Neidio i'r prif gynnwy

Bydd eich babi’n dechrau eisiau pethau, er enghraifft, eisiau cael ei godi neu eisiau tegan arbennig. Wrth i’ch babi ddechrau symud mwy a mynnu pethau, ceisiwch addasu i’r newidiadau hyn.

Bydd beth rydych chi’n ei wneud gyda’ch babi nawr yn gwneud byd o wahaniaeth iddo maes o law. Mwya’n byd fyddwch chi’n siarad a chwarae gyda’ch babi ac ymateb iddo, gorau’n byd fydd sgiliau siarad eich plentyn yn 3 oed. Mae dangos cariad at eich babi drwy ei ganmol a’i gofleidio yn rhoi hwb i’w hunan-barch a’i hyder.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am wahanol gamau datblygiad eich plentyn ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi gynorthwyo’ch babi. Hwyrach y bydd eich babi’n gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau. Does dim achos i boeni am y rhan fwyaf o wahaniaethau.

Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn yn y llyfr Naw Mis a Mwy - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru). Mae’n cynnwys gwybodaeth am fwydo, torri dannedd, brechiadau, iechyd eich plentyn a gwneud eich cartref yn ddiogel hefyd. Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

Mae’n bosib y bydd eich babi 7 - 8 mis oed yn gallu:

  • Eistedd i fyny am rai munudau, heb eich help;
  • Rholio drosodd a symud ar draws y llawr drwy lithro, rholio neu lusgo ei hun;
  • Edrych i weld o ble mae synau’n dod a gwneud hynny’n eithaf cywir; 
  • Gwneud synau babi ac ymateb i chi gyda sŵn;
  • Ymateb i’w enw ei hun pan fyddwch chi’n ei alw;
  • Archwilio pethau gyda’i ddwylo a’i geg; a
  • Mwynhau chwarae pi-po (rydych chi’n cuddio’ch wyneb am funud ac yna’n ei ddatgelu a dweud ‘pi-po!’)

Efallai y bydd eich babi’n dechrau glynu’n dynn wrthych chi ac yn cynhyrfu yng nghwmni pobl ddieithr. Efallai y bydd yn dechrau crio os ydych chi neu’ch partner yn gadael yr ystafell. Dydy’ch babi ddim yn ddigon hen i ddeall y byddwch chi’n dod yn ôl.

Mae’n bosib y bydd eich babi 9 - 10 mis oed yn gallu:

  • Defnyddio ei fys i bwyntio at bethau bach;
  • Parablu gyda synau y gallwch chi eu hadnabod fel ‘mama’ a ‘dada’ a chopïo synau rydych chi’n eu gwneud;
  • Deall ambell i air fel ‘na’, ‘ta-ta’ a ‘swper’;
  • Clapio a chwifio;
  • Copïo pethau rydych chi’n eu gwneud er mwyn gwneud yr un peth e.e. ysgwyd tegan i wneud sŵn; a
  • Chwilio am rywbeth os yw’n eich gweld chi’n ei guddio.

Efallai y bydd eich babi’n glynu wrthych chi o hyd yng nghwmni pobl newydd. Mae’n bosib ei fod yn dod yn fwy annibynnol hefyd, er enghraifft, efallai y bydd yn dal ei gorff yn stiff wrth i chi geisio rhoi dillad amdano.

Mae’n bosib y bydd eich babi 11 - 12 mis oed yn gallu:

  • Deall ymadroddion syml fel ‘wyt ti eisiau diod?’;
  • Dilyn cyfarwyddiadau syml gydag eitemau cyfarwydd, fel ‘cer i nôl tedi’;
  • Adnabod pobl gyfarwydd;
  • Dangos cariad drwy roi cusan a chwtsh;
  • Pwyntio at eitemau;
  • Gwthio, taflu a tharo i’r llawr bopeth o fewn golwg a rhoi teganau i eraill;
  • Defnyddio ystumiau fel pwyntio a chwifio a deall mwy o’r hyn rydych chi’n ei ddweud;
  • Symud o gwmpas. Mae rhai plant yn dysgu cropian, tra bod eraill yn symud o gwmpas ar eu bol neu ar eu pen ôl. Bydd eraill yn rholio i bob man;
  • Cerdded, ond peidiwch â phoeni os nad yw’ch babi wedi gwneud hyn eto. Mae hyn yn digwydd unrhyw bryd rhwng 8 ac 20 mis.

Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich plentyn bach

  • Llawer o wenu, cofleidio a chanmol .
  • Cadwch bopeth yr un fath gymaint â phosib. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch babi i gael teimlad o sicrwydd. Ceisiwch fwydo, ymolchi a rhoi’ch babi i’w wely tua’r un amser bob dydd. Dewch o hyd i batrwm sy’n gweithio i’ch teulu chi.
  • Dywedwch wrth eich babi beth fyddwch chi’n ei wneud nesaf. “Rydyn ni’n golchi dwylo”. Mae hyn yn dweud wrth eich babi beth i’w ddisgwyl.
  • Siaradwch am y pethau a welwch a’r pethau a wnewch. Ar y bws, yn y car, wrth gerdded i’r siop neu yn yr archfarchnad, pwyntiwch at y pethau rydych chi’n eu gweld. Pan fydd eich babi’n pwyntio at bethau, gallwch ddweud pethau fel ‘ie, ci yw hwnna’. Pan fydd eich babi’n gwneud pethau, gallwch ddweud pethau fel “rwyt ti’n cyffwrdd â’r gath”.
  • Gallwch siarad rhai geiriau yn y Gymraeg hefyd (Dolen allanol). Hyd yn oed os mai ychydig o Gymraeg sydd gennych chi, bydd siarad ychydig bach o Gymraeg gyda'ch babi yn rhoi'r dechrau dwyieithog gorau iddo. Gallwch chi ach plentyn canu gyda’ch gilydd i nifer o hwiangerddi Cymraeg ar wefan Mudiad Meithrin (Dolen allanol). Mae’r caneuon yn cynnwys nifer o eiriau syml i wneud e’n hawdd i blant bach i ddysgu’r iaith Cymraeg.
  • Pwyll ac amynedd piau hi. Pan fyddwch chi’n ddigynnwrf ac yn ymlacio, mae’ch babi’n fwy tebygol o ymlacio hefyd.
  • Paratowch! Rhowch bethau peryglus neu unrhyw beth a allai dorri gadw. Gosodwch giât ddiogelwch ar y grisiau a chloeon ar ddroriau a chypyrddau. Bydd hyn yn cadw’ch babi’n ddiogel a fydd dim rhaid i ddweud ‘na’ fel tiwn gron.
  • Ceisiwch dynnu sylw’ch babi. Pan fydd eich babi’n troi’r teledu ymlaen a’i ddiffodd drosodd a throsodd, ceisiwch dynnu ei sylw gyda thegan neu weithgaredd arall.
  • Ceisiwch osgoi gormod o deledu a theclynnau eraill fel llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn bach ond peidiwch â’u defnyddio am fwy na hanner awr bob dydd. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol gyngor arwneud y gorau o'r teledu  (Dolen allanol).
  • Rhannwch lyfr. Bydd eich plentyn yn dwlu ar yr amser arbennig yma gyda chi a gall ei helpu i dawelu cyn amser gwely. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol gyngor ar rannu llyfrau gyda'ch babi (Dolen allanol) neu fe allwch ofyn am lyfrau addas yn eich llyfrgell leol.
  • Cofiwch Chwarae! Ceisiwch roi bethau diddorol a diogel i’ch babi i edrych arnyn nhw, eu cyffwrdd a’u harchwilio. Gallwch wneud synau i gyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd, fel “brmm, brmm” wrth i chi wthio car. Does dim angen teganau drud – mae babis angen rhyngweithio â phobl eraill lawer mwy na gyda theganau. Mae syniadau ar gyfer caneuon, llyfrau a gweithgareddau chwarae yn Words for Life (Dolen allanol) a Read on. Get on (Dolen allanol).
  • Canu caneuon a rhigymau gyda’ch babi. Mae hyn yn helpu’ch babi i ddysgu siarad ac mae’n cryfhau’ch perthynas chi gyda’ch babi hefyd. Mae gan Mudiad Meithrin (Dolen allanol) rigymau Cymraeg poblogaidd. Mae Words for Life (Dolen allanol) yn cynnwys llawer o syniadau ar gyfer caneuon a rhigymau Saesneg.

Mae Dad yn bwysig hefyd. Mae ymchwil wedi dangos bod tadau’n ddylanwad mawr ar ddatblygiad eu plentyn. Mae helpu i ofalu am eich babi bob dydd – gwisgo, chwarae, ymolchi a darllen - yn creu llawer o gyfleoedd i annog datblygiad eich babi.

Beth sydd ddim yn gweithio

  • Bod yn flin gyda’ch babi. Dydy’ch babi ddim yn ddigon hen i wneud pethau’n fwriadol neu i reoli beth mae’n ei wneud. Dydy’ch babi ddim yn gwneud pethau i’ch gwneud chi’n flin. Er enghraifft, efallai bydd eich babi’n taflu teganau ar y llaw. Dydy’ch babi ddim yn gwneud hyn i godi gwrychyn. Gêm yw hi i’ch babi ac mae’n dysgu ble mae pethau’n mynd.  
  • PEIDIWCH BYTH ag ysgwyd eich babi. Gall ysgwyd eich babi wneud niwed i’w ymennydd a gall yr anafiadau bara oes.

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.