Mae dangosyddion Coetiroedd i Gymru (CiG) yn monitro cynnydd tuag at y strategaeth Coetiroedd i Gymru, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2018. Bydd dyfodol y strategaeth yn destun adolygiad gan y llywodraeth newydd.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Prif bwyntiau
- Yn 2025 roedd gorchudd coetir yng Nghymru yn 313,000 hectar. Mae hyn yn cynnwys 174,000 hectar o lydanddail a 139,000 hectar o gonwydd. Mae hyn yn cynrychioli 15% o'r gorchudd tir.
- Amcangyfrifir bod arwynebedd y coed y tu allan i goetir (TOW) yn seiliedig ar fapiau a gyhoeddwyd yn 2026 yn 147,500 hectar.
- Rhagwelir y bydd tir coedwigoedd yn parhau’n ddalfa net ar gyfer allyriadau
- Yn 2023 roedd cyfanswm gwerth gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan goetir yn fwy na £800 miliwn.
- Cyfanswm gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y sector coedwigaeth oedd £718 miliwn.
Rhagor o wybodaeth
Mae dangosyddion CiG yn mesur ein cynnydd tuag at y canlyniadau lefel uchel a nodir yn strategaeth Coetiroedd i Gymru. Mae'r dangosyddion yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer natur bresennol coetiroedd a choed Cymru, a'r nwyddau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a sut mae hyn wedi newid dros amser.
Mae'r dangosyddion wedi'u nodi mewn 5 pennod sy'n adlewyrchu 5 pennod y strategaeth. Dyma nhw:
- Coetiroedd a choed Cymru
- ymateb i’r newid yn yr hinsawdd
- coetiroedd i bobl;
- sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig;
- ansawdd yr amgylchedd
Mae pob dangosydd yn ymwneud â chanlyniad y strategaeth. Darperir ffynonellau data, tueddiadau a ddymunir ac a arsylwir, a gwybodaeth sylfaenol. Nid yw'r dangosyddion yn cael eu dosbarthu fel ystadegau swyddogol; fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso'r cod ymarfer ar gyfer ystadegau yn wirfoddol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae hyn wedi'i gymhwyso yn y datganiad o gymhwyso'r cod ystadegau yn wirfoddol.
Adroddiadau
Pennod 1: coetiroedd a choed Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Pennod 2: ymateb i newid hinsawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 686 KB
Pennod 3: coetiroedd i bobl , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 908 KB
Pennod 4: sector coedwigoedd cystadleuol a chynaliadwy , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Pennod 5: ansawdd amgylcheddol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 926 KB
Cyswllt
Cangen Coed a Phriddoedd
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
