Neidio i'r prif gynnwys

Sut y dylai ceiswyr ymgysylltu â chyrff cyhoeddus yn ystod y broses cydsyniad seilwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manteision ymgysylltu effeithiol

Mae angen i geiswyr ymgysylltu â chyrff cyhoeddus drwy gydol y broses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol. 

Mae ymgysylltu effeithiol yn helpu i greu datblygiadau o ansawdd uchel. Mae'n helpu ceiswyr i gael cyngor a gwybodaeth arbenigol yn gyflym ar y canlynol: 

  • materion amgylcheddol
  • materion trafnidiaeth
  • materion diogelwch
  • materion treftadaeth

Mae hyn yn arwain at benderfyniadau amserol a chadarn. 

Mae'r canllawiau yn seiliedig ar arfer da ar gyfer ymgysylltu â chyrff cyhoeddus. Maent hefyd wedi cael eu llywio gan fewnbwn gan gyrff cyhoeddus. 

Cyrff cyhoeddus mewn prosiectau seilwaith arwyddocaol

Sefydliad a sefydlwyd yn ffurfiol yw corff cyhoeddus. Mae'n cael arian cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus neu wasanaeth ar ran y llywodraeth.

Mae'r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus perthnasol yn gweithredu fel ymgyngoreion statudol yn y broses cydsyniad seilwaith. Mae gan rai ohonynt hefyd bwerau i roi cydsyniadau eraill y gallai fod eu hangen i adeiladu neu weithredu prosiect seilwaith arwyddocaol.

Mae gan gyrff cyhoeddus rôl bwysig i'w chwarae wrth roi cyngor arbenigol drwy gydol y broses. Mae hyn yn cynnwys:

  • ymgysylltu cynnar yn ystod y cam cyn gwneud cais
  • darparu tystiolaeth archwilio 
  • gweithgareddau ar ôl i gydsyniad gael ei roi

Gall cyrff cyhoeddus helpu ceiswyr i nodi a lleihau effeithiau prosiectau seilwaith arwyddocaol ar gam cynnar.

Mae tudalennau ar wahân ar gael i gefnogi'r cyngor cyffredinol hwn. Mae'r tudalennau hyn yn rhoi mwy o fanylion am rolau penodol cyrff cyhoeddus yn y broses. Mae hyn yn cynnwys:

  • pwyntiau cyswllt perthnasol
  • unrhyw drefniadau penodol y mae angen eu gwneud
  • pa wybodaeth y dylid ei darparu er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â'r corff

Mae cyngor penodol ar gael ar gyfer:

Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Efallai y bydd angen i geiswyr ymgysylltu â chyrff cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma.

Rôl cyrff cyhoeddus ar bob cam o'r broses cydsyniad seilwaith

Mae ceiswyr yn gyfrifol am ymgysylltu â chyrff cyhoeddus perthnasol. Rhaid iddynt gael y mewnbwn sydd ei angen arnynt i baratoi cais o ansawdd uchel am gydsyniad seilwaith.

Gall cyrff cyhoeddus sy'n rhoi cyngor ar geisiadau arfaethedig am brosiectau seilwaith arwyddocaol adfer eu costau'n llawn. Dylai ceiswyr drafod unrhyw ffioedd perthnasol am gyfranogiad cyrff cyhoeddus ar ddechrau'r broses.

Mae mewnbwn gan gyrff cyhoeddus yn bwysig ar gamau canlynol y broses prosiect seilwaith arwyddocaol:

Cam cyn gwneud cais

Mae ymgysylltu’n gynnar â chyrff cyhoeddus perthnasol yn hanfodol wrth baratoi cais o ansawdd da.

Ar y cam cyn gwneud cais, dylai'r ceisydd ymgysylltu'n uniongyrchol â chyrff cyhoeddus, gan ddefnyddio gwasanaethau cynghori statudol ac anstatudol (dewisol) lle bo'r rhain ar gael. Gall cyrff cyhoeddus helpu ceiswyr i wneud y canlynol:

  • dilyn y gweithdrefnau cywir
  • Nodi cyfyngiadau a chyfleoedd
  • Cadarnhau gofynion arolygu ac asesu
  • paratoi'r dogfennau sydd eu hangen i gyflwyno cais am gydsyniad seilwaith

Rhaid i'r ceisydd ymgynghori'n ffurfiol ag ymgyngoreion statudol neu arbenigol ar y cam hwn.

Dylai ceiswyr barhau i ymgysylltu â chyrff cyhoeddus y tu hwnt i'r gofynion ymgynghori ffurfiol lle bo angen. Mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd cyrff cyhoeddus yn codi materion yn eu hymatebion y mae angen eu datrys. 

Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) hefyd yn ymgynghori â chyrff cyhoeddus pan fydd ceisydd yn cyflwyno cais am Gyfarwyddyd Cwmpasu ar gyfer Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

Bydd ymatebion cwmpasu yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at PCAC a'u cynnwys yn eu Cyfarwyddyd Cwmpasu ar gyfer Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Fodd bynnag, caiff ceiswyr ymgysylltu'n uniongyrchol â chorff cyhoeddus os bydd angen iddynt gael rhagor o wybodaeth ganddo.

Cam cyflwyno a derbyn cais

Ar ôl i geisydd gyflwyno cais i PCAC, bydd PCAC yn penderfynu a ddylid ei dderbyn (dilysu) i wneud penderfyniad arno.

Os derbynnir y cais, bydd gwaith ymgysylltu pellach â chyrff cyhoeddus ynghylch y dogfennau cais a gyflwynwyd. PCAC fydd yn arwain y gwaith ymgysylltu hwn fel arfer.

Ni ddylai cyrff cyhoeddus godi materion newydd ar y cam hwn oni bai bod ganddynt resymau gwirioneddol dros wneud hynny. Os byddant yn gwneud hynny, bydd angen iddynt roi rhesymau pam na chafodd y materion hyn eu codi yn ystod y cam cyn gwneud cais.

Lle bo materion yn parhau heb eu datrys o drafodaethau cyn gwneud cais, dylai ceiswyr barhau â thrafodaethau'n uniongyrchol â'r cyrff cyhoeddus perthnasol.

Cam archwilio

Rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd rhan yn y broses o archwilio cais am gydsyniad seilwaith.

Dylent ddarparu gwybodaeth ac ymatebion priodol i helpu'r awdurdod archwilio i gynnal yr archwiliad.

Bydd lefel yr ymgysylltu ar y cam hwn yn dibynnu ar y materion sy'n parhau heb eu datrys a gellir ei gyflawni drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.

Cam penderfynu ac ar ôl penderfynu

Efallai y bydd gan gyrff cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau cynllunio a Cyfoeth Naturiol Cymru, rôl i'w chwarae o hyd ar ôl i gydsyniad seilwaith gael ei roi. Gallant weithredu fel:

  • awdurdod cyflawni ar gyfer gofynion Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith
  • ymgynghorai pan gaiff cais ei wneud i gyflawni gofyniad