Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym (Awdurdod Cyllid Cymru) yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni wedi'u derbyn erbyn 16 Ionawr 2023.

Mae Tabl 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022
  • y newid o ran canran yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021 (a wnaed ym mis Ionawr 2022).

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn yr adran ‘Ynglŷn â’r ystadegau yma’ (‘Cymariaethau dros amser’).

Tabl 1.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif blaenorol blwyddyn ynghynt [nodyn 1]
Math o drafodiad Hydref i Ragfyr 2022 [dros dro] Newid o ran % (o gymharu â Hydref i Ragfyr 2021) [nodyn 3] 
Trafodiadau [nifer]     
Preswyl  14,680 -8%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 3,160 -15%
Amhreswyl 1,510 -7%
Pob trafodiadau 16,190 -8%
Treth yn ddyledus [£ miliwn]     
Preswyl  80.5 -1%
O'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 2]  25.9 -9%
Amhreswyl  18.3 -41%
Pob trafodiadau 98.8 -12%

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae tabl hwn yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021 a wnaed ym mis Ionawr 2022.

Tabl 1.2 Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig, yn ôl blwyddyn ariannol y daeth y trafodiad i rym (£ miliwn)
  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr [nodyn 1]  [w] 28.2 [w] [w]
Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd) [nodyn 2]  [w] 2 0 [w]

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

[Nodyn 1] Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

[Nodyn 2] Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

[w] Dim trafodiadau a gofnodwyd yn y categori hwn.

Gan gymharu Hydref i Ragfyr 2022 gyda Hydref i Ragfyr 2021 ar sail tebyg am debyg:

  • gostyngodd cyfanswm y trafodiadau o 8% a gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 12%
  • gostyngodd trafodiadau preswyl gan 8% a gostyngodd threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 1%
  • o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 15%
  • gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 9%, er y dylid bod yn ofalus wrth wneud y gymhariaeth hon. I gael mwy o wybodaeth, gweler ‘Cymariaethau dros amser’ yn yr adran ‘ynglŷn â’r ystadegau yma’ yn y datganiad hwn.
  • bu gostwng o 7% mewn trafodiadau anhreswyl. Gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 41%

Nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys y trafodiadau ychwanegol a gyflwynir yn Nhabl 1.2 uchod. Dylid defnyddio'r gwerthoedd yn Nhabl 1.2 os am gael gwerth ar gyfer cyfanswm y refeniw Treth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn, yn unig.

Ar gyfer trafodiadau preswyl, gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 o’r gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma yng Ngorffennaf i Fedi 2022. Mae’r lefelau cymharol uchel y dreth oedd yn ddyledus wedi cael eu hachosi’n bennaf gan werthoedd yr eiddo a werthwyd.

Dylid nodi bod rhai cyfraddau a bandiau treth preswyl wedi newid o 10 Hydref 2022 ymlaen. Yn adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn, rydym yn nodi nad ydym wedi gweld unrhyw effaith canfyddadwy ar nifer y trafodiadau neu dreth oedd yn ddyledus yn yr wythnosau cyn ac ar ôl cyflwyno’r newid hwn.

Ni effeithiodd y newidiadau hyn yn y cyfraddau a bandiau preswyl ar drafodiadau preswyl ar y cyfraddau uwch. Am resymau nad ydynt ddim eto’n glir, roedd nifer y trafodiadau cyfraddau uwch yn Hydref i Ragfyr 2022 15% yn is na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Mae adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn yn dangos cynnydd cyffredinol yng ngwerth eiddo preswyl. Mae canran y trafodiadau preswyl a oedd â gwerth hyd at ac yn cynnwys £180,000 wedi gostwng yn sylweddol, o 66% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 45% yn Ngorffennaf i Fedi 2022 a Hydref i Ragfyr 2022, y ffigurau chwarterol isaf a welwyd hyd yma. Hefyd, cododd canran y trafodiadau preswyl oedd â gwerth dros £400,000 o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 11% yn Ngorffennaf i Fedi 2022 a Hydref i Ragfyr 2022, y ffigurau chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Dylid nodi bod y tueddiadau hyn wedi bod yn anwastad, gydag amrywiad tymhorol i'w weld yn y canrannau o fewn pob blwyddyn.

Dros bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. O Fawrth 2021 i Fehefin 2022, roedd refeniw amhreswyl dros £8 miliwn yn y rhan fwyaf o fisoedd, ond dim ond unwaith y bu’n fwy na’r swm hwn o fis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2022. Roedd y tueddiadau o fis Mawrth 2021 i fis Mehefin 2022 wedi'u hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y 6 mis ers hynny.

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Arhosodd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl ar lefelau cymharol uchel o fis Hydref i fis Rhagfyr, er gwaethaf cwymp o’r lefel uchaf erioed a welwyd yn y chwarter blaenorol. Yn yr un modd, cwympodd gwerthoedd cyfartalog eiddo preswyl a werthwyd fymryn y chwarter hwn, tra'n parhau ar lefelau cymharol uchel yn hanesyddol.

“Roedd y refeniw chwarterol o drafodiadau amhreswyl yn is ym mis Hydref i fis Rhagfyr nag ym mhob un o’r 6 chwarter blaenorol. Roedd y tueddiadau cynharach wedi’u hachosi’n bennaf gan nifer fach o drafodiadau mawr, y gwelsom lai o drafodiadau o’r fath yn y chwarter diwethaf.”

Nôl i dop y dudalen

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y 2 dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Cymariaethau dros amser

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidiadd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022. Disgrifir unrhyw oblygiadau’r newidiadau hyn yn adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gall fod wedyn yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol (Ebrill i Fehefin 2022) â data am yr un cyfnod yn y blwyddyn ynghynt.

Dylid nodi bod yn bob argraffiad o’n ystadegau Treth Trafodiadau Tir, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Hydref i Ragfyr 2021 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi cael ei ddywygio eto.

Felly, yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • data ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022, ac
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021 (a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr 2022)

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Trafodiadau Tir i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir

Rydym yn anogu defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Bwriad yr erthygl yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Data ar gael dros Treth Trafodiadau Tir

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Hefyd, yn flynyddol, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
  • Etholaeth y Senedd (trafodiadau preswyl yn unig)
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (trafodiadau preswyl yn unig)
  • Parciau Cenedlaethol (trafodiadau preswyl yn unig)
  • ardaloedd adeiledig (trafodiadau preswyl yn unig)

Ar gyfer data ar lefel Cymru, rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegol, rydym yn esbonio’r amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Rhagfyr 2022, Hydref i Ragfyr 2022, ac amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Mae rhesymau am hyn yn cynnwys:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân.

  • Rrydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
  • Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod Ebrill 2021 i Fawrth 2022, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Defnydd o’r term ‘amhreswyl’

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Talgrynnu rhifau a gyflwynir

Drwy gydol y datganiad hwn, rydym wedi talgrynnu unrhyw ddata a gyflwynir:

  • nifer y trafodiadau i'r 10 agosaf
  • cyfanswm treth i’r £0.1 miliwn agosaf, ac eithrio trafodiadau â manylion cyfyngedig (sy’n cael eu talgrynnu i’r £1 miliwn agosaf)
  • gwerth eiddo i'r £1 miliwn agosaf

Cyfrifir unrhyw gyfansymiau a gyflwynir gan ddefnyddio gwerthoedd heb eu talgrynnu.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ffigur 2.1 Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod ar eu hanterth ym mis Mehefin 2021 a bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau ym mis Rhagfyr 2021 ac ym mis Rhagfyr 2022. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers mis Ebrill 2022 ychydig yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 106KB) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2023.

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’14 Ion’ yn 2022-23 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 14 i 20 Ionawr 2023 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 15 i 21 Ionawr 2022 (yn gynwysedig).

Mae Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (16 Ionawr 2023 yn y datganiad hwn).

Bu uchafbwynt sydyn yn y trafodiadau a gyflwynwyd tua diwedd Mehefin 2021. Mae'r uchafbwynt yn gysylltiedig â'r cyfnod lleihau treth dros dro a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Cyflwynwyd 2,840 o drafodiadau, sef y nifer mwyaf erioed yn ystod yr wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2021, gyda llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar 30 Mehefin 2021. Yna gostyngodd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i lefel fwy arferol o Orffennaf, ac eithrio uchafbwynt llai o 1,670 o drafodion a welwyd yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Medi 2021. Mae’r gostyngiad mewn trafodidau yn yr wythnos yn dechrau 16 Ebrill 2022 yn cyd-daro â gwyliau cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae trafodiadau a gyflwynwyd yn wythnosol yn 2022-23 wedi aros yn is na’r ffigurau ar gyfer yr un wythnosau yn 2021-22.

Ffigur 2.2 Nifer y trafodiadau, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod nifer chwarterol y trafodiadau preswyl yn is yn Hydref i Ragfyr 2022 na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt, ac yn arddangos patrymau tymhorol yn y chwarteri yn y canol. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau amhreswyl yn is yn Hydref i Ragfyr 2022 na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd perthnasol ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae’r trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Ar ddiwedd 16 Ionawr 2023, derbynion ni fanylion 16,190 o drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym yn Hydref i Ragfyr 2022. Mae hyn 8% yn is na’r Hydref i Ragfyr 2021 (amcangyfrifwyd ym mis Ionawr 2022).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd gostyngiad o 8%, 15% a 7% yn y drefn honno. Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.5a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y tueddiadau ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.5b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Yn Hydref i Ragfyr 2022, roedd 91% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 9% yn rhai amhreswyl, yn debyg i'r cyfnod o dri mis blaenorol.

Ffigur 2.3 Treth yn ddyledus ar drafodiadau, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod y dreth oedd ddyledus ar drafodiadau yn Hydref i Ragfyr 2022 yn is na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Cafodd cynnydd bach yn y dreth oedd ddyledus ar drafodiadau preswyl ei wrthbwyso’n rhannol gan ostyngiad mawr ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 (ac yn gynharach ar gyfer trafodiadau preswyl) wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Yn anad dim bydd hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mae cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Hydref i Ragfyr 2022 oedd £98.8 miliwn. Mae hyn yn 12% yn is na Hydref i Ragfyr 2021 (amcangyfrifwyd ym mis Ionawr 2022). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth yn ddyledus o breswyl, refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch preswyl, a thrafodiadau amhreswyl oedd gostyngiadau o 1%, 9% a 41% yn y drefn honno.

Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.6a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y tueddiadau ers ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.6b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Fel y nodwyd yn Ffigur 2.3 uchod, nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys unrhyw dreth oedd yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

Ffigur 2.4 Gwerth a briodolir i eiddo sy’n agored i Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod gwerth eiddo oedd yn destun Treth Trafodiadau Tir yn Hydef i Ragfyr 2022 yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Cyfrannodd gostyngiadau yng ngwerth trafodiadau preswyl a thrafodiadau amhreswyl at hyn.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae unrhyw werth eiddo sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2 wedi'i hepgor.

[Nodyn 2] Gall lesoedd amhreswyl sydd wedi’u rhoi o’r newydd fod â naill ai gwerth premiwm, gwerth rhent neu'r ddau (caiff y term 'premiwm' ei ddisgrifio'n fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'). Y gwerth rhent yw gwerth net presennol (NPV) y rhenti. Yn y siart hwn, dim ond yr elfen bremiwm sy'n cael ei chynnwys yn y cyfanswm. Ni gyflwynir y gwerth rhent yn y siart hon. Ni ddylid ychwanegu'r gwerth rhent at gyfanswm gwerth yr eiddo sydd wedi’i drethu, gan eu bod yn gysyniadau gwahanol. Ceir mwy o wybodaeth am elfen rhent y trafodiadau hyn yn Adran 4 yn y datganaid hwn.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae gwerthoedd trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi’u diwygio am i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu hawlio.

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Hydref i Ragfyr 2022 oedd £4.2 biliwn. Mae hyn yn is na'r £4.4 biliwn a welwyd yn Hydref i Ragfyr 2021. Er, yn gyffredinol rydym wedi gweld cynnydd dros amser yng ngwerth cyfartalog yr eiddo a drethwyd. Gweler yr adran 'trafodiadau preswyl yn ôl gwerth' y datganiad hwn am ragor o sylwebaeth.

(heb ei ddangos yn Ffigur 2.4) Ar wahân i hynny, yn Hydref i Ragfyr 2022, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £189 miliwn. Roedd y ffigur cyfatebol yn Hydref i Ragfyr 2021 yn £206 miliwn.

Ffigur 2.5a Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau preswyl yn Ebrill i Fedi 2022 yn gyffredinol is na’r un misoedd flwyddyn ynghynt, yn enwedig ym mis Mehefin 2022. O fewn y ffigurau hynny, roedd cyfraddau trafodiadau preswyl cyfraddau uwch yn debyg i’r un mis flwyddyn ynghynt, ac eithrio mis Mehefin 2022 a oedd sylweddol yn is.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Rhagfyr 2022 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Medi i Dachwedd 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na 4. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan 45% y trafodiadau (yn dod i rym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022) ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Cyflwynir dadansoddiad o effaith cyfyngiadau COVID-19 o fis Mawrth 2020 mewn datganiadau cynharach. Ym mis Mehefin 2021, gwelwyd y nifer misol uchaf erioed o drafodiadau preswyl, yn cyd-fynd â'r cyfnod dros dro o ostyngiad yn y dreth a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Roedd hyn hefyd wedi effeithio ar fis Gorffennaf 2021 a welodd drafodiadau is na'r disgwyl yn arferol, gan fod rhai wedi'u dwyn ymlaen i fis Mehefin 2021 neu'n gynharach er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro. Ers mis Ebrill 2022, mae trafodiadau preswyl wedi bod yn is na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ac eithrio mis Gorffennaf 2022.

Ffigur 2.5b Nifer y trafodiadau amrheswyl, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau amhreswyl yn Ebrill i Ragfyr 2022 yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt, ac eithrio Mai 2022. Roedd cynnydd nodedig mewn trafodiadau ym mis Mawrth 2022 ers y mis blaenorol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Rhagfyr 2022 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Medi i Dachwedd 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae graddfa Ffigur 2.5b yn wahanol i raddfa Ffigur 2.5a.

Ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2022, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir. Ers mis Ebrill 2022, mae nifer y trafodiadau amhreswyl yn gyffredinol wedi bod yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt.

Cyflwynir dadansoddiad o effaith cyfyngiadau COVID-19 o fis Mawrth 2020 mewn datganiadau cynharach.

Ffigur 2.6a Treth yn ddyledus ar y trafodiadau preswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos fod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn Ebrill i Ragfyr 2022 yn uwch neu’n debyg i’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ac eithrio mis Mehefin a mis Rhagfyr. O fewn y ffigurau hynny, roedd y refeniw ychwanegol o gyfraddau preswyl uwch yn dangos tueddiadau tebyg.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Rhagfyr 2022 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Tachwedd 2022 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn gyffredinol yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau. Er y gwelwyd y refeniw preswyl uchaf erioed ym mis Mehefin 2021 cyn disgyn ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hyn oherwydd bod rhai trafodiadau wedi cael eu dwyn ymlaen yn ystod y flwyddyn er mwyn elwa o'r cyfnod o ostyngiad dros dro yn y dreth.

Yna cynyddodd refeniw preswyl, gyda refeniw misol o Fedi i Ragfyr 2021 yr uchaf a welwyd hyd yn hyn, ac eithrio brig Mehefin 2021. Bydd hyn yn bennaf oherwydd chynnydd yng ngwerth trafodiadau preswyl, a ddisgrifir yn adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn. Roedd refeniw preswyl yn is ym mis Ionawr a mis Chwefror 2022 na’r misoedd o’u cwmpas, sy’n gyson â’r tueddiadau tymhorol disgwyliedig yn y farchnad eiddo.

Ers mis Ebrill 2022, mae refeniw preswyl wedi bod yn uwch neu'n debyg i'r un mis y flwyddyn flaenorol, ac eithrio mis Mehefin 2022. Mae hyn yn adlewyrchu i raddau helaeth y cryfder parhaus mewn gwerthoedd eiddo yn hanner cyntaf 2022-23. Yna gostyngodd refeniw misol mewn 3 mis yn olynol hyd at fis Rhagfyr 2022. Nid yw'n glir a fydd y tueddiadau gostyngol hyn yn parhau yn y dyfodol a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol.

Ffigur 2.6b Treth yn ddyledus ar y trafodiadau amrheswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos fod y dreth fisol oedd ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn Ebrill 2021 i Fedi 2022 yn uwch nag £8 miliwn yn y rhan fwyaf o fisoedd. O fis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2022, roedd y dreth fisol oedd yn ddyledus dros £8 miliwn mewn un mis yn unig: Medi 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Rhagfyr 2022 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Medi i Dachwedd 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Yn Ebrill 2021, gwelwyd y refeniw uchaf erioed o ganlyniad i nifer fechan o drafodiadau amhreswyl gwerth uchel. Yna gostyngodd refeniw ym Mai 2021, cyn codi dros y misoedd canlynol. Mae'r cynnydd diweddar hwn mewn refeniw yn cael ei yrru'n bennaf gan drawsgludiadau neu drosglwyddo perchnogaeth.

Dros bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. O fis Mawrth 2021 i fis Mehefin 2022, roedd refeniw amhreswyl dros £8 miliwn yn y rhan fwyaf o fisoedd, ond dim ond unwaith y bu’n fwy na’r swm hwn o fis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2022. Roedd y tueddiadau ym mis Mawrth 2021 i fis Mehefin 2022 wedi'u hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y chwe mis ers hynny.

Yn gyffredinol, mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Ffigur 2.7 Canran y trafodiadau sydd o bob math o drafodiad, Hydref i Ragfyr 2022 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Hydref i Ragfyr 2022, bod mwyafrif helaeth y trafodiadau preswyl yn drawsgludiadau neu’n drosglwyddiadau perchnogaeth. Roedd y gwerth hwn dros 2 ran o dair ar gyfer trafodiadau amhreswyl, gyda ychydig drosodd chwarter y trafodiadau amhreswyl yn lesoedd newydd yn cael eu rhoi.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn Hydref i Ragfyr 2022 yn £4.0 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 93% ar gyfer trafodiadau preswyl a 70% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 27% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 3% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau o dri mis a blynyddoedd blaenorol.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Newidiadau i’r prif gyfraddau a bandiau preswyl sy’n dod i rym o 10 Hydref 2022

Ar 27 Medi 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y fyddai prif gyfraddau Treth Trafodiadau Tir preswyl yn newid o 10 Hydref 2022. Felly mae’r siartiau yn adran hon y datganiad yn rhannu’r band blaenorol ‘£180,001 i £250,000’ yn ‘£180,001 i £225,000’ a ‘£225,001 i £250,000’.

(Heb ei gyflwyno yma) Rydym wedi archwilio'r tueddiadau wythnosol mewn trafodiadau a gyflwynwyd a thrafodiadau a ddaeth i rym yn yr wythnosau cyn ac ar ôl i'r newidiadau cyfradd gael eu gweithredu. Nid ydym wedi gweld unrhyw effeithiau amlwg o’r newidiadau hyn ar nifer y trafodiadau a’r dreth oedd yn ddyledus. Rhaid cydnabod fodd bynnag bod effeithiau economaidd ehangach a allai fod wedi cuddio unrhyw effaith yn sgil y newid mewn cyfraddau yn ein data.

Ffigur 3.1a Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos nifer y trafodiadau preswyl yn y band ‘hyd at ac yn cynnwys £180,000’ wedi gostwng yn sylweddol yn Ionawr i Fawrth 2022. Mae nifer chwarterol y trafodiadau yn y band ‘dros £400,000’ wedi bod yn uwch yn y 2 flynedd ddiwethaf na’r 2 flynedd flaenorol.

Ffigur 3.1b Canran y trafodiadau preswyl ym mhob band treth, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, ers mis Ebrill 2018, bod canran chwarterol y trafodiadau preswyl yn y band ‘dros £400,000’ wedi cynyddu’n gyffredinol, hyd at y gwerth uchaf ar y cyd a welwyd hyd yma yn Hydref i Ragfyr 2022. I’r gwrthwyneb, mae canran y trafodiadau yn y band ‘hyd at ac yn cynnwys band o £180,000’ yn gyffredinol wedi disgyn i’r gwerth chwarterol isaf ar y cyd a welwyd hyd yma yn Hydref i Ragfyr 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae Ffigurau 3.1a a 3.1b yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl, a'r canran y trafodiadau, ym mhob band treth. Mae 6 band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r 3 band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Er gwaethaf effaith coronafeirws (COVID-19) ers Mawrth 2020 a'r adferiad a dilynodd, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd. Yn Ffigur 3.1a, mae mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad y nifer y trafodiadau yn Ionawr i Fawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Cyflwynir dadansoddiad o effaith COVID-19 a newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir mewn datganiadau blaenorol.

Mae Ffigur 3.1a yn dangos yn Ebrill i Fehefin 2021, cafwyd y niferoedd uchaf o drafodiadau ym mhob band a welwyd hyd yma (ac eithrio eiddo a brynwyd am hyd at a chan gynnwys £180,000). Yn Ebrill i Fehefin 2022, roedd nifer y trafodiadau ym mhob band yn is na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Yn y ddau chwarter diwethaf, bu tueddiadau anwadal gyda chynnydd a gostyngiadau yn y rhan fwyaf o'r bandiau.

Yn gyffredinol mae Ffigur 3.1b yn dangos gostyngiadau yng nghanran y trafodiadau gyda gwerth hyd at ac yn cynnwys £180,000, a chynnydd yng nghanrannau’r trafodiadau yn y bandiau gwerth uwch. Er bod amrywiadau tymhorol yn y ffigurau hyn. Cyn i bandemig COVID-19 ddechrau, roedd gan rhwng tair rhan o bump a dwy ran o dair o drafodiadau preswyl ym mhob cyfnod o dri mis werth o hyd at ac yn cynnwys £180,000. Yn Ngorffennaf i Fedi 2022 ac yn Hydref i Ragfyr 2022, 45% oedd y ffigurau hyn, y ganranau chwarterol isaf a welwyd hyd yma.

13% oedd canran y trafodiadau gwerth £250,001 i £400,000 yn Ebrill i Fehefin 2018, gan godi i 23% yn Ngorffennaf i Fedi 2022 ac yn Hydref i Ragfyr 2022. Cyn y bandemig COVID-19 ddechrau, roedd gan 3% i 5% o drafodiadau bob chwarter werth o dros £400,000. Yn Ngorffennaf i Fedi 2022 ac yn Hydref i Ragfyr 2022, roedd y ffigurau hyn wedi codi i 11%, sef y ganranau chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Dylid nodi bod amrywiadau tymhorol yn yr holl ffigurau a ddisgrifiwyd.

Ffigur 3.2a Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch wedi cynyddu’n sylweddol yn y 2 flynedd ddiwethaf, dros y 2 flynedd flaenorol. Yn Ngorffennaf i Fedi 2022, y dreth oedd ddyledus yn deillio o’r band ‘dros £400,000’ oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma, cyn gostwng ychydig yn y chwarter diweddaraf.

Ffigur 3.2b Canran y dreth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, yn Hydref i Ragfyr 2022, mai canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus, oedd yn deillio o’r band ‘dros £400,000’, oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma, sef ychydig dros hanner. I’r gwrthwyneb, canran y dreth a oedd yn ddyledus, oedd yn deillio o’r band ‘hyd at ac yn cynnwys £180,000’, oedd y ffigur chwarterol isa far y cyd a welwyd hyd yma, yn cynrychioli degfed ran o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Mae Ffigurau 3.2a a 3.2b yn dangos tueddiadau chwarterol o dreth oedd yn ddyledus, a'r canran y dreth oedd yn ddyledus, ym mhob band treth. Fel gyda Ffigurau 3.1a a 3.1b yn blaenorol, rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Ar gyfer bandiau ‘£250,001 i £400,000’, a ‘dros £400,000’ a ddangosir yn Ffigur 3.2, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Hydref i Ragfyr 2021 oedd y gwerthoedd uchaf a welwyd hyd yma, cyn gostwng ychydig yn y chwarter diweddaraf. Mae’r cynnydd hwn mewn treth hyd at Gorffennaf i Fedi 2022 sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw. Ym mhob band, gostyngodd y dreth a oedd yn ddyledus yn Ionawr i Fawrth 2022 o’r chwarter blaenorol, fel y gellid disgwyl oherwydd y tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo.

Yn ôl y disgwyl, rhwng Ebrill i Fehefin 2021 a Gorffennaf i Fedi 2021, mae cynnydd yng ngwerth cyfartalog y dreth sy'n ddyledus fesul trafodiad rhwng £180,000 a £250,000 yn y chwarter diweddaraf. Hyd at Fehefin 2021, roedd y gostyngiad dros dro yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau preswyl prif gyfradd a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2020 yn fwy na gwrthbwyso’r cynnydd yn elfen cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar 22 Rhagfyr 2020. Gyda chyfnod y gostyngiad dros dro mewn cyfraddau wedi dod i ben ar 30 Mehefin, cynyddodd gwerth cyfartalog y dreth a oedd yn ddyledus fesul trafodiad yn y band hwn yng Ngorffennaf i Fedi 2021.

Dengys Ffigur 3.2b fod canran chwarterol y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo gwerth dros £400,000 tua 30% i 40% hyd at fis Mawrth 2020. Ers hynny, mae'r ganran hon wedi amrywio rhwng tua 40% a 50%.

Er bod y brif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl o hyd at £180,000 yn 0%, yn Hydref i Ragfyr 2022 roedd y trafodiadau hyn yn dal i gyfrif am 10% o gyfanswm y dreth breswyl oedd yn ddyledus, sy’n cysylltu â chyfraddau uwch elfen breswyl y dreth. Y ffigwr cyfatebol rhwng Ebrill a Mehefin 2018 oedd 22% ac mae wedi gostwng ym mhob Ebrill i Fehefin ers hynny, ond gydag amrywiadau tymhorol yn y ganran yn ystod chwarteri eraill y flwyddyn.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Ffigur 4.1 Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y 4 band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 4.1, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 4.2 Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn sylweddol uwch ym mhob chwarter o Ebrill 2021 i Fedi 2022, na’r Hydref i Ragfyr 2022 neu chwarteri blaenorol. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. 

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth wedi gostwng i'r gwerthoedd chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn Ebrill i Fehefin 2020, cyn adfer dros y misoedd dilynol. Gweler y sylwebaeth mewn datganiadau blaenorol er mwyn deall effaith coronafeirws (COVID-19) ar drafodiadau. Ers Ebrill 2021 i Fedi 2022, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y categori ‘Gwerth nad yw’n rhent: £1m+’ yn arbennig o uchel. Roedd hyn oherwydd niferau fechan o drafodiadau mawr. Ym mis Hydref i fis Rhagfyr 2022, bu llai o drafodiadau o'r fath, a gyfrannodd at ostyngiad mewn refeniw chwarterol.

Mae Ffigur 4.2 yn dangoes ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 85% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ac eithrio Ebrill i Fehefin 2019 (33%), ym mhob cyfnod o dri mis hyd at Mawrth 2021, mae tua 10% i 20% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl. Gostyngodd y ganran hon i tua 5% i 10% ym mhob cyfnod o dri mis o fis Ebrill 2021, er ei fod yn 13% ym mis Ebrill i fis Mehefin 2022.

Ffigur 4.3 Canran y trafodiadau amhreswyl a’r dreth sy’n ddyledus ar yr eiddo hynny ym mhob band gwerth, Hydref i Ragfyr 2022 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Hydref i Ragfyr 2022, bod gan hanner y trafodiadau amhreswyl rhwng, werth nad yw’n werth rhent o hyd at ac yn cynnwys £250,000, a bod gan ychydig drosodd un rhan o bump werth nad yw’n werth rhent rhwng £250,001 ac £1 miliwn. Roedd gan ychydig drosodd chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, a gyfrannodd at y dreth a dalwyd.

Ffigur 4.4 Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Hydref i Ragfyr 2022 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Hydref i Ragfyr 2022, fod dros dwy rhan o dri o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth amhreswyl trafodiadau gwerth mwy nag £1 miliwn. Roedd llai na degfed ran o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth rhent y trafodiadau.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Disgrifir y term 'premiwm' yn fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y premiwm a delir ar ffurf gwerth arian parod, ond gallai fod ar ffurf arall.

[Nodyn 2] Mae trafodiadau sydd â gwerth rhent a phremiwm wedi'i dalu yn cael eu cyfrif ddwywaith yn nifer y trafodiadau (yn Ffigur 4.3). Cyfrifir y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn unwaith (yn Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 yn dangos bod yn Hydref i Ragfyr 2022, 5% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 69% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4). Dylanwadodd nifer fechan o drafodiadau amhreswyl mawr iawn y canran hwn.

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 26% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 8% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Nôl i dop y dudalen

Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn, neu
  • o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Gwella ein hamcangyfrifon o’r dreth a ryddhawyd ar gyfer trafodiadau cysylltiol

Yn y rhifyn hwn o’n datganiad, rydym wedi gwella ein hamcangyfrifon ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd ar gyfer trafodiadau cysylltiol. Mae hyn yn berthnasol i'n hamcangyfrifon chwarterol a blynyddol yn ôl i fis Ebrill 2018. O ganlyniad i hyn bu diwygiadau cymedrol ar i fyny ar gyfer cyfanswm y dreth a ryddhawyd, sef tua £1 miliwn neu lai ym mhob chwarter.

Mae nifer fach o drafodiadau bob chwarter bellach wedi’u cofnodi fel rhai sydd â rhyddhad sy’n effeithio ar werth y dreth sy’n ddyledus, yn hytrach na rhyddhad nad oedd yn effeithio ar werth y dreth oedd yn ddyledus. Mae hyn wedi arwain yn gyffredinol at ddiwygiadau bach ar i fyny yn nifer chwarterol y trafodiadau a ryddhawyd a gafodd effaith ar y dreth oedd yn ddyledus. Yn yr un modd, yn gyffredinol bu diwygiadau bach ar i lawr yn nifer chwarterol y trafodiadau a ryddhawyd nad oedd yn effeithio ar y dreth oedd yn ddyledus.

Ffigur 5.1 Nifer y trafodiadau sydd wedi'u rhyddhau a gafodd effaith ar y dreth oedd yn ddyledus, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Ragfyr 2022, bod nifer chwarterol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio rhwng tua 300 a 450. Roedd nifer y rhyddhadau a hawliwyd ar drafodiadau preswyl yn uwch nag ar gyfer trafodiadau amhreswyl ym mhob chwarter.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd 450 o drafodiadau yn Hydref i Ragfyr 2022 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae hyn yn uwch nag y 360 trafodiadau o’r fath yn Hydref i Ragfyr 2021.

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 100 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth am ansawdd.

Ffigur 5.2 Treth wedi’i rhyddhau, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Ragfyr 2022, bod gwerth chwarterol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio’n sylweddol, rhwng tua £10 miliwn ac £23 miliwn. Ers mis Ebrill 2018, roedd gwerth chwarterol y rhyddhadau amhreswyl a hawliwyd yn uwch yn gyffredinol nag ar gyfer rhyddhadau preswyl, er eu bod wedi bod yn fwy cyfartal ers 2021.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw rhyddhadau a allai fod wedi'i hawlio ar trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae gwerth y rhyddhadau a hawlir ym mhob cyfnod o dri mis amrywio'n sylweddol dros amser, ynghyd â chyfran y gwerth o drafodiadau preswyl neu amhreswyl. Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, trafodiadau amhreswyl yn cyfrannu dros hanner i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd. Fodd bynnag, cyfrannodd sawl trafodiad preswyl mawr yn Hydref i Ragfyr 2021, Ionawr i Fawrth 2022, a Gorffennaf i Fedi 2022 at y ffaith bod ryddhadau preswyl yn sylweddol fwy na rhyddhadau amhreswyl.

Mae rhagor o ddata ar ryddhadau ar gael ar StatsCymru drwy'r ddolen uchod, gan gynnwys data chwarterol yn ôl math o ryddhad.

Nôl i dop y dudalen

Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 16 Ionawr 2023.

Ffigur 6.1 Nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfradd uwch a gyhoeddwyd, yn ôl dyddiad dod i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar a llinell yn dangos, ar y gyfer data fesul chwarter daeth trafodiadau i rym, bod nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfraddau uwch a hawliwyd wedi amrywio'n sylweddol. Mae'r gwerthoedd chwarterol wedi gostwng yn gyffredinol ers Ebrill i Fehefin 2021 gan ar gyfer y cyfnodau mwy diweddar, fod llai o amser wedi mynd heibio i drethdalwyr werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio’u had-daliad.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 7,260 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill 2018 i Ragfyr 2022, gyda £72.1 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan Awdurdod Cyllid Cymru. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol ar wefan StatsCymru ar y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Nôl i dop y dudalen

Treth a dalwyd

Sylwch bod, yn y datganiad hwn, rydym wedi gwneud cywiriadau bach i ystadegau cyflogedig trethi a gyhoeddwyd yn blaenorol ym mis Rhagfyr 2022.

Ffigur 7.1 Treth Trafodiadau Tir a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Ragfyr 2022, na fu unrhyw batrwm clir yn y swm misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd. Digwyddodd y gwerth misol uchaf ym mis Rhagfyr 2021.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Yn Hydref i Ragfyr 2022, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £99.7 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Dyma'r 13% yn is na'r £115.3 miliwn a dderbyniwyd yn Hydref i Ragfyr 2021. Fel y disgrifir yn adran 'ynglŷn â'r ystadegau yma' o'r datganiad hwn mae'n fwy priodol cymharu'r cyfnod presennol yn erbyn Hydref i Ragfyr 2021 na'r chwarter blaenorol (Gorffennaf i Fedi 2022).

Mae'r gwerthoedd hyn yn wahanol na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i ddata cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Sylwch hefyd fod y data yn Ffigur 7.1:

  • yn cael ei gyflwyno’n net o ad-daliadau cyfradd uwch sy'n cael eu talu mewn mis penodol
  • yn cynnwys cosbau a dalwyd (megis ar gyfer ffeilio hwyr neu dalu'n hwyr) a hefyd llog a dalwyd ar ddyled flaenorol y Dreth Trafodiadau Tir
  • ni fydd yn cynnwys swm cymharol bach o Treth Trafodiadau Tir heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Roedd y derbyniadau misol uchaf a welwyd hyd yma ym mis Rhagfyr 2021 (£43.1 miliwn). Fel arfer, mae tueddiadau misol mewn taliadau a wnaed yn cael eu dylanwadu’n rhannol gan dreth sy’n ddyledus a adroddwyd ar ddiwedd y mis blaenorol. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol bod treth sy'n ddyledus a adroddwyd ym mis Rhagfyr yn cael ei thalu ym mis Rhagfyr, ynghyd â thaliadau sy'n gysylltiedig â thrafodiadau ddiwedd mis Tachwedd. Mae hyn oherwydd gwyliau'r Nadolig a lefelau isel o drafodiadau a adroddwyd a threth a dalwyd ddiwedd mis Rhagfyr, gyda llawer o drafodiadau wedi'u dwyn ymlaen a'u setlo cyn wythnos olaf y mis.

Nôl i dop y dudalen

Atodiad: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn dadansoddi yr effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni 3 amcangyfrif ar gyfer mis Hydref 2022. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 25 Tachwedd 2022, yr ail amcangyfrif ar 23 Rhagfyr 2022 a'r trydydd amcangyfrif ar 26 Ionawr 2023.

Ffigur A1 Nifer y trafodiadau: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o niferoedd trafodiadau misol wedi amrywio rhwng tua 1% a 4%. Rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2022, amrywiodd y ffigwr cyfatebol i raddau llai, rhwng tua 1% a 3%.

Ffigur A2 Treth yn ddyledus: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o dreth fisol wedi amrywio’n sylweddol, rhwng tua 0% a 9%. Rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2022, amrywiodd y ffigwr cyfatebol i raddau llai, rhwng tua 0% a 3%.

Ffynhonnell: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (Taenlen Dogfen Agored, 106 KB) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Mae Ffigurae A1 ac A2 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Awst 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod i fyny a rhwng 0 a 5%. Yr eithriadau ers Ebrill 2021 oedd:

  • mis Mehefin 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • mis Hydref 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 8%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Fel y dadansoddwyd mewn datganiadau blaenorol, roedd diwygiadau’n gyffredinol uwch yn ystod y misoedd ar ôl mis Ebrill 2018 pan ddechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data, er y bydd angen rhagor o ddata arnom dros y blynyddoedd nesaf er mwyn asesu hyn.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau A1 a A2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Gweler yr adran ‘ad-daliadau cyfraddau uwch’ yn y datganiad hwn am ddadansoddiad pellach.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Nôl i dop y dudalen

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo