Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Dyma'r ail adroddiad blynyddol ar waith rhwydwaith tramor Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad ar gyfer 2021-22 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae'n nodi sut y gwnaeth gweithgarwch rhyngwladol Llywodraeth Cymru ailddechrau yn dilyn pandemig Covid-19. Amlinellodd sut yr oedd Llywodraeth Cymru'n cyflawni uchelgeisiau'r Strategaeth Ryngwladol hefyd.

Mae hon yn foment gyffrous i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae dulliau polisi arloesol a chyflawniadau mewn chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant wedi codi ein proffil a'n hymwybyddiaeth o bwy ydym ni a'r hyn rydym yn sefyll drosto. Mae hyn wedi golygu galw am fwy o ymgysylltu gan bartneriaid rhyngwladol, yng Nghymru a thramor.

Mae'r cyfnod a gaiff ei gwmpasu gan adroddiad eleni wedi tystio i gyfres o ddigwyddiadau byd-eang dinistriol, yn enwedig y rhyfel yn Wcráin, llifogydd ym Mhacistan a'r daeargryn yn Türkiye a Syria. Er mai Llywodraeth y DU sydd wedi arwain ar ymateb y DU i'r digwyddiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi cymorth i'r rhai sydd wedi'u heffeithio drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin a gweithio gyda'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau yng Nghymru.

Rydym wedi darparu rhaglen ryngwladol sylweddol dros y deuddeg mis diwethaf, gan gynnwys ymweliadau Gweinidogol i godi proffil Cymru dramor a theithiau masnach sy'n rhan bwysig o adferiad economaidd Cymru yn dilyn y pandemig. Bu ffocws cryf ar ddiplomyddiaeth chwaraeon eleni hefyd, gyda Chymru'n cael ei chynrychioli yng Ngemau'r Gymanwlad ym Mirmingham, Cwpan Rygbi Merched y Byd yn Seland Newydd, Cwpan Hoci Dynion y Byd yn India ac, wrth gwrs, Cwpan Pêl-droed Dynion FIFA y Byd yn Qatar.

Mae eleni wedi gweld pwyslais ar hyrwyddo gwerthoedd Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, yn unol ag un o brif uchelgeisiau ein Strategaeth Ryngwladol – sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae amrywiaeth ein cysylltiadau byd-eang yn golygu nad yw pob un o'r gwledydd y mae gennym ni berthynas â nhw yn rhannu'r un gwerthoedd na'r un agwedd at hawliau dynol â Chymru. Drwy ein gwaith rhyngwladol, rydym yn ceisio ymgysylltu'n adeiladol â phartneriaid ac egluro agwedd Cymru at hawliau dynol, hawliau LHDTC+, rhyddid gwleidyddol a chrefyddol, addysg gynhwysol a gwaith teg. Mae ein hagwedd at ymgysylltu rhyngwladol yn helpu i bortreadu'r neges bod Cymru'n Genedl Noddfa a chenedl â gwerthoedd.

Ymweliadau tramor gan weinidogion ac ymweliadau â Chymru

Mae Gweinidogion wedi ymgymryd â phob math o ymweliadau tramor eleni. Ymwelodd y Prif Weinidog ag Oslo i ymuno ag Urdd Gobaith Cymru wrth iddo nodi canmlwyddiant ei neges heddwch ac ewyllys da ac ymgymryd â rhaglen eang o ddigwyddiadau diplomyddol a digwyddiadau oedd yn canolbwyntio ar yr economi. Ym mis Mai, arweiniodd Gweinidog yr Economi daith fasnach i Qatar ac ymwelodd â phencadlys Airbus yn Toulouse ym mis Hydref hefyd. Cynhaliwyd ail Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru yn Nulyn a Chorc ym mis Hydref, gyda'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Materion Gwledig yn bresennol. Ystyriodd y Fforwm hwn y cynnydd yn erbyn Datganiad a Rennir a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru, ac roedd ganddo ffocws penodol ar gysylltiadau dwyochrog; cydweithrediad masnach a datblygu economaidd; a datblygiadau a chyfleoedd ynni adnewyddadwy.

Hefyd ym mis Hydref, teithiodd y Dirprwy Weinidog Chwaraeon i Seland Newydd ar gyfer Cwpan Rygbi Merched y Byd i gefnogi Tîm Rygbi Merched Cymru a chodi proffil Cymru, a theithiodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg i Frwsel i siarad yn Senedd Ewrop am y rhaglen Taith.

Ym mis Tachwedd, cefnogodd y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi Gymru yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yn Qatar - y tro cyntaf i Gymru fod ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw ers 64 mlynedd – i hyrwyddo Cymru a'n gwerthoedd. Ym mis Rhagfyr, teithiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i Montréal ar gyfer COP15, gan gynnwys y 7fed Uwchgynhadledd ar gyfer Llywodraethau Is-genedlaethol, i helpu i bwyso ar wladwriaethau lefel y Cenhedloedd Unedig i weithredu i wrthdroi colli bioamrywiaeth.

Siaradodd y Gweinidog yn ystod sesiynau llawn, cymerodd ran mewn sgyrsiau a gweithdai’n ymwneud â’r Glymblaid Uchelgais Uchel 30x30 ar gyfer Natur a Phobl, a chynhaliodd gyfarfodydd dwyochrog gyda chenhedloedd eraill, gan gynnwys Cenedl y Wampís, Llywodraeth Catalwnia, Llywodraeth Québec a Llywodraeth yr Alban. O gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, ymwelodd y Prif Weinidog â Brwsel a lansio Cymru yn Ffrainc 2023 ym Mharis, ymwelodd y Gweinidog Addysg ag Iwerddon ac ymwelodd y Gweinidog Iechyd â Chopenhagen.

Yn ddiweddarach ym mis Mawrth, ymwelodd y Prif Weinidog â Gwlad y Basg i archwilio'r posibilrwydd o ddyfnhau ein cydweithrediad ymhellach ac ymwelodd Gweinidog yr Economi ag arfordir gorllewinol UDA i ddatblygu cysylltiadau economaidd a hyrwyddo diwydiannau technoleg a chreadigol Cymru.

Mae Gweinidogion wedi croesawu mwy na 30 o gynrychiolwyr rhyngwladol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae'r Prif Weinidog wedi cynnal rhaglen o ddigwyddiadau i gyfarfod â Llysgenhadon ac Uwch Gomisiynwyr yn Llundain. Mae Swyddfa Llundain yn gwneud cyfraniad allweddol o ran cynnal cysylltiadau â'r byd ehangach. Mae'r swyddfa'n cefnogi ein cysylltiadau â'r corfflu diplomyddol, gan gynnwys gwledydd a rhanbarthau lle mae gennym berthynas â blaenoriaeth. Mae'n arwain ar ein gwaith ymgysylltu â chwmnïau tramor sydd wedi'u lleoli yn Llundain ac sy'n awyddus i ehangu i Gymru, yn ogystal â bwrw ymlaen â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn ystod Wythnos Cymru yn Llundain. Mae'r swyddfa wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau hefyd sydd wedi canolbwyntio ar yr economi neu sydd â'r nod o rannu polisi arloesol.

Diplomyddiaeth chwaraeon

Mae Cymru’n cyrraedd twrnameintiau chwaraeon rhyngwladol o bwys yn rheolaidd erbyn hyn, sy'n gyfle i godi ein proffil a hyrwyddo ein gwerthoedd. Ym mis Awst, nododd Gemau'r Gymanwlad XXII ym Mirmingham lansiad rhaglen o 18 mis o ddiplomyddiaeth chwaraeon sy'n parhau eleni gyda Chwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.

Dechreuodd ein rhaglen gyda digwyddiad rhyngwladol llwyddiannus yng Ngemau'r Gymanwlad, gyda phanel ysbrydoledig o athletwyr Cymru ddoe a heddiw’n siarad am rymuso menywod mewn chwaraeon. Cafwyd cynulleidfa ryngwladol drawiadol o ffigyrau llywodraeth a chwaraeon, gan gynnwys Dirprwy Brif Weinidogion Seland Newydd a Québec. Hefyd ym mis Awst, defnyddiodd tîm Canada gêm tîm Rygbi Merched Cymru yng Nghanada i lansio'r podlediad SoftPowerCymru – cyfres sy'n archwilio pŵer chwaraeon i feithrin cysylltiadau rhwng gwledydd. Yna, arweiniodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon raglen o ddigwyddiadau yn Seland Newydd ym mis Hydref ar gyfer Cwpan Rygbi Merched y Byd, yn ymwneud â diwylliant, chwaraeon, hyrwyddo ieithoedd brodorol a chysylltiadau academaidd.

Roedd y ffaith bod Tîm Pêl-droed Dynion Cymru wedi cyrraedd Cwpan Pêl-droed Dynion FIFA yn Qatar, am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, yn gyfle gwych i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang. Hyrwyddwyd cysylltiadau economaidd a diwylliannol a dangos bod Cymru'n genedl â gwerthoedd. Cynhaliwyd digwyddiadau ledled y byd, gyda ffocws penodol ar UDA a Qatar a gemau Cymru yn erbyn UDA a Lloegr. Cefnogwyd hyn gan ymgyrch farchnata sylweddol a sylw yn y cyfryngau. Mae astudiaeth achos ar Gwpan y Byd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.

Ym mis Ionawr, cyrhaeddodd Tîm Hoci Dynion Cymru Gwpan y Byd am y tro cyntaf. Cynhaliwyd hwn yn India, partner pwysig i Gymru, a rhoddodd gyfle i gefnogi Tîm Hoci Dynion Cymru a chodi proffil Cymru yn India gyda nifer o ddigwyddiadau yn nhalaith Odisha, gan ganolbwyntio ar gyfnewid ar gyfer addysg a chwaraeon.

Partneriaethau strategol

Gwnaethom barhau i ariannu pedair partneriaeth strategol eleni gydag Urdd Gobaith Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Academi Heddwch.

Cynhaliwyd dau weithdy gyda Phartneriaid Strategol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â thrafodaethau misol rheolaidd i sicrhau bod gwaith yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Strategaeth Ryngwladol. Uchafbwynt cyfunol y flwyddyn oedd ymgysylltiad yr holl bartneriaid ag agwedd Tîm Cymru at Gwpan Pêl-droed y Byd FIFA yn Qatar, gan gefnogi gweithgarwch i godi proffil Cymru a hyrwyddo ein gwerthoedd. Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Urdd oedd yn gyfrifol am gefnogi gweithgarwch diwylliannol. Gwnaethon nhw, a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a’r Academi Heddwch, gymryd rhan mewn gweithdai yn y cyfnod cyn y digwyddiad hefyd ar werthoedd a sut rydym yn eu hyrwyddo.

Mae gwaith ehangach wedi digwydd yn ystod y flwyddyn gyda mentrau megis Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn cydweithio ar ymgysylltu yng Nghanada fel rhan o'n blwyddyn Cymru yng Nghanada. Roedd hyn yn cynnwys trafodaethau gyda chymunedau brodorol fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol UNESCO.

Nid yw ein gwaith ymgysylltu wedi'i gyfyngu i'r partneriaid hyn. Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag eraill megis Amgueddfa Cymru, y Cyngor Prydeinig, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Coleg yr Iwerydd, Hoci Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill.

Dydd Gŵyl Dewi

Roedd Dydd Gŵyl Dewi 2023 yn cynnig cyfle pwysig ar ddiwedd y flwyddyn i ail-ymweld ac adeiladu ar waith blaenorol. Cefnogwyd gweithgarwch yn Llundain ac ar draws y byd i adeiladu ar etifeddiaeth ein hymgysylltiad yng Nghwpan y Byd. Yn ogystal â theithiau tramor gan Weinidogion Cymru, cynhaliwyd digwyddiadau i nodi Dydd Gŵyl Dewi yn UDA, Canada, Tsieina, Japan, India, y Dwyrain Canol ac Ewrop, dan arweiniad ein rhwydwaith tramor.

Yn Llundain, cefnogwyd Wythnos Cymru yn Llundain drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau yn arddangos diwydiannau - megis Fintech a Biotech - a chysylltiadau rhyngwladol megis UDA a Ffrainc. Darparwyd ymgyrch farchnata ryngwladol a oedd yn dathlu Cymru gyda ffocws ar ein gwerthoedd ac a oedd yn ail-dargedu cynulleidfaoedd a gyflwynwyd i Gymru drwy ymgyrchoedd blaenorol megis Cwpan Pêl-droed y Byd a Chwpan Hoci y Byd.

Lleoliadau swyddfeydd

Image
Map byd o leoliadau swyddfa Llywodraeth Cymru

Asia:

  • Beijing
  • Chongqing
  • Shanghai
  • Bangalore
  • Mumbai
  • New Delhi
  • Tokyo

Ewrop:

  • Brwsel
  • Berlin
  • Düsseldorf
  • Dulyn
  • Paris
  • Llundain

Gogledd America:

  • Atlanta
  • Chicago
  • Efrog Newydd
  • San Francisco
  • Washington DC
  • Montreal

Y Dwyrain Canol:

  • Doha
  • Dubai

Rhwydwaith byd-eang

Mae gan ein rhwydwaith swyddfeydd tramor dri rhanbarth: Ewrop, Gogledd America a'r Dwyrain Canol ac Asia. Mae gan bob rhanbarth ffocws sydd wedi'i deilwra i'w gryfderau, a buddiannau Cymru, fel yr amlinellir yn eu cylchoedd gwaith rhyngwladol. Mae'r adran hon yn nodi uchafbwyntiau gweithgarwch a gynhaliwyd ym mhob rhanbarth yn ystod 2022 i 2023.

Ewrop

Roedd ein swyddfeydd yn Ewrop yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Ewrop yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. Maent wedi bod yn ymgysylltu'n rhagweithiol â phartneriaid Ewropeaidd i ddangos bod Cymru'n dal i fod yn rhan weithredol o Ewrop.

Rydym yn parhau i ymgysylltu â sefydliadau'r UE ac yn gwneud cyfraniad blaenllaw at rwydweithiau rhanbarthol Ewropeaidd, gyda'r ymgysylltu hwn yn cael ei gryfhau drwy benodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop. Mae uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Cyfarfu'r Prif Weinidog ag uwch gynrychiolwyr o Senedd Ewrop a chyflwyno araith a gafodd dderbyniad gwresog yn y Ganolfan Polisïau Ewropeaidd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Siaradodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg am Taith yn Senedd Ewrop, a chyfarfu â chynrychiolwyr aelod-wladwriaethau'r UE a chynrychiolwyr rhanbarthol ar y Gymraeg, a thegwch mewn addysg.
  • Gyda rhanbarthau'r Iwerydd yng Nghynhadledd y Rhanbarthau Morol ac Ymylol (CPMR), arwyddodd Cymru Adduned ar gyfer Cefnfor Iwerydd glân.
  • Cynhaliodd Tŷ Cymru Brwsel Gynulliad Cyffredinol y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD), a oedd yn cynnwys slot siarad gan Lywodraeth Cymru ar bolisi'r Gymraeg.
  • Cafodd Cymru ei phenodi unwaith eto i gadeirio Bwrdd Menter Vanguard - rhwydwaith arloesi dylanwadol ac uchel ei barch - yn 2023.

Gwnaethon barhau i hyrwyddo diwylliant Cymru i gynulleidfa o'r UE, gan gynnwys cyfranogiad y bardd o Gymru, Grug Muse, yng ngŵyl farddoniaeth ryngwladol Transpoésie, a pherfformiad gan y gantores o Gymru, Eve Goodman, mewn digwyddiad Cwpan y Byd. Rhoddodd dathliadau'r Jiwbilî Platinwm sylw i fwyd a diod o Gymru mewn dau ddigwyddiad ym Mrwsel. Cynhaliwyd digwyddiad Jiwbilî ym Mharis hefyd ar gyfer dros 2,500 o westeion a oedd yn cynnwys busnesau, rhanddeiliaid gwleidyddol, UNESCO, OECD a phartneriaid Cymreig o Lydaw.

Mae Gweinidogion a swyddogion wedi parhau i gydweithio drwy'r flwyddyn er mwyn darparu Datganiad a Rennir a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru. Dathlwyd cysylltiadau diwylliannol yng ngwyliau Lleisiau Eraill Dingle ac Aberteifi, a chynhaliwyd y Ddeialog Dewi Pádraig gyntaf mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Dinas Dulyn. Bu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymweld ag Iwerddon hefyd er mwyn cyfnewid dysgu ar nodau datblygu cynaliadwy.

Arddangosodd dirprwyaeth o Ddiwydiannau Creadigol Cymru yn ARVR INNOVATE - digwyddiad technoleg mwyaf blaenllaw Iwerddon - ac ymwelodd taith fasnach amlsector ym mis Mawrth, gan gyd-daro â'r ymweliad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a Dydd Gŵyl Dewi. Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y brif araith yn Symposiwm Môr Iwerddon ar y manteision y gall gweithredu ar y cyd eu cynnig i weithgarwch economaidd ar draws Môr Iwerddon. Mae tîm Bwyd Cymru’n gweithio gyda'r Food Hub yng Nghorc ar glwstwr bwyd.

Cynhaliwyd ail Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru ym mis Hydref, gyda'r Prif Weinidog, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a Gweinidog yr Economi yn ymweld â Dulyn a Chorc ar gyfer cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda Gweinidogion Llywodraeth Iwerddon yn canolbwyntio ar gydweithrediad agosach, cyfleoedd ynni adnewyddadwy ac opsiynau ariannu dwyochrog posibl yn y dyfodol.

Roedd gan weithgarwch yn yr Almaen ffocws cryf ar dalaith Baden-Württemberg gydol y flwyddyn cyn arwyddo'r Datganiad a Rennir sydd ar ddod. Ymwelodd Gweinidog-Lywydd Baden-Württemberg â Chymru, fel y gwnaeth Llysgennad yr Almaen i'r DU - ddwywaith. Roedd ei ymweliad cyntaf yr un pryd â Sioe Deithiol Gyrfaoedd Llysgenhadaeth yr Almaen - digwyddiad a oedd yn tynnu sylw at gyfleoedd gyrfa a oedd yn agored i ddysgwyr o bob oed drwy'r iaith Almaeneg - a oedd yn cael ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf. Daeth taith fasnach o Baden-Württemberg i Gymru hefyd.

Canolbwyntiodd y rhaglen o ddigwyddiadau tramor yn yr Almaen ar gefnogi cwmnïau o Gymru ym Medica, Innotrans, Wind Energy Hamburg a'r Start-Up Summit yn Stuttgart. Yn dilyn proses gynnig fyd-eang, roedd Cymru'n llwyddiannus yn ei chais i gynnal y Circular Economy Hotspot yn 2024.
 
Ffrainc yw'r gyrchfan nesaf i'n blynyddoedd thema 'Cymru yn...', felly mae gwaith wedi mynd rhagddo ar raglen o weithgareddau. Bydd Cymru yn Ffrainc 2023 yn gyfle i ddathlu'r cysylltiadau sydd wedi bod rhwng Cymru a Ffrainc dros y canrifoedd ac ailddatgan eu perthnasedd, gan adfywio partneriaethau sy'n bodoli eisoes a phlannu'r hadau ar gyfer cydweithrediadau newydd ar draws yr economi, diwylliant, chwaraeon, arloesi a mwy. Mae'r flwyddyn yn cadarnhau Cymru fel cenedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan, gydag economi amrywiol a blaengar, sy’n adnabyddus am ei hymrwymiad i fyd tecach a mwy cynaliadwy. Lansiodd y Prif Weinidog Cymru yn Ffrainc ar 17 Mawrth ym Mharis, gan gyfarfod ag amryw o fuddsoddwyr Ffrengig sydd â phresenoldeb yng Nghymru ac arwain dirprwyaeth Gymreig i UNESCO, ymhlith gweithgareddau eraill. Mae'r rhaglen yn cynnwys defnyddio Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc fel llwyfan i godi proffil Cymru a bydd yn adeiladu ar waith parhaus gyda Llydaw i gyflwyno cydweithrediad dwyochrog cryfach yn erbyn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r Cynllun Gweithredu, gan gynnwys cefnogi Cyngor Celfyddydau Cymru yn y Lorient Interceltique Festival.

Mae'r ffocws ar gyfer gwaith masnach a buddsoddi Ffrainc yn parhau i fod ar gydweithio yn y diwydiant technoleg, yn enwedig seiberddiogelwch a lled-ddargludyddion cyfansawdd, cefnogi Partneriaeth Strategol Abertawe/Grenoble a chynrychioli'r sector seiber yng Nghymru yn y Forum International de la Cybersécurité (FIC), sioe fasnach seiberddiogelwch fwyaf blaenllaw Ffrainc. Teithiodd cwmnïau o Gymru i Baris ar gyfer ffair fasnach JEC World Composites, yr International Aeronautical Congress a sioe bwyd a diod SIAL. Ymwelodd Gweinidog yr Economi â Thoulouse ym mis Hydref ar gyfer ymweliad ar thema awyrofod, a oedd yn cynnwys ymweliad ag Airbus a chyfarfod â dirprwyaeth Cymru a oedd yn mynychu ADS - cymdeithas fasnach y DU ar gyfer digwyddiad rhwydweithio a seminar blynyddol y sectorau Awyrofod.

Cawsom ddigwyddiadau ynni adnewyddadwy yn Norwy a Sweden hefyd, gan gefnogi dirprwyaeth o un ar ddeg o gwmnïau o Gymru a noddi stondin yn Ocean Energy Europe. Ym mis Mawrth, gwnaeth Marsial Silesia, Gwlad Pwyl, ymweld â Chymru er mwyn archwilio meysydd ar gyfer cydweithrediad posibl a bu’r Prif Weinidog yn ymweld â Gwlad y Basg i atgyfnerthu'r berthynas honno ac archwilio meysydd cydweithredu newydd.

Gogledd America

Yn UDA, darparodd Cwpan y Byd ganolbwynt ar gyfer y digwyddiadau gyda'r nod o godi proffil Cymru. Cynhaliodd pob swyddfa yn rhwydwaith UDA ei digwyddiadau ei hun i gyd-fynd â gêm Cymru yn erbyn UDA. Yn yr wythnosau cyn Cwpan y Byd, cynhaliodd ein swyddfa yn Efrog Newydd gyfres o ddigwyddiadau i godi proffil Cymru gyda digwyddiad “Welcome to Wrexham” ar y cyd â Disney/FX a chefnogi S4C i gynnal gala 'Cymru yn y Byd'.

Nid oedd diplomyddiaeth chwaraeon wedi'i chyfyngu i bêl-droed. Buom yn gweithio gyda chapten rygbi Cymru, Elinor Snowsill, ar gyfer sesiwn sgiliau am ddim i ferched ifanc yn Virginia a gyda thîm Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru i gael y gwerth mwyaf o WWE Clash at the Castle, gan gynnwys digwyddiad rhwydweithio busnes sy'n cael ei gynnal mewn digwyddiad WWE yn Nashville.

Cefnogwyd dau ymweliad gan yr Urdd. Ym mis Ebrill, ymwelodd côr yr Urdd â Birmingham, Montgomery, Selma ac Atlanta. Cynhaliwyd perfformiadau yn Birmingham ac Atlanta, gan gynnwys perfformiad ar y cyd â Chôr Gospel Prifysgol Alabama. Nod yr ymweliad oedd cryfhau'r berthynas agos rhwng Birmingham a Chymru, a chafodd ei ffilmio gan Avanti Media a'i darlledu ar S4C. Ym mis Medi, ymwelodd yr Urdd â Philadelphia ar gyfer Gŵyl Gymreig Gogledd America (NAFOW) a gwnaethom gymryd rhan mewn seremoni groesawu yno gyda Maer Philadelphia, gyda sylw cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau lleol. Roedd gan yr Urdd raglen lawn o ddigwyddiadau, gan gynnwys cyfarfodydd gyda mudiadau ieuenctid lleol. Defnyddiwyd NAFOW fel llwyfan i gynnal ymgyrch stryd ar draws dinas Philadelphia i hyrwyddo Cymru hefyd.

Eleni, datblygwyd nifer o bartneriaethau addysgol hefyd, yn ogystal â pharhau i ddatblygu ein rhwydwaith cyn-fyfyrwyr yn llwyddiannus. Rydym wedi cefnogi ymweliadau gan Brifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth ac wedi parhau i weithio gyda Cymru Fyd-eang i gefnogi ei hymdrechion i hyrwyddo Cymru fel lleoliad astudio heb ei ail. Ym mis Mawrth 2023, gwnaethom helpu i lansio rhaglen ysgol haf newydd rhwng Prifysgol Florida a Chymru.

Defnyddiwyd dathliadau'r Jiwbilî Platinwm ledled UDA fel platfformau i gyfleu negeseuon Cymreig allweddol ac i arddangos bwyd a diod Cymru i westeion. Wedi i'r gwaharddiad ar gig oen o'r DU gael ei ddiddymu'n llwyddiannus, Chicago oedd y lle cyntaf i weini cig oen o'r DU ac Iwerddon - cig oen Cymreig - yn UDA ers dros 20 mlynedd.

Gwnaeth nifer o ddigwyddiadau hyrwyddo allforion a Chymru fel lleoliad buddsoddi. Ar gyfer mewnfuddsoddiad, roedd y rhain yn cynnwys Semicon West, RSA, Photonics West, cynhadledd Lendit FinTech a Money2020. Cefnogwyd presenoldeb Cymreig mewn cynadleddau allforio mawr hefyd, gan gynnwys MRO Americas, arddangosfa ryngwladol Efrog Newydd ar gyfer bwyd a diod a Chynhadledd Datblygwyr Gemau. Gwnaeth swyddfa Atlanta gefnogi Taith Fasnach i Ogledd Carolina a De Carolina yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd, gyda brecwast busnes gyda Rob Page, rheolwr Cymru, ac roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 

Mae nifer o erthyglau wedi bod yn y cyfryngau am economi Cymru. Cyhoeddodd Foreign Policy Magazine erthygl am drawsnewidiad economi Cymru, gyda ffocws cryf ar fasnach UDA-Cymru. Cynhaliwyd ymgyrch yn y Wall Street Journal ar ddiwrnod gêm UDA yn erbyn Cymru yng Nghwpan y Byd a oedd yn canolbwyntio ar fasnach UDA-Cymru a chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru. Yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch hon, lansiodd y Wall Street Journal ymgyrch arall ym mis Mawrth. 

Ym mis Mawrth, ymwelodd Gweinidog yr Economi â San Francisco a Los Angeles i ddatblygu cysylltiadau economaidd a hyrwyddo diwydiannau technoleg a chreadigol Cymru. Arweiniodd daith fasnach amlsector a chefnogodd ddirprwyaeth Cymru a oedd yn arddangos yn y Gynhadledd Datblygwyr Gemau flynyddol, yn ogystal â chynnal rhaglen ehangach o ymgysylltu â busnesau a ffigyrau gwleidyddol.

anada oedd ffocws yr ail o'n blynyddoedd thema "Cymru yn..." gyda gweithgarwch dwyochrog yng Nghymru dan arweiniad Uchel Gomisiwn Canada drwy ei ymgyrch Canada Goes Cymru. Mae astudiaeth achos yn edrych ar y flwyddyn yn fwy manwl. 

Parhaodd Cais am Gynigion Cymru-Québec, gyda thrydedd rownd wedi'i lansio ym mis Gorffennaf. Mewn cytundeb â Llywodraeth Québec, gwnaethom ganolbwyntio ar y celfyddydau a diwylliant, gwyddoniaeth ac arloesi, ac adferiad gwyrdd. Cymeradwywyd deuddeg prosiect i gyd, a gwnaeth y llwyddiant ein galluogi ni i gael ymrwymiad gan Lywodraeth Québec i gynnal pedwerydd cais yn 2023. 

Gwnaethom gefnogi Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yng ngŵyl gerddoriaeth BreakOut West a chynnal sesiwn ar ieithoedd brodorol yn y diwydiant cerddoriaeth, yn ogystal â hyrwyddo rhaglen Gwrando ar gyfer Degawd Ieithoedd Brodorol UNESCO, a oedd yn cyd-fynd â 'Truth and Reconciliation Day' Canada. Cyflwynodd FOCUS Wales yn Wrecsam ddigwyddiad i artistiaid o Ganada lansio ymgyrch Uwch Gomisiwn Canada, 'Canada Goes Cymru', gan gynnwys partneriaid FOCUS Wales o Ganada, gan alluogi artistiaid o Gymru i gael eu harddangos mewn gwahanol leoliadau yng Nghanada. Gwnaethom hyrwyddo dathliadau PRIDE hefyd, gan gynnwys cefnogaeth i'r rhai a fu'n cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi Hoyw y Byd 2022 yn Ottawa, a dangos y ffilm 'Donna' gan gyfarwyddwr o Gymru mewn cydweithrediad â Llysgenhadaeth UDA yn Ottawa ac Ottawa Capital Pride.

Roedd gan Ganada ffocws cryf ar y Cymry ar wasgar, gyda digwyddiadau iddynt yn Vancouver a Toronto i hyrwyddo Taith a datblygu rhwydwaith y rhai o Gymru. Gwnaeth ymweliad Côr Cymru Gogledd America â Calgary feithrin cysylltiadau â Chymdeithas Gymraeg Calgary a chynhaliwyd digwyddiad Cymry ar wasgar fel rhan o ymweliad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

O ran masnach a buddsoddi, gwnaethom gefnogi taith fasnach i Ganada gyda deuddeg cwmni o Gymru o'r sectorau ynni glân, technoleg a niwclear yn bennaf. Gwnaethom hyrwyddo MedTech a Seiberddiogelwch yn Uwchgynhadledd Deallusrwydd Artiffisial y Byd ym Montréal a gweithio gyda Llywodraeth y DU i arddangos cynnyrch o Gymru, gan gynnwys bwyd a diod, mewn digwyddiadau yn Ottawa, Montréal a Dinas Québec. Gyda Cymru Greadigol, Creative British Columbia ac Uchel Gomisiwn Canada, cynhaliwyd derbyniad ar gyfer cynhyrchwyr teledu a ffilm o Gymru a British Columbia i chwilio am gyfleoedd cyd-gynhyrchu ac i dynnu sylw at ddiwydiant creadigol Cymru.

Ymwelodd Asiant Cyffredinol newydd Ontario â Chymru i archwilio cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol, niwclear, gweithgynhyrchu, insuretech ac addysg uwch - gan arwain at ddyfnhau'r berthynas rhwng Cymru ac Ontario.
 
Yn olaf, pan ddywedodd y dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol o Yukon, Pavlina Sudrich, ar gam fod Cymru'n rhan o Loegr ac yna postio ymddiheuriad ar-lein, manteisiodd y Prif Weinidog ar y cyfle i'w gwahodd i Gymru gan ddefnyddio sianel TikTok newydd Llywodraeth Cymru. Arweiniodd hyn at gydweithrediad i hyrwyddo Cymru ymhlith dilynwyr Pavlina yng Nghanada a thu hwnt. Cafodd yr ymweliad sylw yn y cyfryngau yng Nghymru, Canada ac ar draws y byd. Datblygodd Pavlina gynnwys a oedd yn hyrwyddo gwerthoedd Cymru, yr iaith, bwyd a diod, Dydd Miwsig Cymru, cysylltiadau chwaraeon drwy Glwb Pêl-droed Wrecsam, diwylliant a threftadaeth Cymru. Cafodd y fideos a gomisiynwyd eu gweld dros 5.5 miliwn o weithiau, gyda chyfraddau ymgysylltu uchel.

Y Dwyrain Canol ac Asia

Ar ôl i Dîm Pêl-droed Dynion Cymru gyrraedd Cwpan y Byd Dynion FIFA yn Qatar 2022, canolbwyntiodd llawer o'r gweithgarwch yn y Dwyrain Canol ar y paratoadau ar gyfer y twrnamaint hwnnw. Mae astudiaeth achos sy'n rhoi mwy o fanylion am hyn wedi'i chynnwys.

Ym mis Mai, arweiniodd Gweinidog yr Economi daith fasnach i Qatar gyda chwmnïau o sectorau’n cynnwys bwyd a diod, gweithgynhyrchu a gwasanaethau hyfforddiant ac addysg. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda Qatar Airways a Maes Awyr Caerdydd ynglŷn â'r llwybr Doha-Caerdydd, Awdurdod Parth Rhydd Qatar, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Qatar a'r pwyllgor cynllunio a oedd yn gyfrifol am drefnu Cwpan y Byd.

Yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd, cynhaliwyd digwyddiadau ar gyfer y Cymry ar wasgar a hyrwyddo cig oen Cymreig ac allforion bwyd a diod eraill. Gyda Global Welsh a Chennad Llywodraeth Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig, gwnaethom helpu i ddarparu rhaglen o weithgarwch busnes ar gyfer y Cymry ar wasgar yn Dubai yn ymwneud â gemau grŵp Cymru. Roedd gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi raglenni yn Qatar ar gyfer y gemau yn erbyn UDA a Lloegr yn y drefn honno, yn canolbwyntio ar hyrwyddo gwerthoedd, cysylltiadau masnach a buddsoddi a chyfnewid diwylliannol Cymru. Yn ystod y misoedd ar ôl Cwpan y Byd, mae tîm y Dwyrain Canol wedi bod yn gwneud gwaith ymgysylltu dilynol, gan gynnwys ymweld â safle cloddio archeolegol 'Landscapes of Faith' (cydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Qatar Museums) yng ngogledd Qatar.

Mae gwaith wedi parhau i adeiladu rhwydweithiau'r Cymry ar wasgar yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Qatar, a chyda rhanddeiliaid a wnaeth gyfarfod â Gweinidog yr Economi yn ystod ei ymweliadau ag Expo Qatar a Dubai. Ymwelodd cronfa gyfoeth sofran yr Emiradau Arabaidd Unedig, Mubadala, â Chaerdydd i archwilio cyfleoedd buddsoddi yn y sectorau ynni a thechnoleg ariannol, ac rydym yn parhau i gefnogi ymgysylltiad Maes Awyr Caerdydd â Qatar Airways wrth i lwybr Doha/Caerdydd ailgychwyn.

Cynhaliwyd gweminarau masnach ar y clwstwr Gweithgynhyrchu Uwch, Arab Health ac allforio i’r Dwyrain Canol. Roeddem yn bresennol yn y World Future Energy Summit, Abu Dhabi, a BIG 5 a DEAL yn Dubai, a gwnaethom gefnogi Hybu Cig Cymru yng Ngwobrau BBC Good Food yn Dubai. Ym mis Ionawr, cefnogwyd taith fasnach aml-sector a fu'n ymweld â Dubai, ochr yn ochr â dirprwyaeth a fu'n ymweld ag Arab Health, a chynhaliwyd digwyddiad i'r cynrychiolwyr rwydweithio â'r Cymry ar wasgar yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Ym mis Chwefror, cefnogwyd ymweliad datblygu masnach â sioe fasnach Gulfood, ac yna digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi yn fuan wedyn yn Dubai a Doha yn hyrwyddo bwyd a diod Cymru, y Gymraeg, busnes a diwylliant. Cynhaliwyd digwyddiad rhwydweithio yn Qatar hefyd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a hyrwyddo gwerthoedd Cymru ynghylch cydraddoldeb menywod a chydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Ym mis Hydref, ail-agorodd ffin Japan yn llawn. Roedd awydd am fwy o ymgysylltu â busnesau tramor, a nodwyd ailddechrau teithio rhyngwladol gan ddirprwyaethau twristiaeth a masnach o Gymru. Roedd derbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain ar gyfer buddsoddwyr allweddol o Japan yn gyfle i ailddatgan perthynas Cymru â chwmnïau megis Sony a Panasonic cyn i gyfyngiadau teithio gael eu codi. Mae ymweliadau arfaethedig â Chymru gan gwmnïau o Japan mewn sectorau’n cynnwys ynni gwyrdd a lled-ddargludyddion a dirprwyaeth o lywyddiaeth Oita.

Mae gwaith masnach a buddsoddi wedi canolbwyntio'n benodol ar ynni adnewyddadwy, gyda dirprwyaeth o fwy na 50 o gynrychiolwyr o ddiwydiant ynni gwyrdd Japan, gan gynnwys cwmnïau gwynt ar y môr, yn ymweld â Chymru.

Yn Tokyo, cynhaliwyd digwyddiad gyda Chymdeithas Hydrogen Japan gyda thros 150 o bobl yn bresennol. Cefnogwyd taith fasnach o Gymru ym mis Hydref ar draws y sectorau bwyd a diod, creadigol/ technoleg, addysg, gweithgynhyrchu uwch, datgarboneiddio a thai. Cafodd bwyd a diod o Gymru ei arddangos yn siop adrannol Mitsukoshi ac mewn Gŵyl Gennin yn Ninas Fukaya. Bu cwmnïau bwyd a diod o Gymru’n arddangos yn Foodex 2023 yn Tokyo hefyd, gyda sesiwn samplu yn cael ei chynnal ym Mhreswylfa'r Llysgennad yn cynnwys cogyddion o Gymru a bwydlen Gymreig draddodiadol. Ym mis Rhagfyr, dathlwyd hanner can mlynedd o fuddsoddiad Japaneaidd yng Nghymru mewn derbyniad a gynhaliwyd gan Lysgennad Japan yn Llundain.

Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Oita, a lofnodwyd ar 1 Mawrth 2022, wedi bod yn llwyfan ar gyfer rhaglen ymgysylltu rhyngwladol gref. Nodwyd blwyddyn ers y llofnodi ar Ddydd Gŵyl Dewi gydag ymweliad gan Amgueddfa Cymru â'r Oita Prefecture Art Museum. Nodwyd tair blynedd ers Cwpan Rygbi'r Byd 2019 gyda chyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys cyfarfodydd â Llywodraethwr Oita a derbyniad gyda busnesau lleol. Ymwelodd Llywodraeth Lywyddiaethol Oita â Chymru ac aeth myfyrwyr Prifysgol Oita i'r ysgol haf yn Aberystwyth. Aeth Only Boys Aloud ar daith ymchwil i Japan ym mis Chwefror a mis Mawrth, gyda deg perfformiad cyhoeddus ar draws Japan.

Yn India, rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar gysylltiadau addysg, gan gynnwys cefnogaeth i ddirprwyaeth o Telangana a ymwelodd â Chymru fel rhan o bartneriaeth bresennol Cymru Fyd-eang â'r Telangana State Council for Higher Education (TSCHE) a phartneriaid prifysgol, gyda'r nod o ddatblygu partneriaethau rhwng prifysgolion. O ran masnach a buddsoddi, mae'r ffocws wedi bod ar hyrwyddo Cymru fel lleoliad buddsoddi ar gyfer technoleg a gwyddorau bywyd, gan gynnwys digwyddiad ar gyfer busnesau newydd yn yr Indian Institute of Science.

Cynhaliodd India Gwpan Hoci'r Byd ym mis Ionawr, a chyda thîm Dynion Cymru’n cyrraedd y twrnamaint, roedd yn gyfle i godi proffil Cymru. Daeth y rhaglen â Hoci Cymru, Cymru Fyd-eang/Astudio yng Nghymru, prifysgolion a busnesau Cymru ynghyd. Cynhaliwyd digwyddiadau lletygarwch ar y cyd gan sicrhau sylw lleol helaeth.

Roedd y digwyddiadau'n cynnwys allgymorth ysgol yn y Kalinga Institute of Industrial Technology (KIIT), gyda thîm hoci Cymru yn chwarae hoci gyda'r plant lleol a gêm rygbi gyfeillgar ar wahân gyda staff. Gwnaethom ymweld â'r Kalinga Institute of Social Science (KISS) a chael trafodaethau am gyfnewid myfyrwyr/staff/academaidd, bwrdd crwn ar Fenywod mewn Technoleg/STEM a chyfarfod â Phrif Weinidog talaith Odisha. Gwnaethom ymweld â'r Tata Naval Hockey Academy gyda Hoci Cymru cyn gêm Cymru yn erbyn India yn Stadiwm Kalinga a chynnal derbyniad Cymreig, yn ogystal â dysgu am gefnogaeth KIIT, KISS a'r Tata Naval Academy i blant o gefndiroedd economaidd isel i gefnogi eu hyfforddiant i ddod yn sêr hoci cenedlaethol yn y dyfodol.

Parhaodd Covid-19 i effeithio ar weithgarwch yn Tsieina, gyda'r holl swyddfeydd yn profi cyfnodau estynedig o gyfyngiadau symud, gan ohirio gweithgareddau neu eu cyflwyno'n rhithwir. Roedd cysylltiadau addysg yn ffocws penodol, gan weithio gyda phrifysgolion ar recriwtio myfyrwyr a chyfleoedd partneriaeth, gan gynnwys hyrwyddo Taith. Darparwyd digwyddiadau cyn-fyfyrwyr, cefnogwyd dathliadau'r Jiwbilî a datblygwyd rhaglen gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i hyrwyddo pêl-droed Cymru i farchnad Tsieina yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd.

Cefnogwyd allforwyr o Gymru sydd â diddordeb yn Tsieina, gyda ffocws arbennig ar y sectorau gwyddorau bywyd a bwyd a diod. Bu cynnydd yn y diddordeb mewn bwyd a diod o Gymru yn y China Food & Drinks Fair yn Chengdu.

Astudiaethau achos

Cwpan Pêl-droed Dynion FIFA, Qatar (20 Tachwedd 2022 i 18 Rhagfyr 2022)

Ym mis Mehefin 2022, cyrhaeddodd tîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cymru rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 64 mlynedd. Roedd y twrnamaint yn gyfle unigryw i hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang.

Roedd pedwar amcan allweddol ar gyfer Cwpan y Byd – hyrwyddo Cymru; cyfleu ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru a sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol o'n cyfranogiad. Roedd y gweithgarwch yng Nghymru, ac ym mhedwar ban byd, yn gyfle i godi pryderon am hawliau gweithwyr a phobl LHDTC+ yn Qatar, yn ogystal â chyflwyno gwerthoedd Cymru ar lwyfan byd-eang.

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Doha a Dubai oedd ffocws y gweithgarwch a oedd yn digwydd o amgylch y gemau, ond roedd y twrnamaint yn gyfle i weddill y rhwydwaith tramor gynnal gweithgarwch i hyrwyddo Cymru a'n gwerthoedd hefyd.

Fis cyn Cwpan y Byd, trefnodd Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y Dwyrain Canol, gan weithio mewn cydweithrediad â'r Is-adran Bwyd a Diod, swper i arddangos allforion bwyd a diod o Gymru - gan gynnwys cig oen Cymreig - ym mhreswylfa'r Llysgennad i 40 o brynwyr allweddol yn Qatar yn y sectorau manwerthu a lletygarwch.

Yn y Dwyrain Canol, teithiodd y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi i Doha i gefnogi Cymru yng ngemau'r grŵp. Cyhoeddwyd Datganiadau Ysgrifenedig ar 28 Tachwedd5 Rhagfyr yn amlinellu ehangder y rhaglenni a gynhaliwyd gan y ddau Weinidog a oedd yn cynnwys cyfarfodydd diwylliannol, economaidd a diplomyddol. Yn ogystal â chyflwyno dwy raglen Weinidogol, roedd gweithgarwch yn y Dwyrain Canol ar gyfer Cwpan y Byd yn eang iawn.

Gweithiodd tîm y Dwyrain Canol gyda phartneriaid i lansio gosodiad Het Bwced ar y Corniche yn Doha i hyrwyddo Cymru yn y twrnamaint, i ddarparu cynnwys Cymreig yn yr UK GREAT Garden Pavilion and Festival a derbyniad â thema Gymreig, a gynhaliwyd gan Lysgennad Prydain i Qatar. Daeth yr Het Bwced yn ganolbwynt i gyfryngau byd-eang, gan gael sylw mewn delweddau a ddarlledwyd ledled y byd.

Er mwyn hyrwyddo diwylliant Cymru, cefnogodd y tîm yr Urdd i gyflwyno gweithdai ysgol a pherfformiadau corawl, yn ogystal â gweithio gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i gyflwyno amrywiaeth o berfformiadau diwylliannol gan berfformwyr ac artistiaid o Gymru. Cynhaliwyd digwyddiadau ar gyfer y Cymry ar wasgar yn y Dwyrain Canol, gan weithio gyda phartneriaid, megis Cymru Fyd-eang a gynhaliodd dderbyniad yng ngardd preswylfa'r Conswl Cyffredinol yn Dubai ar gyfer 100 o westeion. Cynhaliodd tîm Llywodraeth Cymru yn Doha frecwast rhwydweithio ar gyfer 35 aelod o'r Cymry ar wasgar yn Qatar.

Yn UDA, roedd rhaglen weithgareddau uchelgeisiol gyda gêm Cymru yn erbyn UDA yn ganolbwynt iddi. Ymwelodd Gweinidog yr Economi â Washington DC i arwain gweithgarwch Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru a datblygu’r berthynas â chysylltiadau gwleidyddol a busnes allweddol yn DC. Roedd yr ymweliad yn cynnwys bwrdd crwn gyda mewnfuddsoddwyr allweddol, cyfarfod â Dirprwy Faer DC, yn ogystal â dangosiad Soccer in the Circle o gêm Cymru yn erbyn UDA yng Ngŵyl Dupont. Cafwyd sylw cadarnhaol yn y cyfryngau yn UDA a Chymru yn sgil yr ymweliad.

Cynorthwywyd S4C gan y tîm UDA yn Efrog Newydd i gyflwyno cyngerdd yn y ddinas, yn ogystal â chynnal digwyddiadau eraill, gan gynnwys dangosiad o 'Welcome to Wrexham', trafodaethau panel a pharti gwylio. Cynhaliwyd cystadleuaeth e-gemau, yn gysylltiedig â thwrnamaint gemau FIFA, yn Atlanta, a chynhaliwyd derbyniadau busnes a'r Cymry ar wasgar yn Chicago a Los Angeles. Cynhaliwyd gweithgarwch ychwanegol o amgylch y gêm hon, gan gynnwys ymgyrch LinkedIn ar arfordir gorllewinol UDA yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan busnes, ymweliad â 'Chwaer-ddinas' y Mwmbwls i adeiladu ar y berthynas honno ac ymweliadau gan artist yr Urdd i ddarlunio gêm Cymru yn erbyn UDA. Roedd gweithgarwch yn y cyfryngau yn ystod cyfnod y gêm, gan gynnwys erthyglau nodwedd yn y Washington Post, FOX5, HANSH ac amryw o orsafoedd radio lleol yn UDA. Cafwyd gweithgarwch hefyd mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU o amgylch gêm Lloegr yn erbyn Cymru.

Cynhaliwyd digwyddiadau ar gyfer y gemau ar draws Canada yn Halifax, Ottawa, Toronto a Vancouver gan ddefnyddio cysylltiadau hen a newydd y Cymry ar wasgar a ddatblygwyd drwy ein blwyddyn Cymru yng Nghanada.

Cynhelir Cwpan y Byd nesaf FIFA ar draws Gogledd America yn 2026 ac mae'r gweithgarwch hwn yn rhoi llwyfan defnyddiol i ddysgu a datblygu gweithgarwch yn y dyfodol ar gyfer y twrnamaint nesaf ymhen pedair blynedd.

Cynhaliwyd digwyddiadau ar draws Ewrop ym Mrwsel, Dulyn, Paris a Berlin. Yn Nulyn, ymunodd y tîm â Llysgenhadaeth UDA i Iwerddon i gyd-gynnal dangosiad o gêm Cymru yn erbyn UDA a chynnal digwyddiad sgwrs gyda Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Neville Southall ac Ian Rush. Defnyddiodd Brwsel y twrnamaint fel llwyfan i gynnal digwyddiad panel, mewn partneriaeth â Chenhadaeth y DU i'r UE, ar amrywiaeth a chynhwysiant mewn pêl-droed gyda siaradwyr o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Uwch Gynghrair Lloegr a Senedd Ewrop. Yn Ffrainc, gosodwyd baner “C'mon Cymru” wrth fynedfa Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. Roedd y ddau ddigwyddiad yn Berlin yn arddangos bwyd a diod o Gymru, gan ddenu dros 100 o randdeiliaid i’r naill a’r llall.

Cynhaliodd Southbank Llundain Tŷ Cymru/Wales Dome am bedwar diwrnod ym mis Tachwedd. Cynhaliwyd amryw o ddigwyddiadau yn Nhŷ Cymru, gan gynnwys trafodaeth banel ar fewnfuddsoddiad technoleg ariannol, digwyddiadau yn y Gymraeg, dangosiadau celfyddydol a pherfformiad gan Ysgol Gymraeg Llundain ac Ysgol Gynradd Griffin.

Yn Japan, bu'r tîm yn gweithio gyda dylanwadwr pêl-droed a sefydliadau cyfryngau i hyrwyddo Cymru a'r Wal Goch a datblygu straeon yn ymwneud â chwaraewyr Cymru. Denodd darllediad cyhoeddus o gêm Cymru yn erbyn Iran yn Ninas Himeji gynulleidfa fawr a chefnogodd Castell Kitakyushu Kokura dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru gydag ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn anffodus, effeithiodd y cyfyngiadau Covid yn Tsieina ar allu'r tîm i ddarparu digwyddiadau arfaethedig megis gŵyl bêl-droed yn Beijing a digwyddiad arddangos Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Chongqing. Fodd bynnag, llwyddodd swyddfa Shanghai i weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu gemau pêl-droed pump bob ochr gyda rhai o Gymru, cysylltiadau busnesau allweddol a chlybiau pêl-droed lleol, sy'n golygu, er gwaethaf y cyfyngiadau a'r rhwystrau, bod tîm China wedi gwneud y gorau o'r cyfleoedd a gyflwynwyd gan Gwpan y Byd.

Cymru yng Nghanada 2022

Nod y blynyddoedd thema 'Cymru yn...' yw cryfhau'r berthynas rhwng Cymru a'r wlad bartner a rhoi ffocws strategol i'n gweithgarwch. Maent yn ymwneud â meithrin cysylltiadau – hen a newydd. Yn 2021, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch "Cymru yn..." gyntaf o'r enw 'Cymru yn yr Almaen 2021’. Yn dilyn y llwyddiant yn yr Almaen, penderfynwyd parhau â'r prosiect 'Cymru ym...’ am ddwy flynedd arall, gyda Cymru yng Nghanada 2022 ac yna Cymru yn Ffrainc 2023.

Amcanion Cymru yng Nghanada 2022

Montréal yw cartref Llywodraeth Cymru yng Nghanada, ac mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn Québec, yn enwedig Llywodraeth Québec, wedi mynd o nerth i nerth ers agor y swyddfa yno yn 2018. Cyflwynodd Cymru yng Nghanada 2022 gyfle i gryfhau a dyfnhau'r cysylltiadau presennol yn Quebec ac adeiladu ar y gwaith hwn i greu partneriaethau newydd a chynyddu amlygrwydd Cymru ar draws rhannau eraill o Ganada.

Nododd tîm Canada bedwar prif amcan ar gyfer y flwyddyn:

  1. Ymgysylltu â chynulleidfa ehangach, gan gynnwys cynyddu rhwydwaith y Cymry ar wasgar yng Nghanada.
  2. Adeiladu a dyfnhau ein perthynas gref â Québec.
  3. Creu a datblygu partneriaethau newydd mewn Taleithiau a Thiriogaethau ar draws Canada.
  4. Creu etifeddiaeth sy'n parhau i ychwanegu gwerth at gyflwyno'r Strategaeth Ryngwladol ym marchnad Canada unwaith y bydd y flwyddyn Cymru yng Nghanada wedi dod i ben.

Darparwyd mwy na 35 o weithgareddau ar draws saith talaith yng Nghanada, yn ogystal â gweithgareddau rhithwir a lwyddodd i ennyn diddordeb miliynau o bobl.

Ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar

Er mwyn cynyddu cyrhaeddiad a datblygu rhwydwaith hirhoedlog o gysylltiadau newydd, canolbwyntiwyd ar dri pheth: sylw cadarnhaol yn y cyfryngau; mwy o gyfathrebu a chyswllt drwy'r cyfryngau cymdeithasol; a datblygu ac arallgyfeirio ein Cymry ar wasgar ar draws Canada.

Cawsom sylw ar dri rhwydwaith teledu yng Nghanada - CBS, TCC a TSN - a thri rhwydwaith teledu yng Nghymru - BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C. Cawsom sylw mewn un erthygl farn yn y Globe and Mail - papur newydd mwyaf poblogaidd Canada gyda dros saith miliwn o ddarllenwyr ledled y wlad. Ar wahân i hynny, ysgrifennwyd un erthygl farn hyd llawn yn gyfan gwbl yn y Gymraeg i nodi'r ffaith bod Cymru wedi cyrraedd Cwpan Pêl-droed y Byd. Llwyddwyd hefyd i drefnu cyfweliad sain ar gyfer y Prif Weinidog gyda CBS.

Yn sgil ein cydweithrediad â dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol o'r Yukon edrychwyd ar gynnwys Cymru dros 5.3 miliwn o weithiau ar draws TikTok ac Instagram yn unig, gyda bron i 750,000 o bobl yn hoffi'r cynnwys a lefel uchel o ymgysylltiad gan ddefnyddwyr.

Er mwyn datblygu ein rhwydwaith Cymry ar wasgar ar draws Canada, cynhaliwyd digwyddiadau rhwydweithio i rai ar wasgar ac o Gymru yn Toronto, Halifax a Vancouver, gan weithio gyda Cymru Fyd-eang, rhanddeiliaid eraill a sefydliadau lleol Cymry ar wasgar i gyrraedd rhai o Gymru a chysylltiadau newydd sydd â chysylltiad â Chymru. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cynhaliwyd digwyddiadau Cwpan y Byd fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru o amgylch Cwpan y Byd Qatar – yn Halifax, Ottawa, Toronto a Vancouver.

Dyfnhau'r berthynas â Québec

Gwnaethom groesawu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (WAI) yn ystod y flwyddyn. Roedd ymweliad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynnwys ymgysylltu â Phrifysgol McGill, seminar rhithwir gyda phanelwyr o bob rhan o Ganada. Ymwelodd WAI â'r Société des Arts Technologiques (SAT) a chyfarfod â'r Conseil des Arts et des Lettres du Québec (CALQ). Ynghyd â CALQ, cyhoeddodd WAI dri phreswyliad artistig dwyochrog rhwng Cymru a Québec, gyda'r cyntaf yn cael ei gynnal yn y Centre des Musiciens du Monde ym Montréal yn ystod hydref 2023.

Teithiodd Asiant Cyffredinol newydd Québec yn y DU, Line Rivard, i Gymru ar gyfer ei chyfarfod cyntaf â'r Prif Weinidog, gan fynd ar daith o'r Senedd a chyfarfod â sawl partner allweddol o Québec yng Nghymru.

Datblygu cysylltiadau newydd ar draws Canada

Mae cyfleoedd a synergeddau i Gymru ar draws Canada, yn arbennig yn Ontario, British Columbia a'r Taleithiau Arforol oherwydd maint y boblogaeth, diwydiannau allweddol megis ynni adnewyddadwy a thechnoleg, a dealltwriaeth gyffredinol dda o beth yw Cymru a ble mae hi. Dyma gipolwg ar weithgarwch ym mhob talaith.

Ontario
Derbyniad Rhai o Gymru yn Toronto

Ar y cyd â Cymru Fyd-eang, cynhaliwyd derbyniad gyda'r nos i gyrraedd rhai o Gymru a chysylltiadau newydd sydd â chysylltiad â Chymru. Roedd yn gyfle hefyd i ddathlu ysgoloriaeth ôl-raddedig Cymru Fyd-eang a oedd ar gael i fyfyrwyr o Ganada fel rhan o'r flwyddyn Cymru yng Nghanada.

Drysau agored Ottawa

Digwyddiad arddull 'parti stryd' ym mhreswylfa'r DU oedd yn agored i'r cyhoedd. Yn y digwyddiad, trefnwyd stondin Cymru gyda phrofiad twristiaeth Cymru trochol gan ddefnyddio pensetiau VR. Daeth dros 2,000 o ymwelwyr i'r digwyddiad. 

British Columbia, Alberta a'r Yukon
Bord gron polisi rhwng Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chomisiwn Economaidd Vancouver (VEC)

Yn canolbwyntio ar ymagweddau'r Cenhedloedd Cyntaf at lesiant a rhannu gwybodaeth rhwng Cymru a Chanada.

Breakout West Festival

Ar y cyd â FOCUS Wales, cefnogwyd tri chyngerdd arbennig gydag artistiaid o Gymru a chynnal sesiwn gerddoriaeth gydag artistiaid Cymraeg ac Ieithoedd Brodorol. Ar Ddiwrnod Gwirionedd a Chymodi, siaradodd WAI ac aelod o'r band Cymraeg, Adwaith, ar banel ar y cyfraniad mae cerddoriaeth yn ei wneud at warchod a hyrwyddo ieithoedd brodorol.

Hyrwyddo Cymru trwy ddylanwadwr cyfryngau cymdeithasol o'r Yukon

Ymatebodd y Prif Weinidog i ymddiheuriad y crëwr cynnwys cyfryngau cymdeithasol o'r Yukon, Pavlina Sudrich, i Gymru ar ôl dweud ar gam fod Cymru'n rhan o Loegr. Cafodd neges y Prif Weinidog ei phostio o sianel TikTok newydd Llywodraeth Cymru ac edrychwyd arni ddeg gwaith cymaint â phostiadau nodweddiadol ar y sianel honno.

Nova Scotia
Tîm Rygbi Merched Cymru yng Nghanada

Chwaraeodd Cymru a Chanada ei gilydd yn Halifax, Nova Scotia, yn y cyfnod cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd ym mis Hydref 2022. Cynhaliwyd cysylltiadau busnes a gwleidyddol a chyda’r Cymry ar wasgar a gwneud rhywfaint o waith noddi i farchnata twristiaeth i Gymru.

Etifeddiaeth

Rydym wedi cynyddu ac arallgyfeirio rhwydwaith y Cymry ar wasgar a Chyfeillion Cymru sydd wedi ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa leol ehangach mewn lleoliadau o bwys lle nad oes gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb corfforol. Rydym wedi cynyddu gwelededd Cymru a negeseuon Cymru yng Nghanada ac mae gennym biblinell y gellir ei holrhain o gydweithrediadau a gweithgareddau ar y cyd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a rhanddeiliaid yng Nghanada.

Mae enghreifftiau hyd yma’n cynnwys:

  • Ymestyn Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Cymru Fyd-eang i fyfyrwyr o Ganada. Nod yr Ysgoloriaeth yw annog mwy o gysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a'r rhai yng Nghanada.
  • Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi llofnodi cytundeb gyda'r Conseil des Arts et des Lettres du Québec (CALQ) ar gyfer tri phreswyliad artistig dwyochrog rhwng Cymru a Québec, gan gefnogi chwe artist.
  • Trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Ontario ynghylch arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar draws sawl sector er lles pawb, gyda chynllun gweithredu cysylltiedig.
  • 12 prosiect ar y cyd rhwng rhanddeiliaid o Gymru a Québec i'w cynnal yn 2023, gyda phedwerydd Cais am Gynigion i'w lansio yn 2023.
  • Cynnwys ar-lein apelgar sy'n cyflwyno ein negeseuon allweddol ac yn codi ymwybyddiaeth o Gymru ar draws cyfres amrywiol o blatfformau.

Perthynas ag Ewrop

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu ag Ewrop, gan gynnwys drwy sefydliadau Ewropeaidd, rhwydweithiau a chysylltiadau cenedlaethol a rhanbarthol â blaenoriaeth. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gadw Swyddfa Brwsel Llywodraeth Cymru, a phenodi Derek Vaughan, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, ym mis Ionawr 2022.

Mae ein tîm ym Mrwsel yn sbarduno ymgysylltiad rhagweithiol a chadarnhaol Llywodraeth Cymru â'i phartneriaid Ewropeaidd, gyda thri phrif nod:

  1. Atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid Ewropeaidd ar fuddiannau polisi cyffredin – addysg, ymchwil ac arloesi, hinsawdd, yr amgylchedd, ynni, amaethyddiaeth, materion arfordirol a morol, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.
  2. Codi proffil Cymru a pholisïau unigryw Llywodraeth Cymru sy'n cyfrannu at fuddiannau polisi cyffredin – er enghraifft, rhaglen cyfnewid ar gyfer dysgu Taith, cynllun peilot incwm sylfaenol, gwaharddiad ar blastigau untro a'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol flaengar.
  3. Monitro a dadansoddi datblygiadau polisi'r UE a allai fod â goblygiadau i Gymru a pholisi Llywodraeth Cymru.

Mae rôl ein Cynrychiolydd Ewropeaidd yn cryfhau ein gallu i ymgysylltu â Sefydliadau Ewropeaidd yn benodol, gan arwain at fwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bolisïau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae gan Derek Vaughan gefndir a gwybodaeth gref am y sefydliadau Ewropeaidd, sydd wedi bod o fudd i'n gwaith ymgysylltu yno.

Un enghraifft o hyn yw bod Llywodraeth Cymru wedi cael cais i gynnal digwyddiad yn tynnu sylw at y rhaglen Taith yn Senedd Ewrop, gan gynnwys cynulleidfa o ASEau a rhanddeiliaid symudedd dysgu'r UE.

Mae tîm Brwsel Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos gyda sefydliadau Cymreig eraill, megis Addysg Uwch Cymru Brwsel a'r Senedd, sydd ill dau â phresenoldeb yn Nhŷ Cymru. Mae'r dull "Tîm Cymru" cydgysylltiedig hwn yn helpu i gynyddu effaith a gwelededd ymdrechion Cymru i ymgysylltu â'r UE. Mae Cymru'n parhau i gael ei gwahodd i weithio gyda Senedd Ewrop a sefydliadau eraill, er enghraifft, Pwyllgor y Rhanbarthau, ar ddigwyddiadau eraill lle gellir tynnu sylw at ddulliau polisi penodol Cymru.

Mae Swyddfa Brwsel yn arwain ein hymgysylltiad â nifer o rwydweithiau Ewropeaidd hefyd, yn enwedig Menter Vanguard - sy'n cael ei chadeirio gan Gymru yn 2023 - a Chynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol (CPMR), a fydd yn cynnal ei Chynulliad Cyffredinol o ranbarthau'r Iwerydd yng Nghaerdydd ym mis Mai 2023. Mae ein hymgysylltiad â rhwydweithiau'r UE yn rhoi llwyfan i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â phartneriaid Ewropeaidd ar fuddiannau polisi cyffredin, yn ogystal â chodi proffil Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgysylltiad dwyochrog â chenhedloedd a rhanbarthau Ewropeaidd, gan gynnwys trwy ein Datganiad a Rennir a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru, yn ogystal â Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda sawl rhanbarth, gan gynnwys Llydaw a Gwlad y Basg. Mae ein tîm ym Mrwsel a'r Cynrychiolydd Ewropeaidd yn cryfhau'r berthynas drwy ymgysylltu â swyddfeydd y rhanbarthau hynny ym Mrwsel, a'u cynrychiolwyr yn Senedd Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau.