Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym (Awdurdod Cyllid Cymru) yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni wedi'u derbyn erbyn 17 Ebrill 2023.

Mae Tabl 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023
  • y newid o ran canran yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022 (a wnaed ym mis Ebrill 2022)

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn yr adran ‘Ynglŷn â’r ystadegau yma’ (‘Cymariaethau dros amser’).

Tabl 1.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif blaenorol blwyddyn ynghynt [nodyn 1]
Math o drafodiad Ionawr i Fawrth 2023 [dros dro] Newid o ran % (o gymharu ag Ionawr i Fawrth 2022) [nodyn 3] 
Trafodiadau [nifer] 
Preswyl  10,470 -20%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 2,580 -23%
Amhreswyl  1,440 -8%
Pob trafodiadau 11,910 -19%
Treth yn ddyledus [£ miliwn] 
Preswyl  54.4 -18%
O'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 2]  19.7 -20%
Amhreswyl  17.6 -47%
Pob trafodiadau 72.0 -27%

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae tabl hwn yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022 a wnaed yn Ebrill 2022.

Tabl 1.2 Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig, yn ôl blwyddyn ariannol y daeth y trafodiad i rym (£ miliwn)
  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr [nodyn 1]  [w] 28.2 [w] [w]
Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd) [nodyn 2]  [w] 2 0 [w]

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

[Nodyn 1] Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

[Note 2] Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

[w] Dim trafodiadau a gofnodwyd yn y categori hwn.

Gan gymharu Ionawr i Fawrth 2023 gyda Ionawr i Fawrth 2022 ar sail tebyg am debyg:

  • gostyngodd cyfanswm y trafodiadau o 19% a gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 27%
  • gostyngodd trafodiadau preswyl gan 20% a gostyngodd threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 18%
  • o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 23%
  • gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 20%, er y dylid bod yn ofalus wrth wneud y gymhariaeth hon. I gael mwy o wybodaeth, gweler ‘Cymariaethau dros amser’ yn yr adran ‘ynglŷn â’r ystadegau yma’ yn y datganiad hwn.
  • bu gostwng o 8% mewn trafodiadau anhreswyl. Gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 47%

Nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys y trafodiadau ychwanegol a gyflwynir yn Nhabl 1.2 uchod. Dylid defnyddio'r gwerthoedd yn Nhabl 1.2 os am gael gwerth ar gyfer cyfanswm y refeniw Treth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn, yn unig.

Ar gyfer trafodiadau preswyl, y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 oedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd ers Ionawr i Fawrth 2021, er ei bod yn parhau’n uwch yn gyffredinol na’r 3 blynedd cyn hynny. Mae'r gostyngiad mawr yn y dreth breswyl oedd yn ddyledus y chwarter hwn yn adlewyrchu gostyngiad mewn trafodiadau preswyl. Mae hyn yn debygol o fod wedi'i ddylanwadu gan amodau economaidd ehangach a chyfraddau llog uwch bellach yn dylanwadu ar drafodiadau eiddo.

Mae adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn yn dangos cynnydd cyffredinol yng ngwerth eiddo preswyl. Mae canran y trafodiadau preswyl a oedd â gwerth hyd at ac yn cynnwys £180,000 wedi gostwng yn sylweddol, o 66% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 45% yn Ngorffennaf i Fedi 2022 a Hydref i Ragfyr 2022, y ffigurau chwarterol isaf a welwyd hyd yma. Cododd y ffigur hwn i 50% yn Ionawr i Fawrth 2023.

Hefyd, cododd canran y trafodiadau preswyl oedd â gwerth dros £400,000 o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 11% yn Ngorffennaf i Fedi 2022 a Hydref i Ragfyr 2022, y ffigurau chwarterol uchaf a welwyd hyd yma, cyn gostwng i 9% yn Ionawr i Fawrth 2023. Dylid nodi bod y tueddiadau hyn wedi bod yn anwastad, gydag amrywiad tymhorol i'w weld yn y canrannau o fewn pob blwyddyn.

Dros bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. O Fawrth 2021 i Fehefin 2022, roedd refeniw amhreswyl dros £8 miliwn yn y rhan fwyaf o fisoedd, ond dim ond dwywaith y bu’n fwy na’r swm hwn o Orffennaf 2022 i Fawrth 2023. Roedd y tueddiadau o Fawrth 2021 i Fehefin 2022 wedi'u hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y naw mis ers hynny.

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Roedd refeniwau Treth Trafodiadau Tir preswyl chwarterol yn Ionawr i Fawrth yr isaf i ni eu gweld ers yr un chwarter ddwy flynedd ynghynt, er eu bod yn gyffredinol wedi aros yn uwch na’r tair blynedd cyn hynny. Roedd refeniwau is y chwarter hwn yn adlewyrchu niferoedd llai o drafodiadau, a’r ddau beth yn debygol o fod wedi cael eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach a chyfraddau llog uwch.

“Roedd y refeniw chwarterol o drafodiadau amhreswyl yn is yn Ionawr i Fawrth nag ym mhob un o’r chwe chwarter blaenorol. Roedd y tueddiadau cynharach wedi’u hachosi’n bennaf gan nifer fach o drafodiadau mawr, ac rydym wedi gweld llai o’r rhain yn ddiweddar.”

Nôl i dop y dudalen

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Cymariaethau dros amser

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidiadd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022. Disgrifir unrhyw oblygiadau’r newidiadau hyn yn adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gall fod wedyn yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol (Ionawr i Fawrth 2023) â data am yr un cyfnod yn y blwyddyn ynghynt.

Dylid nodi bod yn bob argraffiad o’n ystadegau Treth Trafodiadau Tir, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ionawr i Fawrth 2022 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 wedi cael ei ddywygio eto.

Felly, yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • Data ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023; ac
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022 (a gyhoeddwyd gennym yn Ebrill 2022)

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Trafodiadau Tir i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir

Rydym yn anogu defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Bwriad yr erthygl yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Data ar gael dros Treth Trafodiadau Tir

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Hefyd, yn flynyddol, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
  • Etholaeth y Senedd (trafodiadau preswyl yn unig)
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (trafodiadau preswyl yn unig)
  • Parciau Cenedlaethol (trafodiadau preswyl yn unig)
  • ardaloedd adeiledig (trafodiadau preswyl yn unig)

Ar gyfer data ar lefel Cymru, rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegol, rydym yn esbonio’r amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mawrth 2023, Ionawr i Fawrth 2023, ac amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Mae rhesymau am hyn yn cynnwys:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
  • Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod Ebrill 2021 i Fawrth 2022, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Defnydd o’r term ‘amhreswyl’

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Talgrynnu rhifau a gyflwynir

Drwy gydol y datganiad hwn, rydym wedi talgrynnu unrhyw ddata a gyflwynir:

  • nifer y trafodiadau i'r 10 agosaf
  • cyfanswm treth i’r £0.1 miliwn agosaf, ac eithrio trafodiadau â manylion cyfyngedig (sy’n cael eu talgrynnu i’r £1 miliwn agosaf)
  • gwerth eiddo i'r £1 miliwn agosaf

Cyfrifir unrhyw gyfansymiau a gyflwynir gan ddefnyddio gwerthoedd heb eu talgrynnu.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ffigur 2.1 Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod ar eu hanterth yn Mehefin 2021 a bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau yn Rhagfyr 2021 ac yn Rhagfyr 2022. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2022 ychydig yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol, gyda mwy o wahaniaeth ers Ionawr 2023.

Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 106KB) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Ebrill 2023.

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’14 Ion’ yn 2023-24 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 25 i 31 Mawrth 2023 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 26 Mawrth i 1 Ebrill 2022 (yn gynwysedig).

Mae Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (17 Ebrill 2023 yn y datganiad hwn).

Bu uchafbwynt sydyn yn y trafodiadau a gyflwynwyd tua diwedd Mehefin 2021. Mae'r uchafbwynt yn gysylltiedig â'r cyfnod lleihau treth dros dro a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Cyflwynwyd 2,840 o drafodiadau, sef y nifer mwyaf erioed yn ystod yr wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2021, gyda llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar 30 Mehefin 2021. Yna gostyngodd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i lefel fwy arferol o Orffennaf, ac eithrio uchafbwynt llai o 1,670 o drafodion a welwyd yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Medi 2021. Mae’r gostyngiad mewn trafodidau yn yr wythnos yn dechrau 16 Ebrill 2022 yn cyd-daro â gwyliau cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae trafodiadau a gyflwynwyd yn wythnosol yn 2023-24 hyd yn yn ac yn 2022-23 wedi aros yn is na’r ffigurau ar gyfer yr un wythnosau yn 2021-22, gyda mwy o wahaniaeth i’w weld ers Ionawr 2023.

Ffigur 2.2 Nifer y trafodiadau, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod nifer chwarterol y trafodiadau preswyl yn sylweddol is yn Ionawr i Fawrth 2023 na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt, ac yn arddangos patrymau tymhorol yn y chwarteri yn y canol. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau amhreswyl yn is yn Ionawr i Fawrth 2023 na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd perthnasol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae’r trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Ar ddiwedd 17 Ebrill 2023, derbynion ni fanylion 11,910 o drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym yn Ionawr i Fawrth 2023. Mae hyn 19% yn is na’r Ionawr i Fawrth 2022 (amcangyfrifwyd yn Ebrill 2022).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd gostyngiad o 20%, 23% a 8% yn y drefn honno. Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.5a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y tueddiadau ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.5b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Yn Ionawr i Fawrth 2023, roedd 88% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 12% yn rhai amhreswyl. Ar gyfer cyfnodau blaenorol o dri mis, roedd y canrannau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl yn amrywio rhwng 86% a 92%.

Ffigur 2.3 Treth yn ddyledus ar drafodiadau, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod y dreth oedd ddyledus ar drafodiadau yn Ionawr i Fawrth 2023 yn is na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd y gostyngiad mewn refeniw ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy na'r gostyngiad mewn refeniw ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 (ac yn gynharach ar gyfer trafodiadau preswyl) wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Yn anad dim bydd hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mae cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ionawr i Fawrth 2023 oedd £72.0 miliwn. Mae hyn yn 27% yn is na Ionawr i Fawrth 2022 (amcangyfrifwyd yn Ebrill 2022). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth yn ddyledus o breswyl, refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch preswyl, a thrafodiadau amhreswyl oedd gostyngiadau o 18%, 20% a 47% yn y drefn honno.

Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.6a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y tueddiadau ers ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.6b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Fel y nodwyd yn Ffigur 2.3 uchod, nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys unrhyw dreth oedd yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

Ffigur 2.4 Gwerth a briodolir i eiddo sy’n agored i Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod gwerth eiddo oedd yn destun Treth Trafodiadau Tir yn Ionawr i Fawrth 2023 yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Cyfrannodd y gostyngiadau yng ngwerth trafodiadau preswyl fwy na'r gostyngiad ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae unrhyw werth eiddo sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2 wedi'i hepgor.

[Nodyn 2] Gall lesoedd amhreswyl sydd wedi’u rhoi o’r newydd fod â naill ai gwerth premiwm, gwerth rhent neu'r ddau (caiff y term 'premiwm' ei ddisgrifio'n fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'). Y gwerth rhent yw gwerth net presennol (NPV) y rhenti. Yn y siart hwn, dim ond yr elfen bremiwm sy'n cael ei chynnwys yn y cyfanswm. Ni gyflwynir y gwerth rhent yn y siart hon. Ni ddylid ychwanegu'r gwerth rhent at gyfanswm gwerth yr eiddo sydd wedi’i drethu, gan eu bod yn gysyniadau gwahanol. Ceir mwy o wybodaeth am elfen rhent y trafodiadau hyn yn Adran 4 yn y datganaid hwn.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae gwerthoedd trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi’u diwygio am i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu hawlio.

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ionawr i Fawrth 2023 oedd £3.1 biliwn. Mae hyn yn is na'r £4.4 biliwn a welwyd yn Ionawr i Fawrth 2022. Er, yn gyffredinol rydym wedi gweld cynnydd dros amser yng ngwerth cyfartalog yr eiddo a drethwyd. Gweler yr adran 'trafodiadau preswyl yn ôl gwerth' y datganiad hwn am ragor o sylwebaeth.

(heb ei ddangos yn Ffigur 2.4) Ar wahân i hynny, yn Ionawr i Fawrth 2023, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £146 miliwn. Roedd y ffigur cyfatebol yn Ionawr i Fawrth 2022 yn £327 miliwn.

Ffigur 2.5a Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau preswyl yn Ebrill i Fedi 2022 yn gyffredinol is na’r un misoedd flwyddyn ynghynt, yn enwedig yn Mehefin 2022 ac ers Ionawr 2023. O fewn y ffigurau hynny, roedd cyfraddau trafodiadau preswyl cyfraddau uwch yn debyg i’r un mis flwyddyn ynghynt, ac eithrio mis Mehefin 2022 a oedd sylweddol yn is.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mawrth 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Rhagfyr 2022 i Chwefror 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan 45% y trafodiadau (yn dod i rym yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022) ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Cyflwynir dadansoddiad o effaith cyfyngiadau COVID-19 o Fawrth 2020 mewn datganiadau cynharach. Yn Mehefin 2021, gwelwyd y nifer misol uchaf erioed o drafodiadau preswyl, yn cyd-fynd â'r cyfnod dros dro o ostyngiad yn y dreth a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Roedd hyn hefyd wedi effeithio ar fis Gorffennaf 2021 a welodd drafodiadau is na'r disgwyl yn arferol, gan fod rhai wedi'u dwyn ymlaen i Fehefin 2021 neu'n gynharach er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro. Ers Ebrill 2022, mae trafodiadau preswyl wedi bod yn is na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ac eithrio Gorffennaf 2022.

Ffigur 2.5b Nifer y trafodiadau amrheswyl, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau amhreswyl yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt, ac eithrio Mai 2022. Roedd cynnydd nodedig mewn trafodiadau yn Mawrth 2022 a Mawrth 2023 ers y mis blaenorol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mawrth 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Rhagfyr 2022 i Chwefror 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae graddfa Ffigur 2.5b yn wahanol i raddfa Ffigur 2.5a.

Ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yn Mawrth 2022 ac yn Mawrth 2023, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir. Ers mis Ebrill 2022, mae nifer y trafodiadau amhreswyl yn gyffredinol wedi bod yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt.

Cyflwynir dadansoddiad o effaith cyfyngiadau COVID-19 o Fawrth 2020 mewn datganiadau cynharach.

Ffigur 2.6a Treth yn ddyledus ar y trafodiadau preswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos fod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn Ebrill i Dachwedd 2022 yn uwch neu’n debyg i’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ac eithrio mis Mehefin. Yna roedd y refeniwau misol yn Rhagfyr 2022 i Fawrth 2023 yn is na'r un mis yn y flwyddyn flaenorol. O fewn y ffigurau hynny, roedd y refeniw ychwanegol o gyfraddau preswyl uwch yn dangos tueddiadau tebyg.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Mawrth 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Chwefror 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn gyffredinol yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau. Roedd hyn yn cynnyws y refeniw preswyl uchaf erioed a welwyd yn Mehefin 2021 cyn disgyn yn Ngorffennaf 2021. Roedd hyn oherwydd bod rhai trafodiadau wedi cael eu dwyn ymlaen yn ystod y flwyddyn er mwyn elwa o'r cyfnod o ostyngiad dros dro yn y dreth.

O Awst 2021 i Ragfyr 2022, roedd refeniwau preswyl misol ar lefel uchel yn gyffredinol, o gymharu â’r refeniwau misol a welwyd yn 2018 i 2020. Byddai hyn wedi bod yn bennaf oherwydd cynnydd yng ngwerth trafodiadau preswyl yn 2021, fel y disgrifir yn y adran 'trafodiadau preswyl yn ôl gwerth' y datganiad hwn.

Yn gyson â'r tueddiadau tymhorol disgwyliedig yn y farchnad eiddo, gostyngodd refeniwau’n sylweddol yn Ionawr 2022 a Ionawr 2023, cyn codi eto yn y ddau fis dilynol. Roedd y gostyngiad mewn refeniwau misol yn fwy ym mis Ionawr 2023 nag yn y mis Ionawr blaenorol, gan adlewyrchu lefel is y trafodiadau preswyl a welwyd hyd yn hyn yn 2023.

Ffigur 2.6b Treth yn ddyledus ar y trafodiadau amrheswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos fod y dreth fisol oedd ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn Ebrill 2021 i Fedi 2022 yn uwch nag £8 miliwn yn y rhan fwyaf o fisoedd. O Orffennaf 2022 i Fawrth 2023, roedd y dreth fisol oedd yn ddyledus dros £8 miliwn mewn dau mis yn unig: Medi 2022 a Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mawrth 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Rhagfyr 2022 i Chwefror 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Dros bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. O fis Mawrth 2021 i fis Mehefin 2022, roedd refeniw amhreswyl dros £8 miliwn yn y rhan fwyaf o fisoedd, ond dim ond unwaith y bu’n fwy na’r swm hwn o Orffennaf 2022 i Fawrth 2023. Roedd y tueddiadau yn Mawrth 2021 i Fehefin 2022 wedi'u hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y naw mis ers hynny.

Yn gyffredinol, mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Ffigur 2.7 Canran y trafodiadau sydd o bob math o drafodiad, Ionawr i Fawrth 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ionawr i Fawrth 2023, bod mwyafrif helaeth y trafodiadau preswyl yn drawsgludiadau neu’n drosglwyddiadau perchnogaeth. Roedd y gwerth hwn dros ddwy ran o dair ar gyfer trafodiadau amhreswyl, gyda ychydig llai chwarter y trafodiadau amhreswyl yn lesoedd newydd yn cael eu rhoi.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn Ionawr i Fawrth 2023 yn £2.8 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 94% ar gyfer trafodiadau preswyl a 72% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 24% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 1% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau o dri mis a blynyddoedd blaenorol.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Ffigur 3.1a Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos nifer y trafodiadau preswyl yn y band ‘hyd at ac yn cynnwys £180,000’ wedi gostwng yn sylweddol yn Ionawr i Fawrth 2022 ac yn Ionawr i Fawrth 20223, o’I gymharu â chwarteri blaenorol. Mae nifer chwarterol y trafodiadau yn y band ‘dros £400,000’ wedi bod yn uwch yn y ddwy flynedd ddiwethaf na’r ddwy flynedd flaenorol.

Ffigur 3.1b Canran y trafodiadau preswyl ym mhob band treth, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, ers mis Ebrill 2018, bod canran chwarterol y trafodiadau preswyl yn y band ‘dros £400,000’ wedi cynyddu’n gyffredinol, hyd at y gwerth uchaf ar y cyd a welwyd hyd yma yn Hydref i Ragfyr 2022, cyn gostwng ychydig yn Ionawr i Fawrth 2023. I’r gwrthwyneb, mae canran y trafodiadau yn y band ‘hyd at ac yn cynnwys band o £180,000’ yn gyffredinol wedi disgyn i’r gwerth chwarterol isaf ar y cyd a welwyd hyd yma yn Hydref i Ragfyr 2022 cyn codi yn Ionawr i Fawrth 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae Ffigurau 3.1a a 3.1b yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl, a'r canran y trafodiadau, ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Er gwaethaf effaith coronafeirws (COVID-19) ers Mawrth 2020 a'r adferiad a dilynodd, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd. Yn Ffigur 3.1a, mae mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad y nifer y trafodiadau yn Ionawr i Fawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Cyflwynir dadansoddiad o effaith COVID-19 a newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir mewn datganiadau blaenorol.

Mae Ffigur 3.1a yn dangos yn Ebrill i Fehefin 2021, cafwyd y niferoedd uchaf o drafodiadau ym mhob band a welwyd hyd yma (ac eithrio eiddo a brynwyd am hyd at a chan gynnwys £180,000). Yn Ebrill i Fehefin 2022, roedd nifer y trafodiadau ym mhob band yn is na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd amrywiadau yn y ddau chwarter dilynol cyn gostyngiad yn nifer y trafodiadau ym mhob band yn Ionawr i Fawrth 2023.

Yn gyffredinol mae Ffigur 3.1b yn dangos gostyngiadau yng nghanran y trafodiadau gyda gwerth hyd at ac yn cynnwys £180,000, a chynnydd yng nghanrannau’r trafodiadau yn y bandiau gwerth uwch, er bod amrywiadau tymhorol yn y ffigurau hyn. Cyn i bandemig COVID-19 ddechrau, roedd gan rhwng 60% a 66% o drafodiadau preswyl ym mhob cyfnod o dri mis werth o hyd at ac yn cynnwys £180,000. Yn Ngorffennaf i Fedi 2022 ac yn Hydref i Ragfyr 2022, 45% oedd y ffigurau hyn, y ganranau chwarterol isaf a welwyd hyd yma, cyn codi i 50% yn Ionawr i Fawrth 2023.

13% oedd canran y trafodiadau gwerth £250,001 i £400,000 yn Ebrill i Fehefin 2018, gan godi i 23% yn Ngorffennaf i Fedi 2022 ac yn Hydref i Ragfyr 2022, a gostwng i 21% yn Ionawr i Fawrth 2023. Cyn y bandemig COVID-19 ddechrau, roedd gan 3% i 5% o drafodiadau bob chwarter werth o dros £400,000. Yn Ngorffennaf i Fedi 2022 ac yn Hydref i Ragfyr 2022, roedd y ffigurau hyn wedi codi i 11%, cyn disgyn i 9% yn Ionawr i Fawrth 2023, sef y ganranau chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Dylid nodi bod amrywiadau tymhorol yn yr holl ffigurau a ddisgrifiwyd.

Ffigur 3.2a Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch wedi cynyddu’n sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf, dros y ddwy flynedd flaenorol. Yn Ngorffennaf i Fedi 2022, y dreth oedd ddyledus yn deillio o’r band ‘dros £400,000’ oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma, cyn gostyngiad bach yn Hydref i Ragfyr 2022 ac yna gostyngiad llawer mwy yn Ionawr i Fawrth 2023.

Ffigur 3.2b Canran y dreth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, yn Hydref i Ragfyr 2022, mai canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus, oedd yn deillio o’r band ‘dros £400,000’, oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma, sef ychydig dros hanner. I’r gwrthwyneb, yn Hydref i Ragfyr 2022, canran y dreth a oedd yn ddyledus, oedd yn deillio o’r band ‘hyd at ac yn cynnwys £180,000’, oedd y ffigur chwarterol isa far y cyd a welwyd hyd yma, yn cynrychioli degfed ran o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Mae Ffigurau 3.2a a 3.2b yn dangos tueddiadau chwarterol o dreth oedd yn ddyledus, a'r canran y dreth oedd yn ddyledus, ym mhob band treth. Fel gyda Ffigurau 3.1a a 3.1b yn blaenorol, rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Ar gyfer bandiau ‘£250,001 i £400,000’, a ‘dros £400,000’ a ddangosir yn Ffigur 3.2, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ngorffennaf i Fedi 2022 oedd y gwerthoedd uchaf a welwyd hyd yma, gyda gostyngiadau bach yn Hydref i Ragfyr 2022 ac yna gostyngiadau llawer mwy yn Ionawr i Fawrth 2023. Mae’r cynnydd hwn mewn treth hyd at Gorffennaf i Fedi 2022 sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw. Ym mhob band, gostyngodd y dreth a oedd yn ddyledus yn Ionawr i Fawrth 2023 o’r chwarter blaenorol, fel y gellid disgwyl oherwydd y tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo a hefyd oherwydd y niferoedd is o drafodiadau preswyl y chwarter hwn.

Dengys Ffigur 3.2b fod canran chwarterol y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo gwerth dros £400,000 tua 30% i 40% hyd at fis Mawrth 2020. Ers hynny, mae'r ganran hon wedi amrywio rhwng tua 40% a 50%.

Er bod y brif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl o hyd at £180,000 yn 0%, yn Ionawr i Fawrth 2023, roedd y trafodiadau hyn yn dal i gyfrif am 12% o gyfanswm y dreth breswyl oedd yn ddyledus, sy’n cysylltu â chyfraddau uwch elfen breswyl y dreth. Y ffigwr cyfatebol yn Ebrill i Fehefin 2018 oedd 22% ac mae wedi gostwng ym mhob Ebrill i Fehefin ers hynny, ond gydag amrywiadau tymhorol yn y ganran yn ystod chwarteri eraill y flwyddyn. O 10 Hydref 2022, mae’r brif gyfradd dreth wedi bod yn 0% ar drafodiadau preswyl rhwng £180,000 a £225,000. Yn Ionawr i Fawrth 2023, roedd trafodiadau o’r gwerth hwn i gyfrif am 4% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus, sy’n ymwneud ag elfen gyfraddau uwch preswyl y dreth.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Ffigur 4.1 Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 4.1, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 4.2 Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn sylweddol uwch yn y chwe chwarteri o Ebrill 2021 i Fedi 2022, na’r ddau chwarteri ers neu chwarteri blaenorol. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth wedi gostwng i'r gwerthoedd chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn Ebrill i Fehefin 2020, cyn adfer dros y misoedd dilynol. Gweler y sylwebaeth mewn datganiadau blaenorol er mwyn deall effaith coronafeirws (COVID-19) ar drafodiadau. Ers Ebrill 2021 i Fedi 2022, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y categori ‘Gwerth nad yw’n rhent: £1m+’ yn arbennig o uchel. Roedd hyn oherwydd niferau fechan o drafodiadau mawr iawn. Yn Hydref i Ragfyr 2022 ac yn Ionawr i Fawrth 2023, bu llai o drafodiadau o'r fath, a gyfrannodd at ostyngiad mewn refeniw chwarterol.

Mae Ffigur 4.2 yn dangoes ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 85% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ac eithrio Ebrill i Fehefin 2019 (33%), ym mhob cyfnod o dri mis hyd at Mawrth 2021, mae tua 10% i 20% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl. Gostyngodd y ganran hon i tua 5% i 10% ym mhob cyfnod o dri mis o Ebrill 2021, er ei fod yn 13% yn Ebrill i Fehefin 2022.

Ffigur 4.3 Canran y trafodiadau amhreswyl a’r dreth sy’n ddyledus ar yr eiddo hynny ym mhob band gwerth, Ionawr i Fawrth 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ionawr i Fawrth 2023, bod gan hanner y trafodiadau amhreswyl rhwng, werth nad yw’n werth rhent o hyd at ac yn cynnwys £250,000, a bod gan ychydig drosodd un rhan o bump werth nad yw’n werth rhent rhwng £250,001 ac £1 miliwn. Roedd gan ychydig llai chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, a gyfrannodd at y dreth yn ddyledus.

Ffigur 4.4 Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Ionawr i Fawrth 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ionawr i Fawrth 2023, fod dros tair rhan o bedwar o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth amhreswyl trafodiadau gwerth mwy nag £1 miliwn. Roedd llai na ugeinfed ran o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth rhent y trafodiadau.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Disgrifir y term 'premiwm' yn fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y premiwm a delir ar ffurf gwerth arian parod ond gallai fod ar ffurf arall.

[Nodyn 2] Mae trafodiadau sydd â gwerth rhent a phremiwm wedi'i dalu yn cael eu cyfrif ddwywaith yn nifer y trafodiadau (yn Ffigur 4.3). Cyfrifir y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn unwaith (yn Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 yn dangos bod yn Ionawr i Fawrth 2023, 8% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 77% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4). Dylanwadodd nifer fechan o drafodiadau amhreswyl mawr iawn y canran hwn.

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 23% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 5% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Nôl i dop y dudalen

Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn, neu
  • o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Ffigur 5.1 Nifer y trafodiadau sydd wedi'u rhyddhau a gafodd effaith ar y dreth oedd yn ddyledus, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Fawrth 2023, bod nifer chwarterol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio rhwng tua 300 a 450. Roedd nifer y rhyddhadau a hawliwyd ar drafodiadau preswyl yn uwch nag ar gyfer trafodiadau amhreswyl ym mhob chwarter.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd 320 o drafodiadau yn Ionawr i Fawrth 2023 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is nag y 340 trafodiadau o’r fath yn Ionawr i Fawrth 2022.

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 100 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn enghraifft 4 yn ein gwybodaeth am ansawdd.

Ffigur 5.2 Treth wedi’i rhyddhau, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Fawrth 2023, bod gwerth chwarterol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio’n sylweddol, rhwng tua £10 miliwn ac £24 miliwn. Ers mis Ebrill 2018, roedd gwerth chwarterol y rhyddhadau amhreswyl a hawliwyd yn uwch yn gyffredinol nag ar gyfer rhyddhadau preswyl, er eu bod wedi bod yn fwy cyfartal ers 2021.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw rhyddhadau a allai fod wedi'i hawlio ar trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae gwerth y rhyddhadau a hawlir ym mhob cyfnod o dri mis amrywio'n sylweddol dros amser, ynghyd â chyfran y gwerth o drafodiadau preswyl neu amhreswyl. Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, trafodiadau amhreswyl yn cyfrannu dros hanner i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd. Fodd bynnag, cyfrannodd sawl trafodiad preswyl mawr yn Hydref i Ragfyr 2021, Ionawr i Fawrth 2022, a Gorffennaf i Fedi 2022 at y ffaith bod ryddhadau preswyl yn sylweddol fwy na rhyddhadau amhreswyl.

Mae rhagor o ddata ar ryddhadau ar gael ar StatsCymru drwy'r ddolen uchod, gan gynnwys data chwarterol yn ôl math o ryddhad.

Nôl i dop y dudalen

Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 17 Ebrill 2023.

Ffigur 6.1 Nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfradd uwch a gyhoeddwyd, yn ôl dyddiad dod i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar a llinell yn dangos, ar y gyfer data fesul chwarter daeth trafodiadau i rym, bod nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfraddau uwch a hawliwyd wedi amrywio'n sylweddol. Mae'r gwerthoedd chwarterol wedi gostwng yn gyffredinol ers Ebrill i Fehefin 2021 gan ar gyfer y cyfnodau mwy diweddar, fod llai o amser wedi mynd heibio i drethdalwyr werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio’u had-daliad.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 7,630 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill 2018 i Fawrth 2023, gyda £77.3 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan Awdurdod Cyllid Cymru. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol ar wefan StatsCymru ar y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Nôl i dop y dudalen

Treth a dalwyd

Sylwch bod, yn y datganiad hwn, rydym wedi gwneud cywiriadau bach i fyny i ystadegau cyflogedig trethi ar gyfer cyfnodau blaenorol.

Ffigur 7.1 Treth Trafodiadau Tir a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Fawrth 2023, na fu unrhyw batrwm clir yn y swm misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd. Digwyddodd y gwerth misol uchaf ym mis Rhagfyr 2021.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Yn Ionawr i Fawrth 2023, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £64.7 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Dyma'r 31% yn is na'r £93.1 miliwn a dderbyniwyd yn Ionawr i Fawrth 2022. Fel y disgrifir yn adran 'ynglŷn â'r ystadegau yma' o'r datganiad hwn mae'n fwy priodol cymharu'r cyfnod presennol yn erbyn Ionawr i Fawrth 2022 na'r chwarter blaenorol (Hydref i Ragfyr 2022). Roedd y derbyniadau misol uchaf a welwyd hyd yma ym mis Rhagfyr 2021 (£43.2 miliwn).

Mae'r gwerthoedd hyn yn wahanol na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i ddata cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Sylwch hefyd fod y data yn Ffigur 7.1:

  • yn cael ei gyflwyno’n net o ad-daliadau cyfradd uwch sy'n cael eu talu mewn mis penodol
  • yn cynnwys cosbau a dalwyd (megis ar gyfer ffeilio hwyr neu dalu'n hwyr) a hefyd llog a dalwyd ar ddyled flaenorol y Dreth Trafodiadau Tir
  • ni fydd yn cynnwys swm cymharol bach o Treth Trafodiadau Tir heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Nôl i dop y dudalen

Atodiad: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn dadansoddi yr effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Ionawr 2023. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 24 Chwefror 2023, yr ail amcangyfrif ar 24 Mawrth 2023 a'r trydydd amcangyfrif ar 27 Ebrill 2023.

Ffigur A1 Nifer y trafodiadau: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o niferoedd trafodiadau misol wedi amrywio rhwng tua 1% a 4%. Rhwng Ebrill 2022 a Chwefror 2023, amrywiodd y ffigwr cyfatebol i raddau llai, rhwng tua 1% a 3%.

Ffigur A2 Treth yn ddyledus: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o dreth fisol wedi amrywio’n sylweddol, rhwng tua 0% a 9%. Rhwng Ebrill 2022 a Chwefror 2023, amrywiodd y ffigwr cyfatebol i raddau llai, rhwng tua 0% a 3%.

Ffynhonnell: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (Taenlen Dogfen Agored, 106 KB) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Mae Ffigurae A1 ac A2 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Awst 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod i fyny a rhwng 0 a 5%. Yr eithriadau ers Ebrill 2021 oedd:

  • mis Mehefin 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • mis Hydref 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 8%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Fel y dadansoddwyd mewn datganiadau blaenorol, roedd diwygiadau’n gyffredinol uwch yn ystod y misoedd ar ôl mis Ebrill 2018 pan ddechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data, er y bydd angen rhagor o ddata arnom dros y blynyddoedd nesaf er mwyn asesu hyn.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau A1 a A2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Gweler yr adran ‘ad-daliadau cyfraddau uwch’ yn y datganiad hwn am ddadansoddiad pellach.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Nôl i dop y dudalen

 

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo