Neidio i'r prif gynnwy

Treth Gyngor Decach

Mae £2.4 biliwn a godir drwy'r Dreth Gyngor bob blwyddyn yn helpu i ariannu ysgolion, gofal cymdeithasol a channoedd o wasanaethau eraill fel plismona, gwasanaethau tân a thrafnidiaeth, yr ydym oll yn cael budd mawr ohonynt. Un myth cyffredin ynglŷn â'r Dreth Gyngor yw mai dim ond talu am gasglu gwastraff lleol y mae hi.

Mae'r system Dreth Gyngor gyfredol 20 mlynedd ar ei hôl hi. Codir cyfran uwch o dreth mewn cymhariaeth ag aelwydydd sy'n byw mewn eiddo gwerth is. Rydym wedi bod yn ystyried newid ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn ymrwymedig i wneud y Dreth Gyngor yn decach.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio yn ymrwymo i ddiwygio'r Dreth Gyngor i'w gwneud yn decach ac yn fwy graddoledig. Mae'n parhau i fod yn fwriad pendant gan Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i wneud cynnydd ar y daith i gyfeiriad system decach yng Nghymru.

Byddai system fwy graddoledig yn symud y patrwm talu presennol i ffwrdd oddi wth y rhai sydd â'r lleiaf o fodd ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sydd â'r mwyaf o fodd gyfrannu mwy. Mae llawer o ffyrdd y gallwn eu defnyddio i wneud y system yn decach heb ei gwneud yn fwy graddoledig, ond byddai system fwy graddoledig yn cael mwy o effaith o ran mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb mewn cyfoeth eiddo. Bydd unrhyw gamau i wneud y system yn decach ac yn fwy graddoledig yn golygu'n anochel y bydd rhai ar eu hennill ac eraill ar eu colled.

Wrth ail-lunio’r system, o ran y dewisiadau rydym yn eu gwneud am fandiau treth a chyfraddau treth, ni fyddem yn ceisio cynyddu'r cyfanswm sy’n cael ei godi’n gyffredinol drwy drethi gan dalwyr y Dreth Gyngor o’i gymharu â’r hyn sy’n cael ei godi ar hyn o bryd, er y byddai rhai trethdalwyr yn gweld newidiadau.

Diben y diwygiadau fyddai sicrhau bod cyfraniadau'r Dreth Gyngor wedi'u gwasgaru'n decach a'u bod yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am amgylchiadau economaidd. Nid oes yr un o'r dulliau a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn yn gyfystyr ag ymarfer cynyddu refeniw.

Mae treth fwy graddoledig yn ceisio gostwng cyfran y dreth a delir gan y rhai sy'n llai abl i gyfrannu, gan wneud pethau'n decach. Gallai fod yn anodd cyflawni hyn i gyd ar unwaith, felly rydym yn gofyn am eich barn ynghylch sut y dylem fynd ati i wneud y system yn decach. Mae'r dystiolaeth yn dangos y byddai'r newidiadau rydym yn eu cynnig yn lleihau anghydraddoldebau hirsefydlog mewn cyfoeth, a grëwyd gan system annheg.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ynghylch sut, a phryd y dylem wneud newidiadau i strwythur sylfaenol y Dreth Gyngor yng Nghymru a diweddaru'r prisiadau eiddo a ddefnyddir.

Mae'r Dreth Gyngor hefyd yn cynnwys fframwaith manwl o gymorth i bobl sydd ei angen, gan gynnwys y cymorth a roddwn i aelwydydd incwm isel drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac amrywiaeth o ddisgowntiau ac eithriadau. Ar hyn o bryd mae bron i hanner aelwydydd Cymru yn cael rhyw fath o ddisgownt neu ostyngiad ar eu bil Treth Gyngor ac ni fydd hyn yn newid o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi diweddariad ar yr adolygiadau sydd wedi'u cynnal o'r trefniadau hyn ac yn nodi cynigion ar gyfer:

  • moderneiddio'r gwasanaeth a ddarperir i drethdalwyr
  • cymryd pwerau i ddiwygio'r system disgowntiau a gostyngiadau dros amser
  • ymrwymo i gadw'r disgownt un oedolyn ac i gadw lefel y disgownt ar 25%
  • newid y ffordd mae eiddo gwag yn cael ei drin, er mwyn cael gwared ar y rhwymedigaeth ar gynghorau i gynnig disgownt o 50% ar y rhan fwyaf o eiddo gwag (bydd cynghorau'n cadw'u disgresiwn o ran carafannau a chychod preswyl, cartrefi lle mae'r perchennog wedi marw ac anheddau sy'n gysylltiedig â swydd)
  • newid y terfynau amser ar gyfer eithriadau i eiddo sydd mewn profiant
  • diwygio'r iaith rydym yn ei defnyddio, a'r system sydd ar waith, i roi cymorth i'r rhai sydd ag 'amhariad meddyliol difrifol'
  • gwella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Byddem yn annog aelwydydd i edrych a ydynt yn gymwys i gael disgownt neu ostyngiad neu i gysylltu â'u hawdurdod lleol.

Cefndir y diwygiadau

Yn haf 2022, cynhaliwyd ein hymgynghoriad cam 1 ar Dreth Gyngor Decach. Amlinellwyd rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau fel man cychwyn ar ein taith tuag at gyflawni'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio i sicrhau Treth Gyngor decach a mwy graddoledig i Gymru. Ceisiwyd barn unigolion, arbenigwyr a sefydliadau ar y canlynol:

  • creu strwythur Treth Gyngor tecach ac wedi'i ddiweddaru sy'n cynnwys bandiau a chyfraddau treth newydd
  • ymrwymo i'w ddiweddaru'n rheolaidd yn y dyfodol
  • cynnal adolygiad o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau'r Dreth Gyngor
  • cynnal adolygiad o'n Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Cawsom fwy na 1,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad cam 1, a oedd yn adlewyrchu amrywiaeth eang o safbwyntiau a diddordebau. Cyhoeddwyd Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad Cam 1 ynghylch Treth Gyngor Decach fis Rhagfyr 2022.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, ar ôl ystyried y safbwyntiau eang eu cwmpas hyn, rydym wedi parhau i ystyried senarios ar gyfer Treth Gyngor decach, gan weithio'n agos gyda sefydliadau lleol a rhwydweithiau sy'n cynrychioli pobl Cymru. Mae'r ddogfen hon yn gwneud cynigion penodol ar gyfer diwygio mewn nifer o feysydd a brofwyd yn yr ymgynghoriad gwreiddiol o ran rhai o'r categorïau disgowntiau ac eithriadau. O ran dyluniad sylfaenol system y Dreth Gyngor, gan gynnwys ei sail gwerth eiddo, sydd wedi dyddio, a dyluniad anraddoledig y bandiau treth a'r cyfraddau treth, rydym yn parhau i archwilio sut y gallem wneud newidiadau mwy uchelgeisiol, gan ystyried y gwaith ymchwil pellach a'r cyngor arbenigol a gomisiynwyd gennym. Eleni, rydym wedi wynebu sefyllfa economaidd newidiol a chyson heriol, lle gwelwyd cyfraddau llog yn effeithio ar bob agwedd ar gymdeithas, byd busnes a gwasanaethau; ynghyd â newidiadau yn y farchnad dai a'r farchnad rent, ac argyfwng costau byw cyffredinol.

Rydym hefyd wedi ystyried mathau eraill o drethiant lleol. Ym mis Chwefror 2021, fe wnaethom gyhoeddi Crynodeb o'r Canfyddiadau, adroddiad cynhwysfawr a oedd yn crynhoi'r ymchwil a wnaed ers 2016. Ystyriwyd sut y gellid gwella'r systemau trethu lleol (y Dreth Gyngor ac ardrethi annomestig fel ei gilydd) yn eu ffurfiau presennol, ond edrychwyd hefyd ar y potensial ar gyfer symud yn fwy sylfaenol tuag at syniadau eraill. Archwiliwyd y syniad o gael math lleol o dreth incwm, a fyddai'n cael ei gosod a'i chodi gan gynghorau, fel opsiwn posibl yn lle'r Dreth Gyngor yn y tymor hwy. Fodd bynnag, gall lefelau osgoi trethi fod yn uwch yn achos Treth Incwm, am ei bod yn haws i rai ffynonellau incwm gael eu cuddio neu eu symud gan y rhai sydd â'r gallu i wneud hynny, tra bo eiddo yn ased sefydlog i ardal leol. Canfu'r ymchwil fod y risg osgoi hon yn anhysbys ac nad oedd modd ei mesur. Rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen ag unrhyw ystyriaethau yn y dyfodol ynglŷn â'r math hwn o dreth, gan fod angen i ffrydiau refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol gael sefydlogrwydd a sicrwydd er mwyn galluogi cynghorau i gynllunio'r gwasanaethau a ddarperir. Yn y DU, caiff ein hincymau eu trethu gan sefydliadau eraill at ddibenion gwahanol.

Yn ein barn ni, mae bod ym meddiant eiddo yn ddangosydd cyffredinol da o gyfoeth pobl o'u cymharu â'i gilydd, yn ogystal â bod yn fesur pendant, syml a lleol. Mae'r cartrefi rydym yn byw ynddynt hefyd yn ddangosydd o faint aelwyd ac, felly, y galw cymharol am wasanaethau. Rydym yn cydnabod nad yw'n berffaith, am fod llawer o resymau dros faint a lleoliad yr eiddo rydym yn dewis bod yn berchen arno neu ei rentu. Fodd bynnag, mae i system y Dreth Gyngor elfennau pwysig sy'n ystyried incwm, megis y disgownt un oedolyn a'r cymorth i aelwydydd incwm isel. Am y tro, credwn fod y dull hwn o weithredu yn sicrhau'r cydbwysedd cywir heb danseilio sefydlogrwydd na thegwch.

Rydym yn parhau i archwilio'r potensial ar gyfer treth gwerth tir leol yn lle'r ddwy dreth leol, gan adeiladu ar asesiad technegol manwl Prifysgol Bangor a gomisiynwyd gennym yn 2020. Yr asesiad hwnnw yw'r gwaith manylaf sydd wedi'i gynnal hyd yma i ystyried treth gwerth tir leol yn benodol i Gymru, gan ddefnyddio data am brisiadau tir. Ein nod yw cyhoeddi rhagor o wybodaeth am ein gwaith erbyn diwedd tymor y Senedd hon, gan gynnwys nodi'r llwybr posibl ar gyfer gweithredu'r cynlluniau a sut y gallent weithio'n ymarferol yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn trafod diwygiadau i'r Dreth Gyngor ar ei ffurf bresennol.

Y system gyfredol a pham mae'n annheg

Fel y nodwyd y llynedd, yn yr ymgynghoriad cam 1, mae tua 1.5 miliwn o anheddau domestig yng Nghymru yn atebol i dalu'r Dreth Gyngor. Ar hyn o bryd mae pob eiddo yn cael ei roi mewn un o naw band treth, A i I, ar sail gwerthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2003. Y rheswm am hyn yw, y tro diwethaf i'r Dreth Gyngor gael ei diweddaru yng Nghymru, i'r newidiadau ddod i rym ar 1 Ebrill 2005. Fel rhan o'r newidiadau hynny, ychwanegodd Llywodraeth Cymru fand treth newydd (Band I) ar gyfer yr eiddo uchaf ei werth. Mae'r Dreth Gyngor yn Lloegr a'r Alban yn dal i fod yn seiliedig ar werthoedd eiddo yn 1991 ac wyth band treth.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn asesu gwerthoedd eiddo ac yn gosod pob annedd mewn band Treth Gyngor. Mae gan bob band gyfradd dreth sy'n gymharol â'r pwynt cyfeirio, sef band D, a nodir y cyfraddau treth hyn mewn deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, pennir tâl band D ar gyfer pob ardal leol yn lleol gan gynghorau bob blwyddyn, yn dibynnu ar y refeniw y mae angen iddynt ei godi i ariannu gwasanaethau. Dyna pam mae biliau Treth Gyngor yn amrywio rhwng ardaloedd lleol, ond mae'r bylchau rhwng y taliadau a godir ar gyfer bandiau yn dal i fod yn gyson ledled Cymru, a gall Llywodraeth Cymru newid hyn.

Mae'r tabl isod yn dangos y naw band treth presennol a'r bil cyfartalog a bennir gan gynghorau Cymru fel canran o werth eiddo, ar gyfer pobl sy'n talu bil Treth Gyngor llawn heb unrhyw ddisgowntiau neu ostyngiadau (heb gynnwys cynghorau cymuned). Mae dros 70% o eiddo ym mandiau A i D.

Bandiau cyfredol y Dreth Gyngor yng Nghymru, 2023 i 2024 (ac eithrio praeseptau cynghorau cymuned)
Band

Gwerthoedd eiddo ar

1 Ebrill 2003

Treth gyfartalog heb gynnwys disgowntiauCyfradd dreth mewn cymhariaeth â band DTreth fel % o werth eiddoNifer a % yr eiddo
AHyd £44,000£1,2246/91.3%213,200 (14%)
B£44,001 i £65,000£1,4287/91.1%305,500 (21%)
C£65,001 i £91,000£1,6328/90.9%320,300 (22%)
D£91,001 i £123,000£1,8369/90.8%239,600 (16%)
E£123,001 i £162,000£2,24411/90.7%198,500 (13%)
F£162,001 i £223,000£2,65213/90.6%120,900 (8%)
G£223,001 i £324,000£3,06015/90.5%54,600 (4%)
H£324,001 i £424,000£3,67218/90.5%13,000 (1%)
IUwchlaw £424,000£4,28421/90.4%5,600 (0%)

Yn ogystal â bod yn system sydd wedi hen ddyddio, mae hefyd yn gosod baich annheg ar y rhai sy'n byw yn yr eiddo gwerth isaf. Ar hyn o bryd mae'r Dreth Gyngor a godir ar eiddo ym mand I deirgwaith a hanner cymaint â band A, ond gallai cartrefi yn y band uchaf fod yn werth naw gwaith cymaint â'r rhai yn y band isaf.

Fel rhan o'r gwaith ers yr ymgynghoriad cyntaf, rydym wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio gynnal ymarfer ailbrisio eiddo. Mae’r Asiantaeth yn paratoi gwerthoedd cyfredol ar gyfer pob un o'r 1.5 miliwn o anheddau yng Nghymru drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf sy'n cael ei hachredu'n rhyngwladol gan arbenigwyr yn y diwydiant. Rydym hefyd cydweithio’n agos â’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS), sef corff adnabyddus o arbenigwyr ar drethiant a pholisi cyllidol yn y DU. Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn mae wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar effeithiau posibl diwygio'r Dreth Gyngor yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch sut y byddai'r gwahanol ddulliau diwygio a amlinellir isod yn effeithio ar wahanol rannau o Gymru a gwahanol fathau o aelwydydd.

Er y byddai ymarfer ailbrisio yn gwirio gwerth eiddo pawb at ddibenion creu system Treth Gyngor newydd, nid yw hyn yn golygu y byddai eich bil Treth Gyngor yn cynyddu, hyd yn oed os yw gwerth eich eiddo wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd diwethaf. Byddai ymarfer ailbrisio yn ein galluogi i greu bandiau newydd a dewis cyfraddau treth newydd ar gyfer pob band er mwyn creu treth decach, ac mae un o'r dulliau posibl o fynd ati i lunio system newydd yn cynnwys bandiau ychwanegol ar waelod a brig y raddfa. Drwy ddosbarthu eiddo mewn ffordd fanylach fel hyn gallem roi strwythur ar waith sy'n adlewyrchu'r gallu i dalu yn decach ar gyfer y 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru.

Ar adeg ail-lunio'r system, drwy ddewis bandiau treth newydd a chyfraddau treth newydd, ni fyddem yn ceisio cynyddu'r cyfanswm a fyddai'n cael ei godi drwy drethi cyngor yn gyffredinol. Diben y diwygiadau fyddai sicrhau bod taliadau'r dreth gyngor yn cael eu gwasgaru'n decach a'u bod yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am amgylchiadau economaidd. Nid oes yr un o'r dulliau a amlinellir yma yn gyfystyr ag ymarfer codi refeniw. Fodd bynnag, cynghorau lleol yn y pen draw fydd yn cael penderfynu ar y tâl band D y mae angen i bob cyngor ei osod yn unol â’u hanghenion cyllidebol ym mhob blwyddyn ariannol.

Rydym hefyd wedi bod yn ystyried lled y bandiau. Er bod rhyddid i lunio strwythur nad yw ynghlwm wrth y 9 band presennol na lled y bandiau, mae'r dulliau posibl a gyflwynwn yma yn canolbwyntio ar gael 9 neu 12 band. Gwyddom fod ychwanegu mwy o fandiau gwerth isel a gwerth uchel yn helpu i wneud y system yn decach, ond y byddai ychwanegu mwy o fandiau na hyn yn achosi heriau o ran prisio ac yn gwneud y system yn fwy cymhleth.

Y cwestiynau allweddol, fodd bynnag, yw graddfa a chyflymder y newid. Hoffem gael eich barn ynghylch i ba raddau y dylem ddiwygio'r Dreth Gyngor a pha mor gyflym y dylem wneud hynny.

Dulliau posibl

Gellid diweddaru strwythur y dreth gyngor mewn sawl ffordd. Wrth wneud ein gwaith, rydym wedi diystyru systemau mwy radical y mae rhai rhanddeiliaid o'u plaid, oherwydd ein bod yn teimlo bod y newidiadau mewn biliau trethi i rai aelwydydd sy'n gysylltiedig â systemau o'r fath yn rhy uchel. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cyflwyno 3 dull sy'n adlewyrchu ystod o ddiwygiadau sy'n realistig bosibl yn ein barn ni. Cyflwynir y rhain i ofyn am eich barn ynghylch graddfa'r diwygio posibl.

Dull 1

Drwy'r dull cyntaf, byddem yn gwneud newid ar raddfa fach, gan  ganolbwyntio ar sicrhau bod gwerthoedd eiddo yn gyfredol. Drwy'r dull hwn, byddai'r system sydd ar waith yn barod yn cael ei chadw'r un fath i raddau helaeth:

  • byddem yn ailbrisio eiddo er mwyn ei roi mewn fersiwn fwy modern o'r 9 band presennol (cadw’r un canran o eiddo ym mhob band fel ag y mae ar hyn o bryd), ac yn diweddaru trothwyon y bandiau i greu system gyfoes sy'n adlewyrchu gwerthoedd cyfredol eiddo, ond
  • yn cadw'r 9 band a'r cyfraddau treth a godir ar gyfer pob band sydd gennym ar hyn o bryd

Y canlyniad fyddai symudiad bach i gyfeiriad tegwch. Byddai'r system yn dod yn fwy cyfredol a chywir o dan y rheolau hynny. Byddai biliau oddeutu 8 o bob 10 o aelwydydd yn lleihau neu’n gweld ychydig iawn o newid.

Ond byddai'r dreth yn dal i fod yn sylfaenol annheg. Dim ond rhywfaint o welliant fyddai hyn i'r system a  gyflwynwyd yn wreiddiol yn 1993. Byddai rhai cartrefi yn symud i fandiau uwch ac eraill yn symud i fandiau is, a byddai'r rhan fwyaf yn aros yn yr un band.

Dull 2

Drwy'r ail ddull, gallem ystyried diwygio cymedrol, i fynd i'r afael â natur anghyfredol ac anraddoledig y system bresennol.  Drwy'r dull hwn byddem:

  • yn cadw'r strwythur 9 band ac yn ei ddiweddaru drwy gynnwys gwerthoedd eiddo cyfredol (fel Dull 1), ond hefyd
     
  • yn newid y cyfraddau treth ar gyfer pob band fel y byddai biliau aelwydydd mewn eiddo band is yn gostwng, a biliau aelwydydd mewn eiddo yn y bandiau uchaf yn codi

Byddai'r canlyniad yn fwy o symudiad i gyfeiriad tegwch, ond byddai strwythur y dreth yn parhau'n ddigyfnewid yn y bôn, gyda 9 band treth. Byddai rhai eiddo yn symud i fyny band, eraill yn symud i lawr band, a byddai’r rhan fwyaf yn aros yn yr un band. Byddai tua 7 o bob 10 aelwyd yn gweld eu biliau'n gostwng neu'n gweld ychydig iawn o newid.

Dull 3

Drwy'r trydydd dull, byddem yn ehangu manteision diwygio, gan wneud y system yn fwy graddoledig. Drwy'r dull hwn, byddem yn:

  • cynyddu nifer y bandiau o 9 i 12
  • ychwanegu 3 band newydd, 1 ar y gwaelod a 2 ar y brig
  • ail-lunio'r 12 band newydd fel bod maint pob band yn weddol gyson ar draws y strwythur cyfan
  • newid y cyfraddau treth a godir ar bob band, gyda llawer llai yn cael ei dalu gan y rhai yn y bandiau isaf a mwy yn cael ei dalu gan y rhai yn y bandiau uchaf

Byddai hyn yn gam pendant i gyfeiriad tegwch, drwy ddiwygio strwythur y dreth yn fwy sylweddol.

Byddai pobl sy'n byw yn yr eiddo â'r gwerth isaf yn gweld eu biliau'n gostwng, a byddai'r rhai yn yr eiddo drutaf yn gweld eu biliau'n codi. Unwaith eto, byddai rhai eiddo yn symud i fyny band, eraill yn symud i lawr band, a byddai’r rhan fwyaf yn aros yn yr un band, ond byddai'r gostyngiadau hynny'n fwy, yn enwedig i'r rhai sy'n byw yn yr eiddo gwerth isaf. I'r gwrthwyneb, byddai'r cynnydd mewn biliau i'r rhai sydd mewn eiddo drutach yn fwy amlwg nag yn y naill neu'r llall o'r dulliau eraill. Byddai biliau oddeutu 7 o bob 10 o aelwydydd yn lleihau neu’n gweld ychydig iawn o newid.

Yn seiliedig ar ganlyniadau rhagarweiniol gwaith ailbrisio paratoadol Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae'r tablau canlynol yn rhoi syniad o'r gwerthoedd eiddo modern sy'n gysylltiedig â'r 3 dull a drafodir.

Dulliau 1 a 2: diwygio ar raddfa fach a chymedrol
BandGwerth yr eiddo yn Ebrill 2023Nifer a % yr aelwydydd
(yr un % â’r system bresennol)
AHyd at £112,000211,800 (14%)
B£112,001 i £155,000310,800 (21%)
C£155,001 i £211,000318,600 (22%)
D£211,001 i £278,000236,500 (16%)
E£278,001 i £376,000200,000 (14%)
F£376,001 i £516,000121,100 (8%)
G£516,001 i £748,00054,700 (4%)
H£748,001 i £987,00013,200 (1%)
IUwchlaw £987,0015,600 (<1%)
Dull 3: diwygio ehangach
BandGwerth yr eiddo yn Ebrill 2023Nifer a % yr aelwydydd
A1Hyd at £80,00047,000 (3%)
A2£80,001 i £110,000151,200 (10%)
B£110,001 i £150,000289,000 (20%)
C£150,001 i £200,000301,300 (20%)
D£200,001 i £270,000266,400 (18%)
E£270,001 i £360,000198,900 (14%)
F£360,001 i £480,000124,900 (8%)
G£480,001 i £650,00061,300 (4%)
H£650,001 i £880,00022,700 (2%)
I£880,001 i £1.2m7,200 (0.5%)
J£1.2m i £1.6m1,600 (0.1%)
KUwchlaw £1.6m650 (0.0%)

Yn seiliedig ar y dulliau hyn a chan ddefnyddio'r bandiau treth ar gyfer mis Ebrill 2023, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r IFS i ddatblygu tair enghraifft o ddiwygiadau y gellid eu dadansoddi'n fanwl i ddangos yr effeithiau posibl. Ceir gwybodaeth yn Adran 2 o adroddiad yr IFS am y cyfraddau treth a ddefnyddiwyd fel tybiaethau yn yr enghreifftiau hyn. Ceir gwybodaeth yn Adran 3 ynghylch sut y byddai'r effeithiau'n wahanol mewn gwhanol rannau o Gymru, a gwybodaeth yn Adran 4 ynghylch sut y byddai'r effeithiau'n wahanol ar draws mathau o aelwydydd (gan gynnwys yn ôl incwm, oedran, anabledd, ethnigrwydd a deiliadaeth tai).

Mae'r patrymau a welwyd yn cyd-fynd â'r rhai a nodwyd mewn gwaith blaenorol gan yr IFS (a gyhoeddwyd yn 2020 a 2022). Dylid ystyried yr effeithiau a ddangosir yn adroddiad yr IFS fel enghreifftiau bras yn unig, gan y bydd effeithiau unrhyw ddiwygio a roddir ar waith yn dibynnu ar yr amcangyfrifon o werth eiddo, y bandiau treth a'r cyfraddau treth a ddefnyddir mewn gwirionedd, a allai i gyd fod yn wahanol i'r rhai a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad. Yn ogystal, mae'r data sydd ar gael i'r IFS yn golygu nad oedd modd iddo amcangyfrif y newid mewn biliau net yn unigol ar gyfer pob eiddo yng Nghymru. Yn hytrach, seiliwyd dadansoddiad manwl yn ôl lle ar y newid cyfartalog mewn biliau net yn ôl ardal y cyngor a'r gymdogaeth, a seiliwyd dadansoddiad manwl yn ôl math o aelwyd ar arolwg aelwydydd cynrychioliadol ac iddo faint sampl cyfyngedig, sy'n golygu nad oes modd dadansoddi'r effeithiau yn hynod fanwl. Mae natur system y Dreth Gyngor yn golygu bod y biliau y mae aelwydydd yn eu talu yn benodol iawn i amgylchiadau'r aelwydydd eu hunain, o ystyried yr eithriadau, y disgowntiau, y gostyngiadau a'r premiymau sy'n berthnasol i'w heiddo. Cyn rhoi diwygiadau ar waith, byddai Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r holl wybodaeth hon yn drylwyr, yn ogystal â'r ymatebion i'r ymgynghoriad, er mwyn llunio’r system Dreth Gyngor fwyaf priodol i Gymru.

Gallai diwygio'r Dreth Gyngor mewn unrhyw ffordd olygu effaith ychydig yn wahanol ar ardaloedd gwahanol. Wrth i unrhyw waith pellach gael ei wneud ar fodelau diwygio yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried dulliau o fynd i'r afael ag unrhyw wahaniaethau o'r fath a sut y gellir ymdrin â nhw a'u lliniaru. Gallai hyn hefyd gynnwys asesiad o'r effaith ofodol, mewn ardaloedd gwledig a threfol ac mewn ardaloedd lleol lle mae crynodiad uchel o ail gartrefi wedi effeithio ar brisiau tai.

Mae enghreifftiau mwy radical o systemau Treth Gyngor ar gael na'r tri dull a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn. Gelwir nhw'n aml yn systemau cyfrannol, a fyddai'n codi'r un ganran o dreth gyngor ar gyfer pob eiddo. Rydym wedi diystyru system gyfrannol gan y byddai hyn yn arwain at godiadau treth uchel iawn ar gyfer yr eiddo gwerth uchaf, yn uwch nag y byddent o dan ddull 3. Rydym yn credu bod hyn yn ormod o newid i rai trethdalwyr ei ysgwyddo. Os hoffech wybod mwy am y math o system rydym wedi'i ddiystyru, mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael hefyd yn adroddiad yr IFS.

I grynhoi, mae Dull 1 yn golygu system decach am ei bod yn gyfoes ac yn fwy cywir na'r system sydd gennym ar hyn o bryd, ond nid yw'n fwy graddoledig. Mae dulliau 2 a 3 yn decach ac yn fwy graddoledig. Byddai Dull 2 yn arwain at sefyllfa lle mae'r rhan fwyaf o aelwydydd yn talu biliau is ond byddai Dull 3 yn arwain at fwy o ostyngiadau i aelwydydd mewn eiddo gwerth is. 

Cwestiwn

Rydym am ofyn i chi am eich awydd i weld diwygio.

Ydych chi'n meddwl y dylem anelu at:

  • dull 1: diwygio ar raddfa fach
  • dull 2: diwygio cymedrol
  • dull 3: diwygio ehangach

Neu a oes gennych farn neu syniadau eraill ynglŷn â sut y dylem fynd ati i feddwl am raddfa'r diwygio?

Efallai y bydd rhai yn ffafrio diwygio mwy uchelgeisiol dros gyfnod hirach, ac eraill efallai'n ffafrio diwygio ar raddfa fach dros gyfnod byrrach. Bydd angen inni fynd ati gyda'n gilydd i farnu maint yr awydd am raddfa a chyflymder y diwygio.

Amserlen ar gyfer yr elfen ailbrisio ac ail-lunio yn y broses o ddiwygio'r Dreth Gyngor

Wrth gwrs, mae ail-lunio'r system yn ymwneud nid yn unig â maint y newid, ond hefyd â pha mor gyflym y dylid cyflwyno'r newid hwnnw. Y dyddiad cynharaf y gallai system Treth Gyngor newydd wedi'i hailbrisio a'i hail-lunio ddod yn weithredol yw 1 Ebrill 2025, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2023. Yn dilyn ein hymgynghoriad cam 1, cyhoeddwyd ein bwriad i fwrw ymlaen ag ailbrisio ar ryw ffurf yn 2025. Fodd bynnag, ar ôl ystyried hyn ymhellach, rydym am edrych eto ar opsiynau ar gyfer ailbrisio ac ail-lunio'r dreth, a hynny o bosibl dros gyfnod hwy, oherwydd y newidiadau rydym wedi'u hwynebu eleni o ran y cyd-destun economaidd. Felly, rydym yn gofyn am eich barn ar amryw o ddewisiadau ynghylch pa mor gyflym y dylai unrhyw broses ddiwygio ddigwydd. Unwaith eto, rydym yn cyflwyno 3 dewis eang ar gyfer cyflymder y gweithredu:

  1. Gallem anelu at y newid cyflymaf, gan gyflwyno system Dreth Gyngor decach cyn gynted â phosibl, ar 1 Ebrill 2025. Gallai hyn fod yn ddiwygio ar raddfa fach, gymedrol neu ehangach. Byddai'r rhai y mae eu biliau'n gostwng yn gweld y buddion ar unwaith yn 2025, ond byddem yn anelu at hwyluso'r broses bontio ar gyfer y rhai y mae eu biliau yn cynyddu dros ychydig flynyddoedd, drwy gyflwyno cynllun rhyddhad trosiannol, hyd at 2029 o bosibl.
  2. Gallem ohirio gwneud newidiadau tan dymor y Senedd nesaf. Gallai hyn fod yn ddiwygio ar raddfa fach, gymedrol neu ehangach, a gallai'r dyddiad cynharaf fod o 2028 ymlaen. O'r amser hwnnw, byddem yn dal i ddymuno lliniaru unrhyw gynnydd mewn biliau dros ychydig flynyddoedd drwy gynllun rhyddhad, a byddai'r rhai y mae eu biliau yn gostwng yn gweld y buddion yn llawn cyn gynted ag y bydd y newidiadau'n cael eu gweithredu. Mae amserlen ddiwygio arafach yn golygu y byddai'n rhaid aros yn hirach cyn cyflwyno unrhyw ostyngiadau neu gynnydd i filiau’r dreth gyngor.
  3. Gallem weithredu fesul cam, gan ddechrau â diwygio ar raddfa fach neu gymedrol yn y cam cyntaf (y cam cyntaf cynharaf sy'n bosibl yw 2025), a mynd ati i roi'r diwygio ehangach ar waith mewn ail gam (a gallai'r ail gam hwnnw fod rywbryd yn ystod tymor y Senedd nesaf).

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau trefniadau trosiannol wedi'u targedu ar gyfer aelwydydd y mae'n bosibl y bydd angen amser arnynt i addasu i unrhyw newidiadau. Byddai angen inni lunio'r trefniadau hyn ar ôl ystyried y safbwyntiau ar y dulliau a gyflwynir yn yr ymgynghoriad hwn. Byddai unrhyw gynllun rhyddhad yn gofyn am waith cyfreithiol a dadansoddol cymhleth, wrth i'r data ar ailbrisio gael eu llunio'n derfynol ac wrth i lefelau'r Dreth Gyngor gael eu pennu ym mhob ardal leol. Byddem yn ymgynghori maes o law ar gynigion ar gyfer cynllun rhyddhad trosiannol. Pe baem yn penderfynu ar ddiwygio arafach, byddem yn ymgynghori eto, gan gyflwyno data wedi'u diweddaru, ar adeg briodol yn y dyfodol.

Cwestiwn

Unwaith eto, rydym am ofyn i chi am eich awydd i weld diwygio.

Ydych chi'n credu y dylem wneud newidiadau yn unol â'r amserlen a gyflwynir uchod:

  • yr amserlen gyflymaf: diwygio ar raddfa fach, gymedrol neu ehangach erbyn 1 Ebrill 2025
  • diwygio arafach: diwygio ar raddfa fach, gymedrol neu ehangach, gan ddechrau yn 2028
  • diwygio fesul cam: diwygio ar raddfa fach neu gymedrol yn 2025, gan symud at ddiwygio ehangach yn ystod tymor y Senedd nesaf

Neu a oes gennych farn neu syniadau eraill ynglŷn â sut y dylem fynd ati i feddwl am raddfa'r diwygio?

Mae'n anochel y gallai rhai pobl fod o blaid diwygio cymaint â phosibl gan ddilyn yr amserlen arafaf. Gallai eraill fod o blaid diwygio ar raddfa fach dros gyfnod byrrach, tra byddai'n well gan eraill weld diwygio uchelgeisiol o fewn yr amserlen gyflymaf bosibl. Bydd angen inni fynd ati gyda'n gilydd i farnu maint yr awydd am raddfa a chyflymder y diwygio.

Y ddeddfwriaeth, y dyddiad prisio a'r camau cyflwyno

Y dyddiad cynharaf y gallai system Treth Gyngor newydd ddod yn weithredol yw 1 Ebrill 2025, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2023. Mae'r disgrifiadau isod yn dangos y camau y byddai angen inni eu cymryd i gyflwyno'r system newydd a gwneud rhai newidiadau i drefniadau gweinyddol. Mae'r cerrig milltir hyn yn berthnasol i ba un bynnag o'r dewisiadau a ffefrir yn yr ymgynghoriad hwn o ran cyflymder y newid, er y bydd yr amserlenni'n wahanol.

Byddai angen gwneud deddfwriaeth er mwyn cadarnhau:

  • y dyddiadau prisio, mewn perthynas â sail gwerth eiddo'r system (y Dyddiad Prisio Rhagflaenol) a'r dyddiad ar gyfer rhoi'r gwerthoedd hynny ar waith. Rhaid i sail gwerth y system fod dim mwy na 2 flynedd cyn y dyddiad gweithredu
  • y gwerthoedd eiddo sy'n gysylltiedig â bandiau newydd y Dreth Gyngor a'r cyfraddau treth i'w cymhwyso at bob un o'r bandiau

Byddai hyn yn cyflwyno nifer o gerrig milltir allweddol fel a ganlyn:

  • Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal ymarfer i ailbrisio eiddo. Pob eiddo yn cael ei ailbrisio ar ddyddiad prisio cyffredin (y Dyddiad Prisio Rhagflaenol). Byddai'r dyddiad hwn yn gymwys i bob eiddo, tan yr ymarfer ailbrisio nesaf.
  • Cyhoeddi rhestr brisio ddrafft o fandiau newydd ar gyfer pob eiddo ar 1 Medi, 7 mis cyn yr 1 Ebrill canlynol yn y flwyddyn ariannol pan fyddai system Dreth Gyngor newydd yn cael effaith.
  • Byddai Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn parhau i adolygu ei rhestr ddrafft o werthoedd eiddo, gan ymgysylltu â threthdalwyr a gwella'r wybodaeth y mae'n ei dal.
  • Byddai'r rhestr brisio yn cael ei defnyddio gan gynghorau i gyfrifo sylfeini trethu lleol, a byddai'r wybodaeth hon yn cael ei bwydo i  ddyraniadau'r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol.
  • Byddai'r rhestr brisio yn cael ei defnyddio gan gynghorau i gyfrifo biliau treth newydd.
  • Byddai'r rhestr brisio yn cael ei diweddaru'n barhaus gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio pan fydd eiddo newydd yn cael ei adeiladu, pan fydd eiddo yn cael ei ddymchwel, ac mewn rhai achosion pan fydd gwaith adeiladu sylweddol.

Yn ein hamserlen weithredu gyflymaf, y dyddiadau perthnasol fyddai:

  • 1 Ebrill 2023 fel sail gwerth eiddo ar gyfer system newydd (y Dyddiad Prisio Rhagflaenol).
  • Byddai rhestr brisio o fandiau newydd ar gyfer pob eiddo yn cael ei chyhoeddi ar 1 Medi 2024.
  • Byddai aelwydydd yn gallu trafod ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio pe baent yn credu y gallai data am eu heiddo fod yn anghywir.
  • Byddai'r wybodaeth yn bwydo i ddyraniadau'r Grant Cynnal Refeniw llywodraeth leol ar gyfer 2025 i 2026.
  • Byddai'r rhestr brisio a'r system ar ei newydd wedd yn cael eu defnyddio gan gynghorau i gyfrifo biliau Treth Gyngor newydd yn gynnar yn 2025, ac i anfon biliau at aelwydydd.
  • Byddai system newydd y dreth gyngor yn dod i rym o 1 Ebrill 2025.

Cadw'r Dreth Gyngor yn deg

Yn ogystal â system Treth Gyngor decach, rydym eisoes wedi nodi ein bod yn awyddus i drefnu bod y prisiadau eiddo a'r bandiau treth yn cael eu diweddaru’n rheolaidd, fel na fydd y system yn mynd yn anghyfredol eto. Yn ein barn ni, y bwlch priodol rhwng diweddariadau yw o leiaf bob pum mlynedd. Ar adeg pob diweddariad, byddem hefyd yn gallu adolygu'r bandiau a'r cyfraddau treth er mwyn sicrhau bod y system yn parhau'n deg. Byddem hefyd yn cadw'r hyblygrwydd i leihau neu ymestyn yr amser rhwng diweddariadau pe bai angen. Os bydd diweddariadau bob 5 mlynedd yn llwyddiannus, a bod y dechnoleg brisio yn dal i wella, mae'n bosibl y byddwn am newid y drefn yn y tymor hwy a chael cyfnodau byrrach, mwy ymatebol, rhwng diweddariadau, er enghraifft bob 3 blynedd.

Tra bydd yr ymgynghoriad hwn yn casglu safbwyntiau, rydym yn bwriadu cyflwyno Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) i roi statws statudol i ddiweddariadau i'r Dreth Gyngor yn y dyfodol. Roedd y dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn y Bil yn rhan o'n hymgynghoriad cam 1 yn 2022.

Newidiadau i eiddo

Yn y system Dreth Gyngor bresennol, gellir symud eiddo i fand prisio uwch neu is oherwydd bod ei faint neu ei strwythur mewnol wedi'i newid. Mewn achosion lle bu cynnydd materol yng ngwerth annedd, dim ond pan fu 'trafodiad perthnasol' y sbardunir newid ym mand y Dreth Gyngor, er enghraifft pan fydd eiddo yn cael ei werthu. Lle bo gostyngiad materol yng ngwerth annedd, does dim angen aros i werthu’r eiddo cyn y gellir addasu’r band prisio. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cael gwybodaeth i hwyluso'r broses hon gan gynghorau, Cofrestrfa Tir EF ac Awdurdod Cyllid Cymru. Mewn achosion lle y caiff eiddo ei adolygu, caiff y prisiad newydd ei fesur yn ôl-weithredol bob amser yn ôl Gwerth Prisio Rhagflaenol y rhestr brisio (sef 2003 ar hyn o bryd) a chaiff ei ailfandio yn unol â hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n gyson â phob eiddo arall ar y rhestr brisio. Mewn blwyddyn ailbrisio, byddai'r holl newidiadau i eiddo ers yr ymarfer ailbrisio diwethaf yn cael eu nodi a'u diweddaru wrth greu rhestr newydd, p'un a oedd eiddo wedi cael ei werthu ai peidio.

Gofynnwyd yn ein hymgyghoriad cam 1 a ddylai'r polisi hwn newid. Nid oedd mwyafrif yr ymatebwyr (59%) am weld unrhyw newid i'r polisi presennol; roedd 36% am weld newid ac ni wnaeth 5% ymateb.

At ei gilydd, rydym yn ystyried bod y dull polisi presennol yn lleihau’r datgymelliad i aelwydydd wneud gwelliannau, a'i fod yn cydnabod bod aelwydydd yn talu trethi eraill fel rhan o'r broses o wella eu heiddo (e.e. treth ar werth). Yn benodol, mae ailfandio eiddo ar adeg pan fo gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud yn peri risg o drethu aelwydydd ddwywaith. Gallent wynebu cynnydd ym mand y Dreth Gyngor er eu bod eisoes wedi talu TAW ar werth y gwelliannau i'r eiddo.

Yn ogystal, mae unrhyw benderfyniad i newid y dull presennol yn ymwneud â phenderfyniadau ynghylch ailbrisio aml. Mae ein huchelgais i gael cylchoedd ailbrisio amlach yn golygu y gallai newidiadau sy'n ymwneud â'r polisi ar addasiadau i eiddo fod yn llai angenrheidiol, gan y byddai gwelliannau i eiddo yn cael eu nodi'n awtomatig yn rheolaidd o dan system o'r fath. O ganlyniad, nid ydym yn cynnig cyflwyno unrhyw newidiadau i'r dull presennol o ran gwelliannau i gartrefi.

Mae adrannau blaenorol yr ymgynghoriad hwn yn ymdrin â'r dewisiadau sydd i'w gwneud ynghylch ailbrisio a dylunio'r Dreth Gyngor, lle bydd amseru'r newidiadau yn ystyriaeth bwysig. Mae'r adrannau canlynol yn ymdrin â ffyrdd eraill y gallwn eu defnyddio i wneud y Dreth Gyngor yn decach, drwy wella'r dull o weithredu a gweinyddu'r system a'i gwneud yn fwy tryloyw, neu drwy wella'r dull o ddarparu cymorth. Amlinellwyd ein bwriadau eang ar gyfer y meysydd hyn yn ein hymgynghoriad cam 1 a cheir diweddariad isod am hynt y gwaith. Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar rai cynigion penodol. Ein bwriad o ran unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r cynigion hyn fyddai eu cyflwyno cyn gynted ag sy'n bosibl yn ymarferol.

Cyllido cynghorau

Mae taliad blynyddol y Dreth Gyngor yn wahanol yn ardal pob cyngor gan ei bod yn bwysig i lywodraeth leol bennu'r swm sydd ei angen arni a bod yn atebol am y gyllideb y mae'n ei gwario ar wasanaethau. Mae hyn yn holl bwysig er mwyn dangos bod democratiaeth leol ar waith. Nid yw'n fwriad gennym newid y trefniadau hynny. Fodd bynnag, byddai cyflwyno Treth Gyngor ddiwygiedig yn golygu cryn newid ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers nifer o flynyddoedd i drafod y cynlluniau ar gyfer trethiant lleol tecach a gwell, gan gynnwys cymryd cyngor drwy Weithgor Diwygio Trethi Lleol a sefydlwyd yn 2021. Byddwn yn parhau i weithio mewn modd cydweithredol yn ystod cam nesaf y daith hon, sy'n gofyn am ystyriaeth fanylach o'r dulliau posibl a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn.

Byddai gwneud system y Dreth Gyngor yn decach ac yn fwy graddoledig yn gyffredinol yn dod â manteision ehangach i gynghorau. Byddai’n gwella amgylchiadau economaidd aelwydydd dan bwysau y mae angen mathau eraill o gymorth arnynt gan eu cyngor. Gallai system decach hefyd leihau'r galw ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Byddai'r dulliau posibl a gyflwynir yn newid y symiau refeniw y gellid eu codi yn ardal pob cyngor. Nododd ein hymgynghoriad cam 1 y byddai hyn yn cael yr effaith o ailddosbarthu ein dyraniadau ar gyfer y Grant Cynnal Refeniw. Dyma'r ffynhonnell fwyaf o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gynghorau bob blwyddyn i helpu i ariannu gwasanaethau: cyfanswm o bron i £4.5 biliwn. Byddai ailalinio cyllid grant mewn ymateb i newidiadau mewn refeniw treth yn diogelu gwasanaethau lleol yn gyffredinol.

Caiff y Grant Cynnal Refeniw ei ddyrannu drwy ddefnyddio fformiwla fanwl sy'n ystyried y gallu lleol i godi adnoddau, er mwyn sicrhau bod cyllid grant yn deg rhwng cymunedau. Pan fo gallu cyngor i godi Treth Gyngor yn lleihau o ganlyniad i ddiwygio, byddai'r cyngor yn cael cyfran yn fwy o'r Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru, ac fel arall. Rydym yn gweithio gyda chynghorau er mwyn cytuno ar y fformiwla gyllido ar gyfer y Grant Cynnal Refeniw bob blwyddyn drwy Gyngor Partneriaeth Cymru a'i is-grwpiau. Mae'r Is-grŵp Dosbarthu eisoes yn paratoi i gynnal y trafodaethau manwl hynny fel rhan o'i raglen waith drwy gydol 2024, a bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi mwy o wybodaeth i alluogi'r Grŵp i wneud ei waith. Gofynnir i'r arbenigwyr hyn ddod ynghyd i roi argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut i ymdrin â dyraniadau'r Grant Cynnal Refeniw.

Byddwn hefyd yn dwyn ynghyd grwpiau technegol i drafod agweddau eraill ar y rhaglen drawsnewid hon, gan gynnwys newid gweithdrefnol, gweithdrefnau cyllidebu a thybiaethau casglu.

Moderneiddio'r gwasanaeth a ddarperir i drethdalwyr

Mae dechrau ar daith tuag at greu Treth Gyngor decach hefyd yn cynnig cyfleoedd i drawsnewid y gwasanaeth a ddarperir i drethdalwyr, drwy wella tryloywder a chyfranogiad yn y broses. Yn yr adran hon rydym yn trafod sut y bwriadwn wella mynediad at wybodaeth, codi ymwybyddiaeth pobl o rolau a chyfrifoldebau'r gwahanol sefydliadau dan sylw, a gwella'r broses sy'n ymwneud ag apeliadau. Gallem gyflwyno'r newidiadau hyn fis Ebrill 2025, fan gynharaf, waeth beth fydd y newidiadau i'r prisiadau eiddo a'r bandiau treth.

Mynediad at wybodaeth

Clywsom drwy'r ymgynghoriad cam 1 yn 2022, a thrwy ymchwil gymdeithasol a grwpiau ffocws yn 2023, fod tystiolaeth glir o ddiffyg gwybodaeth ynglŷn â system y Dreth Gyngor, ac mae hynny'n achos pryder. Dywedodd trethdalwyr nad oeddent yn gwybod am beth mae'r Dreth Gyngor yn talu mewn cymunedau, sut y caiff ei chyfrifo, sut y caiff y dreth ei llunio, a pha sefydliadau sy'n gyfrifol am ei gwahanol elfennau. Mae camsyniadau ynglŷn â sut mae'r Dreth Gyngor yn cyfrannu at fanteision cymdeithasol ehangach, ac nid oes digon o drethdalwyr yn hawlio'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sydd ei angen. Mater datganoledig yw polisi Treth Gyngor, ond eto gall dryswch godi ynglŷn â pholisïau Treth Gyngor gwahanol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Rydym wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth gyffredinol o'r Dreth Gyngor a gwella mynediad at wybodaeth. Roedd rhai ymatebion i'r ymgynghoriad cam 1 yn galw'n benodol am un gwasanaeth gwybodaeth am y Dreth Gyngor i Gymru er mwyn cyflawni'r nod hwn. Bwriadwn greu gwefan newydd sy'n storio gwybodaeth am y dreth gyngor yng Nghymru, er mwyn cydgrynhoi a gwella hygyrchedd digidol, a gwella tryloywder o ran y gwasanaethau lleol a ariennir gan y Dreth Gyngor.

Byddwn yn gweithio gyda chynghorau i wella'r wybodaeth y maent yn ei darparu drwy sianeli a gwasanaethau lleol ynglŷn â'r Dreth Gyngor. Ceir hefyd wasanaethau cynghori lleol a chenedlaethol megis Cyngor ar Bopeth Cymru sy'n rhoi cyngor a chymorth i aelodau o'r cyhoedd ynglŷn â materion Treth Gyngor. Mae gwasanaethau o'r fath yn dilyn sawl ffynhonnell o wybodaeth am y Dreth Gyngor. Er na fyddem yn ceisio atal rhanddeiliaid rhag darparu eu gwybodaeth eu hunain i'r cyhoedd, byddai tudalennau gwe newydd ar y Dreth Gyngor yng Nghymru o gymorth o ran cysondeb, yn cynnig cynnwys parod y gellid ei ailddefnyddio ac yn helpu i symleiddio'r broses o gyfeirio pobl at wybodaeth.

Apeliadau a grymuso trethdalwyr

Pwysleisiodd ein hymgynghoriad cam 1 y caiff hawl pobl i apelio ei chynnal fel rhan o unrhyw ddiwygiadau a wneir, fel agwedd hanfodol ar degwch. Y sefydliadau allweddol sy'n rhan o'r broses hon yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Ein huchelgais yw sicrhau bod y broses o ddod o hyd i wybodaeth a holi am fandiau'r Dreth Gyngor yn fwy effeithlon, yn haws ei dilyn rhwng y sefydliadau hyn ac yn fwy tryloyw a modern. Byddwn hefyd yn ehangu'r cymhwystra i apelio ar gyfer blwyddyn gyntaf pob cylch ailbrisio.

Tryloywder

Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i ystyried opsiynau ar gyfer gwell gwasanaeth ar-lein er mwyn cyflawni'r nodau hynny, a fyddai'n golygu bod y Dreth Gyngor yn cyd-fynd â gwasanaethau ar-lein eraill y llywodraeth ar gyfer amrywiaeth o faterion personol ac ariannol. Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth hwn yn ei gwneud yn bosibl i drethdalwyr weld mwy o'r wybodaeth sy'n bwydo i mewn i fandiau eiddo a'i dilysu, megis rhai o'r nodweddion ffisegol neu wybodaeth am werthiannau, sydd wedi cyfrannu at yr asesiad o'u band Treth Gyngor.

Cymhwystra

Ar hyn o bryd, dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn y gellir herio band Treth Gyngor yn ffurfiol am fod y rhestr brisio bresennol wedi bod mewn grym am amser hir, ers mis Ebrill 2005. Dim ond o fewn 6 mis ar ôl dod yn drethdalwr newydd ar gyfer eiddo, neu o dan amgylchiadau penodol (e.e. os bu newid ffisegol i'r eiddo neu i leoliad cyfagos) y gall trethdalwyr herio band Treth Gyngor yn ffurfiol.

Bwriadwn estyn y cymhwystra i apelio i 12 mis cyntaf pob rhestr brisio newydd ar ôl ymarfer ailbrisio'r Dreth Gyngor. Wedi hynny, byddem yn dychwelyd at y meini prawf cymhwystra arferol ar gyfer herio bandiau, e.e. wedi'u cyfyngu i drethdalwyr newydd neu pan fo newidiadau ffisegol i'r eiddo neu i'r ardal o'i amgylch. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnig proses anffurfiol o adolygu bandiau. Disgwylir y bydd y broses gyfathrebu â'r Asiantaeth yn cael ei gwella drwy ei gwneud yn bosibl i drethdalwyr allu gweld mwy o'r wybodaeth a ddelir am eu heiddo.

Cynigion gweithdrefnol

Bwriadwn hefyd wahaniaethu'n gliriach rhwng y camau yn y weithdrefn apelio. Pan fydd trethdalwr yn cyflwyno her ffurfiol, os na fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cytuno i newid y band, bydd yr achos yn symud ymlaen yn awtomatig i gael ei wrando gan Dribiwnlys Prisio Cymru. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn darparu gwybodaeth ynglŷn â pham nad oes angen diwygio'r band ym marn yr Asiantaeth. Ein nod yw rhoi dewis i drethdalwyr o ran pa mor bell ar hyd y broses herio ffurfiol y maent am fynd. Gall y broses drosglwyddo awtomatig arwain at gael hysbysiad o wrandawiad tribiwnlys yn annisgwyl ac nid yw'r trethdalwr yn chwarae rhan weithredol yn y penderfyniad hwnnw. Mae hyn yn golygu y gall y broses fod yn benagored, yn amwys weithiau, ac yn aneffeithlon a gall beri i rai trethdalwyr deimlo o dan fygythiad neu'n emosiynol. Mae Llywodraeth Cymru weithiau'n cael cwynion gan drethdalwyr nad oeddent yn ymwybodol y byddent yn cael eu galw'n awtomatig i wrandawiad tribiwnlys.

Er mwyn grymuso trethdalwyr, rydym o'r farn y dylem wahanu camau her ffurfiol i fand Treth Gyngor. Byddai trethdalwyr yn dal i gyflwyno cynnig i herio eu band yn uniongyrchol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ac os yw'r Asiantaeth yn cytuno, bydd yn diwygio'r band Treth Gyngor yn unol â hynny. Os na fydd yn cytuno, bydd yn rhaid rhoi rheswm i'r trethdalwr pam nad yw'n cytuno, gan roi tystiolaeth ategol. Os bydd trethdalwr yn anfodlon o hyd ar ganlyniad y broses honno, rydym yn cynnig y byddai wedyn yn gallu penderfynu apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru, sy'n annibynnol ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae hyn yn golygu na fyddai trethdalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn gwrandawiad tribiwnlys annisgwyl, neu gymryd rhan yn ddirybudd. Hwy eu hunain fyddai'n penderfynu eu bod am ddefnyddio'r gwasanaeth.

Ein bwriad yw datblygu'r cynigion hyn yn fanylach. Byddwn yn ymgynghori fel sy’n briodol ar unrhyw gynigion penodol sy'n deillio o'r gwaith hwn.

Gweinyddu’r Dreth Gyngor

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried pa newidiadau y gellir eu gwneud i'r fframwaith cyfreithiol i helpu cynghorau i reoli'r gwaith o gasglu'r Dreth Gyngor mewn ffyrdd sy'n fwy ystyriol o amgylchiadau aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Bydd hyn yn cynnwys adolygu'r broses orfodi bresennol ac ystyried y symiau y mae aelwydydd yn atebol i'w talu ar wahanol adegau yn y broses gasglu. Mae hwn yn fater pwysig ac, o ystyried y safbwyntiau a gafwyd yn yr ymgynghoriad cam 1, rydym wedi bod yn trafod â llywodraeth leol a rhwydweithiau cynghori sy'n cynrychioli trethdalwyr i ystyried ffyrdd o wella'r broses. Ein bwriad yw ymgynghori ar gynigion y flwyddyn nesaf pan fydd y manylion wedi'u paratoi.

Hynt y broses o adolygu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn system sy'n rhoi cymorth sylweddol ac yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â thlodi ledled Cymru. Mae'r cynllun yn werth dros £280 miliwn bob blwyddyn ac mae'n cefnogi 260,000 o aelwydydd incwm isel. Gallai darparu system Treth Gyngor decach a mwy graddoledig ostwng yr incwm Treth Gyngor y mae cynghorau yn ei ildio drwy'r cynllun, oherwydd y bydd biliau Treth Gyngor y rhai sy'n byw mewn eiddo ym mandiau A i C yn is. Fodd bynnag, mae'n bwysig pwysleisio nad yw Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn cael ei ddileu ac nad yw'r meini prawf cymhwystra ar ei gyfer yn cael eu cyfyngu. Fel y soniwyd uchod, mae'r IFS yn amcangyfrif, ar sail ar y lefelau cymorth presennol, y gallai Dull 3 a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn olygu gostyngiad o oddeutu £23m y flwyddyn yn yr incwm Treth Gyngor a gaiff ei ildio. Gan fod Dull 1 yn system sydd wedi'i diweddaru, ond sy'n dal i fod yn anraddoledig, amcangyfrifir y bydd yn golygu £3 i £4m o leihad yng ngwerth y cymorth. Mae'r rhain yn ganfyddiadau cychwynnol pwysig i Lywodraeth Cymru eu dadansoddi ymhellach mewn cydweithrediad â llywodraeth leol.

Yn ogystal ag edrych ar effeithiau treth decach, yr haf diwethaf fe wnaethom ofyn am eich barn ar wella Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ei hun. Roedd y mwyafrif o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o blaid y cynigion i roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu un cynllun cenedlaethol, a weinyddir yn lleol gan gynghorau lleol a lle mae'n bosibl gwneud newidiadau yn ystod y flwyddyn. O ganlyniad, mae'r newidiadau hyn wedi'u cynnwys yn y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) arfaethedig.

Fe wnaethom hefyd gynnull gweithgor o ymarferwyr o'r cynghorau i drafod syniadau ar gyfer newidiadau i'r cynllun yn y dyfodol, er mwyn parhau i fynd i'r afael â thlodi yn sgil newidiadau i system les y DU. Mae cymorth i dalu'r Dreth Gyngor drwy'r cynllun ar gyfer aelwydydd o oedran gweithio yn rhan bwysig o'r cymorth lles i aelwydydd ar incwm isel. Caiff Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ei weinyddu gan gynghorau. Yn hanesyddol, nifer bach o drigolion a allai fod yn gymwys sydd wedi bod yn manteisio arno, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad Treth Gyngor yn parhau i ostwng.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn, rydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad arall ar newidiadau pellach i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor er mwyn gwneud gostyngiadau'r dreth gyngor yn haws eu hawlio ac yn symlach i'w gweinyddu.

Hynt y broses o adolygu disgowntiau, eithriadau a phremiymau

Mae'r adran hon o'r ymgynghoriad yn rhoi diweddariad ar hynt ein gwaith ar yr adolygiad sydd ar y gweill. Rydym hefyd yn gofyn am eich barn am rai newidiadau penodol rydym yn bwriadu eu gwneud. Nid yw'r amser ar gyfer y newidiadau hyn yn dibynnu ar bryd y byddwn yn gwneud newidiadau i brisiadau eiddo a'r bandiau treth.

Cyflwyniad

Mae cynnig disgowntiau ac eithriadau yn ysgogydd polisi pwysig sy'n sicrhau bod rhai mathau o aelwydydd yn cael cymorth, gan gyfrannu at nodau economaidd-gymdeithasol ehangach megis mynd i'r afael â thlodi, a gwneud y dreth yn fwy effeithlon i'w chasglu. Mae llawer o'r trefniadau wedi bodoli ers cyflwyno'r dreth yn 1993 ac mae angen inni sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol a helpu i greu system decach.

Nododd yr ymgynghoriad cam 1 yn 2022 y byddem yn dechrau ar adolygiad llawn o'r 53 o gategorïau o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau sy'n gysylltiedig â'r Dreth Gyngor, a gwnaethom geisio eich barn arnynt. Rydym bellach ran o'r ffordd drwy'r adolygiadau hynny.

Ein nod, wrth adolygu'r amrywiaeth o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau, fyddai gwella a moderneiddio'r system er mwyn sicrhau ei bod yn cyfrannu at gyflawni ein nod o wneud y Dreth Gyngor yn decach. Gallai hyn gynnwys gwneud y system yn fwy hygyrch i drethdalwyr, annog pobl i fanteisio ar y cymorth y maent yn gymwys i'w hawlio, dileu'r stigma a all fod yn gysylltiedig â rhai mathau o gymorth, a thargedu cymorth ac atebolrwydd yn fwy effeithiol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt ein gwaith adolygu ac yn gofyn nifer o gwestiynau am y newidiadau rydym yn ystyried eu gwneud ar sail canlyniadau interim yr adolygiad hyd yn hyn. Nid ydym yn bwriadu dileu na lleihau'r disgownt un oedolyn o 25% ar hyn o bryd.

Eithriadau

Mae rhai categorïau o eiddo wedi'u heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor. Gallai eiddo gael ei eithrio am gyfnod byr yn unig, er enghraifft, 6 mis, neu gall fod wedi'i eithrio am gyfnod amhenodol yn dibynnu ar y math o eithriad. Mae eiddo a allai gael ei eithrio yn cynnwys eiddo a feddiennir gan fyfyrwyr yn unig neu eiddo sydd wedi'i  ailfeddiannu'n gyfreithiol gan fenthyciwr morgeisi.

Personau a ddiystyrir (rhywun nad yw'n cael ei gyfrif ar gyfer y Dreth Gyngor)

Nid yw rhai pobl yn cael eu cyfrif (cânt eu 'diystyru') wrth gyfrifo faint o bobl sy'n byw mewn eiddo at ddibenion cyfrifo biliau'r Dreth Gyngor. Mae enghreifftiau'n cynnwys pobl ag amhariad meddyliol difrifol, myfyrwyr, a phobl ifanc sy'n gadael gofal. Os oes dau oedolyn yn byw mewn eiddo a bod un ohonynt yn cael ei ddiystyru, mae disgownt o 25% yn gymwys. Os caiff pob un o'r oedolion sy'n byw mewn eiddo eu diystyru, bydd disgownt o 50% yn gymwys.

Disgowntiau

Mae'r Dreth Gyngor a godir ar eiddo yn seiliedig ar y dybiaeth bod o leiaf 2 oedolyn atebol yn byw ynddo. Bydd eiddo ag un preswylydd atebol yn unig yn gymwys i gael disgownt o 25% (y cyfeirir ato fel y disgownt un oedolyn neu berson sengl), a bydd annedd heb unrhyw breswylwyr atebol yn gymwys i ddisgownt o 50%.

Nid yw'r disgowntiau hyn yn golygu mai dim ond un oedolyn sy'n byw yn yr aelwyd na bod yr annedd yn wag, gall hyn fod yn nodwedd gymhleth ar system y Dreth Gyngor i drethdalwyr ei dilyn a'i deall.

Gostyngiad band oherwydd anabledd

Mae gostyngiad ar gael i eiddo sydd wedi'i addasu i'w ddefnyddio gan breswylwyr anabl. Caiff y bil Treth Gyngor ei ostwng yn ôl yr hyn sy’n cyfateb i un band, at ddibenion proses y cyngor o gyfrifo’r bil Treth Gyngor. Er enghraifft, bydd eiddo Band B a addaswyd i'w ddefnyddio gan breswylwyr anabl yn cael ei drin fel pe bai’n eiddo Band A at ddibenion codi Treth Gyngor.

Ceir rhestr lawn o'r 53 o eithriadau, diystyriadau a disgowntiau yn Atodiad A.

Premiymau

Gellir hefyd godi swm ychwanegol o Dreth Gyngor ar eiddo (‘premiwm’) os yw wedi bod yn wag ers dros flwyddyn neu os nad yw'n unig breswylfa nac yn brif breswylfa person (cyfeirir ato'n aml fel ail gartref). Penderfynodd pob cyngor a ddylid defnyddio premiwm yn ei ardal a pha lefel y dylid ei ddefnyddio. Gan fod newidiadau wedi’u gwneud yn ddiweddar i'r pwerau sy'n ymwneud â premiymau, mae'r adolygiad wedi dod i'r casgliad nad oes angen newid pellach ar hyn o bryd.

Adolygu'r categorïau

Hyblygrwydd i wneud newidiadau

Mae'r rheolau ar gyfer gweinyddu gostyngiadau, diystyriadau, eithriadau a premiymau Treth Gyngor yn deillio o gymysgedd gymhleth o ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a gwahanol ddarnau o is-ddeddfwriaeth. Caiff y rheolau eu hategu gan bwerau presennol Gweinidogion Cymru i wneud rhagor o is-ddeddfwriaeth o dan amgylchiadau penodol, a phwerau cynghorau i wneud penderfyniadau lleol ynglŷn â disgowntiau a phremiymau.

Dros amser, mae'r rheolau hyn wedi mynd yn gymhleth ac, yn aml, mae'n anodd i aelwydydd eu deall, i ymarferwyr eu gweithredu ac i asiantaethau cynghori roi cyngor arnynt. Hefyd, cyfyngir ar ein gallu i newid y rheolau mewn ffordd ddigon hyblyg, ac mewn ffyrdd sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ymateb i newidiadau yn yr economi, mewn cymdeithas neu yn y byd yn fwy cyffredinol. Ymhlith yr enghreifftiau yn y gorffennol lle roedd angen gwneud newidiadau mae ymateb i bandemig y coronafeirws, eithrio'r rhai sy'n gadael gofal a rhoi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin.

Roedd safbwyntiau a gawsom yn yr ymateb i'r ymgynghoriad cam 1 yn cefnogi ein cynnig i greu mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r disgowntiau statudol presennol drwy bwerau newydd i wneud is-ddeddfwriaeth. Felly, bwriadwn symleiddio a chydgrynhoi rhannau o'r ddeddfwriaeth i roi eglurder, mwy o hyblygrwydd a helpu i ddiogelu'r Dreth Gyngor yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) arfaethedig.

Cynnydd yr adolygiad

Rydym ran o'r ffordd drwy adolygiad o bob categori o ddisgownt Treth Gyngor, person a ddiystyrir, eithriad a phremiwm er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn dal i fod yn berthnasol i uchelgeisiau polisi heddiw a helpu i greu system decach.

Ein nod, wrth adolygu'r amrywiaeth o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau, fyddai gwella a moderneiddio'r system er mwyn sicrhau ei bod yn cyfrannu at gyflawni ein nod o wneud y Dreth Gyngor yn decach. Gallai hyn gynnwys gwneud y system yn fwy hygyrch i drethdalwyr, annog pobl i fanteisio ar y cymorth y maent yn gymwys i'w hawlio, dileu'r stigma a all fod yn gysylltiedig â rhai mathau o gymorth, a thargedu cymorth ac atebolrwydd yn fwy effeithiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ystyried y safbwyntiau eang eu cwmpas a gyflwynwyd i'r ymgynghoriad cam 1, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol sefydliadau lleol a rhwydweithiau sy'n cynrychioli pobl Cymru er mwyn ystyried ac adolygu pob categori. Yn ogystal â nifer o drafodaethau amrywiol, mae hyn wedi cynnwys dod ag ymarferwyr o’r cynghorau at ei gilydd mewn gweithgor pwrpasol.

Mewn adolygiad lefel uchel cychwynnol, nodwyd 4 categori y dylid eu blaenoriaethu i’w hystyried ar unwaith, a chrynhoir y rhain isod.

  • y disgownt un oedolyn
  • y disgownt eiddo gwag
  • yr eithriad ar gyfer eiddo heb ei feddiannu lle nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi eto
  • yr eithriad a’r diystyriad ar gyfer pobl ag amhariad meddyliol difrifol

Mae 11 categori pellach wedi'u nodi ar gyfer adolygiad manwl pellach dros weddill tymor y Senedd gyda'r bwriad o ddiwygio deddfwriaeth lle bo angen. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen categorïau newydd o ostyngiadau neu ddisgowntiau.

Y disgownt un oedolyn

Os mai dim ond un oedolyn atebol sy'n byw yn yr eiddo, caiff y bil ei leihau 25%. Er y cyfeirir at y disgownt fel ‘disgownt person sengl’ yn aml, mae'n gymwys nid yn unig pan fo un oedolyn yn byw mewn eiddo ond hefyd mewn llawer o achosion pan fydd mwy nag un oedolyn a bod pawb heblaw un yn cael ei ‘ddiystyru’ (heb ei gyfrif) at ddibenion y Dreth Gyngor. Golyga hyn, er enghraifft, fod aelwydydd un rhiant yn gymwys i gael y disgownt o 25%, ond hefyd aelwydydd lle mae dau oedolyn a bod un ohonynt yn cael ei ddiystyru am ryw reswm (e.e. am ei fod yn weithiwr gofal, am fod ganddo amhariad meddyliol difrifol, neu am ei fod wedi gadael gofal). Gall hyn fod yn eithaf cymhleth i'w ddeall, ac mae'n arwain at gamsyniadau ynglŷn â'r disgownt un oedolyn.

Ar 1 Ebrill 2023, roedd dros 500,000 o aelwydydd yng Nghymru yn cael disgownt o 25%, naill ai oherwydd bod yr aelwyd yn cynnwys dim ond un oedolyn atebol neu oherwydd bod pob oedolyn ond un yn cael ei ddiystyru at ddibenion treth y cyngor. Mae hyn yn gyfran fawr o gyfanswm y 1.5 miliwn eiddo yng Nghymru, sy'n ei wneud yn un o'r disgowntiau pwysicaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir y bydd y disgownt un oedolyn yn parhau. Er y bydd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) arfaethedig yn cynnwys pwerau newydd i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch disgowntiau a diystyriadau yn fwy cyffredinol, bydd y Bil yn cynnal y disgownt un oedolyn. Drwy ddefnyddio’r pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil, rydym yn cynnig ailddatgan y disgownt hwnnw ar 25%.

Disgownt eiddo gwag (dim preswylwyr atebol)

Pan gyflwynwyd y Dreth Gyngor, roedd gostyngiad o 50% yn berthnasol i'r rhan fwyaf o eiddo gwag. Fodd bynnag, deddfodd Llywodraeth Cymru yn 2004 i ganiatáu i gynghorau lleol ddewis dileu neu leihau'r disgownt o 50% mewn achosion penodol. Mae pob cyngor lleol yng Nghymru wedi defnyddio'r pwerau hyn i roi'r gorau i roi gostyngiad o 50% i eiddo heb unrhyw breswylwyr.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw bellach yn briodol nac yn angenrheidiol cadw gostyngiad statudol ar y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag, ac eithrio ar gyfer y mathau penodol o eiddo a restrir isod. Bydd y gostyngiad o 50% yn cael ei gadw ar gyfer eiddo lle caiff yr holl breswylwyr eu diystyru at ddibenion treth y cyngor.

Erys nifer bach o fathau o eiddo heb breswylwyr sy'n parhau i gael disgownt o 50%. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • llain a feddiennir gan garafán neu angorfa a feddiannir gan gwch
  • eiddo gwag lle mae'r cyn-feddiannydd wedi marw ac mai’r person atebol yw ei gynrychiolydd personol ac nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi
  • eiddo a adawyd yn wag am fod person yn byw mewn eiddo gwahanol sy'n gysylltiedig â swydd a ddarparwyd iddo at ddibenion gwneud ei waith

Drwy'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) arfaethedig bwriadwn ddileu'r disgownt statudol o 50% ar gyfer eiddo lle nad oes unrhyw breswylydd atebol, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a restrir uchod. Gan fod pob cyngor eisoes wedi defnyddio disgresiwn lleol i ddileu'r disgownt o dan amgylchiadau eraill, ni fydd unrhyw effaith ar dalwyr presennol y Dreth Gyngor.

Eiddo heb ei feddiannu pan nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi eto

Y sefyllfa bresennol

Rhoddir eithriad Dosbarth F ar hyn o bryd ar gyfer eiddo nad yw wedi cael ei feddiannu ers marwolaeth ei gyn-breswylydd os mai'r unig berson sy'n atebol am dalu'r Dreth Gyngor fyddai cynrychiolydd personol yr ymadawedig, ac nad oes unrhyw brofiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi.

Mae'r eithriad yn berthnasol am hyd at 6 mis ar ôl i brofiant neu lythyron gweinyddu gael eu rhoi. Cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu, nid oes cyfnod lleiaf i’r eithriad bara. Gall hyn olygu bod eiddo yn parhau i fod wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnodau hir iawn. Nid yw oedi cyn gwneud cais am brofiant, er enghraifft, yn cyfyngu ar yr eithriad, hyd yn oed os yw'n debygol mai'r ysgutor fydd y buddiolwr yn y pen draw.

Yr achos dros newid

Wrth adolygu'r eithriad hwn, gwelsom dystiolaeth glir o oedi mawr cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu, sy'n arwain at sefyllfa lle mae rhai anheddau yn cael eu gadael yn wag ac wedi'u heithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol. Er bod y niferoedd dan sylw yn gymharol fach, canfu ein gwaith nifer o achosion lle roedd eiddo wedi bod yn wag ac wedi'i eithrio am dros 10 mlynedd a rhai achosion lle roedd eiddo wedi'i eithrio ers dros 20 mlynedd.

Gall cyflwr anheddau sy'n wag am gyfnodau hir ddirywio, gallant achosi risgiau i ddiogelwch y gymuned a diogelwch personol, a gallant ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol megis fandaliaeth, llosgi anfwriadol neu sgwatio, a all hefyd leihau gwerth cartrefi cymdogion. O ystyried y galw am dai ac, yn benodol, yr angen am dai fforddiadwy, rydym o'r farn y dylem ddefnyddio'r holl opsiynau polisi sydd ar gael i annog perchenogion i sicrhau bod eiddo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, naill ai drwy ei werthu neu ar gyfer y farchnad rentu.

Cynnig

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cyflwyno terfyn amser cyffredinol ar eithriad rhag y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo heb ei feddiannu lle nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi eto, er mwyn annog y rhai sy'n gyfrifol i beidio â gadael yr eiddo yn wag.

Cynigir, unwaith y bydd y cyfnod hwyaf a ganiateir wedi mynd heibio, y byddai atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor ar yr eiddo, ac y byddai'r dreth yn cael ei chodi ar ystad yr ymadawedig drwy'r ysgutor dros yr eiddo. Nod gosod terfyn amser cyffredinol yw rhoi cymhelliant i wneud cais am brofiant a'i weithredu o fewn cyfnod rhesymol er mwyn atal eiddo rhag cael ei adael yn wag ac wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol.  Cynigiwn y dylid gwneud y newid hwn o 1 Ebrill 2026.

Rydym am ofyn am eich barn ar y cynnig i newid Eithriad F.

Cwestiwn

Ydych chi'n cytuno a dylai fod terfyn amser cyffredinol ar Eithriad F i annog y rhai sy'n gyfrifol i beidio â gadael eiddo yn wag ac wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol?

Beth sy’n gyfnod rhesymol i gael profiant neu lythyrau gweinyddu yn eich barn chi?

Pobl ag amhariad meddyliol difrifol

Y sefyllfa bresennol

Rhoddir eithriad Dosbarth U ar hyn o bryd ar gyfer eiddo a feddiennir gan un person ag amhariad meddyliol difrifol yn unig. Os yw'n byw gydag oedolyn arall nad yw wedi'i eithrio, caiff y person ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor, sy'n golygu y bydd yr aelwyd yn cael disgownt o 25%. Os caiff 2 neu fwy o oedolion eu diystyru, rhoddir disgownt o 50%.

Mae'r eithriad yn gymwys i unrhyw un y mae ymarferydd meddygol cofrestredig wedi ardystio bod ganddynt amhariad meddyliol difrifol. Diffinnir hyn ar hyn o bryd fel person sydd ag amhariad meddyliol difrifol ar weithrediad deallusol neu gymdeithasol (sut bynnag y'i hachoswyd) sy'n ymddangos yn barhaol. Mae cyflyrau sy'n gallu arwain at amhariad meddyliol difrifol yn cynnwys clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol a strociau. Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i'r person hefyd fod â hawl i un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Anuallogrwydd
  • Lwfans Mynychu
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i'r Anabl (elfen gofal ar gyfradd uwch neu ganolig)
  • cynnydd yn y pensiwn anabledd (am fod angen gweini cyson)
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Tâl atodol neu Lwfans i'r Anghyflogadwy
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Cymhorthdal Incwm (sy'n cynnwys premiwm anabledd)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (cyfradd safonol neu uwch)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (lle mae rhywun â gallu cyfyngedig i wneud gwaith a/neu weithgarwch cysylltiedig)

Yr achos dros newid

Er y gallai'r term ‘ag amhariad meddyliol difrifol’ fod wedi bod yn dderbyniol 30 mlynedd yn ôl pan grëwyd y Dreth Gyngor, mae'r term yn cael ei ystyried yn amhriodol erbyn hyn a gallai greu stigma sy'n atal rhai o blith y grŵp hwn o bobl sy'n agored i niwed rhag hawlio'r disgownt sydd ar gael iddynt. Drwy ein hymgynghoriad cam 1 cawsom 86 o awgrymiadau ar gyfer terminoleg amgen. Yn yr ymatebion nodwyd bod angen sicrhau bod trefniadau yn y dyfodol yn diffinio'n glir pwy sy'n gymwys i gael y disgownt ai peidio ac awgrymwyd y dylid ymgynghori ag arbenigwyr.

Cynullwyd gweithgor o arbenigwyr o sawl maes gwahanol i ystyried yr awgrymiadau ar gyfer teitl newydd, disgrifiad newydd a'r meini prawf cymhwyso. Gan ddefnyddio'r awgrymiadau a roddwyd gan rai a ymatebodd i'r ymgynghoriad cam 1, lluniwyd rhestr fer o deitlau newydd:

  • amhariad ymenyddol arwyddocaol
  • cyflwr ymenyddol arwyddocaol

Ni ystyrir bod y term ‘arwyddocaol’ yn gyfyngol a gall ysgogi trafodaeth rhwng ymarferydd meddygol ac unigolyn. Ystyrir bod y term ‘ymenyddol’ yn hytrach na gwybyddol yn haws ei ddeall i drethdalwyr. Mae'r term ‘amhariad’ yn y cyd-destun hwn yn gyson â'r Model Cymdeithasol o Anabledd, ond gellid defnyddio ‘cyflwr’ fel term amgen.

Trafododd y gweithgor y diffiniad hefyd a chytunwyd ar y canlynol:

Cyflwr neu newid meddyliol arwyddocaol (a pharhaol) sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu.

Caiff unrhyw newid i'r diffiniad ei ategu gan ganllawiau manylach.

Cynnig

Teitl

Gwelsom fod mwyafrif llethol o blaid newid y teitl ‘amhariad meddyliol difrifol’ ac rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol ar gyfer teitl newydd:

  • Opsiwn A: amhariad ymenyddol arwyddocaol
  • Opsiwn B: cyflwr ymenyddol arwyddocaol
Y diffiniad a'r meini prawf a gynigir

Cyflwr neu newid meddyliol arwyddocaol (a pharhaol) sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu.

Mae cefnogaeth hefyd i'r syniad o ddileu'r gofyniad i berson fod â hawl i gael un o'r budd-daliadau perthnasol er mwyn bod yn gymwys i gael eithriad neu i gael ei ddiystyru. Byddai'r angen am ardystiad meddygol yn parhau. Fel arall, pan fydd person yn gallu rhoi prawf o ddiagnosis clinigol, gallai'r gofyniad bod person yn cael budd-dal perthnasol gael ei ddileu yn ôl disgresiwn y cyngor.  Byddem yn cynnig y dylid gwneud y newidiadau hyn o 1 Ebrill 2026.

Cwestiwn

Hoffem ofyn am eich barn ar y cynnig i newid Eithriad U ar gyfer pobl ag amhariad meddyliol difrifol:

Pa deitl y dylid ei ddefnyddio yn lle ‘amhariad meddyliol difrifol’ yn eich barn chi?

Ydych chi’n cytuno â'r diffiniad a gynigir i ddisgrifio person sydd ag amhariad neu gyflwr ymenyddol arwyddocaol?

Oes gennych chi unrhyw farn ar y meini prawf i berson sydd ag amhariad neu gyflwr ymenyddol arwyddocaol fod yn gymwys i gael ei eithrio neu ei ddiystyru?

Atodiad A

Categorïau o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau

Disgowntiau (3)

  • Disgownt un oedolyn atebol (y cyfeirir ato fel disgownt ‘person sengl’).
  • Disgownt dim oedolyn atebol (y cyfeirir ato fel disgownt ‘eiddo gwag’):
    • Disgresiwn lleol.
    • Cyfyngiadau ar gyfer disgresiwn lleol.
  • Gostyngiad band oherwydd anabledd.

Personau a ddiystyrir (17)

  • Myfyrwyr.
  • Pobl ifanc dan hyfforddiant.
  • Prentisiaid.
  • Pobl ifanc o dan 20 oed sydd wedi gadael yr ysgol/coleg.
  • Gwŷr neu wragedd, partneriaid sifil a dibynyddion myfyrwyr nad ydynt yn Ddinasyddion Prydeinig na chaniateir iddynt weithio na hawlio budd-daliadau.
  • Unigolion 24 oed neu’n iau sy'n gadael gofal.
  • Pobl ag amhariad meddyliol difrifol.
  • Gofalwyr.
  • Cleifion mewn cartrefi gofal neu hosteli sy'n darparu gofal.
  • Plant: 17 oed neu’n iau, neu rywun sy'n dal i fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant.
  • Cleifion hirdymor mewn ysbyty.
  • Unigolion sy'n byw mewn hosteli a llochesi nos.
  • Carcharorion, pobl yn y ddalfa o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl a phobl yn y ddalfa sy'n aros i gael eu hallgludo.
  • Pobl mewn Pencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn.
  • Aelodau cymunedau crefyddol sy'n dibynnu ar y gymuned i ddiwallu eu hanghenion materol.
  • Aelodau lluoedd arfog sy'n ymweld a'u dibynyddion.
  • Diplomyddion.

Eithriadau (24)

  • Eiddo anghyfaneddol ac eiddo gwag sy'n destun gwaith addasu strwythurol neu waith atgyweirio.
  • Eiddo heb ei feddiannu sy'n perthyn i elusen.
  • Eiddo gwag a heb ddodrefn am hyd at chwe mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag.
  • Eiddo heb ei feddiannu am fod yr unigolyn a fyddai fel arall yn ei feddiannu dan gadwad o dan ddeddfiadau penodol.
  • Eiddo heb ei feddiannu am fod yr unigolyn a fyddai fel arall yn ei feddiannu yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal.
  • Eiddo heb ei feddiannu lle nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'i rhoi/wedi'u rhoi eto, ac am hyd at chwe mis ar ôl i brofiant neu lythyrau gweinyddu gael ei roi/eu rhoi.
  • Eiddo heb ei feddiannu y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith.
  • Eiddo heb ei feddiannu a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl lle maent yn cyflawni eu dyletswyddau.
  • Eiddo heb ei feddiannu am fod unig breswylfa neu brif breswylfa'r unigolyn atebol rywle arall er mwyn iddo gael gofal.
  • Eiddo heb ei feddiannu am fod unig breswylfa neu brif breswylfa'r unigolyn atebol rywle arall er mwyn iddo ddarparu gofal.
  • Eiddo heb ei feddiannu pan fo'r unigolyn atebol yn fyfyriwr ac mae wedi bod yn fyfyriwr ers y tro diwethaf iddo feddiannu'r eiddo.
  • Eiddo heb ei feddiannu sydd wedi'i ailfeddu.
  • Neuadd breswyl a ddarperir yn bennaf ar gyfer llety myfyrwyr.
  • Eiddo a feddiennir gan fyfyrwyr, gwŷr neu wragedd tramor myfyrwyr neu unigolion sy'n gadael yr ysgol neu goleg yn unig.
  • Llety'r lluoedd arfog.
  • Llety lluoedd arfog sy'n ymweld.
  • Eiddo heb ei feddiannu a adawyd yn wag gan fethdalwr.
  • Llain carafán neu angorfa cwch nas defnyddir.
  • Eiddo a feddiennir gan bobl o dan 18 oed yn unig.
  • Eiddo heb ei feddiannu sy'n rhan o un eiddo sy'n cynnwys eiddo arall ac na ellir ei osod ar wahân i'r eiddo aralll heb dorri rheolau cynllunio.
  • Eiddo a feddiennir gan bobl ag amhariad meddyliol difrifol yn unig.
  • Eiddo lle mae o leiaf un unigolyn, a fyddai fel arall yn atebol, yn ddiplomydd.
  • Eiddo sy'n rhan o un eiddo, gan gynnwys o leiaf un eiddo arall, ac sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa i berthynas dibynnol unigolyn sy'n byw yn yr eiddo arall (e.e. anecs).
  • Eiddo a feddiennir gan unigolyn neu unigolion sy'n gadael gofal o dan 25 oed yn unig.

Premiymau (2)

  • Eiddo gwag hirdymor.
  • Eiddo a feddiennir o bryd i'w gilydd (ail gartrefi).

Eithriadau rhag talu premiymau (7)

  • Eiddo sy'n cael ei farchnata i'w werthu (am gyfnod penodedig o flwyddyn).
  • Eiddo sy'n cael ei farchnata i'w osod (am gyfnod penodedig o flwyddyn).
  • Anecs sy'n cael ei drin fel rhan o'r prif eiddo.
  • Preswylydd yn llety'r lluoedd arfog rywle arall.
  • Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod a feddiennir.
  • Cartrefi tymhorol lle y gwaherddir byw ynddynt drwy gydol y flwyddyn, llety gwyliau neu eiddo sy'n cael ei atal rhag bod yn unig breswylfa neu'n brif breswylfa person.
  • Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiynau am fandiau Treth Gyngor a chyfraddau treth

Darllenwch am y 3 dull posibl o lunio system Dreth Gyngor newydd cyn ateb y cwestiynau canlynol. Rydym yn croesawu tystiolaeth am y manteision posibl i gartrefi a chynghorau a'r effeithiau posibl. Yn benodol, hoffem glywed gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddod o gefndiroedd difreintiedig a'r rhai sydd wedi cael profiad o weithio gyda phobl â nodweddion gwarchodedig.

Cwestiwn 1

Ym mha fand Treth Gyngor rydych chi ar hyn o bryd? Dewiswch opsiwn. Mae'n bosibl y byddwch am edrych ar eich bil Treth Gyngor diweddaraf neu gallwch gadarnhau eich band Treth Gyngor drwy chwilio yn ôl eich cyfeiriad neu'ch cod post.

Cwestiwn 2

Yn ardal pa gyngor ydych chi'n byw?

Cwestiwn 3

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos 3 dull posibl o lunio system Treth Gyngor decach. Rydym am ofyn i chi am eich awydd i ddiwygio.

Cwestiwn 4

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio pryd y gellid gwneud y newidiadau i fandiau Treth Gyngor a chyfraddau Treth Gyngor. Unwaith eto, rydym am ofyn am eich awydd i weld diwygio.

Cwestiwn 5

Ydych chi'n cytuno y dylai fod terfyn amser cyffredinol ar Eithriad F i annog y rhai sy'n gyfrifol i beidio â gadael eiddo yn wag ac wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol?

Cwestiwn 6

Beth sy’n gyfnod rhesymol i gael profiant neu lythyrau gweinyddu yn eich barn chi?

Cwestiwn 7

Pa deitl y dylid ei ddefnyddio yn lle ‘amhariad meddyliol difrifol’ yn eich barn chi?

Cwestiwn 8

Ydych chi’n cytuno â'r diffiniad a gynigir i ddisgrifio person sydd ag amhariad neu gyflwr ymenyddol arwyddocaol?

Cwestiwn 9

Oes gennych chi unrhyw farn ar y meini prawf i berson sydd ag amhariad neu gyflwr ymenyddol arwyddocaol fod yn gymwys i gael ei eithrio neu ei ddiystyru?

Cwestiwn 10

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol o ran cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau positif, neu liniaru’r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 11

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid ffurfio neu addasu'r cynnig polisi er mwyn cael  effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 12

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 6 Chwefror 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

  • llenwi ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at LGFR.ymgyngoriadau@llyw.cymru
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:

Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG48222

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.