Yr hyn yr ydym yn ei wneud i nodi unrhyw risgiau i ddiogelwch y cyhoedd o tomenni glo.
Cynnwys
Cefndir
Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd rhagor o stormydd gaeafol gyda glawiad eithafol o ganlyniad i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Arweiniodd hyn at dirlithriad ar domen lo nas defnyddir yn Tylorstown, Rhondda Cynon Taf.
Mae gennym domenni glo yma yng Nghymru o ganlyniad i’n hanes glofaol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau’n ddiogel.
Mewn ymateb i’r tirlithriad yn Tylorstown sefydlodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Dasglu Diogelwch Tomenni Glo ar y cyd. Nod y Tasglu oedd asesu statws presennol tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru.
Rhaglen waith
Mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn cyflawni rhaglen waith. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys archwilio a chynnal a chadw tomenni glo. Mae hefyd yn cynnwys datblygu polisi a deddfwriaeth newydd.
Categorïau tomenni glo
Mae tomenni glo nas defnyddir yn cael categorïau dros dro. Mae’r categorïau’n dangos pa domenni y gallai fod angen eu harolygu'n amlach er mwyn asesu draenio a sefydlogrwydd. Mae tomenni sydd wedi’u graddio’n uwch yn y categori C neu D.
Archwiliadau a gwaith cynnal a chadw
Mae llawer o waith wedi cael ei wneud ers Chwefror 2020 i nodi statws pob tomen ac i gynnal gwaith cynnal a chadw.
Mae’r Awdurdod Glo neu’r awdurdod lleol priodol yn archwilio’r tomenni sydd wedi’u graddio’n uwch. Bydd archwiliadau pellach yn cael eu cynnal yn rheolaidd, gan helpu i nodi unrhyw arwyddion bod tomen yn symud ac unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen.
Mae awdurdodau lleol yn cynnal y gwaith cynnal a chadw sy’n cael ei nodi gan yr archwiliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £44.4 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo dros flynyddoedd ariannol 2022 i 23, 2023 i 24 a 2024 i 25.
Treialon technoleg
Mae’r tîm hwn yn cadw gwybodaeth ac yn gallu cynnig cyngor am safleoedd tomenni glo hanesyddol yng Nghymru.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch Awdurdod Lleol yn uniongyrchol gyda’ch pryderon neu ymholiadau.
Beth i’w wneud os oes gennych bryderon ynghylch diogelwch tomen lo
Cysylltu â thîm diogelwch tomenni glo’r Awdurdod Glo ar y rhif rhadffôn (rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg) 0800 021 9230 neu e-bostiwch: tips@coal.gov.uk.
Mae’r tîm hwn yn cadw gwybodaeth ac yn gallu cynnig cyngor am safleoedd tomenni glo hanesyddol yng Nghymru.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch Awdurdod Lleol yn uniongyrchol gyda’ch pryderon neu ymholiadau.
Data tomenni glo
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gasglu gwybodaeth am domenni glo ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am nifer, lleoliad tomenni, eu statws a phwy sy’n berchen arnynt. Cyhoeddwyd y data dros dro hwn ar 26 Hydref 2021:
Awdurdod Lleol |
Categori D | Categori C |
Categori B |
Categori A |
Categori R* |
Cyfanswm ALl |
---|---|---|---|---|---|---|
Castell-nedd |
12 | 27 | 163 | 375 | 30 | 607 |
Rhondda Cynon |
23 | 52 | 95 | 89 | 44 | 303 |
Wrecsam |
3 | 21 | 107 | 85 | 216 | |
Caerffili |
7 | 44 | 67 | 79 | 8 | 205 |
Abertawe |
5 | 36 | 120 | 42 | 203 | |
Torfaen |
3 | 32 | 81 | 49 | 10 | 175 |
Sir Gar |
58 | 59 | 53 | 170 | ||
Blaenau Gwent |
3 | 11 | 38 | 66 | 10 | 128 |
Merthyr Tudful |
14 | 45 | 30 | 30 | 1 | 120 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
5 | 26 | 27 | 56 | 4 | 118 |
Sir y Fflint |
19 | 40 | 6 | 65 | ||
Sir Benfro |
1 | 6 | 54 | 61 | ||
Powys |
1 | 18 | 6 | 3 | 28 | |
Sir Fynwy |
2 | 10 | 7 | 8 | 27 | |
Caerdydd |
1 | 10 | 11 | 22 | ||
Ynys Môn |
2 | 6 | 8 | |||
Cyfanswm cyffredinol y categori |
71 | 256 | 678 | 1155 | 296 |
2456 |
A = Tomen fach / tomen wedi’i hadfer; B = Annhebygol o achosi risg oherwydd maint neu leoliad;
C a D = Y potensial i achosi risg. Nid yw gradd uwch yn golygu bod y domen yn risg sydd ar ddigwydd.
*R = Nawr wedi'i dynnu neu ei adeiladu drosodd
1. Nid oes gan Geredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Casnewydd na Bro Morgannwg gofnod o domenni glo nas defnyddir.
2. Mae'n bosibl y bydd y ffigurau'n newid o ganlyniad i arolygiadau parhaus ac yn dilyn datblygu system gategoreiddio newydd.
Diwygio polisïau a deddfwriaeth
Mae diogelwch tomenni glo wedi’i ddatganoli i Gymru. Y ddeddfwriaeth ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yw Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Mae hon yn dyddio’n ôl i’r adeg pan oedd y diwydiant glo yn weithredol.
Yn 2020, gofynnodd Gweinidogion Cymru i Gomisiwn y Gyfraith adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar domenni glo nas defnyddir.
Roedd yn cynnwys ymgynghoriad o fis Mehefin i fis Medi 2021. Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ganlyniadau'r ymgynghoriad a'i argymhellion ym mis Mawrth 2022.
Roedd yr adroddiad yn nodi'n glir y diffygion o ran y gyfundrefn bresennol. Roedd yn cynnig fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer tomenni nas defnyddir.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer trefn newydd ar 11 Mai 2022 yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru). Mae'r cynigion yn adeiladu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Awst 2022 a gwnaethom gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ym mis Tachwedd 2022.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb dros dro i adolygiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Medi 2022, a'i hymateb manwl ym mis Mawrth 2023. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o argymhellion Comisiwn y Gyfraith, neu eu derbyn ar ffurf wedi'u haddasu. Mae'r ymateb yn rhoi trosolwg o ddull arfaethedig Llywodraeth Cymru, a'i hymateb i bob un o'r argymhellion.
Yn amodol ar gytundeb Gweinidogion, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil ar Ddiogelwch Tomenni nas defnyddir yn nhrydedd flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth.
Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir
Os ydych yn bod gennych domen glo nas defnyddir darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir.
Darllen pellach
- Datganiad Ysgrifenedig: Ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn (Cymru) ar Ddiogelwch Tomenni Glo
- Datganiad Ysgrifenedig: Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru)
- Datganiad Llafar: Diogelwch Tomenni Glo
- Data newydd yn dangos gwir faint problem y tomennydd glo wrth i'r Prif Weinidog apelio am gyllid newydd (26 Hydref 2021)
- Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf am ddiogelwch tomenni glo (11 Hydref 2021)
- Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf am ddiogelwch tomenni glo (11 Chwefror 2021)
- Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn galw ynghyd uwch-gynhadledd ar ddiogelwch tomenni glo (23 Rhagfyr 2020)
- Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart yn cadeirio’r Uwchgynhadledd Tomenni Glo (5 Awst 2020)
- Simon Hart, yr Ysgrifennydd Gwladol, a Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cadeirio cyfarfod i drafod diogelwch tomennydd glo (25 Chwefror 2020)