Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir - Ynglŷn â'r cyfrifiad (pob trafodiad)
Canllawiau ar sut i lenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) gan ddefnyddio gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw dyddiad y contract?
Rhaid defnyddio'r fformat dd/mm/bbbb ar gyfer y dyddiad, er enghraifft '31/01/2023' a rhaid iddo fod yn ddyddiad heddiw neu ddyddiad yn y gorffennol. Gallwch roi dyddiad yn y dyfodol neu ei adael yn wag i ddangos swm tebygol o dreth. Fodd bynnag, mae’n rhaid rhoi dyddiad cywir ar y cam cyflwyno.
Os nad oes dyddiad contract ar gyfer y trafodiad, defnyddiwch y dyddiad dod i rym.
Beth yw dyddiad dod i rym y trafodiad?
Dyddiad dod i rym trafodiad tir fel arfer yw’r dyddiad y cwblheir y trafodiad; nid y dyddiad cyfnewid contractau. Ond, mae rheolau hefyd ynglŷn â ‘chyflawni’n sylweddol’ sy’n golygu y gallai TTT fod yn ddyledus yn gynt.
Rhagor o ganllawiau ar 'gyflawni’n sylweddol'
Rhaid i’r dyddiad fod yn y fformat dd/mm/bbbb, er enghraifft 01/04/2018. Gallwch roi dyddiad yn y dyfodol neu ei adael yn wag i ddangos y swm tebygol o dreth. Fodd bynnag, mae’n rhaid rhoi dyddiad cywir ar y cam cyflwyno.
Ydych chi'n hawlio rhyddhad treth?
Atebwch ‘Ydw’ os yw'r prynwr yn hawlio unrhyw ryddhad treth sydd ar gael o dan reolau TTT.
Os nad yw'r prynwr yn hawlio rhyddhad, atebwch 'Nac ydw' ac fe fydd yn mynd â chi ymlaen i'r adran nesaf 'Beth yw cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu werth arian, gan gynnwys unrhyw TAW sy'n daladwy mewn gwirionedd, ar gyfer y trafodiad (gan gynnwys unrhyw bremiwm)?'
Nid oes rhyddhad i brynwyr tro cyntaf ar gael yng Nghymru.
Dylech gofio nad yw rhyddhad yr un fath ag esemptiad. Os yw trafodiad yn esempt rhag TTT, does dim angen ffeilio ffurflen dreth o gwbl.
Pa ryddhad treth ydych chi’n ei hawlio?
Dewiswch bob rhyddhad mae’r prynwr yn ei hawlio.
| Cod | Disgrifiad o’r rhyddhad |
|---|---|
| 001 | Caffael anheddau penodol |
| 002 | Rhyddhad i elusennau |
| 003 | Rhyddhad grŵp |
| 004 | Tai cymdeithasol |
| 005 | Cyn cwblhau - is–werthiant cymwys |
| 006 | Cyn cwblhau - aseinio hawliau |
| 007 | Rhyddhad gwerthu ac adlesu |
| 008 | APFR: ar les i berson |
| 009 | APFR: wed’i ail-werthu i berson |
| 010 | AFIBR: cyntaf ac ail |
| 011 | Gwasanaeth iechyd a chyrff cyhoeddus |
| 021 | Corffori LLP |
| 022 | Atgyfansoddi |
| 023 | Cymdeithasau adeiladu, cymdeithasau cyfeillgar |
| 024 | OEIC |
| 025 | Pryniant gorfodol |
| 026 | Rhwymedigaethau cynllunio |
| 027 | Masnachwr eiddo |
| 028 | Adleoli cyflogaeth |
| 029 | Cyd-berchnogaeth |
| 031 | Rhyddhad a gynhwysir yn atodlen 22 DTTT a rhyddhad diplomyddol |
| 032 | Rhyddhad safleoedd treth arbennig |
| 050 | Rhannol - Anheddau lluosog |
| 051 | Rhannol - Caffael penodol o anheddau |
| 052 | Rhannol - Rhyddhad i elusennau |
| 053 | Rhannol - Cyn cwblhau |
| 054 | Rhannol - Rhyddhad caffael |
| 055 | Rhannol - Masnachwr eiddo |
| 056 | Rhannol - Adleoli cyflogaeth |
| 057 | Rhannol - Hawliau ar y cyd |
| 058 | Rhannol - Cydnabyddiaeth ddibynnol |
| 059 | Rhannol - Cyd-berchnogaeth |
| 060 | Rhyddhad rhannol safleoedd treth arbennig |
A yw rhyddhad yn cael ei hawlio ar ran o'r trafodiad yn unig?
Os nad yw'r rhyddhad yn lleihau swm y gydnabyddiaeth sy’n drethadwy dan y Dreth Trafodiadau Tir i £0, atebwch ‘Ydy’. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.
Rhowch y swm sy’n ar ôl yn drethadwy
Rhwch swm y gydnabyddiaeth (mewn arian neu gyfwerth ariannol, gan gynnwys TAW) sy’n dal yn drethadwy dan y Dreth Trafodiadau Tir ar ôl i bob rhyddhad perthnasol gael ei ystyried.
Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf.
Faint o anheddau sy’n cael eu prynu?
Nodwch gyfanswm yr anheddau a brynwyd fel rhan o'r pryniant hwn.
Beth yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am yr anheddau a brynwyd?
Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf.
A oes unrhyw un o’r anheddau a brynwyd yn is-anheddau?
Atebwch 'Ydy' os oes unrhyw is-anheddau. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.
Faint o’r anheddau sy’n is-anheddau?
Rhowch nifer yr is-anheddau.
Beth yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am yr is-annedd/is-anheddau?
Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf.
Rhagor o ganllawiau ar gydnabyddiaeth drethadwy
A yw’r trafodiad yn cynnwys unrhyw dir arall, megis tir amhreswyl?
Atebwch 'Ydy' os oes unrhyw dir arall. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.
Beth yw'r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am y tir arall?
Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf.
Beth yw cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol, gan gynnwys unrhyw TAW sy'n daladwy mewn gwirionedd, ar gyfer y trafodiad (gan gynnwys unrhyw bremiwm)?
Rhowch gyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n cael ei rhoi ar gyfer y rhan o'r trafodiad y mae TTT yn daladwy arni (peidiwch â chynnwys unrhyw ran o'r trafodiad y mae SDLT yn daladwy arni yn Lloegr neu’r LBTT yn yr Alban.)
Dylai'r swm y byddwch yn ei nodi fel cydnabyddiaeth gynnwys y canlynol lle bo’n briodol:
- cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddwyd gan y prynwr ym mha ffurf bynnag, am y tir neu eiddo
- cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer yr aseiniad
- unrhyw bremiwm
- os oes gofyniad cyfreithiol i dalu TTT ar y gwerth marchnadol, nodwch y gwerth marchnadol
- unrhyw TAW sydd i'w thalu mewn gwirionedd
Os oes les yn gysylltiedig â'r trafodiad, ni ddylai gynnwys rhent.
Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf.
