Ystadegau tai a diweddariad ar ymchwil, Mai 2022
Manylion ar ddatblygiadau prosiectau ac adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ymchwil tai
Mae'r prosiectau ymchwil canlynol ar y gweill:
Disgwylir i waith ymchwil i archwilio'r gweithlu adeiladu amlfeddiannaeth ddechrau'n fuan. Bydd hyn yn cefnogi adolygiad cynhwysfawr o'r system diogelwch adeiladau presennol, er mwyn llywio diwygiadau i'r ffordd y caiff adeiladau preswyl amlfeddiannaeth eu harchwilio a'u rheoleiddio.
Mae gwerthusiad o ymyriadau digartrefedd yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau digartrefedd yn mynd rhagddo Bydd yr ymchwil hwn yn adeiladu'r sylfaen dystiolaeth ar draws atal ac ymyrryd ar ddigartrefedd.
Bydd adolygiad tystiolaeth o lenyddiaeth ar orlenwi ar gyfer cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gyhoeddi'n fuan. Ei nod yw asesu tystiolaeth ar sut y gallai gorlenwi effeithio ar aelwydydd.
Mae'r holl adroddiadau ymchwil tai i'w gweld ar wefan ystadegau ac ymchwil.
Ystadegau tai
Wrth i'r galw am ystadegau a data i fesur effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) gynyddu, bu'n rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddi ac ystadegau sy’n flaenoriaeth.
Eglurodd ein datganiad hyn ymhellach ac, yn unol â chanllawiau'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, gwnaed penderfyniadau i ganslo neu ohirio rhai cyhoeddiadau.
Yn ystod 2021-22, gwnaethom ailddechrau cyhoeddi allbynnau ystadegol allweddol.
Datganiadau ystadegol diweddar
Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (14 Hydref 2021)
Stoc tai landlordiaid cymdeithasol a rhent: ar 31 Mawrth 2021 (26 Hydref 2021)
Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Gorffennaf i Fedi 2021 (26 Tachwedd 2021)
Adeiladu tai newydd: Ebrill 2019 i Fawrth 2021 (14 Rhagfyr 2021)
Digartrefedd: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (16 Rhagfyr 2021)
Digartrefedd: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (21 Rhagfyr 2021)
Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Hydref i Ragfyr 2021 (22 Chwefror 2022)
Tai a gafodd eu dymchwel: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (8 Mawrth 2022)
Peryglon mewn tai a thrwyddedau: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (8 Mawrth 2022)
Cymorth ar gyfer gwelliannau tai: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (22 Mawrth 2022)
Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (31 Mawrth 2022)
Gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu ar y stryd
Rydym wedi parhau i gyhoeddi gwybodaeth reoli fisol am gysgu ar y stryd a darparu llety i'r digartref.
Nid yw'r wybodaeth reoli hon wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol.
Mae'r holl ddatganiadau ar gael ar wefan ystadegau ac ymchwil.
Rydym yn croesawu adborth ar gynnwys a chyflwyniad unrhyw un o'r ystadegau a'r wybodaeth reoli hon i ystadegau.tai@llyw.cymru .
Rhaglen Dystiolaeth Amodau Tai
Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Tîm Polisi Tlodi Tanwydd i ddarparu cymorth dadansoddol i fonitro'r cynllun ar gyfer trechu tlodi tanwydd rhwng 2021 a 2035, gan gynnwys datblygu dangosfwrdd o'r holl ddata tlodi tanwydd perthnasol y gobeithiwn allu ei gyhoeddi yr haf hwn. Ym mis Ebrill, gwnaethom gyhoeddi Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): ym mis Hydref 2021. Oherwydd gwahaniaethau mewn methodoleg, ni ellir cymharu amcangyfrifon modelu 2021 o dlodi tanwydd yn uniongyrchol â ffigurau blaenorol. Bydd dadansoddiad manwl yn cael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf a bydd adroddiad methodoleg manwl yn cyd-fynd ag ef.
Rydym yn parhau i weithio gyda Thîm Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) i ddarparu cymorth dadansoddol wrth ddatblygu'r Safon ar ôl 2020, gan gynnwys yr ymgynghoriad ar y Safon arfaethedig. Yn yr un modd, rydym yn gweithio gyda'r Tîm Modelau Arloesol a Datgarboneiddio Tai ar ddatblygu a chyflwyno rhaglen weithredu i ddatgarboneiddio holl gartrefi Cymru erbyn 2050.
Adnodd Dadansoddi Stoc Tai i Gymru (HSAR)
Rydym yn parhau i weithio gydag Adrannau eraill y Llywodraeth, Asiantaethau ac ONS ynghylch rhannu data perthnasol o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol, megis gwybodaeth am y Dreth Gyngor. Rydym yn parhau i archwilio mynediad at ffynonellau data eraill o dan y Ddeddf Economi Ddigidol megis data defnydd ynni BEIS.
Os oes gan unrhyw un unrhyw awgrymiadau ar gyfer darnau dadansoddi y gallem edrych arnynt, neu os oes ganddynt ddiddordeb mewn cael mynediad at ddata ar gyfer eu prosiectau eu hunain, cysylltwch â ni.
Cyfarfod nesaf y Grŵp Gwybodaeth am Dai
Cynhelir y cyfarfod nesaf drwy Microsoft Teams ar 28 Medi 2022. Bydd agenda a gwahoddiad cyfarfod yn dilyn yn nes at y dyddiad.
Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, neu os hoffech gael cyngor ystadegol ar ddefnyddio data tai (gan gynnwys, er enghraifft, yn absenoldeb data), cysylltwch â: