Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos. Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw'n rhiant plentyn) wneud cais hefyd.
Mae 30 awr yn cynnwys:
- o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos
- hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar faint o addysg gynnar y mae eich awdurdod lleol yn ei gynnig.
Gallwch ddewis faint o'r oriau gofal plant wedi'u hariannu rydych yn eu defnyddio am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Fodd bynnag, os nad ydych yn defnyddio pob un o'r 30 awr un wythnos, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r oriau hynny yn ystod wythnos arall. Ni allwch gyfnewid oriau addysg gynnar am oriau gofal plant, nac oriau gofal plant am oriau addysg gynnar. Gallwch dalu am oriau ychwanegol o ofal plant eich hunain ar sail contract preifat rhyngoch chi a’ch darparwr gofal plant.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael addysg amser llawn yn eich awdurdod lleol:
- ni fyddwch yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor
- efallai y byddwch yn gymwys o hyd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau ysgol, os ydynt yn 3 neu 4 oed