Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd pedwerydd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU ym mis Mai 2019. Mae’r cynllun yn nodi uchelgeisiau Llywodraeth y DU i fod yn fwy agored, tryloyw, cyfranogol, cynhwysol ac atebol, ac mae’n cynnwys cyfres o gerrig milltir ymrwymiadau i ddangos yr uchelgais hwn. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig eraill eu hymrwymiadau penodol, sy’n rhan o gynllun y DU.

Caiff Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol y Llywodraeth Agored eu cynhyrchu bob dwy flynedd. Ar ddiwedd pob cyfnod o ddwy flynedd, mae’n ofynnol i lywodraethau gyhoeddi hunanasesiad diwedd tymor sy’n cofnodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. Mae’r canlynol yn cofnodi’r cynnydd a wnaed ar ymrwymiadau Llywodraeth Cymru rhwng 2019 a 2021.

Crynodeb o’r broses

Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â chydweithwyr yn Swyddfa Cabinet y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill wrth ddatblygu’r ymrwymiadau, gan rannu gwybodaeth ac arferion gorau. Parhaodd y cyswllt hwn drwy gydol oes y cynllun.

Wrth ddatblygu’r set hon o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, mae swyddogion wedi ymgysylltu â chymdeithas sifil a dinasyddion gweithredol, drwy Rwydwaith Llywodraeth Agored Cymru, i nodi meysydd y mae angen iddynt fod yn fwy agored a thryloyw ynddynt. Ein nod yw parhau â’r dull cydweithredol hwn ac adeiladu arno wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu yn y dyfodol.

Mae adrannau o fewn Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am gyflawni pob un o’r ymrwymiadau, wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Datblygu ymrwymiadau

Wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu, dywedodd dinasyddion wrthym ei bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth am Lywodraeth Cymru, am sut mae’n gweithio ac am ei gweithgareddau busnes. Roeddent hefyd yn credu y dylem ddod o hyd i ffyrdd gwell o ymgysylltu â nhw, gan gynnwys gwneud mwy o ddefnydd o lwyfannau digidol. Arweiniodd hyn at ddatblygu ymrwymiadau sy’n ymwneud ag ymgysylltu, mynediad at wybodaeth a data agored.

Datblygwyd ymrwymiadau’n ymwneud â chyllidebau, grantiau a chyllid hefyd ar ôl iddynt ofyn am gael rhagor o eglurder ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn gwario trethi. Mae ymrwymiad arall wedi galluogi gwybodaeth am y gyfraith a wneir yng Nghymru i fod yn fwy hygyrch.

Crynodeb o’r cynnydd

Mae cynnydd da wedi’i wneud dros gyfnod y cynllun gweithredu, gyda dwy ran o dair o’r ymrwymiadau’n cael eu cyflawni (lle mae’r cyfan neu’r rhan fwyaf o’r cerrig milltir cydrannol wedi cael eu cyflawni). Aseswyd bod dau o’r ymrwymiadau’n rhai ‘parhaus’, ac yn yr achosion hyn, mae pandemig COVID-19 wedi gohirio cynnydd neu mae gan y cerrig milltir oes hirach na chyfnod dwy flynedd y cynllun.

Tabl 1: Statws cyffredinol yr ymrwymiadau, Awst 2019
Ymrwymiadau Statws cyffredinol Cerrig milltir wedi’u cwblhau
1: Ymgysylltu Wedi cwblhau 5 o 7
2: Mynediad at wybodaeth Wedi cwblhau 6 o 7
3: Canllawiau ar gyhoeddi Data Agored Parhaus 2 o 4
4: Grantiau Parhaus 0 o 3
5: Deddfwriaeth Wedi cwblhau 4 o 5
6: Ymgysylltu ariannol Wedi cwblhau 5 o 5

Ceir rhagor o fanylion am y cynnydd a wnaed ar gyfer pob un o’r ymrwymiadau a’u cerrig milltir yn Atodiad 1.

Effaith pandemig COVID-19

Yn ystod y pandemig, roedd angen adleoli adnoddau i’n helpu ni i ymateb i’r nifer fawr o heriau a oedd yn gysylltiedig â COVID-19, ac mae hynny wedi cael effaith anochel ar ein gallu i gyflawni rhai o’r ymrwymiadau a gyhoeddwyd gennym yn 2019. Mewn rhai achosion, mae’r cynnydd wedi’i arafu neu ei ohirio, ond ar gyfer nifer fach o ymrwymiadau bu’n rhaid gohirio’r gwaith dros dro. Lle bo hynny wedi digwydd, bydd yr ymrwymiadau’n cael eu hailystyried yn y dyfodol pan fydd yr amgylchiadau’n caniatáu.

Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i lywodraethau fod yn agored ac yn dryloyw gyda’u dinasyddion. Mae sawl enghraifft lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn dros y 18 mis diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys Gweinidogion yn cynnal cynadleddau rheolaidd i’r wasg ar y teledu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl, cyhoeddi’r cyngor technegol sy’n sail i’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, sicrhau bod data cyfredol ar gael i bawb, yn ogystal â rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau i sicrhau bod dinasyddion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Ymrwymiad 1: Ymgysylltu

Cynnwys a chynyddu ymgysylltiad a chydweithio ag ystod ehangach o randdeiliaid.

Adran(nau) arweiniol

Yr Is-adran Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu

Eraill a fu’n rhan o’r broses weithredu hyd yma

Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus, Cadw, y Gyfarwyddiaeth Masnachol a Chaffael a’r Is-adran Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu.

Amserlen

Mawrth 2019 – Mawrth 2021

Statws ymrwymiad cyffredinol

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae’r staff wedi cael yr adnoddau a’r cyfleoedd hyfforddi i’w harfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i’w helpu i wella’r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu. Mae nifer o astudiaethau achos wedi dangos ffyrdd newydd ac arloesol rydym wedi bod yn cydweithio â chymunedau, gan gynnwys defnyddio technolegau cyfathrebu newydd mewn ffordd effeithiol. Ar ôl asesu, rhoddwyd statws cyffredinol ‘wedi cwblhau’ i’r ymrwymiad, gan fod y rhan fwyaf o’r cerrig milltir wedi’u cyflawni.

Carreg filltir 1: Parhau i weithio ac ymgysylltu â chymdeithas sifil yng Nghymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu ac yn ceisio gwella sut rydym yn ymgysylltu, yn ymgynghori ac yn gweithio gyda dinasyddion, cymunedau a rhanddeiliaid. Mae ein datblygiad ymgysylltu wedi cynnwys arfogi staff â’r sgiliau a’r adnoddau angenrheidiol i’w helpu i ymgysylltu’n well â dinasyddion, i annog ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o randdeiliaid, i fanteisio ar dechnolegau newydd fel defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ymhellach yn y gwaith rydym yn ei wneud.

Ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ddod yn gyfraith, rydym wedi gwneud cynnydd da o ran gwreiddio ei phum ffordd o weithio, i sicrhau bod dinasyddion yn ganolog i’r hyn rydym yn ei wneud. Er bod cynnydd wedi cael ei wneud, rydym yn awyddus i weithio gyda dinasyddion a grwpiau cymdeithas sifil i’n helpu i wella. Enghraifft dda o’r uchelgais hon oedd digwyddiad poblogaidd ‘Cyfnewid Syniadau Cenedlaethau’r Dyfodol’ y Gwasanaeth Sifil a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2020. Roedd y digwyddiad yn edrych ar bynciau fel lle rydym yn perfformio’n dda o ran y pum ffordd o weithio, lle mae’r rhwystrau a sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i’w goresgyn. Bu cynrychiolwyr cymdeithas sifil yn trafod ac yn cynnal cyfres o weithdai i ddangos i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill faint mwy y gellir ei gyflawni drwy wreiddio’r pum ffordd o weithio.

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ymrwymiad i archwilio’r posibilrwydd o sefydlu fforwm i helpu Llywodraeth Cymru i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar waith. Cynhaliwyd dau weithdy i randdeiliaid, a oedd yn ystyried atebion posibl, gan gynnwys a ellid defnyddio fforymau a grwpiau presennol. Bydd gweithdy terfynol i ddatblygu’r ateb yn cael ei drefnu cyn gynted ag y bydd trefniadau gweithio COVID-19 yn caniatáu.

Mae’n bwysig bod dinasyddion Cymru yn cael cyfle i gyfrannu at bolisi Llywodraeth y DU sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn 2019, daeth Llywodraeth Cymru â grŵp o gynrychiolwyr cymdeithas sifil o’r sector gwirfoddol, y sector preifat a’r sector cyhoeddus at ei gilydd er mwyn trafod, casglu gofynion ac adolygu cyfraniad Cymru at Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol Llywodraeth y DU. Bu Gweithgor Nodau Datblygu Cynaliadwy Cymru hefyd yn ystyried ac yn darparu cynnwys ar gyfer adroddiad atodol ar gyfraniad Cymru at y Nodau Byd-eang, gan ganolbwyntio ar ‘Stori Nodau Datblygu Cynaliadwy Cymru’ a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU.

IYm mis Mawrth 2020, mewn partneriaeth â’r Institute of Advanced Sustainability Studies (IASS), cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad dysgu “The Future is Now” yn Berlin. Prif bwrpas y digwyddiad oedd dangos y camau a gymerwyd dan Nod Datblygu Cynaliadwy 17 – Partneriaethau ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Roedd y digwyddiad yn gyfle unigryw i gael cipolwg ar amrywiaeth o ddulliau arloesol ac integredig o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy Cymru a’r Almaen. Rhannodd cynrychiolwyr cymdeithas sifil a grwpiau cymunedol, ynghyd ag ymchwilwyr a gwyddonwyr, gwleidyddion a llunwyr polisïau, busnesau a gweithwyr proffesiynol eraill, enghreifftiau ymarferol o brosiectau arloesol rhwng gwahanol sefydliadau yng Nghymru, yr Almaen ac Ewrop. Siaradodd Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Maecenata yn yr Almaen, am rôl cymdeithas sifil o ran creu syniadau newydd a dod â phobl ynghyd ac am heriau’n ymwneud ag ymgysylltu â dinasyddion a mudiadau ar lawr gwlad.

Rydym hefyd wedi defnyddio ein gwefan i wella ymgysylltiad. Enghraifft dda o hyn yw defnyddio ein Blog Digidol a Data i weithio gyda dinasyddion, cymunedau a rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae ymgynghoriadau agored cyfredol yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, ochr yn ochr â gwybodaeth am bob ymgynghoriad a chyfarwyddiadau ynghylch sut i ymateb.

Statws: Parhaus

Carreg filltir 2: Defnyddio gwahanol ddulliau i ymgysylltu a chydweithio â chymunedau i wella ffyniant yng nghymoedd De Cymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Roedd Tasglu’r Cymoedd yn ymrwymiad maniffesto ar gyfer tymor diwethaf y llywodraeth a ddaeth i ben yn swyddogol ym mis Mawrth 2021. Roedd ymgysylltu mewnol ac allanol wedi siapio ei waith. Sefydlwyd rhwydweithiau o dros 500 o bobl drwy ymwneud yn uniongyrchol â hwy, ac fe gyrhaeddwyd llawer mwy drwy raeadru gwybodaeth i rwydweithiau lleol. Roedd y cysylltiadau hyn yn hanfodol ac yn galluogi rhanddeiliaid y Cymoedd i gydweithio, yn enwedig wrth geisio cyflawni newid cynaliadwy a hirdymor.

Cyn i ni ddechrau ar unrhyw weithgarwch ymgysylltu, roeddem wedi ymchwilio i rai o’n rhaglenni ymgysylltu blaenorol, er mwyn asesu a oedd unrhyw wybodaeth a allai fod yn sail i’n gwaith ymgysylltu yn y dyfodol.

Er mwyn ein helpu i ymgysylltu’n fwy effeithiol, fe wnaethom gomisiynu Arad Research (cwmni ymchwil annibynnol yng Nghaerdydd) i weithio gyda ni i ddatblygu cynllun ymgysylltu. Yn ystod y datblygiad hwn, cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd, gweithdai ac ymgynghoriadau ar-lein.

Roedd 520 o unigolion wedi cymryd rhan mewn ymarferion ymgysylltu wyneb yn wyneb, a oedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyhoeddus agored – lle cafwyd trafodaeth gyffredinol
  • Gweithdai cyhoeddus â thema – lle trafodwyd pynciau penodol
  • Sefydlu grwpiau ffocws pynciau a chymunedau penodol
  • Chwe sesiwn ymgysylltu â staff Llywodraeth Cymru sy’n byw a/neu’n gweithio yn y Cymoedd

Roedd nifer dda o gymunedau lleol, Gweinidogion Cymru, Aelodau’r Senedd, staff Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol a mudiadau’r trydydd sector yn bresennol yn y digwyddiadau uchod.

Roedd 777 o ddinasyddion eraill wedi rhannu eu safbwyntiau drwy arolwg ar-lein.

Gan ddefnyddio canfyddiadau’r ymchwil hwn, gwnaethom gwblhau ein Cynllun Ymgysylltu, a helpodd i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect.

Fe wnaethom ddatblygu ymgyrch gyfathrebu llawn gwybodaeth gyda’r amcanion o ymgysylltu’n llawn â chymunedau’r Cymoedd, codi proffil Tasglu’r Cymoedd, adrodd ar gynnydd a dangos yr effaith y mae’r Tasglu wedi’i chael ar Gymoedd De Cymru.

Yn ystod 2018-2019, fe wnaethom ddatblygu nifer o brosiectau cymunedol cydweithredol fel y digwyddiad piano ‘Play me, I’m yours’ a chyfansoddi cân ‘Ein Cymoedd, Our Valleys’ ar y cyd â’r artist lleol Kizzy Crawford a thros 200 o blant o’r Cymoedd. Gwnaethom hefyd hyrwyddo digwyddiadau a gwaith y Tasglu drwy gyfryngau cymdeithasol organig.

Yn ystod 2019-2020, gwnaethom hyrwyddo cyhoeddiadau’r Tasglu ynghylch ei feysydd blaenoriaeth a’r digwyddiadau cysylltiedig drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol organig. Roedd y gweithgaredd hwn yn cynnwys: Digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd ‘Ein Cymoedd’ a Trafnidiaeth Cymru, digwyddiadau ymgysylltu ‘Ein Cymoedd, Eich Busnes’, rhaglen Grantiau Cartrefi Gwag, digwyddiad ‘Pitch It Cymoedd’, cyhoeddiadau cyllid Porth Darganfod, her lluniau’r Cymoedd a postiadau’n seiliedig ar falchder.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Treialu dulliau newydd o reoli rhanddeiliaid, gan ddefnyddio offer ymgysylltu a chydweithio digidol i gefnogi gwaith y tasglu

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Un o ganlyniadau pandemig COVID-19 oedd nad oeddem yn gallu ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid mwyach fel roeddem wedi’i wneud o’r blaen, ac roedd angen dulliau newydd. Un fethodoleg a fabwysiadwyd gennym oedd defnyddio technoleg cyfathrebu fel Skype a Microsoft Teams er mwyn parhau â gwaith ymgysylltu’r Tasglu. Roedd mabwysiadu’r dechnoleg hon yn ein galluogi i addasu ein rhaglen yn gyflym i gefnogi trefi llai yn y Cymoedd i gael gafael ar gyllid, ac i gefnogi busnesau lleol y mae’r pandemig wedi effeithio’n andwyol arnynt.

Drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol, roeddem yn gallu parhau â’n gweithgareddau ymgysylltu. Buom yn gweithio gyda chydweithwyr yn ein tîm cyfathrebu i hyrwyddo ein prif negeseuon drwy raglenni cyfryngau cymdeithasol wedi’u hariannu a’u targedu’n rhanbarthol. Defnyddiwyd llwyfan digidol Hwb i ymgysylltu a chyfathrebu ag ysgolion. Gwnaethom hefyd ddatblygu cyfres o ffilmiau gan ddefnyddio lluniau Skype o gyfweliadau gyda Gweinidogion, buddiolwyr grantiau a rhanddeiliaid allweddol. Cafodd y ffilmiau hyn wedyn eu rhannu â’n holl randdeiliaid.

Roedd ymgyrch Facebook wedi rhagori ar y disgwyliadau drwy gael 2,960 o ymatebion i holiadur, gan ddangos yr effaith y mae Tasglu’r Cymoedd wedi’i chael ar y rhanbarth. Roedd mwy o gynnwys ar Facebook ac Instagram wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith i sbectrwm eang o gymunedau ledled ardal y Cymoedd.

Mae astudiaethau achos wedi dangos yr effaith gadarnhaol y mae cynlluniau’r Tasglu wedi’i chael, yn enwedig y cynllun darparu cymorth uniongyrchol i gymunedau lleol a dinasyddion.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y gweithgarwch ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn sylweddol. Mae ystadegau defnyddwyr yn cynnwys:

  • Cyrraedd 1,257,434 o ddefnyddwyr ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol @talkvalleys gyda’i gilydd.
  • 19,671 o ymweliadau â thudalen lanio’r ymgyrch a’r dudalen holiadur yn ystod cyfnod taledig yr ymgyrch (Mawrth 2021).
  • 2,960 o ymatebion i’r holiadur balchder ym mis Mawrth 2021..

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 4: Nodi a chynyddu'r defnydd o offer a phlatfformau digidol er mwyn gallu ymgysylltu’n well

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae prosiect i ymchwilio i weld a yw offer digidol yn gallu helpu i wella’r ffyrdd rydym yn ymgysylltu â dinasyddion wedi cael ei sefydlu. Mae cwmpas y prosiect yn eang ac mae’n cydnabod bod systemau digidol yn rhan o raglen fwy o welliannau o ran sut rydym yn ymgysylltu.

Cynhaliwyd trafodaethau gyda nifer o lywodraethau cenedlaethol a lleol sydd wedi datblygu systemau ymgysylltu digidol, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban, Consortiwm Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA) a Chyngor Edmonton, Canada. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â sefydliadau fel y Gymdeithas Ddemocrataidd, Diwygio Etholiadol a Nesta i gael rhagor o wybodaeth. Mae pynciau ein trafodaethau wedi cynnwys sut mae dinasyddion yn rhyngweithio â’r systemau, ystadegau defnyddio, casglu gofynion a manylebau technegol.

Maes arall i’w archwilio yw gwerthusiad o’r sianeli digidol rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd (fel cyfryngau cymdeithasol) ac a ellid eu defnyddio ymhellach i wella ein gweithgareddau ymgysylltu.

Mae’r prosiect yn dal i fod yn y cam darganfod ac mae’n parhau.

Statws: Parhaus

Carreg filltir 5: Datblygu pecyn cymorth i helpu swyddogion i ymgysylltu â'r cyhoedd a sefydliadau a'u cynnwys yn y broses o lunio a chyflwyno polisïau

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllawiau, dogfennau, mynediad at gynnwys a hyfforddiant ar-lein, sydd wedi’i ddylunio i arfogi staff â’r sgiliau angenrheidiol i wreiddio ymgysylltu yn y gwaith polisi y maent yn ei wneud.

Mae nifer o dimau Llywodraeth Cymru ar gael i roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth i staff yn eu gweithgareddau ymgysylltu a llunio polisïau. Dau dîm o’r fath yw’r tîm Dyfodol a Pholisi Integredig, sy’n helpu staff i integreiddio’r egwyddorion ymgysylltu sydd wedi’u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu gwaith polisi, a’r Uned Cymorth Polisi sy’n darparu cyngor ymgysylltu i ddatblygwyr polisi.

Anogir staff i ddilyn y canllawiau yn ‘Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd’ Cyfranogaeth Cymru. Mae ganddynt hefyd fynediad at lawer iawn o gyngor ymgysylltu ar wefan Llywodraeth Cymru ac at gyhoeddiadau mewnol fel ‘Canllawiau Ymgynghori Cyffredinol, Polisi a Deddfwriaeth ar gyfer Staff 2020’ a ‘Canllawiau ar Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn Llwyddiannus 2018’. Mae canllawiau wedi cael eu datblygu hefyd i adolygu a rhesymoli gweithdrefnau a nifer y grwpiau cynghori cyfeirio/rhanddeiliaid sy’n bodoli eisoes.

Mae adnoddau gan sefydliadau eraill nad ydynt yn rhai Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio hefyd. Mae hyn yn cynnwys mynediad at amrywiaeth o fideos TED Talk ar bynciau fel technegau cyfathrebu, amrywiaeth a hygyrchedd. Mae partneriaethau wedi cael eu datblygu gyda sefydliadau fel Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth sydd wedi darparu cyrsiau hyfforddi a chyflwyniadau fideo ar ymgysylltu, cydweithio, casglu gofynion a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UXD).

Mae portffolio helaeth o gyfleoedd hyfforddi sy’n ymwneud â nifer o feysydd ymgysylltu effeithiol ar gael i’r holl staff, ac mae’n cynnwys cyrsiau mewn cydgynhyrchu a chymryd rhan, cyfathrebu effeithiol, technegau Agile a sgiliau polisi ac ati.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 6: Datblygu pecyn o gyfleoedd datblygu ar gyfer swyddogion i wella eu sgiliau ymgysylltu a chynnwys

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Yn 2019 ar ôl gwneud ymchwil helaeth ymysg defnyddwyr, cydweithio a phrofi defnyddwyr, cyflwynodd Llywodraeth Cymru adnodd hyfforddi ar-lein newydd o’r enw’r ‘Labordy Dysgu’. Mae’r Labordy Dysgu yn adnodd rhyngweithiol diogel i staff sy’n darparu mynediad at gynnwys hyfforddiant mewnol ac allanol, gan gynnwys:

  • Cyrsiau ar-lein
  • Fforymau trafod ar gyfer gwahanol feysydd pwnc
  • Gwerthusiadau
  • Dolenni i fideos
  • Hyfforddiant wyneb yn wyneb
  • Hyfforddi a mentora
  • Mynediad at rwydweithiau meysydd pwnc
  • Cofnodion dysgu unigol

Mae hyfforddiant y Labordy Dysgu wedi’i rannu’n un ar bymtheg o gategorïau eang, gyda rhai ohonynt yn rhoi sylw i hyfforddiant cydweithio ac ymgysylltu. Dangosir tri chategori o’r fath a detholiad o gyrsiau cysylltiedig isod:

Categori Cyfathrebu a Hygyrchedd

Cyfathrebu Effeithiol a Chanllaw ysgrifennu ar gyfer cyfathrebiadau Llywodraeth Cymru

Categori Cydweithredu a Chynnwys

Dosbarth meistr ar gydgynhyrchu a chynnwys, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Rhagfarn Ddiarwybod, Cydweithio ar draws Adrannau, y Llywodraeth a Thu Hwnt

Categori Digidol a Pholisi

Agile, Dosbarth Meistr Tystiolaeth, Cyd-destun Polisi, Dylunio a Gweithredu a Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr.

Mae cynnwys yr hyfforddiant wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion defnyddwyr ac mae’n cynnwys hyfforddiant ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth, cyrsiau ar-lein, fideos hyfforddi a TED Talks ac ati.

Anogir staff hefyd i ddod ynghyd a sefydlu rhwydweithiau meysydd pwnc. Mae’r rhwydweithiau’n ‘ystafelloedd sgwrsio’ lle gellir gofyn cwestiynau, rhannu gwybodaeth a darparu dolenni at ffynonellau fel hyfforddiant neu gynadleddau eraill etc. Rhwydwaith poblogaidd yw’r rhwydwaith Cymuned Polisi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau staff lle gallant gael profiad mewn meysydd busnes eraill. Mae’r lleoliadau’n cynnwys y Rhaglen Llwybr Cyflym a’r Rhaglen Profiad Tymor Byr, lle mae staff yn cael eu rhoi mewn swyddi ym meysydd polisi, deddfwriaeth, darpariaeth gorfforaethol a gweithredol. Mae secondiadau y tu allan i Lywodraeth Cymru hefyd ar gael. Mae hyfforddiant llai ffurfiol yn cynnwys cysgodi gwaith, mentora a mentora o chwith.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 7: Parhau i ddatblygu gweithgareddau ymgysylltu Cadw sy'n cysylltu cymunedau â'u henebion a'u hadeiladau lleol

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Ym mis Mawrth 2020, roedd aelodaeth Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) wedi codi i 44,093 o aelodau, cynnydd o 26% ers mis Ionawr 2019. Mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad diderfyn i 130 o safleoedd ledled Cymru. Yn ogystal, mae gan Cadw 1,529 o ddeiliaid tocyn heneb, sy’n caniatáu mynediad diderfyn i un safle penodol.

Mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â channoedd o gymunedau, mentrau cymunedol lleol, Awdurdodau Lleol, amgueddfeydd lleol ac atyniadau eraill ar gyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad Cadw. Mae’r rhaglen hon yn cynnal tua 300 o ddigwyddiadau ledled Cymru. Enghraifft dda o’r gwaith hwn yw ein rhaglen flaengar i gyfuno’r celfyddydau a threftadaeth, sy’n cynnwys digwyddiadau celfyddydol mawr a gynhelir drwy gydol y flwyddyn yn sawl un o safleoedd Cadw. Mae Cadw hefyd yn cynnal gweithgareddau masnachol ar ei safleoedd fel sglefrio iâ, sinemâu awyr agored a chyngherddau, sy’n rhoi cyfleoedd i gymunedau ymgysylltu â’u henebion lleol.

Bob mis Medi, mae Cadw yn cymryd rhan yn ‘Drysau Agored’, sef yr ŵyl treftadaeth fwyaf yng Nghymru. Mae safleoedd treftadaeth nad ydynt ar gael fel arfer yn cael eu hagor i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim, ac mae miloedd o ddigwyddiadau eraill am ddim yn cael eu trefnu ledled Cymru i ddathlu hanes a diwylliant. Ers 2013, mae Cadw wedi cydlynu’r rhaglen yn fewnol. Roedd rhaglen 2019 yn cynnwys 245 o leoliadau a rhaglen o 1,158 o ddigwyddiadau, gyda chyfanswm o 34,463 o ymwelwyr yn cymryd rhan.

Roedd pandemig COVID-19 wedi golygu bod rhaid canslo gŵyl ‘Drysau Agored’ 2020, a chau safleoedd Cadw i’r cyhoedd. Er bod y safleoedd wedi cau, datblygodd Cadw raglen i alluogi mynediad ‘rhithiol’. Mae’r rhaglen wedi cynnwys cyfres o brofiadau rhyngweithiol ar draws y 10 safle allweddol canlynol:

  • Abaty Tyndyrn
  • Glyn y Groes
  • Gwaith Haearn Blaenafon
  • Pentre Ifan
  • Grŵp Cytiau Din Llugwy
  • Castell Coch
  • Castell y Bere
  • Castell Harlech
  • Castell Rhaglan
  • Bryn Celli Ddu

Mae’r cynnig ar-lein hwn yn cynnwys taith ryngweithiol, fideos, ffotograffau a thestun esboniadol dwyieithog, sy’n cyfuno i ddarparu rhith brofiad o ŵyl Drysau Agored.

Mae gweithgareddau ymgysylltu eraill Cadw yn cynnwys:

  • Gweithredu rhaglen o Warchodwyr Ifanc mewn henebion ledled Cymru
  • Prosiectau gydag ysgolion a chymunedau lleol megis prosiectau tapestri ym Mlaenafon a Chastell Dolbadarn
  • Ymweliadau allgymorth i ysgolion
  • Darparu adnoddau a rhaglenni digidol i gefnogi’r cwricwlwm ysgol newydd
  • Cyflwyno Sesiynau Cyfuno Dysgu i Deuluoedd
  • Darparu gweithgareddau addysgol am ddim ar safleoedd
  • Darparu rhaglen wirfoddoli gref, sydd wedi ennill gwobrau, ac sy’n cael ei hehangu ar hyn o bryd
  • Cefnogi’r Rhaglen Uchelgais Diwylliannol drwy fod yn rhan o’r gwaith o’i datblygu a chynnig lle i hyfforddeion
  • Cefnogi Menter Ysgolion Treftadaeth Cymru

Statws: Wedi cwblhau

Ymrwymiad 2: Mynediad at Wybodaeth

Helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth am Lywodraeth Cymru a sut mae’n gweithredu.

Adran(nau) arweiniol

Y Tîm Digidol Corfforaethol

Eraill a fu’n rhan o’r broses weithredu hyd yma

Y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg, y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a Data Cymru

Amserlen

Mawrth 2019 – Mawrth 2021

Statws ymrwymiad cyffredinol

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae chwech o’r saith carreg filltir yn yr ymrwymiad hwn wedi’u cwblhau o fewn cylch bywyd dwy flynedd y cynllun. Mae’r gwaith o ddatblygu catalog data agored wedi cael ei ohirio dros dro, oherwydd blaenoriaethu adnoddau ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â COVID-19. Mae’r asesiad cyffredinol ar gyfer yr ymrwymiad hwn wedi’i gwblhau.

Carreg filltir 1: Parhau i lenwi’r tudalennau Llywodraeth agored ar wefan Llywodraeth Cymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae gwefan Llywodraeth Cymru wedi cael ei hailddatblygu er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i wybodaeth yn weledol a thrwy fwy o swyddogaethau chwilio manylach.

Mae tudalen we newydd o’r enw ‘Llywodraeth Agored a thryloywder’ yn dwyn ynghyd gwybodaeth ynghylch Llywodraeth Cymru’n bod yn agored ac yn dryloyw, ac mae’n darparu dolenni at ddogfennau a gwybodaeth gysylltiedig.

Mae’r swyddogaeth chwilio yn golygu bod modd chwilio’n benodol, er enghraifft, os bydd ‘Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y Llywodraeth Agored’ yn cael ei roi fel term chwilio, bydd rhestr (gyda dolenni) o holl ddogfennau’r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd yn cael ei dychwelyd.

Mae’r gwaith o roi rhagor o gynnwys ar dudalennau’r Llywodraeth Agored a thryloywder yn mynd rhagddo.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Cynhyrchu a chyhoeddi manylion y meysydd y mae uwch weision sifil yn gyfrifol amdanynt a'r portffolios Gweinidogol y maent yn eu cefnogi

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddwyd fersiwn ddiweddaraf siart o’r sefydliad Llywodraeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r siart yn dangos Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion y Cabinet, y Dirprwy Weinidogion a strwythur y Gwasanaeth Sifil.

Mae elfen y Gwasanaeth Sifil yn y siart yn dangos yr Ysgrifennydd Parhaol yn arwain y pum Adran ganlynol:

  • Grŵp yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Grŵp Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Chyfoeth Naturiol
  • Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae pob Adran yn cynnwys nifer o Is-adrannau, gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol yn bennaeth ar bob un ohonynt. Dangosir manylion yr Ysgrifennydd Parhaol, y Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwyr yr Is-adrannau ar y siart.

Mae’r siart yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau yn Llywodraeth Cymru a/neu mewn cyfrifoldebau portffolio Gweinidogol yn ôl yr angen.

Dangosir bywgraffiadau a chyfrifoldebau aelodau’r Cabinet a Gweinidogion ar dudalen we ar wahân.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Trefnu bod gwybodaeth am sut a pham rydym yn defnyddio data personol ar gael trwy sicrhau bod Hysbysiadau Preifatrwydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi'n agored a'u bod ar gael yn rhwydd

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gael ar ein gwefan. Mae’r hysbysiad yn rhoi esboniad manwl a chynhwysfawr o sut mae gwybodaeth dinasyddion yn cael ei rheoli pan fyddant yn rhyngweithio â Llywodraeth Cymru. Mae’r testun hefyd yn cynnwys dolenni i wybodaeth gysylltiedig.

Mae swyddogaeth chwilio’r wefan yn galluogi defnyddwyr i chwilio am Hysbysiadau Preifatrwydd eraill Llywodraeth Cymru. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei dychwelyd ar gyfer y chwiliad yn dangos rhestr helaeth (gyda dolenni) at hysbysiadau preifatrwydd eraill Llywodraeth Cymru.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 4: Cyhoeddi'n agored rhestr o gytundebau rhannu data sy'n ymwneud ag ystadegau ac ymchwil

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Cyhoeddwyd rhestr o Gytundebau Rhannu Data presennol Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud ag ystadegau ac ymchwil ar 19 Hydref 2021.

Mae’r rhestr yn ddeinamig a bydd yn cael ei diweddaru gyda gwybodaeth am gyfranddaliadau data newydd a chytundebau rhannu data.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 5: Datblygu tudalennau sy’n egluro sut mae'r Llywodraeth yn gweithio yng Nghymru a’i chysylltiadau â Llywodraeth y DU a llywodraeth leol

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae tudalen we ‘Gweinyddiaeth y Llywodraeth’ yn rhoi llawer iawn o wybodaeth am y llywodraeth yng Nghymru. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys rhyngweithio â Gweinidogion, gweithdrefnau cwyno, codau Gwasanaethau Sifil a Gweinidogol, a gwybodaeth am Bwyllgorau a’r Rhaglen Lywodraethu, etc.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 6: Datblygu tudalennau i helpu defnyddwyr i ddeall sut rydym yn caffael nwyddau a gwasanaethau a'u helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae tudalen we newydd o’r enw ‘Caffael yn y sector cyhoeddus’ yn dod â gwybodaeth gaffael at ei gilydd ac yn darparu dolenni at ddogfennau a gwybodaeth gysylltiedig.

Fel rhan o’r prosiect hwn, mae’r Tîm Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Caffael Masnachol wedi creu tudalen we o’r enw ‘Sut rydym yn rheoli ein gwaith o gaffael nwyddau a gwasanaethau’. Mae’r dudalen yn rhoi gwybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn caffael nwyddau a gwasanaethau, ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i gyflenwyr am y broses gaffael.

Mae’r swyddogaeth chwilio manylach yn galluogi defnyddiwr i chwilio drwy ein gwefan am ragor o wybodaeth, er enghraifft mae chwilio drwy ddefnyddio’r gair ‘Caffael’ yn dychwelyd bron i 600 o eitemau sy’n ymwneud â chaffael gan Lywodraeth Cymru.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 7: Ymchwilio sut gallwn helpu defnyddwyr i ganfod a chael gafael ar y data agored y mae arnynt ei angen

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae’r holl wybodaeth (oni nodir fel arall) a gyhoeddir ar wefannau Llywodraeth Cymru ar gael fel data agored, sy’n golygu bod modd ei gweld, ei defnyddio a’i rhannu am ddim. Er ein bod yn cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth a data ar-lein, mae’n cael ei gadw ar wefannau gwahanol Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei ddangos ar nifer fawr o dudalennau gwe unigol, sy’n gallu ei gwneud yn anodd dod o hyd iddo.

Er mwyn ei gwneud yn haws i ddod o hyd i’n data agored, roeddem yn cynnig y dylid datblygu ‘Catalog Data Agored’ hygyrch, gan alluogi cynnal chwiliadau ar draws nifer o wefannau a thudalennau gwe Llywodraeth Cymru.

Fel prawf o gysyniad ac i brofi swyddogaethau sylfaenol, mae Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw (MVP) ar gyfer y catalog wedi cael ei ddatblygu. Mae’r MVP wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru, i gydweithwyr ac i randdeiliaid. Cafwyd cyfle i gyflwyno’r catalog i gynulleidfa ehangach mewn tri Gweithdy Data Agored. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn ogystal â’r byd academaidd. Dywedodd y rhai a oedd yn bresennol yn y gweithdy y byddai’r catalog yn fuddiol, ac roeddent yn cymeradwyo bwrw ymlaen â’r prosiect.

Cam nesaf y prosiect oedd sicrhau bod fersiwn ar-lein o’r MVP ar gael i ddarpar ddefnyddwyr ei brofi a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi golygu bod angen ailddyrannu adnoddau ac mae’r gwaith hwn wedi gorfod cael ei ohirio dros dro. Rydym yn bwriadu dychwelyd i’r prosiect hwn pan fydd amgylchiadau’n caniatáu.

Statws: Parhaus

Ymrwymiad 3: Canllawiau ar gyhoeddi Data Agored ar gyfer cyrff cyhoeddus

Byddwn yn cydweithio i ddatblygu canllawiau sy’n annog cyhoeddi a defnyddio data agored yn fwy ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Adran(nau) arweiniol

Y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg

Eraill a fu’n rhan o’r broses weithredu hyd yma

Y Rhwydwaith Llywodraeth Agored, ODI-Cardiff, Data Cymru, Awdurdodau Lleol, Mudiadau’r Sector Preifat, Mudiadau’r Trydydd Sector a’r byd academaidd.

Amserlen

Mawrth 2019 – Mawrth 2021

Statws ymrwymiad cyffredinol

Parhaus

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae dwy garreg filltir gyntaf yr ymrwymiad hwn wedi cael eu cwblhau ac mae drafft cynnar o’r canllawiau wedi cael ei gynhyrchu. Fodd bynnag, ers mis Mawrth 2020 mae blaenoriaethu gwaith sy’n ymwneud â COVID-19 wedi arwain at oedi o ran cynnydd, felly rydym wedi asesu’r statws cyffredinol, ac wedi’i bennu’n ‘barhaus’.

Carreg filltir 1: Nodi cyhoeddwyr data agored yn y sector cyhoeddus a darpar ddefnyddwyr data agored yng Nghymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Cafodd cyhoeddwyr yn y sector cyhoeddus a defnyddwyr posibl data agored eu nodi drwy drafodaethau â chydweithwyr, partneriaid, rhanddeiliaid a chyrff proffesiynol. Fe’u nodwyd hefyd pan wnaethant gofrestru i ddod i’n digwyddiadau Data Agored, a gafodd eu cyhoeddi ar ein Blog Digidol a Data.

Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau. Cafodd rhai ohonynt eu datblygu a’u cyflwyno ar y cyd â Data Cymru. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r digwyddiadau gan ddefnyddio rhwydweithiau proffesiynol, blogiau gwefannau a chyfryngau cymdeithasol, a gwnaethant ddenu nifer sylweddol o gyhoeddwyr Data Agored y sector cyhoeddus a defnyddwyr posibl.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Ymgysylltu â darpar gyhoeddwyr a defnyddwyr data agored i gytuno ar gynnwys a chwmpas y canllawiau

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Cam cyntaf ein rhaglen ymgysylltu oedd cynnal tri gweithdy Data Agored.

Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2019, gan ddenu dros 50 o gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Gofynnwyd i’r rhai a oedd yn bresennol am eu barn ynghylch a oedd angen canllawiau data agored yng Nghymru, ac os felly, pa wybodaeth ddylai’r canllawiau ei chynnwys. Y consensws oedd bod angen arweiniad a chyflwynwyd nifer fawr o awgrymiadau ar gyfer cynnwys. Cyhoeddwyd crynodeb o’r gweithdy ar Flog Digidol a Data Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd gweithdai data agored dilynol ym Mangor ac yn Abertawe ym mis Mawrth 2020, a gafodd eu cynnal mewn partneriaeth â Data Cymru. Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn y gweithdy cychwynnol, cafodd drafft cynnar o’r Canllawiau Data Agored ei gynhyrchu a’i rannu yn y gweithdai hyn, gyda’r bwriad o ymgynghori’n ehangach pan fydd y drafft wedi’i ddatblygu ymhellach.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Datblygu canllawiau drafft

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Amcan y ddogfen ganllawiau ddrafft yw cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir a hygyrch, tra’n sicrhau ei bod yn ymdrin â’r gofynion defnyddwyr a gasglwyd yn ystod y gweithdai data agored.

Dyma strwythur presennol y canllawiau drafft:

  • Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?
  • Pam cyhoeddi data agored?
  • Pa setiau data y dylid eu cyhoeddi’n agored?
  • Sut mae cyhoeddi’n agored?
  • Ble dylid cyhoeddi data agored?
  • Gwybodaeth Ddefnyddiol

Mae nifer fach o gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi asesu drafft cynnar o’r canllawiau ac er bod gwaith i’w wneud o hyd, mae’r canllawiau wedi cael ymateb ffafriol hyd yma.

Yn anffodus, gohiriwyd y gwaith o gwblhau fersiwn ymgynghori o’r ddogfen ganllawiau oherwydd bod adnoddau wedi cael eu symud i ymateb i bandemig COVID-19. Rydym yn bwriadu ailddechrau gweithio ar y canllawiau pan fydd amgylchiadau’n caniatáu.

Statws: Wedi gohirio

Carreg filltir 4: Treialu’r defnydd o’r canllawiau drafft

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Oherwydd bod adnoddau wedi cael eu symud mewn perthynas â COVID-19, mae’r cyfnod peilot wedi cael ei ohirio.

Statws: Wedi gohirio

Ymrwymiad 4: Grantiau

Darparu mwy o eglurder ynglŷn â’r broses o wneud cais am grantiau Llywodraeth Cymru ac o ddarparu’r grantiau hynny.

Adran(nau) arweiniol

Y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau

Eraill a fu’n rhan o’r broses weithredu hyd yma

-

Amserlen

Mawrth 2019 – Mawrth 2021

Statws ymrwymiad cyffredinol

Parhaus

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Yn ystod cylch bywyd dwy flynedd y cynllun, gwnaed cynnydd da ar bob un o’r tair carreg filltir a ddyrannwyd i’r ymrwymiad hwn. Fodd bynnag, mae’r dyhead i gyhoeddi mwy o wybodaeth am grantiau yn weithgaredd tymor hwy. Mae cyflawni un o’r cerrig milltir wedi cael ei ohirio oherwydd effaith pandemig COVID-19. Oherwydd hynny, aseswyd bod y cynnydd gyda’r ymrwymiad hwn yn ‘barhaus’.

Carreg filltir 1: Dechrau proses i lunio, cyhoeddi a chynnal rhestr ganolog o grantiau presennol Llywodraeth Cymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Rydym wedi bod yn ystyried y ffordd orau o gasglu a chyhoeddi rhestr o gynlluniau grant ar ein gwefan. Gan fod cannoedd o gynlluniau grant gweithredol, mae’n bwysig nodi pa gynlluniau y byddai’n fwyaf buddiol rhoi cyhoeddusrwydd iddynt yn gyntaf, a sicrhau bod y cyhoeddiad yn gywir ac yn cael ei reoli i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gyfredol.

Er bod y gwaith hwn wedi cael ei ohirio oherwydd effaith pandemig COVID-19, rydym yn ystyried amrywiaeth o opsiynau i helpu i gyhoeddi yn y dyfodol.

Statws: Parhaus

Carreg filltir 2: Ceisio cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am grantiau Llywodraeth Cymru yn agored

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar reoli ein rhaglen cymorth grant, gan gynnwys gwybodaeth am sut y caiff arian grant Ewropeaidd ei wario. Bydd yr adroddiad nesaf yn cael ei gyhoeddi yng nghyfrifon blynyddol 2020-21 ym mis Hydref 2021.

Cyhoeddir pob taliad dros £25,000 yn rheolaidd. Hefyd, mae Is-adrannau eraill Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth ariannol am y grantiau y maent yn eu gweinyddu, er enghraifft, Grantiau Gwledig a Chynlluniau Talu, Grantiau Trafnidiaeth LeolGrantiau yr Amgylchedd Hanesyddol.

Mae’r opsiynau ar gyfer dull mwy cydlynol o gasglu’r holl wybodaeth am grantiau ar draws y Llywodraeth yn cael eu hadolygu, a byddant yn cael eu diweddaru cyn bo hir.

Statws: Parhaus

Carreg filltir 3: Cydgysylltu'r canllawiau ar gynlluniau grantiau Llywodraeth Cymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae tudalen we ‘canllawiau Llywodraeth Cymru ar grantiau’ yn rhoi gwybodaeth i ddinasyddion a sefydliadau sy’n ystyried gwneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru gan gyrff sy’n cael cyllid grant a thrydydd partïon sy’n rheoli cynlluniau grant ar ein rhan yn ogystal â’r ‘Safonau Gofynnol ar gyfer Cyllid Grant’.

Mae canllawiau ar grantiau sydd ar gael i helpu busnesau a dinasyddion yn ystod pandemig COVID-19 wedi cael eu cyhoeddi, ac maent yn cael eu diweddaru’n rhagweithiol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n datblygu yn sgil y pandemig.

Yn y tymor hwy, rhoddir ystyriaeth i ddatblygu ffynhonnell wybodaeth ganolog i gyfeirio gwahanol ddiwydiannau neu fusnesau at y gwahanol fathau o gymorth grant a all fod ar gael. Ar ben hynny, bydd opsiynau i greu tudalen ryngrwyd sy’n amlinellu’r holl gyllid sydd ar gael ar hyn o bryd a manylion ynghylch sut i wneud cais yn cael eu hystyried hefyd.

Statws: Parhaus

Ymrwymiad 5: Deddfwriaeth

Y nod hirdymor yw creu llyfr statud trefnus ar gyfer Cymru a fydd yn categoreiddio'r gyfraith yn ôl Codau ar bynciau penodol. Rydym hefyd yn gweithio tuag at wella sut mae'r ddeddfwriaeth bresennol (a'i dogfennaeth ategol) yn cael ei chyhoeddi a'i threfnu. Bydd hyn yn cynnwys darparu rhoi gwybod am sut mae’r gyfraith yng Nghymru'n cael ei llunio a dangos sut y gwneir hynny.

Adran(nau) arweiniol

Prif Gwnsler Deddfwriaethol a Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol

Eraill a fu’n rhan o’r broses weithredu hyd yma

Yr Archifau Gwladol; Comisiwn y Gyfraith (Cymru a Lloegr), a Westlaw UK

Amserlen

Rhagfyr 2018 – Rhagfyr 2021

Statws ymrwymiad cyffredinol

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae pedair o’r pum carreg filltir wedi’u cwblhau. Aseswyd bod y garreg filltir sy’n weddill yn ‘barhaus’ gan ei bod yn ymwneud â rhaglen barhaus i lwytho gwybodaeth i fyny i system ar-lein. Felly, aseswyd bod yr ymrwymiad cyffredinol wedi’i gwblhau.

Carreg filltir 1: Gosod dyletswydd gyfreithiol newydd ar y Cwnsler Cyffredinol i adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru a rhoi dyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol i ddatblygu a gweithredu rhaglen barhaus i wella hygyrchedd Cyfraith Cymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Daeth Rhan 1 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i rym ar 11 Medi 2019. Mae hyn yn golygu bod dyletswydd barhaus ar y Cwnsler Cyffredinol i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru mewn grym, ac mae’r rhaglen hon yn parhau.

Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid datblygu rhaglen i wella hygyrchedd y gyfraith a’i gwneud o fewn chwe mis i ethol y Prif Weinidog, yn dilyn yr etholiad cyffredinol yn 2021.

Yn dilyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai 2021, cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad i’r Senedd ym mis Gorffennaf 2021 yn amlinellu’r Rhaglen Ddeddfwriaethol i’w gosod gerbron y Senedd yn nhymor yr hydref.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Ailddatblygu gwefan Cyfraith Cymru / Law Wales (sy'n darparu gwybodaeth am setliad cyfansoddiadol Cymru, a'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru)

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

The redeveloped Cyfraith Cymru was launched on 28 June 2021 and is available in Welsh and English.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Redevelop the Cyfraith Cymru / Law Wales website (which provides information about the constitutional settlement of Wales, and the law applicable in Wales)

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Cafodd y gwaith o ailddatblygu Cyfraith Cymru ei lansio ar 28 Mehefin 2021, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Ehangu’r wybodaeth sydd ar gael ar Cyfraith Cymru / Law Wales am y gyfraith a gaiff ei gwneud yng Nghymru, gan gynnwys testun dwyieithog a deunydd eglurhaol.

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae cynnwys y safle newydd yn cael ei ddiweddaru wrth i ddeddfwriaeth gael ei llunio, ac rydym wedi comisiynu cynnwys newydd gan Lywodraeth Cymru a chan randdeiliaid allanol.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 4: Gwella hygyrchedd yr wybodaeth am gyfraith Cymru sydd ar gael ar legislation.gov.uk trwy gyhoeddi a diweddaru deddfwriaeth yn ddwyieithog a thrwy ddatblygu offer chwilio dwyieithog newydd i wneud cyfraith Cymru yn haws dod o hyd iddi

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Gweinyddir yr adnodd ar-lein legislation.gov.uk gan yr Archifau Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, mae’r Archifau Cenedlaethol yn hyfforddi staff Llywodraeth Cymru i lwytho cynnwys i fyny. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith o ddiweddaru Cyfraith Cymru yn ddwyieithog yn dechrau erbyn diwedd 2021.

Mae prosiect ymchwil i ddatblygu swyddogaethau adnodd chwilio manylach wedi cael ei gychwyn.

Statws: Parhaus

Carreg filltir 5: Gwella'r wybodaeth am y broses ddeddfu, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau ar wefan llyw.cymru ac ar Cyfraith Cymru / Law Wales ynghylch sut y caiff deddfwriaeth ei pharatoi a'i gwneud

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Cafodd y Llawlyfr deddfwriaeth ar filiau’r Cynulliad ei ddiweddaru a’i ailgyhoeddi ym mis Mai 2019.

Cafodd Datrysiadau deddfwriaethol cyffredin: canllaw i ymgodymu â materion polisi cylchol mewn deddfwriaeth ei gyhoeddi ym mis Hydref 2019.

Cafodd Drafftio deddfau i Gymru: canllaw ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2019.

Cafodd Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019:Canllawiau ar baratoi deddfwriaeth Cymru ei gyhoeddi ym mis Mai 2020.

Cafodd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020:Canllawiau ar oblygiadau Rhan 2 o ran drafftio deddfwriaeth hefyd ei gyhoeddi ym mis Mai 2020.

Statws: Wedi cwblhau

Ymrwymiad 6: Ymgysylltu ariannol

Codi ymwybyddiaeth o gyllid Llywodraeth Cymru, yn benodol o ble y daw'r arian a sut y caiff ei wario. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymgysylltu â dinasyddion i roi mwy o eglurder a dealltwriaeth ynglŷn â chyllid cyhoeddus Cymru.

Adran(nau) arweiniol

Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Llywodraeth – Cyllidebu Strategol

Eraill a fu’n rhan o’r broses weithredu hyd yma

Awdurdod Cyllid Cymru a Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Llywodraeth – Trysorlys Cymru

Amserlen

Mawrth 2019 – Mawrth 2021

Statws ymrwymiad cyffredinol

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae’r holl gerrig milltir ar gyfer yr ymrwymiad hwn wedi’u cwblhau.

Carreg filltir 1: Nodi ffyrdd o wella dealltwriaeth am gyllidebau Llywodraeth Cymru a'r adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Cynhaliwyd cyfres o ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol rhwng mis Hydref 2019 a mis Mawrth 2020, gan ddechrau ychydig cyn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-2021 a gorffen ar ôl cyhoeddi’r gyllideb derfynol. Roedd yr ymgyrchoedd hyn yn tynnu sylw at y meysydd gwariant blaenoriaeth ar gyfer cyllideb 2020-2021 ac yn dangos effeithiolrwydd gwariant blaenorol Llywodraeth Cymru a’i effaith ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Roedd cynnwys digidol yn cynnwys cyfryngau fel ffeithluniau, fideos ac animeiddiadau a gafodd eu dewis er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl. Roedd yr ymgyrchoedd yn drawsbynciol ac yn cynnwys astudiaethau achos o Adrannau ar draws Llywodraeth Cymru. Cafodd gwybodaeth ei chyhoeddi ar sianeli digidol Llywodraeth Cymru, yr Adrannau a’r Gweinidogion ac roedd rhanddeiliaid yn ei rhannu’n eang.

Cyn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-2022, dechreuwyd ymgyrch arall i godi ymwybyddiaeth, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am rôl y Gweinidog Cyllid, sut mae arian yn cael ei godi a’i wario yng Nghymru a’r effaith y mae’r gwariant hwn yn ei chael ar gymunedau. Rhannwyd cynnwys ar draws cyfryngau Llywodraeth Cymru, Trysorlys Cymru a rhanddeiliaid.

Gwnaethom barhau i gyhoeddi taflen Cyllideb hygyrch fel rhan o becynnau Cyllideb Ddrafft 2020-2021 a 2021-2022. Bwriad y daflen oedd cyflwyno meysydd allweddol cyllideb Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio iaith ‘annhechnegol’, gan ei gwneud yn haws ei deall a galluogi i’r wybodaeth gael ei rhannu â chynulleidfa ehangach, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Un o amcanion pwysig ein hymgyrchoedd cyllideb oedd cynnwys dinasyddion a rhanddeiliaid eraill mewn trafodaethau am ein cynigion cyllidebol. Yn 2019, cynhaliodd y Gweinidog Cyllid gyfres o ymweliadau â lleoliadau a ariennir gan arian cyhoeddus ledled Cymru sy’n darparu gwasanaethau ym mhob un o’n wyth maes blaenoriaeth trawsbynciol (blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, cyflogadwyedd a sgiliau, iechyd meddwl gwell, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth) ar gyfer y Gyllideb. Dyma’r meysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf yn y tymor hwy. Roedd yr ymweliadau’n cynnig cyfleoedd i drafod blaenoriaethau’r gyllideb a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ystod hydref 2020, bu’r Gweinidog Cyllid yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys yr holl Gomisiynwyr statudol, cynrychiolwyr y trydydd sector a Llywodraeth Leol a’n partneriaid cymdeithasol, fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-2022. Roedd yr ymgysylltu hwn yn gyfle i glywed safbwyntiau ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer y Gyllideb yng ngoleuni’r digwyddiadau y llynedd a’u heffaith ar wasanaethau cyhoeddus. Roedd y gweithgareddau ymgysylltu hyn hefyd yn cynnwys trafodaethau am y cyd-destun ariannol a’r dull gweithredu ar gyfer Cyllideb 2021-2022.

Cyn Cyllideb Derfynol 2021-2022, sefydlwyd partneriaeth rhwng athrawon Economeg Lefel A a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd y bartneriaeth i brofi a thrafod y deunydd y dylid ei gynnwys mewn ymgyrch ymwybyddiaeth o’r gyllideb. Yna gwahoddwyd myfyrwyr Lefel A i asesu a rhoi sylwadau ar y cynnwys digidol arfaethedig, er mwyn profi ei effeithiolrwydd. Daeth y prosiect i ben gyda sesiwn Holi ac Ateb rhwng myfyrwyr, y Prif Economegydd a’r Gweinidog Cyllid.

Ym mis Rhagfyr 2019, gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Gwella’r Gyllideb. cyntaf erioed. Mae’r cynllun yn nodi ein gweledigaeth i wella ein prosesau trethi a chyllidebau blynyddol, ac mae’n cynnwys ein huchelgeisiau tymor byr a thymor canolig ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Gwella’r Gyllideb ym mis Rhagfyr 2020, fel rhan o becyn Cyllideb Ddrafft 2021-2022. Roedd y diweddariad yn adeiladu ar ein hymrwymiad yn 2019 i ddarparu mwy o dryloywder ynghylch gwella’r Gyllideb, gan gynnwys prosesau a dogfennau ategol.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Cyhoeddi mwy o wybodaeth gyllidebol ac ariannol, gan gynnwys manylion cyswllt, mewn fformat agored, trwy wefan Llywodraeth Cymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Rydym wedi parhau i gyhoeddi tablau sy’n dangos penderfyniadau gwariant pob Prif Grŵp Gwariant ar lefel Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Cyllideb 2020-2021Chyllideb 2021-2022. Ers Cyllideb 2019-2020, mae tablau’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer y cyllidebau drafft a therfynol wedi cael eu cyhoeddi yn y fformat Ffynhonnell Data Agored (ODS), sy’n golygu bod y data ar gael nid yn unig i’w weld, ond hefyd i’w ailddefnyddio ar gyfer ymchwil a dadansoddi data etc.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Ceisio adeiladu ar ein gweithgareddau ymgysylltu a gwella’r gweithgareddau hynny mewn perthynas â datblygu trethi a pholisi trethi Cymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Rydym yn sefydlu Grŵp Ymgysylltu ar Drethi, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, llywodraeth leol a’r trydydd sector. Amcanion y grŵp yw rhoi sylwadau ar effaith trethi Cymru, ystyried cynnwys cynlluniau polisi trethi, a chefnogi gweithgarwch ymgysylltu sydd â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o drethi Cymru, polisi trethi a gweinyddu trethi.

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cynhadledd dreth flynyddol ac adroddiad polisi treth blynyddol, er mwyn rhoi gwell gwybodaeth i drethdalwyr a grwpiau rhanddeiliaid yng Nghymru am ein nodau ar gyfer polisi trethi ac i gael sylwadau a chyfraniadau ganddynt.

Pan fydd syniadau treth newydd yn cael eu hystyried, rydym yn sefydlu gweithgareddau ymgysylltu pwrpasol gyda rhanddeiliaid, arbenigwyr eraill, trethdalwyr eraill a buddiolwyr posibl, er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei gynnig a rhoi cyfle i gyfrannu at ddylunio’r cynlluniau.

Rydym hefyd yn cynnal arolygon o bryd i’w gilydd er mwyn gwella ein dealltwriaeth o ymwybyddiaeth o drethi Cymru mewn cymunedau, gan ddinasyddion a chan randdeiliaid eraill.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 4: Awdurdod Cyllid Cymru i fynd ati’n rheolaidd i gyhoeddi gwybodaeth yn agored am drethi a ddatganolwyd i Gymru

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Rydym yn cyhoeddi:

  • ystadegau misol, chwarterol a blynyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir
  • ystadegau chwarterol a blynyddol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Ar wefan Llywodraeth Cymru, rydym yn cyhoeddi ein gwybodaeth ystadegol fel datganiadau HTML (cyfres o dudalennau gwe cysylltiedig), sy’n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr gael gafael ar yr ystadegau.

Rydym hefyd yn cyhoeddi’r holl ddata a ddefnyddir yn ein datganiadau ystadegol ar wefan StatsCymru mewn fformat y gellir ei ddarllen â pheiriant.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 5: Cyhoeddi gwybodaeth o bryd i'w gilydd ynghylch prosiectau seilwaith a ariennir trwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (proses i alluogi Llywodraeth Cymru a'r sector preifat i ariannu prosiectau ar y cyd)

Diweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir/gweithgareddau

Mae’r dudalen we ‘Y model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith’ ar wefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun ac mae’n cynnwys:

  • Golwg gyffredinol sy’n egluro pwrpas y cynllun a sut mae’n gweithredu
  • Dogfennau technegol i helpu gyda chamau caffael prosiectau’r cynllun
  • Canllawiau ar gyfer gwahanol gamau’r cynllun
  • Ffurflenni safonol a ddefnyddir ym meysydd busnes y cynllun, fel y Cytundeb Prosiect Ffyrdd

Mae’r diweddariadau am rai o’r prosiectau wedi cynnwys:

Mae gwybodaeth ategol arall sydd ar gael ar y wefan yn cynnwys canllawiau ar gyfer creu ‘Achosion Busnes Gwell’, sy’n defnyddio’r fethodoleg ‘Model Pum Achos’.

Statws: Wedi cwblhau