Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym (Awdurdod Cyllid Cymru) yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni wedi'u derbyn erbyn 17 Gorffennaf 2023.

Mae Tabl 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023
  • y newid o ran canran yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022 (a wnaed ym mis Gorffennaf 2022)

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn yr adran ‘Ynglŷn â’r ystadegau yma’ (‘Cymariaethau dros amser’). 

Tabl 1.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif blaenorol blwyddyn ynghynt [nodyn 1]
Math o drafodiad Ebrill i Fehefin 2023 [dros dro] Newid o ran % (o gymharu ag Ebrill i Fehefin 2022) [nodyn 3] 
Trafodiadau [nifer]
Preswyl 10,320 -21%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 2,500 -24%
Amhreswyl  1,490 -2%
Pob trafodiadau 11,810 -19%
Treth yn ddyledus [£ miliwn] 
Preswyl  51.8 -29%
O'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 2]  19.2 -26%
Amhreswyl 13.7 -52%
Pob trafodiadau 65.5 -36%

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae tabl hwn yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022 a wnaed yn Ngorffennaf 2022.

Tabl 1.2 Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig, yn ôl blwyddyn ariannol y daeth y trafodiad i rym (£ miliwn)
  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22 2022-23
Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr [nodyn 1]  [w] 28.2 [w] [w] [w]
Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd) [nodyn 2] [w] 2 0 [w] [low]

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

[Nodyn 1] Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

[Note 2] Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

[w] Dim trafodiadau a gofnodwyd yn y categori hwn.

Gan gymharu Ebrill i Fehefin 2023 gyda Ebrill i Fehefin 2022 ar sail tebyg am debyg:

  • gostyngodd cyfanswm y trafodiadau o 19% a gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 36%
  • gostyngodd trafodiadau preswyl gan 21% a gostyngodd threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 29%
  • o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 24%
  • gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 26%, er y dylid bod yn ofalus wrth wneud y gymhariaeth hon. I gael mwy o wybodaeth, gweler ‘Cymariaethau dros amser’ yn yr adran ‘ynglŷn â’r ystadegau yma’ yn y datganiad hwn.
  • bu gostwng o 2% mewn trafodiadau anhreswyl. Gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 52%.

Nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys y trafodiadau ychwanegol a gyflwynir yn Nhabl 1.2 uchod. Dylid defnyddio'r gwerthoedd yn Nhabl 1.2 os am gael gwerth ar gyfer cyfanswm y refeniw Treth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn, yn unig.

Ar gyfer trafodiadau preswyl, y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 oedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd ers Hydref i Ragfyr 2020, er ei bod yn parhau’n uwch yn gyffredinol na’r blynyddoedd cyn hynny. Mae'r dreth breswyl is oedd yn ddyledus yn y chwarteri diweddar yn adlewyrchu lefelau is o drafodiadau preswyl. Mae hyn yn debygol o fod wedi'i ddylanwadu gan amodau economaidd ehangach yn dylanwadu ar drafodiadau eiddo.

Mae adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn yn dangos bod gwerth eiddo preswyl wedi cynyddu’n gyffredinol dros y pum mlynedd diwethaf, ond gyda rhai amrywiadau dros amser. Rydym wedi gweld newid yn nosbarthiad prisiau eiddo a delir yng Nghymru, sy’n dangos bod yr eiddo drutach bellach yn cyfrannu mwy o drafodiadau a threth sy’n ddyledus nag yn y blynyddoedd blaenorol.

Roedd y refeniw amhreswyl misol yn arbennig o uchel ym mis Mehefin a mis Medi 2022. Roedd hyn yn hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y naw mis ers hynny. Yn benodol, y refeniw amhreswyl misol ym mis Ebrill a mis Mehefin 2023 oedd y symiau misol isaf a welwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Roedd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl chwarterol yn Ebrill i Fehefin yn is na phob un o'r naw chwarter blaenorol, er eu bod yn parhau'n uwch yn gyffredinol nag yn y tair blynedd cyn hynny. Roedd y refeniw is yn adlewyrchu niferoedd is y trafodiadau, yn debygol o fod wedi cael ei ddylanwadu gan amodau economaidd ehangach.

“Roedd y refeniw chwarterol o drafodiadau amhreswyl yn is yn Ebrill i Fehefin nag ym mhob un o’r deg chwarter blaenorol. Roedd y tueddiadau cynharach wedi’u hachosi’n bennaf gan nifer fach o drafodiadau mawr, ac rydym wedi gweld llai o’r rhain yn ddiweddar.”

Nôl i dop y dudalen

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Cymariaethau dros amser

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidiadd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gall fod wedyn yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol (Ionawr i Fawrth 2023) â data am yr un cyfnod yn y blwyddyn ynghynt.

Dylid nodi bod yn bob argraffiad o’n ystadegau Treth Trafodiadau Tir, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ebrill i Fehefin 2022 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 wedi cael ei ddywygio eto.

Felly, yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • data ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023; ac
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022 (a gyhoeddwyd gennym yn Ngorffennaf 2022)

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Trafodiadau Tir i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Esboniad pellach o'n data, gan gynnwys yr hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ail gartrefi

Rydym yn anogu defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Diweddarwyd yr erthygl hon ar 20 Gorffennaf 2023 gyda data newydd ar gyfer 2022-23. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Bwriad yr erthygl yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Ar 20 Mehefin 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru erthygl ystadegol ‘Ail gartrefi: Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?’. Mae’r erthygl hon yn cynnwys esboniad pellach o ddata Treth Trafodiadau Tir a’r hyn y mae’r data’n ei ddweud ac nad yw’n ei ddweud wrthym am bryniannau ail gartrefi. Diweddarwyd y data a gynhwysir yn yr erthygl hon ar 20 Gorffennaf 2023 yn ein herthygl a ddisgrifir uchod.

Data ar gael dros Treth Trafodiadau Tir

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Hefyd, yn flynyddol, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
  • Etholaeth y Senedd (trafodiadau preswyl yn unig)
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (trafodiadau preswyl yn unig)
  • Parciau Cenedlaethol (trafodiadau preswyl yn unig)
  • ardaloedd adeiledig (trafodiadau preswyl yn unig)

Ar gyfer data ar lefel Cymru, rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegol, rydym yn esbonio’r amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mehefin 2023, Ebrill i Fehefin 2023, ac amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Mae rhesymau am hyn yn cynnwys:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
  • Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod Ebrill 2022 i Fawrth 2023, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Defnydd o’r term ‘amhreswyl’

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Talgrynnu rhifau a gyflwynir

Drwy gydol y datganiad hwn, rydym wedi talgrynnu unrhyw ddata a gyflwynir:

  • nifer y trafodiadau i'r 10 agosaf
  • cyfanswm treth i’r £0.1 miliwn agosaf, ac eithrio trafodiadau â manylion cyfyngedig (sy’n cael eu talgrynnu i’r £1 miliwn agosaf)
  • gwerth eiddo i'r £1 miliwn agosaf

Cyfrifir unrhyw gyfansymiau a gyflwynir gan ddefnyddio gwerthoedd heb eu talgrynnu.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ffigur 2.1 Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod ar eu hanterth yn Mehefin 2021 a bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau yn Rhagfyr 2021 ac yn Rhagfyr 2022. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2022 ychydig yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol, yn gyffredinol gyda mwy o wahaniaeth ers Ionawr 2023.

Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 115 KB) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Ngorffennaf 2023.

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’14 Ion’ yn 2023-24 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 15 i 21 Gorffennaf 2023 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 16 i 22 Gorffennaf 2022 (yn gynwysedig).

Mae Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (17 Gorffennaf 2023 yn y datganiad hwn).

Bu uchafbwynt sydyn yn y trafodiadau a gyflwynwyd tua diwedd Mehefin 2021. Mae'r uchafbwynt yn gysylltiedig â'r cyfnod lleihau treth dros dro a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Cyflwynwyd 2,840 o drafodiadau, sef y nifer mwyaf erioed yn ystod yr wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2021, gyda llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar 30 Mehefin 2021. Yna gostyngodd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i lefel fwy arferol o Orffennaf, ac eithrio uchafbwynt llai o 1,670 o drafodion a welwyd yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Medi 2021. Mae’r gostyngiad mewn trafodidau yn yr wythnos yn dechrau 16 Ebrill 2022 yn cyd-daro â gwyliau cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae trafodiadau a gyflwynwyd yn wythnosol yn 2023-24 hyd yn yn ac yn 2022-23 wedi aros yn is na’r ffigurau ar gyfer yr un wythnosau yn 2021-22, yn gyffredinol gyda mwy o wahaniaeth i’w weld ers Ionawr 2023.

Ffigur 2.2 Nifer y trafodiadau, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod nifer chwarterol y trafodiadau preswyl yn sylweddol is yn Ebrill i Fawrth 2023 na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau amhreswyl yn is yn Ebrill i Fawrth 2023 na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd perthnasol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae’r trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Ar ddiwedd 17 Gorffennaf 2023, derbynion ni fanylion 11,810 o drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill i Fehefin 2023. Mae hyn 19% yn is na’r Ebrill i Fehefin 2022 (amcangyfrifwyd yn Ngorffennaf 2022).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd gostyngiad o 21%, 24% a 2% yn y drefn honno. Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.5a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y tueddiadau ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.5b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Yn Ebrill i Fehefin 2023, roedd 87% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 13% yn rhai amhreswyl. Ar gyfer cyfnodau blaenorol o dri mis, roedd y canrannau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl yn amrywio rhwng 86% a 92%.

Ffigur 2.3 Treth yn ddyledus ar drafodiadau, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod y dreth oedd ddyledus ar drafodiadau yn Ebrill i Fehefin 2023 yn is na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd y canran y gostyngiad mewn refeniw ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy na'r gostyngiad mewn refeniw ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 (ac yn gynharach ar gyfer trafodiadau preswyl) wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Yn anad dim bydd hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mae cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill i Fehefin 2023 oedd £65.5 miliwn. Mae hyn yn 36% yn is na Ebrill i Fehefin 2022 (amcangyfrifwyd yn Ngorffennaf 2022). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth yn ddyledus o breswyl, refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch preswyl, a thrafodiadau amhreswyl oedd gostyngiadau o 29%, 26% a 52% yn y drefn honno.

Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.6a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y tueddiadau ers ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.6b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Fel y nodwyd yn Ffigur 2.3 uchod, nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys unrhyw dreth oedd yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

Ffigur 2.4 Gwerth a briodolir i eiddo sy’n agored i Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod gwerth eiddo oedd yn destun Treth Trafodiadau Tir yn Ebrill i Fehefin 2023 yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Cyfrannodd y gostyngiadau yng ngwerth trafodiadau preswyl fwy na'r gostyngiad ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae unrhyw werth eiddo sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2 wedi'i hepgor.

[Nodyn 2] Gall lesoedd amhreswyl sydd wedi’u rhoi o’r newydd fod â naill ai gwerth premiwm, gwerth rhent neu'r ddau (caiff y term 'premiwm' ei ddisgrifio'n fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'). Y gwerth rhent yw gwerth net presennol (NPV) y rhenti. Yn y siart hwn, dim ond yr elfen bremiwm sy'n cael ei chynnwys yn y cyfanswm. Ni gyflwynir y gwerth rhent yn y siart hon. Ni ddylid ychwanegu'r gwerth rhent at gyfanswm gwerth yr eiddo sydd wedi’i drethu, gan eu bod yn gysyniadau gwahanol. Ceir mwy o wybodaeth am elfen rhent y trafodiadau hyn yn Adran 4 yn y datganaid hwn.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae gwerthoedd trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi’u diwygio am i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu hawlio.

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ebrill i Fehefin 2023 oedd £2.8 biliwn. Mae hyn yn is na'r £3.8 biliwn a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2022, er yn gyffredinol rydym wedi gweld cynnydd dros amser yng ngwerth cyfartalog yr eiddo a drethwyd. Gweler yr adran 'trafodiadau preswyl yn ôl gwerth' y datganiad hwn am ragor o sylwebaeth.

(heb ei ddangos yn Ffigur 2.4) Ar wahân i hynny, yn Ebrill i Fehefin 2023, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £281 miliwn. Roedd y ffigur cyfatebol yn Ebrill i Fehefin 2022 yn £416 miliwn.

Ffigur 2.5a Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau preswyl yn Ebrill, Mai a Mehefin 2023 yn is na’r un misoedd flwyddyn ynghynt, er mai dim ond ychydig yn llai ym Mehefin 2023, sy'n debygol o fod oherwydd bod pum dydd Gwener yn y mis hwnnw. O fewn y ffigurau hynny, roedd cyfraddau trafodiadau preswyl cyfraddau uwch yn debyg i’r un mis flwyddyn ynghynt, ac eithrio mis Mehefin 2022 a oedd sylweddol yn is.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mehefin 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Mawrth i Fai 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan 44% y trafodiadau (yn dod i rym yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023) ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Cyflwynir dadansoddiad o effaith cyfyngiadau COVID-19 o Fawrth 2020 a’r cyfnod dros dro o ostyngiad yn y dreth a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. mewn datganiadau cynharach. Yn Ebrill, Mai a Mehefin 2023, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn is na’r flwyddyn flaenorol, er bod y gwahaniaeth yn llai ar gyfer mis Mehefin, sy’n debygol o fod oherwydd bod pum dydd Gwener ym mis Mehefin 2023.

Ffigur 2.5b Nifer y trafodiadau amrheswyl, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau amhreswyl yn Ebrill a Mai 2023 yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt, cyn cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl ym mis Mehefin 2023. Roedd cynnydd nodedig mewn trafodiadau yn Mawrth 2023 sy’n cynychioli uchafbwynt dros y flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mawrth 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Rhagfyr 2022 i Chwefror 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae graddfa Ffigur 2.5b yn wahanol i raddfa Ffigur 2.5a.

Ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yn Mawrth 2023, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir. Yn Ebrill a Mai 2023, mae nifer y trafodiadau amhreswyl yn gyffredinol wedi bod yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt, before a rise in transactions in June 2023.

Cyflwynir dadansoddiad o effaith cyfyngiadau COVID-19 o Fawrth 2020 mewn datganiadau cynharach.

Ffigur 2.6a Treth yn ddyledus ar y trafodiadau preswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos fod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn Ebrill a Mai 2023 yn sylweddol is na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, a dim ond ychydig yn is ar gyfer Mehefin 2023. Yna roedd y refeniwau misol yn Rhagfyr 2022 i Fawrth 2023 yn is na'r un mis yn y flwyddyn flaenorol. O fewn y ffigurau hynny, roedd y refeniw ychwanegol o gyfraddau preswyl uwch yn dangos tueddiadau tebyg.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Mehefin 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Mai 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn gyffredinol yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau.

Gostyngodd refeniw o drafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ionawr 2023 o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae'n debygol bod tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo yn dylanwadu ar hyn ac amodau economaidd ehangach yn dechrau effeithio ar drafodiadau. Yn y misoedd dilynol, arhosodd y refeniw yn is na'r refeniw a welwyd yn yr un misoedd y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 2.6b Treth yn ddyledus ar y trafodiadau amrheswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos fod y dreth fisol oedd ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn Ebrill 2021 i Fedi 2022 yn uwch nag £8 miliwn yn y rhan fwyaf o fisoedd. O Orffennaf 2022 i Fawrth 2023, roedd y dreth fisol oedd yn ddyledus dros £8 miliwn mewn dau mis yn unig: Medi 2022 a Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mehefin 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Rhagfyr 2022 i Chwefror 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd y refeniw amhreswyl misol yn arbennig o uchel ym mis Mehefin a mis Medi 2022. Roedd yn eu hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y naw mis ers hynny.

Yn gyffredinol, mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Ffigur 2.7 Canran y trafodiadau sydd o bob math o drafodiad, Ebrill i Fehefin 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill i Fehefin 2023, bod mwyafrif helaeth y trafodiadau preswyl yn drawsgludiadau neu’n drosglwyddiadau perchnogaeth. Roedd y gwerth hwn ychydig dros ddwy ran o dair ar gyfer trafodiadau amhreswyl, gyda ychydig llai chwarter y trafodiadau amhreswyl yn lesoedd newydd yn cael eu rhoi.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn Ebrill i Fehefin 2023 yn £2.6 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 94% ar gyfer trafodiadau preswyl a 68% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 28% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 1% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau o dri mis a blynyddoedd blaenorol.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Ffigur 3.1 Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £400,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 cyn gostwng ers hynny.

Ffigur 3.2 Canran y trafodiadau preswyl ym mhob band treth, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, ers mis Ebrill 2018, bod canran chwarterol y trafodiadau preswyl yn y band ‘dros £750,000’ wedi codi’n gyffredinol i’r gwerth uchaf a welwyd hyd yma yng Ngorffennaf i Fedi 2022, cyn disgyn yn y tri chwarter ers hynny. Yn yr un modd, cynyddodd canran chwarterol y trafodiadau preswyl yn y band ‘£400,001 i £750,000’ yn gyffredinol i’r gwerth uchaf a welwyd hyd yma rhwng Hydref a Rhagfyr 2022, cyn disgyn yn y ddau chwarter ers hynny.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos tueddiadau blynyddol o ran nifer y trafodiadau preswyl, a'r canran y trafodiadau, ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.

Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Bydd unrhyw drafodiadau cyfraddau uwch sydd â gwerth hyd at £180,000 yn dal i gael eu cynnwys yn y band ‘hyd at a chan gynnwys y trothwy cyfradd sero’. Bydd trafodiadau cyfraddau uwch gyda gwerth rhwng £180,001 a £400,000 yn dal i gael eu cynnwys yn y band ‘uwchben y trothwy cyfradd sero, hyd at a chan gynnwys £400,000’. Rydym yn defnyddio £180,000 fel y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch yma gan mai dyma’r band gwerth isaf yn yr atodlen ar gyfer cyfraddau uwch.

Ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau, y trothwy cyfradd sero oedd:

  • £180,000 o 1 Ebrill 2018 i 26 Gorffennaf 2020 ac o 1 Gorffennaf 2021 i 9 Hydref 2022
  • £250,000 o 27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 (oherwydd y cyfnod gostyngiad treth dros dro)
  • £225,000 o 10 Hydref 2022 ymlaen (oherwydd newid parhaol yn y prif gyfraddau a bandiau preswyl)

Yn y cyfnodau amser pan oedd y trothwy cyfradd sero ar gyfer y prif gyfraddau’n uwch (27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 ac ers 20 Hydref 2022), dylanwadodd hyn ar nifer y trafodiadau yn y ddau gategori ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ ac ‘uwch na’r trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’.

Er gwaethaf effaith coronafeirws (COVID-19) ers Mawrth 2020 a'r adferiad a dilynodd, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd. Yn Ffigur 3.1, mae mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad y nifer y trafodiadau yn Ionawr i Fawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Cyflwynir dadansoddiad o effaith COVID-19 a newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir mewn datganiadau blaenorol.

Yn gyffredinol mae Ffigur 3.2 yn dangos cynnyddau yng nghanrannau’r trafodiadau yn y bandiau gwerth uwch, er bod amrywiadau tymhorol yn y ffigurau hyn a rhai gostyngiadau yn y chwarteri diweddar.3% oedd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn Ebrill i Fehefin 2018, gan godi i 3% yn Hydref i Ragfyr 2022, cyn gostwng i 8% yn Ebrill i Fehefin 2023. 0.2% oedd canran y trafodiadau gwerth dros £750,000 yn Ebrill i Fehefin 2018, gan godi i 1.4% yn Ngorffennaf i Fedi 2022, cyn gostwng i 1% yn Ebrill i Fehefin 2023.

Ffigur 3.3 Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch yn y ddwy flynedd diwethaf nag yn y blynyddoedd cyn hynny. Roedd symiau’r dreth oedd yn ddyledus oedd yn deillio o’r bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ ar eu huchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022 ac Ebrill i Fehefin 2022 yn y drefn honno, cyn cwympo yn y chwarteri dilynol.

Ffigur 3.4 Canran y dreth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, o Hydref i Ragfyr 2022, mai canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus, oedd yn deillio o’r band ‘£400,001 i £750,000’, oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma, cyn gostwng ychydig yn y ddau chwarter ers hynny. Yn y pum chwarter blaenorol, roedd canran y dreth a oedd yn ddyledus yn deillio o’r band ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ yn is nag yn y blynyddoedd cyn hynny, ac roedd y ffigurau diweddar yn cynrychioli tua degfed neu ychydig dros ddegfed ran o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Mae Ffigurau 3.3 a 3.4 yn dangos tueddiadau blynyddol o dreth oedd yn ddyledus, a'r canran y dreth oedd yn ddyledus, ym mhob band treth. Fel gyda Ffigurau 3.1a a 3.1b yn blaenorol, rydym wedi cyfuno mae'r dau band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000. Disgrifir ystyr y ‘trothwy cyfradd sero’ a ddefnyddir yn y siartiau o dan Ffigurau 3.1 a 3.2..

Ar gyfer bandiau ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’, a ‘dros £750,000’ a ddangosir yn Ffigur 3.3, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ngorffennaf i Fedi 2023 oedd y gwerth uchaf a welwyd hyd yma, ac fe’i dilynwyd gan ostyngiadau ers hynny. Yn yr un modd, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y band £400,001 i £750,000 ar ei huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 cyn gostwng yn y ddau chwarter ers hynny. Mae’r cynyddau blaenorol hwn mewn treth sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw.

Dengys Ffigur 3.4 fod canran chwarterol y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo gwerth £400,001 i £750,000 wedi codi yn gyffredinol dros amser, o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 hyd at 38% yn Hydref i Ragfyr 2022 cyn gostwng i 36% yn Ebrill i Fehefin 2023. Yn gyffredinol, mae canran chwarterol y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo gwerth dros £750,000 wedi cynnydd, o 4% yn Ebrill i Fehefin 2018 hyd at 13% yn Ebrill i Fehefin 2021, cyn amrywio rhwng 13% a 15% yn y ddwy flynedd ers hynny.

Ar gyfer y categori ‘hyd at a chan gynnwys y trothwy cyfradd sero’, roedd y brif gyfradd dreth ar 0% bob amser yn ystod y pum mlynedd diwethaf, er bod y trothwy ei hun wedi amrywio dros y cyfnod hwnnw. Yn Ebrill i Fehefin 2023, roedd y trafodiadau hyn yn dal i gyfrif am 12% o gyfanswm y dreth breswyl oedd yn ddyledus, sy’n cysylltu â chyfraddau uwch elfen breswyl y dreth a godir ar drafodiadau o dan £180,000. Y ffigwr cyfatebol yn Ebrill i Fehefin 2018 oedd 22% ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny, ond gydag amrywiadau tymhorol yn y ganran yn ystod bob blwyddyn.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Ffigur 4.1 Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 4.1, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 4.2 Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn sylweddol uwch yn y chwe chwarteri o Ebrill 2021 i Fedi 2022, na’r ddau chwarteri ers neu chwarteri blaenorol. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth wedi gostwng i'r gwerthoedd chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn Ebrill i Fehefin 2020, cyn adfer dros y misoedd dilynol. Gweler y sylwebaeth mewn datganiadau blaenorol er mwyn deall effaith coronafeirws (COVID-19) ar drafodiadau. Ers Ebrill 2021 i Fedi 2022, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y categori ‘Gwerth nad yw’n rhent: £1m+’ yn arbennig o uchel. Roedd hyn oherwydd niferau fechan o drafodiadau mawr iawn. Yn y tri chwarteri ers hynny, bu llai o drafodiadau o'r fath, a gyfrannodd at ostyngiad mewn refeniw chwarterol.

Mae Ffigur 4.2 yn dangoes ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 85% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ac eithrio Ebrill i Fehefin 2019 (33%), ym mhob cyfnod o dri mis hyd at Mawrth 2021, mae tua 10% i 20% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl. Gostyngodd y ganran hon i tua 5% i 10% ym mhob cyfnod o dri mis o Ebrill 2021, er ei fod yn 13% yn Ebrill i Fehefin 2022.

Ffigur 4.3 Canran y trafodiadau amhreswyl a’r dreth sy’n ddyledus ar yr eiddo hynny ym mhob band gwerth, Ebrill i Fehefin 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill i Fehefin 2023, bod gan hanner y trafodiadau amhreswyl rhwng, werth nad yw’n werth rhent o hyd at ac yn cynnwys £250,000, a bod gan un rhan o bump werth nad yw’n werth rhent rhwng £250,001 ac £1 miliwn. Roedd gan ychydig drosodd chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, a gyfrannodd at y dreth yn ddyledus.

Ffigur 4.4 Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Ebrill i Fehefin 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill i Fehefin 2023, fod bron ychydig dwy rhan o dri o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth amhreswyl trafodiadau gwerth mwy nag £1 miliwn. Roedd llai na degfed ran o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth rhent y trafodiadau.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Disgrifir y term 'premiwm' yn fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y premiwm a delir ar ffurf gwerth arian parod ond gallai fod ar ffurf arall.

[Nodyn 2] Mae trafodiadau sydd â gwerth rhent a phremiwm wedi'i dalu yn cael eu cyfrif ddwywaith yn nifer y trafodiadau (yn Ffigur 4.3). Cyfrifir y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn unwaith (yn Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 yn dangos bod yn Ebrill i Fehefin 2023, 5% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 65% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4). Dylanwadodd nifer fechan o drafodiadau amhreswyl mawr iawn y canran hwn.

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 27% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 10% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Nôl i dop y dudalen

Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Ffigur 5.1 Nifer y trafodiadau sydd wedi'u rhyddhau a gafodd effaith ar y dreth oedd yn ddyledus, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Fawrth 2023, bod nifer chwarterol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio rhwng tua 300 a 450. Roedd nifer y rhyddhadau a hawliwyd ar drafodiadau preswyl yn uwch nag ar gyfer trafodiadau amhreswyl ym mhob chwarter.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd 290 o drafodiadau yn Ebrill i Fehefin 2023 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is nag y 320 trafodiadau o’r fath yn Ebrill i Fehefin 2022.

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 100 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth am ansawdd.

Ffigur 5.2 Treth wedi’i rhyddhau, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 i Fawrth 2023, bod gwerth chwarterol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio’n sylweddol, rhwng tua £10 miliwn ac £24 miliwn. Ers mis Ebrill 2018, roedd gwerth chwarterol y rhyddhadau amhreswyl a hawliwyd yn uwch yn gyffredinol nag ar gyfer rhyddhadau preswyl, er eu bod wedi bod yn fwy cyfartal ers 2021.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw rhyddhadau a allai fod wedi'i hawlio ar trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae gwerth y rhyddhadau a hawlir ym mhob cyfnod o dri mis amrywio'n sylweddol dros amser, ynghyd â chyfran y gwerth o drafodiadau preswyl neu amhreswyl. Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, trafodiadau amhreswyl yn cyfrannu dros hanner i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd. Fodd bynnag, cyfrannodd sawl trafodiad preswyl mawr at bod ryddhadau preswyl yn sylweddol fwy na rhyddhadau amhreswyl yn y cyfnodau yn dilyn:

  • Hydref i Ragfyr 2021
  • Ionawr i Fawrth 2022
  • Gorffennaf i Fedi 2022

Mae rhagor o ddata ar ryddhadau ar gael ar StatsCymru drwy'r ddolen uchod, gan gynnwys data chwarterol yn ôl math o ryddhad.

Nôl i dop y dudalen

Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 17 Gorffennaf 2023.

Ffigur 6.1 Nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfradd uwch a gyhoeddwyd, yn ôl dyddiad dod i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar a llinell yn dangos, ar y gyfer data fesul chwarter daeth trafodiadau i rym, bod nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfraddau uwch a hawliwyd wedi amrywio'n sylweddol. Mae'r gwerthoedd chwarterol wedi gostwng yn gyffredinol ers Ebrill i Fehefin 2021 gan ar gyfer y cyfnodau mwy diweddar, fod llai o amser wedi mynd heibio i drethdalwyr werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio’u had-daliad.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 7,990 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill 2018 i Fehefin 2023, gyda £81.8 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan Awdurdod Cyllid Cymru. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol ar wefan StatsCymru ar y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Nôl i dop y dudalen

Treth a dalwyd

Sylwch bod, yn y datganiad hwn, rydym wedi gwneud cywiriadau bach i fyny i ystadegau cyflogedig trethi ar gyfer cyfnodau blaenorol.

Ffigur 7.1 Treth Trafodiadau Tir a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod y symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd wedi bod yn is ym mhob un o’r chwe mis diwethaf na’r naw mis cyn hynny.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Yn Ebrill i Fehefin 2023, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £65.7 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Dyma'r 34% yn is na'r £99.8 miliwn a dderbyniwyd yn Ebrill i Fehefin 2022. Fel y disgrifir yn adran 'ynglŷn â'r ystadegau yma' o'r datganiad hwn mae'n fwy priodol cymharu'r cyfnod presennol yn erbyn Ionawr i Fawrth 2022 na'r chwarter blaenorol (Ebrill i Fehefin 2022). 

Mae'r gwerthoedd hyn yn wahanol na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i ddata cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Sylwch hefyd fod y data yn Ffigur 7.1:

  • yn cael ei gyflwyno’n net o ad-daliadau cyfradd uwch sy'n cael eu talu mewn mis penodol
  • yn cynnwys cosbau a dalwyd (megis ar gyfer ffeilio hwyr neu dalu'n hwyr) a hefyd llog a dalwyd ar ddyled flaenorol y Dreth Trafodiadau Tir
  • ni fydd yn cynnwys swm cymharol bach o Treth Trafodiadau Tir heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Nôl i dop y dudalen

Atodiad: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn dadansoddi yr effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Ebrill 2023. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 19 Mai 2023, yr ail amcangyfrif ar 23 Mehefin 2023 a'r trydydd amcangyfrif ar 27 Gorffennaf 2023.

Ffigur A1 Nifer y trafodiadau: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2022 a Mai 2023, fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o niferoedd trafodiadau misol wedi amrywio rhwng tua 1% a 3%, yn eithrio Mawrth 2023 a oedd 4%.

Ffigur A2 Treth yn ddyledus: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o dreth fisol wedi amrywio’n sylweddol, rhwng tua 0% a 9%. Rhwng Ebrill 2022 a Chwefror 2023, amrywiodd y ffigwr cyfatebol i raddau llai, rhwng tua 0% a 3%.

Ffynhonnell: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (Taenlen Dogfen Agored, 115 KB) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Ers mis Awst 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod i fyny a rhwng 0 a 5%. Mae eithriad ers Ebrill 2022 oedd yn mis Mai 2023 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 8%). Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Fel y dadansoddwyd mewn datganiadau blaenorol, roedd diwygiadau’n gyffredinol uwch yn ystod y misoedd ar ôl mis Ebrill 2018 pan ddechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data, er y bydd angen rhagor o ddata arnom dros y blynyddoedd nesaf er mwyn asesu hyn.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau A1 a A2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Gweler yr adran ‘ad-daliadau cyfraddau uwch’ yn y datganiad hwn am ddadansoddiad pellach.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Nôl i dop y dudalen

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo