Diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru: Mawrth 2026
Diweddariad Mawrth 2026 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ynghylch ein datblygiadau diweddaraf, ymgynghoriadau a chynlluniau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.
Ceir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau diweddaraf yn ein calendr o'r hyn sydd i ddod.
StatsCymru
Rydym yn parhau i ychwanegu rhagor o ddata a nodweddion newydd at ein gwasanaeth data agored StatsCymru newydd.
Mae’r holl setiau data, ar wahân i nifer bach o eithriadau, bellach ar gael ar y gwasanaeth newydd. Ym mis Chwefror, gwnaethom ychwanegu bar chwilio i’ch helpu i ddod o hyd i’r ystod eang o ddata a chael gafael arnynt. Cyn bo hir, bydd modd ichi ddewis p’un ai i weld y set ddata gyfan neu greu eich tabl eich hun.
Bydd hen wasanaeth StatsCymru yn cau ar ôl diwedd mis Chwefror a byddwch yn cael eich ailgyfeirio at y gwasanaeth newydd.
Data ar gyfer etholaethau’r Senedd
Rydym wedi cyhoeddi detholiad mawr o ddata ar gyfer etholaethau’r Senedd i gefnogi anghenion data ac ymchwil cyn yr etholiadau i’r Senedd ym mis Mai. Mae’r pynciau a gwmpesir yn cynnwys y canlynol:
- Demograffeg (gan gynnwys poblogaeth, y Gymraeg, ystadegau hanfodol)
- Amddifadedd
- Yr economi a’r farchnad lafur
- Addysg a sgiliau
- Iechyd a llesiant
- Tai
- Yr amgylchedd
- Gwrthdrawiadau ffyrdd ac anafusion
Yr economi a’r farchnad lafur
Yr economi
Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymwneud â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a’r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Gellir dod o hyd i eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar-lein. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 20 Hydref 2026. Rydym yn awyddus i estyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â’r grŵp hwn, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai’n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â digwyddiadauGGD@llyw.cymru.
Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi ein cyhoeddiadau Demograffeg Busnes yn ôl diwydiant: 2024 (StatsCymru) a Dangosyddion allbynnau tymor byr: Gorffennaf i Medi 2025. Mae’r rhain yn dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad. Ym mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi ein datganiad Dadansoddiad o faint y busnesau: 2025.
Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.economi@llyw.cymru.
Y farchnad lafur
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi nodi bod yr heriau sy’n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau’r llafurlu sy’n seiliedig ar yr Arolwg o’r Llafurlu eu labelu’n ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach. Rydym yn parhau i argymell y dylid dehongli’r data hyn yn ofalus.
Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol ar drosolwg o’r farchnad lafur, sy’n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau ynghyd ynghylch y farchnad lafur. Rydym yn argymell y dylai data’r Arolwg o’r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â’r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o’r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o’r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Mae’r SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o’r Llafurlu (TLFS) a’r nod yw mai’r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a’r DU yn y dyfodol. Mae’r diweddariadau diweddaraf gan yr SYG ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG) a’r gwelliannau arfaethedig ar gyfer ystadegau economaidd (SYG), a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2026 ac ym mis Rhagfyr 2025 yn y drefn honno, yn cynnwys gwybodaeth am y camau y mae SYG wedi’u cymryd ac yn parhau i’w cymryd i wella ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu ac ystadegau’r farchnad lafur.
Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi’r diweddariad blynyddol o ran ein tablau StatsCymru ar nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau a lwfans ceisio gwaith.
Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd hefyd ystadegau’r farchnad lafur rhwng mis Hydref 2024 a mis Medi 2025 o’n Harolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sy’n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau y DU ac ardaloedd lleol yn ogystal ag ystadegau blynyddol o’r Arolwg Blynyddol ynghylch ymwneud pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur rhwng mis Hydref 2024 a mis Medi 2025.
Ym mis Mawrth, bydd ystadegau Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2025 yn cael eu cyhoeddi a fydd yn cyflwyno gwybodaeth am bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+.
Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru.
Masnach a thablau mewnbwn allbwn
Arolwg Masnach Cymru
Mae’r dadansoddiad o Arolwg Masnach Cymru 2022 ar gael ar-lein. Dyfarnwyd contract i gynnal profion gwybyddol, arolwg peilot ac arolwg prif lwyfan. Bwriedir lansio’r arolwg peilot ym mis Mawrth a bwriedir lansio’r arolwg prif lwyfan ym mis Medi 2026. Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Tachwedd 2025 a bydd yn dod i ben erbyn mis Mawrth 2027.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Masnach nwyddau rhyngwladol Cymru
Cafodd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ynghylch masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025 eu cyhoeddi ar 18 Rhagfyr 2025, a bwriedir cyhoeddi data’r chwarter nesaf ar 19 Mawrth 2026.
Cyhoeddodd CThEF rag-gyhoeddiad o gywiriadau i Ystadegau Masnach Tramor y DU mewn nwyddau ar ôl canfod gwall a oedd yn effeithio ar allforio tanwydd (HS2 Pennod 27). Mae’r gwall hwn yn effeithio ar ddata o fis Mawrth 2024 ymlaen.
Bydd y Datganiad Technegol Rhanbarthol sy’n cynnwys y cywiriad ar gael yn y cyhoeddiad rheolaidd nesaf a gyhoeddir ar 19 Mawrth 2026 ar gyfer holl wledydd a rhanbarthau’r DU gan gynnwys Cymru, ochr yn ochr â chyfres amser wedi’i chywiro yn ôl i fis Mawrth 2024. Cyn cyhoeddi, mae CThEF wedi amcangyfrif y byddai’r cywiriad yn cynyddu allforion nwyddau Cymru ar gyfer 2024 tua 7.9% (£1.4 biliwn) o gymharu â chyfanswm blynyddol presennol ar gyfer 2024 a gyhoeddwyd, sef £17.5 biliwn. Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Medi 2025, amcangyfrifir y bydd allforion yn cynyddu tua 12.1% (£1.5 biliwn) o gymharu â’r cyfanswm presennol a gyhoeddwyd ar gyfer 2025, sef £12.7 biliwn.
Ochr yn ochr â’r ystadegau uchod, caiff y dangosfwrdd masnach rhyngweithiol ei ddiweddaru yn unol â data’r chwarter diweddaraf.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn allbwn
Cyhoeddwyd tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn allbwn ar gyfer 2019 fel ystadegau swyddogol a oedd wrthi’n cael eu datblygu ar 11 Mawrth 2025. Bydd y set nesaf o dablau, gan ddefnyddio data 2022, yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2026.
Os hoffech ddefnyddio’r tablau hyn ar gyfer eich gwaith ymchwil eich hun a’ch bod am gael cyngor ar sut i’w cymhwyso, mae croeso ichi gysylltu â ni.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: TablauMewnbwnAllbwn@llyw.cymru.
Addysg
Ysgolion
Data presenoldeb
Rydym yn cyhoeddi data ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir bob pythefnos drwy gydol tymor y gwanwyn gan ddefnyddio ein data gweinyddol. Mae’r datganiadau bellach yn cynnwys dadansoddiad ychwanegol o absenoldeb mynych a dosbarthiad absenoldeb.
Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol swyddogol Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2024 i Awst 2025 ar 27 Tachwedd 2025 i ategu’r datganiad cyfatebol ar gyfer ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025. Cyhoeddwyd datganiad cyfunol gan gwmpasu ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ar 16 Rhagfyr 2025.
Fy Ysgol Leol
Ym mis Ionawr, gwnaethom ddiweddaru gwefan Fy Ysgol Leol er mwyn cynnwys y deilliannau CA4 terfynol ar gyfer haf 2025 ac absenoldeb o ysgolion cynradd ar gyfer 2024/25.
Datganiadau ystadegol eraill
Ar 4 Rhagfyr 2025, gwnaethom gyhoeddi’r data terfynol ynghylch Canlyniadau arholiadau: Medi 2024 i Awst 2025.
Bydd y datganiad Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc: Medi 2024 i Awst 2025 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2026.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.
Addysg uwch a chyllid myfyrwyr
Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad blynyddol ynghylch Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a ddyfarnwyd yng Nghymru a chyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi ein datganiadau blynyddol ar Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach) ac Addysg gychwynnol i athrawon.
Er mwyn rhoi adborth, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.
Tai
Amcangyfrifon o’r angen ychwanegol am dai
Ym mis Chwefror, cyhoeddwyd Amcangyfrifon o’r angen ychwanegol am dai: yn seiliedig ar 2025, gan ddisodli amcangyfrifon 2019. Mae amcangyfrifon 2025 yn manteisio ar y ffynonellau data mwyaf diweddar. Mae’r newidiadau ers 2019 yn cynnwys cyflwyno’r angen presennol heb ei ddiwallu fel un amcangyfrif cyfredol yn hytrach na’i ledaenu dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, gan ddefnyddio’r amcanestyniadau diweddaraf ar gyfer aelwydydd. Mae hyn yn diweddaru gwybodaeth am incwm a rhent i adlewyrchu’r amodau presennol a dim ond ffigurau ar lefel genedlaethol y caiff eu cyflwyno. Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu gwell dealltwriaeth o sut y caiff yr amcangyfrifon eu defnyddio. Mae blog y Prif Ystadegydd wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad, an egluro’r amcangyfrifon ymhellach a’r hyn y maent yn ei ddangos inni (Blog Digidol a Data).
Cyhoeddiadau tai
- Amcangyfrifon aelwydydd: canol 2024 (cyhoeddwyd 28 Ionawr 2026)
- Adeiladu tai newydd: Gorffennaf i Medi 2025 (cyhoeddwyd 29 Ionawr 2026)
- Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Tachwedd 2025 (cyhoeddwyd 5 Chwefror 2026)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.tai@llyw.cymru.
Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Ystadegau ysbytai
Y chwarter hwn, gwnaethom ddiweddaru’r crynodeb misol o weithgarwch a pherfformiad y GIG. Roedd hyn yn cynnwys adfer ystadegau rhwng atgyfeirio a thriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a diwygio’r ôl-gyfres yr effeithiwyd arni. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein hallbwn chwarterol a ddatblygwyd yn ddiweddar mewn archwiliad dwfn o berfformiad y GIG ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru ac adroddiadau blynyddol sy’n archwilio Gofal trawsffiniol y GIG rhwng Cymru a Lloegr.
Iechyd meddwl
Y chwarter hwn, diweddarwyd ein hystadegau blynyddol ynghylch Cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl a data sy’n cwmpasu tair blynedd o ran Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl, gan ddod â’n cyhoeddiadau yn y meysydd hyn yn gyfredol am y tro cyntaf ers y tarfu a ddaeth yn sgil y pandemig. Yn ogystal, diweddarwyd ystadegau iechyd meddwl chwarterol eraill yn ymwneud â Nifer y bobl a gadwyd o dan adran 135 ac 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Gofal sylfaenol ac iechyd cymunedol
Y chwarter hwn, gwnaethom gyhoeddi diweddariad ynghylch ystadegau gofal sylfaenol o ran gweithgarwch practis cyffredinol a gwasanaethau deintyddol y GIG. Cyhoeddwyd hefyd ddiweddariadau ynghylch Rhaglen Plant Iach Cymru a Data Bwydo ar y Fron.
Gweithlu a gwariant y GIG
Y chwarter hwn, diweddarwyd ein data chwarterol ynghylch staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, absenoldeb salwch yn y GIG ac ystadegau swyddi gwag y GIG, y tro hwn fel un datganiad wedi’i grynhoi sef Gweithlu’r GIG: staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru.
Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Y chwarter hwn, diweddarwyd hefyd yn rheolaidd ystod o ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys Mesurau gofal llygaid a Gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu. Cyhoeddwyd hefyd y casgliad data cyntaf ynghylch Oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth, sy’n darparu gwybodaeth am nodweddion a phriodoleddau yr oedolion hyn am y tro cyntaf.
Yn ehangach gan Lywodraeth Cymru, cafwyd datganiadau cysylltiedig sef Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Data ar gyfer ardaloedd etholaethol Senedd Cymru ac Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau, y mae pob un ohonynt yn cynnwys data yn ymwneud ag iechyd. Cafwyd adroddiadau gan sefydliadau eraill ynghylch Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, Ystadegau Erthyliadau a Gwasanaeth Gwybodaeth a Chofrestr Anomaleddau Cynhenid Cymru sy’n ymwneud ag iechyd yng Nghymru.
Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn adran iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Cyhoeddwyd bwletin ystadegol Gwaith Teg ar 5 Chwefror 2026. Mae’r bwletin yn ymdrin â manteision sy’n gysylltiedig â’r gweithle a gwneud penderfyniadau yn y gweithle, gan ddadansoddi’n fanwl nodweddion y bobl sydd fwyaf tebygol o gael absenoldeb salwch â thâl, neu o allu dysgu Cymraeg yn eu gweithle.
Bydd y bwletin ystadegol Teithio Llesol yn cael ei gyhoeddi ar 10 Mawrth. Bydd y bwletin hwn yn archwilio nodweddion y bobl sydd fwyaf tebygol o gerdded neu feicio wrth deithio, yn ogystal â’r rhai y mae eu plant yn fwyaf tebygol o gerdded neu feicio i’r ysgol.
Bydd bwletin ystadegol y Lluoedd Arfog yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn. Bydd y bwletin hwn yn archwilio nodweddion cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai y mae ganddynt aelodau o’r teulu sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, neu sydd wedi gwneud hynny.
Bydd canlyniadau pellach o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024-25 yn cael eu cyhoeddi ar y Dangosydd canlyniadau. Bydd y rhain yn cynnwys data sy’n ymwneud â’r bwletinau ystadegol a gyhoeddwyd y chwarter hwn, yn ogystal â llesiant meddyliol, defnyddio e-sigaréts, bwlio yn y gweithle a rhagfarn oed, a mwy.
Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i arolygon@llyw.cymru.
Cyfiawnder cymdeithasol
Tlodi a chostau byw
Bydd y diweddariad blynyddol i gyfres o ystadegau swyddogol sy’n ymwneud â thlodi ac amddifadedd yn cael ei gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 26 Mawrth 2026. Bydd y diweddariad hwn yn cynnwys nifer o ddatblygiadau a rhai diwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf (Adran Gwaith a Phensiynau). Byddwn yn cyhoeddi dadansoddiadau ychwanegol o ddata Cymru ar yr un pryd.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Rydym yn parhau i gyhoeddi data ychwanegol yn seiliedig ar rengoedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 a data dangosyddion ar StatsCymru. Mae ein tudalen dyddiadau cyhoeddi yn rhestru’r hyn rydym wedi’i gyhoeddi a’r hyn sydd i’w gyhoeddi nesaf.
Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi proffiliau amddifadedd ar gyfer rhanbarthau economaidd, byrddau iechyd lleol ac ardaloedd etholaethol newydd y Senedd, yn ogystal â data dangosyddion ar gyfer awdurdodau lleol.
Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru os hoffech ymuno â’n rhestr o danysgrifwyr i gael hysbysiadau am ddatganiadau newydd, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer sesiynau gwybodaeth Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 yn y dyfodol.
Tân
Rydym wedi cyhoeddi Ystadegau achosion tân ac achub ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, gan gynnwys data ar wasanaeth newydd StatsCymru.
Rydym yn parhau i adolygu ein cyfres o ddatganiadau tân a bwriedir cyhoeddi erthygl ystadegol nesaf ynghylch Tanau glaswelltir yn y gwanwyn. Rydym wrthi’n ailstrwythuro ac adolygu’r setiau data a gyhoeddwyd ar wefan flaenorol StatsCymru, a disgwylir cyflwyno setiau data newydd wedi’u cynllunio yn y gwanwyn.
Hoffem glywed gan ddefnyddwyr data tân fel y gallwn lunio ein datganiadau yn y dyfodol yn well - anfonwch e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Troseddu a chyfiawnder
Hoffem gael eich adborth ar ein dangosfyrddau rhyngweithiol carchardai a phrawf a chyfiawnder ieuenctid. Os ydych chi’n eu defnyddio, anfonwch e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Trafnidiaeth
Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad Hyd a chyflwr ffyrdd: Ebrill 2024 i Mawrth 2025. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ym mis Ionawr ein hamcangyfrifon dros dro ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Gorffennaf i Medi 2025 a diweddarwyd ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi data misol ynghylch Gosod wyneb newydd ar ffyrdd, llenwi tyllau ac atal tyllau ffyrdd. Ym mis Mawrth, byddwn hefyd yn cyhoeddi ein cyhoeddiad ynghylch Cerbydau Gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis): Ebrill 2024 i Mawrth 2025.
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: Data rhagarweiniol 6 mis
Ym mis Ebrill 2026, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi’r set gyntaf o ddata o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru. Bydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys prif ganlyniadau rhagarweiniol chwe mis cyntaf y gwaith o gasglu data (rhwng mis Mawrth 2025 a mis Awst 2025). Bydd y data yn ymdrin ag agweddau ac ymddygiadau teithio, gan gynnwys:
- Rhannu dulliau teithio a theithiau aml-ddull
- Pellter cyfartalog a deithir
- Dibenion teithiau
- Boddhad yn ôl dulliau trafnidiaeth
- Pa ffactorau fyddai’n annog defnydd pellach
Bydd dadansoddiadau yn ôl daearyddiaeth a demograffeg ar gael lle bo hynny’n bosibl.
Ar ôl ei gyhoeddi, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal sesiynau i randdeiliaid ym mis Mai / mis Mehefin i egluro’r data a chynnig cyfleoedd i helpu i ddatblygu a gwella’r arolwg ymhellach. Bydd y sesiynau hefyd yn egluro sut y caiff y data sy’n deillio o’r arolwg eu cyhoeddi er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion defnyddwyr.
Mae croeso ichi rannu’r gwahoddiad hwn ag unrhyw unigolion neu sefydliadau eraill y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am yr arolwg a’i ganlyniadau.
Y Gymraeg
Cyhoeddwyd Data am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Hydref 2024 i Medi 2025 ar 21 Ionawr. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: y Gymraeg).
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.
Amaethyddiaeth a’r amgylchedd
Datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd
Cyhoeddwyd Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol: Ebrill 2024 i Mawrth 2025 ar 29 Ionawr 2026. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru ynghylch Rheoli gwastraff.
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru.
Amaethyddiaeth
Cyhoeddwyd Incymau fferm: Ebrill 2024 i Mawrth 2025 ar 22 Ionawr. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru ynghylch Ffermio.
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: ystadegau.amaeth@llyw.cymru.
Cyllid llywodraeth leol
Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi ein cyhoeddiad ynghylch Anheddau’r Dreth Gyngor yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.cyllid@llyw.cymru.
Poblogaeth a demograffeg
I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.
Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru
Ymholiadau ystadegol cyffredinol
E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru
Ffôn: 0300 025 5050
Pynciau penodol
Cysylltiadau ar gyfer ystadegau
X
Gwasanaeth hysbysiadau a newyddlenni e-bost Llywodraeth Cymru
Ymholiadau gweinyddol
E-bost: gweinydduGGD@llyw.cymru
