Neidio i'r prif gynnwy
Cyflwyno ein Hwynebau Magu Plant: blog y teulu Jones

Darllenwch y diweddaraf ar ein blog - Delio â Strancio

"Helo, fy enw i yw Natasha ac rwy’n fam llawn amser i dri o blant. Rwy’n byw mewn tŷ swnllyd yn y Rhyl gyda fy ngŵr, Dean, a’n tri phlentyn sy’n chwech, pedair a naw mis oed.

Fe ddechreuodd Dean a fi gael perthynas ddeng mlynedd yn ôl ac rydyn ni wedi bod yn briod am oddeutu wyth mlynedd. Rydyn ni’n ceisio bod yn rhieni eithaf hyblyg, sydd weithiau’n golygu anwybyddu rhai pethau a derbyn bod ychydig o anhrefn yn rhan o fywyd teuluol.

Sebastian yw’r hynaf, ac ef yw’r un allblyg o’r teulu. Mae’n hoffi sgwrsio â phobl ar fyrddau eraill pan fyddwn ni’n mynd allan i fwyta ac mae’n awyddus i fod yn ffrind i bawb. Mae’n mwynhau ei weithgareddau’n fawr, fel nofio a Beavers, ond mae hefyd yn hoffi ei amser tawel gartref – mae’n mwynhau tynnu lluniau ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n ceisio annog hynny oherwydd ei fod yn tueddu i’w dawelu ychydig!

Mae Imogen newydd droi’n bedair ac mae ganddi bersonoliaeth gref. Mae hi’n hapus iawn i ddisgrifio popeth mae hi wedi’i wneud yn y feithrinfa ac yn rhoi gwybod i ni pan fydd hi eisiau rhywbeth – neu pan nad yw hi’n hoffi rhywbeth.

Er mai dim ond naw mis oed yw Eliza, mae hi eisoes yn fywiog iawn, ac felly’n dilyn ôl troed ei chwaer. Er nad yw hi’n gallu siarad eto, mae hi’n dda am gyfathrebu ac rydych chi’n gwybod o iaith ei chorff pan fydd rhywbeth o’i le.

"Mae ein bywyd gartref fel corwynt ar hyn o bryd. Mae Dean yn mynd i’r gwaith yn eithaf cynnar yn ystod yr wythnos, sy’n golygu bod angen trefn sefydlog ar y gweddill ohonom. Mae gennym ni siart ar yr oergell sy’n atgoffa pawb o beth mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn i ni adael y tŷ yn y bore."

Efallai ’mod i’n swnio ychydig bach fel ‘hipi’, ond rydw i bob amser yn ceisio eu cyfarch yn y bore gyda gwên a chwestiwn positif, fel ydyn nhw wedi cysgu’n dda neu ba bethau cyffrous ydych chi’n mynd i’w wneud yn yr ysgol heddiw? Rwy’n credu bod hynny’n creu awyrgylch braf ar gyfer y diwrnod os yw’r plant yn teimlo eu bod wedi cael cysylltiad arbennig â fi yn gyntaf yn hytrach na’m bod i’n cyfarth cyfarwyddiadau atyn nhw a’u brysio.

"Rydyn ni bob amser wedi ceisio eistedd wrth y bwrdd fel teulu gyda’r nos a bwyta’r un bwyd - rwy’n rhy ddiog i goginio prydau bwyd gwahanol i bobl wahanol. Dyma ran orau’r dydd yn ôl Dean."

Mae’n gallu bod yn swnllyd ac yn straen weithiau, ond mae gennym ni rai rheolau - chewch chi ddim codi a cherdded o gwmpas a, hyd yn oed os nad ydych chi’n hoffi rhywbeth, chewch chi ddim dweud ei fod yn “ych a fi”.

Fy mhrif reol, hyd yn oed os yw pethau’n mynd allan o reolaeth, yw bod angen i chi amlygu’r pethau cadarnhaol yn eu hymddygiad.

Fel, “Sebastian, roeddet ti’n neis iawn i helpu Imogen gyda’i llun”, er bod y creonau wedi’u gwasgaru ar draws llawr y gegin. Os gallwch chi atgyfnerthu’r ymddygiad da bob dydd, bydd hynny’n eu hannog nhw i ailadrodd yr ymddygiad hwnnw’n amlach.

"At hynny, cyn gynted ag y byddwch chi’n gweiddi “paid gwneud hynny!”, fe allwch chi fod yn eithaf siwr y bydd yr ymddygiad hwnnw’n cael ei ailadrodd, oherwydd eu bod nhw’n gwybod y bydd yn cael ymateb."