Mae'r Unedau Tystiolaeth yn gweithio i wella tystiolaeth am anghydraddoldeb ar gyfer unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig.
Cynnwys
Cyflwyniad
Er mwyn deall anghydraddoldeb yng Nghymru, mae ein strategaeth yn pwysleisio'r angen am dystiolaeth i wella o ran:
- argaeledd
- ansawdd
- manylder
- hygyrchedd
Mae gwella tystiolaeth yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau mwy cytbwys. Gall hyn helpu i wella ymchwil ac ystadegau a gyhoeddir ar draws Llywodraeth Cymru. Y nod terfynol yw lleihau'r anghydraddoldeb sy'n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Rydym yn ychwanegu at ystadegau ac ymchwil sy'n bodoli eisoes drwy fynd i'r afael â heriau hirsefydlog gyda thystiolaeth yn y maes hwn.
Rydym yn:
- rhoi arweiniad i ddadansoddwyr sy'n gweithio ar ymchwil polisi ac ystadegau i helpu i gymhwyso ystyriaethau cydraddoldeb.
- rhoi cefnogaeth i sicrhau bod cynlluniau cydraddoldeb trawsbynciol yn cael eu llywio mwy gan dystiolaeth, fel y:
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
- Cynllun Gweithredu LHDTC+
- Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau
Cytunir ar ein cynllun tystiolaeth o bryd i'w gilydd i adlewyrchu'r blaenoriaethau cydraddoldeb presennol. Mae ein cynllun hefyd yn ymateb i flaenoriaethau strategol sy'n codi.
Ffynonellau tystiolaeth cydraddoldeb
Tystiolaeth wedi’u cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystod eang o ystadegau swyddogol, ymchwil a data. Mae hyn yn cefnogi ein datblygiad polisïau a phenderfyniadau. Mae'n rhoi darlun o brofiadau pobl yng Nghymru. Mae hefyd yn helpu nodi effeithiau posibl o bolisïau ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig.
Mae adroddiad Llesiant Cymru yn rhoi diweddariad blynyddol ar y cynnydd tuag at gyflawni'n 7 nod llesiant. Mae'n dangos cynnydd yn erbyn 50 o ddangosyddion cenedlaethol gyda data arall fel addysg, economi, iechyd a thlodi.
Mae'r adroddiad yn cynnwys pennod ar y nod llesiant 'Cymru sy’n Fwy Cyfartal', lle ddangosir llawer o'r wybodaeth am gydraddoldeb. Gellir hefyd ddod o hyd i wybodaeth am nodweddion gwarchodedig ym mhenodau eraill yr adroddiad.
Cyhoeddwyd yr Adolygiad o ffynonellau data ac allbynnau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2025. Gellir ei ddefnyddio i nodi ffynonellau tystiolaeth posibl mewn meysydd pwnc gwahanol.
Tystiolaeth a gyhoeddwyd gan yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Hil
- Gwahaniaethau grŵp ethnig mewn iechyd, tai, addysg a statws economaidd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Fframwaith Mesur Effaith
- Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru: mesur ei effaith ar fywydau pobl
- Dangosfwrdd rhyngweithiol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: 2026
- Archwilio profiadau menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o aflonyddwch rhywiol yn y gweithle
Anabledd
- Canlyniadau pobl anabl mewn iechyd, tai, addysg a statws economaidd (Cyfrifiad 2021)
- Archwiliad o ddau argymhelliad a gynigiwyd gan y Tasglu Hawliau Anabledd i helpu pobl anabl
- Model cymdeithasol o anabledd
- Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl anabl
LHDTC+
- Gwahaniaethau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn iechyd, addysg a statws economaidd (Cyfrifiad 2021)
- Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: asesiad gwerthusadwyedd
Trawsbynciol
- Adolygiad o amrywiaeth yng ngweithlu ac ar fyrddau’r sector cyhoeddus yng Nghymru
- Adolygiad o ffynonellau data ac allbynnau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru
- Arolwg Cenedlaethol Cymru: adolygiad o ddata cydraddoldeb
- Data poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer nodweddion cydraddoldeb fesul oed, rhyw ac awdurdod lleol
Tystiolaeth wedi’u cynhyrchu gan sefydliadau eraill
Mae tystiolaeth cydraddoldeb ehangach hefyd yn cael ei chynhyrchu gan ystod o sefydliadau ledled Cymru a'r DU. Mae’r rhain yn cynnwys cyrff datganoledig, arolygiaethau a chynhyrchwyr ystadegau swyddogol eraill.
Er nad yw'n rhestr gynhwysfawr, gall y sefydliadau canlynol ddarparu darlun ehangach o brofiadau. Mae hyn yn cynnwys anghydraddoldebau sy'n effeithio ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig:
- Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (gan gynnwys adroddiad Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023: A yw Cymru'n Decach?)
- Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Comisiynydd Plant Cymru
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Estyn
- Gwasanaeth Data Y DU
- Medr
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- YDG Cymru
- Ymchwil y Senedd
Diweddariad ar gynnydd
Gweler ein rhestr gyhoeddedig o flaenoriaethau a'n diweddariadau ar gynnydd:
Adborth
Rydym wedi ymrwymo i wella argaeledd tystiolaeth cydraddoldeb.. Os oes gennych unrhyw adborth, anfonwch e-bost at yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb.
