Neidio i'r prif gynnwy

Daeth Deddf Rheoli Cymorthdaliadau’r DU 2022 i rym ar 4 Ionawr 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw rheoli cymorthdaliadau?

Mae'r gyfundrefn newydd hon yn eistedd uwchben rheolau'r Undeb Ewropeaidd (UE) a Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar gymorthdaliadau. Mae'n gyfundrefn ar gyfer darparu cymorthdaliadau gan awdurdodau cyhoeddus, wedi’i seilio ar egwyddorion. Mae'n rhoi cyfrifoldebau sylweddol ar awdurdodau cyhoeddus dros reoli cymorthdaliadau. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt ddyfarnu cymorthdaliadau yn effeithiol ac mewn modd sy’n cydymffurfio. Mae dyfarniadau’n destun asesiadau manwl, dadansoddiadau o'r farchnad ac adrodd am dryloywder (pan fo’n ofynnol). Y diben yw diogelu marchnad fewnol y DU a chysylltiadau masnach ryngwladol.

I gael cyngor ar ddyfarnu cymorthdaliadau a'r gofynion tryloywder newydd, cysylltwch â'r Uned Rheoli Cymorthdaliadau: YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru

Rhwng 1 Ionawr 2021 a 3 Ionawr 2023, roedd y DU yn gweithredu o dan gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau sylfaenol nad oedd ond yn cynnwys rhwymedigaethau rhyngwladol y DU. Roedd y rhain yn cynnwys Cytundeb WTO ar Gymorthdaliadau a Mesurau Gwrthbwyso, a Chytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU a’r UE.

Rhagor o wybodaeth am y drefn gymhorthdal newydd:

Mae canllawiau manylach ar gael yn y canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU yn GOV.UK.

Beth yw cymorth Gwladwriaethol?

Yn gyffredinol, unrhyw fantais a roddir gan gorff cyhoeddus drwy adnoddau gwladwriaethol ar sail ddethol i unrhyw sefydliadau a allai o bosibl wyrdroi cystadleuaeth a masnach yn yr UE yw cymorth Gwladwriaethol. Nid yw'r DU bellach yn aelod o'r UE. Mae rheolau cymorth Gwladwriaethol yn dal i fod yn berthnasol o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, wrth ddosbarthu cyllid gweddilliol yr UE, neu pan ddaw cymhorthdal o dan delerau Protocol Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am gymorth gwladwriaethol.