Yn y canllaw hwn
10. Costau Byw
Os ydych chi'n poeni am reoli'ch arian, gan gynnwys taliadau eich benthyciad ecwiti, gall ymddangos yn haws ei anwybyddu, ond peidiwch â gwneud hynny.
Eich opsiynau
Mae yna nifer o opsiynau ar gael a allai eich helpu. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw'r opsiynau hyn ond hefyd sut y gallent effeithio arnoch chi yn y dyfodol.
Byddwch yn onest
Byddwch yn onest am eich sefyllfa, gan gynnwys dweud wrthym am unrhyw wybodaeth gefndirol aallai ein helpu ni i ddod o hyd i'r opsiwn gorau i chi.
Os yw’n bosibl y byddwch yn methu taliadau oherwydd eich bod chi'n cael trafferth gydag arian, mae bob amser yn well dweud wrth bobl yn gyntaf fel y gallwch lunio cynllun gweithredu gyda’ch gilydd.
Taliadau coll
Mae'n bwysig dweud wrthym os ydych yn mynd i fethu taliad oherwydd bydd angen i chi dalu hwn yn ôl pan fyddwch yn dod i ad-dalu'ch benthyciad ecwiti.
Os byddwch yn gwneud trefniant gyda'ch benthyciwr morgais, rhowch wybod i ni fel y gallwn geisio eich helpu.
Gallai gwneud dim wneud pethau'n waeth
Mae’n bosibl y cymerir camau yn eich erbyn am fethu taliadau, a gallech yn y pen draw dalu mwy mewn llog a thaliadau. Gallai taliadau a fethwyd effeithio ar eich statws credyd, gan ei gwneud yn fwy anodd cael credyd yn y dyfodol.
Gweithiwch allan faint rydych chi'n ei wario
Bydd creu cofnod misol o’ch gwariant, o’r hyn sy’n dod i mewn a’r hyn sy’n mynd allan, yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y gallech fod yn gwario gormod arno neu ar yr hyn y gallech ei gwtogi.
Nodwch eich dyledion sydd â blaenoriaeth, fel morgeisi, y dreth gyngor, neu filiau nwy neu drydan, ac ymrwymwch i fynd i’r afael â nhw'n gyntaf gan fod y rhain yn ddyledion brys.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni a gall un o'n cynghorwyr arbenigol esbonio'ch opsiynau a'ch cynlluniau.
Ffôn: 08000 937 937
(Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) Opsiwn 3
Ffacs:029 2080 3451
E-bost: casgliadau@cymorthibrynucymru.co.uk
Sefydliadau eraill a allai helpu
Isod, rydym wedi rhestru rhai sefydliadau a allai gynnig cyngor am ddim i chi os ydych yn cael trafferth gydag arian
Mae StepChange yn darparu cyngor am ddim ar ddyledion, i'ch helpu i ddelio â'ch dyled a dod o hyd i ddatrysiad.
Ffôn: 0800 138 1111
Os ydych chi eisiau cyngor ac arweiniad ariannol cyffredinol, gall yr isod helpu:
Bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y dewisiadau cywir, gan gynnwys help i ddelio â’ch problemau dyledion.
Ffôn: 0300 330 1313
Mae MoneyHelper yn helpu cannoedd o filoedd o bobl â phryderon tebyg bob blwyddyn. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddatrys eich anawsterau.
Ffôn: 0800 138 7777