Yn y canllaw hwn
5. Gwyliau ysgol
Yn ystod gwyliau'r ysgol, os ydych yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant, bydd gennych hawl i 30 awr yr wythnos o ofal plant am hyd at 9 wythnos.
Gallwch ddefnyddio'r oriau gofal plant sydd wedi'u hariannu ar unrhyw adeg yn ystod wythnosau gwyliau, nos neu ddydd, gan gynnwys ar benwythnosau.
Mae gennych hawl i'r 9 wythnos yn ystod gwyliau ysgol tan ddechrau'r tymor ysgol ar ôl penblwydd eich plentyn yn bedair oed. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os cynigir lle addysg amser llawn i’ch plentyn.