Neidio i'r prif gynnwy

3. Addysg feithrin

Mae gan bob plentyn hawl i gael addysg feithrin fel rheol o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Mae pob awdurdod lleol yn darparu o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg feithrin, a gallai hyn fod mewn:

  • ysgol leol
  • cylch chwarae
  • meithrinfa ddydd
  • Cylch Meithrin

Yn ystod y tymor, bydd yr addysg feithrin hon yn rhan o 30 awr y Cynnig.

Yn ystod gwyliau'r ysgol pan nad oes addysg feithrin mae'r Cynnig yn darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am hyd at 9 wythnos o'r flwyddyn. Bydd angen i rieni ariannu’r 4 wythnos sy’n weddill eu hunain.

Bydd angen i chi wneud cais am oriau addysg feithrin ar wahân.

Dysgwch sut i wneud cais am oriau addysg feithrin gan eich awdurdod lleol.