgais ar y cyd.

Ail gartrefi

Rydym wedi cymryd camau radical ar unwaith i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru. Cafodd rhaglen radical ei chyflwyno gennym i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fforddio byw yn eu cymuned leol – pa un a fyddant yn prynu ynteu yn rhentu eu cartref.

Rydym wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr. Bydd awdurdodau cynllunio lleol, pan fo ganddynt dystiolaeth, yn gallu diwygio’r system gynllunio er mwyn gofyn am ganiatâd cynllunio i newid defnydd o’r naill ddosbarth i’r llall. Rydym hefyd wedi cyflwyno newidiadau i’r polisi cynllunio cenedlaethol a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau tymor byr yn well mewn cymunedau lleol.

O 1 Ebrill 2023, rydym yn cynyddu terfyn uchaf premiymau’r dreth gyngor o 100% i 300%. Bydd cynghorau yn gallu defnyddio eu pwerau disgresiwn i godi premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ac ar eiddo gwag hirdymor ar unrhyw lefel hyd at y terfyn uchaf.

Rydym wedi cynyddu’r meini prawf gosod er mwyn i lety hunanddarpar gael eu rhestru ar gyfer ardrethi annomestig. Ar hyn o bryd, mae eiddo sydd ar gael i’w osod am o leiaf 140 o ddiwrnodau, ac sy’n cael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 o ddiwrnodau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, yn atebol i dalu ardrethi annomestig yn hytrach na’r dreth gyngor. Bydd y trothwyon hyn yn newid i 252 o ddiwrnodau a 182 o ddiwrnodau, yn y drefn honno, o 1 Ebrill 2023.

Mae hyn yn sicrhau mai dim ond os yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o’r flwyddyn y bydd eiddo hunanddarpar yn cael ei ddosbarthu yn eiddo annomestig.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol er mwyn iddynt allu gwneud cais am gymhwyso cyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardal leol.

Rydym yn cydnabod y gall anheddau gwag, yn enwedig rhai sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir, achosi problemau i gymunedau lleol. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2021-22), gwnaethom ddarparu £11m i awdurdodau lleol sydd â’u cymunedau yn cael eu heffeithio gan berchnogaeth ail gartrefi a llety gwyliau, er mwyn iddynt allu prynu ac adnewyddu tai gwag i fod yn dai cymdeithasol. Cymeradwywyd rhagor o gyllid hefyd, a ddaeth i gyfanswm o fwy na £13.5m, ar gyfer awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, i’w cynorthwyo i brynu ac adnewyddu tai gwag.

Rydym yn awr yn rhoi mesurau pellach ar waith i gynnig cyfran uwch o’r tai sydd eisoes yn bodoli, yn enwedig tai gwag, ar gyfer eu perchnogi ar y cyd ar lefel leol. Mae Cynllun Cartrefi Gwag cenedlaethol, sydd wedi ei ategu gan hyd at £60m o gyllid, yn cael ei gyflwyno gennym. Bydd mesurau sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a lansiwyd ym mis Hydref, hefyd yn helpu gyda’r ymdrech hon.

Ym mis Gorffennaf, cadarnhawyd ein hymrwymiad i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded i weithredu llety i ymwelwyr, gan gynnwys llety gwyliau tymor byr. Byddwn yn ymgynghori ar y cynigion hyn.

Treth Gyngor sy’n decach

Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio’r dreth gyngor i’w gwneud yn decach a mwy blaengar. Byddai’r diwygiadau yn sicrhau dull mwy blaengar o gefnogi gwasanaethau lleol hanfodol y mae’r dreth gyngor yn helpu i dalu amdanynt, gan gynnwys ysgolion, darpariaeth gofal cymdeithasol, plismona, gwasanaethau tân ac achub, a seilwaith ffyrdd. Mae’r dreth gyngor yn talu am tua un rhan o bump o wariant gan gynghorau ac mae’n rhan allweddol o ddemocratiaeth leol. Fodd bynnag, mae’r system bresennol bron i ugain mlynedd ar ei hôl hi ac mae’n cyfrannu at anghydraddoldebau cyfoeth. Ein gweledigaeth ni ar gyfer y dyfodol yw system sy’n ailgydbwyso’r baich treth ar gartrefi, sy’n ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb, ac sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd i gadw’r dreth yn deg.

Lansiwyd ein hymgynghoriad Cam 1 ym mis Gorffennaf 2022. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio sylwadau cychwynnol am becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i’w cyflawni erbyn diwedd tymor y Senedd hon, i fod yn fan cychwyn ar y daith i system decach a mwy blaengar. Mae’r cynigion yn cynnwys ailbrisio’r 1.5 miliwn o eiddo yng Nghymru i sicrhau bod y prisiadau yn gyfredol a bod pobl yn talu’r swm cywir o dreth. Rydym yn cynnig cynllunio system newydd o fandiau a chyfraddau treth sy’n decach. Wrth gynllunio’r system newydd, byddwn yn ystyried ychwanegu rhagor o fandiau ar frig a gwaelod y raddfa os oes angen, gan greu treth decach. Ailgydbwyso atebolrwydd treth cartrefi, nid codi refeniw ychwanegol, fyddai diben yr ymarfer. Rydym hefyd yn cynnig ymgorffori diweddariadau rheolaidd i sicrhau bod y dreth gyngor yn parhau i gael ei dosbarthu’n deg ar sail fwy rheolaidd. Rydym yn bwriadu gwella’r fframwaith disgowntiau ac eithriadau er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn gyson â’n nodau, ynghyd â gwella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sy’n darparu cymorth hanfodol i lawer o gartrefi incwm isel.

Rydym bellach yn ystyried yr ymatebion i’n hymgynghoriad Cam 1 ac mae gennym lawer iawn mwy o waith i’w wneud, gan weithio gyda phartneriaid ym maes llywodraeth leol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bwriedir cynnal ymgynghoriad Cam 2 maes o law i amlinellu’r cynigion mewn mwy o fanylder.

Ardoll ymwelwyr

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ynghylch rhoi pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr ym mis Medi 2022. Bydd adborth o’r ymgynghoriad yn ein helpu i lunio datblygiad yr ardoll, gan gynnwys sut y dylid defnyddio’r elw yn lleol i gefnogi twristiaeth.

Rhaglen bolisi: Cymru wyrddach i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng natur

Yr haf hwn, rydym wedi profi cyfnodau o wres eithafol yng Nghymru, tra bo Pacistan, ar ochr arall y byd, wedi gweld llifogydd dinistriol a oedd yn gyfrifol am ddadleoli degau o filoedd a lladd cannoedd o bobl. Mae hyn yn ein hatgoffa unwaith eto bod yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn faterion sy’n galw am weithredu arnynt ar frys. Rydym yn parhau i weithio gyda’n gilydd i gyrraedd ein targedau sero net, ac, ar yr un pryd, rydym yn datblygu math newydd, cynaliadwy o gymorth i ffermwyr ar gyfer ein sector amaethyddiaeth.

Adolygiad o lifogydd

Mae’r adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21 yn cael ei arwain gan yr Athro Elwen Evans KC. Bydd yn helpu i sicrhau bod Cymru yn dysgu o ddigwyddiadau llifogydd y gorffennol ac yn ymwreiddio arferion da ar gyfer y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried tystiolaeth o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag adroddiadau perthnasol eraill.

Llygredd amaethyddol

Rydym yn parhau i weithio gyda’r gymuned ffermio i ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, gan ddilyn dull wedi ei dargedu i fynd i’r afael â’r gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd. Ym mis Hydref, cyhoeddasom ein bwriad i ddarparu ar gyfer estyniad byr i weithredu un mesur, o 1 Ionawr 2023 i Ebrill 2023, ac i gynnal ymgynghoriad ar ddarpariaeth dros dro i fusnesau fferm wneud cais am drwydded ar gyfer terfyn cyfanswm nitrogen blynyddol uwch fesul daliad o hyd at 250kg/ha tan 2025, yn amodol ar anghenion cnydau ac ystyriaethau cyfreithiol eraill. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol penodol pellach, gan ystyried effeithiau economaidd ac amgylcheddol y terfyn cyfanswm nitrogen blynyddol o 170kg/ha fesul daliad a byddwn yn adolygu goblygiadau’r asesiad hwn ar ddefnyddio’r rheoliadau yn y dyfodol.

Sero net

Rydym wedi comisiynu cyngor annibynnol i ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn y dyddiad cynharach o 2035 – y dyddiad targed statudol presennol yw 2050. Jane Davidson, sy’n gyn-Weinidog dros yr Amgylchedd, fydd yn arwain y gwaith hwn, a fydd yn cynnwys dadansoddi ymchwil a data a bydd amrywiaeth eang o randdeiliaid yn gysylltiedig â’r gwaith.

Buddsoddiad cyfalaf a chydnerthedd cenedlaethol o ran llifogydd

Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru llifogydd ac ymateb i’r perygl cynyddol o lifogydd wedi ei ddangos drwy ein buddsoddiad mwyaf mewn rheoli perygl llifogydd – mwy na £214m dros dair blynedd. Bydd hyn yn cyflwyno cynlluniau llifogydd ac erydu arfordirol mawr, yn nodi anghenion lleol, yn gwella systemau perygl llifogydd allweddol ac yn datblygu prosiectau yn y dyfodol. Bydd y cyllid hefyd yn helpu i wella trefniadau rhag-gynllunio a’r ffordd yr ydym yn ymateb i’r perygl newidiol yn sgil newid hinsawdd.

Plannu coed

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd ar dir llai cynhyrchiol. Rydym hefyd wedi newid rheolau grantiau creu coetir fel bod yn rhaid i brosiectau ddangos eu bod yn bodloni’r safonau uchel sy’n ofynnol yn unol â’n cynlluniau cyn y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu. Mae hyn yn cynnwys bodloni Safon Coedwigaeth y DU a chynnal ymgynghoriad ystyrlon â’r gymuned sy’n ystyried yr effaith ar y gymuned, gan gynnwys ar y Gymraeg.

Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr drwy gyflwyno cyfnod pontio gan gynnwys taliadau sefydlogrwydd wrth inni ddiwygio’r system o daliadau i ffermwyr. Rydym wedi cynnig y bydd hyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2029. Bydd hyn yn darparu’r sefydlogrwydd sydd wirioneddol ei angen ac yn sicrhau na fydd unrhyw ffermwr yn wynebu dibyn o safbwynt ei daliadau cymorth cyllid.

Mae’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru), a gafodd ei gyflwyno i’r Senedd fis Medi, yn sail i’r gwaith hwn.

Rhaglen bolisi: Diwygio sylfeini Cymru

Bu blwyddyn gyntaf y Cytundeb Cydweithio yn flwyddyn o helynt eithriadol yn Llywodraeth y DU, gan arwain at y pumed Prif Weinidog ers cynnal refferendwm yr UE yn 2016. Er bod Prif Weinidog y DU wedi newid dro ar ôl tro, mae materion cyfansoddiadol pwysig, sydd â’u tarddiad yn y bleidlais Brexit, heb eu datrys o hyd. Dyma’r cyd-destun cyffredinol wrth inni barhau i gefnogi gwaith pwysig y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a defnyddio’r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru i adeiladu dyfodol gwell i ni ein hunain.

Diwygio’r Senedd

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ei gyhoeddi ddiwedd Mai ac, wedi hynny, pleidleisiodd y Senedd o blaid adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor. Mae llawer o waith polisi a deddfwriaethol manwl ar y gweill yn awr i lunio deddfwriaeth i’w chyflwyno i’r Senedd yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae’r Comisiwn yn parhau i ddatblygu ei raglen waith, gan gynnwys drwy ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ym mis Mawrth 2022 a thrwy ymgymryd ag ymarferion ymgysylltu eang â rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach. Mae’r Comisiwn yn gweithio tuag at gyhoeddi adroddiad interim erbyn diwedd 2022, gydag adroddiad llawn ag argymhellion i ddilyn erbyn diwedd 2023.

Darlledu

Rydym wedi sefydlu panel arbenigol i ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru. Bydd y panel arbenigol yn cynnig argymhellion ac opsiynau i helpu i gryfhau cyfryngau Cymru ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas i’r diben ar gyfer Cymru.

Byddai cylch gwaith yr Awdurdod yn cynnwys ceisio cryfhau democratiaeth Gymreig a chau’r bwlch gwybodaeth; dwyn ynghyd a chydgysylltu mewn ffordd strwythuredig ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru, a datblygiadau arloesol i gefnogi’r Gymraeg yn y maes digidol, fel amam.cymru; gwneud y cyfryngau yn fwy lluosogaethol a defnyddio’r Gymraeg ar holl blatfformau’r cyfryngau. Byddai hefyd yn gyfrifol am ddatblygu sylfaen dystiolaeth gadarn i gefnogi’r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru.

Mae’r panel arbenigol yn cael ei gyd-gadeirio gan Mel Doel, y darlledwr profiadol o Gymru a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Arfor

Rydym yn buddsoddi £11m dros y tair blynedd nesaf yn Arfor 2, rhaglen newydd a fydd yn cael ei chyflwyno gan ein partneriaid sy’n awdurdodau lleol, a fydd yn helpu i gryfhau cadernid economaidd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae’r cynllun yn adeiladu ar brofiad y rhaglen Arfor gynharach a lansiwyd yn 2019, ac mae’n elwa ar y gwerthusiad o’r rhaglen honno. Bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i bedwar awdurdod lleol, sef Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Prif amcan Arfor 2 yw cefnogi’r cymunedau hynny sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a fydd hefyd yn chwarae rhan i helpu i gynyddu cyfleoedd i weld y Gymraeg a’i defnyddio o ddydd i ddydd. Bydd y cyllid yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, a fydd yn cynnwys pwyslais ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, er mwyn iddynt allu aros yn eu cymunedau cartref neu ddychwelyd i’r cymunedau hynny.

Plant sy’n derbyn gofal

Fel rhan o gynllun radical i drawsnewid gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, rydym yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Mae’r pwyslais cychwynnol ar ddarpariaeth gofal preswyl y sector preifat i blant, ynghyd â gofal maeth y sector annibynnol.

Diwygio’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol

Ar 30 Mehefin 2022, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Ddatganiad Ysgrifenedig yn ymrwymo i ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar strwythur y flwyddyn ysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23. Cafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn sgil gwaith datblygu polisi ac ymgysylltu ehangach ag amrywiaeth o randdeiliaid. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil gymdeithasol ar ganfyddiadau ynghylch y flwyddyn ysgol bresennol lle daethpwyd i’r casgliad bod y cyhoedd yn agored i edrych ar ffyrdd gwahanol o strwythuro’r flwyddyn ysgol. Rydym wedi ymgysylltu’n helaeth ag undebau addysg ynghylch unrhyw ddiwygiadau posibl a bydd y trafodaethau hyn yn parhau.

Cynhaliwyd treialon o Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol rhwng mis Ionawr a mis Mai 2022. Roedd y treialon yn gwarantu pum awr yr wythnos o weithgarwch cyfoethogi ar gyfer dros 1,800 o ddysgwyr o 13 o ysgolion ac un coleg. Canolbwyntiodd y treialon ar y dysgwyr mwyaf difreintiedig. Cynlluniwyd y sesiynau ar sail modelau rhyngwladol ac roeddent wedi eu cydgynhyrchu â’r ysgolion a oedd yn cymryd rhan. Awgryma adborth anffurfiol fod y treialon yn fuddiol, yn enwedig o ran ymgysylltu â dysgwyr a’u cyfranogiad. Mae’r treialon hyn yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd ac mae disgwyl adroddiad terfynol yn ddiweddarach eleni.

Diwygio cymwysterau

Mae bwrdd wedi cael ei sefydlu i adolygu cymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu cynnig i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru. Sharron Lusher, a fu’n bennaeth Coleg Sir Benfro ac yn gadeirydd Colegau Cymru, fydd yn cadeirio’r bwrdd. Dechreuodd yr adolygiad ym mis Gorffennaf 2022 a bydd yn ystyried y camau sydd eu hangen i ehangu’n sylweddol yr amrediad o gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu ‘gwneud yng Nghymru’, er mwyn cyd-fynd ag anghenion dysgwyr a’r economi yng Nghymru.

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 wedi ei phasio yn gyfraith.

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno gweledigaeth newydd ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 ac yn creu stiward cenedlaethol newydd ar gyfer addysg ôl-16 i ehangu dysgu gydol oes a chanolbwyntio ar les dysgwyr, ac i gefnogi ein colegau a’n prifysgolion. Am y tro cyntaf yn hanes Cymru, byddai pob elfen o addysg ôl-16 – gan gynnwys colegau, prifysgolion, addysg oedolion, prentisiaethau a chweched dosbarth – yn dod o dan yr un corff.

Bydd y Comisiwn yn monitro, yn cofrestru ac yn rheoleiddio darparwyr, ac yn gosod y safonau sy’n ddisgwyliedig yn y sector – gan gynnwys o safbwynt darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Gan ystyried y system yn ei chyfanrwydd, bydd y Comisiwn yn cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hoes gyda’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Bydd yn helpu i sicrhau sefydliadau annibynnol ac amrywiol a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at les a ffyniant cenedlaethol.

Strategaeth arloesi Cymru

Rydym wedi lansio ymgynghoriad ar Strategaeth Arloesi Cymru – strategaeth newydd sy’n seiliedig ar genhadaeth ac a fydd yn cael ei rhoi ar waith ym mhob rhan o’r llywodraeth. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Medi a derbyniwyd dros 150 o gyflwyniadau ysgrifenedig.

Rhaglen bolisi: Creu Cymru unedig, sy’n decach i bawb

Wrth inni adfer o’r pandemig, rydym yn benderfynol y bydd pawb yn rhannu cyfleoedd y dyfodol, lle bynnag y maent yn byw, fel nad oes neb yn cael eu dal yn ôl na’u gadael ar ôl. Rydym am weld Cymru lle y mae pawb yn cael eu parchu ac amrywiaeth yn cael ei dathlu. O ystyried y perygl y bydd yr anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes yn ymwreiddio o ganlyniad i’r argyfwng costau byw digynsail hwn, gyda mwy o bobl eto yn syrthio i dlodi, rhaid inni gynyddu ein hymdrechion. Bydd Cymru yn parhau i roi croeso cynnes i bawb. Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi dangos yn union pa mor gynnes yw’r croeso hwnnw wrth i filoedd o bobl geisio lloches a diogelwch yma.

Strategaeth Ddiwylliant

Rydym wedi cytuno ar gwmpas a chyfeiriad ein Strategaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar ddiwylliant a’r celfyddydau, gan adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ei hiaith Gymraeg sy’n ffynnu a’n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd yn adeiladu ar yr ymrwymiadau ar y cyd sydd wedi eu nodi eisoes yn y Rhaglen Lywodraethu ar ei newydd wedd ac yn ceisio sicrhau bod diwylliant yn chwarae cymaint o ran â phosibl i helpu i gyflawni’r ymrwymiadau hynny ar draws y llywodraeth.

Bydd y Strategaeth yn cael ei datblygu drwy ymgynghori’n helaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru. Rydym wedi lansio gwahoddiad i dendro ar GwerthwchiGymru ar gyfer bod yn bartner arweiniol i weithio gyda ni er mwyn bwrw ati â’r trefniadau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac i gyflwyno’r Strategaeth.

Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol

Mae’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn cael ei datblygu gan grŵp llywio sy’n cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Safonau’r Gymraeg

Ym mis Mehefin, pasiodd y Senedd Safonau’r Gymraeg newydd i gyflwyno safonau ar gyfer naw corff y DU sy’n darparu gwasanaethau yn y sector iechyd – wyth corff rheoleiddio proffesiynol a’r Awdurdod Safonau Proffesiynol. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn awr yn gallu gosod safonau ar y cyrff a fydd yn rhoi hawliau i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Ers mis Medi, mae pobl ifanc o 18 i 25 oed wedi cael mynediad at gyrsiau Cymraeg am ddim gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd adnodd e-ddysgu newydd, a ddarperir gan Say Something in Welsh, yn cael ei dreialu ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed mewn ysgolion, colegau neu fel rhan o gynllun prentisiaeth, i wella eu sgiliau Cymraeg llafar.

Rhwydwaith Seren

Yn yr haf, cymerodd disgyblion blwyddyn 11 ran mewn ysgol haf breswyl ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel rhan o raglen beilot i ehangu’r partneriaethau ysgol haf sydd ar waith eisoes a sefydlu cynlluniau peilot newydd mewn sefydliadau yng Nghymru.

Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol

Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei lansio ym mis Mehefin. Gan dynnu ar brofiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol o hiliaeth, ac anghydraddoldeb hil, mae’n nodi cyfres o gamau gweithredu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae’r cynllun yn mabwysiadu dull gwrth-hiliol sy’n golygu edrych ar y ffyrdd y mae hiliaeth yn cael ei hymgorffori yn ein polisïau, rheolau a rheoliadau ffurfiol ac anffurfiol, ac yn y ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithio. Mae’n canolbwyntio ar y ffyrdd y mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel eu profiad o hiliaeth mewn bywyd bob dydd, wrth i wasanaethau gael eu darparu, fel rhan o’r gweithlu a diffyg modelau rôl gweladwy mewn swyddi o bŵer.

Mae’r Cynllun yn cynnwys pennod am droseddu a chyfiawnder sy’n amlinellu’r camau yr ydym yn eu cymryd i wella canlyniadau yn y maes hwn, yn ogystal â’r camau ar y cyd yr ydym yn eu cymryd gyda phartneriaid Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru sy’n cynnwys Plismona yng Nghymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, a’u herio mewn ffordd adeiladol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddileu hiliaeth a chanlyniadau anghymesur o’r system gyfiawnder yng Nghymru.

Hanes Cymru

Mae ein Cytundeb yn pwysleisio ei bod yn bwysig bod hanes cymhleth ac amrywiol Cymru yn orfodol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Er mwyn cryfhau yr ymrwymiad hwn a rennir ymhellach, ac er mwyn sicrhau mwy o eglurder i ysgolion a lleoliadau, rydym yn cynnig y dylid diweddaru’r Cod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig er mwyn cyfeirio’n benodol at ‘hanes Cymru a’r byd’. Rydym wedi lansio ymgynghoriad ar y newid arfaethedig. Os cytunir, bydd y diweddariad hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn adrannau perthnasol o ganllawiau Maes y Dyniaethau. I gefnogi’r gofyniad hwn, ac yn unol â’r Cytundeb, byddwn hefyd yn comisiynu datblygu llinell amser o hanes Cymru a bydd diweddariadau pellach yn dilyn maes o law.

Casgliad

Fel yr amlygir yn y rhagair, mae’r Cytundeb Cydweithio yn rhaglen uchelgeisiol, dair blynedd o ymrwymiadau. Mae gwaith sylweddol yn parhau ar ddatblygu’r polisi ar gyfer yr holl ymrwymiadau fel y gellir eu gweithredu erbyn diwedd 2024. Bydd cyhoeddiadau pellach yn dilyn yn ystod 2023.