Yn y canllaw hwn
6. Cwynion
Gallwch gwyno i Cymorth i Brynu Cymru dros y ffôn neu yn ysgrifenedig ar ffurf neges e-bost neu lythyr, am Cymorth i Brynu Cymru, neu am rywun sy’n gweithio i Gymorth i Brynu Cymru. Gallai eich cwyn ymwneud ag achlysur lle gallai Cymorth i Brynu Cymru fod wedi darparu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol a allai fod wedi achosi oedi neu ddryswch, neu pan nad oeddem wedi ymateb i’ch ymholiad neu wedi’i gamddeall, neu pan nad ydym wedi darparu safon y gwasanaeth rydych chi’n ei disgwyl. Gall rhywun arall gwyno ar eich rhan hefyd.
Trin Cwynion
- Lle bynnag y bo modd, bydd Cymorth i Brynu Cymru yn ceisio datrys eich cwyn ar y pwynt cyswllt cyntaf. Byddwn yn gwirio eich bod yn cytuno bod eich pryderon wedi cael eu hateb i’ch boddhad, a’ch bod yn hapus i gau eich cwyn. Bydd Cymorth i Brynu Cymru yn cipio’r wybodaeth hon ac yn ei galw’n Adborth Cwsmeriaid. Byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn cadarnhau hyn, ac yn cynnwys ein manylion cyswllt os ydych am ddod yn eich ôl a pharhau â’ch cwyn.
- Os na all Cymorth i Brynu Cymru ddatrys eich cwyn i’ch boddhad ar y pwynt cyswllt cyntaf, byddwn yn ceisio ei datrys o fewn tri diwrnod busnes gyda chefnogaeth ein tîm rheoli. Unwaith eto, byddwn yn gwirio bod eich pryderon wedi cael eu hateb i’ch boddhad a’ch bod yn hapus i gau eich cwyn. Bydd Cymorth i Brynu Cymru yn casglu’r wybodaeth hon ac yn ei galw’n Gŵyn Datrysiad Cynnar. Byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau hyn, ac yn cynnwys ein manylion cyswllt os ydych am ddod yn eich ôl a pharhau â’ch cwyn, a manylion Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol y gallwch gyfeirio’ch cwyn ato os ydych yn dal yn anfodlon â Chymorth i Brynu Cymru.
- Os na fydd Cymorth i Brynu Cymru yn gallu datrys y gŵyn o hyd ar y pwynt hwn, byddwn yn casglu’r wybodaeth hon ac yn agor Cwyn Llawn. Byddwn yn anfon llythyr atoch, o’r enw’r Gydnabyddiaeth, i gydnabod eich cwyn, yn cadarnhau pwy sy’n ymchwilio i’ch cwyn ac i beth y byddant yn ei ymchwilio. Bydd Cymorth i Brynu Cymru yn ymchwilio i gymaint o fanylion ag sydd eu hangen. Bydd gwybodaeth ychwanegol hefyd yn cael ei chasglu, gan gynnwys cael gwybodaeth yn uniongyrchol gan unrhyw un o’n aelodau o staff dan sylw.
- Ar ôl ymchwilio i’ch cwyn, gwneir penderfyniad ynghylch a yw Cymorth i Brynu Cymru yn derbyn eich cwyn, yn ei chadarnhau, neu’n anghytuno â hi, neu’n ei gwrthod. Os caiff y gŵyn ei chadarnhau, gwneir penderfyniad ynghylch a yw’n briodol cynnig iawndal i chi ai peidio.
- Bydd canlyniad yr ymchwiliad yn cael ei gyfleu i chi mewn llythyr, a elwir yn Ymateb Terfynol. Bydd hwn yn cael ei anfon o fewn wyth wythnos (56 diwrnod) i Cymorth i Brynu Cymru gael eich cwyn a bydd yn cynnwys canlyniad yr adolygiad, gan gynnwys ein rhesymau dros dderbyn / gwrthod eich cwyn, ynghyd â manylion unrhyw gamau unioni neu iawndal y cytunwyd arnynt.
- Os nad yw Cymorth i Brynu Cymru wedi gallu darparu Ymateb Terfynol o fewn y terfyn amser wyth wythnos, byddwn yn anfon llythyr atoch yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad i’ch cwyn yn nodi pryd y gallwch ddisgwyl yr ymateb terfynol i’ch cwyn ac yn egluro’ch opsiynau ar gyfer datrys anghydfodau, a elwir yn “Ymateb wyth wythnos".
- Os nad ydych chi’n derbyn canfyddiadau Cymorth i Brynu Cymru neu ein cynnig o iawndal, gallwch gyfeirio’r gŵyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy’n nodi ei broses ar ei wefan.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Gymorth i Brynu Cymru
- Os ydych chi am wneud cwyn, ni fyddwn ni’n gosod unrhyw rwystrau yn eich ffordd.
- Byddwn yn ceisio delio â’ch cwyn ar unwaith.
- Os na allwn ddelio â’ch cwyn ar unwaith, byddwn yn cynnal ymchwiliad digonol i ddod i benderfyniad teg.
- Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein hymchwiliad i’ch cwyn.
- Byddwn yn nodi canlyniad ein hymchwiliad yn ysgrifenedig ac yn egluro sut y daethom i’n penderfyniad.
- Byddwn yn dweud wrthych chi beth allwch chi ei wneud os nad ydych chi’n cytuno â’n penderfyniad.
Sut i gysylltu â Chymorth i Brynu Cymru os oes gennych gŵyn
Ffôn: 08000 937 937 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm), pwyswch Opsiwn 4
Ffacs: 029 2080 3451
E-bost: cr@cymorthibrynucymru.co.uk
