Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am ofal plant ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos. Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw’n rhiant plentyn) wneud cais hefyd.

Mae 30 awr yr wythnos yn cynnwys:

  • o leiaf 10 awr o addysg gynnar
  • hyd at 20 awr o ofal plant

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar faint o oriau o addysg gynnar y mae eich awdurdod lleol yn eu cynnig.

Gallwch ddefnyddio oriau gofal plant a ariennir ar unrhyw adeg yn ystod wythnosau gwyliau, nos neu ddydd, gan gynnwys ar benwythnosau.

Gallwch ddewis faint o'r 30 awr a ddefnyddiwch am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn. Os na fyddwch yn defnyddio pob un o'r 30 awr mewn un wythnos, ni allwch eu defnyddio mewn wythnos arall.

Ni allwch gyfnewid:

  • oriau addysg gynnar ar gyfer oriau gofal plant
  • oriau gofal plant ar gyfer oriau addysg gynnar

Gallwch dalu am unrhyw oriau ychwanegol o ofal plant trwy gontract preifat gyda'ch darparwr gofal plant.

Os yw eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gymwys i gael addysg amser llawn:

  • ni fyddwch yn derbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor
  • efallai y byddwch yn dal yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau ysgol

Gallwch wneud cais ymlaen llaw i dderbyn gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer y tymor nesaf cyn belled â bod eich plentyn yn gymwys. Efallai na fydd eich cais yn cael ei brosesu gan eich awdurdod cyflawni tan yn nes at y dyddiad dechrau.