Neidio i'r prif gynnwy

2. Pwy sy'n gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer cynllun Cymorth i Brynu – Cymru:

  • rhaid ichi brynu cartref cymwys, sy’n werth uchafswm o £300,000 (o 1 Ebrill 2023) gan adeiladwr sydd wedi cofrestru dan y cynllun
  • rhaid ichi allu ariannu hyd at 80% o’r eiddo drwy gyfuniad o forgais ad–dalu, a blaendal o 5% fan lleiaf o’r pris prynu
  • rhaid ichi drefnu morgais ad–dalu cyntaf gyda rhoddwr benthyciadau cymwys
  • rhaid ichi beidio ag isosod unrhyw ran o'r cartref yr ydych yn ei brynu drwy'r cynllun
  • ni chewch rentu eich cartref presennol a phrynu ail gartref drwy'r cynllun

Ansicr ai dyma'r cynllun ichi?

Defnyddiwch y chwiliwr i ddod o hyd i'r cynlluniau y gallwch chi fod yn gymwys i fanteisio arnyn nhw.