Neidio i'r prif gynnwy

Fel arfer, gwylio eu plant yn rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, eu cefnogi ar ddiwrnod mabolgampau a rhoi cymeradwyaeth iddynt mewn dramâu ysgol yw rhai o uchafbwyntiau'r rhan fwyaf o rieni.

Yr oed hwn, bydd eich plentyn yn datblygu ymdeimlad cryf o annibyniaeth. Bydd yn cymdeithasu yn bennaf â phlant sydd tua'r un oed ac yn ffurfio cydberthnasau a chyfeillgarwch newydd yn annibynnol ar ei deulu. 

Mae'r canlynol yn rhoi gwybodaeth i chi am y camau hyn yn natblygiad eich plentyn yn ogystal â chynghorion ar yr hyn y gallwch ei wneud i gefnogi eich plentyn. Efallai y bydd eich plentyn yn gwneud rhai pethau yn gynt neu'n hwyrach nag a nodir yma.

Os ydych yn poeni am ddatblygiad eich plentyn – holwch eich ymwelydd iechyd, eich meddyg teulu neu'ch lleoliad Cyfnod Sylfaen/ysgol.

Rhwng 5 a 6 oed, efallai y bydd eich plentyn yn:

  • Gallu dal siswrn yn gywir a'i ddefnyddio i dorri siapiau papur.
  • Gallu tynnu lluniau sy'n haws eu hadnabod fel tai, ceir, blodau a phobl.
  • Gallu ysgrifennu un neu ddwy lythyren yn ei enw ac adnabod a chanu cân yr wyddor.
  • Dechrau cau plant eraill allan pan fydd yn chwarae wrth i gyfeillgarwch rheolaidd ddechrau ffurfio. Mae'n bosibl y bydd yn tueddu i wneud ffrindiau â phlant o'r un rhyw. Gall hefyd deimlo angen cryf i gael ei dderbyn gan ei gyfoedion a gall teimlo ei fod yn cael ei 'adael allan' beri loes iddo.
  • Gallu ysgrifennu geiriau byr fel 'ci', 'cath', 'mam' a 'dad' a gwahaniaethu rhwng llythrennau bach a phriflythrennau. Mae'n normal i blant yr oed hwn ysgrifennu rhai llythrennau am yn ôl. 
  • Cofio storïau a dechrau eu hactio gyda'i deganau neu ofyn i chi chwarae rôl.
  • Dechrau adnabod rhigymau mewn llyfrau ac mewn caneuon.
  • Bwyta'n fwy awchus gan ei fod yn defnyddio mwy o egni yn ystod diwrnodau llawn yn yr ysgol heb gael nap.
  • Teimlo'n flinedig ac angen mwy o amser 'tawel' i brosesu ei ddiwrnod; efallai y bydd yn fwy crintachlyd am dipyn tra'i fod yn ymgyfarwyddo â diwrnodau llawn. 

Rhwng 6 a 7 oed, efallai y bydd eich plentyn yn:

  • Gallu clymu careiau ei esgidiau.
  • Gallu cyfrif i 100 a chyfrif rhai rhifau am yn ôl.
  • Gallu gwneud rhywfaint o fathemateg sylfaenol fel 'mae ychwanegu 1 afal at 2 afal yn gwneud 3 afal' ac yn gallu dweud pan fydd rhifau yn uwch na rhif arall. 
  • Gallu rhoi ei enw llawn a gwybod ei oedran, dyddiad ei ben-blwydd a ble mae'n byw.
  • Gallu dechrau gwneud ei rigymau ei hun a mwynhau jôcs syml.
  • Defnyddio geirfa o fwy na 5,000 o eiriau ar gyfartaledd.
  • Gallu darllen hyd at ddeg o eiriau hawdd a chyfarwydd, fel 'cath' a 'ci', a darllen rhai llyfrau syml. Efallai y gall gopïo geiriau byr ac ysgrifennu rhai geiriau cyfarwydd heb help.
  • Gallu hopian ar ddwy goes, sgipio, neidio â'i ddwydroed, cerdded yn ddi-sigl ar waliau neu drawstiau isel, dal pêl â'i ddwylo yn hytrach na'i freichiau, ac efallai y gall reidio beic gyda sadwyr neu hebddynt.

Cynghorion i annog a chefnogi datblygiad eich plentyn 

  • Gall diwrnod yn yr ysgol fod yn flinedig i'ch plentyn a gall arwain at ymddygiad crintachlyd. Gall rhoi llawer o faldod a sylw unigol i'ch plentyn helpu yn ogystal â'i annog i wneud gweithgareddau tawel er mwyn ymlacio. Efallai yr hoffech hefyd ystyried gosod canlyniadau os na fydd yn ymddwyn fel yr hoffech iddo wneud.
  • Dangoswch ddiddordeb yn yr hyn sydd gan eich plentyn i'w ddweud. Bydd hyn yn dangos i'ch plentyn ei fod yn bwysig i chi. Anogwch eich plentyn i siarad drwy ddefnyddio cwestiynau agored fel "Beth oedd y peth gorau am dy ddiwrnod?"
  • Gofynnwch iddo feddwl am ddiweddglo newydd i'w hoff storïau er mwyn ei helpu i feddwl yn greadigol.
  • Ceisiwch lynu wrth arferion ac ymweld â lleoedd cyfarwydd sy'n rhoi sicrwydd i'ch plentyn. Bydd yn wynebu cynifer o heriau newydd ac yn cael ei gysuro gan bethau sy'n gyfarwydd iddo.
  • Bydd yn dechrau colli ei ddannedd babi felly mae'n bwysig gweld Deintydd bob 6 mis a'i annog i frwsio ei ddannedd ddwywaith y dydd.
  • Anogwch eich plentyn i fod yn fwy egnïol drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd y mae'n ei fwynhau, fel pêl-droed neu nofio. Bydd hyn yn ei helpu i gadw'n iach, cysgu'n well a mwynhau bod yn egnïol o oed cynnar a fydd yn ei helpu wrth iddo dyfu'n hŷn. 
  • Mae eich plentyn yn dal i ddatblygu a dysgu sut i ffitio mewn. Bydd stranciau, dicter a rhwystredigaeth yn digwydd o hyd; mae hyn yn hollol normal. 
  • Siaradwch â'ch plentyn am ei deimladau. Mae hyn yn ei helpu i fynegi'r teimladau hyn mewn geiriau.
  • Ceisiwch neilltuo amser i chwarae gan ei fod yn bwysig iawn o hyd i blant yr oed hwn. Gadewch i'ch plentyn ddewis sut yr hoffai dreulio'r amser hwn ac ymunwch ag ef. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gamu i fyd eich plentyn a dysgu beth mae'n ei feddwl a'i deimlo. 
  • Defnyddiwch amser chwarae pan fydd pethau'n mynd yn brysur. Gofynnwch iddo eich helpu gyda thasgau syml fel tacluso, rhoi dillad i gadw, neu osod y bwrdd. Efallai y gallwch wneud hyn i gerddoriaeth neu ganu. Bydd ei annog i helpu o gwmpas y tŷ yn ei helpu i deimlo fel plentyn mawr a gall gefnogi ymddygiad cadarnhaol.
  • Ceisiwch leihau'r amser y mae'n ei dreulio o flaen y teledu neu ar lechen neu ffôn. Gallwch dreulio amser gyda'ch plentyn drwy ddefnyddio Apiau sy'n datblygu ei sgiliau. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol amrywiaeth eang o Apiau am ddim i'w lawrlwytho http://literacyapps.literacytrust.org.uk/ (Dolen allanol)
  • Mae llawer o ffynonellau gwych o wybodaeth gyda chaneuon, llyfrau a gweithgareddau chwarae ar gael i'w helpu i ddarllen ac ysgrifennu:

Beth sydd ddim yn gweithio

  • Dydy smacio ddim yn gweithio. Gall droi pethau yn frwydr fawr. Gall ddysgu eich plentyn ei bod hi'n iawn bwrw rhywun sy'n iau nag ef.
  • Ceisiwch osgoi bychanu eich plentyn. Os bydd eich plentyn yn cael ei fychanu'n aml, gall effeithio ar ei hunan-barch. Ceisiwch ei annog i ymdrechu yn lle hynny. 
  • Peidiwch â chosbi camgymeriadau a damweiniau eich plentyn na'i feirniadu pan fydd yn gwneud rhywbeth yn anghywir. Mae eich plentyn yn dal i ddysgu. Canmolwch ac anogwch eich plentyn pan fydd yn gwneud rhywbeth yn gywir.

Mae'n iawn gofyn am help. Os ydych yn poeni eich bod yn teimlo dan straen, yn ddigalon neu'n isel, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu.