Neidio i'r prif gynnwy

7. Plant sydd angen cymorth ychwanegol

Os oes gan eich plentyn anghenion cymorth ychwanegol, gallech gael cymorth ychwanegol gan Grant Cymorth Ychwanegol Cynnig Gofal Plant Cymru. Nid yw'r Grant yn daliad ariannol a wneir yn uniongyrchol i chi. Mae'n galluogi awdurdodau lleol i gefnogi eich plentyn ymhellach i gael mynediad at ofal plant.

Mae hyn yn cynnwys plant sydd â'r canlynol:

  • anghenion dysgu ychwanegol
  • anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
  • anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio
  • anawsterau synhwyraidd a/neu gorfforol
  • cyflyrau meddygol
  • yn anabl
  • anghenion iechyd eraill

Gallwch wneud cais am y Grant Cymorth Ychwanegol ar ôl i'ch cais am y Cynnig Gofal Plant Cymru gael ei gymeradwyo.

Byddwch yn gallu dechrau eich cais drwy fewngofnodi i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant eto a dewis y ddolen ‘bydd angen ichi roi gwybod inni’ ar y dangosfwrdd.

Bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â chi a'ch darparwr gofal plant dewisol i drafod anghenion cymorth ychwanegol eich plentyn.

Am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni ynglŷn â'r Grant Cymorth Ychwanegol.