Neidio i'r prif gynnwy

5. Ffioedd am fwyd, cludiant a gweithgareddau

Mae’r cyllid gan y llywodraeth ar gyfer yr addysg a’r gofal a ddarperir gan y gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad.

Nid yw'n cynnwys bwyd, cludiant na gweithgareddau oddi ar y safle sy'n golygu tâl ychwanegol, a bydd darparwyr yn gallu codi tâl arnoch am y rhain.

Bydd cost cludiant yn dibynnu ar lle rydych yn byw a pha mor bell mae'n rhaid teithio.

Ni ddylai darparwyr godi mwy na £9 y dydd am fwyd neu £5.75 am hanner diwrnod (yn cynnwys cinio).