Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ynghylch ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Ceir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau diweddaraf yn ein calendr o'r hyn sydd i ddod

Gwasanaeth data agored StatsCymru

Mae gwaith paratoi ar y gweill i adolygu a mireinio'r pynciau a'r categorïau a ddefnyddir i ddod o hyd i ddata ar StatsCymru a'u trefnu (a elwir yn “dacsonomeg”), gan ystyried yr adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr hyd yn hyn. Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod y tacsonomeg yn parhau i gefnogi anghenion defnyddwyr a gwella'r modd y gellir darganfod cynnwys.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio ar y map ffordd tymor hwy ar gyfer datblygu a gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth. 

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i statscymru@llyw.cymru

Yr economi a'r farchnad lafur

Yr economi

Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymwneud â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a'r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Gellir dod o hyd i eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar-lein. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 20 Hydref 2026. Rydym yn awyddus i agor aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai'n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â digwyddiadauGGD@llyw.cymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddiweddariad sy'n amlinellu newidiadau methodolegol diweddar a roddwyd ar waith i gynhyrchu amcangyfrifon prisiau cyfredol o gynnyrch domestig gros (CDG) rhanbarthol wedi'u haddasu'n dymhorol. Mae angen rhagor o waith i fireinio'r dulliau hyn ac i gwblhau dulliau ar gyfer mesuriadau cyfaint cadwynog i ganiatáu amcangyfrifon mewn termau real. Mae'r SYG yn bwriadu darparu diweddariadau chwemisol cyn adfer y cyhoeddiad chwarterol hwn yn llawn. Mae’r datganiadau CDG rhanbarthol chwarterol blaenorol wedi defnyddio mesuriadau cyfaint cadwynog.

Hyd at fis Gorffennaf 2026, fe wnaethom barhau i gyhoeddi ein dangosyddion allbwn tymor byr. Fodd bynnag, gan fod hyn yn gysyniadol debyg i CDG rhanbarthol chwarterol, Dangosyddion allbwn tymor byr: Ionawr i Mawrth 2026 oedd ein cyhoeddiad olaf yn y gyfres hon. Ar ddechrau mis Awst, gwnaethom gyhoeddi Cynnyrch Domestig Gros Rhanbarthol (prisiau cyfredol): Gorffennaf i Medi 2025 sef y cyhoeddiad cyntaf chwemisol tra bod y SYG yn gweithio ar adfer y cyhoeddiad chwarterol yn llawn. Ar gyfer defnyddwyr dangosyddion allbwn tymor byr, byddem yn cynghori defnyddio CDG rhanbarthol i fesur newidiadau tymor byr yn economi Cymru.

Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi Busnesau sy'n arloesi weithredol: 2022 i 2024, ac ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi gwariant gros ymchwil a datblygu: 2024. Ym mis Medi, byddwn yn cyhoeddi ein dogfen Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2024.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.economi@llyw.cymru

Y farchnad lafur

Mae'r SYG wedi nodi bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau'r farchnad lafur sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu eu labelu'n ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach. Rydym yn parhau i argymell y dylai defnyddwyr ystyried amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ochr yn ochr â ffynonellau data eraill y farchnad lafur. 

Mae'r diweddariadau diweddaraf gan y SYG ynghylch ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu a'r gwelliannau arfaethedig ar gyfer ystadegau economaidd (SYG), a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2026, yn cynnwys gwybodaeth am y camau y mae’r SYG wedi'u cymryd ac yn parhau i'w cymryd i wella ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau'r farchnad lafur. Yn y diweddariad diweddaraf ar ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu, mae'r SYG yn nodi bod lefelau ymateb ac ansawdd data wedi parhau i wella ar lefel y DU ers y problemau a brofwyd yn 2023, ond maent yn dal i gynghori bod yn ofalus wrth ddehongli symudiadau tymor byr a dadansoddiadau manwl (a fydd yn cynnwys amcangyfrifon ar lefel Cymru). I gael rhagor o wybodaeth am yr ymyriadau y mae’r SYG wedi'u cyflwyno i wella ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu ac amcangyfrifon y farchnad lafur o dan yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a'n cyngor ar ddefnyddio'r ystadegau hyn ar gyfer Cymru, gweler diweddariad diweddaraf y Prif Ystadegydd: mesur y farchnad lafur yng Nghymru a ddiweddarwyd ym mis Ebrill 2026.

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol ar drosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau ynghyd ynghylch y farchnad lafur. Rydym yn argymell y dylai data'r Arolwg o'r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â'r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o'r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru. 

Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ystadegau Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026 sy'n cyflwyno gwybodaeth am bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Masnach a thablau mewnbwn allbwn

Arolwg Masnach Cymru

Mae'r dadansoddiad o Arolwg Masnach Cymru 2022 ar gael ar-lein. 

Mae gwaith paratoi ar gyfer gwaith maes i gasglu data 2025 ar y gweill ar ôl cwblhau arolwg peilot chwe wythnos ym mis Ebrill 2026. Disgwylir cynnal y gwaith maes rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2026 gyda ffeiliau data ac allbynnau terfynol i'w cyflwyno gan y contractwr ym mis Mawrth 2027. 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru

Cyhoeddwyd data gan Ystadegau Masnach Rhanbarthol CThEM ar gyfer Ebrill 2025 i Mawrth 2026 ar 11 Mehefin 2026, a disgwylir i ddata'r chwarter nesaf gael eu cyhoeddi ar 17 Medi 2026. Gall defnyddwyr barhau i gael mynediad at y data mwyaf cywir ac amserol (sy'n ymgorffori'r holl ddiwygiadau) drwy'r prif ystadegau chwarterol a'n dangosfwrdd rhyngweithiol.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn allbwn

Cyhoeddwyd Tablau Cyflenwi a Defnydd 2022 a'r Tablau Mewnbwn-Allbwn ar 23 Gorffennaf. Mae'r ystadegau hyn yn rhoi darlun manwl o lif nwyddau a gwasanaethau rhwng diwydiannau Cymru, aelwydydd, y llywodraeth, gweddill y DU a gweddill y byd.

Ochr yn ochr â'r tablau, gwnaethom gyhoeddi lluosyddion economaidd dangosol ar gyfer 2022 (StatsCymru). Gellir defnyddio'r lluosyddion hyn i amcangyfrif effeithiau economaidd ehangach newidiadau yn y galw am allbwn diwydiannau penodol ar Gymru, yn amodol ar nifer o ragdybiaethau pwysig.

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn ac rydym yn hapus i gynghori defnyddwyr ar sut i ddehongli a defnyddio'r tablau a'r lluosyddion.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: TablauMewnbwnAllbwn@llyw.cymru

Addysg

Ysgolion

Datganiadau ystadegol cyhoeddedig

Cyhoeddwyd y cyhoeddiad misol olaf o bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ar 4 Awst. Bydd y cyhoeddiad hwn yn ailddechrau ym mis Medi 2026 ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyhoeddwyd canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2026 ar 5 Awst.

Cyhoeddwyd Disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2025 i Awst 2026 ar 13 Awst.

Datganiadau ystadegol i ddod

Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2025 i Awst 2026 - ar 29 Medi 2026

Canlyniadau arholiadau: Medi 2025 i Awst 2026 (dros dro) - ar 6 Hydref 2026

Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2024 i Awst 2025 - ar 3 Tachwedd 2026

Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2025 i Awst 2026 - ar 24 Tachwedd 2026

Canlyniadau arholiadau: Medi 2025 i Awst 2026 (terfynol) - ar 3 Rhagfyr 2026

Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolionMedi 2025 i Awst 2026 - ar 8 Rhagfyr 2026

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Gweithlu ysgolion

Cafodd yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael o ganlyniadau'r Cyfrifiad o'r Gweithlu Ysgolion ar gyfer mis Tachwedd 2025 eu cyhoeddi ar 14 Gorffennaf 2026.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ddata'r gweithlu ysgolion, gallwch gysylltu â ni yn educationworkforcedata@llyw.cymru

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiadau misol ar Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) a ddyfarnwyd yng Nghymru a chymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch.

Er mwyn rhoi adborth, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Tai

Gwella Casglu Data ar Ddigartrefedd yng Nghymru

Ar hyn o bryd, caiff data ar ddigartrefedd yng Nghymru eu casglu drwy ddatganiadau cyfanredol gan awdurdodau lleol, sy'n rhoi gwybodaeth am aelwydydd sy'n gwneud cais am gymorth tai a chanlyniadau'r ceisiadau hynny. Mae gwaith yn parhau i drosglwyddo i ddull casglu data newydd a fydd yn cofnodi data ar ymgeiswyr digartrefedd ar lefel unigol. Credwn y bydd y newid hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ddigartrefedd yng Nghymru yn sylweddol ac y bydd, yn y pen draw, yn cefnogi ymdrechion i wella canlyniadau i unigolion sy'n agored i niwed.

Ar ôl cwblhau cynllun peilot data a gynhaliwyd ar ddiwedd 2025 gyda detholiad bach o awdurdodau lleol, cytunwyd na fyddai'r casgliad data newydd yn 'mynd yn fyw' yn llawn ar y dyddiad lansio gwreiddiol ym mis Ebrill 2026. Yn lle hynny, byddwn yn parhau i dreialu'r casgliad newydd mewn camau graddol rhwng mis Ebrill 2026 a mis Ebrill 2027. Bydd hyn yn rhoi amser i wella ansawdd data, cwblhau gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), a datblygu systemau ymhellach. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae arolwg yn cael ei gynnal a fydd yn ein helpu i asesu parodrwydd awdurdodau lleol i ddarparu'r isafswm set ddata ar gyfer y casgliad newydd ar lefel unigol o fis Ebrill 2027 ymlaen. Bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio i helpu i symud ymlaen i weithredu'r casgliad data newydd. 

Rhyddhau offeryn asesiad o’r farchnad dai leol wedi'i ddiweddaru

Diweddarwyd yr Offeryn Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) i Fersiwn 4.0 ym mis Awst 2026, gan ymgorffori'r amcanestyniadau aelwydydd is-genedlaethol diweddaraf yn 2022 a data prisiau tai wedi'i ddiweddaru'r Gofrestrfa Tir ar gyfer 2023 i 2025. Mae'r diweddariad yn cynnwys gwelliannau i ddefnyddioldeb, llywio a chanllawiau, ochr yn ochr â gwelliannau methodolegol a thablau adrodd newydd. Mae'r canllawiau cysylltiedig wedi'u diweddaru i gynnwys gwybodaeth am lety dros dro ac anghenion llety person sengl.

Adolygiad o'r amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai

Mae'r diwygiad yn diweddaru'r amcangyfrifon amrywiolion is ac uwch o anghenion tai newydd yn dilyn yr amrywiolion amcanestyniad is ac uwch diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2026. Mae'r amcangyfrif canolog a'r angen presennol heb eu diwallu yn aros yn ddigyfnewid, ac nid yw prif negeseuon y cyhoeddiad yn cael eu heffeithio. 

Mae amcanestyniadau poblogaeth diweddar yn seiliedig ar 2024 ac amcangyfrifon poblogaeth 2025 yn awgrymu twf poblogaeth is nag a ragwelwyd yn flaenorol, sy'n golygu bod yr amcangyfrifon anghenion tai cyhoeddedig yn debygol o fod tuag at ben uchaf yr ystod. Bydd amcangyfrifon wedi'u diweddaru yn cael eu cynhyrchu unwaith y bydd amcanestyniadau aelwydydd newydd ar gael. Mae'r cyhoeddiad diwygiedig hefyd yn cynnwys amrywiad mudo 10 mlynedd i ddarparu pwynt cymharu ychwanegol i ddefnyddwyr.

Gwella stoc tai cymdeithasol a chasglu data rhent

Rydym yn chwilio am adborth defnyddwyr ar sut mae'r data hwn yn cael ei ddefnyddio a pha welliannau yr hoffai defnyddwyr eu gweld mewn iteriadau o'r datganiad gwella stoc tai cymdeithasol a chasglu data rhent yn y dyfodol. Rydym yn chwilio am adborth nawr fel y gellir gweithredu'r newidiadau hyn trwy'r broses casglu data yn barod ar gyfer y casgliad blynyddol nesaf. I roi adborth ar y datganiad hwn a pha welliannau yr hoffech eu awgrymu, anfonwch e-bost at ystadegau.tai@llyw.cymru.

Cyhoeddiadau tai

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mawrth 2026 (cyhoeddwyd 28 Mai 2026)

Amcangyfrifon o'r stoc anheddau: fel yr oedd ar 31 Mawrth 2025 (cyhoeddwyd 4 Mehefin 2026)

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Ebrill 2026 (cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026)

Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026 (cyhoeddwyd 7 Gorffennaf 2026)

Digartrefedd: Ebrill 2025 i Fawrth 2026 (cyhoeddwyd 22 Gorffennaf 2026)

Stoc dai a rhenti landlordiaid cymdeithasol: ar 31 Mawrth 2026 (cyhoeddwyd 30 Gorffennaf 2026)

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mai 2026 (cyhoeddwyd 30 Gorffennaf 2026)

Adeiladu tai newydd: Ebrill 2025 i Mawrth 2026 (cyhoeddwyd 9 Gorffennaf 2026)

Amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai: seiliedig ar 2025 (diwygiad, cyhoeddwyd 5 Awst 2026)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.tai@llyw.cymru

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Ystadegau ysbytai

Y chwarter hwn, gwnaethom ddiweddaru’r crynodeb misol o weithgarwch a pherfformiad y GIG a'n hystadegau chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol.

Iechyd meddwl

Y chwarter hwn gwnaethom gyhoeddi diweddariadau i ystadegau iechyd meddwl chwarterol yn ymwneud â nifer y bobl a gadwyd o dan adran 135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd MeddwlMesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Gofal sylfaenol, y gweithlu ac iechyd cymunedol

Y chwarter hwn fe wnaethom gyhoeddi diweddariadau i ystadegau gofal sylfaenol gan gynnwys ar weithlu practisau cyffredinolgweithlu'r GIG, gwasanaethau deintyddol y GIGphresgripsiynau. Fe wnaethom ohirio cyhoeddi ystadegau gweithgarwch practisau cyffredinol, a oedd i fod i gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, wrth i ni nodi problemau yn y data sylfaenol yn dilyn symud systemau rheoli apwyntiadau ymarfer cyffredinol i un cyflenwr. 

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi diweddariadau i ystadegau iechyd cymunedol ar famolaeth a genedigaethaubwydo ar y fronrhaglen Plant Iach Cymru

Ystadegau gwasanaethau cymdeithasol

Fe wnaethom gyhoeddi diweddariadau i oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth, plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol a chapasiti a galw gwasanaethau cymdeithasol (StatsCymru).

Ystadegau iechyd eraill

Y chwarter hwn, cafodd amryw o ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol eu diweddaru’n rheolaidd hefyd, gan gynnwys mesurau gofal llygaid a gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan ystadegau ac ymchwil ac mae data manylach ar gael yn adran iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru

I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwahaniaethu yn y gweithle

Ar 1 Gorffennaf gwnaethom gyhoeddi’r bwletin ystadegol ar wahaniaethu yn y gweithle. Mae'r bwletin hwn yn edrych ar ba mor debygol oedd hi bod oedolion yng Nghymru wedi wynebu gwahaniaethu ar sail oedran, bwlio neu wahaniaethu yn y gweithle, yn ogystal â pha briodoleddau oedd yn gysylltiedig â chael y profiadau hyn.

Smygu ac yfed alcohol

Ar 27 Awst gwnaethom gyhoeddi’r bwletin ystadegol smygu ac yfed alcohol. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â thueddiadau bod oedolion yn smygu mwy, yn defnyddio mwy o e-sigaréts, ac yn yfed mwy o alcohol nag a argymhellir gan ganllawiau'r GIG yng Nghymru. Mae hefyd yn archwilio priodoleddau oedolion yng Nghymru sy'n fwy neu'n llai tebygol o smygu ac yfed mwy o alcohol nag a argymhellir. 

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i arolygon@llyw.cymru

Cyfiawnder cymdeithasol

Tlodi a chostau byw

Ar gyfer tlodi incwm cymharol, ni chyhoeddwyd diweddariad haf arfaethedig yr Adran Gwaith a Phensiynau i'r data gweinyddol ar gyfer 2018/19, 2019/20 a 2020/21, fel y nodwyd yn ein blog mis Mawrth 2026.

Nododd yr Adran Gwaith a Phensiynau broblem gyda data yn ystod proses sicrhau ansawdd terfynol y diweddariad ôl-gyfres a bydd angen datrys hyn cyn y gellir rhyddhau'r data. Bydd y diwygiadau nawr yn cael eu cyhoeddi yn y datganiad Mawrth 2027 ynghyd â datganiad 2025/26 - mae hyn yn golygu y bydd un set o ddiwygiadau ar gyfer y blynyddoedd hynny. 

Yn ogystal, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi nodi gwall gyda'r newidyn Treth Gyngor 2024/25 a ddefnyddiwyd yng nghyhoeddiad a set ddata tlodi Mawrth 2026. Bydd y cywiriad i'r newidyn treth gyngor ar gyfer 2024/25 hefyd yn cael ei wneud fel rhan o ddatganiad Mawrth 2027, ochr yn ochr â newidiadau eraill a amlinellir yn Strategaeth Rhyddhau yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys cynhyrchu un ôl-gyfres ddiwygiedig o amcangyfrifon gan ddefnyddio data poblogaeth yn seiliedig ar y Cyfrifiad ar gyfer pob blwyddyn yn ôl i 2012 i 2013. 

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi rhai tablau newydd MALlC StatsCymru, gan gynnwys data dangosyddion yn ôl degraddau MALlC, yn ôl dosbarthiad trefol gwledig ac yn ôl Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol (MSOA). 

Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi dadansoddiad o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru gan ddefnyddio MALlC 2025

Mae ein rhestr cyhoeddiadau yn catalogio popeth rydym wedi'i gyhoeddi a'r hyn sydd i ddod.

Trafnidiaeth

Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyhoeddi ein datganiad Traffig ffyrdd: 2025. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu: Ionawr i Mawrth 2026 (dros dro) ym mis Gorffennaf a diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap. Fel rhan o'r cyhoeddiad hwn, gwnaethom hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu systemau adrodd seiliedig ar anafiadau (IBRS) gan heddluoedd yng Nghymru a chyhoeddi data anafiadau wedi'u haddasu yn ôl difrifoldeb fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu am y tro cyntaf. Er mwyn cynorthwyo defnyddwyr gyda'r hyn y mae'r newid hwn yn ei olygu, fe wnaethom gyhoeddi diweddariad y Prif ystadegydd: newidiadau sydd ar ddod i wrthdrawiadau ffyrdd ac ystadegau anafiadau sy'n esbonio'r newidiadau hyn, eu heffeithiau a'r addasiadau sydd eu hangen i ddata difrifoldeb. Rydym hefyd wedi diweddaru ein hadroddiad ansawdd: gwrthdrawiadau ffyrdd ac anafiadau a gofnodwyd gan yr Heddlu. 

Ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi datganiad Hyd a chyflwr ffyrdd: Ebrill 2025 i Mawrth 2026.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru 

Y Gymraeg

Cyhoeddwyd Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Ebrill 2025 i Mawrth 2026 ar 22 Gorffennaf. Fe wnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: y Gymraeg).

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer ansawdd aer (StatsCymru) ar 2 Gorffennaf 2026 ac maent yn cyfeirio at flwyddyn galendr 2024. Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru

Cyllid llywodraeth leol

Poblogaeth a demograffeg

I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau ystadegol cyffredinol

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru 

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Pynciau penodol

Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau

X

@YstadegauCymru

Gwasanaeth hysbysiadau a newyddlenni e-bost Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost: gweinydduGGD@llyw.cymru