Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaethau achos

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos y dulliau a argymhellir yn Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Integreiddio Mudwyr. Mae astudiaethau achos yn cael eu cyfrannu gan drydydd partïon.

Mae’r astudiaethau achos hyn yn dangos sut y gall integreiddio mudwyr gael ei gefnogi gan weithredu ar y cyd o dan bob parth.

Parth 1: gweithle

Astudiaeth achos: IKEA a Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth

Mae IKEA wedi bod yn datblygu cyfleoedd i integreiddio ffoaduriaid i’r gweithlu. Mae’r rhaglen Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth UPPNÅ yn gweithio mewn partneriaeth gref â Chanolfannau Cynghorau Ffoaduriaid ledled y DU ac yn Iwerddon i gynnig cymorth, cyngor a lle i ffoaduriaid ddod at ei gilydd yn y gymuned leol.

O Syria i Wcráin, mae IKEA wedi dod o hyd i ffyrdd o ddod â ffoaduriaid i gyflogaeth. Drwy’r rhaglenni gwella sgiliau a gwaith hyn sy’n canolbwyntio ar ffoaduriaid, gall y rheini sy’n chwilio am gymorth gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys ysgrifennu CV, cymorth i wneud cais am swydd, technegau cyfweld a hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid, yn ogystal â chyflwyniad i ddiwylliant a gwerthoedd IKEA, a deall marchnad lafur Cymru a’r DU.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae IKEA Caerdydd wedi darparu cynnyrch a chymorth o’r siop i drawsnewid Canolfan Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Treuliodd tîm o fwy na 30 o gydweithwyr IKEA bythefnos yn uwchraddio’r gofod, gyda’r dderbynfa, ystafelloedd cwnsela, cegin fach, swyddfeydd a thoiledau i gyd yn cael gweddnewidiad.

Mae hyn i gyd wedi trawsnewid bywydau pobl sy’n dechrau gweithio gan greu bywyd newydd ar yr un pryd â rhoi’n ôl i'r gymdeithas, ac mae’n dod â chenhadaeth IKEA yn fyw drwy gefnogi bywyd bob dydd gwell i lawer o bobl.  

Astudiaeth Achos: Y Prosiect Sicrhau Newid drwy Gyflogaeth (ACE)

Daeth Sofia (newidwyd ei henw) i’r DU o Fwlgaria ac ymunodd â phrosiect ACE ym mis Hydref 2018.  Yn rhan o’i swydd ym Mwlgaria, roedd wedi bod yn gweithio fel Peiriannydd Cynorthwyol ac roedd hi hefyd wedi gweithio ym maes manwerthu a gweinyddu swyddfeydd.

A hithau’n dod i’r DU, roedd hi’n cael trafferth gyda sgiliau iaith a hyd yma nid oedd hi wedi gallu cael swydd oherwydd ei chyfrifoldebau gofal plant. Roedd ganddi ddiddordeb mewn gwaith gofal ond roedd yn poeni y byddai ei lefel isel o Saesneg a diffyg cymwysterau yn y maes hwn yn broblem.

Roedd angen iddi wella ei sgiliau Saesneg ac ymarfer ei sgiliau ymgeisio am swydd a chyfweld, felly gwnaethom gefnogi Sofia i gael lle ar gwrs iaith Saesneg (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)) a mynychu gweithdy ar ymgeisio am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Wrth iddi weithio ar ennill ei chymhwyster Iaith Saesneg lefel 2, daeth ei Swyddog Achos ACE i’w hadnabod yn well a chanfod ei bod hefyd yn meddu ar sgiliau gwnïo uwch.

Roedd ychwanegu hyn at ei CV, ynghyd â’i chymhwyster Saesneg newydd, yn golygu bod Sofia yn cael ei chyflogi’n fuan gan wneuthurwr tecstilau blaenllaw yn y DU fel peiriannwr parhaol llawnamser.

Rhagor o wybodaeth am Sicrhau Newid trwy Gyflogaeth.

Astudiaeth Achos: Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru, Alltudion ar Waith

Gall fod yn anodd, yn gostus ac yn rhwystredig iawn i ffoaduriaid integreiddio i system feddygol y DU. Yn 2002, sefydlodd Deoniaeth Cymru (Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) erbyn hyn) Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (WARD). Gan weithio mewn partneriaeth ag Alltudion ar Waith (DPIA), mae'r rhaglen yn gweithio gyda grwpiau o tua 12 meddyg ar y tro, ac yn cynnig dosbarthiadau iaith wedi'u cyd-destunoli'n feddygol, cyrsiau ail-ddilysu, swyddi hyfforddi, ac adnoddau fel cyfnodolion meddygol ac offer.

Nod y prosiect yw helpu cyfranogwyr i gyrraedd y safonau sy’n ofynnol i ymuno â’r farchnad lafur, gan gynnwys eu helpu i basio (a thalu costau) y System Profi Saesneg Ryngwladol (IELTS) neu’r Prawf Saesneg Galwedigaethol (OET) a’r Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB1 a PLAB2), archwiliadau sy’n ofynnol i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a dod yn aelodau cwbl gofrestredig o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a gweithwyr cyfwerth ym maes nyrsio deintyddol.

Mae’r prosiect bellach wedi cefnogi dros 200 o feddygon, ac mae’n cael ei ystyried yn rhaglen enghreifftiol ar gyfer harneisio sgiliau ceiswyr lloches sy’n byw yng Nghymru. Hyd yn oed gyda’r lefel hon o gefnogaeth, gall gymryd blynyddoedd i ffoaduriaid basio arholiadau IELTS neu OET a PLAB ac mae llawer yn dibynnu ar sgiliau, ymrwymiad, cymhelliant a pharodrwydd unigolion.

Addaswyd o AaGIC (2018) a chyfweliadau.

Parth 2: Tai

Astudiaeth achos: Cymorth digartrefedd Cyngor Caerdydd i fudwyr

Cymorth digartrefedd i ymfudwyr gan Gyngor Caerdydd Defnyddiodd Cyngor Caerdydd gyllid ychwanegol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o leihau digartrefedd ymysg ymfudwyr, i ddarparu hyfforddiant, cyngor a chymorth ychwanegol i ymfudwyr. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • rhoi hyfforddiant i 40 o aelodau staff tai a digartrefedd ar ymwybyddiaeth o ddewisiadau, hawliau, cymhwysedd a chyfrifoldebau ymfudwyr, er mwyn gwella’r cyngor a roddir a’r atgyfeiriadau a wneir i gymorth priodol
  • mae 29 o gleientiaid ychwanegol wedi cael cyngor a chymorth i atal digartrefedd a 30 o gleientiaid eraill wedi cael cymorth a chefnogaeth gyda digartrefedd, gan gynnwys dod o hyd i lety yn y sector rhentu preifat, cymorth gyda bondiau a rhent ymlaen llaw
  • diweddarwyd gwefan y Cyngor a chrëwyd taflenni gyda chyngor ar ddewisiadau tai i ymfudwyr
  • helpwyd 109 o unigolion i gael gafael ar gyflogaeth. O’r rhain, cafwyd gwaith i 23 a rhoddwyd cymorth i 86 fod yn fwy parod am waith. Cyfeiriwyd unigolion at waith a hyfforddiant (lle bo hynny’n briodol). Rhoddwyd cymorth gyda chwilio am waith, dewisiadau hyfforddi a pharatoi am gyfweliadau, yn ogystal â chreu CV
  • sefydlwyd system fonitro i helpu pennu a monitro lefel yr angen ymysg ymfudwyr sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae strategaethau hefyd wedi’u hadolygu i gynnwys amcanion sy’n berthnasol i atal digartrefedd ymysg ymfudwyr

Astudiaeth achos: tŷ Cyfle Cyngor Caerdydd

Mae Tŷ Cyfle Cyngor Caerdydd yn brosiect a ariennir gan grant atal digartrefedd Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i anelu at Wladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sy’n ddigartref o ganlyniad i fynediad cyfyngedig i gyllid cyhoeddus. Rhaid i Wladolion yr AEE gyrraedd trothwy incwm penodol er mwyn bod yn gymwys am Fudd-dal Tai/ Elfen Dai, ac maent yn aml yn colli eu llety o ganlyniad i golli eu gwaith.

Mae’n anodd iawn dod o hyd i waith tra’n cysgu allan ac yn anodd iawn dod o hyd i lety tra’n ddi-waith, sy’n golygu bod nifer o bobl yn gaeth i gylch o ddigartrefedd. Amlygwyd y gallai nifer o wladolion yr AEE, gyda chymorth a llety sefydlog, ddychwelyd i waith neu ddod o hyd i waith o’r newydd a rheoli tenantiaeth rhentu preifat, a thrwy hynny gael y cyfle i roi digartrefedd y tu ôl iddynt. Nod Tŷ Cyfle yw cynnig llety diogel sydd o ansawdd dda i Wladolion yr AEE sy’n cysgu allan neu mewn llety digartref brys, sydd heb hawl cyrchu cronfeydd cyhoeddus, yn ogystal â chynnig cymorth dwys i gael gwared ag unrhyw rwystrau hirdymor i gyflogaeth a thai. Mae’r prosiect wedi sicrhau dau eiddo Tai Amlfeddiannaeth ar les gyda chyfanswm o un ar ddeg o leoedd, sy’n cynnig hyd at chwe mis o gymorth wedi’i addasu i bob preswylydd.

Parth 3: iechyd a gofal cymdeithasol

Astudiaeth achos: Iaith fel rhwystr i ofal iechyd da

Dywedodd un fenyw wrthym am golli ei mam yng nghyfraith chwe mis yn ôl. Teimlai fod ansawdd gofal ei mam yng nghyfraith yn dda iawn, ond roedd wedi sylwi ei bod hi ei hun angen cymorth. Pan aeth ei mam yng nghyfraith yn sâl ac angen gofal diwedd oes, roedd pobl yn gofalu amdani, ond roedd hyn yn llethol ac yn achosi straen a dechreuodd ddatblygu gorbryder. Bu’n rhaid iddi gymryd absenoldeb salwch. Yn y diwedd, gadawodd ei swydd a daeth yn ofalwr llawn-amser. Dywedodd, “Roedd hi’n anodd iawn gofalu amdani hi.” Er ei bod wedi cael rhywfaint o ofal a chymorth gan wasanaethau lleol, mewn gwirionedd roedd hi’n darparu gofal 24/7.

Un o’r rhesymau dros hynny oedd y rhwystr iaith rhwng ei mam yng nghyfraith a’r gweithwyr gofal, nad oedd yn gallu siarad Pwnjabeg, felly roedd rhaid iddi fod yn gyfieithydd. Teimlai fod “rhaid iddi fod yno drwy’r amser i esbonio pethau i’r staff a’r rheolwyr. Roedd mor gyfnod cythryblus i mi a’m teulu”. Pan ddechreuodd yr hosbis leol gymryd rhan, llwyddodd i gael ei mam yng nghyfraith yn rhan o gynllun seibiant am ychydig wythnosau.

Fe wnaethon nhw hefyd ddarparu hyfforddiant mewn dementia iddi, felly roedd hi’n gallu ymdopi’n well â gofalu am ei mam yng nghyfraith. Dywedodd wrthym ei bod yn ddiolchgar iawn i’r hosbis am eu cymorth a’u cefnogaeth, a dywedodd, “Rydyn ni’n dal mewn cysylltiad â’r hosbis ac wedi codi rhywfaint o arian iddyn nhw.”

Cyfweliad y Sefydliad Cydraddoldeb Hiliol.

Astudiaeth achos: ffocws ar iechyd a llesiant

Mae pob ceisiwr lloches a ffoadur yng Nghymru yn gallu cofrestru gyda meddyg teulu a chael mynediad at wasanaethau iechyd prif ffrwd, ac mae hyn yn cynnwys sgrinio iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ceiswyr lloches sy’n cael eu gwrthod hefyd yn gallu cael gafael ar ofal iechyd am ddim yng Nghymru. Dylid darparu cymorth iechyd i’r rheini sy’n cyrraedd Cymru yn unol â Chanllawiau 2018 Llywodraeth Cymru ar gyfer Byrddau Iechyd ar Iechyd a Llesiant Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid.

Mae Gwefan Noddfa yn cynnwys adran benodol ar iechyd a llesiant sy’n cynnwys gwybodaeth am gofrestru â gwasanaethau iechyd, cael cymorth meddygol, iechyd meddwl a llesiant, iechyd mamolaeth ac atgenhedlu, a Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu “Cerdyn Meddyg Teulu” y GIG ar gyfer ceiswyr lloches a grwpiau eraill sy’n agored i niwed i gefnogi cofrestru gyda meddygon teulu. Mae’r Cerdyn Meddyg Teulu yn rhoi sicrwydd y gall pobl gael triniaeth y GIG gan gynnwys presgripsiynau (a brechiadau Covid) heb gyfeiriad neu ddogfen adnabod sefydlog. Mae’r Cerdyn Meddyg Teulu yn nodi’n benodol: “Rydw i yma i gofrestru gyda meddyg teulu. Mae gen i hawl i gofrestru a chael triniaeth gan bractis meddyg teulu. Gall unrhyw un yng Nghymru gofrestru gyda meddyg teulu i gael triniaeth. Nid oes angen cyfeiriad sefydlog na dogfen adnabod arnaf. Gall unrhyw un yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu gael presgripsiynau am ddim. Mae gen i hawl i ofyn a chael cyfieithydd ar y pryd gan ddarparwyr gofal iechyd yn rhad ac am ddim.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Straen Trawmatig Cymru sydd â’r nod o wella iechyd a llesiant pobl o bob oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn perygl o ddatblygu neu’n delio gydag anhwylder straen wedi trawma (PTSD) neu anhwylder straen wedi trawma cymhleth (CPTSD).  Mae Straen Trawmatig Cymru yn gweithio gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol, yn ogystal â chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, i wella mynediad at therapïau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig. Mae menter Straen Trawmatig Cymru yn cynnwys ffrwd waith benodol ar bobl sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei ddatblygu i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl o ansawdd uchel ar gyfer pobl sydd wedi’u gorfodi i fudo ac sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig.

Er mwyn cefnogi iechyd a llesiant y rheini o Wcráin – mae Llywodraeth Cymru wedi cyfieithu deunyddiau i Wcreineg a Rwsia i gefnogi iechyd meddwl y rheini sy’n cyrraedd o Wcráin a’r sefydlogi cychwynnol. Cyhoeddwyd y rhain ar wefan Straen Trawmatig Cymru. Mae’r deunyddiau sefydlogi yn cynnwys Pecyn Cymorth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hamlygu i ddigwyddiadau trawmatig, a gwybodaeth am Linell Gymorth Iechyd Meddwl CALL. Mae’r Hwb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyfieithu deunyddiau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant, ynghyd â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae Straen Trawmatig Cymru wedi gweithio gyda’r Byrddau Iechyd a’r Canolfannau Croeso i hyrwyddo’r deunyddiau ategol, sy’n canolbwyntio ar sefydlogi cychwynnol a defnyddio dull sy’n seiliedig ar drawma i ddarparu cymorth.

Yma yng Nghymru, mae Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn nodi’r dull gweithredu ar gyfer datblygu a gweithredu ymarfer sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rheini sydd ei angen fwyaf. Mae’r Fframwaith yn sefydlu sut mae unigolion, teuluoedd/ rhwydweithiau cymorth eraill, cymunedau, sefydliadau a systemau yn ystyried trallod a thrawma, gan gydnabod a chefnogi cryfderau unigolyn i oresgyn y profiad hwn yn ei fywyd. Mae hefyd yn nodi’r cymorth y gallant ddisgwyl ei chael gan y sefydliadau, y sectorau a’r systemau y gallant droi atynt am gymorth. Mae’n cynnwys pobl o bob oed, o fabanod, plant a phobl ifanc hyd at oedolion hŷn.

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL ar gyfer Cymru yn llinell gynghori a gwrando gymunedol sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd. Gall unrhyw un sy'n pryderu am eu hiechyd meddwl eu hunain neu iechyd meddwl perthynas neu ffrindiau gael mynediad i'r llinell gymorth, sy'n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.  Ffoniwch 0800 132737 am ddim neu anfon neges destun i 81066 i gael cymorth emosiynol yn ogystal â gwybodaeth a llenyddiaeth am iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL yn gallu defnyddio Llinell Iaith i sicrhau bod cymorth ar gael i unrhyw un nad yw eu dewis iaith yn Saesneg neu Gymraeg.

Parth 4: cysylltiadau cymdeithasol

Astudiaeth achos: Oasis

Mae’r tîm gwirfoddol yn Oasis yn bennaf yn trefnu ac yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i hyrwyddo integreiddio, yn amrywio o glybiau bwyd i dripiau, digwyddiadau chwaraeon, garddio a hyfforddiant iaith (ESOL). Mae’r gweithgareddau hyn yn dod â phobl at ei gilydd ac yn cynnig cyfleoedd hanfodol i ddatblygu rhuglder ieithyddol. Mae’n rhan o’r ddarpariaeth ESOL anffurfiol lle cyflogir y nifer fwyaf o’u gwirfoddolwyr. Sefydlwyd dosbarthiadau ESOL Oasis yn wreiddiol i ddarparu mannau dysgu iaith i geiswyr lloches newydd eu cyrraedd a oedd yn wynebu’r posibilrwydd o dreulio misoedd ar restr aros cyn dechrau dosbarthiadau ESOL ffurfiol. Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl dechrau yn y coleg, mae llawer o fyfyrwyr yn parhau i ddefnyddio’r ddarpariaeth Oasis i ‘ychwanegu at’ eu dosbarthiadau ffurfiol a thrwy gael mwy o gyfleoedd i ymarfer yn ystod cyfnodau gwyliau.  Er mai dim ond un gweithiwr ESOL llawn-amser a gyflogir yn Oasis, erbyn hyn mae oddeutu 30 o athrawon gwirfoddol yn darparu addysg iaith anffurfiol ar Heol Sblot ac ar-lein.

Bob wythnos, mae dros 300 o lefydd wedi’u llenwi mewn dosbarthiadau gyda dysgwyr newydd yn cyrraedd bob dydd. Cynigir dosbarthiadau galw heibio Cymraeg bob wythnos hefyd, ac fe’u darperir gan athrawon gwirfoddol cymwysedig sy’n siarad Cymraeg. Mae’r ddarpariaeth anffurfiol hon yn darparu sgaffaldiau ieithyddol, seicolegol ac emosiynol hanfodol ar gyfer y ceiswyr lloches sydd newydd gyrraedd, gan eu galluogi i ddechrau dysgu iaith, gwneud ffrindiau a chael gafael ar gymorth cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd, wrth i’r teimladau canlynol gan ddysgwyr a gymerodd ran yn y fforymau ar-lein ddatgelu:

 “Mae Oasis yn ein helpu i roi’r gorau i deimlo’n unig”.

 “Mae Oasis yn darparu cyfeillgarwch a rhywle i gyfarfod. Rwy’n dod am y gwersi Saesneg ond hefyd am y cyfeillgarwch, ac i wneud cysylltiadau cymdeithasol a chael hwyl.”

 “Heb Oasis, byddai wal rhyngof i a’r wlad”.

Astudiaeth achos: Ailddychmygu CANFYDDIADAU mewn sain, cerddoriaeth a chyfryngau sonig: sgyrsiau ar draws ffiniau

Mewn cydweithrediad arloesol, ymunodd mudwyr sy’n gerddorion yng Nghymru a’r Eidal â’i gilydd i ddefnyddio iaith sain, cerddoriaeth ac emosiynau i ail-lunio'r canfyddiadau a'r naratifau am fudwyr. Datblygodd y daith mewn tair brawddeg, gan ddangos effaith ddwys cerddoriaeth wrth feithrin deialog traws-ddiwylliannol a chwalu stereoteipiau:

Technegau a gweithredu
1. Cipio Syniadau a Cherddoriaeth wedi’i recordio ymlaen llaw:

Roedd cerddorion sy’n fudwyr yn ymgysylltu â themâu ffydd, gwelededd/anweledigrwydd, Dryswch, Colled, a Gobaith. Archwiliwyd nodweddion sonig teithiau mudwyr, gan gofnodi’r amwyseddau a’r canfyddiadau unigryw o’r lleoedd a groeswyd. Mae cerddorion wedi trosi’r myfyrdodau hyn yn recordiadau cerddoriaeth, fideos syml a naratifau testunol sy’n disgrifio cysylltiadau a dehongliadau atgofus o’r themâu uchod.

2. Gwneud Cerddoriaeth Gyfranogol a Byrfyfyrio

Daeth digwyddiad cerddoriaeth fyw yn Hwb Theatr y Grand Abertawe yn llwyfan i gerddorion sy’n fudwyr arwain y digwyddiad. Roedd caneuon a recordiwyd ymlaen llaw gan gerddorion Eidalaidd wedi sbarduno ymatebion sonig gan berfformwyr o Gymru a’r gynulleidfa, gan annog “dialog”, byrfyfyrio cerddoriaeth ar draws ffiniau ac ail-wneud canfyddiadau mudwyr ar wahanol raddfeydd daearyddol.

3. Cipio a Rhannu Fideos

Roedd recordiadau fideo yn cofnodi’r agwedd emosiynol ar deithiau mudwyr. Roedd y recordiadau hyn yn cyfleu amwysedd ac acwsteg lleoedd a gafodd eu croesi gan fudwyr, gan gyflwyno dehongliadau sonig amgen o ganfyddiadau a naratifau yn Ewrop y tu hwnt i ystyron a fynegir ar lafar.

Gall natur gydweithredol y broses o greu cerddoriaeth helpu mudwyr i gyflawni nodau cymdeithasol penodol sy’n ymwneud â chynhwysiant, grymuso, cydnabod a chynnwys y gymuned. Mae'r dull hwn yn cynnig llwyfan creadigol i fewnfudwyr ailddiffinio naratifau a chyfrannu at ddeialog ehangach ar fudo a hunaniaeth ddiwylliannol.

Rhagor o wybodaeth am GANFYDDIADAU.

Parth 5: addysg a sgiliau

Astudiaeth achos: Croeso i bawb

Fel rhan o’i chenhadaeth i groesawu pobl o bob cefndir i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg, mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol brosiect ‘Croeso i Bawb’ i addysgu’r Gymraeg i bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, gan gynnwys ffoaduriaid a siaradwyr lloches.  Mewn ymgynghoriad ag ESOL ac arbenigwyr ac ymarferwyr Dysgu Cymraeg, cynhyrchwyd cwrs blasu Cymraeg nad yw’n defnyddio unrhyw Saesneg.

Mae’r cwrs yn cynnwys traciau sain a chardiau fflach. Roedd y cwrs yn cael ei dreialu pan cafodd y cyfnod clo cyntaf ei roi ar waith ac mae darparwyr Dysgu Cymraeg bellach yn cynllunio darpariaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.  Mae’r Ganolfan Genedlaethol wedi gwneud dau beth i hwyluso’r cyrsiau hyn: mabwysiadu polisi lle mae pob cwrs blasu Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim a sefydlu grant i’n darparwyr gynnal cyrsiau blasu ‘Croeso i Bawb’. Mae’r cyllid grant hwn yn ychwanegol at y cyllid craidd ar gyfer gwasanaethau eraill ar gyfer Dysgu Cymraeg.  Roeddent yn cydnabod bod darparwyr ESOL (nad ydynt yn rhan o’r Ganolfan Genedlaethol) mewn sefyllfa ardderchog i ddenu dysgwyr i gyrsiau ‘Croeso i Bawb’. Felly, fel rhan o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Dysgu Oedolion Cymru, maent yn darparu cyrsiau Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

Hyd yma, cynhaliwyd pedwar cwrs: 43 yn rhithiol ac un wyneb yn wyneb. Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae aelod o staff Dysgu Cymraeg yn ymweld â sesiwn olaf y cyrsiau hyn i drafod cynnydd.  Yn dilyn grant gan Lywodraeth Cymru, mae tair elfen newydd o’r prosiect yn cael eu datblygu:  Bydd y cwrs blasu ar gael fel cwrs hunan-astudio ar-lein yn dysgucymraeg.cymru; bydd unedau ar Gymru a’r Gymraeg ar gael mewn pum iaith ar dysgucymraeg.cymru: Bydd cyrsiau Cantoneg, Arabeg Syriaidd, Ffarsi, Pashto a Wcreineg; mae SSIW (Say Something in Welsh) ar gael mewn Pashto, Dari ac Arabeg.  Bydd y Ganolfan Genedlaethol yn parhau i ddatblygu adnoddau a darpariaeth ‘Croeso i Bawb’. Bydd hyn yn cynnwys ymgyrch farchnata bwrpasol a digwyddiad i lansio elfennau newydd y prosiect.

Astudiaeth achos: Addysg Iaith a Chroeso Cynnes Cymreig, Oasis Caerdydd

Beth yw'r ffordd orau o ddysgu iaith i newydd-ddyfodiaid yng Nghymru? A beth yw’r ffordd orau o gefnogi athrawon i weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a allai fod yn dysgu iaith wrth ddioddef trawma a mynd i’r afael â’r llu o heriau sy’n gysylltiedig ag adsefydlu mewn gwlad newydd? Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwestiynau hyn yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd drwy brosiect Cwricwlwm Dinasyddion, partneriaeth rhwng y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Oasis, Prifysgol De Cymru, ac Addysg Oedolion Cymru.

Oasis yw’r ganolfan fwyaf yng Nghymru sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’i nod yw darparu ‘Croeso Cynnes Cymreig’ i bawb sy’n ceisio lloches. Un o’r ffyrdd maen nhw’n gwneud hyn yw drwy gynnig dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) am ddim bum diwrnod yr wythnos. Cyflwynir y dosbarthiadau gan dîm o tua 50 o athrawon gwirfoddol a chynorthwywyr addysgu, rhai ohonynt â chefndir proffesiynol mewn addysg ac eraill heb gefndir proffesiynol. Mae hyd yn oed y rheini sydd â chymwysterau dysgu iaith yn aml yn ei chael yn anodd gweithio gyda dysgwyr sy’n ceisio lloches, gan fod eu hanghenion mor uniongyrchol a chymhleth; yn ogystal â delio â straen wedi trawma, efallai y bydd dysgwyr yn ei chael yn anodd cyflawni tasgau sylfaenol hyd yn oed, fel gweld meddyg oherwydd rhwystrau iaith, ac mae gan gyfran sylweddol anghenion llythrennedd oherwydd addysg wedi’i darfu. O ystyried hynny, maent wedi gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i gynllunio cwrs o addysg athrawon sy’n canolbwyntio ar ddulliau ystafell ddosbarth a allai fod yn arbennig o effeithiol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

I lawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, dosbarthiadau ESOL yw eu prif ofod cymdeithasol, gan roi ymdeimlad o strwythur i’w bywydau a chynnig cefnogaeth ieithyddol a seicolegol. Mae athrawon yn aml yn cael eu gweld fel pont ddynol, hanfodol i'r gymdeithas newydd, ac maent mewn sefyllfa unigryw i gefnogi integreiddio llwyddiannus. Am y rhesymau hyn, mae llawer o addysgwyr bellach yn dadlau dros ddull cyfranogol yn yr ystafell ddosbarth ESOL, un lle mae gofod yn cael ei greu i ddysgwyr drafod a mynd i’r afael â’r materion sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw, fel sioc ddiwylliannol, pryderon ariannol, neu ddod o hyd i lety addas. Nid pwnc academaidd arall yn unig yw ESOL, ac nid yw maes llafur a osodir yn allanol bob amser yn caniatáu i ddysgwyr gaffael yr iaith sydd ei hangen arnynt ar gyfer eu bywydau go iawn. Heb ei gyfyngu gan feysydd llafur neu gyfundrefnau asesu, mae mudiadau trydydd sector fel Oasis yn gallu cynnig dosbarthiadau mwy cyfranogol – cyn belled â bod athrawon yn cael eu cefnogi i’w darparu nhw.

Cyflwynodd Oasis a Phrifysgol De Cymru y cwrs hyfforddi athrawon, o'r enw Dulliau Creadigol a Chyfranogol o Addysg Iaith, dros ddeg wythnos rhwng mis Chwefror a mis Mai 2023. Roedd deg o gyfranogwyr – pum athro gwirfoddol o Oasis a phum athro cyflogedig o Dysgu Oedolion Cymru – yn bresennol am dair awr yr wythnos ac yn gwneud gwaith ymchwil gweithredol yn eu hystafelloedd dosbarth rhwng sesiynau. Cafodd y cyfranogwyr gyfle helaeth i drafod eu hymchwil unigol a dysgu gan eu cyfoedion, yn ogystal â chael mewnbwn mwy traddodiadol gan ymarferwyr ESOL profiadol. Roedd hyn yn ymddangos yn ddull effeithiol, fel y dengys eu hadborth:

“Rwy’n hoff iawn o deimlo’n rhan o gymuned [o athrawon].”

“Roedd yn teimlo fel tro sydyn go iawn, rydyn ni'n gwneud pethau y mae modd eu hintegreiddio'n uniongyrchol a'u cymhwyso i'm haddysgu.”

“Mae fy ngwersi’n fwy pleserus, hwyliog a defnyddiol. Rwy’n cysylltu â dysgwyr mewn ffordd ddilys, gan fanteisio ar yr iaith sydd fwyaf gwerthfawr iddyn nhw.”

“Mae’r cwrs wedi fy ngwneud i’n llawer mwy dewr – mae’n fwy caniataol mewn ffordd. Dydw i ddim yn gwybod pam roeddwn i’n meddwl bod angen caniatâd arna i, ond roeddwn i’n teimlo’n ddihyder iawn pan ddechreuais i.”

“Fe wnaeth i mi edrych ar ESOL mewn ffordd gwbl newydd.”

“Mae’r cwrs wedi bod yn agoriad llygad.”

Astudiaeth achos: Rhaglenni iaith y Brifysgol, Prifysgol De Cymru

Mae prifysgolion mewn sefyllfa unigryw mewn cymdeithas i ddod â phobl o Gymru neu'r DU ynghyd â phobl o gefndiroedd amrywiol. Mae hwyluso mynediad i brifysgol yn caniatáu i fudwyr ddatblygu'r sgiliau a'r galluoedd i wireddu eu potensial, cyflawni eu huchelgais a chyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas. At hynny, mae cael gwared ar y rhwystrau i astudio addysg uwch yn golygu bod cyfeillgarwch a dealltwriaeth yn cael y cyfle i ddatblygu.

 Wrth gydnabod y cyfle hwn i hyrwyddo integreiddio a llesiant pobl sydd wedi’u gorfodi i fudo yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o brifysgolion wedi lansio cynlluniau noddfa.  Yn ogystal â hyn, mae nifer o sefydliadau hefyd yn darparu lleoedd am ddim i ffoaduriaid ar gyrsiau paratoi iaith ar gyfer y brifysgol. Iaith yw’r prif rwystr i gael mynediad at addysg uwch ac felly i ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a dyheadau mudwyr yng Nghymru.

Er enghraifft, ers 2017, mae un ar bymtheg o fudwyr sydd â statws ffoadur wedi cwblhau cyrsiau iaith cyn-sesiynol a ddarparwyd gan Brifysgol Abertawe ac felly wedi gallu dechrau cyrsiau israddedig neu ôl-raddedig. Ym Mhrifysgol De Cymru, mae pedwar ar hugain o bobl o gefndir pobl sydd wedi’u gorfodi i fudo wedi cwblhau cyrsiau o’r fath cyn y brifysgol ac, o ganlyniad, wedi dechrau ar ddyfarniadau addysg uwch.

Mae myfyrdodau gan fudwyr sydd wedi cael y cyfleoedd hyn yn dangos pwysigrwydd cynlluniau o’r fath sy’n newid bywydau:

“Mae mor bwysig i gyflwr eich meddwl. Pan fyddwch yn mynd i'r Brifysgol, rydych yn gweld pobl, yn siarad â'ch tiwtoriaid, yn siarad yn y dosbarth, yn sgwrsio â'ch cyd-fyfyrwyr, ac ati. Mae’n rhoi’r teimlad hwnnw o berthyn i chi, mae’n gwneud i chi anghofio rhai pethau.”

“Mae cael yr ysgoloriaeth wedi gwneud i mi deimlo y byddaf yn cyflawni fy nod! Ar ôl i mi orffen y cwrs hanfodol, byddaf yn astudio Cyfrifiadureg gan gynnwys y flwyddyn sylfaen. Mae’r ysgoloriaeth hon yn rhoi cyfle i mi ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau, ac yn rhoi’r gallu i mi oroesi yn y gymdeithas rwy’n byw ynddi.”

“Fe wnes i fwynhau pob diwrnod yn y brifysgol oherwydd fy mod i’n dioddef o PTSD. Oherwydd hyn, roedd angen i mi wneud rhywbeth, roeddwn i angen rhywle i fynd i fwynhau, a gwneud ffrindiau. Roedd y Brifysgol yn lle mor ddiogel i fynd iddo."

Mae darlithwyr prifysgol yn dweud eu bod yn angerddol dros ddysgu pobl y bydd eu bywydau’n gwella’n ddramatig drwy addysg, ac i fyfyrwyr sy’n cael addysg gartref, gall dod i adnabod cyd-fyfyrwyr o gefndiroedd ffoaduriaid ddarparu profiad addysgol trawsnewidiol, fel yr eglura’r myfyriwr hwn o Gymru:

“Mae’r profiad hwn wedi rhoi profiad uniongyrchol i mi gwrdd â phobl sydd wedi cael eu gorfodi o’u gwledydd ac oddi wrth eu teuluoedd; pobl sy’n aml yn cael eu cyfleu yn y cyfryngau fel ‘problem’... mae eu gallu i gynnal eu dynoliaeth, wedi’r cyfan y maent wedi’i ddioddef, yn fy rhyfeddu. Mae fy mywyd wedi dod yn gyfoethocach gyda'r ffrindiau rydw i wedi’u gwneud.”

Parth 6: diogelwch a defydlogrwydd

Astudiaeth achos: Canolfan Cymorth Casineb Cymru

Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn wasanaeth arbenigol ar gyfer plant, oedolion, teuluoedd a chymunedau y mae troseddau a digwyddiadau casineb yn effeithio arnynt – mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan yr elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr Cymru.

Mae’r Ganolfan yn wasanaeth ymatebol, felly pan fydd y dirwedd yn newid, mae’n ceisio lleihau’r rhwystrau ymhellach. Pan ddechreuodd y gwrthdaro yn Wcráin ac roedd yn amlwg y byddai pobl yn ceisio diogelwch yn y DU ac roedd achosion cysylltiedig â chasineb yn dechrau dod i’r amlwg, fe wnaethon nhw drosi negeseuon allweddol i Wcráin a Rwsia. Roeddem am sicrhau bod pobl yn gwybod lle bynnag y maent wedi dod, os ydych chi’n byw yn y DU, bod gennych hawl i fyw eich bywyd yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed.

Cafodd taflenni eu creu yn y ddwy iaith a’u dosbarthu i’r Timau Cydlyniant Cymunedol, Awdurdodau Lleol, timau sy’n cefnogi’r Wcreiniaid i deithio a dod o hyd i lety, sefydliadau Trydydd Sector a grwpiau llawr gwlad.

Gall dioddefwyr troseddau gael gafael ar y ffurflen adrodd ar y wefan mewn 18 o ieithoedd gwahanol, a defnyddio Llinell Iaith os ydynt yn dymuno cyfathrebu drwy eu hiaith gyntaf. Mae Llinell Iaith yn gallu darparu dehongliad mewn dros 250 o ieithoedd gwahanol.

Mewn ymateb i angen lleol, mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru wedi datblygu gweithdy o’r enw ‘Hawliau Mudwyr’, sy’n ceisio mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r camsyniadau ynghylch hawliau i wasanaethau gan bobl sy’n byw mewn cymunedau na chawsant eu geni yn y DU a cheiswyr lloches/ffoaduriaid.

Mae’r gweithdy, a ddatblygwyd i ddechrau mewn partneriaeth â Migrant Rights UK, yn helpu pobl i ddeall troseddau ac achosion casineb, effaith a ffynonellau cymorth. Mae’r sesiwn yn tynnu sylw at y gwasanaethau iaith sydd ar gael i bobl sy’n chwilio am gymorth ac opsiynau hygyrchedd eraill.

Myfyrdodau gan fudwyr a gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn y gymuned a gymerodd ran yn y gweithdy Hawliau Mudwyr:

“Roedd y sesiwn yn llawn gwybodaeth. Rwy’n teimlo’n hyderus i wneud atgyfeiriad os oes angen. Mae gen i fwy o ddealltwriaeth o’r cymorth mae'r gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr yn ei gynnig”.

“Mae hyn yn agoriad llygad – doedd gen i ddim syniad bod y lefel hon o gymorth ar gael i bawb. Rwy’n dod ar draws ymfudwyr a cheiswyr lloches yn fy ngwaith. Rwy’n mynd i wneud yn siŵr bod pawb yn fy nhîm yn gwybod am y gwasanaeth hwn er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr bod pobl yn cael yr wybodaeth briodol am eu hawliau i fod yn ddiogel a chael mynediad at gyfiawnder.”

Astudiaeth achos: Swyddogion Troseddau Casineb yn y gymuned

Mae Swyddogion Troseddau Casineb yr Heddlu wedi mynychu canolfan cymorth ffoaduriaid Oasis ar sawl achlysur ar gyfer cyfleoedd addysg dwy ffordd. Mae hyn wedi cynnwys diwrnodau agored, lle bu swyddogion yn ymgysylltu â’r gymuned ffoaduriaid leol a ddefnyddiodd y ganolfan. Mae sesiynau uwchsgilio staff wedi cael eu cynnal ynghylch ystyr troseddau casineb a’r mecanweithiau i roi gwybod i’r Heddlu am ddigwyddiadau.

Cafodd swyddogion sgyrsiau hefyd gan y rhai â phrofiad bywyd a rhoddodd staff Oasis gyngor i swyddogion ar ryngweithio â ffoaduriaid.

Mae Swyddogion Troseddau Casineb hefyd wedi cynnal digwyddiadau uwchsgilio ac ymgysylltu yn Alltudion ar Waith, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, BAWSO, a Chymorth i Ddioddefwyr.

O fewn coleg Caerdydd a’r Fro, mae swyddogion hefyd wedi cynnal nifer o seminarau gyda myfyrwyr rhyngwladol. Mae’r seminarau hyn wedi cynnwys ymwybyddiaeth o droseddau casineb, cyfreithiau yn y DU, hawliau pobl wrth ddelio â’r Heddlu a chyfleoedd gyrfa ym maes plismona. Roedd sesiynau holi ac ateb agored hefyd lle gallai myfyrwyr ofyn cwestiynau am weithdrefnau plismona.

Astudiaeth achos: lletya cartrefi i Wcráin

Penderfynodd Carey Osborne, ei phartner a’u plant agor eu cartref i groesawu Wcreiniaid yn ystod eu cyfnod o angen.

Fel nyrs gofrestredig a fu’n gweithio ar y rheng flaen yn y GIG drwy gydol pandemig Covid-19, disgrifiodd Carey hyn fel ‘blynyddoedd heriol’, gan gydbwyso gofynion y swydd â cholledion personol eraill yn ei bywyd. Efallai mai oherwydd, ac nid er gwaethaf, yr amseroedd anodd hyn, wrth ddysgu am ymgyrch y llywodraeth i gynnig cartrefi, roedd hi’n gwybod ei bod am gymryd rhan.

“Rwy’n credu bod y cysyniad o ‘cwtsh’ yn berthnasol yma. Rwy’n credu mai rhan fawr o dreftadaeth Cymru yw’r ffaith ein bod yn rhoi cwtsh i bobl, yn eu meithrin a’u cefnogi,” esboniodd.

“Dydw i ddim y math o berson sy’n trefnu llieiniau sychu llestri, ond pan oeddwn i’n gwybod eu bod nhw’n dod, roeddwn i eisiau gwneud y tŷ mor neis ag y gallwn i. Yn amlwg roeddwn yn nerfus am agor fy nghartref - ond rydyn ni’n dod ymlaen yn anhygoel o dda.”

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd, ond maen nhw wedi bod y golau yr oeddwn ei angen. Mae eu cael nhw yma wedi newid fy mywyd. Rwy’n teimlo mor ddiolchgar. Maen nhw wedi gwneud cymaint i mi ag y gallwn i ei wneud iddyn nhw. Rwy’n teimlo bod fy mywyd wedi cael ei wella, ac mae fy mhartner a’m plant yn teimlo'r un peth. Rwy’n meddwl ein bod ni wedi dysgu llawer o’r profiad.”

Cyngor Carey i’r rheini sy’n ystyried agor eu cartrefi i deulu o Wcráin i fod yn ‘pragmatig’ o ran eu dull o gynnig llety teulu newydd o amgylchiadau o’r fath, gan gofio ei bod yn debygol y bydd yn gyfnod o addasu i bawb yn y cartref.

“Os ydych chi’n ystyried cynnig llety i fudwyr, mae angen i chi feddwl pam eich bod chi eisiau gwneud hynny. Dylech gael agwedd agored, cymryd ychydig o amser i wneud rhywfaint o ymchwil, a chysylltu â'r cyngor a gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i chi. Mae angen i chi ddeall y gallai’r bobl neu’r teuluoedd rydych chi’n eu lletya fod â’u ffordd eu hunain o fyw,” meddai.

“Er y gallech dybio ‘o maen nhw’n hapus’, mae angen i chi ofyn iddyn nhw sut maen nhw’n teimlo, a dal ati i wneud hynny. Dydych chi ddim yn gwybod beth maen nhw wedi bod drwyddo neu beth maen nhw’n mynd drwyddo. Mae eu cynnwys mewn gweithgareddau gyda’i gilydd a mwynhau cwmni eich gilydd yn allweddol i gadw pawb yn y cartref yn hapus ac yn iach.”

Y tu hwnt i’r ffaith bod angen i’r teulu sy’n derbyn y teulu newydd fod yn groesawgar ac yn agored, mae’r ffordd y mae’r gymuned ehangach yn ymateb i’r bobl newydd yn eu hardal yn ffactor allweddol o ran eu galluogi i integreiddio, a chael cyfle i fod yn rhan o ddiwylliant Cymru.  Roedd Carey’n canmol awdurdodau lleol ac elusennau eraill am helpu i hwyluso hyn, gydag amrywiaeth o gynlluniau a manteision o becynnau croeso a oedd yn cynnwys bwyd, i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan ganiatáu mynediad am ddim i’w parcdir a’u heiddo.

“I mi, mae mynediad at y mathau hyn o wasanaethau fel curiad calon. Os ydych chi eisiau cadw pobl yn hapus ac yn iach, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, i mi mae wir yr un mor hanfodol â churiad calon. Os ydyn ni yn y tŷ ac mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwael, efallai fod tensiynau’n codi, ac felly mae mynd allan a gwneud rhywbeth yn syniad da.

Ers i’r teulu gyrraedd ddeufis yn ôl, maen nhw wedi tyfu’n gyflym mewn annibyniaeth ac ymreolaeth sydd wedi bod yn hanfodol ar gyfer normaleiddio’r profiad o gael eu dadleoli o’u gwlad gartref. Mae’r ddau blentyn yn parhau â’u haddysg yn yr ysgol, ac maen nhw hefyd wedi cael swyddi rhan-amser, ac mae’r teulu cyfan yn gwirfoddoli yn CETMA, i helpu Wcreiniaid eraill ac aelodau o’r gymuned.

Ychwanegodd Carey:

“Maen nhw’n gwneud cyfraniadau enfawr, ac maen nhw’n adnodd gwych i’r gymuned y dylai cynghorau lleol fod yn ei ddefnyddio hyd yn oed yn fwy. Maen nhw mewn sefyllfa wych i barhau i wasanaethu ein cymuned ac rydyn ni’n lwcus iawn i’w cael. Rydyn ni eisiau iddyn nhw aros, a chael amser da, a phrofi rhyfeddodau bywyd yng Nghymru.”

Parth 7: hawliau a chyfrifoldebau

Astudiaeth achos: Etholiadau Llywodraeth Leol 2022 yng Nghymru

Cyn etholiadau Llywodraeth Leol 2022 yng Nghymru, roedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gymwys i gael £25,000 o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru i gyflogi Swyddog Cymorth Cofrestru Etholiadol.  Rôl ERSO oedd helpu i sbarduno ymgysylltiad democrataidd yn eu hardal a helpu i gynyddu nifer y grwpiau sydd newydd gael eu hethol ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio.

Er bod gwelliant sylweddol yn ffigurau cofrestru’r grŵp 16-17 oed, roedd y ffigurau cofrestru ar gyfer gwladolion tramor cymwys, er eu bod wedi gwella, yn tynnu sylw at yr angen am ragor o ymgysylltu. Yr adborth a gafwyd oedd nad oedd rhai cymunedau a oedd newydd eu hetholfreinio naill ai’n gwybod bod ganddynt hawl i bleidleisio neu nad oeddent yn gallu cael gafael ar wybodaeth briodol gan nad Cymraeg/Saesneg oedd eu hiaith gyntaf.

Mewn ymateb i hyn, cynhyrchodd ERSO ar gyfer Abertawe, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, Ganllaw Cam wrth Gam ar sut i gofrestru i bleidleisio mewn sawl iaith a oedd ar wefan yr awdurdod lleol. Darparwyd y canllaw mewn 10 iaith a helpodd i gael gwared ar rwystr hanfodol i gael gafael ar wybodaeth. Roedd y dull gweithredu’n llwyddiannus, ac roedd nifer y gwladolion tramor cymwys cofrestredig bron wedi dyblu o fis Ionawr i fis Ebrill 2022.  

Astudiaeth achos: gwefan Noddfa

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwefan Noddfa ar gyfer mudwyr newydd sy’n cyrraedd Cymru ar amrywiaeth o gynlluniau. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac mae bellach yn darparu gwybodaeth ar gyfer Dinasyddion yr UE, Wcreiniaid, Afghan, Hong Kong, a'r rhai ar fisâu sgiliau a fisâu myfyrwyr.

Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am gadw’n ddiogel yng Nghymru, materion iechyd a sut i gael gafael ar ofal, gwybodaeth am gofrestru ar gyfer addysg, dod o hyd i swydd, dod o hyd i ffynonellau cymorth ariannol, a llawer o faterion eraill. Mae hefyd yn cefnogi cofrestru i bleidleisio a deall hawliau a chyfrifoldebau tra’n byw yng Nghymru.

Llyfryddiaeth

Gweithle

Astudiaeth o gymorth cyflogaeth a sgiliau i ffoaduriaid

Cymunedau dros Waith a Mwy

Busnes Cymru

Prentisiaethau / Gyrfa Cymru

Gyrfaeoedd REN

Tai

 

Yr hawl i dai digonol yng Nghymru: y sylfaen dystiolaeth

Profiadau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yng Nghymru o ddigartrefedd

Grant Cymorth Tai

Cymorth os ydych chi’n ddigartref neu ar fin dod yn ddigartref

Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026

Arolwg Sylfaenol Tai Cymdeithasol Gwrth-hiliol Cymru: Canfyddiadau Allweddol

Arolwg sylfaenol o’r sector tai cymdeithasol

Lleihau Digartrefedd ymysg Ymfudwyr, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches: Canllaw Arferion Da

 

Iechyd a gofal cymdeithasol:

 

Fframwaith clinigol cenedlaethol: system ddysgu iechyd a gofa

Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Darparu Gofal Cymdeithasol mewn Cymru Wrth-Hiliol

Fframwaith NEST (iechyd meddwl a lles)

Prosiectau arfer da sy’n defnyddio fframwaith NYTH/NEST: astudiaethau achos

A different ending: addressing inequalities in end of life care

Cymunedau Cydlynol yng Nghymru

 

Cysylltiadau cymdeithasol

 

Cymunedau Cysylltiedig: Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol: asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol (cysylltu cymunedau)

 

Approaches to conceptualise bonding/bridging social capital

Measuring the ‘Bridging’ versus ‘Bonding’ Nature of Social Networks: A Proposal for Integrating Existing Measures - Benny Geys, Zuzana Murdoch, 2010

The benefits of social connections

New Scots Refugee Integration Strategy 2018 to 2022

Addysg a sgiliau

Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol: safbwyntiau dinasyddion a rhanddeiliaid

Crynodeb Gweithredol o’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol

Ysgolion Bro

Grŵp ymgysylltu a llywio

Ymgynghoriad ar sut i fesur cynhwysiant ymfudwyr yng Nghymru.

Aelodaeth y grŵp llywio

  • Adele Taylor,Llywodraeth Cymru
  • Michelle Roberts,Llywodraeth Cymru
  • John Davies,Llywodraeth Cymru
  • Hawar Ameen, Llywodraeth Cymru
  • Ines Lopez Schmid, Llywodraeth Cymru
  • Lydia Smith,Llywodraeth Cymru
  • Steven Macey, Llywodraeth Cymru
  • Jessica Rees, Cymorth i Ddioddefwyr
  • Sergei Shubin, Prifysgol Abertawe
  • Isata Kanneh, Sefydliad Bevan
  • Olwen Evans, Cyngor Caerdydd
  • Shirley Au-Yeung, Cymdeithas Pobl Tsieineaidd yng Nghymru
  • Sin Yi Cheung, Prifysgol Caerdydd 
  • Michael Smith, CLlLC
  • Mike Chick, Prifysgol De Cymru
  • Rhys Dafydd Jones, Prifysgol Aberystwyth
  • Catrin Wyn Edwards, Prifysgol Aberystwyth
  • Becca Rosenthal, Cymorth i Ddioddefwyr
  • Emma Maher, CLlLC 
  • Kate Smart, Settled
  • Claire O’Shea, Hwb Cymru Affrica
  • Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
  • Yr Athro Jenny Phillimore, Prifysgol Birmingham 
  • Emmy Chater, Cyngor Dinas Casnewydd
  • Fadheli Maghiya, Hwb Cymru Affrica
  • Zuzka Hilton, Llywodraeth Cymru 
  • Jenna Turnbull, Llywodraeth Cymru
  • Jo Wilding, Arbenigwr Gwasanaethau Cyfreithiol Annibynnol
  • Alicja Zalesinska, Tai Pawb
  • David Rowlands, Tai Pawb
  • Anne Hubbard, CLlLC
  • Emmy Chater, Cyngor Dinas Casnewydd
  • Erica Williams, CLlLC
  • Helen Green, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Joanne Hopkins, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Jocelle Lovell, Canolfan Cydweithredol Cymru
  • Naomi Alleyne, CLlLC
  • Susie Ventris-Field, WCIA
  • Helen Rose-Jones, Iechyd Cyhoeddus Cymru 
  • Rhys Evans, Settled 
  • Christina Fraser, Uned Gyswllt yr Heddlu, Llywodraeth Cymru 
  • Lucy Peales, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru (HMPPS)
  • Liz Bowen, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru (HMPPS)