Diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru: Rhagfyr 2025
Diweddariad Rhagfyr 2025 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ynghylch ein datblygiadau diweddaraf, ymgynghoriadau a chynlluniau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.
Ceir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau diweddaraf yn ein calendr o'r hyn sydd i ddod.
Dweud eich dweud: ymgynghoriad ar allbynnau ystadegol Llywodraeth Cymru
We have launched a consultation on a range of statistical outputs as part of a wider transformation programme. This work will help us build more efficient and sustainable ways of working, while ensuring our statistics remain relevant, accessible, and meet user needs.
Rydym wedi lansio ymgynghoriad ar ystod o allbynnau ystadegol fel rhan o raglen drawsnewid ehangach. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i adeiladu ffyrdd mwy effeithlon a chynaliadwy o weithio, tra'n sicrhau bod ein hystadegau yn parhau i fod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn diwallu anghenion defnyddwyr.
Mae'r cynigion yn cwmpasu'r themâu canlynol:
- Trafnidiaeth
- Economi, masnach, marchnad lafur a sgiliau
- Iechyd a gofal
- Tai
- Addysg
- Cyfiawnder cymdeithasol (gan gynnwys tanau bwriadol neu danau glaswelltir)
Pam mae eich mewnbwn yn bwysig
Bydd eich adborth yn helpu i lunio penderfyniadau ar yr hyn rydyn ni'n ei gyhoeddi a sut rydyn ni'n cyflwyno gwybodaeth. Rydyn ni eisiau gwybod beth sy'n gweithio'n dda i chi, beth y gellid ei wella, ac unrhyw fylchau a welwch.
Sut i ymateb
Darllenwch y ddogfen ymgynghori a rhannwch eich barn erbyn 11 Chwefror 2026. Byddwn yn adolygu'r holl adborth ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, gan esbonio sut y dylanwadodd eich mewnbwn ar benderfyniadau.
StatsCymru: Lansio ein Gwasanaeth Data Agored newydd
Mae gwasanaeth data agored newydd StatsCymru bellach yn fyw ac yn barod i chi ei archwilio.
Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y ffordd rydym yn darparu mynediad at ystadegau swyddogol i Gymru. Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnig ffordd fwy modern, hyblyg a hawdd ei defnyddio o ddod o hyd i ddata ar Gymru, eu defnyddio a’u rhannu. Nid oes gwahaniaeth a ydych yn defnyddio StatsCymru yn rheolaidd neu newydd ddechrau, rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld bod y platfform newydd yn haws i’w lywio a’i bod yn ymateb yn well i’ch anghenion.
Bydd hen wasanaeth StatsCymru yn parhau i fod ar gael tan ddiwedd mis Chwefror 2026. Fodd bynnag dim ond ar y gwasanaeth newydd y bydd yr holl setiau data newydd, wedi’u diweddaru yn cael eu cyhoeddi. Rydym yn mudo’r setiau data sy’n bodoli’n barod yn raddol dros y misoedd nesaf. Os ydych yn dibynnu ar set ddata benodol, byddwch yn dal i allu cael mynediad ati ar yr hen safle am y tro, ond cadwch olwg am ddiweddariadau wrth inni drosglwyddo pethau.
Byddwn yn defnyddio blog Digidol a Data Llywodraeth Cymru i roi diweddariadau rheolaidd ar gynlluniau a chynnydd, felly tanysgrifiwch i'r blog er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Llesiant Cymru
Cyhoeddwyd Llesiant Cymru 2025 ddechrau mis Hydref, gan ddarparu asesiad cyflwr y genedl o'r cynnydd tuag at y saith nod llesiant. Canfu'r adroddiad bod cyflymder y newid yn ein dangosyddion cenedlaethol yn parhau i fod yn raddol, gyda symudiadau cyfyngedig o flwyddyn i flwyddyn.
Rydym wedi cymryd camau eleni i wneud adroddiad Llesiant Cymru yn fwy cryno, gan adlewyrchu adborth gan ddarllenwyr a data dadansoddeg ar sut mae'r adroddiad yn cael ei ddefnyddio. Ochr yn ochr â hyn, mae meysydd lle rydym wedi gwneud ychwanegiadau a gwelliannau, fel adrodd ar ddangosydd cenedlaethol cyfiawnder am y tro cyntaf.
Yr economi a'r farchnad lafur
Yr Economi
Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymgysylltu â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a'r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Cyfarfu'r grŵp ddiwethaf ar 16 Hydref 2025, ac roedd yr eitemau yn cynnwys cyflwyniad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar eu Cynllun Ystadegau Economaidd, Cynllun Gwella Arolwg, a'r Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu a chyflwyniad gan Lywodraeth Cymru ar Arolwg Masnach Cymru. Roedd yr eitemau hefyd yn cynnwys cyflwyniadau ar adroddiad Llesiant Cymru, lluosydd Tablau Mewnbwn-Allbwn, ac arddangosiad o StatsCymru3. Rhoddodd y Prif Economegydd o Lywodraeth Cymru drosolwg o adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru hefyd. Mae eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar gael ar-lein. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 12 Mawrth 2026. Rydym yn awyddus i ymestyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai'n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â DigwyddiadauGGD@llyw.cymru.
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi ein dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ebrill i Fehefin 2025 sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad. Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gyhoeddi ein demograffeg busnes: 2024 ac ym mis Rhagfyr fe wnaethom gyhoeddi ein gwariant menter busnes ymchwil a datblygu: 2024.
Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.economi@llyw.cymru.
Y farchnad lafur
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi nodi bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau'r llafurlu sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu eu labelu'n ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data hyn.
Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol yn cynnig trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau ynghyd mewn perthynas â'r farchnad lafur. Rydym yn argymell y dylai data'r Arolwg o'r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â'r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o'r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Mae'r SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu (TLFS) a'r nod yw mai'r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Cyhoeddodd y SYG ddiweddariad ym mis Gorffennaf 2025 ar ei rhaglen waith i wella ansawdd ystadegau'r farchnad lafur, gan gynnwys diweddariad ar ei datblygiadau i'r TLFS a'r camau gweithredu y mae'n eu cymryd o hyd i wella ansawdd ystadegau presennol sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu. Bydd yr Arolwg o'r Llafurlu yn parhau tra bydd y TLFS yn cael ei ddatblygu.
Yn ogystal â'r trosolwg misol o'r farchnad lafur, gwnaethom gyhoeddi'r diweddariad blynyddol ar Incwm gwario gros yr aelwydydd yn rhanbarthol ar gyfer 2023 ym mis Medi sy'n rhoi gwybodaeth am faint o arian sydd gan unigolion mewn aelwydydd i'w wario neu i'w gynilo. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ystadegau Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2025 sy'n cyflwyno gwybodaeth am bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+.
Roedd mis Hydref yn fis prysur gyda nifer o gyhoeddiadau mewn meysydd gwahanol. Gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2024 a mis Mehefin 2025 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. Cafodd ystadegau blynyddol o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mehefin 2025 eu cyhoeddi hefyd.
Cafodd y data diweddaraf o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion eu cyhoeddi hefyd ym mis Hydref, a oedd yn rhoi gwybodaeth am enillion cyfartalog fesul awr, wythnos a blwyddyn, yn ogystal â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2025.
Ar ddechrau mis Tachwedd, gwnaethom ddiweddaru ein datganiad Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth ar gyfer 2024, gan gyflwyno amcangyfrifon o gyflogeion a chyflogaeth. Mae amcangyfrifon o gyflogaeth Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar lefel y DU. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon cyflogaeth dros dro Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth 2024 yn cwmpasu Prydain Fawr yn unig gan nad yw amcangyfrifon ar gyfer 2024 ar gael eto ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r SYG yn bwriadu diweddaru datganiad ystadegol 2024 gydag amcangyfrifon y DU pan fydd amcangyfrifon Gogledd Iwerddon ar gael. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein datganiad (dros dro) Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur: 2023 a 2024 ym mis Tachwedd sy'n darparu gwybodaeth gryno am weithgareddau dysgu a statws marchnad lafur pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru a dyma'r ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru.
Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru.
Masnach a Thablau Mewnbwn Allbwn
Arolwg Masnach Cymru
Mae'r dadansoddiad o Arolwg Masnach Cymru 2022 ar gael ar-lein. Bu bwlch mewn casglu data oherwydd pwysau cyllidebol, ond dyfarnwyd contract yn ddiweddar i gynnal profion gwybyddol, peilot, ac arolwg prif lwyfan. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ym mis Tachwedd 2025 ac yn dod i ben erbyn Mawrth 2027.
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru
Cafodd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 eu cyhoeddi ar 11 Medi 2025, a bydd data'r chwarter nesaf yn cael eu cyhoeddi ar 18 Rhagfyr 2025.
Ochr yn ochr â'r ystadegau uchod, caiff y dangosfwrdd masnach rhyngweithiol ei ddiweddaru yn unol â data'r chwarter diweddaraf.
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Tablau Cyflenwad a Defnydd a Thablau Mewnbwn Allbwn
Cafodd tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn ar gyfer 2019 eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu ar 11 Mawrth 2025. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru'r tablau gan ddefnyddio 2022 fel blwyddyn sylfaen.
Ar 15 Hydref 2025, gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon o effeithiau a lluosyddion (StatsCymru) ar gyfer allbwn economaidd, Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) a chyflogaeth i gynorthwyo defnyddwyr i gymhwyso tablau 2019 mewn dadansoddiad. Mae erthygl ystadegol ar wahân yn esbonio pryd a sut i ddefnyddio'r lluosyddion deilliedig gan ddefnyddio'r tablau mewnbwn-allbwn yn briodol wrth ddadansoddi.
Yn ogystal, mae Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru wedi datblygu offeryn rhyngweithiol i gefnogi modelu mewnbwn-allbwn a helpu defnyddwyr i ragweld sut y gallai newidiadau i'r galw terfynol effeithio ar allbwn ar draws yr economi. Gall y rhai sydd â diddordeb mewn adolygu neu osod yr offeryn wneud hynny trwy GitHub.
Os hoffech ddefnyddio'r tablau hyn ar gyfer eich gwaith ymchwil eich hun a'ch bod am gael cyngor ar sut i'w cymhwyso, mae croeso i chi gysylltu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: TablauMewnbwnAllbwn@llyw.cymru.
Addysg
Ysgolion
Data presenoldeb
Gwnaethom barhau i gyhoeddi data pythefnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr hydref a chafwyd y cyhoeddiad cyntaf ar 23 Medi. Mae'r datganiad yn cynnwys rhagor o fanylion am dueddiadau hirdymor ym maes addysg cyn ac ar ôl y pandemig Covid-19.
Gwnaethom hefyd gyhoeddi data o'r casgliadau data presenoldeb blynyddol statudol. Cyhoeddwyd y datganiad presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion ar 30 Medi gyda data ar bresenoldeb ac absenoldeb o ysgolion uwchradd ar gyfer y cyfnod o fis Medi 2024 i fis Gorffennaf 2025.
Bydd data o'r casgliad data presenoldeb blynyddol statudol ar gyfer ysgolion cynradd yn cael eu cyhoeddi ar 30 Tachwedd, a bydd datganiad sy'n cyfuno data statudol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Bydd y ddau allbwn hyn ar gael ar y ddolen uchod.
Datganiadau ystadegol eraill
Cyhoeddwyd y datganiadau ystadegol canlynol hefyd yn yr Hydref:
Disgyblion a addysgwyd heblaw yn yr ysgol ar 26 Awst sy'n cwmpasu'r cyfnod Medi 2024 i Awst 2025.
Canlyniadau Arholiadau Dros Dro ar 2 Hydref, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng Medi 2024 ac Awst 2024, gyda chanlyniadau arholiadau terfynol i'w cyhoeddi ar 4 Rhagfyr.
Gwaharddiadau parhaol a thymor penodol o ysgolion ar 11 Tachwedd sy'n cwmpasu'r cyfnod Medi 2023 i Awst 2024.
Canlyniadau ar ddiwedd y Cyfnod Allweddol
O ganlyniad i gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru, nid oes unrhyw Gyfnodau Allweddol bellach o fewn y cwricwlwm ac felly nid oes unrhyw ddata asesu. Mae ein cyfres hanesyddol o ddata ar asesiadau ar ddiwedd pob Cyfnod Allweddol wedi dod i ben ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach ac ni ychwanegir atynt.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.
Addysg uwch a chyllid myfyrwyr
Rydym wedi parhau i gyhoeddi ein hystadegau misol ar Geisiadau am gymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch a Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) a ddyfarnwyd yng Nghymru.
Er mwyn rhoi adborth, neu i gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch AddysgUwchAChyllidMyfyrwyr.Yst@llyw.cymru.
Tai
Darpariaeth tai fforddiadwy
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi ystadegau (13 Tachwedd) ar dai fforddiadwy a ddarparwyd yn y flwyddyn ariannol 2024-25. Mae'r datganiad yn cynnwys cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Eleni fe wnaethom ychwanegu swm bach o wybodaeth rheoli i'r datganiad, er mwyn gwella prydlondeb yr adroddiad, a hefyd fe wnaethom gyhoeddi tabl data ar wahân sy'n dangos y cyflawniad disgwyliedig ar ôl mis Mawrth 2025. Mae blog y Prif Ystadegydd, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad, yn esbonio mwy am y diffiniadau a sut y gellir a na ellir defnyddio'r data (Blog Digidol a Data).
Ym mis Mai 2025, derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai argymhelliad gan y Tasglu Tai Fforddiadwy y dylid trin unedau tai cymdeithasol ‘gwag’ a ariennir gan y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) yn yr un modd â chaffaeliadau a'u cynnwys o fewn y targed o 20,000. Yn dilyn y penderfyniad hwn, gwnaethom gynnwys unedau gwag a gyflwynwyd gan TACP yn ein hadroddiadau yn erbyn y targed.
Gwella Casglu Data ar Ddigartrefedd yng Nghymru
Ar hyn o bryd, caiff data ar ddigartrefedd yng Nghymru eu casglu drwy ddatganiadau cyfanredol gan awdurdodau lleol, sy'n rhoi gwybodaeth am aelwydydd sy'n gwneud cais am gymorth tai a chanlyniadau'r ceisiadau hynny. Mae gwaith yn mynd rhagddo i drosglwyddo i ddull casglu data newydd a fydd yn cofnodi data ar ymgeiswyr digartrefedd ar lefel unigol. Credwn y bydd y newid hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ddigartrefedd yng Nghymru yn sylweddol ac y bydd, yn y pen draw, yn cefnogi ymdrechion i wella canlyniadau i unigolion sy'n agored i niwed.
Dros yr haf, cafodd awdurdodau lleol fanyleb ddata drafft. Cynhaliwyd gweithdai i drafod y fanyleb ddrafft ac i gasglu adborth.
Ym mis Medi 2025, lansiwyd cynllun peilot data i gwmpasu mis Hydref a mis Tachwedd, lle byddwn yn efelychu'r casgliadau data chwarterol arfaethedig. Dewiswyd ychydig o awdurdodau lleol i gymryd rhan yn y peilot data. Ym mis Tachwedd 2025, dechreuon ni gasglu data peilot ar gyfer datganiad mis Hydref. Bydd y peilot yn parhau i mewn i fis Rhagfyr lle rydym yn bwriadu casglu data ar gyfer datganiad mis Tachwedd a chwblhau'r holl brofion data. Caiff canfyddiadau a chanlyniadau'r peilot eu rhannu â rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr 2025 / Ionawr 2026.
Arolwg Tai Cymru 2027-28
Ym mis Mai 2025, cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol achos busnes i gynnal Arolwg Tai Cymru yn 2027-28. Mae trefniadau llywodraethiant (sy'n cynnwys Tîm Prosiect, Bwrdd Prosiect a Grŵp Cynghori Technegol) bellach ar waith ar gyfer yr Arolwg Tai ac mae opsiynau ar gyfer dyluniad yr arolwg yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Disgwylir i ymarfer caffael ddechrau erbyn diwedd 2025-26. Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr rhanddeiliaid i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am yr Arolwg Tai, e-bostiwch ystadegau.tai@llyw.cymru.
Cyhoeddiadau tai
Ers y diweddariad diwethaf, mae'r allbynnau ystadegol canlynol wedi cael eu cyhoeddi:
- Darpariaeth tai fforddiadwy: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (cyhoeddwyd 13 Tachwedd)
- Darpariaeth tai fforddiadwy: cais ystadegol ad hoc (cyhoeddwyd 13 Tachwedd)
- Adeiladu tai newydd: Hydref i Ragfyr 2025 (cyhoeddwyd 6 Tachwedd)
- Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Awst 2025 (cyhoeddwyd 30 Hydref)
- Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru: ym mis Hydref 2024 (cyhoeddwyd 16 Hydref)
- Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill i Fehefin 2025 (cyhoeddwyd 2 Hydref)
Cysylltwch â ni drwy’r blwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.
Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Ystadegau ysbytai
Y chwarter hwn fe wnaethom ddiweddaru’r crynodeb misol o weithgarwch a pherfformiad y GIG. Roedd hyn yn cynnwys data newydd ar y model ymateb ambiwlansys newydd a data dros dro mwy amserol ar lwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein hallbwn chwarterol a ddatblygwyd yn ddiweddar mewn archwiliad dwfn o berfformiad y GIG ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru ac adroddiadau blynyddol sy'n archwilio ymhellach yn y tymor hir; Tueddiadau mewn gweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Thueddiadau mewn gweithgarwch gofal a gynlluniwyd yn y GIG.
Gweithlu a gwariant y GIG
Yn ystod y chwarter hwn, cafwyd diweddariad i'n hallbynnau chwarterol ar Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG ac Ystadegau swyddi gwag y GIG gan gynnwys dadansoddiad yn ôl grŵp staff a nodweddion staff. Cafwyd diweddariad chwarterol hefyd i ddata ar y Gweithlu practis cyffredinol. Yn ogystal â diweddariad i ystadegau blynyddol ar gyllidebau rhaglenni gwariant y GIG, rydym yn gofyn am adborth gan ddefnyddwyr a oes angen i hwn fod yn ystadegyn swyddogol o hyd, neu a yw'n fwy addas i'w gyhoeddi trwy sianeli eraill.
Gofal sylfaenol ac iechyd cymunedol
Y chwarter hwn, gwnaethom gyhoeddi diweddariad i ystadegau blynyddol ar bresgripsiynau gofal sylfaenol ac ystadegau gofal llygaid, sy'n crynhoi ystadegau ar wasanaethau gofal llygaid y GIG gan gynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd. Yn ogystal ag ystadegau blynyddol ar Dechrau'n Deg, ynghyd â diweddariad chwarterol amserol ar ddata monitro ehangu cam 2 a 3 Dechrau'n Deg.
Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Yn y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariadau rheolaidd i ystod o ystadegau eraill gan gynnwys; mesurau gofal llygaid a gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Yn ogystal â diweddariad blynyddol o adroddiad Llesiant Cymru sy'n cynnwys pennod ar Gymru Iachach ac ystadegau blynyddol ar nifer yr achosion o ganser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaethau gofal a lleoedd a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Bwletin ystadegol Gweithio o Bell
Caiff y bwletin ystadegol ar weithio o bell ei gyhoeddi ar 16 Rhagfyr. Bydd y bwletin yn archwilio lefelau gweithio o bell yng Nghymru, a nodweddion y rhai sy'n gweithio o bell.
Diweddariadau'r Dangosydd Canlyniadau
Bydd canlyniadau pellach o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024-25 yn cael eu cyhoeddi ar y Dangosydd Canlyniadau. Bydd y rhain yn cynnwys gweithio o bell, dinasyddiaeth fyd-eang, ymddygiadau ffordd iach o fyw, cyfranogiad yn y celfyddydau, amddifadedd materol, a mwy. O fis Tachwedd ymlaen, bydd mwy o ganlyniadau'n cael eu hychwanegu at y Dangosydd Canlyniadau yn fisol.
Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw gwestiynau.
Cyfiawnder cymdeithasol
Tlodi a chostau byw
Cyhoeddwyd ystadegau wedi'u diweddaru ar gyfer Y Gronfa Cymorth Dewisol: Ebrill i Awst 2025 ar 16 Hydref, gan gynnwys dadansoddiadau awdurdodau lleol.
Cyhoeddwyd y Fframwaith Monitro Tlodi Plant ar 2 Rhagfyr. Mae'r adroddiad ymchwil hwn yn cyflwyno canfyddiadau sy'n gysylltiedig ag amcanion y Strategaeth Tlodi Plant.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
Ar 27 Tachwedd, byddwn yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025. Dyma set newydd o safleoedd o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru, gan ddefnyddio Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is newydd Cyfrifiad 2021.
Yn y gwanwyn, cyhoeddwyd crynodeb o'ch safbwyntiau ar ba ddata y dylem eu defnyddio i ddiweddaru MALlC. Diolch i'r bobl a'r sefydliadau, dros 80 i gyd, a gymerodd ran yn yr arolwg a'r seminarau. Fe wnaethom ddefnyddio eich adborth i gynnwys rhai newidiadau i bob un o'r wyth maes amddifadedd yn y mynegai. Roedd y rhain yn cynnwys dangosyddion newydd ar ansawdd tai ac anallu i fforddio mynd i mewn i berchen-feddiannaeth neu'r farchnad rhentu breifat; gwelliannau i'r maes mynediad at wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau gofal plant; a data newydd ar lygredd sŵn ym maes yr amgylchedd ffisegol.
Mae adroddiad a data MALlC ar gael yma, gyda chanllawiau ar ddefnydd hefyd ar gael.
Troseddu a chyfiawnder
Rydym eisiau eich adborth ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol carchardai a phrawf a chyfiawnder ieuenctid. Os ydych chi'n eu defnyddio, cysylltwch ag ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Trafnidiaeth
Ym mis Medi, fe wnaethom gyhoeddi Traffig ffyrdd: 2024 ac ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon dros dro ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr Heddlu: Ebrill i Fehefin 2025 a diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap. Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gyhoeddi gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu: 2024 ac anafiadau ffyrdd a adroddwyd: 2024 sy'n ddadansoddiad manylach o wrthdrawiadau ac anafiadau ffyrdd terfynol 2024 a gofnodwyd gan yr heddlu. Bydd Trafnidiaeth môr: 2024 yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr ac yn cynnwys gwybodaeth am longau sy'n cyrraedd, teithio tramor a domestig a chargo.
I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch ag ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.
Y Gymraeg
Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Cyhoeddwyd Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 ar 3 Gorffennaf. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: y Gymraeg).
Yn flaenorol, ystyrid yr amcangyfrifon hyn yn ystadegau swyddogol achrededig. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.
Amaethyddiaeth a'r amgylchedd
Datgarboneiddio a Newid yn yr Hinsawdd
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru (StatsCymru).
E-bostiwch ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Amaethyddiaeth
Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau arolwg amaethyddol a garddwriaethol 2025 ym mis Rhagfyr. Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Cyllid llywodraeth leol
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol a chronfeydd wrth gefn ysgolion.
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: ystadegau.cyllid@llyw.cymru.
Ymchwil Data Gweinyddol
Yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach yr haf hwn am fuddsoddiad o £168 miliwn ledled y DU yn YDG UK (Ymchwil Data Gweinyddol DU), cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar 18 Medi bod YDG Cymru wedi derbyn £26 miliwn i gefnogi mentrau ymchwil a data dan arweiniad y tîm yng Nghymru (YDG Cymru). Bydd y buddsoddiad o'r newydd yn caniatáu i YDG Cymru ddyfnhau ei ymchwil bresennol, ehangu i feysydd polisi newydd, a pharhau i gryfhau'r cydweithrediad rhwng y llywodraeth a'r byd academaidd.
Mae partneriaeth YDG UK wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2024-2025. Mae'r cyhoeddiad yn amlinellu'r llwyddiannau, y cyflawniadau a'r cerrig milltir ar draws pedair gwlad y DU dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys uchafbwyntiau YDG Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Poblogaeth a demograffeg
I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.
Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru
Ymholiadau ystadegol cyffredinol
E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru
Ffôn: 0300 025 5050
Pynciau penodol
Cysylltiadau ar gyfer ystadegau
X
Gwasanaeth hysbysiadau a newyddlenni e-bost Llywodraeth Cymru
Ymholiadau gweinyddol
E-bost: gweinydduGGD@llyw.cymru
