Neidio i'r prif gynnwy

Gall ymrwymo i swydd a theulu roi llawer o foddhad i chi yn nwy ran eich bywyd. Mae llawer o gyfrifoldeb ynghlwm wrth y ddwy rôl, a weithiau gall fod yn anodd trefnu'r ymrwymiadau hyn.

Nid oes un ateb arbennig ar gyfer sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd teuluol. Rydych chi, eich sefyllfa a'ch teulu yn unigryw. Gall cydbwysedd da fod yn wahanol i wahanol deuluoedd. Gall trafod pethau eich helpu i weld beth sy'n bwysig i chi, a chanfod atebion. 

Nid oes y fath beth â chydbwysedd 'perffaith' rhwng gwaith a bywyd teuluol, ond efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu:

  • Pennwch eich blaenoriaethau eich hunain - Weithiau, rydym yn rhoi gormod o bwysau ar ein hunain a'r hyn y gellir ei gyflawni mewn cyfnod penodol o amser. Pan rydych yn gweithio a bod gennych deulu, bydd eich egni a'ch adnoddau'n cael eu taenu'n deneuach. Os fyddwch yn ceisio sicrhau bod pob rhan o'ch bywyd yn berffaith, mae'n debygol y byddwch yn teimlo'n rhwystredig ac yn flinedig yn y pen draw. Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig a gostwng eich safonau mewn pethau eraill. Mae ceisio cadw tŷ perffaith yn arbennig o heriol, yn enwedig gyda phlant bach.  Ni fydd ychydig o lwch ar y celfi neu friwsion ar y carped yn niweidio unrhyw un. Gallwch ddefnyddio’r amser ychwanegol i orffwys neu ei dreulio gyda'ch teulu. Bydd treulio amser gyda'ch plentyn yn fuddsoddiad gwell na threulio amser yn glanhau. Os oes gennych fywyd teuluol llawn, rydych yn fwy tebygol o fod yn hapusach yn y gwaith hefyd.
  • Datblygu trefn sy'n iawn i’ch teulu - Gall datblygu trefn helpu eich plentyn i wybod beth i'w ddisgwyl, a'i helpu i deimlo'n ddiogel. Bydd hyn hefyd o fudd i chi drwy eich helpu i gynllunio a rheoli eich diwrnod yn well. Gallai hyn gynnwys paratoi pethau fel pecynnau bwyd y noson gynt a rhoi dillad y plant a'ch dillad chi allan yn barod. Efallai y bydd o gymorth i blant ifanc gael taflen luniau o'u trefn ddyddiol a phwy fydd yn gofalu amdanynt. Efallai y bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes gwahanol bobl yn gofalu am eich plant ar wahanol ddiwrnodau.
  • Dod o hyd i'r gofal cywir ar gyfer eich plentyn - Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael eich plentyn gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo, a lle bydd eich plentyn yn cael profiad da. Rhowch wybod iddynt am eich plentyn, eich teulu ac unrhyw newidiadau yn rheolaidd, fel eu bod yn gallu deall teimladau ac anghenion eich plentyn.
  • Meddyliwch am y drefn o ddanfon a mynd ar ôl eich plant o’r ysgol neu le gofal - Dyma ddwy adeg o’r diwrnod a allai fod yn heriol. Ceisiwch neilltuo digon o amser i'ch plentyn setlo pan fyddwch yn ei adael yn y bore ac i drafod unrhyw bryderon a allai fod gennych gyda'r darparwr gofal. Os byddwch yn cymryd amser i wneud yn siŵr bod eich plentyn wedi setlo, mae’n llai tebygol o gynhyrfu, a bydd hyn yn lleihau eich gofid chithau. Yn yr un modd, pan fyddwch yn mynd ar ôl eich plentyn, gofynnwch sut ddiwrnod mae wedi'i gael fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd gartref. Efallai na fydd eich plentyn yn rhoi llawer o fanylion i chi am ei ddiwrnod, ac efallai y bydd yn dawel ar y ffordd adref - peidiwch â phoeni. Mae'n arferol i blant gael amser tawel ar ôl diwrnod prysur yn yr meithrinfa neu mewn ysgol. Fel oedolion, efallai y bydd angen ychydig o amser arnynt i brosesu beth sydd wedi digwydd yn ystod y diwrnod.
  • Cael cynllun wrth gefn - Ceisiwch gael cynllun ar gyfer beth i wneud os fydd eich plentyn yn sâl neu os bydd problem gyda threfniadau gofal plant. Bydd hyn yn helpu i leihau pwysau a gofid i chi.
  • Newid rhwng y gwaith a'r cartref - Ceisiwch gadw eich bywyd cartref a'ch gwaith ar wahân yn eich meddwl er mwyn gwneud y newid rhwng y gwaith a'r cartref yn haws.  Pan fyddwch gartref, ceisiwch adael problemau gwaith yn y gwaith. Pan fyddwch yn y gwaith, peidiwch â phoeni yn ormodol am eich plentyn. Ceisiwch ganolbwyntio ar y foment bresennol, p'un a ydych yn y gwaith neu gartref. Efallai y bydd cael gweithgaredd sy'n eich helpu i ddynodi'r newid rhwng y gwaith a'r cartref yn eich helpu. Efallai mai gwrando ar gerddoriaeth ar y daith adref fydd hyn, neu newid eich dillad pan fyddwch yn cyrraedd gartref.
  • Cofiwch gymryd amser i ganmol eich plentyn a chi eich hun - Ceisiwch annog eich hun wrth siarad â'ch hun yn fewnol mewn modd positif, a cheisiwch anwybyddu eich 'beirniad mewnol'. Er enghraifft “Rwy’n falch â’r ffordd y llwyddais i ymdopi â phethau. Mae’n dda fy mod wedi cadw fy mhen". Pan fyddi di'n canmol, rwyt ti’n dysgu dy blentyn am ei werth, sut i fod yn falch o'i hun ac yn cynyddu ei hunan-barch. Os wyt ti’n sylwi ar yr ymddygiad a’r rhinweddau rwyt ti’n eu hoffi, yn eu caru ac eisiau eu gweld yn dy blentyn, mae’n gwybod i fod yn falch o’r rhain a’u hailadrodd.
  • Sylwch ar y pethau cadarnhaol - Os ydych wedi cael ychydig o bore anodd yn barod cyn brecwast, peidiwch â phenderfynu ei fod yn ddiwrnod gwael. Ceisiwch ystyried y diwrnod yn ddarnau llai. Y gyfrinach yw peidio ag edrych ar y diwrnod fel un cyfan, hynny yw, nad yw'n ddiwrnod da na gwael. Ceisiwch feddwl am y rhannau sy'n creu'r diwrnod hwnnw a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol.
  • Gwnewch lai a chanolbwyntiwch fwy - Ceisiwch wneud bywyd teuluol mor syml â phosibl drwy leihau nifer eich ymrwymiadau a'r gweithgareddau allanol y mae eich plentyn yn cymryd rhan ynddynt. 
  • Neilltuwch amser ar gyfer chi eich hun - Mae'n bwysig iawn gofalu am eich hunain.  Pan rydych yn rhiant sy'n gweithio, weithiau y peth cyntaf sy'n diflannu yw’r amser i chi eich hun. Ceisiwch neilltuo amser i chi - eistedd a mwynhau paned gyfan heb ymyrraeth, gwylio rhaglen deledu, mynd am dro neu mynd i ddosbarth ymarfer corff. Bydd cael amser i'ch hun yn rheolaidd yn eich helpu i gael mwy o gydbwysedd a theimlo dan lai o bwysau. 
  • Siaradwch â'ch cyflogwr - Gallech edrych ar eich opsiynau a'ch oriau gwaith. Oes gan eich cyflogwr unrhyw bolisïau teuluol a allai fod o fudd i chi? Mae'r elusen Working Families (dolen allanol) yn rhoi cyngor cyfreithiol i rieni a gofalwyr: Ffôn: 0300 012 0312 neu llenwch y ffurflen gyswllt. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am weithio oriau hyblyg yn Gov.uk (dolen allanol).

Mae gweithio pan fo gennych deulu ifanc yn gallu rhoi llawer o bwysau arnoch, ond gall hefyd fod yn werth chweil. Gall treulio amser gyda'ch plant roi pwysau gwaith mewn persbectif. Gall amser yn y gwaith helpu i roi persbectif arall i chi a gwneud yn siŵr eich bod yn mwynhau eich amser gartref yn fwy.