Neidio i'r prif gynnwy

Mae gennym nifer o grantiau sy'n darparu cyllid tuag at greu a datblygu coetiroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Grantiau Creu Coetiroedd

Mae'r cynlluniau hyn yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i greu coetir.

Mae dau fath o grant ar gael:

  • Grantiau Bach – Creu Coetir: ar gyfer cymorth i blannu arwynebedd o hyd at ddau hectar
  • Y Grant Creu Coetir: ar gyfer cymorth i blannu arwynebau mwy o goetir

Bydd y cyllid yn helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig. Bydd coed a blannir nawr yn cyfrif at y gweithredu cyffredinol ar gyfer gorchudd coed ar ffermydd

Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir 

Mae'r cynllun hwn yn cefnogi ffermwyr a pherchnogion tir i blannu coed ar dir o dan ddau hectar ac sydd:

  • wedi’i wella’n amaethyddol, neu
  • o werth amgylcheddol isel.

Mae'n darparu cymorth ariannol ar gyfer:

  • plannu coed
  • ffensys
  • cynnal a chadw
  • taliadau premiwm (digolledu am golli incwm amaethyddol).  

Grant Creu Coetir 

Mae'r cynllun hwn yn cefnogi ffermwyr a pherchnogion tir i blannu:

  • arwynebeddau mwy o goetir, dros ddau hectar; ac
  • ardaloedd nad ydynt yn addas ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.

Mae'n darparu cymorth ariannol ar gyfer:

  • plannu coed
  • ffensys
  • cynnal a chadw
  • taliadau premiwm (digolledu am golli incwm amaethyddol).  

Rhaid i ymgeiswyr fod â Chynllun Creu Coetir ar waith cyn gwneud cais. Mae cyllid ar gyfer llunio cynllun ar gael drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer cynlluniau creu coetir newydd. Mae'r Cynllun yn:

  • cynnig cymorth rhwng £1,000 a £5,000 a  
  • darparu cyllid i gynllunydd coetir cofrestredig ddatblygu cynllun creu coetir newydd

Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Bydd Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn darparu cymorth ariannol i bobl i:

  • greu coetiroedd newydd
  • gwella ac ehangu coetiroedd presennol

yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Rhaid bod gan y coetiroedd botensial i ddod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol.

Coetiroedd Bach

Ym mis Ebrill 2023 gwnaethon ni ddechrau derbyn ceisiadau am Grant Coetiroedd Bach. Bydd y grant yn creu 100 o Goetiroedd Bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025. Mae hyn yn dilyn cynnal cynllun peilot llwyddiannus yn 2020.

Bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer pobl i greu coetiroedd bach. Rhaid i'r coetiroedd hyn fod â'r potensial i fod yn rhan o Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sydd

  • yn cael eu rheoli'n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi'r cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o goetiroedd a natur

Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais a dyddiadau ar gael (ar Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol).

Cynllun Adfer Coetir

Agorwyd y ffenestr Datgan Diddordeb (EOI) ar gyfer 2il rownd y Cynllun Adfer Coetir (WRS) ar 16 Rhagfyr 2022 gan gau ar 2 Chwefror 2023.

Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer gwaith cyfalaf fel:

  • ailstocio, a
  • ffensio

Bydd angen ichi gyflwyno:

  • tystysgrif cwympo coed
  • rhif eich cais am drwydded cwympo coed, neu
  • Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) sy’n cynnwys coed Llarwydd

gyda’r cais i Ddatgan Diddordeb.

Bydd Rhaglen Coetiroedd CNC yn asesu holl gynlluniau’r WRS (fel rhan o PAWS ac fel arall) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safon Goedwigaeth y DU (UKFS)

Ar gyfer y ffenest hon, rydym wedi diweddaru’r categorïau coetiroedd cymysg.  Mae angen mwy o gymysgedd o rywogaethau. Mae’r ganran uchaf o un rhywogaeth wedi’i gostwng i 65% ar gyfer Opsiynau W615, W618 a W619.  Mae hyn yn bwysig i helpu coedwigoedd i wrthsefyll bygythiadau yn y dyfodol, fel clefydau.  Mae’r newid hwn yn adlewyrchu’r cynnig i ddiweddaru Safon Goedwigaeth y DU.  Caiff ei chyhoeddi yn ngwanwyn 2023.