Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn sy'n dwyn ynghyd y dystiolaeth orau sydd gennym ynglŷn â llesiant pobl yng Nghymru ac yn cynnig cipolwg pwysig ar y meysydd lle mae cynnydd wedi'i wneud, yn ogystal â lle mae angen gweithredu pellach. Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau'n dangos arwyddion calonogol o welliant ar draws sawl maes allweddol, gan hefyd danlinellu pwysigrwydd ffocws parhaus ac ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â heriau sy'n parhau a rhai sy'n dod i'r amlwg.

Rwy'n falch o nodi rhai canlyniadau cadarnhaol clir.  Mae cyflawniadau addysgol ymhlith dysgwyr sy'n oedolion yn parhau i gryfhau, gyda chyfraddau llwyddiant uwch ar draws dysgu oedolion, cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau. Yn ogystal, mae cyfran yr oedolion anabl mewn cyflogaeth wedi cyrraedd ei lefel uchaf yn y pum mlynedd diwethaf, gan adlewyrchu cynnydd tuag at fwy o gynhwysiant a chyfleoedd yn y farchnad lafur. Mae'r gwelliannau hyn yn rhai arwyddocaol ac yn dangos gwerth buddsoddi parhaus, gweithio mewn partneriaeth a dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle mae safonau wedi'u cynnal, gan gynnwys parhau i gydymffurfio'n llawn â Safonau Ansawdd Tai Cymru ar draws y stoc tai cymdeithasol. Mae hyn yn sylfaen gref a chyson ar gyfer llesiant, pobl ac yn dangos pwysigrwydd ymrwymiad hirdymor i ansawdd a diogelwch mewn amodau byw. Yn yr un modd, mae lefelau cyflogaeth ymhlith pobl 50 oed a hŷn, a sefydlogrwydd o ran lefelau cymwysterau cyffredinol ymhlith oedolion o oedran gweithio, yn adlewyrchu gwydnwch mewn rhannau o'r system gymdeithasol ac economaidd.

Ar yr un pryd, mae'r adroddiad yn nodi meysydd pryder sy'n gofyn am sylw parhaus. Yn benodol, mae'r niferoedd cynyddol o blant ac oedolion sy'n cael eu hatgyfeirio oherwydd pryderon diogelu, ynghyd â chynnydd yn yr achosion o gam-drin domestig a rhywiol yr adroddir amdanynt, yn tanlinellu'r angen parhaus am atal, amddiffyn ac ymyrraeth gynnar effeithiol. Mae'r tueddiadau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd trefniadau diogelu cryf a chydweithrediad amlasiantaethol i gefnogi'r rhai sy'n wynebu risg.

Mae'r adroddiad hwn wedi'i siapio hefyd gan newidiadau yn y trefniadau casglu data cenedlaethol. Sefydlwyd y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ddeng mlynedd yn ôl, ac mae rhai casgliadau data wedi esblygu neu wedi dod i ben dros dro neu'n gyfan gwbl. Yn ogystal, nid oedd peth o'r data ar gael adeg drafftio'r adroddiad, neu nid oes modd ei gymharu'n uniongyrchol â data'r blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau methodolegol. O ganlyniad, ni ellid diweddaru pob adran yn llawn eleni. Yn yr achosion hynny, gwneir ymdrech mewn adroddiadau yn y dyfodol i adlewyrchu ffynonellau data newydd neu ffynonellau wedi'u hadfer, wrth iddynt ddod ar gael.

Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae'r dystiolaeth a gyflwynir yma yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau byw pobl ac effeithiolrwydd systemau a gwasanaethau cyfredol. Mae'n cadarnhau bod cynnydd yn cael ei wneud mewn meysydd pwysig, ac yn nodi'n glir ble mae angen gwella pellach. Bydd yr adroddiad hwn yn parhau i lywio'r gwaith o ddysgu, datblygu polisïau a chynllunio, gan gefnogi ein huchelgais a rennir i wella llesiant, lleihau anghydraddoldeb a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael eu cefnogi i fyw bywydau diogel, boddhaus ac annibynnol.

Crynodeb gweithredol

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r data sydd ar gael inni am lesiant pobl. Nodir rhai canlyniadau cadarnhaol amlwg yn yr adroddiad. Er enghraifft, bu gwelliannau mewn canlyniadau addysgol i ddysgwyr sy'n oedolion ac mewn cyflogaeth i oedolion anabl. Yn bwysig hefyd, mae'r adroddiad yn nodi meysydd y mae angen eu gwella o hyd, er enghraifft mynd i'r afael â'r nifer cynyddol o oedolion a phlant sy'n cael eu hatgyfeirio oherwydd pryderon diogelu. 

Mae rhai casgliadau data wedi newid dros amser; sefydlwyd y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol 10 mlynedd yn ôl. Hefyd, nid oedd peth o'r data ar gyfer yr adroddiad eleni ar gael adeg drafftio'r adroddiad, neu mae'n bosibl na fydd modd cymharu data â data'r blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau mewn methodoleg casglu. Yn ogystal, mae rhai casgliadau wedi dod i ben yn gyfan gwbl, felly mae'r dangosyddion cysylltiedig wedi dod i ben. O ganlyniad, mae rhai adrannau a dangosyddion heb eu diweddaru yn yr adroddiad hwn. 

Sicrhau hawliau a hawlogaethau

Nid oedd llawer o'r data y mae ei angen ar gyfer yr adran hon ar gael ar gyfer yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, roedd data ar gael ynghylch canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gwasanaethau lles teuluol a gweithgareddau i blant, a oedd wedi gostwng o 9 y cant i 6 y cant rhwng 2023 a 2025. Hefyd, roedd data ar gael ar gyfer canran yr oedolion sy'n cael gofal a chymorth a oedd yn cael taliad uniongyrchol yn 2023 i 2024, ac roedd hwn wedi cynyddu i 12.8 y cant o 11.1 y cant yn 2021 i 2022. 

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol

Nid oedd data ar gael o Arolwg Cenedlaethol Cymru na'r cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth ar gyfer y flwyddyn adrodd hon. Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

Amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Bu cynnydd mewn achosion a throseddau cam-drin domestig a cham-drin rhywiol yng Nghymru. Cynyddodd cam-drin domestig 1.5 canran yn 2023 i 2024 a chynyddodd cam-drin rhywiol 12 y cant yn 2024 i 2025. 

Yn ogystal, mae cyfran y plant yng Nghymru sy'n cael eu hailgofrestru ar gofrestrau amddiffyn plant awdurdodau lleol wedi cynyddu 0.6 pwynt canran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bu cynnydd hefyd yn nifer yr oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r un categorïau a gwahanol gategorïau o gamdriniaeth.

Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden

Ar draws yr holl ddangosyddion dysgu oedolion, mae'r cyfraddau llwyddiant wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf; roedd cyfradd uwch o gyflawni’n llwyddiannus ym maes dysgu oedolion, cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau. 

Yn ogystal, mae canran y bobl economaidd weithgar rhwng 16 a 64 oed sydd ag o leiaf un cymhwyster wedi aros yn sefydlog ar ychydig uwchlaw 91 y cant. Fodd bynnag, cwblhaodd llai na hanner (41 y cant) y rhai sy'n gadael gofal o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn ystod y flwyddynr.

Perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol

Nid oedd data ar gael o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer y flwyddyn adrodd hon. Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

Y cyfraniad a wneir at gymdeithas

Yn yr un modd, nid oedd data'r Arolwg Cenedlaethol ar gael ar gyfer dau o'r pedwar dangosydd yn yr adran hon. Fodd bynnag, mae'r data sydd ar gael yn dangos y bu gostyngiad yng nghyfran y mudiadau gwirfoddol a oedd yn ymwneud â gweithgareddau cymunedol, gweithgareddau ieuenctid a gweithgareddau plant a theuluoedd rhwng 2023 a 2025. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gostyngodd canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau cymunedol o 22 i 15 y cant, gostyngodd y ganran sy'n cynnig cymorth i bobl anabl o 3 i 2 y cant a gostyngodd y ganran sy'n cynnig gweithgareddau ieuenctid o 5 i 3 y cant. 

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

Mae cyfradd cyflogaeth oedolion 50 oed a hŷn wedi aros rhwng 37 a 39 y cant ers 2020. Yn yr un modd, mae cyfran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi aros rhwng 15 a 17 y cant. 

Fodd bynnag, eleni rydym wedi gweld y ganran uchaf o bobl rhwng 16 a 64 oed, sydd ag anabledd craidd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, mewn cyflogaeth nag yn y pum mlynedd diwethaf, sef ychydig o dan 30 y cant. 

Addasrwydd llety preswyl

Roedd yr holl stoc tai cymdeithasol yng Nghymru yn cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys methiannau derbyniol, sy'n gyflawniad sydd wedi'i gynnal ers y llynedd. Yn ogystal, mae cyfran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth tai wedi aros yr un fath ers 2023, ar 1 y cant.

Cyflwyniad

Y cefndir

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei huchelgeisiau ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol: Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Roedd hwn yn:

  • amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer datblygu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yng Nghymru
  • llunio fframwaith ar gyfer ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y degawd nesaf
  • Darparu system sy'n canolbwyntio ar lesiant:
    • pobl sy’n cael gofal a/neu gymorth
    • gofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth (er enghraifft, seibiannau byr neu seibiant)

Ategir Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru gan ddeddfwriaeth. Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)  (‘y Ddeddf’) i rym ym mis Ebrill 2016.

Mae Rheoliadau, Codau Ymarfer a Chanllawiau Statudol yn ategu'r Ddeddf. Mae gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Gweinidogion Cymru ddyletswyddau o dan y Ddeddf. Mae dyletswydd arnynt i hybu llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth.

Mae’r Ddeddf yn trawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru a’i nod yw gwella llesiant pobl. Bydd gwasanaethau gofal a chymorth ledled Cymru yn canolbwyntio ar:

  • y canlyniadau llesiant y mae pobl sydd angen gofal a chymorth eisiau eu cyflawni
  • y canlyniadau llesiant y mae gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth eisiau eu cyflawni
  • hawliau a chyfrifoldebau pobl

Mae'r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol:

  • yn disgrifio llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth
  • yn bodloni gofynion Rhan 2 o Adran 8 o'r Ddeddf
  • yn adeiladu ar y canlyniadau llesiant cenedlaethol yn y datganiad llesiant
  • yn cynnwys dangosyddion canlyniadau cenedlaethol sy'n ymwneud ag wyth agwedd ar lesiant.

Mae'r dangosyddion canlyniadau cenedlaethol yn dangos a yw'r canlyniadau llesiant cenedlaethol yn cael eu cyflawni. Maent yn rhoi mesur o lesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth.

Llywodraeth Cymru sydd wedi pennu'r dangosyddion canlyniadau cenedlaethol. Bu Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag amrywiaeth eang o randdeiliaid o bob cwr o Gymru. Mae'r rhestr lawn o ddangosyddion, eu ffynhonnell a'r data diweddaraf i'w gweld yn Atodiad A o'r adroddiad hwn.

Amcanion allweddol y fframwaith canlyniadau cenedlaethol yw:

  • Hybu llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth yng Nghymru
  • Dangos a yw gwasanaethau'n gwella canlyniadau llesiant i bobl sydd angen gofal a gymorth. Bydd yn gwneud hyn gan ddefnyddio dangosyddion cyson y gellir eu cymharu
  • Disgrifio'r canlyniadau llesiant cenedlaethol ar gyfer pobl sydd angen gofal a gymorth. Dyma'r canlyniadau y dylai pobl ddisgwyl eu cyflawni er mwyn byw bywydau bodlon.
  • Mesur a yw Cymru yn cyflawni'r nodau sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n llunio Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd , sy'n chwaer fframwaith i'r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol. Pan fo dangosyddion y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol yn gorgyffwrdd â'r rhai yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, rydym yn cyfeirio darllenwyr at Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, sef:

  • 13. canran yr oedolion (16 oed neu hŷn) sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw 
    • ddim yn ysmygu
    • bod â phwysau iach
    • bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau bob dydd
    • peidio ag yfed mwy na’r canllawiau 
    • dilyn y canllawiau gweithgarwch corfforol
  • 14. canran y genedigaethau byw, unig-anedig, sydd â phwysau geni o lai na 2500 gram
  • 18. disgwyliad oes iach adeg genedigaeth
  • 19. nifer y bobl hŷn sy'n torri eu clun
  • 44. bwlch o ran disgwyliad oes rhwng y rhai lleiaf difreintiedig a'r mwyaf difreintiedig

Yr adroddiad hwn

Mae'r dystiolaeth o adroddiadau'r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth ehangach i Gymru, sy'n cynnwys data a gasglwyd, adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol a gofynion eraill, megis Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth. Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth hon i nodi'r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella. Bydd hyn yn cynnig dealltwriaeth o effaith gofal a chymorth ar fywydau pobl.

Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys data hyd at 31 Mawrth 2025, lle bo hynny'n bosibl. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd y data mwyaf diweddar i gael ei gyhoeddi yn cael ei gynnwys.  

Ansawdd a ffynonellau data

Mae'r manylion am y ffynonellau data a ddefnyddiwyd i lunio'r adroddiad hwn, a'u hansawdd, ar gael yn yr atodiadau ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae 4 categori o bobl wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn:

  • pobl ag anghenion gofal, sydd wedi nodi eu bod yn cael gofal a chymorth.
  • pobl nad ydynt yn cael gofal a chymorth.
  • pobl sydd â chyfrifoldebau fel gofalwr di-dâl.
  • pobl nad ydynt yn ofalwyr di-dâl (y rhai nad ydynt yn ofalwyr)

Nid yw'r categorïau hyn yn gwbl ar wahân i'w gilydd. Felly, mae’n bosibl fod rhai unigolion yn cael gofal a chymorth a bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu eu hunain hefyd. Yn yr un modd, mae’n bosibl fod unigolion nad ydynt yn cael gofal a chymorth yn ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg o oedolion mewn aelwydydd preifat, felly nid yw plant o dan 16 oed wedi'u cynnwys. Nid yw oedolion sy'n breswylwyr hirdymor mewn cartrefi gofal wedi'u cynnwys ychwaith. Mae hyn yn golygu nad yw cyfran sylweddol o bobl sy'n cael gofal a chymorth wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Noder na ellir cymharu data Arolwg Cenedlaethol Cymru o 2020-21 ymlaen yn uniongyrchol â data blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau i ddull yr arolwg, o'i gynnal wyneb yn wyneb i'w gynnal dros y ffôn ac ar-lein. Roedd hyn oherwydd COVID-19. 

n ogystal, newidiodd y cwestiynau a ddefnyddiwyd i bennu pa bobl sy'n cael gofal a chymorth a gofalwyr sy'n cael cymorth. Felly, efallai na fydd modd eu cymharu. Fodd bynnag, darperir data ar gyfer 2018-19 at ddibenion cyfeirio.

Data nad yw ar gael dros dro

Oherwydd pwysau costau a'r gostyngiad mewn cyfraddau ymateb a brofwyd gan arolygon yn gyffredinol, ni fydd gwaith maes ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru 2025-26 yn mynd rhagddo. Mae gwaith wedi dechrau ar drefn a fydd yn golygu mai arolwg ar-lein fydd y prif ddull, a disgwylir y bydd hyn yn digwydd o 2026-27. Mae hyn yn golygu na fydd nifer o ddangosyddion, a restrir yn yr adran Crynodeb o'r mesurau wedi'u diweddaru, yn cael eu diweddaru yn yr adroddiad hwn ac y gallai hyn effeithio arnynt mewn Fframweithiau Canlyniadau Cenedlaethol yn y dyfodol.  

Sicrhau hawliau a hawlogaethau

Mae gan bawb hawl i gael llais a chyfle i gael ei glywed. Dylai pobl gael rheolaeth go iawn dros eu bywydau beunyddiol. Mae hawliau pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth, yn ganolog i Ddeddf 2014. Mae'r datganiad llesiant hwn yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw.

Mae'r prif ganlyniadau llesiant yn cynnwys helpu pobl i fod â rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae hefyd yn golygu helpu pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal a/neu eu cymorth.

Dangosyddion canlyniadau

  • 1. canran y bobl sy’n dweud bod y gofal a’r cymorth y maent wedi’u cael yn ardderchog neu’n dda
  • 2. canran y bobl sydd ag ansawdd bywyd gwell, diolch i gyfraniad eu gofal a chymorth
  • 3. canran y bobl sy'n teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch
  • 4. canran y bobl sy’n dweud bod y bobl a roddodd help, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu’n dda
  • 5. canran y bobl a gafodd yr wybodaeth neu’r cyngor cywir pan oedd arnynt ei angen
  • 6. canran y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu rheoli eu bywyd beunyddiol gymaint ag y gallant
  • 7. canran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth
  • 8. canran y mudiadau gwirfoddol sy’n cynnig gweithgareddau plant a gweithgareddau lles i deuluoedd
  • 9. canran yr oedolion sy'n cael gofal a chymorth sy'n cael taliad uniongyrchol

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosyddion 1 i 7; nid yw'r rhain yn cael eu diweddaru yn yr adroddiad hwn.

8. Canran y mudiadau gwirfoddol sy’n cynnig gweithgareddau plant a gweithgareddau lles i deuluoedd

Mae'r trydydd sector yn ategu gwasanaethau statudol. Maent yn darparu gwasanaethau er budd pobl a chymunedau yng Nghymru.

Mae mudiadau gwirfoddol yn cynnig gweithgareddau i gefnogi lles teuluoedd a phlant. Gall y rhain gynnwys:

  • darpariaeth cyn ysgol
  • canolfannau lleol sy'n darparu gwasanaethau
  • gwasanaethau mabwysiadu a maethu
  • sefydliadau hawliau plant
  • gwasanaethau i blant anabl

Ym mis Awst 2025, roedd 6 y cant o fudiadau gwirfoddol yn ymwneud â gweithgareddau plant a theuluoedd. Mae hyn yn is na mis Gorffennaf 2023, pan oedd 9 y cant o fudiadau gwirfoddol yn ymwneud â gweithgareddau plant a theuluoedd.

Daw'r data hwn o giplun ym mis Awst 2025 ac mae'n bosibl na fydd yn adlewyrchu'r data a gedwir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ar adeg arall. 

Ffynhonnell: CGGC

9. Canran yr oedolion sy'n cael gofal a chymorth sy'n cael taliad uniongyrchol

Mae taliadau uniongyrchol yn caniatáu i bobl brynu'r gofal a cymorth sydd ei angen arnynt. I gael rhagor o wybodaeth gweler y canllaw i daliadau uniongyrchol yng Nghymru. Awdurdodau lleol sy'n darparu'r arian i oedolion sydd angen gofal a/neu gymorth. Dyma un ffordd y gall unigolion reoli'r ffyrdd mae eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu.

Mae cyfrannau'r oedolion sy'n cael taliadau uniongyrchol a ddefnyddir i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth wedi aros tua 11 y cant. Roedd yn:

  • 12.8 y cant yn 2023 i 2024 
  • 12.0 y cant yn 2022 i 2023
  • 11.1 y cant yn 2021 i 2022
  • 11.4 y cant yn 2020

Ffynhonnell: Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol

Mae angen iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da arnom i wella ein hansawdd bywyd. Mae hyn yn wir am bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant hwn yn cydnabod hyn. Mae bod yn iach ac yn egnïol yn gallu caniatáu i blant ddatblygu i'w llawn botensial. Mae'n lleihau'r tebygolrwydd y byddant angen cymorth gan wasanaethau gofal a chymorth yn ddiweddarach yn eu bywydau. I oedolion, mae mwynhau iechyd a llesiant corfforol ac emosiynol da yn gallu eu helpu i gadw eu hannibyniaeth. Mae sawl ffactor yn cyfrannu at iechyd meddwl a llesiant emosiynol. Er mwyn gwella llesiant unigolion, rhaid i wasanaethau weithio mewn modd cyfannol. Mae angen i wasanaethau weithio gyda'r unigolyn ac edrych ar ei fywyd yn ei gyfanrwydd. Drwy gydweithio, gallant helpu'r unigolyn i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddo.

Dangosyddion canlyniadau

  • 10. canran y bobl sydd â sgoriau hapusrwydd uchel
  • 11. canran y bobl sydd â sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd
  • 12. canran y bobl sydd â llesiant meddwl uchel
  • 15. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl
  • 16. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf
  • 17. canran y plant 5 oed a hŷn sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf
  • 20. canran yr oedolion sy’n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda iawn neu’n dda

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosyddion 10 i 12, na 20. Nid yw data'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth wedi'i gyhoeddi ar gyfer 2024, sy'n golygu nad oes data ar gael ar gyfer dangosyddion 15 i 17. Felly, nid yw'r adran hon wedi'i diweddaru yn yr adroddiad hwn.

Amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel a chael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cryfhau'r trefniadau diogelu presennol ar gyfer plant. Mae wedi cyflwyno dyletswydd ar asiantaethau (e.e. GIG Cymru) i roi gwybod am sefyllfaoedd pan fo risg bod oedolion yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae helpu unigolion i amddiffyn y rhai sy'n bwysig iddynt hefyd yn ganlyniad llesiant pwysig. Er enghraifft, drwy addysgu pobl i adnabod arwyddion a risgiau o gamdriniaeth ac esgeulustod.

Gall teimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus gynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn mynd allan. Byddai hyn yn golygu eu bod yn mwynhau eu cymuned leol ac yn teimlo ymdeimlad o berthyn. Mae hyn yn ei dro yn lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.

Dangosyddion canlyniadau

  • 21. canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel
  • 22. canran y plant sy’n cael eu hailgofrestru ar gofrestr amddiffyn plant awdurdod lleol
  • 23. nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig
  • 24. nifer y troseddau rhyw
  • 25. canran yr oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith y flwyddyn

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosydd 21; nid yw'r dangosydd hwn wedi'i ddiweddaru yn yr adroddiad hwn.

22. Canran y plant sy’n cael eu hailgofrestru ar gofrestr amddiffyn plant awdurdod lleol

Mae'n bwysig ein bod yn amddiffyn plant sy'n parhau i wynebu risg, er enghraifft, pan fo plentyn yn wynebu risg o broblemau diogelu dro ar ôl tro. 

Roedd 8.1 y cant o blant a gafodd eu rhoi ar gofrestrau amddiffyn plant awdurdodau lleol yn ystod 2023 i 2024 wedi cael eu cofrestru o'r blaen yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae hyn yn uwch na'r 7.5 y cant yn 2022 i 2023, y 6.2 y cant a adroddwyd yn 2021 i 2022 a'r 7.4 y cant yn 2020 i 2021.

Ffynhonnell: Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol

23. Nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig

Mae mynd i'r afael â phob math o gamdriniaeth yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)  yn ategu hyn.

Yng Nghymru roedd: 

  • 87,969 o ddigwyddiadau a throseddau cam-drin domestig yn 2023 i 2024
  • 86,637 o ddigwyddiadau a throseddau cam-drin domestig yn 2022 i 2023
  • 89,728 o ddigwyddiadau a throseddau cam-drin domestig yn 2021 i 2022

Dylid darllen data cam-drin domestig a throseddau rhywiol gyda chafeat gan ei bod yn hysbys nad yw cyfran uchel o droseddau'n cael eu hadrodd i'r heddlu, a bod newidiadau mewn ffigurau a gofnodwyd yn gallu adlewyrchu newidiadau mewn cyfraddau adrodd neu gofnodi yn hytrach na gwir nifer y digwyddiadau. Am y rhesymau hyn, mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau yn y troseddau hyn.

Ffynhonnell: Cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

24. Nifer y digwyddiadau o droseddau rhyw

Mae mynd i'r afael â phob math o drais rhywiol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ategu hyn. 

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025, cofnodwyd 10,577 o droseddau rhyw yng Nghymru. Mae hwn yn gynnydd o 12 y cant ers 2024 (9,464), a dyma'r lefel uchaf i'w chofnodi yn y pedair blynedd diwethaf. 

Ffynhonnell: Troseddu yng Nghymru a Lloegr, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

25. Canran yr oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith y flwyddyn

Bydd rhai oedolion yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol fwy nag unwaith. Gall hyn fod ar gyfer yr un categorïau neu gategorïau gwahanol o gam-drin. Mewn perthynas ag atgyfeiriadau ar gyfer yr un categori, mae ffigur is fel hyn yn dangos efallai nad oedd yr hyn a wnaed mewn ymateb i'r atgyfeiriad cychwynnol wedi bod yn effeithiol, neu fod tramgwyddwr arall. Fodd bynnag, ar gyfer gwahanol fathau o gamdriniaeth ac esgeulustod, anogir bod pobl yn cael eu riportio waeth beth fo'r math o gamdriniaeth.

Mae cyfanswm yr atgyfeiriadau o ran oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, bu amrywiad yng nghanran yr atgyfeiriadau a wnaed fwy nag unwaith. Cynyddodd cyfanswm yr atgyfeiriadau o ran oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn raddol rhwng 2020-21 a 2023-24, ac mae canran yr oedolion sy'n cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith y flwyddyn ar gyfer naill ai'r un categori neu gategori gwahanol o gam-drin neu esgeulustod wedi bod tua 32% ers 2022 i 2023. 

Yn 2023 i 2024, adroddwyd bod 18,169 o oedolion yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn ystod y flwyddyn: 

  • cafodd 15.0 y cant eu hatgyfeirio fwy nag unwaith am yr un categori o gam-drin neu esgeulustod 
  • cafodd 17.9 y cant eu hatgyfeirio fwy nag unwaith am gategori gwahanol o gam-drin neu esgeulustod

Yn 2022 i 2023, adroddwyd bod 16,162 o oedolion yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn ystod y flwyddyn: 

  • cafodd 14.7 y cant eu hatgyfeirio fwy nag unwaith am yr un categori o gam-drin neu esgeulustod 
  • cafodd 17.2 y cant eu hatgyfeirio fwy nag unwaith am gategori gwahanol o gam-drin neu esgeulustod.

Nid oedd data ar gael ar gyfer 2019 i 2020 oherwydd COVID-19.

Ffynhonnell: Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, StatsCymru

Addysg, hyfforddiant a hamdden

Mae dysgu a gwneud pethau sy'n bwysig i bobl yn ganlyniadau llesiant pwysig. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac i ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn. Mae plant angen meithrin sgiliau i'w helpu i gyflawni eu potensial addysgol. Gall hyn gynnwys mynd ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch. Fel oedolion, mae diffyg sgiliau addysgol sylfaenol yn gallu effeithio ar fywydau bob dydd pobl. Mae angen sgiliau fel darllen, ysgrifennu a rhifedd i ddeall ffurflenni a biliau.

Nid yw'r dysgu'n gyfyngedig i blant a'u haddysg. Mae dysgu a hyfforddiant i oedolion yn caniatáu i bobl ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach. Gall hyn roi ymdeimlad o annibyniaeth i bobl a gwella hyder. Gall hefyd wella gallu person i gael a chadw swydd. Mae cael incwm rheolaidd a chadw allan o dlodi yn gallu cael effaith gadarnhaol ar lesiant.

Dangosyddion canlyniadau 

  • 26. canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt 
  • 27. canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer plant sy'n derbyn gofal 
  • 28. canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer plant sy'n cael gofal a    chymorth 
  • 29. cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal 
  • 30. deilliannau dysgwyr yn y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned 
  • 31. canran yr oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag o leiaf un cymhwyster 
  • 32. canran y rhai sy'n gadael gofal sydd wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y 12 mis ers gadael gofal

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosydd 26. Nid yw data'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth wedi'i gyhoeddi ar gyfer 2024, sy'n golygu nad oes data ar gael ar gyfer dangosyddion 27 i 29.

30. Deilliannau dysgwyr yn y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned

Mae darparwyr dysgu ym mhob sector yn hollbwysig i wella safonau addysg. Mae'r dangosydd hwn yn edrych ar gyfran y dysgwyr sy'n cyflawni cymwysterau. Mae'n cynnwys addysg gyffredinol, addysg alwedigaethol, dysgu oedolion a phrentisiaethau.

Caiff y cyfraddau cyflawni ar gyfer canlyniadau galwedigaethol, prentisiaethau a dysgu oedolion eu cyfrifo gan Lywodraeth Cymru; mae nifer o ganlyniadau cyflawni cyffredinol o ran addysg. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn defnyddio canran y dysgwyr ar y pwynt 8 wythnos sy'n mynd ymlaen i gyflawni 3 neu fwy o gymwysterau Safon Uwch ar raddau A* i E, fel yr un mwyaf tebyg i gyfraddau cyflawni mewn llwybrau addysgol eraill.

Yn 2023 i 2024, llwyddodd 69 y cant o ddysgwyr i gael 3 neu fwy o gymwysterau Safon Uwch ar raddau A* i E. Mae hyn yn is na'r uchafbwynt o 75 y cant yn 2021 i 2022, ond yn uwch na chanlyniadau blynyddoedd eraill ers 2018 i 2019. 

O ran cyfraddau llwyddiant ar gyfer dysgu oedolion, dysgu galwedigaethol a phrentisiaethau: 

  • Cynyddodd y cyfraddau llwyddiant mewn dysgu oedolion o 82 y cant yn 2021-22 i 87 y cant yn 2023 i 2024. Mae hyn yn is na'r 90 y cant a welwyd yn 2018 i 2019.
  • Cynyddodd y cyfraddau llwyddiant mewn dysgu galwedigaethol o 74 y cant yn 2021 i 2022 i 80 y cant yn 2023 i 2024. Y canlyniad uchaf blaenorol oedd 80 y cant yn 2018 i 2019
  • Cynyddodd y cyfraddau llwyddiant mewn prentisiaethau o 66 y cant yn 2021 i 2022 i 74 y cant yn 2023 i2024. Mae hyn yn is na'r 81 y cant a welwyd yn 2018 i 2019

Ffynhonnell: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion

31. Canran yr oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag o leiaf un cymhwyster

Gall cymwysterau addysgol effeithio ar allu'r unigolyn i gael a chadw swydd. Mae swydd yn hybu llesiant gan ei fod yn gwella gallu'r unigolyn i gael incwm rheolaidd. 

Cafodd y fframwaith rheoleiddio sy'n cefnogi Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) ei dynnu'n ôl yn 2015 a'i ddisodli gan y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF), felly mae amcangyfrifon cymwysterau wedi'u disodli gan amcangyfrifon ar sail RQF. Mae'r data ar gyfer yr eitem hon yn cynnwys cymwysterau a ddiffinnir fel cymwysterau eraill a phrentisiaethau masnach, yn ogystal ag NVQ (cyn 2022) ac RFQ (o 2022 ymlaen).

Yn 2024, roedd gan 91.4 y cant o bobl economaidd weithgar rhwng 16 a 64 oed o leiaf un cymhwyster. Mae'r ffigur hwn wedi aros yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf gyda rhwng 91.2 a 91.4 y cant o bobl economaidd weithgar yn 2022 i 2023.

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth Blynyddol/Arolwg Llafurlu Lleol

33. Canran y rhai sy'n gadael gofal sydd wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y 12 mis ers gadael gofal

Yn 2023 i 2024, roedd 2,849 o'r bobl a adawodd ofal yng Nghymru yn bobl ifanc yng Nghategorïau 2, 3 a 4. O'r rhain, mae 41.3 y cant wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn ystod y flwyddyn. Nid oes modd cymharu'r ffigur hwn ag adroddiadau blynyddoedd blaenorol, gan fod y dull casglu data wedi newid.

Ffynhonnell: Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Stats Cymru

Perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol

Mae rhwydweithiau cymdeithasol cryf, teulu a chyfeillgarwch yn gallu lleihau ynysigrwydd cymdeithasol. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac am ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn.

Mae ymdeimlad o berthyn i gymuned yn gallu gwella hyder a hunan-werth pobl. Gall hefyd leihau teimladau o ynysigrwydd drwy ganiatáu i bobl ymwneud â'i gilydd.

Dangosyddion canlyniadau

  • 34. canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig yn gyffredinol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol
  • 35. canran y bobl sy’n meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd
  • 36. canran y bobl sy'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol
  • 37. canran y bobl sy’n teimlo bod eu hardal leol yn rhywle lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosyddion 34 i 37. Felly, nid yw'r adran hon wedi'i diweddaru yn yr adroddiad hwn.

Y cyfraniad a wneir at gymdeithas

Mae gallu ymgysylltu a gwneud cyfraniad at gymdeithas yn ganlyniadau llesiant allweddol. Mae'n bwysig bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu cymunedau ac yn y gymdeithas. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac i ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn.

Gall y canlyniadau hyn wneud i berson deimlo'n werth chweil. Gall hyn yn ei dro helpu pobl i gymryd gwell gofal o'u hiechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol. Mae ymdeimlad isel o werth yn gallu effeithio ar lesiant. Mae'n gallu effeithio ar iechyd meddwl a sut mae pobl yn ymwneud â ffrindiau a theulu.

Dangosyddion Canlyniadau

  • 38. canran y bobl sy'n dweud bod y pethau a wnânt mewn bywyd yn  werth chweil
  • 39. canran y bobl sy’n gwirfoddoli
  • 40. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau cymunedol neu ieuenctid
  • 41. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau i bobl anabl

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosydd 38 a 39; nid yw'r rhain yn cael eu diweddaru yn yr adroddiad hwn.

40. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau cymunedol neu ieuenctid

Nod mudiadau gwirfoddol yw cefnogi unigolion. Gallant gynnwys elusennau cofrestredig, cymdeithasau tai, undebau credyd, cwmnïau buddiannau cymunedol, ymddiriedolaethau a grwpiau cymunedol lleol. 

Mae gweithgareddau cymunedol yn gallu cynnwys grwpiau sy'n gweithio i adfywio cymunedau neu wella mynediad at wasanaethau. Gallant hefyd gynnwys cylchlythyrau cymunedol a rhaglenni datblygu. Mae gweithgareddau ieuenctid yn grwpiau sy'n cynnwys pobl ifanc. Gallant gynnwys canolfannau ieuenctid, clybiau, sefydliadau mewn lifrai, grwpiau chwaraeon a grwpiau diwylliannol.

Ym mis Tachwedd 2025, roedd 15 y cant o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cynnig gweithgareddau cymunedol ac roedd 3 y cant yn cynnig gweithgareddau ieuenctid. Mae hyn yn is nag ym mis Gorffennaf 2023, pan oedd 22 y cant o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cynnig gweithgareddau cymunedol a 5 y cant yn cynnig gweithgareddau ieuenctid.

Noder: daw'r data hwn o giplun ym mis Tachwedd 2025 a mis Gorffennaf 2023 ac mae'n bosibl na fydd yn adlewyrchu'r data a gedwir gan CGGC ar adeg arall.

Ffynhonnell: CGGC

41. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau i bobl anabl

Gall y sector gwirfoddol gynnig ffyrdd arloesol o ymateb i dair her sy'n wynebu gofal cymdeithasol: galw cynyddol, cyllid yn lleihau, a disgwyliadau'n newid. 

Ym mis Tachwedd 2025, roedd 2 y cant o fudiadau gwirfoddol yn cynnig gweithgareddau i bobl anabl. Mae hyn yn is nag ym mis Gorffennaf 2023, pan oedd 3 y cant o fudiadau gwirfoddol yn cynnig gweithgareddau i bobl anabl. 

Daw'r data hwn o giplun ym mis Tachwedd 2024 a mis Gorffennaf 2023, ac mae'n bosibl na fydd yn adlewyrchu'r data sydd gan CGGC ar adegau eraill.

Ffynhonnell: CGGC

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

Mae statws cymdeithasol ac economaidd pobl yn gallu effeithio ar eu llesiant. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac am ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn cydnabod hyn. 

Mae swydd sicr o safon yn hollbwysig i lesiant economaidd, corfforol a meddyliol pobl. Mae cael gwared ar rwystrau cysylltiedig â gwaith i oedolion hŷn a phobl anabl yn helpu hefyd i leihau anghydraddoldebau a gall helpu pobl i fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.

Mae cyfraddau cyflogaeth uchel yn hanfodol i godi safonau byw. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a thlodi. Gall rhai pobl wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Gall rhwystrau gynnwys problemau iechyd neu ddiffyg sgiliau. Bydd cael gwared ar rwystrau a helpu pobl i aros mewn gwaith o fudd i lesiant pobl. Byddant yn cael yr un mynediad at wasanaethau a chyfleoedd ag eraill. Bydd pobl yn gallu cyfrannu'n llawn at gymdeithas. Bydd hyn yn eu helpu i fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.

Gall amodau cymdeithasol ac economaidd ardal effeithio ar lesiant hefyd. Er enghraifft, mae plant sydd angen gofal a gymorth yn fwy tebygol o fyw yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru.

Dangosyddion Canlyniadau

  • 42. cyfradd cyflogaeth oedolion 50 oed a hŷn
  • 43. cyfradd cyflogaeth oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag anabledd craidd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio
  • 45. canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) 
  • 46. canran yr aelwydydd sy’n ddifreintiedig yn faterol

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosyddion 46; nid yw'r dangosydd hwn wedi'i ddiweddaru yn yr adroddiad hwn.

42. Cyfradd cyflogaeth oedolion 50 oed a hŷn

Mae'r cyfraddau cyflogaeth ar gyfer oedolion 50 oed a hŷn wedi aros rhwng 37 a 39 y cant ers 2020, sef: 

  • 37.5 y cant yn 2024
  • 38.0 y cant yn 2023
  • 37.8 y cant yn 2022
  • 38.3 y cant yn 2021
  • 38.9 y cant yn 2020

Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol astudiaeth i'r rhesymau pam y mae gweithwyr dros 50 oed wedi gadael cyflogaeth ers dechrau'r pandemig coronafeirws. Gwnaethant adrodd mai pobl yn profi salwch hirdymor a myfyrwyr yw'r rheswm dros y cynnydd mewn anweithgarwch economaidd. 

Yn 2022, roedd y gyfradd absenoldeb salwch ar gyfer y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor yn 4.9 y cant, ei bwynt uchaf ers 2008 pan oedd yn 5.1 y cant. Nid oedd data ar gyfer cyfraddau salwch ac absenoldeb yn 2023 wedi'i gyhoeddi adeg cwblhau'r adroddiad hwn. 

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth/Arolwg Llafurlu Lleol

43. Cyfradd cyflogaeth oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag anabledd craidd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio

Mae pobl ag anabledd craidd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn cael eu diffinio fel pobl ag anableddau sy'n bodloni'r diffiniad o ‘anabl’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Caiff ymatebwyr i'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a'r Arolwg o'r Llafurlu eu diffinio fel rhai ag ‘anabledd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio’ os ydynt yn ateb bod ganddynt salwch neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol sy'n para, neu y disgwylir iddo bara, am 12 mis neu fwy, a bod y salwch neu'r cyflwr hwn yn lleihau llawer ar eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd.

Cyfraddau cyflogaeth 2024 ar gyfer yr holl bobl 16 -64 oed a'r rhai rhwng 16 a 64 oed sydd ag anabledd craidd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio - sef 29.9 y cant - oedd yr uchaf a welwyd yn y 5 mlynedd diwethaf ac roeddent yn uwch na’r cyfraddau cyn y pandemig. Fodd bynnag, er bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer yr holl bobl 16-64 oed wedi gostwng i 72.8 y cant, roedd y cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl sydd ag anabledd craidd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio yn dal i fod yn sylweddol is na’r cyfraddau ar gyfer yr holl bobl.

Ffigur 1: Cymharu cyfraddau cyflogaeth oedolion rhwng 16 a 64 oed rhwng 2019 a 2023 rhwng pobl anabl a phob unigolyn.

Image
Siart llinell sy'n cymharu cyfraddau cyflogaeth oedolion anabl rhwng 16 a 64 oed â'r holl oedolion rhwng 16 a 64 oed, rhwng 2019 a 2024. Roedd cyfraddau cyflogaeth ar gyfer oedolion anabl yn gyson ac yn sylweddol is na’r rhai ar gyfer pob unigolyn.

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n cymharu cyfraddau cyflogaeth oedolion anabl rhwng 16 a 64 oed â'r holl oedolion rhwng 16 a 64 oed, rhwng 2019 a 2024. Roedd cyfraddau cyflogaeth ar gyfer oedolion anabl yn gyson ac yn sylweddol is na’r rhai ar gyfer pob unigolyn.

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth/Arolwg Llafurlu Lleol

45. Canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

Mae hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth yn bwysig i oedolion ifanc rhwng 19 a 24 oed. Os nad yw oedolyn ifanc mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gall hyn effeithio ar ei lesiant a'r gymdeithas yn ehangach. Gall arwain at gynnydd mewn problemau iechyd cyffredinol neu gyfraddau troseddu.

Yn 2023, roedd 15.2 y cant o bobl ifanc 19 i 24 oed yng Nghymru yn NEET (ffigur 4), sy'n uwch na 2022 ond yn is na'r 22.9 y cant a adroddwyd ddeng mlynedd yn ôl. 

Ffigur 2: Canran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) rhwng 2004 a 2022. 

Image
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos cyfran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) rhwng 2004 a 2023. Roedd y gyfradd yn sefydlog ar y cyfan rhwng 2004 a 2008, gyda thuedd ar i fyny rhwng 2009 a 2012 pan gyrhaeddodd uchafbwynt o 23.0 y cant. Gostyngodd wedyn i 14.8 y cant yn 2017 gan aros yn gymharol sefydlog eto ar rhwng14 a 17 y cant.

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos cyfran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) rhwng 2004 a 2023. Roedd y gyfradd yn sefydlog ar y cyfan rhwng 2004 a 2008, gyda thuedd ar i fyny rhwng 2009 a 2012 pan gyrhaeddodd uchafbwynt o 23.0 y cant. Gostyngodd wedyn i 14.8 y cant yn 2017 gan aros yn gymharol sefydlog eto ar rhwng14 a 17 y cant.

Ffynhonnell: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur

Addasrwydd llety preswyl

Mae byw mewn llety diogel, boddhaol a phriodol yn gallu effeithio ar lesiant. Mae hyn yn wir am bobl sy'n cael gofal a chymorth ac am ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Mae'r datganiad llesiant yn adlewyrchu hyn. 

Mae amodau byw gwael a gorboblogi yn gallu cael effaith negyddol ar lesiant. Gall arwain at lesiant corfforol a meddyliol gwael. Gall hefyd effeithio ar ddysgu a datblygiad plant.

Mae angen dulliau wedi'u targedu yn aml i sicrhau bod gofal cymdeithasol i bobl sy'n profi digartrefedd ar gael, yn hygyrch ac yn cael ei ddarparu i'r un safonau ac ansawdd ag ar gyfer y boblogaeth gyffredinol.

Mae angen i wasanaethau gydweithio er mwyn sicrhau bod llety preswyl yn addas. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal a chymorth, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.

Dangosyddion Canlyniadau

  • 47. canran y bobl sy'n dweud bod eu llety'n addas i'w hanghenion.
  • 48. canran yr aelwydydd digartref sy’n cynnwys plant dibynnol
  • 49. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth tai
  • 50. canran y tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Nid oes data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar gyfer dangosydd 47, ac nid oedd data ar gyfer 2024 i 2025 ar gael ar gyfer dangosydd 28, nid yw'r dangosyddion hyn wedi'u diweddaru yn yr adroddiad hwn.

49. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth tai

Mae'r trydydd sector yn ategu gwasanaethau statudol. Maent yn darparu gwasanaethau er budd pobl a chymunedau yng Nghymru. Maent yn rhoi cymorth, gan alluogi pobl i gynorthwyo eu hunain, lle bo hynny'n briodol. 

Ym mis Awst 2025, roedd 1 y cant o fudiadau gwirfoddol yn cynnig cymorth tai, megis prosiectau digartrefedd, cynlluniau gofal a thrwsio, gwasanaethau cyngor ar dai, a chymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr. Mae hyn yr un fath â’r gyfran ym mis Gorffennaf 2023 (1 y cant). 

Daw'r data hwn o giplun ym mis Awst 2025 a mis Gorffennaf 2023, ac mae'n bosibl nad yw'n adlewyrchu'r data sydd gan CGGC ar adegau eraill.

Ffynhonnell: CGGC 

50. Canran y tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Mae landlordiaid cymdeithasol yn darparu tai cymdeithasol. Maent yn cynnwys cynghorau lleol a chymdeithasau tai. Sefydliadau nid-er-elw sy'n berchen ar dai rhent, yn eu gosod a'u rheoli yw cymdeithasau tai. 

Mae ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru yn gallu effeithio ar lesiant. Cyhoeddwyd Safon Ansawdd Tai Cymru am y tro cyntaf yn 2002 ac fe'i diweddarwyd yn 2008. Ei nod yw helpu i sicrhau bod yr holl anheddau o ansawdd da a’u bod yn addas ar gyfer anghenion pob preswylydd. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru sicrhau bod eu cartrefi'n bodloni gofynion y safon hon.

Yn 2022 i 2023, roedd 100 y cant o'r holl stoc tai cymdeithasol yng Nghymru yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys methiannau derbyniol. Roedd hyn yr un fath â 2021 i 2022, pan oedd 100 y cant o'r holl stoc dai yng Nghymru yn cydymffurfio. 

Ffynhonnell: Safon Ansawdd Tai Cymru

Y camau nesaf

Mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cynnig data ychwanegol. Gallwn ddefnyddio'r data hwn fel dangosyddion yn y dyfodol. Hefyd, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol ym mis Mai 2024, a fydd yn newid y ffordd y mae awdurdodau lleol yn adrodd ar eu gwasanaethau. 

Ar y cyd â’r Fframwaith Perfformiad a Gwella, Adroddiadau Blynyddol Awdurdodau Lleol a’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol hwn, rhagwelir y bydd y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn gallu llunio darlun cyflawn o berfformiad a chanlyniadau gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol drwy Adroddiad newydd ar Gyflwr y Genedl.

Crynodeb o'r mesurau wedi'u diweddaru

Rhestr lawn o ddangosyddion yn ôl rhif, ac a ydynt wedi'u diweddaru, eu diwygio neu wedi dod i ben.

Sicrhau hawliau a hawlogaethau

  1. canran y bobl sy’n ystyried bod y gofal a’r cymorth maent wedi’i gael yn ardderchog neu’n dda: heb ei ddiweddaru
  2. canran y bobl sydd ag ansawdd bywyd gwell, diolch i gyfraniad eu gofal a chymorth: heb ei ddiweddaru.
  3. canran y bobl sy'n teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch: heb ei ddiweddaru
  4. canran y bobl sy’n ystyried y bobl a roddodd help, gofal a chymorth iddynt yn ardderchog neu’n dda: heb ei ddiweddaru
  5. canran y bobl a gafodd yr wybodaeth neu’r cyngor cywir pan oedd arnynt ei angen: heb ei ddiweddaru.
  6. canran y bobl sy’n dweud eu bod nhw’n gallu rheoli eu bywyd beunyddiol gymaint ag y gallant: heb ei ddiweddaru
  7. canran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth: heb ei ddiweddaru
  8. canran y mudiadau gwirfoddol sy’n cynnig gweithgareddau plant a gweithgareddau lles i deuluoedd: wedi'i ddiweddaru
  9. canran y bobl sydd â sgoriau hapusrwydd uchel: wedi'i ddiweddaru

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol

  1. canran y bobl sydd â sgoriau hapusrwydd uchel: heb ei ddiweddaru
  2. canran y bobl sydd â sgoriau uchel o ran bodlonrwydd â bywyd: heb ei ddiweddaru
  3. canran y bobl â llesiant meddwl uchel: heb ei ddiweddaru
  4. canran yr oedolion (16 oed neu hŷn) sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw: heb ei ddiweddaru. Gweler Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
  5. canran y genedigaethau byw, unig-anedig, sydd â phwysau geni o lai na 2,500 gram: heb ei ddiweddaru. Gweler Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
  6. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd â phroblemau iechyd meddwl: wedi'i ddiweddaru
  7. canran y plant sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf: wedi'i ddiweddaru
  8. canran y plant 5 oed a hŷn sy'n cael gofal a chymorth sydd wedi cael yr archwiliadau deintyddol diweddaraf: wedi'i ddiweddaru
  9. disgwyliad oes iach adeg genedigaeth: heb ei ddiweddaru. Gweler Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
  10. nifer y bobl hŷn sy’n torri eu clun: heb ei ddiweddaru. Gweler Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
  11. canran y bobl sy'n dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn: heb ei ddiweddaru

Amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod

  1. canran y bobl sy'n dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel: wedi'i ddiweddaru
  2. canran y plant sy'n cael eu hailgofrestru ar gofrestr amddiffyn plant awdurdod lleol: wedi'i ddiweddaru
  3. nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig: wedi'i ddiweddaru, y ffynhonnell wedi'i diwygio
  4. nifer y digwyddiadau o droseddau rhyw: wedi'i ddiweddaru, y ffynhonnell wedi'i diwygio
  5. canran yr oedolion sy'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod sydd wedi cael eu hatgyfeirio fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn: wedi'i ddiweddaru

Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden

  1. canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt: heb ei ddiweddaru
  2. canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth: wedi'i ddiweddaru
  3. canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth: wedi'i ddiweddaru
  4. cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal: wedi'i ddiweddaru
  5. deilliannau dysgwyr yn y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned: wedi'i ddiweddaru
  6. canran yr oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag o leiaf un cymhwyster: wedi'i ddiweddaru
  7. canran y plant sy’n cael gofal a chymorth sydd wedi cyflawni’r lefel ddysgu ddisgwyliedig, neu uwch, ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen: wedi dod i ben
  8. canran y rhai sy'n gadael gofal sydd wedi cwblhau o leiaf 3 mis yn olynol o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y 12 mis ers gadael gofal: wedi'i ddiweddaru

Perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol

  1. Canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig yn gyffredinol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol: heb ei ddiweddaru
  2. Canran y bobl sy'n meddwl bod pobl yn eu hardal leol yn parchu ac yn ystyried ei gilydd: heb ei ddiweddaru
  3. Canran y bobl sy'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol: wedi'i ddiweddaru
  4. Canran y bobl sy’n teimlo bod eu hardal leol yn rhywle lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda: wedi'i ddiweddaru

Y cyfraniad a wneir at gymdeithas

  1. Canran y bobl sy'n dweud bod y pethau a wnânt mewn bywyd yn werth chweil: heb ei ddiweddaru
  2. Canran y bobl sy’n gwirfoddoli: heb ei ddiweddaru
  3. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau cymunedol neu ieuenctid: wedi'i ddiweddaru
  4. Canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth i bobl anabl: wedi'i ddiweddaru

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

  1. cyfradd cyflogaeth oedolion 50 oed a hŷn: wedi'i ddiweddaru
  2. cyfradd cyflogaeth oedolion rhwng 16 a 64 oed sydd ag anabledd craidd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio: wedi'i ddiweddaru
  3. bwlch o ran disgwyliad oes rhwng y rhai lleiaf difreintiedig a'r mwyaf difreintiedig: heb ei ddiweddaru Gweler Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
  4. canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET): wedi'i ddiweddaru
  5. canran yr aelwydydd mewn amddifadedd materol: heb ei ddiweddaru

Addasrwydd llety preswyl 

  1. canran y bobl sy'n dweud bod eu llety'n addas i'w hanghenion: heb ei ddiweddaru
  2. canran yr aelwydydd digartref sy'n cynnwys plant dibynnol: wedi'i ddiweddaru
  3. canran y mudiadau gwirfoddol sy'n cynnig gweithgareddau tai: wedi'i ddiweddaru
  4. canran y tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru: wedi'i ddiweddaru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Nid yw'r ddogfen hon yn cael ei dosbarthu fel ystadegau swyddogol gan ei bod yn cynnwys data o ffynonellau anllywodraethol yn ogystal â data a gasglwyd ac a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd wrth baratoi’r ddogfen, fel a ganlyn:

  • sicrhau ansawdd
  • y data mwyaf priodol sydd ar gael
  • adolygu'n rheolaidd ar gyfer defnyddio'r data gorau sydd ar gael at y dibenion gofynnol

Dibynadwyedd, ansawdd a gwerth

Mae'r ystadegau yn yr adroddiad hwn yn dangos y safonau a ddisgwylir ynghylch dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus. 

Gellir gweld manylion y prosesau casglu a dilysu data, cryfderau a chyfyngiadau'r data a pholisïau adolygu yn adrannau ansawdd a methodoleg y cyhoeddiadau gwreiddiol: 

Mae croeso i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau am sut rydym yn cyflawni'r safonau ansawdd ystadegol. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys 15 o'r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • 1. canran genedigaethau sengl byw gyda phwysau geni o lai na 2,500g
  • 2. disgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys y bwlch rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig
  • 3. canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw
  • 8. canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
  • 19. canran y bobl sy'n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol
  • 21. canran y bobl sydd mewn gwaith
  • 22. canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
  • 23. canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol
  • 24. canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gyrraedd/cael at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt
  • 25. canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio
  • 26. canran y bobl sy’n fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw
  • 27. canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal, bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch
  • 28. canran y bobl sy’n gwirfoddoli
  • 30. canran y bobl sy’n unig
  • 34. nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i'w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Fel dangosyddion cenedlaethol o dan y Ddeddf, rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi’r sefyllfa llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd. 

Mae'r Ddeddf yn nodi bod rhaid i gerrig milltir cenedlaethol gael eu gosod “...y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant”. Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru nodi sut rydym yn gwybod bod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni, ac erbyn pryd y dylid ei chyflawni. 

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru. 

Yn y datganiad hwn, mae dangosyddion 2, 3, 8, 21, 22, a 28 yn cyfateb i'r cerrig milltir canlynol:

  • 2. cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a chau’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15 y cant erbyn 2050
  • 3. cynyddu canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad ffordd o fyw iach neu fwy i 97 y cant erbyn 2050
  • 8. bydd gan 75 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau ar lefel 3 neu uwch erbyn 2050
  • 8. bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5 y cant neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050
  • 21. dileu'r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd y DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu nifer y bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n cyfranogi yn y farchnad lafur
  • 22. bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050
  • 28. cynyddu canran y bobl sy'n gwirfoddoli 10 y cant erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl wirfoddoli

Mae rhagor o wybodaeth am y Dangosyddion Cenedlaethol ar gael yn Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol ar gyfer Cymru [HTML] | LLYW. CYMRU.

Mae'r datganiad hwn hefyd yn cynnwys 9 dangosydd cyd-destunol, sef:

  • Troseddu yng Nghymru a Lloegr (SYG)
  • Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG)
  • Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb (ICC)
  • Ystadegau digartrefedd
  • Y farchnad lafur yn rhanbarthau'r DU (SYG)
  • Ystadegau'r farchnad lafur (APS)
  • Amddifadedd materol
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • Safon Ansawdd Tai Cymru

 y cyfeirir atynt yn nogfen dechnegol yr adroddiad Llesiant. 

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael yn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015: canllawiau.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sorcha Egan

E-bost:  Y Tîm Dadansoddi ac Arloesi / Analysis and Innovation Team 

TimDadansoddiAcArloesi@llyw.cymru