Rhowch dîm amlddisgyblaethol at ei gilydd a all greu a gweithredu'r gwasanaeth mewn modd cynaliadwy.
Pam mae’n bwysig
Bydd angen tîm o bobl arnoch sydd â chymysgedd amrywiol o sgiliau ac arbenigedd.
Mae'n bwysig bod pobl sy'n gwneud penderfyniadau yn rhan o'r tîm, fel y byddant yn atebol, ac fel y gall y tîm cyfan ymateb yn gyflym i anghenion defnyddwyr.
Beth mae’n ei olygu
Dylai gwasanaethau:
- gael eu creu gan dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys pobl a all gymryd y camau angenrheidiol wrth ddatblygu gwasanaethau
- cynnwys pobl yn y tîm sy'n gwybod sut y caiff gwasanaethau eu darparu ar draws y sianeli all-lein, a'r ôl-systemau y mae angen i'r gwasanaeth weithio gyda nhw
- rhoi mynediad i'r tîm at yr arbenigedd sydd ei angen arno – er enghraifft, arbenigedd cyfreithiol neu arbenigedd mewn polisi, o'r tu mewn neu'r tu allan i'w sefydliad
- os yw'r tîm yn gweithio gyda chontractwyr neu gyflenwyr allanol, sicrhewch fod hynny ar sail gynaliadwy
I ryw raddau, bydd y tîm yn cael ei siapio gan yr hyn y mae'n ei wneud ar y pryd. Er enghraifft, bydd angen i dîm sy'n gweithio ar alffa, sy'n canfod bod y peryglon mwyaf yn ymwneud â dyluniad rhyngweithio, weithio gydag arbenigwr yn y maes hwn.
Ond dechreuwch arni gan dybio y bydd angen ystod eang o rolau arnoch. Mae tîm sydd â safbwyntiau amrywiol yn fwy tebygol o lunio'r datrysiad gorau.