Neidio i'r prif gynnwy

Dylech ddatblygu dealltwriaeth ddofn o ddefnyddwyr a’r broblem yr ydych yn ceisio ei datrys iddynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Edrychwch ar y cyd-destun llawn i ddeall beth mae’r defnyddiwr yn ceisio ei gyflawni, nid yn unig y rhan sy’n ymwneud â’r Llywodraeth.

Pam mae’n bwysig

Mae deall cymaint o’r cyd-destun â phosibl yn rhoi’r siawns orau ichi o ddiwallu anghenion defnyddwyr mewn ffordd syml a chosteffeithiol.

Canolbwyntiwch ar y defnyddiwr a’r broblem y mae’n ceisio ei datrys, nid datrysiad penodol. Gallwch ddysgu pethau annisgwyl ynglŷn â’u hanghenion os byddwch yn gwneud hyn.

Efallai nad y broblem go iawn yw’r un yr oeddech yn meddwl gyntaf yr oedd angen ei datrys. Profwch eich rhagdybiaethau yn gynnar i leihau’r perygl o greu’r peth anghywir.

Beth mae’n ei olygu

Dylai timau gwasanaeth ddysgu cymaint â phosibl am y broblem y mae angen iddynt ei datrys drwy:

  • ymchwilio i’r defnyddwyr i ddeall beth yw anghenion defnyddwyr, a phan fo’n berthnasol gallwch wneud gwaith ymchwil a dadansoddi pellach
  • creu prototeipiau sydyn, ffwrdd-â-hi i brofi’ch damcaniaethau
  • defnyddio dadansoddeg gwe a data eraill i hybu’ch dealltwriaeth o’r broblem, er enghraifft, data o ganolfannau galwadau

Ar gyfer gwasanaeth LLYW.CYMRU, mae hyn yn golygu: