Tips ymarferol a chyngor arbenigol, am ddim, ar gyfer eich holl heriau magu plant





Stopio cosbi corfforol yng Nghymru
Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.
Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol.
Llinellau Cymorth
Family lives
Mae Family Lives yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim i deuluoedd yng Nghymru ar bob agwedd o fagu plant a bywyd teuluol. I siarad â rhywun ffoniwch 0808 800 2222 neu ewch i Parenting and Family Support - Family Lives (Parentline Plus) i gael mynediad i'r sgwrs fyw.
Parent Talk Cymru (Action for Children/Gweithredu dros Blant)
Yn cynnig sgwrs cyfrinachol am ddim gyda hyfforddwr rhianta cymwys yn Saesneg neu Gymraeg. Ewch i Parent Talk - Cymru - Support for Parents from Action For Children/Gweithredu dros Blant.