Yn y canllaw hwn
7. Ôl-ddyledion
Ôl-ddyledion yw:
- ffioedd rheoli heb eu talu;
- taliadau llog heb eu talu; a/neu
- unrhyw symiau eraill sy'n ddyledus mewn perthynas ag unrhyw daliadau neu daliadau llog eraill.
Ein polisi
- Cyfrifon heb eu rheoleiddio – Er mai dim ond rhai o’r cyfrifon o dan y cynllun sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, byddwn yn trin cyfrifon heb eu rheoleiddio â safonau cyfatebol.
- Trin y Cwsmer yn Deg – Bydd benthycwyr yn cael eu trin yn unol ag egwyddorion Trin y Cwsmer yn Deg, gan roi ystyriaeth ddyledus i oddefgarwch a ‘lle i anadlu’ fel y bo'n briodol.
- Dilysu – Cyn mynd ar drywydd benthyciwr i ad-dalu ôl-ddyledion, byddwn yn cymryd camau rhesymol i wirio cywirdeb a digonolrwydd y data sy'n ymwneud â'r cyfrif mewn ôl-ddyledion i sicrhau ei fod yn mynd ar ôl y benthyciwr wedi'i ddilysu yn unig ac am y swm cywir.
- Hysbysu – Bydd benthycwyr y mae eu cyfrifon yn mynd i ddyled yn cael gwybodaeth am yr ôl-ddyledion cyn gwneud unrhyw ymdrech i adennill yr ôl-ddyledion. Ar ôl cael gwybodaeth addas am eu hôl-ddyledion, bydd benthycwyr yn cael cyfnod rhesymol o amser i dalu'r ôl-ddyledion.
- Cyfeirio – Pan fydd cyfrif yn mynd i ôl-ddyledion a'r benthyciwr yn profi anawsterau ariannol, byddwn yn cyfeirio'r benthyciwr at ffynhonnell cyngor annibynnol am ddim ar ddyledion.
- Asesiad – Lle bo benthyciwr mewn ôl-ddyledion, byddwn yn cymryd camau i ddeall amgylchiadau ariannol benthyciwr er mwyn pennu cynllun rheoli ôl-ddyledion addas.
- Offer rheoli ôl-ddyledion – Bydd amrywiaeth o offer addas ar gael i fenthycwyr ag ôl-ddyledion i allu mynd i'r afael â'r materion ad-dalu amrywiol y gall benthycwyr eu hwynebu.
- Diffygdaliad – Rhoddir Hysbysiad o Ddiffygdalu i fenthyciwr 180 diwrnod ar ôl i fenthyciad fynd i ôl-ddyledion lle: ni fu unrhyw ymgysylltiad na chydweithrediad gan y benthyciwr; neu nid yw'r benthyciwr wedi bodloni unrhyw gytundebau rheoli ôl-ddyledion a wnaed. Bydd yr Hysbysiad o Ddiffygdalu yn rhoi 28 diwrnod o rybudd i'r benthyciwr dalu'r ôl-ddyledion.
Yr hyn y mae'n ei olygu i chi
Prif amcan rheoli ôl-ddyledion yw helpu benthycwyr i ddod yn ôl ar y trywydd iawn gyda'u had-daliadau benthyciad. Mae ein polisi ôl-ddyledion yn golygu:
- Byddwch yn cael eich trin yn yr un ffordd yn y bôn â benthyciwr gyda chyfrif wedi'i reoleiddio, hyd yn oed os nad yw’ch cyfrif yn cael ei reoleiddio.
- Byddwn yn rhoi digon o wybodaeth i chi am eich ôl-ddyledion i chi ddeall y sefyllfa.
- Byddwn yn rhoi digon o amser i chi wneud iawn am eich ôl-ddyledion.
- Os na allwch wneud iawn am eich ôl-ddyledion yn y tymor byr, byddwn yn eich helpu i ddewis dull o ad-dalu sy'n addas i'ch amgylchiadau.