Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r ystadegau hyn?

Mae ystadegau tai fforddiadwy ychwanegol yn darparu gwybodaeth gryno am nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddatblygwyd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys yr holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, naill ai drwy gartrefi a adeiledir o’r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol. Nid ydynt yn ystyried unrhyw golled stoc tai fforddiadwy drwy ddymchweliadau neu werthiannau yn ystod y flwyddyn.

Yn ogystal â’r dadansoddiad manwl a ddengys yn y cyhoeddiad blynyddol hwn, cyhoeddir yr holl ddata ar lefel awdurdod lleol unigol a Pharc Cenedlaethol ar StatsCymru.

Polisi a Chyd-destun Gweithredol

Mae tai fforddiadwy’n golygu tai lle mae trefniadau diogel ar waith i sicrhau ei fod yn hygyrch i’r rhai na allant fforddio tai ar y farchnad, ar feddiant cyntaf ac am feddianwyr dilynol fel y diffinnir yn Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 2 Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006).

Bydd tai fforddiadwy’n cynnwys tai rhent cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ogystal â thai canolradd lle mae prisiau neu renti’n uwch na rhai rhent cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu renti’r farchnad dai. Bydd hyn yn cynnwys unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd dan gynlluniau a allai ddarparu ar gyfer datblygu i feddiannaeth lawn, cyhyd â bod trefniadau diogel ar waith i sicrhau ailgylchu derbyniadau cyfalaf i ddarparu tai fforddiadwy yn lle’r rhai hynny.

Mae’r ffigurau tai fforddiadwy ychwanegol a ddengys yn y cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr unedau tai hynny ar brydles i ddarparu llety i deuluoedd digartref lle mae’r brydles yn hwy na blwyddyn. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw’r unedau hyn yn cydymffurfio’n llawn â diffiniad NCT 2 mewn perthynas â’r meddiant dilynol unwaith bod y brydles wedi dod i ben.

Bydd y ffigyrau tai fforddiadwy ychwanegol yn cynnwys unrhyw unedau sydd wedi’u cyflenwi drwy rwymedigaethau cynllunio (cytundebau adran 106) neu gyflyrau cynllunio un ai fel rhan o neu o ganlyniad i ddatblygiadau tai’r farchnad. Bydd y nifer o dai fforddiadwy a ddarperir ar safle penodol yn cael ei bennu gan bolisi datblygu’r awdurdod lleol a thrafodaethau gyda’r datblygwr.  Bydd y cyfraniad tai fforddiadwy a gytunwyd yn cael ei ddiogelu drwy gytundeb adran 106, sy’n gytundeb cyfreithiol-rwym rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol ac yn gweithredu ochr yn ochr gyda chaniatâd cynllunio. 

Cyflwynwyd y data a gasglwyd yn wreiddiol i fonitro’r cynnydd a wnaed tuag at y targed i gynyddu cyflenwad y tai fforddiadwy yng Nghymru 6,500 erbyn 2011 fel y nodir yn strategaeth flaenorol y llywodraeth, ‘Cymru’n Un’.

Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi newydd carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu 2021-26. Mae cynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiad hwnnw wedi'i gynnwys yn y datganiad ystadegol

Wrth fesur cynnydd, rydym wedi cynnwys unedau rhent cymdeithasol, unedau rhent canolradd ac unedau rhanberchenogaeth, a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol a darparwyr y sector preifat. Mae'r ffigurau hefyd yn cynnwys unedau tai a gynigiwyd ar brydles i ddarparu llety i deuluoedd digartref lle mae'r les am fwy na blwyddyn, er nad yw'r unedau hyn yn cydymffurfio'n llawn â diffiniad TAN 2. Nid yw'r ffigur targed a adroddwyd yn cynnwys unedau ecwiti fforddiadwy a rennir ac felly mae'n is na chyfanswm y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd.

Er nad yw'r data a gesglir yn cynnwys gwybodaeth benodol am lefelau carbon, mae Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 yn gosod y gofynion carbon isel y mae'n rhaid eu bodloni ar gyfer cartrefi a ariennir gan grant tai cymdeithasol. Felly, tybir bod yr holl unedau a ddarparwyd yn bodloni gofyniad carbon isel y targed.  

Targed Blaenorol

Ym mis Medi 2016, cyhoeddodd llywodraeth bresennol Cymru’r rhaglen Symud Cymru Ymlaen 2016 -2021’ sy’n cynnwys ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i gyflwyno 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2016-21, gan gynnwys cefnogi adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi drwy’r cynllun Cymorth i Brynu. O dan y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru, mae benthyciadau ar gael i brynwyr sydd am brynu cartref a adeiledir o’r newydd gwerth hyd at £300,000.

Ym mis Chwefror 2018 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddau gynllun newydd, Rhentu i Berchnogi - Cymru a Rhanberchnogaeth - Cymru, gyda'r bwriad o gynnig perchenogaeth cartref i aelwydydd sy'n gallu fforddio'r taliadau morgais misol ond nad oes ganddynt y lefel blaendal sydd fel arfer yn ofynnol i brynu cartref.

O dan y Rhentu i Berchnogi – Cymru, bydd y rhai sy'n dymuno prynu yn talu rhenti marchnad ar gyfer cartrefi newydd oddi wrth gymdeithasau tai, a bydd ganddynt yr opsiwn i brynu'r tai o ddiwedd ail flwyddyn eu cyfnod rhent. Ar ôl dewis yr opsiwn i brynu, bydd y sawl sy'n dymuno prynu yn derbyn swm sy'n cyfateb i 25% o'r rhent a dalwyd ganddynt a 50% o unrhyw gynnydd yng ngwerth y cartref, i'w ddefnyddio fel blaendal morgais. Bydd hyn yn eu helpu i brynu'r cartref y maent yn ei rentu. Nid yw gwybodaeth am unedau tai fforddiadwy a ddarperir trwy'r cynllun Rhentu i Berchnogi - Cymru yn cael ei gynnwys yng nghyfanswm y ffigurau tai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn yr adroddiad hwn gan nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn â diffiniad TAN 2. Fodd bynnag, darperir dadansoddiad o'r ffigurau Rhentu i Berchnogi - Cymru yn Adran 6 o'r adroddiad.

Mae’r cynllun Rhanberchnogaeth - Cymru yn gynllun rhan-brynu, rhan-rent sy'n addas ar gyfer rhai prynwyr sydd â rhywfaint o blaendal ond ni allant gael lefel y morgais i brynu'r cartref yn llwyr. Gall pobl brynu cyfran gychwynnol o 25% i 75% o werth cartrefi newydd, sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn gan gymdeithasau tai sy'n cymryd rhan. Gallant gynyddu eu cyfran hyd at berchnogaeth lawn ar unrhyw adeg. Bydd rhent yn daladwy ar y cyfran na berchnogir. Mae nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a gyflwynir gan ddefnyddio'r Cynllun Rhanberchnogaeth - Cymru wedi'u cynnwys yn y cyfanswm ffigurau tai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn y datganiad hwn gan eu bod yn cydymffurfio â diffiniad TAN 2. Mae'r cynllun bellach ar gau ceisiadau newydd.

Mae awdurdodau lleol yn gosod targedau Tai Fforddiadwy cyffredinol yn eu Datganiadau Cyflwyno Tai Fforddiadwy ac mae gofyn iddynt osod targedau yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer tai fforddiadwy a gyflwynir drwy’r system gynllunio.

Ym Awst 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcangyfrifon o’r angen am dai ychwanegol yng Nghymru wedi’i rhannu fesul daliadaeth (fforddiadwy a marchnad), ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.

Defnyddwyr a defnydd

Defnyddir yr wybodaeth hon i edrych ar dueddiadau darpariaeth unedau tai fforddiadwy ychwanegol dros amser. Defnyddir yr wybodaeth hon ynghyd â gwybodaeth arall (gan gynnwys ar y cynllun Cymorth i Brynu) i fonitro’r cynnydd a wnaed tuag at darged presennol y llywodraeth i gyflwyno 20,000 o gartrefi fforddiadwy, yn ogystal â monitro’r ymrwymiadau a amlinellir yn y ‘Strategaeth Tai Genedlaethol’.

Mae awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yn defnyddio’r wybodaeth i fonitro targedau cyflwyno tai fforddiadwy lleol; datblygu eu hasesiadau marchnad dai leol; ar gyfer gwaith trawsawdurdod effeithiol ar faterion tai fforddiadwy a meincnodi cywir; ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ar sut mae’r galw am dai’n cael ei ddiwallu’n lleol ac ar gyfer asesu gofynion ac angen y dyfodol er mwyn cynllunio a dyrannu adnoddau’n effeithiol.

Yn fwy cyffredinol, defnyddir yr wybodaeth ar gyfer y canlynol:

  • monitro tueddiadau tai
  • datblygu polisïau
  • cyngor i weinidogion
  • hysbysu dadleuon yng Senedd a’r tu hwnt
  • proffilio, cymariaethau a meincnodi daearyddol

Mae amrywiaeth o ddefnyddwyr yr ystadegau hyn gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol, ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr.

Cryfderau a chyfyngiadau’r data

Cryfderau

  • Caiff yr wybodaeth ei phrosesu a’i chyhoeddi’n rheolaidd ac yn drefnus er mwyn galluogi defnyddwyr i weld yr ystadegau diweddaraf ac sydd o’r pwys mwyaf.
  • Mae gan allbynnau ffocws clir ar Gymru ac maent wedi’u datblygu i ddiwallu anghenion defnyddwyr mewnol ac allanol yng Nghymru.
  • Darperir ystadegau manwl drwy ein gwefan StatsCymru ar lefel awdurdod lleol.

Cyfyngiadau

  • Mae’r wybodaeth yn cynnwys unedau ar brydles i ddarparu llety i deuluoedd digartref lle mae’r brydles dros flwyddyn. Nid yw’r unedau sector preifat hyn yn cydymffurfio’n llawn â diffiniad (NCT) 2 mewn perthynas â’r meddiant dilynol unwaith i’r brydles ddod i ben.
  • Oherwydd y gweinyddiaethau a ddatganolwyd a’r polisïau sy’n anghytuno, mae llai o le ar gyfer cymariaethau uniongyrchol â’r DU (gweler ‘Cydlyniad’ yn ddiweddarach yn y ddogfen).
  • Mae’r data ‘Cynlluniedig’ a ddengys yn y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol yn unig.

Y cylch prosesu data

Casglu data

Mae’r ffigurau a ddengys yn y cyhoeddiad ystadegol hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir drwy ddychweliadau ystadegol blynyddol a gwblheir gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru. Cyn cyflwyno’r data hwn, roedd darparwyr data’n rhan o’r datblygu o ran y ffurflenni a’r arweiniad i’r presenoldeb mewn tri digwyddiad rhanbarthol. Sicrhaodd y digwyddiadau hyn fod darparwyr data’n deall yr arweiniad yn llawn a’u bod yn darparu gwybodaeth yn gyson.

Mae awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael gwybod am yr amserlen casglu data ymlaen llaw. Mae hyn yn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i goladu eu gwybodaeth a sôn am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Ceir arweiniad yn y daenlen, sy’n helpu defnyddwyr wrth gwblhau’r ffurflenni. 

Mae copïau o’r ffurflenni casgliad data tai fforddiadwy ychwanegol ar gael.

Yn ystod 2022-23, casglwyd data o’r 22 awdurdod lleol (ALl), y 3 awdurdod parciau cenedlaethol (APC) a’r holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o Gymru (LCC), yn ymwneud â thai fforddiadwy ychwanegol ar draws yr holl ddaliadaethau. Mae awdurdodau lleol hefyd yn darparu data ar gyfer darparwyr sector preifat ('arall') sydd wedi darparu unedau o fewn ardal eu hawdurdod lleol.

Casglwyd y data i benderfynu nid yn unig faint o dai fforddiadwy ychwanegol a gyflwynwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, ond hefyd sawl un a gynlluniwyd i’w cyflwyno ym mlwyddyn ariannol 2023-24. Mae'r data 'Cynlluniedig' a ddangosir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol ac mae'n cynnwys unedau sydd wedi'u cynllunio gan awdurdodau lleol, landlordiaid cofrestredig cymdeithasol a darparwyr 'eraill'. 

Mae’r ffigurau yn y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar unedau tai fforddiadwy ychwanegol ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad yn stoc tai fforddiadwy.

Mae unedau tai fforddiadwy ychwanegol a gyflwynwyd neu a gynlluniwyd yn cynnwys unedau ar brydles i ddarparu llety i deuluoedd digartref lle mae’r brydles yn hwy na blwyddyn.

Nododd y casgliad data dai/unedau fforddiadwy a ddarparwyd drwy ddaliadaethau gwahanol (tai rhent cymdeithasol, tai rhent canolradd a rhannu ecwiti) yn ogystal â’r unedau:

  • gydag arian grant cyfalaf (e.e. Grant Tai Cymdeithasol [GTC], Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, Partneriaeth Tai Cymru (PTC) a’r Grant Cyllid Tai (GCT)
  • ar safleoedd eithrio tai fforddiadwy neu drwy oblygiadau cynllunio (cytundebau adran 106)
  • ar dir yr awdurdod lleol a sector cyhoeddus arall
  • tu mewn a’r tu allan i ardaloedd parciau cenedlaethol

At ddiben y casgliad data hwn, cyfrifwyd tai a ddarparwyd drwy’r cynlluniau ar mentrau canlynol.

  • Anghenion cyffredinol gan gynnwys Cymorth Prynu
  • Cartrefi Diamddiffyn a Gofal Ychwanegol
  • Achub Morgeisi
  • Adran 106 Unedau Cartrefi a Adeiledir o’r Newydd (ymrwymedig a hap-safle)
  • Polisi Safle Eithrio Tai Fforddiadwy (gan gynnwys Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol [YTC])
  • Mentrau Cartrefi Gwag
  • Cynlluniau Prydlesi (prydles sy’n hwy na blwyddyn)
  • Rhanberchnogaeth Cymru

Cofnodir bod unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn cael eu cyflwyno drwy oblygiadau cynllunio neu ar safleoedd eithrio tai fforddiadwy, ni waeth pryd y rhoddwyd y caniatâd cynllunio. Efallai neu efallai na fydd yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol hynny a gyflwynwyd neu a gafwyd caniatâd cynllunio drwy oblygiadau cynllunio ar safleoedd eithrio tai fforddiadwy.

O 2011-12 ymlaen, roedd gofyn i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a gyflwynwyd ar dir a oedd ar gael oherwydd cyrff sector cyhoeddus eraill yn y pum mlynedd diwethaf yn ogystal â’r nifer a gyflwynwyd ar dir awdurdodau lleol. Efallai neu efallai nad yw’r unedau fforddiadwy wedi’u darparu oherwydd cytundeb cynllunio adran 106. Efallai gwerthwyd y tir yn ôl gwerth y farchnad, am bris gostyngol, neu wedi’i drosglwyddo am ddim. Mae’r cyrff sector cyhoeddus eraill wedi’u rhestru yn yr eirfa yn y cyhoeddiad hwn.

Dilysu a chadarnhau

Mae awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig unigol yn gyfrifol am ddarparu data o ansawdd uchel. Mae Tîm Casglu Data Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddilysu ac ymgymryd â gwiriad rhesymol ar y data yma er mwyn sicrhau bo’r data yn cyrraedd y gofynion ar gyfer ‘Ystadegau Gwladol’. Mae tîm Ystadegau Tai Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am sicrwydd ansawdd y dadansoddiad yn yr allbynnau.

Cesglir yr wybodaeth yn flynyddol drwy daenlenni Excel sydd wedi’u lawrlwytho o’r wefan trosglwyddo ffeiliau Afon sy’n darparu dull diogel i ddefnyddwyr gyflwyno’r data. Ceir arweiniad yn y daenlen, sy’n helpu defnyddwyr i gwblhau’r ffurflen.  Mae’r daenlen yn galluogi ymatebwyr i ddilysu peth data cyn anfon y daenlen i Lywodraeth Cymru.

Mae enghreifftiau o wiriadau dilysu yn y ffurflenni’n cynnwys trawswiriadau â thablau a gwiriadau eraill i sicrhau bod data’n gyson yn logistaidd. Rhoddwyd cyfle i ymatebwyr hefyd gynnwys gwybodaeth gyd-destunol lle cafwyd newidiadau sylweddol (e.e. eitemau data’n newid mwy na 10% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol). Mae hyn yn galluogi peth glanhau data wrth y ffynhonnell ac yn lleihau ymholiadau dilynol.

Wrth dderbyn y ffurflenni casglu data, mae’r tîm casglu data’n cynnal mwy o wiriadau dilysu a chadarnhau, er enghraifft:

  • gwiriad synnwyr cyffredin ar gyfer unrhyw ddata coll/anghywir heb unrhyw esboniad
  • gwiriadau cysondeb rhifyddeg
  • trawswiriadau yn erbyn data’r flwyddyn flaenorol
  • trawswiriadau â chasgliadau data perthnasol eraill
  • gwiriadau goddefiant trwyadl
  • gwirio bod y data y tu allan i oddefiant yn gywir
  • rydym yn ymgymryd â chyfres o gamau gwirio i sicrhau bod y data’n gywir ac yn gyson

Mae’r tîm casglu data’n gweithio’n agos gyda mathau gwahanol o ddarparwyr data i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir yn gywir ac yn gyson. Maent hefyd yn gwirio bod y data’n gyson â nifer yr unedau tai a adeiledir o’r newydd yr adroddwyd amdanynt dros y flwyddyn ddiwethaf a datrys unrhyw ymholiadau â landlordiaid. Os ceir unrhyw gamgymeriad dilysu, rydym yn cysylltu â’r awdurdod lleol, yr awdurdod parciau cenedlaethol neu’r landlord cymdeithasol cofrestredig a chwilio am ateb. Os nad ydynt yn cael ateb o fewn amserlen resymol, byddwn yn defnyddio cyfrifiadau i wella ansawdd data a byddwn yn hysbysu’r sefydliad ac yn esbonio iddynt sut rydym wedi diwygio neu gyfrifo’r data.

Rydym yn cymharu’r data a ddarperir gan awdurdodau lleol â’r data a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Lle nad yw’r ffigurau’n cyfateb, rydym yn gweithio gyda’r darparwyr data i sicrhau bod y data’n gyson. Mewn nifer bach o achosion, nid yw darparwyr data’n gallu sicrhau bod data’n gyson â’r amserlen ar gyfer cyhoeddi. Yn yr achosion hyn, rydym yn defnyddio’r ffigurau sydd wedi’u cyfuno gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn ogystal ag unrhyw awdurdod lleol a gweithgarwch datblygwyr preifat, i gyfrifo’r cyfanswm terfynol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol. Mewn achosion o’r fath, rydym yn rhoi gwybod i landlordiaid y bydd hyn y digwydd. Dylid hefyd nodi fod awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau cywirdeb gwybodaeth.

Mewn tablau lle mae ffigurau wedi’u crynhoi, efallai na fydd swm y ffigurau unigol gyfwerth â’r cyfanswm a ddengys.

Cyhoeddi

Unwaith i’r data gael ei gadarnhau’n derfynol, llunnir y cyhoeddiad a chaiff y pwyntiau allweddol a’r sylwebaeth eu drafftio. Caiff y cyhoeddiad ei wirio’n annibynnol a chynhelir gwiriad terfynol gan yr ystadegydd perthnasol cyn cyhoeddi ar y wefan.

Safonau

Mae’r ystadegau a baratoir yn cadw at safonau proffesiynol a gydnabyddir. Cânt eu llunio’n unol â’r Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol yn annibynnol dan gyfrifoldeb Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Golyga statws Ystadegau Cenedlaethol fod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ddidwylledd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai’r holl ystadegau cyhoeddus gydymffurfio â holl agweddau’r Cod Ymarfer Ystadegau. Cânt statws ystadegau Cenedlaethol ar ôl cael asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni safonau uchaf y cod cydymffurfio, gan gynnwys y gwerth maent yn eu hychwanegu at benderfyniadau a dadleuon y cyhoedd.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Cenedlaethol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn dal yn bodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r awdurdod yn brydlon. Gall y statws Ystadegau Cenedlaethol gael ei ddiddymu ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’i adfer pan fydd y safonau’n dychwelyd.

Cadarnhawyd y parhad o ddynodiad yr ystadegau fel Ystadegau Cenedlaethol ym Gorffennaf 2019 yn dilyn gwiriad o gydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Côd Ymarfer ar gyfer ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • o fewn yr Adroddiad Ansawdd rydym wedi cynnwys mwy o fanylion ynglŷn â’n gwybodaeth o’r prosesau sicrwydd ansawdd a gyflawnir gan ddarparwyr data a hefyd wedi cynnwys mwy o fanylion ynglŷn â chyfrifoldeb cyffredinol y broses rheoli ansawdd
  • rydym wedi ychwanegu termau ychwanegol o eirfa’r datganiad
  • rydym wedi cyfeirio at waith traws-lywodraethol ar dai fforddiadwy
  • rydym wedi gwella dibynadwyedd drwy adolygu a lleihau mynediad cynnar cyn cyhoeddi

Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i sgorio yn erbyn matrics Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Awdurdod Ystadegau’r DU. Y matrics yw safon rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU er mwyn sicrhau ansawdd data gweinyddol. Mae’r safon yn cydnabod y rôl gynyddol y mae data gweinyddol yn ei chwarae wrth lunio ystadegau swyddogol ac mae’n egluro beth ddylai cynhyrchwyr ystadegau swyddogol ei wneud i sicrhau eu hunain am ansawdd y data hwn. Mae’r pecyn cymorth sy’n ei gefnogi’n darparu arweiniad defnyddiol i gynhyrchwyr ystadegol am yr arferion y gallant eu mabwysiadu i sicrhau ansawdd y data maent yn ei dderbyn, ac yn gosod y safonau ar gyfer asesu ystadegau yn erbyn Cod Ymarfer Ystadegau.

Sut rydym wedi asesu’r datganiad hwn

  • Cyd-destun gweithredol a chasglu data gweinyddol (A2: sicrwydd uwch): Rydym yn darparu gwybodaeth ar gyd-destun polisi o fewn y datganiad ystadegol, gan gynnwys disgrifiad o’r newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth a’r effaith yn nhermau safon a chywirdeb y data (gweler yr adran Polisi a Gweithredol o fewn y ddogfen hon a’r Datganiad Ystadegol am fwy o wybodaeth).
  • Cyfathrebu â phartneriaid cyflenwi data (A2: sicrwydd uwch): Rydym wedi sefydlu dull effeithiol o gyfathrebu gyda’n darparwyr data (gweler adran Casglu Data am ddisgrifiad o sut rydym yn cyfathrebu gyda darparwyr data),
  • Gwiriadau, safonau ac egwyddorion sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan gyflenwyr data (A1: sicrwydd sylfaenol): mae gennym wybodaeth eang o wiriadau sicrwydd ansawdd darparwyr data (gweler adran Dilysu a Gwirio).
  • Dogfennau ac ymchwiliadau sicrhau ansawdd y cynhyrchwyr (A2: sicrwydd uwch): rydym yn darparu gwybodaeth am ein gwiriadau sicrwydd ansawdd ac yn darparu arweiniad ar gryfderau a chyfyngiadau'r data (gweler adran dilysu a gwirio a’r datganiad ystadegol).

Rydym o'r farn fod yr ystadegau digartrefedd statudol yn bryder canolig o ran ansawdd data ac o ddiddordeb canolig i'r cyhoedd gan fod diddordeb eang gan ddefnyddwyr a’r cyfryngau. Rydym yn ffyddiog fod y sgorau’n briodol yn ôl y pecyn, o ran pryderon am ansawdd data a lefel diddordeb y cyhoedd.

Ansawdd

Mae ystadegau tai Cymru’n cadw at Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn unol â chwe elfen ansawdd System Ystadegol Ewrop, fel y rhestrir yn Egwyddor 4 y Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol.

Nodir manylion y chwe elfen, a sut rydym yn cadw atynt isod.

Perthnasedd

Y graddau y mae’r cynnyrch ystadegol yn diwallu anghenion defnyddwyr o ran sylw a chynnwys.

Mae’r data yn y Cyhoeddiad Ystadegol hwn yn sail i’r dystiolaeth ar ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru a chânt eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau tai eraill i fonitro tueddiadau yn narpariaeth unedau tai fforddiadwy ychwanegol dros amser. Caiff diddordebau a defnyddiau eraill y data hwn eu hamlinellu uchod.

Rydym yn adnewyddu’n hallbynnau’n rheolaidd ac yn croesawu adborth.

Cywirdeb

Amcangyfrifon gorau darparwyr data yw ffigurau a nodir ar gyfer ‘Cynllunedig ar gyfer 2023-24’ ac felly efallai y byddant yn destun newid pan adroddir amdanynt fel ‘Wedi’u cyflwyno’ yn y dyfodol. Fel arwydd o gywirdeb yr amcangyfrifon a ddarperir, nifer yr unedau tai fforddiadwy a ‘Gyflwynwyd’ yn 2021-22 (2,676) oedd 23% yn is na nifer yr unedau a amcangyfrifwyd, sef 3,481 a ‘Gynlluniwyd’ i’w cyflwyno yn ystod 2021-22, fel y casglwyd yn 2020-21.

Mae'r data 'Cynlluniedig' a ddangosir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol ac mae'n cynnwys unedau sydd wedi'u cynllunio gan awdurdodau lleol, landlordiaid cofrestredig cymdeithasol a darparwyr 'eraill'. 

Diwygiadau

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys y data terfynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23. Fodd bynnag, weithiau, mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data diwygiedig yn y dyfodol. Os yw hyn yn digwydd, byddwn yn diweddaru’r wybodaeth yng nghyhoeddiad ystadegol y flwyddyn ganlynol.

Rydym yn dilyn polisi diwygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.

Llinellau amser a phrydlondeb

Mae llinellau amser yn cyfeirio at y treigl amser rhwng cyhoeddi a’r cyfnod y mae’r data’n cyfeirio ato. Mae prydlondeb yn cyfeirio at yr oedi amser rhwng dyddiadau go iawn a chynllunedig cyhoeddi.

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol drwy gyn-gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi drwy’r tudalennau Yn Dod yn Fuan drwy wefan Ystadegau Cymru. Ar ben hynny, os bydd yr angen yn codi i ohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn trefniadau diwygiadau, camgymeriadau ac oedi Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cyhoeddi cyhoeddiadau cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosib ar ôl y cyfnod amser perthnasol.

Hygyrchedd ac eglurdeb

Hygyrchedd yw’r hawster lle gall defnyddwyr gael mynediad i ddata, gan hefyd adlewyrchu’r fformat(au) lle mae’r data ar gael ac argaeledd gwybodaeth gefnogol. Golyga eglurdeb ansawdd a digonolrwydd y metadata, y darluniadau a’r cyngor cysylltiedig.

Caiff ystadegau tai fforddiadwy i Gymru eu cyhoeddi mewn ffordd hygyrch, drefnus, gyn-gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.

Mae ffrwd RSS yn tynnu sylw defnyddwyr cofrestredig at y cyhoeddiad ac mae neges drydar gan @ystadegaucymru yn hysbysu defnyddwyr Twitter o’r cyhoeddiad. Yna caiff y cyhoeddiadau eu cyhoeddi ar GOV.UK.

Ein nod yw hysbysu defnyddwyr allweddol o gyhoeddiad yr ystadegau pan gânt eu cyhoeddi. Caiff e-bost ei anfon i’r Grŵp Gwybodaeth Tai

Mae’r holl gyhoeddiadau ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Mae data mwy manwl hefyd ar gael ar yr un pryd ar wefan StatsCymru a gall hyn gael ei drin ar-lein neu ei lawrlwytho i daenlenni at ddefnydd swyddfa.

Yn ein hallbynnau, ein nod yw darparu cydbwysedd o sylwebaeth, tablau crynhoi, siartiau a mapiau lle y bo’n berthnasol. Y nod yw ‘adrodd y stori’ yn yr allbwn, heb i’r bwletin neu’r adroddiad fod yn rhy hir.

Ein nod yw defnyddio iaith ddealladwy yn ein hallbynnau ac mae’r holl allbynnau’n cadw at bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Ar ben hynny, caiff ein holl benawdau eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Rydym yn adolygu ein hallbynnau gan gymheiriaid yn rheolaidd yn fewnol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ystadegau drwy gysylltu â’r staff perthnasol a nodir ar y cyhoeddiad neu drwy ystadegau.tai@llyw.cymru

Mae set lawn o ddata, gan gynnwys gwybodaeth gan awdurdodau lleol unigol ac LCC yn ôl i 2007-08 ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan ryngweithiol StatsCymru.

Cyffelybrwydd

Y graddau lle gellir cymharu data dros amser a thiriogaeth.

Cyn 2010-11, ni ymgymerwyd ag unrhyw ddilysu ‘cynlluniedig’ ac ‘arfaethedig’, felly efallai ceir ychydig o anghysondeb rhwng yr amcangyfrifon a ddarparwyd gan yr ALl a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o Gymru am y blynyddoedd 2010-11 ac felly dylid eu trin â gofal. Ar gyfer casgliadau data 2012-13 ymlaen, nid oedd angen i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig adrodd am nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a gynlluniwyd ac sydd yn yr arfaeth i’w cyflwyno yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r data ‘cynlluniedig’ ac ‘arfaethedig’ a ddengys yn y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol yn unig.

Cysondeb

Y graddau y mae data a geir o wahanol ffynonellau neu ddulliau, ond sy’n cyfeirio at yr un ffenomenon, yn debyg.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar gyfer Adeiladu Tai Newydd. Mae’r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a’r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC). Mae’n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy’n cofnodi’r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Ardaloedd daearyddol

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APC)

  • Mae APC Bannau Brycheiniog yn ehangu i ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
  • Mae APC Arfordir Sir Benfro’n ehangu i ardaloedd Sir Benfro’n unig.
  • Mae APC Eryri’n ehangu i ardaloedd Conwy a Gwynedd.

Grwpiau’r awdurdod lleol a ddefnyddir yn y siartiau a’r mapiau

Awdurdodau gwledig

  • Sir Fôn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gâr
  • Sir Fynwy

Awdurdodau dinesig

  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Casnewydd

Ystadegau cysylltiedig ar gyfer gwledydd eraill yn y DU

Ar Dachwedd 6 2019, cyhoeddodd SYG ddau adroddiad ar ystadegau tai fforddiadwy fel rhan o raglen o waith ar lefel y DU i wella ystadegau tai a chynllunio:

  1. Cymharu tai fforddiadwy un y DU (SYG) (Saesneg yn unig), erthygl yn gwneud cymariaethau ar draws y DU ynglyn âg ystadegau tai fforddiadwy
  2. Ystadegau Tai Fforddiadwy yn y DU (Gwasanaethau Ystadegol y Llywodraeth) (Saesneg yn unig), adolygiad o ddiffiniadau, terminoleg a’r posibilrwydd o harmoneiddio diffiniadau ystadegol tai fforddiadwy.

Mae’r adroddiadau yma yn darparu gwybodaeth drylwyr ar ddiffiniad tai fforddiadwy ym mhob gwlad, y derminoleg a ddefnyddir a chrynodeb o’r gwahaniaethau ar draws gwledydd.

Dolenni i ddatganiadau unigol y gwledydd

Lloeger

Mae Lloegr yn cyhoeddi cyhoeddiad ystadegol unigol ar dai fforddiadwy (Saesneg yn unig). Mae’r data cyhoeddedig diweddaraf yn ymdrin â 2021-22.

Yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n ymdrin â darpariaeth dan y Rhaglen Cyflenwi Tai Fforddiadwy (Saesneg yn unig).

Gogledd Iwerddon

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon a’r Adran Cymunedau yn cyhoeddi crynodeb blynyddol o ystadegau tai, sy’n cynnwys tablau data yn ymwneud â newidiadau i stoc cymdeithasol (Saesneg yn unig). 

Gwerthusiad

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw rai o’n hystadegau. Cysylltwch â ni drwy ystadegau.tai@llyw.cymru