Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog: Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Yng Nghymru, mae gennym draddodiad hir o gefnogi hawliau plant. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Comisiynydd Plant. Ni hefyd oedd y wlad gyntaf i gynnwys CCUHP mewn cyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

O dan y Mesur, rhaid i Lywodraeth Cymru adrodd ar y ffordd rydym wedi cyflawni ein dyletswydd o dan adran 1. Yn ôl adran 1, mae'n rhaid inni roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'i Brotocolau Dewisol. 

Mae'r Cynllun Hawliau Plant yn nodi sut y byddwn yn cyflawni'r ddyletswydd hon. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno adroddiad bob dwy flynedd a hanner. 

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r adroddiad diweddaraf hwn ac achub ar y cyfle hwn i edrych yn ôl dros rywfaint o'r gwaith gwych a wnaed yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Ffocws holl aelodau'r Cabinet yw cyflawni newidiadau a fydd yn gwella bywydau ein plant. 

Rydym wedi ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg i blant 2 oed. Ers 2023, mae mwy na 10,000 o blant wedi elwa ar hyn, gan ragori ar y targed gwreiddiol o 9,500 o blant ychwanegol. 

Rydym wedi cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ledled Cymru, ac wedi cyrraedd y garreg filltir o weini dros 55 miliwn o brydau am ddim yn ddiweddar. Cymru yw'r unig wlad yn y DU sy'n darparu pryd iach i bob dysgwr oedran cynradd o hyd. 

Bydd ein cynllun peilot sy'n cynnig tocynnau bws am £1 i bobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed a phlant rhwng 5 a 15 oed o fis Tachwedd 2025. Gellir ei ddefnyddio at ddibenion addysg, gwaith a hamdden. Mae'r cynllun eisoes wedi bod yn llwyddiannus, ac mae dros 246,000 o deithiau wedi'u gwneud gan bobl ifanc sydd wedi manteisio ar y tocynnau rhatach. 

Gwnaethom basio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, gan olygu mai ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddileu elw o ofal maeth a gofal preswyl i blant. 

Mae ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a'n Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ar gyfer 2025-2035 yn cydnabod yr effaith y gall iechyd meddwl gwael ei chael ar blant. Byddwn yn canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, ein dull ysgol gyfan, a chymorth i grwpiau o blant agored i niwed. 

Ym mhob un o'r meysydd hyn, ac fel y gwelwch yn yr astudiaethau achos yn yr adroddiad hwn, ein nod yw sicrhau bod hawliau pob plentyn yn cael eu cydnabod, eu parchu a'u harfer. 

Rydym am greu Cymru i bob plentyn; lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol. Dyma ein huchelgais i blant Cymru. 

Dawn Bowden AS

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyflwyniad a Chefndir

Ar gyfer pwy y mae'r adroddiad hwn?

Mae'r adroddiad hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn hawliau plant a gwaith Llywodraeth Cymru. 

Gwybodaeth bwysig am yr adroddiad hwn:

  • Yn yr adroddiad hwn, ystyr plant yw unrhyw berson 0-18 oed.
  • Esbonnir unrhyw eiriau mewn print du yn y ‘rhestr termau’ ar dudalen 28.
  • Yn y fersiwn ar-lein o'r adroddiad hwn, gallwch glicio ar wybodaeth wedi'i thanlinellu mewn print glas. Byddwch yn cael eich cyfeirio at dudalen we, canllawiau neu adnoddau perthnasol.
  • Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r math o eiriau a ddefnyddir yn aml mewn ysgolion gyda phlant 11 oed a hŷn. Gwnaethom asesu pa mor hawdd yw'r ddogfen i'w deall gan ddefnyddio Golygydd Apiau Hemmingway. Sgôr o 10 yw da ac unrhyw beth llai yw gwell. Cafodd rhai adrannau sgôr mor isel ag 8. Cafodd rhannau eraill sy'n fwy technegol sgôr o 12. Sgôr gyfartalog y ddogfen hon yw 9.
  • Os hoffech ddarllen yr adroddiad hwn mewn iaith wahanol, sgroliwch i waelod y dudalen we a chliciwch ar ‘Ieithoedd Eraill.’ Cliciwch ar yr iaith rydych am ddarllen yr adroddiad hwn ynddi. 

Beth yw'r Adroddiad Cydymffurfiaeth ar Hawliau Plant? 

Yn ôl y Cynllun Hawliau Plant, rhaid i Lywodraeth Cymru lunio adroddiad i esbonio sut mae wedi rhoi sylw dyladwy i hawliau plant. Gelwir yr adroddiad hwn yn 'adroddiad cydymffurfiaeth'.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad cydymffurfiaeth ar hawliau plant bob dwy flynedd a hanner. Mae'r adroddiad cydymffurfiaeth hwn yn ymdrin â gwaith a wnaed rhwng mis Ebrill 2023 a mis Medi 2025. 

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r un strwythur egwyddorol a ddefnyddiwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru yn Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant.

Mae'r adroddiad yn cynnwys adrannau ar y canlynol:

1. Ymgorffori Hawliau Plant

2. Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu

3. Grymuso Plant

4. Cymryd Rhan

5. Atebolrwydd

Beth yw CCUHP?

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn gytundeb cyfreithiol sy'n nodi hawliau pob plentyn 0-18 oed. Mae gan bob plentyn hawliau, ni waeth beth fo lliw ei groen, ei rywedd, ei gredoau crefyddol, ei rywioldeb, ei allu, yr iaith y mae'n ei siarad neu unrhyw beth arall. 

Mae'r CCUHP yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i lywodraethau ei wneud i sicrhau bod plant yn deall eu hawliau ac yn gallu eu harfer. Mae hyn yn golygu cydweithio i sicrhau bod plant yn cael y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i dyfu, bod yn ddiogel, bod yn iach, cael eu clywed a gwireddu eu potensial yn llawn. 

Beth yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011? 

Yn 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn fel ‘y Mesur’). 

Mae adran 1(1) o'r Mesur yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru:

  • i roi sylw dyladwy i Ran 1 o CCUHP a'i rannau o'i Brotocolau Dewisol wrth wneud penderfyniadau; ac

mae adran 5 o'r Mesur yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru:

  • i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP a rhannau o'i Brotocolau Dewisol i'r cyhoedd (gan gynnwys plant a phobl ifanc).

Mae'r dyletswyddau hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried hawliau plant ym mhopeth a wnânt sy'n effeithio ar blant. Rhaid iddynt hefyd ystyried y penderfyniadau a wnânt sy'n effeithio ar bawb ac nid dim ond plant. Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd, yr economi, y Gymraeg a diwylliant Cymru, yn ogystal â'r manteision hirdymor sy'n gwella bywyd i bobl nawr ac yn y dyfodol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Beth yw'r Cynllun Hawliau Plant?

Yn ôl Adran 2(1) o'r Mesur, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud beth y bydd yn ei wneud i gyflawni ei dyletswyddau yn y Mesur. Rydym wedi gwneud hyn yng Nghynllun Hawliau Plant Llywodraeth Cymru. 

Mae'r Cynllun yn gwneud y canlynol: 

  • Cefnogi'r gwaith o lunio polisïau o ansawdd uchel i wella bywydau plant a phobl ifanc.
  • Helpu plant i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu polisïau sy'n effeithio arnynt; a
  • Helpu plant i arfer eu hawliau. 

Pwy yw'r Gangen Hawliau Plant a Phobl Ifanc?

Mae'r Gangen Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr bod y cynlluniau a nodir yn y Cynllun yn cael eu cyflawni. 

Mae hyn yn golygu:

  • Helpu pobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru i ddeall beth yw hawliau plant y gallai eu gwaith effeithio ar yr hawliau hynny.
  • Arwain ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau'r CCUHP ac Argymhellion y Sylwadau Terfynol.
  • Llunio Adroddiad Cydymffurfiaeth, fel yr un hwn.
  • Helpu'r bobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru i gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant. Mae Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn darparu tystiolaeth o'r ffordd y mae timau yn ystyried CCUHP wrth wneud penderfyniadau.
  • Gwneud yn siŵr bod cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn prosesau llunio polisi. Mae'r Gangen Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn gwneud hyn drwy ariannu Plant yng Nghymru i weithio gyda phlant.
  • Gweithio gyda grŵp o arbenigwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn llunio'r polisïau gorau posibl ac yn gwneud y penderfyniadau gorau posibl. Gelwir y grŵp hwn yn 'Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant' neu CRAG.
  • Bod yn brif bwynt cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru. 

Beth mae codi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant yn ei olygu?

Yn unol â'r Mesur ac Erthygl 42 o CCUHP, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ddweud wrth bobl am hawliau plant a'u helpu i'w deall. Mae sicrhau bod oedolion yn ymwybodol o hawliau plant yn golygu y gallant helpu plant i'w harfer. 

Gwnaethom gyhoeddi Codi Ymwybyddiaeth o Hawliau Plant er mwyn nodi sut y byddem yn dweud wrth bobl am hawliau plant. Roedd yn ymdrin â'r canlynol: 

  • Plant a phobl ifanc.
  • Y blynyddoedd cynnar.
  • Addysg.
  • Y sector cyhoeddus.
  • Rhieni a gofalwyr.

Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Ddatganiad Ysgrifenedig yn nodi sut rydym yn dweud wrth bobl am hawliau plant. Cyhoeddodd fersiwn i blant hefyd. 

Ymhlith y gwaith rydym wedi ei wneud mae'r canlynol: 

Roedd y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennym ym mis Mai 2025 yn ymwneud â Gweinidogion Cymru yn siarad â phlant. Roedd hyn yn rhan o'r Cynllun Codi Ymwybyddiaeth. Mae siarad â phlant yn helpu Gweinidogion Cymru i ddeall yr hyn sy'n bwysig iddynt. Mae'n rhoi gwybodaeth i'n galluogi i wneud ein gwaith yn well. Mae Gweinidogion yn siarad â phlant mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Uwchgynhadledd Gofal a'r COP Ieuenctid. Mae Gweinidogion hefyd yn cyfarfod ag aelodau Cymru Ifanc a phlant eraill fel rhan o'u gwaith pob dydd.

Ymgorffori Hawliau Plant

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i CCUHP wrth ddatblygu neu adolygu deddfwriaeth a pholisïau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth briodol i ofynion CCUHP, a'u cydbwyso â'r holl ffactorau eraill sy'n berthnasol i'r penderfyniad dan sylw.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd, a gydag eraill i wireddu hawliau plant. Mae hyn yn golygu defnyddio CCUHP i wneud yn siŵr bod penderfyniadau yn gwella bywydau plant. 

Dylai fod yn glir bod hawliau plant wedi cael eu hystyried pan wneir penderfyniadau. 

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori hawliau plant?

  • Nodi'n glir sut mae cynlluniau a pholisïau yn cysylltu â CCUHP.
  • Gwneud yn siŵr bod gan Weinidogion Cymru a swyddogion wybodaeth dda am hawliau plant.
  • Nodi'n glir sut mae rhoi hawliau plant wrth wraidd penderfyniadau yn gwella gwaith y Llywodraeth.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch plant yn cael hyfforddiant ar CCUHP.
  • Gwneud yn siŵr bod tîm sy'n gyfrifol am hawliau plant yn Llywodraeth Cymru.
  • Gwneud yn siŵr bod yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi a hyrwyddo hawliau plant ar gael. 

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ymgorffori hawliau plant?

  • Rhoesom ddiweddariad ar y Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Mae'r Cynllun yn esbonio'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru.
  • Gwnaethom ddatblygu fframwaith monitro'r Strategaeth Tlodi Plant. Mae'n dangos ein dull o fonitro a dangos ein cynnydd tuag at fynd i'r afael â thlodi plant.
  • Rydym yn rhoi cymorth i dimau polisi wrth iddynt lunio Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant. Rydym yn gofyn iddynt ystyried sut mae eu cynigion yn mynd i'r afael â'r argymhellion perthnasol yn Adroddiad Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig 2023.
  • Rydym yn parhau i weithio gyda'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant. Mae'n rhoi cyngor i dimau polisi ar eu Hasesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant.
  • Rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant ymhlith staff Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys dweud wrthynt am hyfforddiant ar hawliau plant a llawlyfr staff ar sut i ymgorffori hawliau plant yn eu gwaith.
  • Rydym wedi ymuno â'r Comisiynydd Plant yn ‘Cymru i Bob Plentyn’, dull cyson o rannu gwybodaeth a, hawliau plant. 

Astudiaethau Achos: Ymgorffori

Astudiaeth achos 1: Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio – ymgysylltu â phobl ifanc. 

Yn 2025, lluniodd Llywodraeth Cymru ddau gynllun mawr i helpu pobl gyda'u hiechyd meddwl, sef:

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynlluniau hyn yn deg ac yn parchu hawliau plant, gwnaethom gynnal Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gwirio'r cynlluniau yn erbyn hawliau plant pwysig fel cael eu trin yn deg (dim gwahaniaethu), mynegi eu barn (yr hawl i gael eu clywed) a chael gofal iechyd da (yr hawl i iechyd). 

Helpodd dros 400 o blant a phobl i lunio'r cynlluniau hyn. Cawsant eu cynnwys mewn nifer o ffyrdd: 

  • Gwnaethant helpu i lunio fersiynau cynnar o'r cynlluniau.
  • Gwnaethant ymuno â gweithdai llawn hwyl a chwblhau arolygon i bobl ifanc.
  • Gwnaethant ddarllen fersiynau arbennig o'r cynlluniau wedi'u hysgrifennu mewn iaith syml.
  • Helpodd oedolion y gellir ymddiried ynddynt i gynnal gweithgareddau diogel fel bod modd i bobl ifanc rannu eu meddyliau.
  • Helpodd pobl ifanc i greu cymeriadau stori i ddangos sut y gallai'r cynlluniau helpu.
  • Siaradodd Gweinidogion â Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Ar ôl i'r cynlluniau gael eu cwblhau, dywedodd y llywodraeth wrth bobl ifanc sut y cafodd eu syniadau eu defnyddio. 

Dywedodd pobl ifanc ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu trin yn deg a defnyddio geiriau caredig a pharchus. Nid oeddent am i neb deimlo ei fod yn cael ei feirniadu neu ei adael allan. Oherwydd hyn, mae'r cynlluniau bellach yn addo gwneud mannau'n ddiogel ac yn groesawgar a chynnwys pobl o bob cefndir – fel diwylliannau, rhyweddau a galluoedd gwahanol.

Gwnaethant hefyd ddweud y dylai fod yn hawdd i unigolion o bob oedran, gan gynnwys babanod, plant a phobl ifanc yn eu harddegau, gael help. Mae'r cynlluniau bellach yn nodi na ddylai fod unrhyw ddrws anghywir, sy'n golygu y dylai unrhyw un sy'n gofyn am help gael ei gefnogi, ac y dylai cymorth gael ei ddarparu'n gynnar a bod yn garedig ac yn ddeallgar. 

Roedd pobl ifanc am wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn parhau i gael eu clywed. Felly, mae'r cynlluniau'n cynnwys ffyrdd iddynt barhau i rannu syniadau yn y dyfodol. 

Sicrhaodd y llywodraeth hefyd fod lleisiau sy'n aml yn cael eu colli yn cael eu cynnwys – fel lleisiau pobl ifanc yn yr ysbyty, y rhai heb gartrefi, siaradwyr Cymraeg, a rhieni ifanc. 

Diolch i syniadau pobl ifanc, mae'r cynlluniau bellach yn decach ac yn fwy caredig. Maent yn helpu i wneud yn siŵr bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir, yn y ffordd gywir. 

Astudiaeth achos 2: Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal

Mae Gweinidogion Cymru am atal cartrefi gofal a gwasanaethau maethu rhag gwneud arian o ofalu am blant mewn gofal. Cyfeirir at hyn fel ‘dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal’. 

Gwnaethom basio'r Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn 2025. Daw'r gyfraith newydd i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae'r gyfraith hon yn golygu na fydd cartrefi plant a gwasanaethau maethu yn cael gwneud elw. 

Rydym am i'r holl arian a gaiff ei wario ar ofalu am blant yng Nghymru gael ei ddefnyddio at yr union ddiben hynny. Mae dileu elw yn golygu y gall mwy o arian fynd tuag at helpu plant. 

Rydym hefyd yn gwneud y newidiadau hyn am fod rhai plant mewn gofal wedi gofyn amdanynt. Maent yn credu ei bod yn anghywir bod busnesau yn gwneud arian o ofalu amdanynt. 

Mae'r system bresennol yn costio llawer o arian ac nid yw bob amser yn darparu'r gofal sydd ei angen ar blant, lle mae ei angen arnynt. Bydd y newid hwn yn gwneud pethau'n well i blant yn y dyfodol drwy wella'r gofal y gallwn ei roi iddynt. 

Rydym am sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar blant, felly daw rhannau gwahanol o'r gyfraith i rym ar adegau gwahanol: 

  • O 1 Ebrill 2026 – Ni fydd unrhyw gartref plant na gwasanaeth maethu newydd yn cael cofrestru os bydd am wneud elw.
  • O 1 Ebrill 2027 – Ni fydd unrhyw gartref plant na gwasanaeth maethu newydd yn cael tyfu ei fusnes.
  • O 1 Ebrill 2030 (neu'n gynt) – Ni fydd plant yn cael eu lleoli mewn cartrefu plant na gwasanaethau maethu sy'n gwneud elw mwyach. 

Rydym hefyd yn gweithio ar bethau eraill i helpu plant, gan gynnwys gwneud yn siŵr bod pawb sy'n helpu plant yn gweithio gyda'i gilydd; dod o hyd i fwy o ofalwyr maeth yng Nghymru a gwneud yn siŵr bod digon o gartrefi plant da. 

Astudiaeth achos 3: Rhaglen Dysgu Proffesiynol ar gyfer CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gyfraith sy'n helpu i gynnwys hawliau plant mewn addysg yng Nghymru. Yn ôl Adran 64, mae'n rhaid i bobl sy'n cynllunio ac yn cyflwyno'r cwricwlwm helpu eraill i ddeall hawliau plant. 

I gefnogi hyn, gwnaethom greu rhaglen Dysgu Proffesiynol. Mae'n helpu athrawon a staff eraill i ddysgu am hawliau plant. Mae hefyd yn dangos sut i gynnwys hawliau mewn gwersi a bywyd ysgol. Y nod yw helpu ysgolion i ddod yn fannau lle mae hawliau plant yn rhan o'r dysgu beunyddiol. 

Mae ymgorffori yn golygu sicrhau bod hawliau wrth wraidd y gwaith cynllunio, yr addysgu a'r penderfyniadau a wneir. Mae'r rhaglen Dysgu Proffesiynol yn annog staff i feddwl am hawliau ym mhopeth a wnânt. Mae'n rhoi syniadau o ran sut i gynnwys hawliau mewn gwersi, gwrando ar farn plant, a gwneud yn siŵr bod plant yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu parchu. 

Mae dau fodiwl dysgu eisoes ar gael ar Hwb:

  1. Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau dynol plant, sy'n esbonio beth yw CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a pham y maent yn bwysig.
  2. Hawliau dynol plant yn y cwricwlwm i Gymru, sy'n dangos sut y gall hawliau fod yn rhan o wersi, gwaith cynllunio, a diwylliant ysgol. 

Mae trydydd modiwl yn cael ei ddatblygu. Bydd yn rhannu enghreifftiau go iawn o ysgolion yng Nghymru. Bydd yr enghreifftiau hyn yn helpu staff i ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwella eu gwaith. 

Mae'r gwaith hwn yn bwysig oherwydd pan fydd oedolion yn deall hawliau plant, gallant helpu plant i ddeall eu hawliau eu hunain hefyd. Gall hyn helpu plant i deimlo'n fwy hyderus, a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys a'u bod yn gallu lleisio eu barn pan na fydd rhywbeth yn deg. Mae'r rhaglen Dysgu Proffesiynol yn helpu ysgolion i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol a sicrhau bod hawliau plant yn rhan o fywyd go iawn mewn addysg. 

Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu

Beth yw Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu?

Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei atal rhag hawlio ei hawliau oherwydd gwahaniaethu. 

Mae a wnelo cydraddoldeb â gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach, yn ddiogel a chystal ag y gall fod. 

Ystyr cydraddoldeb yw trin pob plentyn yn deg, ni waeth beth fo ei fywyd gartref, ei allu, ei hil neu ei rywedd.

Ystyr cydraddoldeb yw gwneud yn siŵr bod anghenion unigol plant yn cael eu diwallu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd ag eraill i gyflawni eu potensial. 

O dan CCUHP (Erthygl 2) mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu. Dylai oedolion ddeall y rhwystrau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau. Dylai oedolion hefyd ddeall bod plant yn aml yn dioddef gwahaniaethu oherwydd eu hoedran. Pan fydd oedolion yn cydnabod hyn, gellir cymryd camau i fynd i'r afael â'r achos o wahaniaethu. 

Dylai oedolion ddeall y gall penderfyniadau a wneir heddiw wahaniaethu yn erbyn cenedlaethau o blant yn y dyfodol.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu?

  • Nodi ffyrdd clir o hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn plant mewn polisïau a chynlluniau.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru yn meddu ar wybodaeth gyfredol am Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant rheolaidd am anghenion gwahanol grwpiau o blant.
  • Deall anghenion grwpiau penodol o blant er mwyn gwneud penderfyniadau gwell.
  • Rhoi gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy'n briodol i'w hanghenion. Er enghraifft, eu hoedran. 

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu? 

  • Rydym wedi adolygu Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf. Argymhellodd yr adolygiad y dylem barhau i ehangu'r rhaglen, er mwyn sicrhau mwy o degwch a chynhwysiant i bob plentyn. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr sydd dan anfantais, dysgwyr sy'n derbyn gofal, dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu ddysgwyr sy'n geiswyr lloches.
  • Rydym wedi llunio cynllun gweithredu sy'n nodi sut i wneud Cymru yn Genedl Noddfa. Mae'r cynllun hwn yn nodi targedau a chamau gweithredu clir. Mae'n nodi sut i wneud Cymru yn wlad lle y gall y bobl sy'n dod yma i ailddechrau ac adsefydlu arfer eu hawliau i fod yn ddiogel ac yn rhydd rhag gwahaniaethu. Gwnaethom gyhoeddi adroddiad cynnydd yn 2024 sy'n nodi ein cynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiadau yn y cynllun.
  • Rydym wedi cyhoeddi Dathlu a chyfranogi: canllawiau addysg. Mae'n helpu athrawon a gweithwyr addysg i gefnogi dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'n dangos sut i wella mynediad at addysg, meithrin talent, a helpu pob dysgwr i wireddu ei botensial yn llawn.
  • Rydym yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant babanod a phlant bach drwy fframwaith NYTH. Mae'r fframwaith hwn yn cefnogi gwasanaethau sy'n gweithio gyda phlant o bob oedran ac rydym yn cynnal digwyddiadau gydag arbenigwyr ar fabanod ac yn cefnogi hyfforddiant ar iechyd meddwl babanod.
  • Rydym yn parhau i wneud cynnydd o ran ein cynllun i sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+, ond gwyddom fod llawer mwy i'w wneud.
  • Rydym yn parhau i ehangu ein Rhaglen Dechrau'n Deg i blant 2-3 oed. Mae 10,000 wedi elwa ar hyn, gan ragori ar ein targedau. 

Astudiaethau Achos: Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu

Astudiaeth achos 4: Y Tasglu Hawliau Pobl Anabl – gweithgor plant a phobl ifanc

Yn 2021, dangosodd adroddiad o'r enw Drws ar Glo nad yw bywyd bob amser yn deg i blant ac oedolion anabl yng Nghymru. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, penderfynodd Llywodraeth Cymry a phobl anabl yng Nghymru weithio gyda'i gilydd. Yr enw ar y tîm hwn oedd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Roeddem am glywed beth fyddai'n gwneud bywyd yn well, ym marn plant ac oedolion anabl. Felly, daeth pobl o lawer o gymunedau gwahanol a phobl sy'n gweithio i'r llywodraeth ynghyd. Roedd pobl anabl yn arweinwyr yn y tîm hefyd. Gwnaethant siarad am eu bywydau a'r hyn a fyddai'n eu helpu i ddatrys y problemau a wynebir ganddynt bob dydd. Gwnaethom hefyd siarad am y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar ddileu rhwystrau yn ein cymunedau fel bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan yn llawn. 

Gwnaethom rannu'n grwpiau bach i drafod materion pwysig, fel helpu pawb i ddeall pa mor anodd yw mynd i'r ysgol, teithio o gwmpas, a chael swyddi. Gwrandawodd y grwpiau hyn ar syniadau pobl anabl am sut i wneud pethau'n decach. Arweiniodd person ifanc y grŵp i blant a phobl ifanc anabl. 

Er mwyn dysgu mwy, gwnaethom weithio gydag ysgolion a Cymru Ifanc i ofyn i blant beth fyddai'n eu helpu fwyaf. Rhannodd plant a phobl ifanc eu syniadau ynghyd â straeon a lluniau. Roedd grŵp hefyd i rieni a gofalwyr drafod yr hyn yr oedd angen i'r llywodraeth ei wneud er mwyn gwneud bywyd yn decach i blant anabl. 

Gweithiodd pawb gyda'i gilydd i greu syniadau da. Daeth y syniadau hyn yn rhan o'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft. Nod y cynllun yw gwneud yn siŵr bod gan blant ac oedolion anabl yr un hawliau â phawb arall ac y gallant fyw bywydau hapus yng Nghymru. 

Er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu ei ddeall, gwnaethom rannu'r cynllun â phobl mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys mewn fformatau hawdd eu deall, iaith arwyddion, sain, braille, ac yn Gymraeg a Saesneg. 

Rhannodd plant ac oedolion anabl eu barn am y cynllun â ni, a gwnaethant ein helpu i'w wella. 

Mae'r gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol am fod plant anabl wedi helpu i lunio'r cynllun. Mae eu syniadau a'u hawliau yn arwain y llywodraeth o ran beth i'w wneud nesaf. Yn ôl y cynllun, ni ddylai neb gael ei drin yn wahanol oherwydd pwy ydyw, y dylai pawb gael eu trin yn deg, ac na ddylai neb gael ei adael allan. 

Astudiaeth achos 5: Cynnwys gwaith ieuenctid yn y fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Mehefin 2022, yn nodi nod clir: gwneud Cymru yn wlad wirioneddol wrth-hiliol. Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig o'r cynllun ym mis Tachwedd 2024, sy'n atgyfnerthu'r ymrwymiad hwn. 

Mae'r cynllun diwygiedig yn cynnwys nod newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, a hynny yn y bennod ar Addysg a'r Gymraeg. Y nod yw hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant, ac amrywiaeth mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid a helpu gweithwyr ieuenctid i herio gwahaniaethu mewn cymdeithas. 

Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl allweddol wrth helpu pobl ifanc i ddelio â hiliaeth. Mae'r nod newydd a'i gamau gweithredu yn adlewyrchu hyn. 

Yn 2021, cyhoeddodd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru ei adroddiad terfynol: Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru: Sicrhau Model Cyflawni Cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Roedd yn nodi 14 o argymhellion, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru a'r sector gwaith ieuenctid weithio gyda'i gilydd i wella mynediad at wasanaethau gwaith ieuenctid a gwaith ieuenctid a herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol. 

Mae cynnydd da wedi'i wneud tuag at gyflawni'r nod newydd. Un enghraifft yw'r Galwad am Astudiaethau Achos, a oedd yn gofyn i sefydliadau ieuenctid ledled Cymru rannu eu gwaith. Mae'r astudiaethau achos hyn yn dangos sut y gall gwaith ieuenctid greu mannau cynhwysol i bob person ifanc, herio achosion o wahaniaethu fel hiliaeth, homoffobia, rhywiaeth ac ableddiaeth, cefnogi cydgynhyrchu a phrosiectau a arweinir gan bobl ifanc, a dangos yr effaith wirioneddol ar hyder, hunaniaeth ac agweddau pobl ifanc. 

Byddwn yn gweithio gyda DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth) i ddatblygu'r Agwedd Gwaith Ieuenctid ar DARPL. Bydd hyn yn helpu gweithwyr ieuenctid ledled Cymru i feithrin sgiliau ym maes cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth. 

Rydym hefyd yn ariannu nifer o sefydliadau i gefnogi pobl ifanc ethnig lleiafrifol a rhoi llais iddynt: 

  • Mae'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn cynnal rhaglenni ym maes addysg, swyddi, iechyd, diogelwch, a chymuned.
  • Mae Race Council Cymru yn cynnal digwyddiadau fel Black History 365 a Gwobrau Ieuenctid Hanes Pobl Ddu Cymru. 

Mae Grŵp Atebolrwydd Allanol ArWAP wedi penodi Cynghorydd Cymunedol Arbenigol. Mae gan yr unigolyn hwn brofiad o waith ieuenctid a grymuso pobl ifanc. Eu rôl yw gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru. 

Astudiaeth achos 6: Bwyta'n iach mewn ysgolion

Rydym wedi arwain y ffordd wrth ddarparu Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ledled Cymru, ac wedi cyrraedd y garreg filltir o weini dros 55 miliwn o brydau am ddim yn ddiweddar. Mae hyn yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant a phlant sy'n llwgu, yn cefnogi dysgu, ac yn gwella iechyd plant. Rydym hefyd yn darparu llaeth ysgol am ddim ac am bris gostyngol, brecwastau am ddim i ddisgyblion cynradd a phrydau ysgol am ddim i'r disgyblion uwchradd sydd eu hangen fwyaf. 

Rydym am wneud yn siŵr bod bwyd ysgol y gorau y gall fod. Er mwyn gwneud hyn, mae'r llywodraeth yn diweddaru'r rheolau a'r canllawiau yn seiliedig ar y cyngor diweddaraf ar fwyta'n iach. Rydym am helpu plant i ddatblygu arferion bwyta'n iach, gwneud dewisiadau bwyd gwell a dysgu sut i wneud penderfyniadau gwell am fwyd. 

Rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad er mwyn clywed barn pobl am y newidiadau arfaethedig. Er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan, darparodd y llywodraeth fersiwn hawdd ei deall, fersiwn i blant a phobl ifanc, a fideo mewn iaith arwyddion Prydain. 

Cymerodd bron 1,000 o blant a phobl ifanc ran. Cynhaliwyd hefyd 10 grŵp ffocws mewn ysgolion cynradd ac uwchradd gyda disgyblion o gefndiroedd gwahanol. Rhoddodd y grwpiau ffocws hyn adborth gan amrywiaeth eang o blant o rannau gwahanol o Gymru i ni. 

Rhannodd plant a phobl ifanc eu barn ar amrywiaeth o bynciau. Roedd llawer o blaid cael mwy o ffrwythau, llysiau a bwydydd â llawer o startsh fel bara a phasta. 

Roeddent yn cytuno â'r newidiadau i gig, cig coch, a physgod, a'r cyngor i leihau cigoedd wedi'u prosesu, bwydydd wedi'u ffrïo, pwdinau, a theisennau crwst. Nid oedd rai yn cytuno â'r newidiadau i ddiodydd. Roedd yn well ganddynt ddiodydd meddal a sgwosh na dŵr plaen neu ddiodydd seiliedig ar blanhigion. Dywedodd llawer y dylai maint dognau fod yn fwy gan eu bod yn aml yn teimlo'n llwglyd ar ôl prydau ysgol. 

Gweithiodd yr ymgynghoriad yn dda a rhoddodd gyfle i blant a phobl ifanc rannu eu barn. Bydd eu hadborth yn helpu i lywio'r newidiadau terfynol i'r rheolau o ran bwyd ysgol cyn iddynt ddod yn gyfraith. 

Grymuso

Beth yw Grymuso?

Dylai hawliau plant rymuso plant. Mae grymuso yn golygu gwneud yn siŵr bod plant yn cael gwybodaeth am eu hawliau a'u bod yn gwybod sut i'w hawlio. 

Mae grymuso yn newid y gydberthynas rhwng y plant fel deiliaid hawliau ac oedolion sy'n gwneud penderfyniadau. Mae grymuso yn golygu oedolion yn rhannu pŵer â phlant er mwyn gwneud penderfyniadau gyda'i gilydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod plant yn cael rheoli'r hyn sy'n digwydd yn eu bywydau yn well. 

Gall oedolion sy'n deall hawliau plant a pham y maent yn bwysig gefnogi plant i gymryd rhan yn y gwaith o lywio penderfyniadau sy'n effeithio arnynt yn well. Mae plant sy'n gwybod am eu hawliau yn fwy abl i ddwyn oedolion i gyfrif am y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch eu bywydau.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori grymuso? 

  • Rhoi gwybodaeth i bobl er mwyn gwella eu dealltwriaeth o hawliau plant.
  • Dileu rhwystrau i'r pethau sydd eu hangen ar bobl i ddeall a defnyddio hawliau plant.
  • Hyrwyddo hawl pob plentyn i gymryd rhan a chael eu clywed pan wneir penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
  • Gwneud yn siŵr bod plant yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn penderfyniadau. Er enghraifft, llunio dogfennau sy'n hawdd eu deall ac yn briodol i oedran unigolyn. Mae hyn yn golygu bod yn glir ynghylch cyfleoedd, er mwyn i blant allu dewis a ydynt am gymryd rhan.
  • Gwneud yn siŵr y gall plant graffu ar benderfyniadau a wneir amdanynt. Mae hyn yn golygu cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau i oedolion sy'n gwneud penderfyniadau a'u dwyn i gyfrif. 

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod plant yn teimlo eu bod wedi'u grymuso? 

  • Rydym wedi gwahardd fêps untro yng Nghymru. Gwyddom fod plant a phobl ifanc yn poeni am yr amgylchedd, felly gwnaethom greu arolwg ar-lein i gasglu eu barn am ein cynlluniau. Gwnaethom greu fideo byrffeithlun er mwyn rhoi ffeithiau clir a chywir i blant a phobl ifanc am y niwed y mae fêps untro yn ei wneud i iechyd a'r amgylchedd.
  • Gwnaethom ddiweddaru'r Canllawiau ar nodi pobl ifanc y mae risg y byddant yn gadael addysg neu hyfforddiant neu'n dod yn ddigartref. Maent yn pwysleisio bod angen cynnwys plant a phobl ifanc drwy ofyn am eu barn, eu hystyried, a rhoi adborth iddynt.
  • Gwnaethom ofyn i blant helpu i lunio fersiynau hawdd eu deall o Adroddiad y Cenhedloedd Unedig a'n hymateb.
  • Gwnaethom rannu ffeithlun yn dangos sut rydym yn hyrwyddo hawliau pant i blant, eu teuluoedd, a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. 

Astudiaethau Achos: Grymuso

Astudiaeth achos 7: Cydgynhyrchu animeiddiad a thaflen Cynllun Gwella'r Gyllideb Llywodraeth Cymru

Roedd Cynllun Gwella'r Gyllideb 2022 yn ddogfen fawr llawn taenlenni. Roedd yn amlinellu'r hyn yr oedd Trysorlys Cymru am ei wneud dros gyfnod o bum mlynedd i wella ein prosesau cyllidebol. Roeddem yn cydnabod nad oedd y ddogfen yn hawdd ei deall i bobl ifanc. 

Yn y gorffennol, roedd staff Llywodraeth Cymru wedi llunio fersiynau i blant o'r cynllun. Roeddem am weld newid gwirioneddol ac am i blant weithio gyda ni i lunio'r fersiwn i bobl ifanc. 

Gweithiodd Trysorlys Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc. Dechreuodd y prosiect drwy addysgu'r gwirfoddolwyr ifanc am gyllidebau. Roedd y sesiynau yn ymdrin â threthi yng Nghymru, gwariant, dadansoddi cyllidol, cynllunio seilwaith, a materion yn ymwneud â'r hinsawdd. 

Gwnaethom addasu ein patrymau gweithio er mwyn gwneud hyn yn bosibl. Gwnaethom gynnal cyfarfodydd y tu allan i oriau swyddfa fel na fyddai'r gwirfoddolwyr yn colli'r ysgol. Gwnaethom ddefnyddio swyddfeydd y llywodraeth ar benwythnosau fel bod modd i'r bobl ifanc dreulio diwrnodau llawn yn gweithio ar y prosiect. Gwnaethant ddatblygu byrddau stori ac animeiddiadau gyda'r staff dylunio. Gwnaethom hefyd ddefnyddio penwythnos preswyl a chyfuno gweithgareddau awyr agored gyda gweithdai cyllidebu. 

Roedd y tîm yn glir ynghylch un peth: bod yn rhaid i'r daflen a'r animeiddiad adlewyrchu dymuniadau'r gwirfoddolwyr ifanc. Llywiodd eu hadborth y prosiect. Pan ddangoswyd lluniau heulog o dai sengl iddynt, gwnaethant ddweud: “Nid yng Nghymru mae hynny - rydym am weld gwynt a glaw.” Gwnaethant symud cymeriadau o gwmpas ac awgrymu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i'w dosbarthu. Gwnaeth y gwirfoddolwyr dros 100 o recordiadau llais er mwyn creu animeiddiad dwyieithog. 

Creodd y gwirfoddolwyr bedwar prif gymeriad i gynrychioli themâu allweddol Cynllun Cynllunio'r Gyllideb, gan gynnwys Ceiniog ar gyfer Trethi yng Nghymru, Bagiau Arian ar gyfer Ymgysylltu a Gwariant a Chenhinen Bedr ar gyfer Dadansoddi Cyllidol ac Economaidd. 

Cyflwynodd y gwirfoddolwyr a Llywodraeth Cymru eu gwaith i Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, a Chadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd. 

Grymusodd y prosiect hwn blant drwy greu gwybodaeth hygyrch, dileu rhwystrau, i ddeall, cyfranogiad ystyrlon, atebolrwydd a pherchnogaeth wirioneddol. 

Astudiaeth achos 8: Rhoi diwedd ar gosb gorfforol – adnoddau e-ddysgu i ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant

Yng Nghymru, rydym am i bobl plentyn wybod am ei hawliau wrth dyfu i fyny. Rydym am i bob plentyn deimlo'n ddiogel, lleisio ei farn, a chael ei glywed. Un o'r ffyrdd rydym wedi gwneud hyn yw drwy newid y gyfraith i amddiffyn plant rhag cosb gorfforol

Ers 21 Mawrth 2022, mae'n anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Mae'r gyfraith yn amddiffyn plant rhag ymosodiad yn yr un ffordd ag oedolion. Mae'n cefnogi Erthygl 19 o CCUHP, sy'n nodi bod yn rhaid i blant gael eu hamddiffyn rhag pob math o drais.

Mae'r gyfraith yn glir ac yn hawdd ei deall. Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. 

Roeddem am helpu pobl sy'n gweithio gyda phlant i ddeall y gyfraith ac i siarad amdani yn hyderus. Os bydd oedolion yn gwybod am y gyfraith, gallant helpu i amddiffyn plant rhag niwed. 

Gwnaethom weithio gyda Plant yng Nghymru i greu adnodd e-ddysgu

Mae'n ymdrin â'r canlynol: 

  • Yr hyn y mae'r gyfraith yn ei olygu.
  • Rôl gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant.
  • Sut i ddeall pryderon rhieni ac ymateb iddynt.
  • Sut i esbonio'r gyfraith i blant a phobl ifanc
  • Ble i ddod o hyd i ragor o help ac adnoddau

Gwnaethom hefyd greu canllawiau ar gyfathrebu. Maent yn helpu pobl sy'n gweithio gyda phlant i siarad â nhw am y gyfraith mewn ffordd gadarnhaol ac sy'n briodol i'w hoedran. Gallent hefyd yn eu helpu i ymateb pan fydd plant yn rhannu pryderon. 

Mae'r canllawiau yn annog oedolion i roi cyfle i blant ofyn cwestiynau, gwrando ar eu barn, a'u helpu i ddeall sut mae penderfyniadau'n effeithio arnynt. 

Cafodd y gwaith hwn ei arwain gan Plant yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Gweithiodd gydag ysgolion, cynghorau, elusennau, a Chomisiynydd Plant Cymru. Siaradodd hefyd â phlant a phobl ifanc o oedrannau a chefndiroedd gwahanol. 

Gofynnodd oedolion am gael deunyddiau clir a sensitif sy'n addas ar gyfer oedrannau gwahanol. Gwnaethant awgrymu y dylid defnyddio deunydd gweledol, hyfforddiant strwythuredig, Cwestiynau Cyffredin, a llwyfannau mewn ysgolion. Roeddent hefyd am gael cynnwys a oedd yn adlewyrchu diwylliannau gwahanol. 

Roedd plant am gael adnoddau difyr a chreadigol, fel gemau, posteri, a chynnwys digidol. Roeddent yn hoffi negeseuon syml, gweithgareddau hyblyg, a chyfleoedd i roi adborth. 

Helpodd y syniadau hyn i lunio'r adnoddau, gan wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn glir, yn ddefnyddiol, ac yn grymuso pobl ifanc. 

Astudiaeth achos 9: Sgwrs Fawr Cymru Ifanc

Prosiect a gynhelir gan Cymru Ifanc ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw'r Sgwrs Fawr. Mae'n helpu pobl ifanc ledled Cymru i siarad am y pethau sy'n bwysig iddynt. Mae'n eu helpu i rannu eu barn a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau, ac yn rhoi cyfle iddynt ddweud wrth Weinidogion Cymru beth mae pobl ifanc yn ei ddweud a sut mae'n gwneud gwahaniaeth. 

Yn 2024, cynhaliodd Cymru Ifanc ddigwyddiadau mewn rhannau gwahanol o Gymru o'r enw ‘Y Sgwrs Fawr’. Cafodd y rhain eu cynnal mewn mannau fel Blaenau Gwent, Powys a Sir Benfro. Ymunodd pobl ifanc o grwpiau ieuenctid, yr Eisteddfod ac ysgolion â'r digwyddiadau. Cymerodd dros gant o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ran. Gwnaethant siarad am faterion pwysig fel iechyd meddwl a newid hinsawdd. 

Parhaodd y Sgwrs Fawr yng Ngŵyl Cymru Ifanc, lle roedd dros 150 o bobl yn bresennol. Cynhaliwyd trafodaethau grŵp, gweithdai, perfformiadau, a sgyrsiau gan arbenigwyr. Cafodd y sesiynau eu harwain gan bobl ifanc. Gwnaethant siarad am bynciau fel addysg a hyfforddiant, iechyd meddwl, LHDTC+, cyfiawnder cymdeithasol, newid hinsawdd a theimlo'n ddiogel ar-lein. 

Gwnaethant ddefnyddio'r hyn roeddent wedi'i drafod i lunio cwestiynau i Weinidogion. 

Rhannodd pobl ifanc eu cwestiynau â Gweinidogion Llywodraeth Cymru: 

  • Cyfarfu 45 o bobl ifanc â Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, mewn digwyddiad preswyl yng ngogledd Cymru ym mis Chwefror 2025. Gwnaethant siarad am gyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru, a chymorth i ofalwyr ifanc.
  • Cyfarfu 20 o bobl ifanc â Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd a Llesiant. Gwnaethant siarad am gael cymorth iechyd meddwl gwell mewn ysgolion.
  • Cymerodd 22 o bobl ifanc rhan mewn sesiwn ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Newid Hinsawdd, ac ymunodd 11 â'r sesiynau grŵp ar LHDTC+. Gwnaethant gyfarfod â Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a Phrif Chwip. Gwnaethant siarad am gostau byw a help i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Gwnaethant hefyd siarad am gymorth i bobl ifanc LHDTC+ mewn ardaloedd gwledig. 

Mae'r digwyddiadau hyn yn helpu pobl ifanc i siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion Cymru. Ym mis Mai 2025, gwnaethom lunio Datganiad Ysgrifenedig am y ffyrdd rydym yn siarad â phlant a phobl ifanc.

Cyfranogi

Beth yw Cyfranogi?

Mae gan bob plentyn yr hawl i lywio penderfyniadau sy'n effeithio arno, ei deulu a'r gymuned y mae'n byw ynddi. Mae cyfranogi yn golygu gwrando ar blant pan wneir penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. 

Dylai plant gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall pa benderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Dylai plant wybod pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sy'n effeithio arnynt a dylent gael cyfleoedd i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny. 

Dylid cynnig cyfleoedd i lywio penderfyniadau mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac aeddfedrwydd plant. Nid yw'r ffaith bod plentyn yn ifanc neu'n gymharol anaeddfed yn rheswm dros ddiystyru ei farn na rhoi llai o sylw iddo mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Dylai cyfranogi fod yn broses ddiogel, alluogol a chynhwysol. Dylai cyfranogi gefnogi sgyrsiau rhwng plant ac oedolion sy'n gweithio gyda nhw. 

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori cyfranogi? 

  • Nodi bylchau a chyfleoedd lle y gallai plant a phobl ifanc gyfranogi ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.
  • Cynnwys plant yn y gwaith o gynllunio a dylunio gwasanaethau.
  • Dileu'r rhwystrau sy'n atal plant rhag cyfranogi. Er enghraifft, gwybodaeth sy'n anodd ei deall, trafnidiaeth, iaith.
  • Rhoi cymorth ychwanegol i blant sydd ei angen.
  • Dysgu am y ffordd y mae sefydliadau eraill yn gwneud hyn yn dda.
  • Datblygu targedau clir ar gyfer gwrando ar blant y mae'n bosibl nad ydynt yn cael eu clywed bob amser.
  • Cynnwys plant wrth recriwtio staff sydd â chyfrifoldebau sy'n effeithio arnynt.
  • Rhoi adborth i blant. Mae hyn yn golygu dweud wrthynt sut mae eu barn wedi cael ei hystyried.
  • Mabwysiadu'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod plant yn teimlo eu bod yn cael eu clywed? 

  • Rydym yn cyhoeddi adnoddau ar Hwb, y wefan ar gyfer dysgu yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys taflenni arbennig ar Hawliau Plant. Mae'r taflenni yn esbonio hawliau babanod a phlant bach drwy ddefnyddio geiriau syml a lluniau fel bod pawb yn gallu eu deall.
  • Gwnaethom gyflwyno Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru. Gwnaethom yn siŵr ein bod yn casglu barn pobl ifanc cyn iddo ddechrau er mwyn inni allu llunio rheolau gwell. Gwnaethom hefyd lunio canllawiau hawdd eu deall gyda chymorth pobl ifanc, gan ddefnyddio animeiddiadau a chanllawiau ysgrifenedig. Mae pobl ifanc wedi rhannu eu syniadau am y gwerthusiad ac wedi helpu gyda chwestiynau'r arolwg a phynciau'r cyfweliadau. Lluniodd partneriaid fel Plant yng Nghymru adnoddau hefyd er mwyn helpu pobl ifanc gyda phethau fel cymorth tai a sut i reoli eu harian ar ôl y cynllun peilot.
  • Rhoesom gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i wella mannau chwarae. Mae hyn yn cynnwys ailwampio meysydd chwarae a gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn gallu eu defnyddio. Gwnaethom ofyn iddynt siarad â phlant am fannau chwarae yn eu hardaloedd.
  • Rydym yn parhau i ariannu Rhaglen Cymru Ifanc. Ers mis Ebrill 2023, mae mwy na 200 o blant wedi bod yn rhan o Cymru Ifanc. Maent wedi helpu i gynnal 40 o ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac wedi helpu i lunio cyfreithiau a pholisïau ar feysydd fel fêps untro, bwyd mewn ysgolion, teithio gan ddysgwyr, diwrnodau HMS, a llawer mwy. Maent wedi cwrdd mewn wyth digwyddiad penwythnos preswyl mewn rhannau gwahanol o Gymru fel bod plant a phobl ifanc o bob ardal yn gallu cymryd rhan yn bersonol.
  • Drwy Cymru Ifanc, rydym wedi ariannu 11 o fyrddau cynghori plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r paneli hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad bywyd o faterion penodol, fel gofalwyr ifanc, yn ogystal â'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, iechyd meddwl a llesiant, ac addysg a hyfforddiant i bobl ifanc 16-25 oed. Mae'r grwpiau hyn wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lywio'r gwaith hirdymor o lunio polisïau yn y maes hwnnw. 

Astudiaethau Achos: Cyfranogi

Astudiaeth achos 10: Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – Beth mae plant yn ei ddweud am gyfleoedd chwarae yng Nghymru 

Yn 2010, ni oedd y llywodraeth gyntaf i basio cyfraith yn amddiffyn hawl plant i chwarae. Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod plant yn gallu chwarae yn eu cymunedau. Yr enw ar y ddyletswydd hon yw'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

O dan y ddyletswydd hon, mae'n rhaid i gynghorau gynnal asesiadau llawn o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae bob tair blynedd a llunio cynlluniau gweithredu blynyddol i wella cyfleoedd chwarae. 

Ym mis Ionawr 2025, gwnaethom weithio gyda'n partneriaid i ddiweddaru canllawiau statudol Cymru – Gwlad Lle mae Cyfle i Chwarae. Mae'r fersiwn newydd yn cynnwys ffocws cryfach ar ymgynghori â phlant, gwrando ar eu barn, a gwneud yn siŵr bod yr hyn y maent yn ei ddweud yn helpu i lywio penderfyniadau. 

Mae'r canllawiau yn cyfeirio at ddau fframwaith allweddol: 

Mae'r fframweithiau hyn yn helpu cyrff cyhoeddus i roi hawliau plant wrth wraidd eu gwaith, yn seiliedig ar CCUHP.

Gwnaethom hefyd ddiweddaru'r Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac mae bellach yn cynnwys adnoddau i helpu cynghorau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc mewn ffyrdd ystyrlon. 

Cymerodd dros 8,000 o blant ran mewn arolygon ar gyfer yr Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn 2025. Mae eu hadborth yn dangos bod plant am gael mwy o amser rhydd a mwy o gyfleoedd i chwarae, eu bod am i oedolion deimlo'n llai blin ynglŷn â phlant yn chwarae a chael hwyl, a'u bod am gael mwy o ryddid i chwarae gyda ffrindiau yn yr awyr agored. 

Fodd bynnag, nododd plant anabl, lefelau is o foddhad: 

  • dywedodd 37% ohonynt mai anaml yr oeddent yn chwarae y tu allan i'w cartrefi neu nad oeddent byth yn gwneud hynny.
  • dywedodd 23% ohonynt nad ydynt yn teimlo'n ddiogel wrth chwarae neu dreulio amser gyda ffrindiau. 

Cyhoeddwyd adroddiad yn seiliedig ar ymatebion y plant, sef Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025 ym mis Hydref 2025. Bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lunio Cynlluniau Gweithredu Chwarae a Pholisi Chwarae yng Nghymru yn y dyfodol, gan wneud yn siŵr bod lleisiau plant yn arwain y ffordd. 

Astudiaeth achos 11: Uwchgynadleddau Blynyddol Plant â Phrofiad o Fod mewn Gofal 

Yn 2025, gwnaethom weithio gyda Voices From Care Cymru i drefnu pedwaredd Uwchgynhadledd Plant â Phrofiad o Fod mewn Gofal. Mae'r Uwchgynhadledd yn ddigwyddiad arbennig lle mae plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn cwrdd â Gweinidogion Cymru. 

Nid yw'r Uwchgynadleddau hyn wedi cael eu cynnal yn y DU o'r blaen. Maent yn ymwneud â sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed. P'un a yw'r plant a'r bobl ifanc mewn gofal neu wedi gadael gofal, gallant rannu eu profiadau, eu syniadau, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau. Yn y digwyddiadau hyn, y plant a'r bobl ifanc sy'n dewis beth maent am ei drafod, ac maent yn cael cyfle i ofyn y cwestiynau y maent am eu gofyn ac i ddweud yr hyn y maent am ei ddweud. Mae hyn yn helpu Gweinidogion Cymru i ddeall sut beth yw bod mewn gofal a'r hyn sy'n bwysig i blant a phobl ifanc, nid yr hyn y mae oedolion yn meddwl sy'n bwysig iddynt. Mae hyn yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwell am wasanaethau i blant. 

Ar ôl yr Uwchgynhadledd gyntaf, lluniodd y plant a'r bobl ifanc a Gweinidogion Cymru ddatganiad. Cafodd ei lofnodi am y tro cyntaf yn 2023 gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, Mark Drakeford AS. Yr hyn sy'n ei wneud yn arbennig yw'r ffaith iddo gael ei lunio ar y cyd gan bobl ifanc a Gweinidogion. Mae'n cynnwys gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac mae'n dangos pa mor bwysig yw barn plant a phobl ifanc wrth wneud newidiadau. 

Yn ystod uwchgynhadledd y llynedd, siaradodd y plant a'r bobl ifanc am nifer o feysydd gyda Gweinidogion, gan gynnwys: 

  • Darparu rhagor o wybodaeth eu lleoliadau gofal maeth fel gwybodaeth am y rhieni maeth, y cartref a'r anifeiliaid anwes.
  • Y stigma a deimlir gan bobl ifanc pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn ymweld â'r ysgol yn ystod oriau ysgol i weld pobl ifanc neu gynnal eu cyfarfodydd adolygu. 

Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, ysgrifennodd Gweinidogion at yr awdurdodau lleol i rannu'r hyn y siaradodd y pant a'r bobl ifanc amdano, a gyfrannodd hefyd at y datganiad. Yn ystod uwchgynhadledd y flwyddyn hon, cyfarfu'r plant a'r bobl ifanc â phum Gweinidog o Lywodraeth Cymru, sef: 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a Phrif Chwip.
  • Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

Astudiaeth achos 12: Rhaglen Llysgenhadon Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru y mae angen help arnynt i ddysgu. Ei nod yw gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir i wireddu eu potensial a gallu cymryd rhan lawn mewn dysgu. 

O dan y system ADY, bydd plant a phobl ifanc ag ADY fel arfer yn cael Cynllun Datblygu Unigol. Bydd hwn yn nodi pa help sydd ei angen arnynt. 

Gall fod yn fwy anodd i blant ag ADY leisio eu barn. Gwnaethom sefydlu Rhaglen Llysgenhadon Anghenion Dysgu Ychwanegol yn 2023 er mwyn galluogi plant a phobl ifanc ag ADY i ddweud wrthym am eu profiadau. Roeddem am iddynt ein helpu i weld a fyddai'r system newydd yn diwallu eu hanghenion. Roedd y rhaglen yn golygu bod modd i ddysgwyr ag ADY ddylanwadu ar benderfyniadau am eu haddysg. Gwnaethant chwarae rôl bwysig wrth ein helpu i brofi a oedd y system yn gweithio. 

Gwnaethom ofyn i Plant yng Nghymru sefydlu Grŵp Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ADY. Diben y grŵp oedd rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddweud wrthym am eu profiadau o'r system ADY, yn enwedig ar ddechrau'r system newydd. Hyd at fis Ebrill 2025, mae 36 o sesiynau gyda 33 o blant wedi cael eu cynnal. Gwnaethant ddweud wrthym am eu hysgol, amdanyn nhw eu hunain yn eu hysgol, ac am eu teimladau ynglŷn â'u dyfodol. Llywiodd eu barn ein polisi a'r gwaith o gynllunio gwasanaethau ar eu cyfer yn eu hawdurdodau lleol. 

Roedd y rhaglen yn golygu bod plant a phobl ifanc ag ADY yn cael cymorth i leisio eu barn, yn unol â'u hawliau o dan y Cod ADY. Bu hefyd yn gymorth inni ymgorffori egwyddorion hawliau plant yn y Cod ADY. Cafodd eu safbwyntiau eu cynnwys yn ein gwerthusiad o ddiwygiadau i'r system ADY a byddant yn ein helpu i wella'r system.

Atebolrwydd

Beth yw Atebolrwydd? 

Rhaid i bobl sydd â dyletswydd i helpu plant i arfer eu hawliau fod yn atebol. Mae hyn yn golygu dangos sut a pham y mae penderfyniadau sy'n effeithio ar blant wedi'u gwneud yn y ffordd honno. 

Er mwyn bod yn atebol, mae'n rhaid bod ffyrdd o gadarnhau i ba raddau y mae penderfyniadau yn cefnogi hawliau plant. Mae hyn yn cynnwys nodi ffyrdd o newid a gwella os bydd penderfyniadau'n cael effeithiau negyddol ar hawliau plant. 

Er mwyn gwneud hyn yn dda, rhaid i benderfynwyr fod yn onest a rhoi rhesymau dros eu penderfyniadau a'u gweithredoedd. 

Er mwyn arfer eu hawliau, rhaid i blant wybod bod ganddynt yr hawliau hynny. Dylai plant hefyd wybod pan na allant arfer eu hawliau, a sut i wneud cwyn neu herio penderfyniadau a gweithredoedd. 

Sut mae atebolrwydd wedi'i ymgorffori yn Llywodraeth Cymru? 

  • Rhoi gwybodaeth i blant am sut y gallant ofyn cwestiynau a herio penderfynwyr.
  • Sicrhau bod plant yn ymwybodol o'u hawliau. Mae hyn yn golygu rhoi gwybodaeth iddynt er mwyn deall cyfrifoldebau a rhwymedigaethau deiliaid dyletswydd.
  • Defnyddio Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant i ystyried sut mae penderfyniadau yn effeithio ar hawliau plant.
  • Sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau i blant.
  • Cyhoeddi diweddariadau sy'n dangos ein gwaith tuag at wireddu hawliau.
  • Rhoi adborth i blant yn rheolaidd.
  • Rhoi gwybodaeth hawdd ei deall i blant ynglŷn â sut i wneud cwynion neu ddwyn staff i gyfrif. 

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau ei bod yn atebol am ei gwaith ar hawliau plant? 

Astudiaethau Achos – Atebolrwydd

Astudiaeth achos 13: Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar – cynllun gofal a diweddariad blynyddol 

Mae'r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, a gyhoeddwyd yn 2024, yn dangos sut y gallwn helpu pob baban a phlentyn bach yng Nghymru i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae'n canolbwyntio ar chwarae, sef y ffordd y mae babanod a phlant bach yn dysgu, yn tyfu ac yn cael hwyl. 

Rydym yn llunio ffeithlun blynyddol er mwyn dangos yn glir yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud, yr hyn y byddwn yn parhau i'w wneud, a'r hyn y byddwn yn ei wneud hyd at fis Mai 2026. Gall teuluoedd, y rhai sy'n gweithio gyda phlant ac athrawon ei ddefnyddio i weld y cynnydd a wneir. 

Rydym hefyd yn cyhoeddi adnoddau ar Hwb, y wefan ar gyfer dysgu yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys taflenni arbennig ar Hawliau Plant. Mae'r taflenni yn esbonio hawliau babanod a phlant bach drwy ddefnyddio geiriau syml a lluniau fel bod pawb yn gallu eu deall.

Drwy ddweud wrth deuluoedd, gofalwyr a'r rhai sy'n gweithio gyda babanod a phlant bach am eu hawliau, gallant helpu plant i dyfu i fyny mewn amgylcheddau chwarae cyfoethog a meithringar Mae'r taflenni ar hawliau plant yn ei gwneud hi'n haws i rieni a gofalwyr esbonio i fabanod a phlant bach yr hyn y mae eu hawliau yn ei olygu. 

Mae gan y rhai sy'n gweithio gyda babanod a phlant bach bellach ganllawiau i'w helpu i wneud dysgu yn ddiogel ac yn llawn hwyl drwy chwarae. Gall ysgolion a meithrinfeydd ddefnyddio'r ffeithlun a'r adnoddau i gynllunio gweithgareddau a chefnogi babanod a phlant bach yn well. 

Mae'r gwaith hwn yn helpu i wneud hawliau plant yn haws eu deall. Mae'r taflenni a'r adnoddau yn dangos i fabanod a phlant bach a theuluoedd yr hyn y gallant ei ddisgwyl. Mae'r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn cynnwys camau a nodau clir, er mwyn i bobl sy'n gwneud penderfyniadau ac yn gweithio gyda babanod a phlant bach eu cefnogi'n well. 

Drwy rannu'r cynllun, mae mwy o bobl yn ymwybodol o'r weledigaeth ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: y dylai pob baban a phlentyn bach yng Nghymru dyfu i fyny yn rhywle diogel, chwareus, a gofalgar. Gall pawb weld sut rydym yn creu Cymru lle mae hawliau babanod a phlant bach yn cael eu parchu. 

Astudiaeth achos 14: Tocynnau bws gwell i blant a phobl ifanc 

Rydym wedi clywed gan blant a phobl ifanc fod costau trafnidiaeth yn gallu eu hatal rhag cymryd rhan mewn addysg, swyddi, hyfforddiant a gweithgareddau llawn hwyl. Gofynnodd Senedd Ieuenctid Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru i ni am ragor o help. Felly, yn gynharach y flwyddyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer tocynnau bws rhatach i blant a phobl ifanc 16-21 oed. 

Gwnaethom gyflwyno tocynnau £1 ar gyfer teithiau bws sengl a therfyn o £3 ar gyfer teithiau diderfyn mewn un diwrnod. I ymuno â'r cynllun, mae angen i bobl ifanc wneud cais am Fy Ngherdyn Teithio am ddim

Mae bron pob gweithredwr bysiau yng Nghymru wedi ymuno â'r cynllun, sy'n golygu ei fod ar gael ledled y wlad. Dechreuodd y rhaglen ym mis Medi ac mae wedi bod yn llwyddiant. Mae dros 32,000 o bobl ifanc wedi gwneud cais am Fy Ngherdyn Teithio, ac mae mwy na 246,000 o deithiau wedi cael eu gwneud. 

Ar ôl inni gyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer y cynllun, gofynnodd pobl ifanc i ni ei ymestyn i'r rhai dan 16 oed er mwyn gwneud yn siŵr bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei drin yn gyfartal ac yn gallu manteisio ar y tocynnau rhatach. Gwnaethom wrando arnynt ac ehangu'r rhaglen i gynnwys plant 5-15 oed o fis Tachwedd. Gallant bellach deithio ar fws heb fod angen cerdyn teithio arnynt na gwneud cais am ddim. 

Cynllun peilot yw hwn, a disgwylir iddo ddod i ben ar 31 Awst 2026. Rydym am weld a yw pobl ifanc yn gwneud defnydd da o'r cynllun ac yw'n effeithio ar y ffordd y maent yn teithio. Mater i'r llywodraeth nesaf fydd penderfynu a fydd y cynllun yn parhau, ond byddwn yn gwerthuso'r cynllun er mwyn deall pa mor llwyddiannus ydyw. Byddwn yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y gwerthusiad ac yn gofyn iddynt ddweud wrthym pa mor dda mae'r cynllun yn gweithio. 

Crëwyd y fenter hon yn sgil ceisiadau gan blant a phobl ifanc a'r rhai sy'n eu cynrychioli. Gwnaethom wrando a gweithredu. Rydym am annog pobl ifanc i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus dros geir, gan ei gwneud yn fwy fforddiadwy iddynt. 

Rhestr Termau

Ymosod: Pan fydd rhywun yn brifo rhywun yn fwriadol. Mae'n golygu defnyddio grym neu drais yn erbyn person arall. 

Ceiswyr Lloches: Ceisiwr lloches yw rhywun sydd wedi gadael ei wlad gartref am nad yw'n ddiogel iddo fyw yno mwyach. 

Sain: Mae hyn yn golygu rhywbeth y gallwch ei glywed. Er enghraifft stori sain yw stori rydych yn gwrando arni yn hytrach na'i darllen. 

Braille: Ffordd o ysgrifennu a darllen gan ddefnyddio dotiau wedi'u codi, fel bod pobl yn gallu darllen geiriau gyda'u bysedd. Defnyddir patrwm o ddotiau i gynrychioli pob llythyren neu rif. 

Iaith Arwyddion Prydain: Iaith sy'n defnyddio ystumiau llaw, symudiadau a mynegiannau wyneb yn lle geiriau llafar. 

Cynllun Gwella'r Gyllideb: Mae Cynllun Gwella'r Gyllideb yn nodi cynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru i wella'r modd y mae'n gwneud penderfyniadau am y ffordd y caiff arian ei wario. 

Profiad o Fod Mewn Gofal: Mae profiad o fod mewn gofal yn golygu unrhyw un sydd wedi byw yng ngofal yr awdurdod lleol neu berthynas ar unrhyw adeg yn ei fywyd, gan gynnwys mewn gofal maeth, cartrefi plant, neu gyda pherthnasau neu ffrindiau o dan drefniant ffurfiol neu anffurfiol. 

Comisiynydd Plant Cymru: Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru. Dechreuodd yn y swydd ym mis Ebrill 2022, a bydd yn Gomisiynydd Plant am saith mlynedd. Ei gwaith yw hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. 

Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant: 

  • Ymgorffori: Rhoi hawliau plant wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu: Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod cystal ag y gall fod.
  • Grymuso plant: Gwella gallu plant fel eu bod yn gallu manteisio'n well ar hawliau.
  • Cyfranogi: Gwrando ar blant a rhoi sylw ystyrlon i'w barn
  • Atebolrwydd: Dylai awdurdodau fod yn gyfrifol am benderfyniadau a chamau gweithredu sy'n effeithio ar fywydau plant

Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant: Mae'r llywodraeth yn defnyddio'r asesiadau hyn i weld sut mae penderfyniad, polisi, neu gyfraith yn effeithio ar hawliau plant. 

Y Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant: Grŵp o arbenigwyr sy'n helpu'r llywodraeth i wneud penderfyniadau da am hawliau plant, gan gynnwys rhoi cyngor ar Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant. 

Plant yng Nghymru: Sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. 

Newid Hinsawdd: Newid hinsawdd yw pan fydd tywydd y Ddaear yn dechrau newid yn sylweddol. Mae hyn yn digwydd am fod pobl yn llygru'r aer, sy'n cynhesu'r blaned. 

Canllawiau ar gyfathrebu: Maent yn rhoi cyngor neu gyfarwyddiadau i helpu oedolion i siarad â phlant mewn ffordd glir a charedig sy'n briodol i'w hoedran. 

Cydymffurfiaeth: Mae hyn yn golygu dilyn y rheolau a chyrraedd y safonau a bennwyd. Yn yr adroddiad hwn, mae cydymffurfiaeth yn golygu adrodd ar y ffordd rydym wedi rhoi sylw dyladwy i hawliau plant.

Ymgynghoriad: Pan fyddwn yn gofyn i bobl, gan gynnwys plant a phobl ifanc am eu barn am rywbeth pwysig, fel bod pawb yn gallu gwneud penderfyniadau gwell gyda'i gilydd. 

Costau byw: Mae hyn yn golygu faint o arian sydd ei angen ar bobl i dalu am bethau fel bwyd, dillad, cartrefi, a theithio. 

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021: Cyfraith sy'n gosod rheolau o ran yr hyn y mae plant yn ei ddysgu yn yr ysgol a'r ffordd y caiff eu dysgu ei gynllunio a'i wirio. 

Datganiad: Datganiad ffurfiol neu gyhoeddiad. 

Cynnwys digidol: Gwybodaeth neu adnoddau y gellir cael gafael arnynt ar gyfrifiadur, llechen, neu ffôn, fel fideos, gemau, posteri, neu wefannau. 

Sylw dyladwy: Yr ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau wrth wneud penderfyniadau.

Deiliaid Dyletswydd: Ynghyd â'r Llywodraeth, mae pawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc yn ddeiliaid dyletswydd o dan CCUHP. Mae hyn yn golygu bod gan oedolion sy'n gweithio gyda phlant gyfrifoldeb i gynnal hawliau plant.

Adnodd e-ddysgu: Adnodd neu gwrs ar-lein sydd wedi'i ddylunio i helpu pobl i ddeall pwnc. Gall gynnwys fideos, cwisiau, a gwybodaeth. 

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid: Nod y tîm hwn yw diwallu anghenion plant a phobl ifanc, teuluoedd, ac unigolion Du ac Ethnig Lleiafrifol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys herio ystrydebau negyddol am amrywiaeth ethnig a chodi ymwybyddiaeth o gymunedau amrywiol sy'n byw yng Nghymru. 

Cwestiynau Cyffredin: Rhestr o gwestiynau cyffredin am bwnc, gydag atebion syml i helpu pobl i ddeall. 

Dadansoddiad cyllidol: Y broses o archwilio'r ffordd y mae arian llywodraeth yn cael ei gasglu a'i wario, ac effaith hynny ar yr economi. 

Grwpiau Ffocws: Grwpiau bach o bobl y gofynnir iddynt rannu eu barn a'u syniadau am rywbeth, er mwyn inni allu deall beth mae gwahanol bobl yn ei feddwl a gwneud penderfyniadau gwell. 

Prydau ysgol am ddim: Prydau wedi'u hariannu gan y llywodraeth a ddarperir mewn ysgolion er mwyn gwneud yn siŵr bod bwyd iach ar gael i blant yn ystod y dydd. 

Cynllunio Seilwaith: Y broses o benderfynu beth sydd ei angen ar Gymru, gan gynnwys ffyrdd, adeiladau a thai, a sut i dalu amdanynt. 

LHDTC+: Mae LHDTC+ yn cyfeirio at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar (neu 'pobl sy'n cwestiynu' weithiau), rhyngryw, arywiol ac eraill. Mae'r "plws" yn cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill.

Gweinidogion Cymru: Gweinidogion yw Aelodau o'r Senedd sydd yn Llywodraeth Cymru. Cânt eu penodi gan Brif Weinidog Cymru ac maent yn gyfrifol am feysydd polisi penodol yn Llywodraeth Cymru. Bydd Gweinidogion yn siarad ar ran Llywodraeth Cymru yn y Senedd ac yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol: Cynllun deng mlynedd sy'n anelu at wella canlyniadau i bobl sy'n cael cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl. 

Cenedl Noddfa: Nod Cymru yw bod yn ‘Genedl Noddfa’ gyntaf y byd. Ein gweledigaeth yw sicrhau ym mha le bynnag yng Nghymru y bydd pobl sy'n ceisio lloches yn mynd, y cânt eu croesawu a'u deall, ac y caiff eu cyfraniad unigryw at fywyd cyfoethog Cymru ei ddathlu.

Y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol: Set o reolau sy'n helpu oedolion i wneud yn siŵr y gwrandewir ar blant a phobl ifanc, y cânt eu cynnwys mewn penderfyniadau, ac y cânt eu trin â pharch wrth rannu eu barn. 

Protocolau Dewisol: Mae'r rhain yn nodi gofynion ychwanegol sydd eu hangen i fynd i'r afael ag anghenion sy'n newid plant. Lluniwyd y Protocolau ar ôl i CCUHP gael ei fabwysiadu, a chânt eu defnyddio i fynd i'r afael â phryderon newydd am blant. Maent yn ‘ddewisol’ am nad ydynt yn rhwymo'r llywodraethau sydd wedi ymrwymo i CCUHP yn awtomatig. Er mwyn mabwysiadu'r protocolau, rhaid i lywodraethau ymrwymo iddynt ar wahân. 

Yn 2000, ychwanegwyd dau brotocol dewisol at CCUHP: 

  1. Mae un yn gofyn i lywodraethau sicrhau na chaiff plant dan 18 oed eu recriwtio'n orfodol i'r lluoedd arfog.
  2. Mae'r ail yn galw ar wladwriaethau i atal puteindra plant, pornograffi plant a gwerthu plant ar gyfer caethwasiaeth. Mae'r rhain bellach wedi'u cadarnhau gan fwy na 120 o wladwriaethau, gan gynnwys gwledydd y Deyrnas Unedig.
  3. Ychwanegwyd trydydd protocol dewisol yn 2011. Mae hwn yn galluogi plant yr ymyrrwyd â'u hawliau i gwyno'n uniongyrchol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.

Cosb gorfforol: Pan fydd oedolyn yn defnyddio grym corfforol i geisio disgyblu plentyn, er enghraifft drwy ei smacio, ei daro, nei ei slapio. 

Digonolrwydd cyfleoedd chwarae: Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod gan bob plentyn ddigon o amser a mannau diogel, llawn hwyl, am ddim i chwarae yn eu hardal leol. 

Dysgu Proffesiynol: Hyfforddiant a chyfleoedd dysgu i athrawon a staff ysgolion i'w helpu i wella eu hymarfer. 

Race Council Cymru: Y sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i drechu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail hil. Ystyr hil yw lliw croen person neu nodwedd gorfforol arall. 

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011: Cyfraith sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried hawliau plant ym mhob un o'u penderfyniadau ac i hyrwyddo gwybodaeth am CCUHP a dealltwriaeth ohono. 

Llwyfannau mewn ysgolion: Systemau neu adnoddau ar-lein mewn ysgolion i rannu gwybodaeth, deunyddiau dysgu, neu adnoddau â'r disgyblion a'r staff. 

Rheolau ar fwyd ysgol: Eu nod yw gwneud yn siŵr bod prydau iach a chytbwys ar gael i blant mewn ysgolion drwy osod safonau o ran pa fwydydd a diodydd y gellir eu gweini. 

Cyfiawnder Cymdeithasol: Mae hyn yn golygu bod pawb yn cael eu trin yn deg ac yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd, ni waeth pwy ydynt. Mae'n helpu i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael allan neu eu trin yn annheg oherwydd pethau fel lliw eu croen, eu rhywedd, neu o ble y maent yn dod. 

Model Cymdeithasol o Anabledd: Syniad sy'n pennu bod pobl yn anabl am fod pethau yn y byd sy'n ei gwneud hi'n anodd iddynt gymryd rhan. Er enghraifft, os mai dim ond grisiau sydd mewn adeilad ac nad oes ramp, ni all rhywun sy'n defnyddio cadair olwyn fynd i mewn. Yn ôl y Model Cymdeithasol, dylem newid pethau o'n cwmpas fel bod pawb yn gallu mynd i mewn a chymryd rhan. 

Craffu: Ystyr craffu yw archwilio'n agos. Yn yr adroddiad hwn, wrth sôn am graffu, rydym yn cyfeirio at gyfleoedd i archwilio a gofyn cwestiynau am y penderfyniadau a wnawn. Mae hyn yn golygu sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed wrth i benderfyniadau a pholisïau gael eu cynllunio, a rhoi adborth ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio cystal. 

Y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio: Strategaeth deng mlynedd i leihau cyfraddau hunanladdiad a gwella canlyniadau i bobl y mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn effeithio arnynt. 

Y Cenhedloedd Unedig: Sefydliad sy'n cynnwys bron pob un o wledydd, neu genhedloedd, y byd. Erbyn yr 21 ganrif, roedd gan y Cenhedloedd Unedig fwy na 190 o aelodau. Prif nod y Cenhedloedd Unedig yw heddwch byd-eang.

Argymhellion Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig: Bob pum mlynedd, mae'r Cenhedloedd Unedig yn archwilio i ba raddau y mae'r DU gyfan, gan gynnwys Cymru, yn cyflawni ei haddewidion o dan CCUHP. Maent yn asesu faint o gynnydd a wnaed tuag at roi'r cyfleoedd a'r mesurau diogelu sydd wedi'u hymgorffori yn CCUHP i bob plentyn. Gelwir yr awgrymiadau y maent yn eu rhoi i'r Llywodraeth yn Argymhellion Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn: Cytundeb cyfreithiol sy'n nodi hawliau pobl plentyn 0-18 oed. Mae gan bob plentyn hawliau, ni waeth beth fo lliw ei groen, ei rywedd, ei gredoau crefyddol, ei rywioldeb, ei allu, yr iaith y mae'n ei siarad neu unrhyw beth arall.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau: Mae'r Confensiwn hwn yn pennu hawliau pob person anabl. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bwriad i ymgorffori'r Confensiwn yng nghyfraith Cymru. Mae 184 o wledydd ledled y byd wedi mabwysiadu'r Confensiwn.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015: Cyfraith yng Nghymru sy'n helpu pob un ohonom i gydweithio i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Llywodraeth Cymru: Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, sy'n cydweithio i lunio polisïau a chyfreithiau sy'n gwneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo. Yr enw ar Arweinydd Llywodraeth Cymru yw Prif Weinidog Cymru. Mae'r bobl sy'n gweithio yn y Llywodraeth yn gyfrifol am wella addysg, iechyd, trafnidiaeth, cynllunio, gwasanaethau cymdeithasol, diwylliant, y Gymraeg, yr amgylchedd, a llawer mwy

Trethi Cymru: Arian a godir o drethi fel y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a gaiff ei wario yng Nghymru. 

Trysorlys Cymru: Mae'n gyfrifol am reoli arian cyhoeddus Cymru, sy'n cynnwys rheoli gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, rheoli trethi datganoledig fel y Dreth Trafodiadau Tir, a chynllunio ar gyfer y dyfodol. 

Senedd Ieuenctid Cymru: Grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Gymru a gaiff eu hethol gan eu cyfoedion i siarad am bethau sy'n bwysig i blant a phobl ifanc yng Nghymru. 

Cymru Ifanc: Menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n helpu pobl ifanc ledled Cymru i siarad am y pethau sy'n bwysig iddynt. Mae'n eu helpu i rannu eu barn, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau. Mae'n rhoi cyfle iddynt ddweud wrth Weinidogion Cymru beth mae pobl ifanc yn ei ddweud.