Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym (Awdurdod Cyllid Cymru) yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni wedi'u derbyn erbyn 20 Mehefin 2022.

Gweler prif bwyntiau ein hystadegau awdurdodau lleol ar ddechrau adran 8 yn y datganiad hwn. Gwelwch dran 9 o’r datganiad hwn am dadansoddiad ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl lefel yr amddifadedd. Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Mae Ffigur 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022
  • y newid o ran canran yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (a wnaed ym mis Mehefin 2020)

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn adran 1 y datganiad hwn (‘Cymariaethau â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt’). Yn y rhifyn hwn o'r datganiad, fel arfer byddai cymariaethau’n cael eu gwneud yn erbyn amcangyfrifon ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Fodd bynnag, nid ydym yn argymell y gymhariaeth hon oherwydd effeithiau cymhleth cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau treth. 

Ffigur 1.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif blaenorol dwy flwyddyn ynghynt [1] [2]
Math o drafodiad Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (p) Newid o ran % (o gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020) [6]
Trafodiadau (nifer)
Preswyl  62,190 13%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 14,370 6%
Amhreswyl [3] 6,620 8%
Pob trafodiadau [4] 68,810 12%
Treth yn ddyledus (£ miliwn)
Preswyl  283.7 71%
o'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [5] 103.9 63%
Amhreswyl [3] 130.6 91%
Pob trafodiadau [4] 414.3 77%

[1] Mae'r gwerthoedd yn y tabl hwn wedi cael eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf a’r £0.1 miliwn agosaf ar gyfer treth yn ddyledus.
[2] Sylwch fod y tabl hwn yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 1.2.
[3] Mae’r categori ‘eiddo amhreswyl’ yn cynnwys eiddo nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl (sef, y rheini sy’n cynnwys elfennau preswyl a masnachol).
[4] Mae’r cyfanswm wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[5] Nodwch mai dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[6] Amcangyfrifon ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a wnaed ym mis Mehefin 2020.
(p) Mae'r gwerth yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ffigur 1.2 Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym (£ miliwn)
  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr [1] [z] 28.2 [z] [z]
Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd) [2] [z] 2 0 1

[1] Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
[2] Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.
[z] Amherthnasol.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

Gan gymharu Ebrill 2021 i Fawrth 2022 gyda Ebrill 2019 i Fawrth 2020:

  • cynyddodd yr holl drafodiadau o 12% ac cynyddodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 77%
  • cynyddodd trafodiadau preswyl a threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 13% a 71% yn y drefn honno
  • cynyddodd thrafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 6%
  • cynyddodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 63%, er y dylid bod yn ofalus wrth wneud y gymhariaeth hon. I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ yn y datganiad
  • bu cynnydd o 8% mewn trafodiadau anhreswyl. Cynnyddodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 91%

Nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys y trafodiadau ychwanegol a gyflwynir yn Ffigur 1.2 uchod. Dylid defnyddio'r gwerthoedd yn Ffigur 1.2 os am gael gwerth ar gyfer cyfanswm y refeniw Treth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn, yn unig.

Bu adferiad cryf mewn trafodiadau preswyl a refeniw ers haf 2020, ac mae nifer y trafodiadau preswyl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf bellach wedi cyrraedd lefelau tebyg iawn i'r rhai a welwyd yn y ddwy flynedd cyn mis Mawrth 2020. Mae'r cynnydd mewn refeniw preswyl wedi'i ysgogi i raddau helaeth gan gynnydd mewn gwerth eiddo, ac i raddau llai, gan y cynnydd o 1% i'r holl fandiau cyfradd uwch a gyflwynwyd o 22 Rhagfyr 2020.

Mae refeniw dibreswyl hefyd wedi gweld adferiad cryf ers haf 2020. Mewn bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. Fodd bynnag, o fis Mawrth 2021 ymlaen, roedd refeniw amhreswyl yn fwy na £8 miliwn bob mis (ac eithrio Mai 2021). Mae’n bosibl bod patrwm cyfnewidiol o drafodiau yn ystod adferiad COVID-19 yn cyfrannu at y duedd hon. Er enghraifft, mae tystiolaeth o niferoedd ychydig yn uwch o bryniannau llwyr eiddo amhreswyl, o gymharu â lesoedd newydd. Mae pryniannau'n tueddu i gynhyrchu mwy o refeniw na lesoedd ond mae'n dal yn aneglur pa effaith y gallai hyn ei chael ar refeniw yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn yn y dyfodol.

Nôl i dop y dudalen

Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir

Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus, yn enwedig ym misoedd cyntaf y pandemig.

Arweiniodd cynfyngiadau cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin 2020. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf 2020 i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 31 Mawrth 2021. Ar 3 Mawrth 2021, cyhoeddwyd y byddai'r cyfnod lleihau treth dros dro yn cael ei ymestyn 3 mis, i ddod i ben ar 30 Mehefin 2021.

Er bod gyfyngiadau lleol a chyfyngiadau cenedlaethold pellach wedi'u cyflwyno ers y newidiadau cychwynnol yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ym mis Gorffennaf 2020, fe ymddengys cafodd y rhain effaith gyfyngedig ar nifer y trafodiadau.

Daeth newidiadau pellach i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir i rym o 22 Rhagfyr 2020. Mae’r newidiadau hyn wedi ei gwneud hi’n angenrheidiol golygu ein tablau data amhreswyl gan gyflwyno rhaniad mwy manwl o fandiau treth gwerth is.

Sylwch y bydd rhai trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2020 wedi cael eu codi ar y cyfraddau a fodolai cyn 22 Rhagfyr, a rhai ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr. Rydym yn amcangyfrif bod tua 100 o drafodiadau cyfraddau uwch a 10 o drafodiadau amhreswyl o fewn y data mis Rhagfyr 2020 hynny eu cyhuddo ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr.

Effaith y newidiadau yng nghyfraddau y Dreth Trafodiadau Tir

Nid yw'n bosibl ynysu effaith y newidiadau yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir oddi wrth yr adferiad cyffredinol sy'n debygol o fod wedi digwydd oherwydd lleddfu cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, gallwn feintioli’r effaith ar fesul y trafodiad.

Roedd y newid cyntaf yn berthnasol i drafodiadau preswyl ar y brif gyfradd yn unig. Nid oedd newid yn y cyfraddau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfradd uwch a thrafodiadau amhreswyl. Ar gyfer y trafodiadau prif gyfradd hyn, codwyd y trothwy ar gyfer codi cyfraddau Treth Trafodiadau Tir o £180,000 i £250,000, fel bod y dreth ar bob trafodiad sydd â gwerth o £250,000 neu lai a oedd yn gostwng i sero. Er bod y cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ar werth eiddo uwch na £250,000 yn ddigyfnewid, mae'r trafodiadau ar y brif gyfradd hynny hefyd a oedd yn elwa o'r trothwy uwch ar £250,000 cyntaf eu gwerth. Yn yr achosion hyn, mae Treth Trafodiadau Tir yn cael ei ostwng £2,450 o'i gymharu â'r hyn a fyddai wedi'i godi’n flaenorol. Cafodd y newid hwn ei wrthdroi ar ôl 30 Mehefin 2021, ar ba dyddiad ddaeth cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth i ben.

Cyflwynodd yr ail newid mewn cyfraddau o 22 Rhagfyr 2020 y canlynol a mae’n parhau i fod yn berthnasol:

  • cynnydd o 1% ar draws yr holl fandiau ar gyfer y cyfraddau treth preswyl uwch
  • ar gyfer trafodiadau amhreswyl, cynyddodd y band cyfradd sero a godir ar bremiymau lesoedd ac aseiniadau, a throsglwyddiadau eiddo rhydd-ddaliadol o £150,000 i £225,000
  • cynyddodd band cyfradd sero y dreth a godir ar elfen rent lesoedd amhreswyl o £150,000 i £225,000

Gellir gweld effaith gyfunol y pandemig coronafeirws a'r newid cyntaf yn y gyfradd yn Ffigur 2.1. Bu cwymp sydyn i ddechrau ym mis Ebrill a mis Mai 2020 ac adferiad cyson yn nifer y trafodiadau ers hynny. Roedd 2,140 o drafodiadau preswyl ac amhreswyl mewn grym ym mis Ebrill 2020, a oedd ychydig yn llai na hanner y nifer a welwyd ym mis Ebrill 2019. Gwelodd yr adferiad yn y farchnad eiddo a ddilynodd, drafodiadau preswyl yn cynyddu ond maent yn parhau i fod yn is na lefelau 2019-20, hyd at ddiwedd Medi 2020. Rhwng mis Hydref 2020 a Thacwedd 2021, roedd y niferoedd yn uwch nag yn yr un misoedd mewn blynyddoedd blaenorol ar wahân i Ionawr 2021 pan oeddent yn is na, sy'n adlewyrchu'r adferiad y cyfeiriwyd ato uchod. Ers mis Rhagfyr 2021, mae'r niferoedd wedi bod yn is na'r rhai o gymharu â'r un mis yn y flwyddyn flaenorol.

Yn wahanol i'r set cyntaf o gyfyngiadau COVID-19 cenedlaethol a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2020, caniatawyd i'r farchnad eiddo barhau i gryn raddau yn y gyfyngiadau o bythefnos ddiwedd mis Hydref 2020 a’r cyfyngiadau pellach a gyflwynwyd ar 20 Rhagfyr 2020. Nid yw'r gostyngiad mewn trafodiadau eiddo a welwyd yn y set cyntaf o gyfyngiadau ym mis Mawrth 2020 wedi'i weld i'r un graddau eto yn ystod y cyfyngiadau hwyrach hyn a gyflwynwyd yn fwy diweddar.

Mae Ffigur 2.1 yn dangos cynnydd sydyn yn nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ddiwedd Mehefin 2021, sy’n cyd-fynd â diwedd y cyfnod dros dro o ostyngiad yn y dreth. Dilynwyd hyn gan ddychweliad i lefelau wythnosol mwy arferol o drafodiadau’n cael eu cyflwyno ddechrau mis Gorffennaf 2021.

Nôl i dop y dudalen

1. Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y 2 dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Trafodiadau Tir i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir

Rydym yn anogu defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Bwriad yr erthygl yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Data ar gael dros Treth Trafodiadau Tir

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Gyda’r datganiad ystadegol hwn, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
  • Etholaeth y Senedd (trafodiadau preswyl yn unig)
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (trafodiadau preswyl yn unig)
  • ardaloedd adeiledig (trafodiadau preswyl yn unig)
  • Parciau Cenedlaethol (trafodiadau preswyl yn unig)

Rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegol, rydym yn esbonio’r amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mai 2022 ac amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Mae rhesymau am hyn yn cynnwys:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru

Cymhariaethau â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gall fod wedyn yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol (Ionawr i Fawrth 2022) â data am yr un cyfnod flwyddyn neu dwy flynedd ynghynt. Fodd bynnag, mae'r newidiadau yn 2020-21 wedi cael eu heffeithio'n arbennig gan newidiadau COVID-19 a newidiadau yng nghyfraddau Treth Trafodiadau Tir. Felly mae'n fwy priodol cymharu'r cyfnod cyfredol yn erbyn Ionawr i Fawrth 2020 (nag yn erbyn Ionawr i Fawrth 2021).

Dylid nodi bod yn bob argraffiad o’n ystadegau Treth Trafodiadau Tir, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ebrill 2019 i Fawrth 2020 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 wedi cael ei ddywygio eto.

Felly yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • data ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022; ac
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin 2020)

Dylid ystyried pob cymhariaeth yng ngoleuni effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
  • mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod Ebrill 2021 i Fawrth 2022, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Nôl i dop y dudalen

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ryddhau diweddariad ar gyhoeddi ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gwnaethom nodi y byddem, yn ein datganiad ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, yn edrych ar unrhyw effeithiau posibl y coronafeirws (COVID-19) ar ein hystadegau.

Er mwyn deall yr effeithiau ar nifer y trafodiadau, y dreth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn.

Image
Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng Ebrill 2019 a Gorffennaf 2022. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2022.

Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored)

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ‘9.4’ yn 2022-23 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 9 i 15 Ebrill 2022 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn 2021-22 yn rhedeg rhwng 10 i 16 Ebrill 2021 (yn gynwysedig).

Sylwch fod Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn.

Bu uchafbwynt sydyn yn y trafodiadau a gyflwynwyd tua diwedd Mehefin 2021. Mae'r uchafbwynt yn gysylltiedig â'r cyfnod lleihau treth dros dro a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Cyflwynwyd 2,840 o drafodiadau, sef y nifer mwyaf erioed yn ystod yr wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2021, gyda llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar 30 Mehefin 2021. Yna gostyngodd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i lefel fwy arferol o Gorffennaf 2021, ac eithrio uchafbwynt llai o 1,670 o drafodion a welwyd yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Medi 2021. Mae’r gostyngiad mewn trafodidau yn yr wythnos yn dechrau 16 Ebrill 2022 yn cyd-daro â gwyliau cyhoeddus.

Roedd y nifer wythnosol o drafodiadau a gyflwynwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 yn amrywio rhwng 40% a 60% o'r nifer a welwyd yn yr un wythnos yn 2019 ac ar gyfartaledd o tua 50% dros y cyfnod cyfan. Ers hynny, bu adferiad graddol mewn trafodiadau, gyda lefelau’n debyg neu'n uwch na'r rhai a welwyd yn y flwyddyn flaenorol o fis Hydref 2020 ymlaen.

Image
Mae Ffigur 2.2 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 20 Mehefin 2022, derbynion ni fanylion 68,810 o drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 12% o'i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (amcangyfrifwyd ym mis Mehefin 2020). Dylid nodi bod cyfanswm nifer y trafodion yn y 2 flynedd o Ebrill 2020 i Fawrth 2022 yn debyg i'r cyfanswm ar gyfer y 2 flynedd gynharach, o Ebrill 2018 i Fawrth 2020.

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd cynnyddoedd o 13%, 6% a 8% yn y drefn honno. Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.5a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y gwahanol dueddiadau ers Ebrill 2020 ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.5b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, roedd 90% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 10% yn rhai amhreswyl, yn debyg i'r blynedd blaenorol.

Image
Mae Ffigur 2.3 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.3 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Mae cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 oedd £414.3 miliwn. Mae hyn yn 77% yn uwch nag Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (amcangyfrifwyd ym mis Mehefin 2020). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth yn ddyledus o breswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd cynnyddiadau o 71%, 63%, a 91%, yn y drefn honno.

Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.6a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y gwahanol dueddiadau ers Ebrill 2020 ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.6b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Fel y nodwyd yn Ffigur 2.3 uchod, nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys unrhyw dreth oedd yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 1.2.

Image
Mae Ffigur 2.4 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.4 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 oedd £16.9 biliwn. Mae hyn yn 38% yn uwch na'r £12.2 biliwn a welwyd yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Mae hyn yn gyson â chynnydd yng ngwerth trafodiadau yn y ddwy flynedd rhwng hynny. Mae adran 3 y datganiad hwn yn disgrifio tueddiadau mewn trafodiadau preswyl a’r dreth sy'n ddyledus yn ôl gwerth.

(heb ei ddangos yn Ffigur 2.4) Ar wahân i hynny, yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £314 miliwn. Dyma'r gwerth blynyddol isaf a welwyd hyd yma.

Image
Mae Ffigur 2.5a yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan 45% y trafodiadau (yn dod i rym yn 2021-22) ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Yn dilyn cyfyngiadau COVID-19 sy’n cael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2020, gostyngodd nifer misol y trafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae wedi adfer yn raddol, gan godi uwchlaw'r niferoedd a welwyd yn y flwyddyn flaenorol yn Hydref i Ragfyr 2020.

Ym mis Ionawr 2021, gostyngodd y niferoedd ond ers hynny maent wedi codi eto yn uwch na'r niferoedd a welwyd blwyddyn ynghynt. O fewn y nifer hwn, mae trafodiadau preswyl cyfradd uwch wedi adfer. Ym mis Mehefin 2021, gwelwyd y nifer misol uchaf erioed o drafodiadau preswyl, yn cyd-fynd â'r cyfnod dros dro o ostyngiad yn y dreth a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Mae trafodiadau preswyl ers mis Gorffennaf 2021 wedi bod yn cyson â neu ychydig yn uwch y lefelau arferol (a welwyd yn ystod y misoedd cyfatebol yn Ebrill 2019 I Fawrth 2020).

Image
Mae Ffigur 2.5b yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Sylwch fod graddfa Ffigur 2.5b yn wahanol i raddfa Ffigur 2.5a.

Ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2022, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn wedi dod i'r amlwg eto.

Mae’n fwy anodd gweld effaith cyfyngiadau COVID-19 mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer is o drafodiadau’n gyffredinol, a'r patrymau afreolaidd a welir yn y nifer misol o drafodiadau amhreswyl.

Image
Mae Ffigur 2.6a yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau. Bu adferiad hyd yn oed yn fwy mewn refeniw ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch nag ar gyfer pob trafodiad preswyl ers yr haf yn 2020. Rhoddwyd hwb pellach i hyn pan gynyddwyd yr holl fandiau cyfradd uwch 1% o 22 Rhagfyr 2020.

Parhaodd yr adferiad yn 2021 gyda'r refeniw preswyl uchaf erioed i'w weld ym mis Mehefin 2021 cyn gostwng ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hyn oherwydd bod rhai trafodiadau wedi cael eu dwyn ymlaen yn ystod y flwyddyn er mwyn elwa o'r cyfnod o ostyngiad dros dro yn y dreth.

Yna cynyddodd refeniw preswyl, gyda refeniw misol o Fedi i Ragfyr 2021 yr uchaf a welwyd hyd yn hyn, ac eithrio brig Mehefin 2021. Mae hyn yn gyson â chynnydd yng ngwerth trafodiadau preswyl, a ddisgrifir yn adran 3 y datganiad hwn. Gostyngodd refeniw preswyl ym mis Ionawr 2022 ac yna cynyddodd ym mis Chwefror a mis Mawrth, er ei fod yn parhau i fod yn is na'r refeniw misol a welwyd ddiwedd 2021. Mae hyn yn gyson â'r tueddiadau tymhorol disgwyliedig yn y farchnad eiddo.

Image
Mae Ffigur 2.6b yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd refeniw amhreswyl yn gyson ym mis Ebrill 2020, oherwydd nifer fach o drafodiadau mawr yn y mis hon. Roedd refeniw amhreswyl yn disgyn i'r lefel isaf a welwyd hyd yma ym mis Mai 2020 (£1.5 miliwn), cyn gwella'n gyffredinol ym misoedd canlynol.

Yn Ebrill 2021, gwelwyd y refeniw uchaf erioed o ganlyniad i nifer fechan o drafodiadau amhreswyl gwerth uchel. Yna gostyngodd refeniw ym Mai 2021, cyn codi dros y misoedd canlynol. Mae'r cynnydd diweddar hwn mewn refeniw yn cael ei yrru'n bennaf gan drawsgludiadau neu drosglwyddo perchnogaeth.

Mewn bron i 3 blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. Fodd bynnag, o Fawrth 2021 i Fawrth 2022, roedd refeniw amhreswyl yn fwy na £8 miliwn bob mis (ac eithrio Mai 2021). Mae’n bosibl bod patrwm cyfnewidiol o drafodiau yn ystod adferiad COVID-19 yn cyfrannu at y duedd hon. Er enghraifft, mae tystiolaeth o niferoedd ychydig yn uwch o bryniannau llwyr eiddo amhreswyl, o gymharu â lesoedd newydd. Mae pryniannau'n tueddu i gynhyrchu mwy o refeniw na lesoedd ond mae'n dal yn aneglur pa effaith y gallai hyn ei chael ar refeniw yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn yn y dyfodol.

Mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Image
Mae Ffigur 2.7 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 94% ar gyfer trafodiadau preswyl a 71% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 26% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 1% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Dadansoddiad yn ôl dyddiad cyflwyno'r ffurflen dreth

Rydym yn ymwybodol bod rhai cyhoeddiadau ystadegol eraill yn y DU yn seilio eu dadansoddiad ar y dyddiad y cyflwynir y ffurflen dreth. Felly rydym wedi cynhyrchu rhai ffigurau y gellir eu cymharu â gwledydd eraill y DU (gan ddefnyddio dyddiad cyflwyno) ac wedi cymharu'r rhain â'n hystadegau dyddiad dod i rym ni.

Image
Mae Ffigur 2.8 yn dangos nifer misol y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd, o Ebrill 2018 i Fai 2022.

Trafodiadau yr hysbyswyd Awdurdod Cyllid Cymru ohonynt, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym/y’i cyflwynwyd, Ebrill 2018 i Fai 2022 (MS Excel)

Fel y gellid disgwyl, mae'r tueddiad misol yn eithaf tebyg ar y cyfan ar gyfer y ddwy gyfres am drafodiadau wedi’u cyflwyno a trafodiadau yn ôl dyddiad dod i rym. er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Yn yr achosion hyn, mae dyddiad dod i rym yn cael mwy o effaith ar y data misol na dyddiad cyflwyno. Mae hyn oherwydd Ffigur 2.9 yn yr adran hon yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Gellir egluro gwahaniaethau eraill rhwng y ddwy gyfres fel a ganlyn:

  • yn Ebrill 2018, roedd 1,370 yn fwy o drafodiadau mewn grym nag a gyflwynwyd. Y rheswm pennaf am hyn yw oherwydd nad oedd unrhyw drafodiadau Treth Trafodiadau Tir a fyddai wedi bod mewn grym ym mis Mawrth 2018 i wrthbwyso rhai a oedd mewn grym ym mis Ebrill a dderbyniwyd ym mis Mai 2018. Roedd y trafodiadau Mawrth 2018 hyn yn dal i gael eu cyflwyno i CThEM o dan gyfundrefn dreth flaenorol Treth Dir y Dreth Stamp
  • ym mis Mehefin 2021, roedd 990 yn fwy o drafodiadau mewn grym nag a gwblhawyd, ac ym mis Gorffennaf 2021, cyflwynwyd 1,180 yn fwy o drafodiadau nag a oedd mewn grym. Gellir egluro hyn gan y nifer fwy nag arfer o drafodiadau oedd mewn grym ychydig cyn diwedd cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth ar 30 Mehefin 2021. Roedd llawer o'r ffurflenni treth a oedd mewn grym ar y pryd yn debygol o fod wedi eu cyflwyno i ACC ddechrau mis Gorffennaf 2021
  • ym mis Rhagfyr ac mis Ionawr bob blwyddyn, gellir gweld gwahaniaethau o hyd at 600 o drafodiadau. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd gwyliau'r Nadolig ac oedi o ran cyflwyno trafodiadau yr adeg hon o’r flwyddyn
Image
Mae Ffigur 2.9 yn dangos canran y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd ar wahanol ddyddiau'r wythnos. Mae'r data yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym ym Ebrill 2021 i Fawrth 2022, a thrafodiadau a gyflwynwyd i’r Awdurdod rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022.

Dydd Gwener oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd ar gyfer cyflwyno’r ddau drafodiad ac i'r trafodiadau ddod i rym, gydag ond ychydig iawn ar benwythnosau. Mae hyn yn adlewyrchiad o wythnos waith arferol asiantau sy'n cwblhau ffurflenni Treth Trafodiadau Tir.

Mae 45% y trafodiadau i rym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 ar ddydd Gwener. Mae'r ganran hon ychydig yn is nag yn y flwyddyn flaenorol, oherwydd y nifer fawr o ffurflenni treth oedd mewn grym ar ddiwrnod olaf cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth (30 Mehefin 2021), oedd yn ddydd Mercher.

Er bod cyfran uwch na'r cyfartaledd o'r ffurflenni treth wedi cael eu cyflwyno ar ddydd Gwener, mae'r gwahaniaeth yn llawer llai amlwg nag ar gyfer y dyddiad dod i rym. Mae hyn yn awgrymu nad yw ffurflenni'n cael eu cyflwyno’n gyffredinol ar yr un diwrnod ag y mae'r trafodiadau’n cael eu cwblhau.

Er na ddangosir hynny uchod, mae tystiolaeth yn y data hefyd bod cynnydd hyd yn oed mwy amlwg yn nifer y cyflwyniadau ar ddydd Gwener olaf pob mis.

Nôl i dop y dudalen

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r blwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r blwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau blynyddol o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 6 band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r 3 band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Cyflwynir dadansoddiad o dueddiadau chwarterol yn ôl band treth yn ein datganiadau chwarterol. Bu cryn amrywiad yn ystod y 2 flynedd diwethaf, a ddadansoddwyd ar gyfer pob un o’r bandiau treth yn adran 2 y datganiad hwn ac yn fwy cyffredinol yn yr adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’.

Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, cynyddodd nifer y trafodiadau preswyl ar gyfer eiddo hyd at a chan gynnwys £180,000 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, er ei fod yn parhau'n is na'r lefel a welwyd yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, cynyddodd nifer y trafodiadau mewn bandiau treth gwerth uwch i'r ffigurau uchaf a welwyd hyd yma.

Ym mhob un o'r 4 band treth a gyflwynwyd yn Ffigur 3.2, y dreth a oedd yn ddyledus yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 oedd y ffigur blynyddol uchaf a welwyd hyd yma. Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y bandiau treth gwerth uwch, gyda threth yn ddyledus ar eiddo dros £400,000 tua dwywaith a hanner y lefel a welwyd yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae'r tueddiadau blynyddol yn nifer y trafodiadau a'r dreth oedd yn ddyledus ym mhob band yn gyson â chynnydd cyffredinol yng ngwerth yr eiddo a werthwyd a chynnydd mewn treth oedd yn ddyledus ar yr eiddo hynny.

Image
Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, roedd 51% o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth yn 0% ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am 14% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.

Roedd yr 21% o drafodiadau yn yr ail fand treth (pris prynu £180,001 i £250,000) i gyfrif dim ond 10% o'r dreth oedd yn ddyledus Fodd bynnag, yn y trydydd band treth (pris prynu £250,001 i £400,000), roedd dim ond 20% o’r trafodadau i gyfrif am 29% o’r dreth oedd yn ddyledus.

Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 8% o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 47% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus. Mae'r ddwy ganran hon wedi codi’n gyffredinol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan adlewyrchu cynnydd yn niferoedd y trafodiadau gwerth uwch.

Nôl i dop y dudalen

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y blwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y blwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau blynyddol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 4 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 2 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth and yw’r werth rhent a gyflwynwyd wedi cynyddu i'r gwerthoedd blynyddol uchaf a welwyd hyd yma yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, roedd y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau â gwerth nad yw’n rhent o fwy nag £1 filiwn yn fwy na dwbl y ffigur blynyddol uchaf a welwyd o’r blaen.

Mae’n bosibl bod patrwm cyfnewidiol o drafodiau yn ystod adferiad COVID-19 yn cyfrannu at y duedd hon. Er enghraifft, mae tystiolaeth o niferoedd ychydig yn uwch o bryniannau llwyr eiddo amhreswyl, o gymharu â lesoedd newydd. Mae pryniannau'n tueddu i gynhyrchu mwy o refeniw na lesoedd ond mae'n dal yn aneglur pa effaith y gallai hyn ei chael ar refeniw yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn yn y dyfodol. Am fwy wybodaeth, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidau yng nghyfraddau y Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn. Mae data chwarterol wedi amrywio'n sylweddol, a chyflwynir dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol.

Ym mhob blwyddyn, mae tua 60% i 80% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob blwyddyn, mae tua 5% i 20% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl.

Image
Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Image
Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Mae Ffigur 4.3 yn dangos bod yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, 6% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 81% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4). Dylanwadodd nifer fechan o drafodiadau amhreswyl mawr iawn y canran hwn.

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 24% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 6% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus, yn is nag yn blynyddoedd blaenorol (Ffigur 4.4).

Nôl i dop y dudalen

5. Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn, neu
  • o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Image
Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym.
Image
Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Roedd 1,230 o drafodiadau yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 a gafodd £54.6 miliwn ryddhad arnynt gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae data chwarterol wedi amrywio'n sylweddol, a chyflwynir dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol.

(heb ei ddangos yn Ffigur 5.1) Ar gyfartaledd, ym mhob blwyddyn mae tua 400 i 600 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Bob blywddyn, cafodd nifer uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Hyd at y blwyddyn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, cyfrannodd gwerth y rhyddhadau a hawlir oddeutu dwy ran o dair, neu uwch, i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd. Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, roedd gwerth y rhyddhadau a hawliwyd ar drafodiadau preswyl yn uwch nag ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Dangosodd dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol amrywiad sylweddol ar gyfer cyfnodau o dri mis. Er enghraifft, bu rhai cyfnodau o dri mis lle cyfrannodd ychydig o drafodiadau preswyl mawr at ryddhadau preswyl sylweddol fwy na'u cymheiriaid amhreswyl, yn arbennig yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Image
Mae Ffigur 5.3 yn dangos  swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym a math o ryddhad.
Image
Mae Ffigur 5.4 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym y math o ryddhad.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Yn ein datganiadau blynyddol blaenorol, cyflwynwyd data gennym yn ôl y math o ryddhad wedi ei ddadansoddi ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl. Nid yw'r dadansoddiad hwn ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl bellach yn cael ei gyflwyno yn y siart, ond mae'r data ar gael ar StatsCymru yn y ddolen uchod.

Y math o ryddhad a gafodd yr effaith fwyaf ar y dreth a oedd yn ddyledus bob blywddyn oedd rhyddhad grŵp. Roedd hyn yn cyfrif am 69% o'r dreth a ryddhawyd yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019, gan ostwng i 47% yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Cynyddodd gwerth y rhyddhad anheddau lluosog a hawliwyd ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf, sydd bellach yn cyfrif am tua chwarter gwerth yr holl ryddhadau a hawliwyd yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Nôl i dop y dudalen

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 20 Mehefin 2022.

Image
Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl blwyddyn yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 6,290 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill 2018 i Fawrth 2022, gyda £59.6 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Mae Ffigur 6.2 isod yn dangos ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch, gan ddefnyddio'r dyddiad pan gymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Image
Mae Ffigur 6.2 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl a roddwyd, yn ôl y flwyddyn y cymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Cynyddodd nifer yr ad-daliadau a gymeradwywyd (a gwerth yr ad-daliadau hynny) bob blwyddyn yn ystod Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Byddai disgwyl hyn, gan fod mwy o amser wedi mynd heibio i geisiadau gael eu gwneud. Hefyd yn ôl y disgwyl, mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gymeradwywyd rhwng 1 Ebrill 2022 a 20 Mehefin 2022 yn is na blynyddoedd cynharach, cyflawn.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Nôl i dop y dudalen

7. Treth a dalwyd

Image
Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £401.1 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Dyma'r 72% yn uwch na'r £232.8 miliwn a dderbyniwyd yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Fel y disgrifir yn adran 1 o'r datganiad hwn ('Ynglŷn â'r ystadegau yma'), mae'n fwy priodol cymharu'r cyfnod presennol yn erbyn Ionawr i Fawrth 2020 na'r un cyfnod yn 2021. Mae hyn oherwydd effeithiau cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) a newidiadau cyfraddau treth ar weithgaredd y farchnad dai yn 2020-21.

Mae'r gwerthoedd hyn yn wahanol na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i ddata cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018 gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.

Sylwch hefyd fod:

  • y data yn Ffigur 7.1 yn cael ei gyflwyno’n net o ad-daliadau cyfradd uwch sy'n cael eu talu mewn mis penodol
  • y data yn Ffigur 7.1 yn cynnwys cosbau a dalwyd (megis ar gyfer ffeilio hwyr neu dalu'n hwyr) a hefyd llog a dalwyd ar ddyled flaenorol y Dreth Trafodiadau Tir
  • ni fydd yn cynnwys swm cymharol bach o Treth Trafodiadau Tir heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Roedd y derbyniadau misol uchaf a welwyd hyd yma ym mis Rhagfyr 2021 (£43.1 miliwn). Fel arfer, mae tueddiadau misol mewn taliadau a wnaed yn cael eu dylanwadu’n rhannol gan dreth sy’n ddyledus a adroddwyd ar ddiwedd y mis blaenorol. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol bod treth sy'n ddyledus a adroddwyd ym mis Rhagfyr yn cael ei thalu ym mis Rhagfyr, ynghyd â thaliadau sy'n gysylltiedig â thrafodiadau ddiwedd mis Tachwedd. Mae hyn oherwydd gwyliau'r Nadolig a lefelau isel o drafodiadau a adroddwyd a threth a dalwyd ddiwedd mis Rhagfyr, gyda llawer o drafodiadau wedi'u dwyn ymlaen a'u setlo cyn wythnos olaf y mis.

Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Gall trafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir gael eu diwygio am amryw o resymau, er enghraifft yn dilyn adolygiad i'w cywirdeb, neu roi ad-daliadau cyfraddau uwch. Gan fod y data yn y datganiad hwn yn seiliedig i raddau helaeth ar y dyddiad y daeth y trafodiadau i rym, sydd fel arfer yn aros yr un fath, yna gall llawer o'r data a gyhoeddir yma am cyfnodau blaenorol newid o hyd.

Er y dylai bron pob trafodiad sy’n ymwneud â 2021-22 fod wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn (oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers diwedd y flwyddyn), ni fydd y data ar gyfer 2018-19 i 2021-22 wedi’i gwblhau'n llawn hyd nes bod y cyfnod ar gyfer adolygu wedi dod i ben. Yn achos ad-daliadau cyfradd uwch, gall hyn fod gyhyd â thair blynedd ar ôl y trafodiad gwreiddiol, gyda ffenestr hirach o bosibl ar gael ar gyfer rhai trafodiadau eraill, megis y rhai y mae’r Awdurdod yn dewis agor ymchwiliad iddynt.

At ddibenion cyfrifo a rhagfynegi, mae angen creu ffigur terfynol ar lefel Cymru ar gyfer cyfanswm y dreth sy'n ddyledus am bob blwyddyn. Er bod gwerth yr arian a dderbyniwyd yn Ffigur 7.1 yn cael ei bennu cyn gynted ag y daw pob cyfnod i ben, mae hyn yn rhy syml ar gyfer y diben hwn. Er enghraifft, nid yw Ffigur 7.1 yn nodi'r flwyddyn dreth y mae’r trafodiadau’n ymwneud â hi.

Yn hytrach, diffinnir ffigur cyfrifyddu terfynol hwn a gyfer 2021-22 drwy gynnwys trafodiadau (neu unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau) a dderbyniwyd hyd at 30 Ebrill 2022 oedd â dyddiad dod i rym yn ystod 2021-22. Mae hyn yn cynnwys unrhyw addasiadau cyfrifyddu statudol y mae'n ofynnol i ni eu gwneud, oedd yn llai na £0.1m yn 2021-22. Nid yw unrhyw drafodiadau a dderbyniwyd (neu ddiwygiadau a wnaed) ers 30 Ebrill 2022, neu sydd eto i'w derbyn, wedi'u cynnwys. Mae’r data hwn wedi’i gyhoeddi’n ffurfiol fel rhan o adroddiad a chyfrifon blynyddol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2021-22, fel y’u gosodwyd gerbron Senedd Cymru.

Ffigur 7.2 Refeniw a gyflwynir yn y Gyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (£ miliwn)
Math o drafodiad 2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Preswyl  155.4 163.4 152.1 271.8
Amhreswyl  72.4 96.9 58.4 130.4
Cyfanswm 227.8 260.3 210.5 402.2

Ffynhonnell: Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Mae gwahaniaeth allweddol rhwng cyfanswm y refeniw ar gyfer bob blwyddyn (Ffigur 7.2) a'n hystadegau ehangach yn ymwneud ag ad-daliadau cyfraddau uwch. Er enghraifft, bydd trafodiadau a ad-dalwyd yn ystod 2021-22 (sy'n ymwneud â thrafodiad gwreiddiol yn 2018-19, 2019-20 neu 2020-21) yn cael effaith ar werth 2021-22 yn Ffigur 7.2, ond ar werthoedd 2018-19, 2019-20 neu 2020-21 yn ein hystadegau ehangach.

Nôl i dop y dudalen

8. Dadansoddiad o fewn Cymru

Prif bwyntiau yn yr adran hon

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 yn ôl awdurdod lleol yn dangos:

  • ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£9,440) ac ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£1,250). Ar gyfer trafodiadau amhreswyl, roedd y ffigur hwn ar ei uchaf yn Sir y Fflint (£60,460) ac ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£3,290).
  • ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad ar ei uchaf yn Sir Fynwy (£333,000) ac ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£124,000).
  • roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio rhwng 15% yn Sir Fynwy a 37% yng Ngwynedd.

Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau er enghraifft darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn yr erthygl sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Data yn ôl awdurdod lleol

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (ar sail flynyddol yn unig). Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.

Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.

Rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl a threth sy'n ddyledus.

Hefyd, rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar werth eiddo sy'n cael ei drethu (a elwir yn gydnabyddiaeth) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Mae hyn oherwydd bod rhai trafodiadau amhreswyl â chydnabyddiaeth arbennig o fawr a risg posibl o adnabod trethdalwr pe byddem yn cyhoeddi data blynyddol awdurdodau lleol ar y rhain.

Rydym yn croesawu barn defnyddwyr ynghylch a ddylem yn ymchwilio i ymarferoldeb cyfuno nifer o flynyddoedd o drafodiadau amhreswyl er mwyn caniatáu cyhoeddi data cydnabyddiaeth yn ddiogel.

Data ar gyfer daearyddiaethau eraill

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau blynyddol ar gyfer:

  • etholaethau'r Senedd
  • Parciau Cenedlaethol
  • ardaloedd adeiledig

Nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu dadansoddi yn y datganiad hwn ond maent ar gael ar y gwefan StatsCymru. Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig.

Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, Parc Cenedlaethol, neu ardal adeiledig.

Mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint mewn achosion lle nad yw’r cod post yn cael ei ddarparu, a dyma’r achosion lle nad yw’n bosibl dyrannu’r trafodiad i ardal leol. O ganlyniad, bydd yr achosion amhreswyl sy'n weddill yn arwain at ystadegau nad ydynt yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer y daearyddiaethau hyn sy’n seiliedig ar godau post.

Cyflwyno cyfartaleddau yn yr adran hon

Lle caiff cyfartaleddau Cymru eu cyflwyno yn yr adran hon, mae'r rhain yn gymedrau wedi’u pwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd o drafodiadau ym mhob awdurdod lleol.

Mae ffigurau 8.1 i 8.3 a 8.5 yn rhoi cymarebau (er enghraifft, treth sy'n ddyledus fesul trafodiad neu drafodiadau cyfraddau uwch fel cyfran o'r holl drafodiadau). Mae angen y defnydd hwn o gymarebau er mwyn creu data y gellir ei gymharu ar draws yr holl awdurdodau lleol, gan y bydd y cysyniadau unigol yn aml yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau lleol oherwydd yr amrywiaeth o ran eu maint a'u poblogaeth.

Er enghraifft, ystyriwch Ffigur 8.1. Ymhlith awdurdodau lleol Cymru, Caerdydd oedd â’r swm uchaf o dreth breswyl yn ddyledus a nifer uchaf y trafodiadau preswyl. Oherwydd eu maint, byddai hyn yn atal cymhariaeth ystyrlon ar draws awdurdodau lleol, ond wrth edrych ar dreth a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl, awdurdod llawer llai (Sir Fynwy) oedd yn â’r swm uchaf, gyda'r swm cymaradwy yng Nghaerdydd y pumed fwyaf.

Image
Mae Ffigur 8.1 yn dangos ar gyfer trafodiadau preswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.1 yn dangos, ar gyfer trafodiadau preswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£9,440) a Bro Morgannwg (£8,490).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£1,250) a Chastell-nedd Port Talbot (£1,610).

Ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i flynyddoedd blaenorol.

Ar gyfer bob awdurdodau lleol, cynyddodd y dreth gyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 o leiaf 25%, o'i chymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Disgrifir cynnydd mewn gwerth trafodiadau yn adrannau 2 a 3 o'r datganiad hwn.

Image
Mae Ffigur 8.2 yn dangos ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch: swm y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.2 yn cyflwyno data tebyg i Ffigur 8.1, heblaw bod Ffigur 8.2 yn canolbwyntio ar y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus o drafodiadau cyfraddau uwch (nid cydran prif gyfradd y trafodiadau hynny). Cyfrifir y refeniw cyfartalog fesul y nifer o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch ym mhob awdurdod lleol.

Mae trefn yr awdurdodau lleol yn gyffredinol debyg yn Ffigur 8.1 ac 8.2, ond mae yna rai gwahaniaethau. Er enghraifft, ail uchaf yw Bro Morgannwg yn Ffigwr 8.1 ond mae’n pedwerydd uchaf yn Ffigur 8.2.

Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, roedd y refeniw ychwanegol cyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl cyfraddau uwch ar ei uchaf yn Sir Fynwy (£11,820) ac Ynys Môn (£11,530), ac isaf ym Mlaenau Gwent (£3,570) a Rhondda Cynon Taf (£4,120).

Ym mhob awdurdod lleol, cynyddodd o leiaf 25% y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl cyfraddau uwch yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, o'i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Disgrifir cynnydd mewn gwerth trafodiadau yn adrannau 2 a 3 o'r datganiad hwn.

Image
Mae Ffigur 8.3 yn dangos ar gyfer trafodiadau amhreswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.3 yn dangos, ar gyfer trafodiadau amhreswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir y Fflint (£60,460).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl ar ei isaf ym Mhlaenau Gwent (£3,290).

Yn yr un modd â thrafodiadau preswyl, roedd y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau unigol mewn awdurdod lleol yn amrywio'n fawr o amgylch y ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru.

Er bod y patrymau a welir ar gyfer preswyl a amhreswyl yn eithaf tebyg, mae rhai gwahaniaethau clir yn nhrefn yr awdurdodau lleol rhwng y 2 siart.

Ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022, mae’r safle gymharol yn y siart ar gyfer rhai awdurdodau lleol wedi newid yn sylweddol (o'i chymharu ag Ebrill 2019 i Fawrth 2020). Er enghraifft, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi codi o'r trydydd isaf i'r ail uchaf, tra bod Caerffili wedi cwympo o'r ail uchaf i'r deuddydd uchaf. Mae hyn yn dangos anwadalrwydd y data amhreswyl o flwyddyn i flwyddyn. Gall nifer fach o drafodiadau mawr iawn ddylanwadu'n sylweddol dros y cyfartaledd ar gyfer awdurdod lleol.

Dros y cyfnod hwn, cynyddodd y dreth gyfartalog flynyddol oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl yn sylweddol mewn rhai awdurdodau lleol. Yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus yn fwy nag £20,000 yng Nghaerdydd yn unig, tra bod hyn wedi digwydd mewn 8 awdurdod lleol yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Image
Mae Ffigur 8.4 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.4 yn dangos yr amrywiaeth eang rhwng awdurdodau lleol o ran lefel y trafodiadau preswyl cyfradd uwch. Cyflwynir y data hwn fel canran o'r holl drafodiadau preswyl.

Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Na allwn bennu dylanwad rhai o'r categorïau hyn (am nad yw'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn gofyn y cwestiwn). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn adran 9 y datganiad hwn (yn ôl amddifadedd) yn ein galluogi i ddod i gasgliad petrus bod eiddo prynu i osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi.

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch o Dreth Trafodiadau Tir yn yr erthygl sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn fwy cyffredin yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yng Ngwynedd (37%), Ynys Môn (32%) ac Sir Benfro (30%).

Gwelwyd y canrannau isaf yn Sir Fynwy (15%) a Thor-faen (16%).

Ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg i Ebrill 2019 i Fawrth 2020 ((data wedi’i echdynnu fis Mehefin 2020). O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf rhwng un flwyddyn a’r llall oedd:

  • Merthyr Tudful (cynnydd o 5 pwynt canran)
  • Ynys Môn, Sir Gaefyrddin a Sir Fynwy (y tri â gostyngiad o 4 pwynt canran)
  • Powys, Caerffili a Chaerdydd (y tri â gostyngiad o 3 phwynt canran)
Image
Mae Ffigur 8.5 yn dangos gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y gwerthoedd eiddo cyfartalog (neu gydnabyddiaeth) uchaf, fesul trafodiad yn Sir Fynwy (£333,000) a Bro Morgannwg (£295,000), ac yr isaf ym Mlaenau Gwent (£124,000) a Merthyr Tudful (£143,000).

Mae'n rhy syml trin y ffigurau uchod fel prisiau eiddo cyfartalog ynddynt eu hunain, neu er mwyn canfod twf prisiau mewn awdurdod lleol penodol. Bydd rhai trafodiadau mawr yn bresennol a all achosi tuedd yn y data hyn ac efallai na fydd cyfansoddiad y trafodiadau mewn unrhyw gyfnod penodol yn gynrychioliadol o'r stoc gyfan, na'r newid yn y stoc. Yn hytrach dylid defnyddio'r data i nodi tueddiadau ehangach ym mhrisiau tai ledled Cymru, ac ym mhle yng Nghymru mae'r prisiau isaf neu uchaf yn gyffredinol. Gweler ein gwybodaeth allweddol am ansawdd lle gwnaethom ychwanegu gwybodaeth o'r blaen am gymariaethau rhwng ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir a Mynegai Prisiau Tai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Fel y gwelwyd mewn tueddiadau ehangach yn y farchnad eiddo, mae gwerth cyfartalog eiddo preswyl wedi’i drethu wedi cynyddu o leiaf 10% ym mhob awdurdod lleol yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, o'i gymharu â'r Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Ac ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i flynyddoedd blaenorol.

Nôl i dop y dudalen

9. Dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Yn yr adran hon o’r datganiad, rydym yn dadansoddi Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ardaloedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos lefel y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer ardaloedd MALlC ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r ardal MALlC. Lle na chaiff y cod post ei nodi, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir eu dosbarthu i ardaloedd MALlC nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer ardaloedd MALlC.

Beth yw MALlC a sut yr ydym yn ei ddefnyddio?

Mae MALlC wedi'i gynllunio er mwyn nodi’r ardaloedd bychain hynny o Gymru sydd fwyaf difreintiedig. Ar hyn o bryd mae MALlC yn cynnwys 8 gwahanol faes (neu fath) o amddifadedd. Mae pob maes wedi'i lunio o ystod o wahanol ddangosyddion. Yr 8 maes yw incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, diogelwch cymunedol, yr amgylchedd ffisegol a thai. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we MALlC.

Pan fo wedi’i gofnodi, rydym wedi cysylltu'r cod post o’r ffurflen dreth i tua 1,900 o ardaloedd bychain yng Nghymru. Caiff yr ardaloedd bychain hyn eu rhestru gan MALlC o'r mwyaf i'r lleiaf difreintiedig. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u rhannu'n ddeg band cyfartal eu maint o'r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig (a elwir yn 'ddegfedau').

Diweddarwyd safleoedd MALlC yn ddiweddar (2019). Rydym wedi defnyddio'r safleoedd MALlC diweddaraf hyn yn y datganiad hwn. Mae pob diweddariad o safleoedd MALlC wedi'i gynllunio i bara am oddeutu 3 i 6 blynedd. Pan wnaethom gyhoeddi'r dadansoddiad hwn 2 flynedd yn ôl, gwnaethom ddefnyddio safleoedd MALlC 2014.

Lle caiff cyfartaleddau eu cyflwyno yn yr adran hon, mae hwn yn gymedr wedi’i bwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd y trafodiadau ym mhob degfed MALlC.

Mae'n bwysig nodi mai mesuriad ar sail ardal yw MALlC. Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, nid yw pawb sy'n byw yn yr ardaloedd hynny yn ddifreintiedig. Yn yr un modd, gall rhai o'r boblogaeth sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fod yn ddifreintiedig.

Mae’n bwysig nodi bod MALlC yn canolbwyntio ar amddifadedd cymharol yn unig, felly nid yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fydd y rhai mwyaf cefnog o reidrwydd. Dylai cyfeiriad y symudiad a nodir yma gael ei ystyried fel y symudiad o’r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig ac nid o’r difreintiedig i’r cefnog.

Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf o'r amrywiad o ran amddifadedd i'w weld yn y degfedau mwyaf difreintiedig. Mae'r gwahaniaeth (mewn amddifadedd cymharol) rhwng y degfed mwyaf difreintiedig a'r ail fwyaf difreintiedig yn fwy nag ydyw ym mhen arall y dosbarthiad.

Image
Mae Ffigur 9.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac ar y cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.
Image
Mae Ffigur 9.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl a’r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac ardal amddifadedd ar StatsCymru

Gan fod pob un o'r degfedau hyn o faint tebyg o ran poblogaeth, gallwn ddadansoddi'r data heb eu graddio ar gyfer eu maint , fel yr oedd yn angenrheidiol ar gyfer awdurdodau lleol (gweler y blwch llwyd adran 8 y datganiad hwn). Mae hyn yn ein galluogi i ystyried nifer y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus ar wahân yn hytrach na'r gymhareb rhwng y ddwy eitem a ddadansoddwyd gennym ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae Ffigur 9.2 yn dangos, fel y gellid disgwyl, bod cyfanswm y dreth breswyl sy'n ddyledus yn tyfu'n sylweddol drwy'r ystod o ardaloedd (o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig). Mae hyn yn cynrychioli gwahaniaethau tebygol yng ngwerth eiddo yn yr ardaloedd hyn.

Fodd bynnag, mae Ffigur 9.1 hefyd yn dangos fod nifer y trafodiadau preswyl ar ei isaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gyrraedd uchafbwynt tua chanol a thug at ran olaf y dosbarthiad. Mae hyn yn awgrymu bod amddifadedd nid yn cysylltu â’r prisiau ond hefyd i’r lefel y gweithgaredd yn y farchnad dai yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae'r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch hefyd yn tyfu o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hyd at ddiwedd y dosbarthiad, cyn disgyn yn y degfed lleiaf difreintiedig.

Ar gyfer data Treth Trafodiadau Tir Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (gan ddefnyddio safleoedd MALlC 2019), mae'r patrwm a welir yn Ffigurau 9.1 a 9.2 yn debyg yn fras i ddata Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020 (gan ddefnyddio safleoedd MALlC 2019 hefyd).

Image
Mae Ffigur 9.3 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl ardal amddifadedd a math o drafodiad ar StatsCymru

Mae Ffigur 9.3 yn dangos canran y trafodiadau cyfraddau uwch o fewn cyfanswm y trafodiadau preswyl ar gyfer pob degfed MALlC. Yn gyffredinol, mae cyfran y trafodiadau preswyl sy'n cael eu trethu ar y cyfraddau uwch yn disgyn o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (gyda rhai eithriadau).

Fel y nodwyd yn adran 8 y datganiad hwn, mae amryw o resymau am godi’r cyfraddau treth uwch, 2 o'r rhain yw pryniant eiddo prynu-i-osod a phrynu ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae Ffigur 9.3, ynghyd â ffigur 9.1 (sy'n dangos mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd yn nifer y trafodiadau cyfraddau uwch rhwng degfedau MALlC), yn gallu rhoi cipolwg ar y cydbwysedd rhwng y 2 eitem hyn.

Gan dybio bod eiddo prynu-i-osod yn fwy tebygol o gael ei brynu mewn ardaloedd mwy difreintiedig, tra bod ail gartrefi neu dai gwyliau yn fwy tebygol o gael eu prynu ymhellach i fyny'r dosbarthiad, yna gellir dod i gasgliad petrus bod eiddo prynu-i-osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi. Mae'n bwysig, felly, peidio â thybio mai unrhyw ffactor unigol yw achos codi’r gyfradd uwch.

Image
Mae Ffigur 9.4 yn dangos y nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfradd uwch a gyhoeddwyd ar gyfer trafodiadau yn dod i rym o Ebrill 2018 i Fawrth 2022, yn ôl degfed MALlC.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar ad-daliadau cyfraddau uwch ardal amddifadedd a dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Mae Ffigur 9.4 yn dangos data yn ôl degfed MALlC ar ad-daliadau cyfraddau preswyl uwch a gyhoeddwyd ar gyfer trafodiadau a ddaeth i rym yn ystod y 4 blynedd Ebrill 2018 i Fawrth 2022. Disgwylir gwneud rhagor o ad-daliadau yn y dyfodol. ar gyfer trafodiadau a ddaeth i rym yn y cyfnod hwn. Cyflwynir dadansoddiadau eraill o ad-daliadau yn ôl dyddiad dod i rym yn Ffigur 6.1 yn gynharach yn y datganiad hwn.

Mae Ffigur 9.4 yn dangos cymharol ychydig o ad-daliadau, a gwerth yr ad-daliadau hynny, yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Gall hyn gryfhau’r casgliad petrus o dan Ffigur 9.3 bod prynu-i-osod yn ffactor o ran pam y codir cyfraddau treth uwch.

Nôl i dop y dudalen

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn dadansoddi yr effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Ionawr 2022. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 25 Chwefror 2022, yr ail amcangyfrif ar 25 Mawrth 2022 a'r trydydd amcangyfrif ar 28 Ebrill 2022.

Image
Mae Ffigur A1 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn nifer y trafodiadau.
Image
Mae Ffigur A2 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn y dreth oedd yn ddyledus.

Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (Taenlen Dogfen Agored)

Mae Ffigurae A1 ac A2 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill 2018 oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data.

Fodd bynnag, mae’r ffigwr ar gyfer Ebrill 2018 o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (11%). Yr esboniad yw nad oedd Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill 2018, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2018).

Mae Ffigurae A1 ac A2 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Awst 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod i fyny a rhwng 0 a 5%. Yr eithriadau diweddar oedd:

  • Mis Ebrill 2019 pan oedd y dreth yn ddyledus yn adolygu i lawr 3% rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif.
  • mis Mehefin 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • Mis Medi 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 16%)
  • Mis Ionawr 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 27%)
  • Mis Mawrth 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 6%)
  • Mis Mehefin 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • Mis Hydref 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 8%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data. Er i ni weld diwygiadau uwch ar gyfer amcangyfrifon Gorffennaf 2018 na’r misoedd o’i gwmpas, nid ydym yn gweld unrhyw debygrwydd amlwg yn y data ar gyfer 2019. Ac ynmhellach, mae effeithiau coronafirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir wedi effeithio’n sylweddol ar ddata ar gyfer Ebrill 2020 ymlaen. Felly, bydd angen gwerth blwyddyn arall o ddata arnom er mwyn asesu unrhyw ddiwygiadau o ran effeithiau tymhorol.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau A1 a A2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Rydym yn dadansoddi ad-daliadau yn adran 6 o'r datganiad ystadegol hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf mis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir i gyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Nôl i dop y dudalen

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo

 

Image
National statistics