Neidio i'r prif gynnwy

10. Cwsmeriaid agored i niwed

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) yn diffinio cwsmer bregus fel “rhywun sydd, oherwydd ei amgylchiadau personol, yn arbennig o agored i niwed, yn enwedig pan nad yw cwmni’n gweithredu gyda lefelau priodol o ofal”. Yn unol â hynny, efallai y bydd angen lefel wahanol o ymgysylltu ar gwsmeriaid o'r fath er mwyn diwallu eu hanghenion penodol. Cwsmeriaid sy'n 'arbennig' o agored i niwed yw'r rhai nad oes ganddynt y galluedd meddyliol efallai i wneud penderfyniadau ariannol.

Gall defnyddwyr mewn amgylchiadau bregus fod yn sylweddol lai abl i gynrychioli eu buddiannau eu hunain na’r defnyddiwr cyffredin, ac yn fwy tebygol o ddioddef niwed. Gall unrhyw ddefnyddiwr ddod yn agored i niwed ar unrhyw adeg yn ei fywyd, er enghraifft trwy salwch difrifol, profedigaeth neu golli incwm. Disgwylir y bydd mwy o ddefnyddwyr mewn amgylchiadau bregus ers dyfodiad Covid-19, a bydd llawer o’r rheini newydd fod yn agored i niwed a/neu â nifer o yrwyr bregusrwydd.

Ein polisi

Mynediad - Prif amcan ymdrin â chwsmeriaid sy'n agored i niwed yw ceisio rhoi'r un mynediad iddynt at gynnyrch a gwasanaethau ag sydd ar gael i bob cwsmer.

Cefnogaeth - Bydd cwsmeriaid agored i niwed yn cael cymorth sy'n addas ar gyfer eu bregusrwydd penodol.

Triniaeth fwy ffafriol - Lle bo'n briodol, gellir cynnig triniaeth fwy ffafriol i gwsmeriaid bregus na chwsmeriaid nad ydynt yn agored i niwed er mwyn cymryd eu bregusrwydd i ystyriaeth, ee rhoi mwy o amser iddynt wneud penderfyniadau ariannol.

Systemau a phrosesau - Byddwn yn ceisio sicrhau nad yw ein systemau a'n prosesau yn achosi straen ychwanegol i gwsmeriaid bregus.

Beth mae'n ei olygu i chi

Os ydych yn agored i niwed neu’n dod yn agored i niwed, byddwn yn ceisio, lle bo’n briodol, i:

  • sicrhau nad ydych dan anfantais wrth gael mynediad at ein cynnyrch a’n gwasanaethau,
  • ddarparu cymorth i chi sy'n addas ar gyfer eich amgylchiadau penodol,
  • gymryd agwedd hyblyg at gymhwyso ein polisïau, ee ar gyfer casglu ôl-ddyledion, a
  • chymryd agwedd hyblyg at gymhwyso ein gweithdrefnau gweithredu safonol i ddarparu ar gyfer eich gofynion.