Neidio i'r prif gynnwy
Cyflwyno ein Hwynebau Magu Plant: blog y teulu Price-Bates

"Helo, fy enw i yw Naomi Price-Bates. Rwy’n 27 oed, yn wraig i Sam, yn fam i Myla sy’n 16 mis oed ac yn fydwraig yng Nghaerdydd.

Fe wnes i a Sam gyfarfod yn 2011, pan oeddwn i’n fydwraig dan hyfforddiant ac roedd Sam newydd ddechrau ei swydd addysgu gyntaf. Fe ddyweddïon ni 18 mis yn ddiweddarach a phriodi wyth mis wedi hynny,  ym mis Chwefror 2014.

Yn yr hydref 2015, roedden ni wrth ein boddau i gael gwybod ein bod ni’n disgwyl Myla. Fe’i ganwyd ym mis Mai 2016, a newidiodd ein bywydau’n syth.

"Gan fy mod i’n fydwraig a Sam yn athro Addysg Gorfforol, roedd y ddau ohonon ni wedi cymryd yn ganiataol y byddwn i’n arbenigwraig ar ymdopi â baban ac y byddai profiad Sam o weithio gyda phlant hŷn yn fuddiol yn y blynyddoedd i ddod. Efallai y bydd ei sgiliau e’n dwyn ffrwyth yn y dyfodol, ond roeddwn i’n sicr yn anghywir! Roedd gofalu am ein baban newydd-anedig ni yn teimlo mor wahanol i ofalu am y babanod newydd-anedig yn y gwaith, ac roedd yr ychydig wythnosau cyntaf yn brofiad dysgu enfawr i ni’n dau."

Mae bod yn rhiant yn beth rhyfeddol, ond mae’n golygu newid enfawr i’ch bywyd. Ni all y llyfrau ddweud yn union beth fydd yn gweithio i’ch plentyn chi – profi a methu yw popeth, ac mae’n cymryd amser i ddod i adnabod eich plentyn, a deall eich credoau magu plant eich hun. Ni fydd unrhyw beth yn ‘clicio’ i’w le ar yr un pryd: cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn dechrau cysgu ychydig yn well, fe allai fod yn ffyslyd ynglŷn â’i fwyd neu ddechrau casáu’r gadair wthio.

Yn y dyddiau cynnar, heriol hynny, fe ddysgon ni wneud beth bynnag oedd yn helpu i ymdopi – i Sam, roedd hynny’n golygu mynd i’r gampfa neu allan i redeg, ac i mi roedd yn golygu cael ychydig o gwsg. Fe ddysgais nad oedd unrhyw beth o’i le ar fynd i fyny’r grisiau a chael ychydig o amser tawel tra bod ymwelwyr yn y tŷ. ’Does dim rhaid i chi fod yn westeiwr drwy’r amser. A gofynnais am help pan oedd perthnasau’n galw, ac roedden nhw’n falch o deimlo’n ddefnyddiol a bod yn gefn i ni.

Rydyn ni’n credu’n gryf na ddylai rhiant deimlo pwysau i gael plentyn perffaith. Mae’n ymwneud â mwynhau’r adegau sy’n werth chweil – fel dawnsio gyda’ch gilydd yn y gegin neu eu gweld nhw’n rhoi cwtsh i berthynas neu ffrind am y tro cyntaf – a dysgu na allwch chi reoli popeth.

Rydw i o blaid byw’n araf, mwynhau’r pethau bach mewn bywyd a pheidio â disgwyl na rhoi pwysau ar ein teulu i ddilyn patrwm penodol. Mae Myla’n ferch fach hapus. Mae hi’n dwlu cael tynnu ei llun ac rydyn ni’n ffodus iawn i fyw yn agos i barc, felly mae hi’n mynd yno bob dydd.

"Fy nghyngor i rieni newydd fyddai cyfathrebu: cyfathrebu â’ch partner, rhieni eraill, pobl ar y rhyngrwyd, unrhyw un. Mae trafod bob amser yn gwneud pethau’n well, p’un a ydych chi eisiau dadlwytho neu gael sgwrs mam falch ynglŷn â geiriau newydd mae’ch plentyn bach yn gallu eu dweud. Rhannu yw’r ffordd orau o’ch cynorthwyo eich hun a phobl eraill. Ond peidiwch â’ch cymharu eich hun â phobl eraill. Anwybyddwch y teulu sy’n edrych yn berffaith ar gyfryngau cymdeithasol a gwnewch beth sy’n gweithio i chi a’ch teulu. Bydd popeth wyneb i wared am yr ychydig wythnosau cyntaf, ond ni fydd yn para am byth a bydd yn gwella bob tro."

Postiadau diweddaraf gan y teulu Price-Bates:

Torri costau

Plant yn ymgysylltu â byd natur