Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau a’n canllawiau Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion cyswllt prynwyr ac asiantau

Cafodd maes newydd ei ychwanegu i’r ffurflen TTT yn 2023 ar gyfer cyfeiriad e-bost y prynwr. Mae e-bost a rhif ffôn y prynwr bellach yn orfodol.

Rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o brynwyr fod â chyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Gwnewch yn siŵr fod y wybodaeth hon yn cael ei chofnodi'n gywir ar gyfer pob prynwr ar y ffurflen dreth.

Er ei fod yn anhebygol, os nad oes ganddyn nhw un, dilynwch y Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen TTT: adran ynglŷn â’r prynwyr.

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â’r ffurflen, mae yna hefyd feysydd dewisol ar gyfer manylion cyswllt (enw, ffôn, ac e-bost) yr asiant.

Pan fyddwn yn derbyn ffurflen, dydy hi ddim bob amser yn glir gyda phwy y mae angen i ni siarad. 

Mae'r wybodaeth hon yn sicrhau: 

  • bod ein data'n gywir, er mwyn i ni allu cysylltu â'r person cywir 
  • y gallwn ni ddatrys ymholiadau'n gyflym ac osgoi eu dwysáu, fel codi cosbau a llog ar y trethdalwr

Dynodwyr unigryw prynwyr ar gyfer ffurflenni TTT

Wrth gwblhau'r adran 'Ynglŷn â'r prynwr', gwnewch yn siŵr fod y dynodwr unigryw yn gywir ac yn y fformat cywir ar gyfer pob prynwr.

Ar gyfer prynwyr sy'n unigolion, defnyddiwch eu rhif Yswiriant Gwladol fel y dynodwr unigryw. Mae’r rhain yn 2 lythyren, 6 rhif a llythyren, heb unrhyw fylchau.

Os nad oes ganddyn nhw rif Yswiriant Gwladol, defnyddiwch un o'r canlynol:

  • rhif pasport, 9 rhif yn unig
  • rhif trwydded yrru, 18 nod

Ar gyfer cwmnïau, defnyddiwch rif cofrestru'r cwmni os yw ar gael. Mae’r rhain naill ai'n 8 rhif yn unig neu’n 2 lythyren ac yna 6 rhif.

Os yw unrhyw ran o'r wybodaeth hon yn anghywir, byddwn yn cysylltu â chi i'w gywiro. Gall hefyd ohirio'r broses os nad yw'r wybodaeth yn gywir y tro cyntaf.

Llythyr atgoffa am daliad cyn y dyddiad y mae’n ddyledus

Rydym am eich helpu chi a'ch cleientiaid i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn.

Rydych chi wedi dweud wrthym fod ein hymgysylltiad cynnar cyn y dyddiad y mae’r dreth yn ddyledus yn amhrisiadwy. Rydym yn falch o gyflwyno llythyr atgoffa a anfonir atoch chi a'ch cleientiaid ychydig cyn y dyddiad y mae’r dreth yn ddyledus.

Mae hyn yn cyd-fynd â'n dull o wneud pethau’n haws i drethdalwyr. Ac mae’n annog talu’n brydlon er mwyn osgoi llog a chosbau am dalu’n hwyr. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i'r cyfeiriad gohebiaeth a roddir ar y ffurflen dreth fod yn gywir.

Ffeilio ar gyfer eiddo ger ffin Cymru a Lloegr

Mae TTT yn berthnasol yng Nghymru, ac rydym yn casglu ac yn rheoli'r dreth i Lywodraeth Cymru. 

Weithiau, mae ffurflen dreth ar gyfer eiddo sy'n agos at y ffin yn cael ei ffeilio gyda CThEF, pan ddylid ei ffeilio gyda ni, neu i'r gwrthwyneb.

Pan ddylid rhoi gwybod i ni am drafodiad, gall unrhyw oedi arwain at gosbau a llog. Mae'n bwysig gwirio'r lleoliad a ffeilio'r ffurflen dreth gyda'r awdurdod cywir. 

Ffordd hawdd o wirio a yw eiddo yng Nghymru yw defnyddio ein gwiriwr cod post ar gyfer TTT.

Offer defnyddiol 

Mae gennym wahanol offer i helpu gyda TTT. Rydym yn eich annog i'w defnyddio a rhoi eich adborth a'ch syniadau i ni i'w datblygu. 

Cyfrifiannell y Dreth Trafodiadau Tir

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i'ch helpu i gyfrifo faint o dreth y gallai fod angen i chi ei thalu os ydych yn prynu eiddo neu dir yng Nghymru. 

Gwirio a yw cod post yng Nghymru 

Defnyddiwch y gwiriwr hwn i weld a yw'r cod post yn perthyn i dir neu eiddo yng Nghymru ar gyfer TTT. 

Cyfrifiannel Treth Trafodiadau Tir gyda rhyddhad anheddau lluosog

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i helpu i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau os ydych yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR). 

Gwiriwr Treth Trafodiadau Tir Cyfradd Uwch 

Defnyddiwch yr offeryn hwn i wirio a yw'r gyfradd uwch o TTT yn berthnasol i drafodiad. 

Mae angen eich help arnom

Rydym yn cynnal ymchwil i ddefnyddwyr am ein ffurflen gysylltu ar-lein. Byddem yn ddiolchgar pe gallech chi gwblhau ein harolwg ffurflen gysylltu ar-lein.

Mae hwn yn gyfle i chi roi eich barn er mwyn gwneud ein gwasanaethau mor hawdd i’w defnyddio â phosibl. Rydym yn gwerthfawrogi eich help. Diolch am gymryd rhan.

Hawlio ad-daliad TTT

Mae ein canllawiau ar sut i hawlio ad-daliad TTT wedi'u diweddaru'n ddiweddar. Mae’n gallu cymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i brosesu ad-daliadau. Gall gymryd mwy o amser os:

  • oes angen mwy o wybodaeth arnom, neu
  • os yw ad-daliad wedi'i hawlio fwy na 12 mis ar ôl prynu eiddo

Mae'r canllawiau diweddaraf yn rhoi mwy o wybodaeth am y prosesau ad-dalu. Yn enwedig pan nad yw'r ad-daliad yn edrych yn iawn.

Os yw trethdalwr yn derbyn ad-daliad nad oedd ganddo hawl iddo, rhaid iddyn nhw dalu'r dreth yn ôl gydag unrhyw log sy'n ddyledus a gellir codi cosbau arnyn nhw hefyd. Yn yr achos hwn, cyfeiriwch at y canllawiau technegol pellach ar gosbau.