Eich plentyn yn 5 i 7 oed
Mae gwylio eich plentyn yn tyfu fyny, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, eu cefnogi ar ddiwrnod mabolgampau a rhoi cymeradwyaeth mewn dramâu ysgol yn rhai o uchafbwyntiau'r rhan fwyaf o rieni.
Yn yr oedran hwn, bydd eich plentyn yn datblygu ymdeimlad cryf o annibyniaeth. Byddant yn cymdeithasu yn bennaf â phlant sydd tua'r un oed ac yn ffurfio cydberthnasau a chyfeillgarwch newydd yn annibynnol ar ei deulu.
Mae'r canlynol yn rhoi gwybodaeth i chi am y camau newydd hyn yn natblygiad eich plentyn yn ogystal â chynghorion ar yr hyn y gallwch ei wneud i gefnogi eich plentyn. Efallai y bydd eich plentyn yn gwneud rhai pethau yn gynt neu'n hwyrach nag a nodir yma.
Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn bach yn yr e-lyfr Pob Plentyn 4 i 7 oed. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am amser sgrin, byrbrydau a rheoli emosiynau a theimladau mawr.
Os ydych yn poeni am ddatblygiad eich plentyn, holwch eich ymwelydd iechyd, eich meddyg teulu neu'ch ysgol.
Rhwng 5 a 6 oed, efallai y bydd eich plentyn yn:
- gallu ysgrifennu un neu ddwy lythyren yn eu henw ac adnabod a chanu ynghyd â chân yr wyddor
- gallu dal siswrn yn gywir a'i ddefnyddio i dorri siapiau papur
- tynnu lluniau sy'n haws eu hadnabod fel tai, ceir, blodau a phobl
- yn dysgu nofio neu allu reidio beic gyda neu heb sefydlogwyr
- gallu hercio, dawnsio, sgipio, neidio gyda'r ddwy droed, dringo, cerdded yn gyson ar waliau isel neu drawstiau, dal pêl gyda'u dwylo yn hytrach na'u breichiau
- datblygu cyfeillgarwch rheolaidd ac agos, yn bennaf gyda phlant o'r un rhyw neu sydd â'r un diddordebau â nhw. Efallai y byddant hefyd yn teimlo angen cryf i gael eu derbyn gan eu cyfoedion a gall teimlo eu bod yn cael eu 'gadael allan' eu cynhyrfu
- gallu ysgrifennu geiriau byr fel 'ci', 'cath', 'Mam' a 'Dad' a gwahaniaethu rhwng llythrennau bach a phriflythrennau. Mae'n normal i blant yr oed hwn ysgrifennu rhai llythrennau am yn ôl
- cofio storïau a dechrau eu hactio gyda'i deganau neu ofyn i chi chwarae rôl
- dechrau adnabod rhigymau mewn llyfrau ac mewn caneuon
- bwyta'n fwy awchus gan ei fod yn defnyddio mwy o egni yn ystod diwrnodau llawn yn yr ysgol heb gael nap
- teimlo'n flinedig ac angen mwy o amser 'tawel' i brosesu ei ddiwrnod; efallai y bydd yn fwy crintachlyd am dipyn tra'i fod yn ymgyfarwyddo â diwrnodau llawn
Rhwng 6 a 7 oed, efallai y bydd eich plentyn yn:
- gallu clymu careiau ei esgidiau
- gallu cyfrif i 100 a chyfrif rhai rhifau am yn ôl
- gallu gwneud rhywfaint o fathemateg sylfaenol fel 'mae ychwanegu 1 afal at 2 afal yn gwneud 3 afal' ac yn gallu dweud pan fydd rhifau yn uwch na rhif arall
- gallu rhoi ei enw llawn a gwybod ei oedran, dyddiad ei ben-blwydd a ble mae'n byw
- gallu dechrau gwneud ei rigymau ei hun a mwynhau jôcs syml
- defnyddio geirfa o fwy na 5,000 o eiriau ar gyfartaledd
- gallu darllen hyd at ddeg o eiriau hawdd a chyfarwydd, fel 'cath' a 'ci', a darllen rhai llyfrau syml. Efallai y gall gopïo geiriau byr ac ysgrifennu rhai geiriau cyfarwydd heb help
Cynghorion i annog a chefnogi datblygiad eich plentyn
- Rhowch lawer o gwtshus, sylw a chanmoliaeth i’ch plentyn. Gall diwrnod yn yr ysgol fod yn flinedig i'ch plentyn a gall arwain at ymddygiad crintachlyd. Gall annog gweithgareddau dawel ar ôl ysgol helpu.
- Efallai yr hoffech hefyd ystyried gosod canlyniadau os na fydd yn ymddwyn fel yr hoffech iddo wneud. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi llawer o cuddles a sylw i'ch plentyn pan fyddant yn cynhyrfu hefyd. Mae'n bwysig eu bod yn deall eich bod chi gyda nhw beth bynnag.
- Cadwch at yr un drefn gymaint â phosibl. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch plentyn i gael teimlad o sicrwydd. Ceisiwch fwydo, ymolchi a rhoi’ch plentyn i’w wely tua’r un amser bob dydd. Byddant yn cael eu cyflwyno i gymaint o heriau newydd a byddant yn cymryd cysur yn ddiogelwch pethau maen nhw'n teimlo'n gyfarwydd â nhw. Dewch o hyd i drefn sy’n gweithio i’ch teulu chi.
- Ceisiwch ddangos yr ymddygiad rydych chi am i’ch plentyn ei ddysgu. Trwy wylio sut rydych chi'n ymddwyn, bydd eich plentyn yn dysgu sut i ymateb mewn sefyllfaoedd tebyg. Chi yw model rôl eich plentyn. Er enghraifft, bod yn gwrtais, yn garedig ac yn barchus i'ch plentyn.
- Siaradwch â'ch plentyn am ei deimladau. Mae hyn yn ei helpu i fynegi'r teimladau hyn mewn geiriau. Bydd hefyd yn eu helpu i fynegi eu hunain yn well a bydd yn rhoi geiriau ac ystyr i'r teimladau hyn.
- Bydd stranciau, dicter a rhwystredigaeth yn digwydd o hyd yn yr oedran hwn. Mae’ch plentyn yn dal i ddatblygu a dysgu sut i ffitio mewn. Mae hyn yn hollol normal.
- Dangoswch ddiddordeb yn yr hyn sydd gan eich plentyn i'w ddweud. Bydd hyn yn dangos i'ch plentyn ei fod yn bwysig i chi. Anogwch eich plentyn i siarad drwy ddefnyddio cwestiynau agored fel "Beth oedd y peth gorau am dy ddiwrnod?". Gofynnwch i’ch plentyn feddwl am ddiweddglo newydd i’w hoff storïau er mwyn ei helpu i feddwl yn greadigol.
- Siaradwch gair neu ddau o Gymraeg bydd siarad ychydig bach o Gymraeg gyda'ch babi yn rhoi'r dechrau dwyieithog gorau iddo.Gall Cymraeg i Blant helpu gyda eiriau i’w ddefnyddio.
- Bydd eich plentyn yn cymysgu ac yn cymdeithasu mwy yn yr ysgol, efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth arnynt i wneud ffrindiau, yn enwedig os yw'ch plentyn yn swil.
- Cofiwch chwarae. Ceisiwch neilltuo amser i chwarae gan ei fod yn bwysig iawn o hyd i blant yr oed hwn. Gadewch i'ch plentyn ddewis sut yr hoffai dreulio'r amser hwn ac ymunwch ag ef. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gamu i fyd eich plentyn a dysgu beth mae'n ei feddwl a'i deimlo. Gallwch gael syniadau ar gyfer gweithgareddau chwarae ar Plentyndod Chwareus. Mae hefyd yn syniad da i’w helpu nhw dysgu am rannu.
- Rhannwch lyfr. Bydd eich plentyn wrth ei fodd â'r amser arbennig hwn gyda chi, a gall eu helpu i ymlacio cyn amser gwely. Siaradwch am yr hyn sy'n digwydd yn y stori ac yn y lluniau. Gallwch ofyn am lyfrau addas sy'n addas i'w hoedran yn eich llyfrgell leol. Gallwch gael syniadau ar gyfer caneuon a llyfrau ar Geiriau am Oes.
- Defnyddiwch amser chwarae pan fydd pethau'n mynd yn brysur. Gofynnwch iddo eich helpu gyda thasgau syml fel tacluso, rhoi dillad i gadw, neu osod y bwrdd. Efallai y gallwch wneud hyn i gerddoriaeth neu ganu. Bydd ei annog i helpu o gwmpas y tŷ yn ei helpu i deimlo fel plentyn mawr a gall gefnogi ymddygiad cadarnhaol.
- Anogwch eich plentyn i fod yn fwy egnïol drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd y mae'n ei fwynhau, fel pêl-droed neu nofio. Bydd hyn yn ei helpu i gadw'n iach, cysgu'n well a mwynhau bod yn egnïol o oed cynnar a fydd yn ei helpu wrth iddo dyfu'n hŷn.
- Ceisiwch osgoi gormod o thechnoleg fel teledu, llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn, ond cyfyngwch eu defnydd. Canfyddwch cydbwysedd amser sgrin sy’n gweithio i‘ch plentyn a’ch teulu.
- Bydd eich plentyn yn dechrau colli ei ddannedd babi felly mae'n bwysig gweld Deintydd bob 6 mis a'i annog i frwsio ei ddannedd ddwywaith y dydd.
Mae’r rhan fwyaf o rieni yn wynebu adegau pan maen nhw’n teimlo eu bod wedi’u profi i’w terfynau. Nid oes neb yn berffaith. Mae pawb yn colli ei dymer weithiau, ac yn dweud pethau maen nhw’n difaru wedyn. Mae’n iawn dweud sori wrth eich plentyn os ydych chi wedi bod yn flin ag ef. Drwy ymddiheuro wrthyn nhw, mae’n eu helpu i weld yr hyn y gallan nhw ei wneud er mwyn gwneud pethau’n iawn pan fyddan nhw’n colli eu tymer.
Peidiwch â smacio na chosbi’ch plentyn yn gorfforol. Mae hyn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae angen i blant deimlo’n ddiogel yn eu teulu ac yn eu cartref er mwyn gallu bod ar eu gorau.
Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.
Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn o defnydd i chi hefyd:
- Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (C.A.L.L.): cysylltwch ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr). Mae’r hon yn llinell gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
- Samaritans yng Nghymru ar 0808 164 0123. Gallwch gysylltu am unrhyw beth sy’n eich poeni chi, waeth pa mor fawr neu fach yw’r mater.
