Neidio i'r prif gynnwy

Cyfraith ddrafft yw bil.

Gellir cyflwyno biliau i'r Senedd trwy’r canlynol:

  • Llywodraeth Cymru
  • Aelodau o'r Senedd
  • Pwyllgorau'r Senedd
  • Comisiwn y Senedd

Senedd Cymru

Ar ôl i fil gael ei gyflwyno i'r Senedd, bydd yn mynd trwy broses graffu. Fel arfer bydd hyn yn digwydd mewn pedwar cam:

  • Cyfnod 1 - ystyried egwyddorion cyffredinol y bil a chytuno arnynt
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried yn fanwl y bil ac unrhyw newidiadau a gyflwynwyd iddo
  • Cyfnod 3 - y Senedd yn ystyried yn fanwl y bil ac unrhyw newidiadau a gyflwynwyd iddo
  • Cyfnod adrodd - cyfnod dewisol er mwyn gwneud newidiadau (os oes angen)
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Senedd i basio testun terfynol y bil

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am broses graffu'r Senedd ar y tudalennau hyn: Canllaw i'r Broses Ddeddfu.

Biliau wedi'u cyflwyno i'r Senedd

Manylion biliau Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i'w hystyried gan y Senedd.

Teitl Cefndir y bil Gwybodaeth am hynt y bil yn y Senedd
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) Datganiad ysgrifenedig busnes.senedd.cymru
Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Asesiadau effaith busnes.senedd.cymru
Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) Asesiadau effaith busnes.senedd.cymru
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Datganiad ysgrifenedig busnes.senedd.cymru
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Datganiad ysgrifenedig busnes.senedd.cymru

Deddfau Senedd Cymru

Ar ôl i fil gael Cydsyniad Brenhinol, bydd yn troi'n Ddeddf gan Senedd Cymru. Mae'n bosibl y bydd y Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (megis rheoliadau a gorchmynion) sy’n rhoi mwy o fanylder ynghylch sut y dylid rhoi'r gyfraith ar waith.

Teitl Cefndir y ddeddf Gwybodaeth am broses graffu’r Senedd
Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 Casgliad busnes.senedd.cymru
Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 Casgliad busnes.senedd.cymru