Yn y canllaw hwn
8. Pwy sy'n gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru:
- rhaid eich bod yn byw yng Nghymru
- ni chaiff incwm gros rhiant fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn
I fod yn gymwys yn ystod y tymor a gwyliau ysgol, rhaid i'ch plentyn fod yn un o'r canlynol:
- 3 oed ac yn gymwys i gael addysg gynnar (y tymor ar ôl i'ch plentyn droi'n 3 oed fel arfer ond mae'n dibynnu ar bolisi derbyn i ysgolion eich awdurdod lleol)
- 4 oed a ddim yn gymwys am le addysg amser llawn yn yr awdurdod lleol yr ydych yn byw ynddo
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael addysg amser llawn yn eich awdurdod lleol:
- ni fyddwch yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor
- efallai y byddwch yn gymwys o hyd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau ysgol, os ydynt yn 3 neu 4 oed
Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw'n rhiant plentyn) fod yn gymwys.
Mae'n rhaid iddynt hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:
- eu bod yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy'n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw
- eu bod ar Dâl ac Absenoldeb Statudol (Salwch, Mamolaeth, Tadolaeth, Profedigaeth Rhieni a Absenoldeb Mabwysiadu)
- eu bod wedi cofrestru naill ai ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddynt hefyd fodloni un o'r enillion neu'r meini prawf addysg hyn.
Gellir gwneud rhai eithriadau i deuluoedd sy'n derbyn rhai budd-daliadau. Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol roi cyngor ar yr eithriadau hyn.
Cyn gwneud cais, edrychwch i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.