Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r dolenni’n rhoi manylion megis cwmpas, a chryfder a chyfyngiadau’r data, a hefyd y prosesau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu a chyhoeddi’r setiau data y tu ôl i’r dangosyddion.

Gan fod y data ar gyfer y dangosyddion wedi ei gasglu o amryw o wahanol setiau data bydd lefel y wybodaeth am ansawdd sydd ar gael yn amrywio o achos i achos. Ar gyfer dangosyddion a gymerwyd o ddata wedi’i ddynodi gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn Ystadegau Gwladol bydd adroddiadau ansawdd ar gael mewn mannau eraill sy’n rhoi manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd a hefyd yn ymdrin â materion ynghylch ansawdd y data. Yn yr achosion hyn, ceir dolenni isod i’r adroddiadau ansawdd hynny. Ar gyfer dangosyddion lle mae’r data’n Ystadegau Swyddogol, yn hytrach nag yn Ystadegau Gwladol dynodedig, mae’n bosib na fydd adroddiad ansawdd ar gael. Er hynny, bydd gwybodaeth am ansawdd ar gael yn y Datganiad Ystadegol, os cyhoeddir un. Felly, yn yr achosion hyn rydym wedi darparu dolenni i’r Datganiad Ystadegol perthnasol.

Ar gyfer rhai dangosyddion lle nad yw’r data’n cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol, mae’n debyg y bydd llai o wybodaeth ynghylch ansawdd wedi’i chyhoeddi eisoes ac felly rydym wedi cynnwys mwy o fanylder ynghylch ansawdd yn y ddogfen hon.

Dangosyddion 1 i 10

Dangosydd 1: Canran y genedigaethau byw sengl â phwysau geni islaw 2,500g

Mae gwybodaeth ynghylch ansawdd y data ar gael yn yr adroddiad ansawdd sy’n mynd law yn llaw â’r datganiad blynyddol: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau.

Dangosydd 2: Disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig

Mae disgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys gwybodaeth dechnegol am y mesurau, yn cael ei gyhoeddi gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Dangosydd 3: Canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw

Daw'r data o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gall ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i’w fesur a gall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud fod yn wahanol i’r hyn y maent yn ei wneud.  Er hynny, mae data o arolygon yn dal i fod yn ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau rhwng gwahanol grwpiau a thros amser. Mae’r dangosydd hwn yn cyfuno gwybodaeth am bum math gwahanol o ymddygiad o ran ffordd o fyw. Ni ddylid cymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canlyniadau ar Ffordd o fyw oedolion ac adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 4: Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer

Bob blwyddyn mae model Mapio Llygredd yn yr Hinsawdd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo cyfartaledd crynodiadau llygryddion ar gyfer pob cilomedr sgwâr yn y DU. Mae’r model yn cael ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a gymerir o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data hwn sydd wedi’i gyhoeddi i neilltuo crynodiad NO2, PM2.5 and PM10 i bob annedd breswyl yng Nghymru yn seiliedig ar ba cilomedr sgwâr o Gymru y mae’r annedd ynddo.

Ar gyfer pob un o ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol lle ceir oddeutu 150 o anheddau), cyfrifwyd cyfartaledd crynodiadau’r llygryddion sy’n gysylltiedig â phob annedd i roi crynodiad cyfartalog NO2, PM2.5 and PM10 ar draws ardal cynnyrch y cyfrifiad.

Ar gyfer ardal pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, cyfrifwyd cyfartaledd wedi’i bwysoli yn ôl poblogaeth dros ardaloedd cyfansoddol cynnyrch y cyfrifiad i roi cyfartaledd crynodiad NO2, PM2.5 and PM10 yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw yn yr Awdurdodau Lleol a’r Byrddau Iechyd hynny. Gwnaed yr un cyfrifiad ar draws holl ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad, i roi ffigwr cymharol ar gyfer Cymru gyfan.

Dangosydd 5: Canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw

Seilir data ar Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD); a Phrifysgol Caerdydd. Cynhelir yr arolwg bob dwy flynedd, gan roi cipolwg rheolaidd ar ymddygiadau iechyd pobl ifanc 11-16 mlwydd oed yng Nghymru. Caiff yr arolwg ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Yn 2019/20, cymerodd bron i 120,000 o fyfyrwyr ran yn yr arolwg.

Gweler adran Methodoleg yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Dangosydd 6: Mesur o ddatblygiad plant bach

Gweler adran ansawdd y datganiad ystadegol ar asesiadau dechreuol o ddisgyblion dosbarth derbyn.

Dangosydd 7: Sgôr 9 pwynt gyfartalog disgyblion wedi’i chapio, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys

Gweler yr adran ansawdd yn y nodiadau sy’n cyd-fynd â datganiad ystadegol blynyddol Canlyniadau Arholiadau.

Dangosydd 8: Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol

Gweler y datganiad ystadegol Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio.

Dangosydd 9: Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) am bob awr a weithir, mynegai (DU = 100)

Cyhoeddir y data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar SYG we-ddalen Cynhyrchiant Llafur Gwybodaeth am Ansawdd a Dulliau.

Dangosydd 10: Incwm Gwario Gros Aelwydydd, y pen

Cyhoeddir y data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ei phapur Incwm gwario gros rhanbarthol aelwydydd: Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg.

Dangosyddion 11 i 20

Dangosydd 11: Canran y busnesau sydd wrthi’n arloesi

Canran y busnesau sydd wrthi’n arloesi. Mae diffiniad y DU o arloesi yn dilyn y diffiniad ledled yr UE a fabwysiadwyd gan Eurostat. Ystyrir bod busnesau wrthi’n arloesi os ydynt yn:

  • cyflwyno cynnyrch (nwydd neu wasanaeth) neu broses newydd neu un sydd wedi'i wella'n sylweddol
  • cymryd rhan mewn prosiectau arloesi nad ydynt eto wedi'u cwblhau na'u rhoi heibio
  • arddel mathau newydd a llawer gwell o drefniadaeth, strwythurau neu arferion busnes a chysyniadau neu strategaethau marchnata

Er bod pob un o’r graddfeydd ar gael ar gyfer y ddwy sylfaen boblogaeth, yn ogystal ag ar gyfer sawl grŵp oedran arall, defnyddir sylfaen boblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o’r graddfeydd, sef:  

  • canran y boblogaeth sydd o oed gweithio
  • gweithgarwch economaidd
  • cyflogaeth
  • anweithgarwch economaidd (gan gynnwys neu heb gynnwys myfyrwyr)
  • canran y boblogaeth economaidd weithgar sy’n 16 oed a throsodd
  • diweithdra ILO

Mae Arolwg Arloesi’r DU yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae Arolwg Arloesi’r DU yn rhan o arolwg ehangach, yr Arolwg Arloesi Cymunedol, yng ngwledydd yr UE. Mae’r arolwg yn seiliedig ar holiadur craidd wedi’i lunio gan y Comisiwn Ewropeaidd (Eurostat) ac Aelod Wladwriaethau. Holodd Arolwg Arloesi’r DU 2017 sampl o bron i 30,000 o fentrau yn y DU. Roedd yr arolwg yn gwbl wirfoddol a chafodd ei gynnal drwy holiadur yn y post a chyfweliad dros y ffôn i fusnesau nad oeddent eto wedi ymateb drwy’r post. Roedd yr arolwg yn cynnwys mentrau a oedd yn cyflogi 10 neu fwy o staff yn adrannau C-K Dosbarthiad Diwydiannol Safonol 2007. Daw’r sampl o Gofrestr Fusnes Ryngadrannol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyhoeddir bob dwy flynedd.

Cyfnodau cyfeirio'r data: 2008/10 i 2016/18.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae’r data’n bwydo i mewn i ddadansoddiadau economaidd a gwaith polisi arall. Mae’n cynnig cipolwg cyfnodol ar ymddygiad arloesi ac yn ogystal â hynny mae’n darparu set ddata banel sy’n hwyluso gwerthusiadau ac astudiaethau hydredol o bolisi arloesi.

Ansawdd yr ystadegau

Mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y sampl, ac o’r herwydd mae gwahanol raddfeydd o amrywioldeb samplu ynghlwm wrthynt, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur o fewn ystod bob ochr i'r gwerth a amcangyfrifir. Mae’r ystod neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu po fwyaf o fanylder sydd yn y data, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn y data ynghylch awdurdodau lleol unigol nag yn y data ynghylch Cymru gyfan.

Gweler Arolwg Arloesi’r DU 2017 (Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) i gael gwybod mwy.

Dangosydd 12: Capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi’i osod

Daw'r dangosydd o astudiaeth Cynhyrchu Ynni yng Nghymru. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Regen i gynhyrchu cronfa ddata o brosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru; nodi i ba raddau mae pa brosiectau yn eiddo i unigolion, sefydliadau a chymunedau Cymru; a dadansoddi'r data i gynhyrchu adroddiad ar y cynnydd.

Roedd y fethodoleg ymchwil a ddatblygwyd gan Regen i gynhyrchu darlun manwl o gynhyrchu ynni ar draws Cymru yn cynnwys:

  • nodi, coladu a gwirio cofnodion o setiau data sydd eisoes ar gael
  • gwirio a dadansoddi'r data i sicrhau trosolwg cenedlaethol trylwyr a data lleol lle bo modd
  • gwirio'r data gyda rhanddeiliaid a'r diwydiant lle bo hynny'n briodol
  • ymchwilio i fanylion perchnogaeth, gan gynnwys holi Tŷ'r Cwmnïau am brosiectau dan berchnogaeth leol

Ymysg prif ffynonellau'r data a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth mae'r canlynol:

  • Tariff Cyflenwi Trydan Ofgem
  • Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy
  • Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy neu Daliad y Premiwm Gwres Adnewyddadwy
  • cysylltiadau Western Power Distribution
  • cysylltiadau SP Energy Networks
  • Gemserv MCS
  • Ddata Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy
  • â chyfleustodau
  • â gosodwyr a sefydliadau'r diwydiant
  • o osodwyr storio ar raddfa fach
  • ynni BEIS

Dangosydd 13: Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd

Mae hyn yn cael ei fesur o samplau pridd gan ddefnyddio methodoleg colled wrth danio i bennu crynodiad carbon mewn pridd. Mae Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir yn casglu tystiolaeth ar gyfer chwe chanlyniad bwriedig cynllun Glastir.

  1. Lliniaru newid yn yr hinsawdd.
  2. Gwella ansawdd pridd a dŵr.
  3. Atal dirywiad bioamrywiaeth.
  4. Rheoli coetiroedd yn well.
  5. Gwell mynediad i dirweddau Cymru.
  6. Chyflwr nodweddion hanesyddol.

Gwneir hyn i raddau helaeth drwy arolwg maes o 300 o sgwariau 1km ledled Cymru, a’u hanner yn canolbwyntio ar ardaloedd sy’n cael blaenoriaeth o ran taliadau uwch. Mae’r sgwariau 1km yn cael eu dewis ar hap o 26 o ddosbarthiadau tir, er mwyn sicrhau bod cyfran dda o dirwedd Cymru’n cael ei chynnwys. Bydd y sgwariau’n cael eu harolygu dros gyfnod o bedair blynedd ac yna ailymwelir â’r sgwariau dros y pedair blynedd nesaf, sy’n golygu y bydd tystiolaeth ynglŷn â newid yn cael ei chasglu ac effeithiau eithafion tywydd blynyddoedd unigol yn lleihau. Bydd arwynebedd y 'tir Glastir' ym mhob sgwâr sy’n rhan o’r arolwg yn amrywio a rhoddir ystyriaeth i hyn wrth wneud y gwaith dadansoddi. Mae data o raglenni monitro arbenigol parhaus, llawer ohono’n cael ei gasglu gan y Ganolfan Cofnodion Biolegol, hefyd yn cael ei gynnwys yn y dadansoddiadau lle bo hynny’n bosib er mwyn gwneud defnydd llawn o’r holl weithgarwch monitro sy’n digwydd. Mae modelau’n cael eu defnyddio i amcangyfrif y canlyniadau disgwyliedig yn y dyfodol er mwyn gallu gwneud addasiadau i gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac i sicrhau bod y cynllun yn cael cymaint o effaith â phosib.

Cymerir samplau o bob un o 26 dosbarth tir Cymru, gan gynnwys ar gyrion trefi a’r arfordir. Mae’r arolwg yn cynnwys 300 o sgwariau 1km, tua’u hanner y tu allan i Glastir. Bwriedir i’r arolwg fod yn arolwg Cymru gyfan. Nid yw’r arolwg yn cynnwys ardaloedd dinesig sydd wedi’u datblygu’n ddwys ac felly ni ddylid ei weld fel rhestr o safleoedd tir llwyd.

Dangosydd 14: Ôl Troed Byd-eang Cymru

Mae gwybodaeth am y fethodoleg ar gael yn adroddiad Ôl troed ecolegol a charbon Cymru.

Dangosydd 15: Swm y gwastraff a gynhyrchir ac na chaiff ei ailgylchu, y pen

Cyfrifir y dangosydd hwn ar sail tair elfen wahanol.

Gwastraff cartref

Mae’r elfen hon yn seiliedig ar wastraff cartref gweddilliol (h.y. nad yw’n cael ei ailgylchu) a gesglir. Nid yw’r data hwn yn ystyried unrhyw wastraff sy’n cael ei gynhyrchu fel gwastraff gweddilliol sydd wedyn yn cael ei ailgylchu, na gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffrydiau ailgylchu sydd wedyn yn cael ei wrthod fel gwastraff i’w waredu. Ffynhonnell y data hwn yw WasteData Flow, sy’n casglu data am wastraff trefol awdurdodau lleol yn rheolaidd. Mae’r data’n seiliedig ar y flwyddyn ariannol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y datganiad ystadegol Rheoli gwastraff trefol awdurdodau lleol.

Gwastraff adeiladu a dymchwel

Mae’r elfen hon yn seiliedig ar ddiffiniad Fframwaith Gwastraff yr UE o’r targed adfer ar gyfer gwastraff Adeiladu a Dymchwel. Nid yw hyn yn cynnwys gwastraff peryglus a phridd a cherrig sy’n digwydd yn naturiol. Mae’n cynnwys gweithgareddau ail-lenwi. Ffynhonnell y data hwn yw arolwg gwastraff Adeiladu a Dymchwel 2012 lle casglwyd data o 457 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Gorffennaf 2013 a mis Ionawr 2014. Mae rhagor o wybodaeth am y fethodoleg ar gael yn Adran 2 adroddiad yr Arolwg o wastraff adeiladu a dymchwel (Cyfoeth Naturiol Cymru).

Gwastraff diwydiannol a masnachol

Ffynhonnell y data hwn yw arolwg gwastraff Diwydiannol a Masnachol 2012 (Cyfoeth Naturiol Cymru), lle casglwyd data o 1,540 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Gorffennaf 2013 a mis Rhagfyr 2013. Mae rhagor o wybodaeth am y fethodoleg ar gael yn Adran 2 adroddiad.

Dangosydd 16: Canran y bobl sydd mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol

Contractau parhaol a’r rheini ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol fel y’u diffinnir gan gwestiynau yn Arolwg y Gweithlu.

Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei ddiwygio o “Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill mwy na 2/3 o gyflog canolrifol y DU” yn Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.

Dangosydd 17: Gwahaniaeth cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd

Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Cyflog Isel ac Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Canlyniadau Pensiwn: Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg.

Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei ymestyn o “Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau” yn Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth bellach o ansawdd ar y gwahaniaeth cyflog mewn perthynas ag anabledd ac ethnigrwydd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.

Dangosydd 18: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn

Cyhoeddir aelwydydd sy'n is na'r incwm cyfartalog (HBAI) gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal dadansoddiad ychwanegol o setiau data HBAI er mwyn ystyried nodweddion statws economaidd, deiliadaeth tai, teulu, ethnigrwydd ac anabledd. Gellir gweld y data a dadansoddiadau cryno ar we-ddalen ystadegau Tlodi incwm cymharol. Gellir gweld gwybodaeth ynghylch methodoleg a dehongli data hefyd ar y tudalennau hyn.

Dangosydd 19: Canran y bobl sy'n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol

Cymerwyd y cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru o’r Arolwg o Adnoddau Teulu, ac mae’r fethodoleg a ddefnyddir i ddosbarthu pobl yn defnyddio dull tebyg, ond nid yn union yr un fath (mae’r Arolwg o Adnoddau Teulu hefyd yn defnyddio incwm a gofynnwyd rhai o gwestiynau’r Arolwg Cenedlaethol i’r rhai 'ar y ffin’ o fod yn ddifreintiedig yn unig).

Gofynnwyd i oedolion nad ydynt yn bensiynwyr a oeddent yn gwneud pethau fel cael gwyliau oddi cartref am o leiaf wythnos mewn blwyddyn, a oedd ganddynt ddigon o arian i gadw’u cartrefi mewn cyflwr priodol o ran addurno, neu’n gallu cynilo £10 y mis neu fwy’n rheolaidd. Roedd y cwestiynau'n canolbwyntio ar ofyn a allent fforddio’r eitemau hyn.

Gofynnwyd cwestiynau ychydig yn wahanol i bensiynwyr, megis a oedd eu cartrefi’n cael eu cadw’n ddigon cynnes, a oedd car neu wasanaeth tacsi ar gael iddynt pan oedd angen hynny neu a oeddent yn cael trin neu torri eu gwallt yn rheolaidd. Roedd y cwestiynau hefyd yn gofyn a oeddent yn gallu fforddio’r pethau hyn, ond yn canolbwyntio hefyd ar beidio â gallu cael yr eitemau hyn am resymau eraill, megis iechyd gwael, neu bod neb i’w helpu ac yn y blaen.

Rhoddwyd sgôr i’r rhai nad oedd yr eitemau hyn ganddynt, er enghraifft pe na byddai ganddynt yr un o’r eitemau ar y rhestr byddent yn cael sgôr o 100, a phe byddai pob un ganddynt byddent yn cael sgôr o 0. Roedd y rhai nad oeddent yn bensiynwyr a chanddynt sgôr o 25 neu fwy yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig a phensiynwyr a chanddynt sgôr o 20 neu fwy yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig. Mae pobl nad ydynt yn bensiynwyr a phensiynwyr wedi’u grwpio gyda’i gilydd ar gyfer y dangosydd hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 20: Canran y gweithwyr y pennir eu cyflog gan gydfargeinio

Mae’r dangosydd cenedlaethol wedi cael ei ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021, i ddisodli “Canran y bobl sy’n dweud eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn yn eu gwaith”. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth bellach o ansawdd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.

Dangosyddion 21 i 30

Dangosydd 21: Canran y boblogaeth 16 i 64 oed sydd mewn cyflogaeth yng Nghymru

Gweler tudalen Ansawdd a Methodoleg Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol).  

Dangosydd 22: Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’I mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran

Gweler y datganiad ystadegol Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur a'r Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mae rhagor o fanylion ar gael yn y nodyn methodoleg ar gyfer deilliad amcangyfrifon o gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur a'r canllaw i'r gwahanol ffynonellau ystadegau NEET yng Nghymru.

Dangosydd 23: Canran y bobl sy'n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol

Mae’r dangosydd hwn yn defnyddio canran y bobl a oedd yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘tueddu i gytuno’ â’r datganiad “Rwy’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fy ardal leol".

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 24: Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gyrraedd/cael at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt

Mae’r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl 16 oed neu hŷn sy’n adrodd eu bod yn teimlo’n fodlon iawn neu’n weddol fodlon â’u gallu i gyrraedd at y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt, o fewn 15 i 20 munud ar droed o'u cartrefi.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 25: Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio

Mae hyn yn seiliedig ar bedwar cwestiwn gwahanol a ofynnwyd yn rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru ac yn defnyddio canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n ‘ddiogel iawn’ neu’n ‘weddol ddiogel’ ym mhob un o’r sefyllfaoedd isod ar ôl iddi dywyllu:

  • yn y cartref
  • wrth gerdded ar eu pen eu hunain
  • wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • wrth deithio yn y car

Mae dadansoddiad manylach ar gael yn yr adroddiad ystadegol Teimlo’n ddiogel mewn ardal leol.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 26: Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw

Ewch i adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o wybodaeth a’r adroddiad ymchwil Bodlon ar ardal leol.  

Dangosydd 27: Canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal, bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch

Mae’r dangosydd hwn yn seiliedig ar dri chwestiwn gwahanol a ofynnwyd yn rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru ac yn defnyddio cyfran y bobl sy’n dweud eu bod yn cytuno’n gryf neu’n tueddu i gytuno:

  • eu bod yn perthyn i’r ardal leol
  • bod yr ardal leol yn rhywle lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda
  • bod pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth

Ewch i adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o wybodaeth ar gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg a'r adroddiad ymchwil Synnwyr o gymuned

Dangosydd 28: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli

Mae’r dangosydd hwn yn defnyddio canran yr oedolion sy’n rhoi o’u hamser yn rhad ac am ddim i helpu clybiau neu sefydliadau. Nid yw’r data a gyflwynwyd yn cynnwys pobl sy’n darparu gofal i rywun.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 29: Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl

Oedolion

Oherwydd natur sensitif rhai o’r cwestiynau, rhoddodd y sawl a oedd yn eu cyfweld liniadur i’r ymatebwyr er mwyn iddynt gael cwblhau’r adran hon drostynt eu hunain. Yn yr arolwg diweddaraf cytunodd 81% i hunanlenwi, cytunodd 11% i’r sawl a oedd yn eu cyfweld lenwi’r adran hon drostynt (a gallai hynny fod wedi effeithio ar eu hatebion i’r cwestiynau hyn), a gwrthododd 8% ymateb i’r cwestiynau yma yn gyfan gwbl. Roedd pobl hŷn yn llai tebygol o gwblhau'r adran dros eu hunain.

Cyfrifir y sgôr llesiant meddyliol cymedrig yn unol â Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS). Er mwyn asesu eu llesiant meddyliol ar raddfa WEMWBS, rhoddwyd 14 datganiad i’r ymatebwyr, fel “Rwy wedi bod yn teimlo fy mod wedi ymlacio” ac “Rwy wedi bod yn meddwl yn glir”, a gofynnwyd iddynt pa mor aml roeddent yn teimlo fel hyn ar raddfa bum pwynt, lle roedd 1 yn dynodi ‘byth’ a 5 yn dynodi ‘drwy’r amser’. Cyfrifwyd sgôr o 14 i 70 ar sail yr ymatebion hyn, ac roedd sgôr uwch yn dynodi llesiant gwell. Ceir rhagor o wybodaeth yn y bwletin ystadegol ar lesiant meddyliol.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Plant

Gweler adran ansawdd y datganiad Mesurau iechyd a lles ar gyfer plant.

Dangosydd 30: Canran y bobl sy’n unig

Dyma ganran yr oedolion sy’n unig yn ôl graddfa unigrwydd De Jong Gierveld. 

Er mwyn asesu lefelau unigrwydd ar y raddfa hon, rhoddwyd 6 gosodiad i’r ymatebwyr, megis “Rwy’n gweld eisiau cael pobl o gwmpas” a “Mae digon o bobl rwy’n teimlo’n agos atynt” a gofynnwyd iddynt ddweud i ba raddau roedd y gosodiadau hyn yn berthnasol iddynt. Yna cyfrifwyd sgôr o 0 i 6, ac roedd y bobl a gafodd sgôr o 4 neu fwy’n cael eu hystyried yn unig.

Oherwydd natur sensitif rhai o’r cwestiynau, rhoddodd y sawl a oedd yn eu cyfweld liniadur i’r ymatebwyr er mwyn iddynt gael cwblhau’r adran hon drostynt eu hunain. Gwrthododd dros un o bob pump o’r ymatebwyr wneud hyn, ond fe atebodd y rhan fwyaf o’r rheiny y cwestiynau pan gawsant eu gofyn gan y sawl a oedd yn eu cyfweld, a gallai hynny fod wedi effeithio ar eu hatebion i’r cwestiynau hyn.  

Cwblhaodd 85 y cant o bobl 16-64 oed y cyfweliad drostynt eu hunain, ond dim ond 57 y cant o bobl 65 oed a throsodd wnaeth hynny. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r bwletin ystadegol ar Unigrwydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosyddion 31 i 40

Dangosydd 31: Canran yr anheddau sydd heb beryglon

Mesurodd Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 ganran yr anheddau a oedd yn rhydd o beryglon categori 1 ar sail y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS). Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r broses o fesur a modelu’r peryglon hyn ar gael ym mhrif ganlyniadau ac adroddiad technegol Arolwg Cyflwr Tai Cymru.

Dangosydd 32: Nifer yr unedau eiddo (cartrefi a busnesau) sydd mewn perygl uchel a chanolig o lifogydd sy’n deillio o afonydd a’r môr

Defnyddir yr Asesiad Cenedlaethol o Fygythiad Llifogydd (NaFRA) ynghyd â’r Set Ddata Eiddo Genedlaethol (NPD) i bennu nifer yr unedau eiddo (preswyl a dibreswyl) sydd mewn perygl o lifogydd sy’n deillio o afonydd a’r môr yng Nghymru.

Mae pedwar categori i berygl llifogydd.

  1. Perygl Uchel: yn fwy na neu’n hafal i 1 siawns mewn 30 (3.3%) yn unrhyw flwyddyn.
  2. Perygl Canolig: llai nag 1 siawns mewn 30 (3.3%) ond yn fwy na neu’n hafal i 1 siawns mewn 100 (1%) yn unrhyw flwyddyn.
  3. Perygl Isel: llai nag 1 siawns mewn 100 (1%) ond yn fwy na neu’n hafal i 1 siawns mewn 1,000 (0.1%) yn unrhyw flwyddyn.
  4. Perygl Isel Iawn: llai nag 1 siawns mewn 1,000 (0.1%) yn unrhyw flwyddyn.

Mae’r NaFRA yn cynnwys llifogydd sy’n deillio o afonydd â dalgylch sy’n fwy na 3 cilomedr sgwâr, a’r holl lifogydd sy’n deillio o’r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw). Mae afonydd llai wedi’u cynnwys yn yr asesiad os ydynt mewn ardaloedd y gallai llifogydd eithafol effeithio arnynt (siawns o 0.1 y cant yn unrhyw flwyddyn).

Mae’r asesiad yn ystyried math, lleoliad a chyflwr amddiffynfeydd rhag llifogydd, a’r siawns y gallai llifogydd difrifol fynd dros ben yr amddiffynfeydd hyn neu dorri drwyddynt. Mae tebygolrwydd llifogydd a’r costau cysylltiedig (iawndal economaidd) yn cael eu hasesu ar gyfer pob parth effaith 50m sgwâr.

Nid yw’n cynnwys mathau eraill o lifogydd megis draeniau priffyrdd, carthffosydd, llif trostir neu ddŵr daear sy’n codi.

Dangosydd 33: Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol

Mae gan anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol sgôr Gweithdrefn Asesu Safonol (SAP) o 65 neu uwch. Cafodd y sgoriau SAP eu mesur gan syrfewyr cymwysedig fel rhan o Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad effeithlonrwydd ynni anheddau ac adroddiad technegol Arolwg Cyflwr Tai Cymru.

Dangosydd 34: Nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd

Ceir gwybodaeth am ansawdd y data yn yr adroddiad ansawdd sy'n cyd-fynd â'r datganiadau Digartrefedd.

Dangosydd 35: Canran y bobl sy’n bresennol neu’n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf 3 gwaith y flwyddyn

Mae'r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl sy'n dweud iddynt fod yn bresennol neu gyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth 3 gwaith neu fwy yn y 12 mis blaenorol.

Mae dadansoddiad manylach ar gael yn yr adroddiad ystadegol Celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 36: Canran y bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd ac yn medru siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg

Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar ddata’r Cyfrifiad a data Arolwg Defnydd Iaith.

I fod yn gyson â dangosydd cenedlaethol 37, ‘Canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg’, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011 fel gwaelodlin ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg, ynghyd â data Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ar gyfer y rhai sy’n dweud eu bod naill ai’n gallu ‘siarad Cymraeg yn rhugl’, yn gallu ‘siarad cryn dipyn o Gymraeg’, neu’n gallu ‘siarad ychydig o Gymraeg’; ac sydd hefyd yn siarad Cymraeg bob dydd.  

Nododd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 bod 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau. Mae hyn yr un ganran ag yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data blynyddol ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn ac yn awgrymu bod y dangosydd wedi bod yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf ers Cyfrifiad 2011, ar oddeutu 10% i 12%.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd yr Arolwg Defnydd Iaith.

Dangosydd 37: Nifer y Bobl sy'n gallu siarad Cymraeg

Mae’r dangosydd hwn yn defnyddio Cyfrifiad y Boblogaeth.

Y cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer gwybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, er bod gwybodaeth ar gael o ffynonellau eraill megis yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Wrth gymharu’r cwestiynau ynghylch y Gymraeg mewn arolygon o aelwydydd â chanlyniadau Cyfrifiad 2011, mae’n bwysig cofio y gall gwahaniaethau o ran samplu, dulliau cyfweld, a chynllun yr holiaduron beri gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon. Mae amcangyfrifon ynghylch nifer y siaradwyr Cymraeg yn uwch yn draddodiadol mewn arolygon o aelwydydd (megis yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru) nag yn y cyfrifiad – nid yw'n amlwg yn union pam, ond mae’n debygol bod y gwahaniaethau a nodir uchod yn effeithio ar y canlyniadau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael o ddata'r Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a dulliau’r Cyfrifiad ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Rhwng cyfrifiadau, defnyddir Arolwg Cenedlaethol Cymru i fonitro tueddiadau yng nghyfran yr oedolion sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r dangosydd yn seiliedig ar oedolion 16 oed neu hŷn sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r cwestiwn yn caniatáu i bobl ateb ‘ydw’ neu ‘nac ydw’, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ddweud yn y fan a’r lle nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg ond bod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg. At ddibenion y dangosydd hwn, diffinnir pobl sy’n gallu siarad Cymraeg fel rhai sy’n ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn hwn yn unig.

Mae’n bosibl cymharu â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol yr Arolwg Cenedlaethol (2012 i 2015). 

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 38: Canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos

Oedolion

Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn dod yn wreiddiol o’r Arolwg Oedolion Egnïol, sydd bellach yn rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru, gyda rhai mân addasiadau.

Ar gyfer y dangosydd hwn dangoswyd cyfres o weithgareddau dan do ac awyr agored i’r ymatebwyr a gofynnwyd iddynt a oeddent wedi cymryd rhan yn unrhyw rai ohonynt. Os oeddent, gofynnwyd iddynt sawl gwaith roeddent wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd dros y 4 wythnos ddiwethaf.

Nid yw’n bosib cymharu canlyniadau’r Arolwg Oedolion Egnïol ac Arolwg Cenedlaethol Cymru’n uniongyrchol oherwydd bod cynllun yr arolygon yn wahanol.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Plant

Cyhoeddir y wybodaeth hon gan Chwaraeon Cymru. Mae’r Arolwg o Chwaraeon Ysgol yn arolwg ar-lein o gyfranogiad disgyblion mewn chwaraeon a darpariaeth Addysg Gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion. Cynhaliwyd yr Arolwg o Chwaraeon Ysgol ddiwethaf yn nhymor yr haf 2018 o 16 Ebrill tan 24 Gorffennaf. Mae’r disgyblion yn cwblhau holiadur ynglŷn â’u cyfranogiad mewn Addysg Gorfforol a chwaraeon a’u hagweddau tuag atynt. Cymerodd 118,893 o ddisgyblion Blynyddoedd 3 i 11 ran yn arolwg 2018, a chwblhaodd 1,055 o athrawon holiadur yr Arolwg o Chwaraeon Ysgol.

Dangosydd 39: Canran yr amgueddfeydd ac archifau sy’n dal casgliadau archifol/treftadaeth sy’n cyrraedd safonau achredu’r DU

Mae’r mesur ar gyfer archifau’n dangos nifer y sefydliadau a chanddynt archifau sydd wedi cyrraedd Safon Achredu Gwasanaeth Archifau’r DU. Y diffiniad sylfaenol o wasanaeth archifau i’w gynnwys o dan y mesur hwn yw y dylai’r sefydliad gael ei gydnabod gan yr Archifau Cenedlaethol fel Canolfan Adneuo i gofnodion cyhoeddus sy’n cael eu dal yn lleol (ac felly’n gorfod cyrraedd y Safon Achredu er mwyn cadw’r dynodiad statudol hwn), ac y dylai hefyd fod yn aelod o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.

Mae gwybodaeth am y broses ar gyfer achredu amgueddfeydd ac achredu archifau ar gael.

Dangosydd 40: Canran yr asedau’r amgylchedd hanesyddol sydd mewn cyflwr sefydlog neu well

Yn 2020-21, bu amharu ac oedi difrifol yn y gwaith o gasglu data arolygon cyflwr oherwydd pandemig COVID-19. Cynhaliwyd arolygon cyflwr ar gyfer 178 o Henebion Cofrestredig. O blith y rheini, canfuwyd bod 93 (52%) ohonynt yn sefydlog neu wedi gwella a bod 85 (48%) wedi gwaethygu. Ystyriwyd bod 37 o’r henebion mewn perygl (21%).  

Henebion Cofrestredig

Mae arolygon yn cael eu cynnal ar gyflwr henebion cofrestredig yng Nghymru ers canol y 1980au ac fe’u cynhelir yn fewnol gan dîm Cadw o Wardeniaid Henebion Maes. Mae arolygon o gyflwr henebion cofrestredig yn cael eu cynnal drwy raglen dreigl o arolygon lle mae 10% o'r asedau'n cael eu harolygu bob blwyddyn gan ddefnyddio methodoleg gyson. Defnyddir saith categori cyflwr cyffredinol, yn amrywio o ‘wedi’u dinistrio’ i ‘wedi gwella’n sylweddol’. Nid yw'n bosib cymharu'r data o flwyddyn i flwyddyn, am fod henebion cofrestredig gwahanol yn cael eu hasesu bob blwyddyn. O ganlyniad, mae ffigur y dangosydd wedi cael ei hadolygu, a chyfrifir hwn bellach fel canran yr asesiadau hyd y presennol o fewn y gylchred 10 mlynedd sydd mewn cyflwr sefydlog neu well.

Mae’r rhan fwyaf o henebion cofrestredig yn strwythurau cloddwaith ac adeiladau hanesyddol gwag, sydd fel arfer wedi dadfeilio, megis cestyll, abatai canoloesol ac olion diwydiannol. Mae llawer ohonynt mewn mannau anghysbell a gwledig. Oherwydd natur ffisegol yr henebion cofrestredig, ac oherwydd diffyg ymyriadau penodol, mae’n debyg mai ‘sefydlog’ neu’n ‘dangos rhywfaint o ddirywiad’ fyddai’r asesiad o gyflwr y rhan fwyaf ohonynt. Pan welir bod eu cyflwr wedi gwella, mae hynny bron yn ddieithriad o ganlyniad i ymyrraeth weithredol megis rheoli’r tir yn gadarnhaol a phrosiectau cadwraeth wedi’u targedu. Y prif fygythiadau sy’n effeithio ar henebion y cofnodwyd eu bod yn wynebu peryglon yw hindreuliad sylweddol, a difrod stormydd a llifogydd (pob un yn gysylltiedig ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a gormodedd o lystyfiant heb ei drin sy’n peri iddynt ddirywio’n naturiol yn gynt) a’r ffordd orau o’u rheoli yw drwy arferion rheoli tir cadarnhaol.

Adeiladau Rhestredig

Mae arolygon yn cael eu cynnal ar gyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru ers 1998. Mae'r rhaglenni arolygu yn edrych ar gyfnod treigl o bum mlynedd, ac mae tua 20 y cant o stoc adeiladau rhestredig Cymru’n cael eu harolygu bob blwyddyn. Bydd y rhaglen arolygu’n sicrhau bod cyflwr pob un o’r 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru yn ystod cyfnod y rhaglen arolygu’n cael eu hasesu gan ddefnyddio methodoleg gyson. Cyfrifir cyfran yr adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu well gan ddefnyddio data arolygon sydd eisoes ar gael a’r data diweddaraf sydd ar gael ynghylch yr 20 y cant o’r stoc adeiladu sydd wedi’i ailarolygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dylid nodi bod y ffigurau a gyflwynir ar gyfer bob blwyddyn yn ymwneud â’r sampl a arolygwyd yn ystod y flwyddyn honno. Daw sampl bob blwyddyn o nifer fach o awdurdodau lleol ar hyd gwahanol ranbarthau Cymru. Dylid disgwyl amrywiad o flwyddyn i flwyddyn. 

Dangosyddion 41 i 50

Dangosydd 41: Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr y DU, 1990 i 2019 (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig)

Dangosydd 42: Allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd i’w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru

Ôl troed ecolegol

Nid oes methodoleg y cytunwyd yn rhyngwladol arni ar gyfer cyfrifo’r ôl troed cenedlaethol. Er hynny, mae dwy fethodoleg sylfaenol yn cael eu cydnabod yn eang ac maent wedi’u defnyddio mewn nifer o astudiaethau:

  • defnyddio gwybodaeth ariannol (gwerthoedd masnachol) a lluosyddion yn deillio o ddadansoddi mewnbwn ac allbwn economaidd
  • defnyddio gwybodaeth ffisegol (meintiau masnachol) ar y cyd â chyfernodau cylch bywyd sy’n nodi effaith y nwyddau masnachol hyn

Mae manteision a chyfyngiadau i’r naill a’r llall. Yn yr astudiaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer y data a gyflwynir yn adroddiad Llesiant Cymru, ac astudiaethau blaenorol yng Nghymru, dewiswyd y dull cyntaf. Y prif resymau am hynny yw bod y dull yn seiliedig ar ddata am fasnach byd-eang, cynhyrchu a defnydd ar gyfer yr economi gyfan. Mae hyn yn golygu na cheir gwallau blaendorri (mae’n cofnodi’r effeithiau ar hyd cadwyni cyflenwi cyfan). Mantais hanfodol dadansoddiadau o fewnbwn ac allbwn yw ei bod yn bosib priodoli effeithiau amgylcheddol i bron unrhyw:

  • weithgarwch defnyddio, megis defnydd rhanbarthau, gwledydd, llywodraethau, dinasoedd
  • grwpiau cymdeithasol-economaidd neu unigolion, boed hynny gartref neu dramor (mewnforion/allforion)
  • gweithgarwch cynhyrchu, megis amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, gwasanaethau ac yn y blaen
  • gweithgarwch economaidd cysylltiedig megis cadwyni cyflenwi, llifoedd masnach neu ailgylchu

Mae dadansoddi mewnbwn ac allbwn yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ôl troed ecolegol ers degawd ac mae bellach wedi ennill ei blwyf fel techneg i gyfrifo ôl troed ecolegol gwledydd, endidau is-genedlaethol, grwpiau cymdeithasol-economaidd a sefydliadau neu gwmnïau. Mae hefyd yn ddull sy’n cael ei gydnabod yn safonau’r Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang (GFN).

Ôl troed carbon

Mae’n bosib cyfrifo ôl troed carbon hefyd gan ddefnyddio’r un dull mewnbwn ac allbwn ag a ddisgrifir uchod, a defnyddir yr un dechneg er mwyn sicrhau cysondeb ac elwa ar y manteision a restrwyd. Defnyddir y dull hwn yn aml hefyd i amcangyfrif defnydd yn seiliedig ar allyriadau ar lefel genedlaethol ac mae wedi’i ddefnyddio mewn nifer o astudiaethau mewn sawl gwlad wahanol.

Mae gwybodaeth am y fethodoleg ar gael yn yr adroddiad Ôl troed ecolegol a charbon Cymru, diweddariad hyd at 2011.

Dangosydd 43: Ardal o ecosystemau iach yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu ffordd newydd o ddiweddaru ein dealltwriaeth bresennol o ddosbarthiad a maint cynefinoedd ar draws Cymru gan ddefnyddio delweddau lloeren. Bydd modd diweddaru hyn dros y blynyddoedd nesaf gan ddefnyddio methodoleg a ffynonellau data cyson.

Dylai’r amcangyfrif diweddaraf gan ddefnyddio’r fethodoleg hon gael ei ystyried fel un ‘arbrofol’ ar hyn o bryd, gan fod angen gwneud gwaith pellach i fireinio’r dull gweithredu a chaniatáu cyflwyniad manylach o’r canlyniadau yn y dyfodol. Mae’r amcangyfrif o gynefin lled-naturiol a gyflwynir yma yn cynnwys ardaloedd o dir sy’n amlwg yn gynefinoedd llednaturiol, rhai rhedyn a rhai ardaloedd, a elwir yn rai ‘lled-naturiol posib’ sydd â’r potensial i weithredu yn debycach i gynefinoedd lled-naturiol na chynefinoedd sydd wedi gweld gwelliannau amaethyddol dwys.

Ceir rhagor o fanylion ym Mriff Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaelodlin newydd ar gyfer arwynebedd cynefinoedd lled-naturiol Cymru ar gyfer Dangosydd 43.

Dangosydd 44: Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru

Comisiynwyd gwaith drwy Raglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r dangosydd cenedlaethol ar Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar gyfuno amcangyfrifon blynyddol yn un dangosydd sy’n dangos y newid mewn dosbarthiad rhywogaethau sydd â blaenoriaeth, dros amser. Datblygwyd dangosydd arbrofol yn ddiweddar fel rhan o'r gwaith hwn.

Gweler Adroddiad ERAMMP-78: Adroddiad Interim ar Ddatblygu Dangosydd-44 (Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru) i gael rhagor o wybodaeth am y fethodoleg.

Dangosydd 45: Canran y cyrff dŵr wyneb a’r cyrff dŵr daear sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan

Ansawdd dŵr

Canran y cyrff dŵr wyneb a’r cyrff dŵr daear sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae dosbarthu cyrff dŵr wyneb yng Nghymru yn ôl statws gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn un o ofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Diffinnir statws da fel dŵr sy’n dangos newid bach yn unig o’r hyn y gellid ei ddisgwyl fel arfer o dan amodau llonydd. Mae statws da ar y cyfan (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cwmpasu.

Dŵr wyneb
  • Mae corff dŵr wyneb yn ennill ‘statws dŵr wyneb da’ pan fydd ei ‘statws ecolegol’ a’i ‘statws cemegol’ o leiaf yn dda.
  • Mae ‘statws ecolegol’ yn dynodi strwythur a gweithrediad ecosystemau dŵr sy’n gysylltiedig â dŵr wyneb. Ystyrir bod ‘statws ecolegol da’ i ddyfroedd o’r fath pan fyddant yn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb.
  • Mae ‘statws cemegol da i ddŵr wyneb’ yn golygu nad yw crynodiad y cemegolion yn y corff dŵr yn fwy na’r gwerthoedd terfyn amgylcheddol a bennir yn y Gyfarwyddeb.
Dŵr daear
  • Mae corff dŵr daear yn ennill ‘statws dŵr daear da’ pan fydd ei statws meintiol a’i statws cemegol yn dda.
  • Mae ‘statws meintiol’ yn dynodi’r graddau y mae tynnu dŵr yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn effeithio y corff dŵr daear. Os yw’n cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb mae’r statws yn dda. Os yw’n cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb mae’r statws yn dda.
  • Dynodir ‘statws cemegol da’ i ddŵr daear pan fydd yn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb o ran uchafswm lefel y cemegolion sydd wedi’u diffinio.

Dangosydd 46: Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol

O 2021 bydd cwestiynau newydd ynghylch a yw pobl yng Nghymru yn ddinasyddion gweithredol byd-eang yn cael eu cynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru a byddant yn cyfrannu at ddangosydd diwygiedig yn 2022.

Mae'r cwestiynau'n gofyn a yw ymatebwyr wedi rhoi neu godi arian, wedi gwirfoddoli neu gefnogi unrhyw weithgareddau sy'n ymwneud â materion byd-eang megis hawliau dynol, ffoaduriaid neu faterion amgylcheddol byd-eang.

Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau’r arolwg ar gael yn adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dangosydd 47: Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder

Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth bellach o ansawdd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.

Dangosydd 48: Canran y siwrneiau a wneir ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth bellach o ansawdd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.

Dangosydd 49: Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau mewn perthynas â thai

Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth bellach o ansawdd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.

Dangosydd 50: Statws cynhwysiant digidol

Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi’i ychwanego i’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth bellach o ansawdd ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.