Neidio i'r prif gynnwy

Maen nhw’n dechrau gwybod beth maen nhw eisiau a beth nad ydyn nhw eisiau.

Maent hefyd yn dod yn llawer mwy lleisiol a byddant yn dechrau mynegi eu hoffterau a'u anhoffterau. Efallai y bydden nhw yn dianc wrth i chi newid ei gewyn neu’n taflu ei fwyd i’r llawr. Mae hyn yn gwbl gyffredin; mae’ch plentyn bach yn dod yn fwy annibynnol ac yn dysgu sut mae rheoli ei emosiynau.

Am bob adeg anodd, bydd llu o adegau bendigedig. Ceisiwch fwynhau a dathlu sgiliau newydd eich plentyn bach. Pan fyddwch chi'n canmol eich plentyn ac yn rhoi llawer o sylw cadarnhaol iddynt, mae'n adeiladu eu hunan-barch ac yn eu helpu i ddysgu.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am gamau datblygiad eich plentyn bach ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi ei gynorthwyo. Hwyrach y bydd eich plentyn bach yn gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau yma. 

Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn bach yn yr e-lyfr Pob Plentyn – Newydd-Anedig hyd at 2 oed. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am fwydo'ch plentyn bach, hyfforddiant poti, a stranciau. 

Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

Rhwng 12 a 18 mis oed mae’n bosib y bydd eich plentyn bach yn:

  • cerdded, rhedeg a dringo
  • dechrau dweud geiriau a’u deall nhw
  • ei chael hi’n anodd delio â’i deimladau, a gall hyn arwain at ambell stranc
  • dechrau bwydo ei hun
  • mwynhau chwarae ac adeiladau gyda brics

Rhwng 18 mis a 2 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn bach yn:

  • deall y gair ‘na’ ond ddim yn gallu rheoli ei fympwyon eto
  • dechrau cicio a thaflu peli
  • bod yn barod i ddechrau hyfforddi poti
  • gwybod nifer o eiriau unigol ac yn dechrau eu rhoi at ei gilydd i ffurfio brawddegau
  • mynd yn flin pan na fydd yn gallu gwneud rhywbeth dros ei hunan
  • dechrau mwynhau chwarae esgus fel siarad ar ffôn tegan

Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich plentyn bach 

  • Rhowch lawer o gwtshus, sylw a chanmoliaeth i’ch plentyn bachRhowch sylw unigol iddyn nhw pryd bynnag y gallwch chi chanmolwch nhw pan fyddant yn gwneud rhywbeth cadarnhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi llawer o gwtshus a sylw i'ch plentyn bach pan fyddant yn crio ac wedi cynhyrfu hefyd. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn deall eich bod chi'n dal yno gyda nhw beth bynnag.
  • Cadwch at yr un drefn gymaint â phosibl. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch plentyn i gael teimlad o sicrwydd.  Ceisiwch fwydo, ymolchirhoi’ch plentyn bach i’w wely tua’r un amser bob dydd. Dewch o hyd i'r drefn sy'n gweithio i'ch teulu chi.
  • Ceisiwch ddangos yr ymddygiad rydych chi am i’ch plentyn bach ei ddysguEr enghraifft, dweud “plîs/os gwelwch yn dda” a “diolch” wrth siarad ag ef, a rhoi clod pan fydd yn rhannu neu’n eich helpu chi.
  • Labelwch deimladau eich plentyn bach pan fyddwch chi'n eu gweld, er enghraifft pan fyddwch chi'n gweld eu bod yn hapus, yn flin, wedi siomi neu'n rhwystredig. Bydd yn eu helpu i ddysgu'r gair am y teimlad neu'r emosiwn hwnnw, fel eu bod yn gallu dysgu mynegi sut maen nhw'n teimlo yn nes ymlaen.
  • Ceisiwch gadw'n dawel yn ystod pan fydd eich plentyn yn strancio. Pan fyddwch chi'n dawel, mae'n helpu'ch plentyn bach i dawelu hefyd ar ôl y stranc. Canmolwch nhw am ymddwyn yn dda ac ailgysylltu â chwtshus.
  • Ymateb. Mae rhai plant bach yn cnoi neu frathu neu'n taro pan fyddant yn ddig neu'n rhwystredig. Peidiwch ag ymateb na brathu'ch plentyn bach yn ôl. Bydd hyn yn eu brifo ac yn rhoi'r neges anghywir iddynt bod yr ymddygiad hwn yn iawn.
  • Mae dysgu sut i ddefnyddio’r poti a doiled yn rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o blant bach yn neud yr oedran yma. Maen nhw’n dysgu ar eu cyflymder eu hunain. Mae amser ac amynedd yn allweddol ar y pwynt hwn. Peidiwch â rhuthro.
  • Siaradwch am y pethau rydych chi'n eu gweld a'r pethau rydych chi'n eu gwneud. Pan fyddwch chi ar y bws, yn y car, yn cerdded i'r siopau neu yn yr archfarchnad, tynnwch sylw at y pethau rydych chi'n eu gweld. Mae gan Siarad Gyda Fi awgrymiadau defnyddiol ar gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn bach.
  • Anogwch eich plentyn bach i roi cynnig ar lawer o wahanol fwydydd. Eisteddwch gyda'ch plentyn bach yn amser bwyd a bwyta'r un pethau. Byddant yn eich gweld chi'n ei fwynhau ac eisiau eich copïo. Peidiwch â phoeni os nad ydyn nhw'n bwyta popeth ar eu plât.
  • Paratowch. Rhowch bethau peryglus neu unrhyw beth a allai dorri gadw. Gosodwch giât ddiogelwch ar y grisiau a chloeon ar ddroriau a chypyrddau. Bydd hyn yn cadw’ch babi’n ddiogel a fydd dim rhaid i chi ddweud ”na” fel tiwn gron. Pan fyddwch chi'n mynd allan ac o gwmpas, cael ychydig o deganau bach, diod a byrbryd iach wrth law.
  • Darllenwch i'ch plentyn bach. Mae yna syniadau ar gyfer siarad a chwarae gyda'ch plentyn bach ar Book Trust Cymru.
  • Siaradwch rai geiriau yn Gymraeg gan y gall hyn roi'r dechrau gorau iddynt i fywyd dwyieithog. Gall Cymraeg i Blant helpu gyda hyn. Gallech chi a'ch plentyn hefyd ganu gydag amrywiaeth o hwiangerddi a chaneuon cymraeg ar wefan Book Trust Cymru. Mae'r caneuon hyn yn cynnwys llawer o eiriau syml sy'n ei gwneud hi'n hawdd i blant ifanc amsugno'r Gymraeg.
  • Cofiwch chwaraeRhannwch baned o de esgus gyda set de blastig neu adeiladwch dŵr gyda blociau. Nid oes angen teganau drud arnoch chi, mae angen rhyngweithio ar eich plentyn bach â phobl eraill yn llawer mwy na gyda theganau. Mae syniadau ar gyfer caneuon, llyfrau a gweithgareddau chwarae ar Plentyndod Chwareus, neu  Words for Life.
  • Ceisiwch osgoi gormod o thechnoleg fel teledu, llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn bach ond cyfyngu ar eu defnydd.
  • Rhannu. Peidiwch â disgwyl na gorfodi eich plentyn bach i rannu gyda phlant eraill oherwydd dydyn nhw ddim yn barod. Bydd eisiau amser ar eich plentyn bach i ddysgu i rannu ac mae hyn yn normal. Anogwch drwy ei ganmol pan fydd yn rhannu neu drwy dynnu ei sylw wrth iddo aros ei dro.
  • Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn bach yn sâl. Os oes ganddynt dymheredd uchel, efallai y bydd ganddynt salwch. Os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth o’i le, gallwch ffonio GIG Cymru ar 111
  • Os ydych chi’n teimlo’n rhwystredig neu’n flin, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn bach mewn lle diogel ac yna gadewch yr ystafell am eiliad nes eich bod chi'n teimlo'n dawelach. Neu gallwch ofyn i ffrind neu aelod o'r teulu ofalu am eich plentyn am gyfnod fel y gallwch gael amser i deimlo'n well.

Mae'r rhan fwyaf o rieni yn wynebu adegau pan maen nhw'n teimlo eu bod wedi’u  profi i'w terfynau. Nid oes neb yn berffaith. Mae pawb yn colli ei dymer weithiau, ac yn dweud pethau maen nhw'n difaru wedyn. Mae'n iawn dweud sori wrth eich plentyn os ydych chi wedi bod yn flin ag ef. Drwy ymddiheuro wrthyn nhw, mae’n eu helpu i weld yr hyn y gallan nhw ei wneud er mwyn gwneud pethau’n iawn pan fyddan nhw’n colli eu tymer.

Peidiwch â smacio na chosbi’ch plentyn yn gorfforol. Mae hyn yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae angen i blant deimlo'n ddiogel yn eu teulu ac yn eu cartref er mwyn gallu bod ar eu gorau.

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu. 

Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn o defnydd i chi hefyd: