Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n dechrau dysgu sut mae cyd-dynnu gydag eraill, ac mae’n gallu rheoli ei deimladau’n well (er ei fod yn cael ambell stranc o hyd o bosib).

Mae’ch plentyn yn symud o fabandod i blentyndod. Ceisiwch fod yn amyneddgar wrth i’ch plentyn fagu sgiliau newydd. Er bod eich plentyn yn dechrau mynd yn annibynnol iawn, mae e dal angen digon o gwtshus ac anogaeth gennych chi. Pan fyddwch chi’n canmol eich plentyn ac yn rhoi llawer o sylw cadarnhaol iddo, mae hyn yn hybu ei hunan-barch ac yn ei helpu i ddysgu.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am wahanol gamau datblygiad eich plentyn ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi ei gynorthwyo. Hwyrach y bydd eich plentyn yn gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau.

Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu leoliad Cyfnod Sylfaen/ysgol.

Rhwng 3 a 4 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn yn:

  • Hoffi chwarae gyda phlant eraill ac mae ffrindiau’n dod yn bwysicach.
  • Siarad yn dda mewn brawddegau ac yn siarad yn ddigon clir i gael ei ddeall. (Os yw hi’n anodd deall eich plentyn tair oed yn siarad, soniwch wrth eich meddyg teulu neu’ch ymwelydd iechyd).
  • Gofyn llawer o gwestiynau.
  • Siarad â phlant eraill wrth chwarae.
  • Tynnu llun clir o berson gydag wyneb, a breichiau a choesau efallai. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o ymarfer ac anogaeth gaiff e.
  • Bwyta’n annibynnol.
  • Gwisgo a dadwisgo.
  • Hoffi chwarae gemau dychmygus a deall rheolau syml mewn gemau fel chwarae cuddio.
  • Gallu adnabod a mynegi gwahanol emosiynau.

Rhwng 4 a 5 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn yn:

  • Siarad yn dda a bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddeall.
  • Wedi datblygu sgiliau echddygol manwl fel defnyddio siswrn a chau botymau bach.  
  • Gallu creu lluniau a symbolau.
  • Gwybod enwau’r prif liwiau a gallu eu paru.
  • Wedi datblygu sgiliau echddygol bras fel rhedeg, neidio, sgipio a dringo.
  • Chwarae gyda pheli’n hyderus a gallu taflu, cicio, bownsio a dal.
  • Chwarae’n gytûn gyda phlant eraill.

Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich plentyn

  • Rhowch lawer o gwtshus, sylw a chlod i’ch plentyn. Rhowch sylw unigol iddo pryd bynnag y gallwch chi 
  • Ceisiwch gadw pethau'r un fath gymaint â phosibl. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch plentyn bach i gael teimlad o sicrwydd. Ceisiwch fwyta, ymolchi a rhoi’ch plentyn i’w wely tua’r un amser bob dydd.
  • Rhowch ddigon o rybudd i’ch plentyn am beth fydd yn digwydd nesaf. “Pan fyddi di wedi bwyta dy frecwast, byddwn ni’n gwisgo”. Bydd eich plentyn yn dod i ddisgwyl a derbyn newid yn well os yw’n gwybod ei fod yn dod. 
  • Ceisiwch gael ambell reol glir a syml y gall eich plentyn ei deall a’i dilyn. Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi eisiau iddo ei wneud, nid beth dydych chi ddim eisiau iddo ei wneud. 
  • Anwybyddwch bethau bach am ei ymddygiad sy’n mynd ar eich nerfau. Rhowch lawer o ganmoliaeth a sylw i’ch plentyn pan fydd yn gwneud rhywbeth cadarnhaol.  
  • Ceisiwch osgoi gormod o deledu a theclynnau eraill fel llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn ond peidiwch â’u defnyddio am fwy nag awr bob dydd. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol gyngor ar wneud y gorau o'r teledu  (Dolen allanol). 
  • Rhowch ddewisiadau syml. “Hoffet ti afal neu fanana?” “Wyt ti eisiau gwisgo crys coch neu un glas?”
  • Dangoswch ddiddordeb yn yr hyn sydd gan eich plentyn i’w ddweud. Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn mae’n ei ddweud. Bydd hyn yn dangos i’ch plentyn ei fod yn bwysig i chi. Anogwch eich plentyn i siarad drwy ofyn cwestiynau penagored fel “Beth wnes ti fwynhau orau heddi?”
  • Gwnewch brydau bwyd yn bleserus. Eisteddwch a siaradwch am bethau a cheisiwch fwyta gyda’ch gilydd. Mae Newid am oes (Dolen allanol) yn cynnwys llawer o ryseitiau i chi roi cynnig arnyn nhw.
  • Rhannwch lyfr (Dolen allanol). Bydd eich plentyn yn dwlu ar yr amser arbennig hwn gyda chi a gall ei helpu i dawelu cyn amser gwely. Siaradwch am yr hyn sy’n digwydd yn y stori ac yn y lluniau. Gallwch ofyn am lyfrau addas yn eich llyfrgell leol.
  • Byddwch yn greadigol. Rhowch ddigon o gyfleoedd iddo dynnu llun, peintio a modelu gyda chlai neu does chwarae.
  • Cofiwch Chwarae! Bydd chwarae egnïol yn helpu’ch plentyn i ddatblygu ei sgiliau corfforol fel rhedeg, neidio, taflu a dringo. Mae chwarae dychmygus yn rhoi cyfle i’ch plentyn ddefnyddio’i ddychymyg a datblygu ei sgiliau siarad a gwrando. Bydd gemau bwrdd, gemau cofio a gemau dyfalu yn annog sgiliau meddwl eich plentyn.

Mae syniadau ar gyfer caneuon, llyfrau a gweithgareddau chwarae yn Words for Life (Dolen allanol), Read on. Get on (Dolen allanol) a thudalen Facebook Education Begins at Home (Dolen allanol).

Mae gan eich plentyn yr hawl i addysg Cyfnod Sylfaen cyn-ysgol ran-amser am ddim (o leiaf 10 awr yr wythnos), o ddechrau’r tymor ysgol yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn annog plant i fod yn greadigol, yn ddychmygus ac i gael hwyl tra’n gwneud dysgu’n fwy effeithiol.

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd roi gwybodaeth i chi am lefydd y Cyfnod Sylfaen yn eich ardal chi. Ffoniwch 0300 123 7777 i gael eich trosglwyddo i’ch gwasanaeth lleol.

Mae Dad yn bwysig hefyd. Mae ymchwil wedi dangos bod tadau’n cael dylanwad mawr ar ddatblygiad eu plentyn. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd fel chwarae, prydau bwyd a darllen yn creu llawer o gyfleoedd i annog datblygiad eich plentyn a meithrin perthynas dda.

Beth sydd ddim yn gweithio

  • Dyw taro ddim yn gweithio. Mae’n gallu troi pethau’n frwydr. Gallai ddysgu’ch plentyn ei bod hi’n iawn i daro rhywun iau nag e. 
  • Ceisiwch osgoi bychanu’ch plentyn. Os bydd eich plentyn yn clywed gormod o bethau negyddol, bydd yn effeithio ar ei hunan-barch. Ceisiwch annog ymdrech yn lle hynny.
  • Peidiwch â chosbi camgymeriadau neu ddamweiniau’ch plentyn bach na’i feirniadu pan fydd yn gwneud rhywbeth o’i le. Mae’ch plentyn bach yn dysgu o hyd. Dylech ei ganmol a’i annog.

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.  

Mae gweithgareddau fel chwarae, canu, tynnu lluniau neu daflu pêl yn achosi gwahanol ardaloedd o ymennydd eich plentyn i dyfu cysylltiadau newydd neu ddatblygu cysylltiadau cryfach. Mae profiadau dysgu newydd yn helpu ymennydd eich plentyn i dyfu.