Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog: Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyhoeddi'r adroddiad cydymffurfiaeth hwn sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2023. 

Mae'r adroddiad hwn yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei dyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'i Brotocolau Dewisol. Nodwyd sut y byddem yn cyflawni'r ddyletswydd hon yn ein Cynllun Hawliau Plant.

Mae Llywodraeth Cymru am i bob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd a gwireddu ei botensial. Mae hawliau plant yn sail i'r uchelgais hon a dyna pam rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod hawliau plant wrth wraidd popeth a wnawn. 

Ar adeg ysgrifennu, mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chydweithwyr o weddill y DU, wedi bod yn cyflwyno adroddiad ar ein gwaith mewn perthynas â hawliau plant i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae hyn wedi rhoi cyfle inni dynnu sylw at ehangder ac amrywiaeth y gwaith sy'n cael ei wneud i wireddu hawliau i blant yng Nghymru.

Mae llawer i'w ddathlu. Bu cyflawniadau deddfwriaethol pwysig yn ystod y cyfnod adrodd, sy'n ymgorffori hawliau plant mewn ymarfer. Ar 21 Mawrth 2022, daeth adran 1 o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym. Cafodd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2021. Mae'r ddeddfwriaeth nodedig hon yn ei gwneud yn orfodol i wybodaeth a dealltwriaeth o hawliau plant gael eu hyrwyddo yn ein hysgolion ac yn sicrhau bod addysg hawliau yn un o sylfeini dysgu yng Nghymru. 

Ond mae bob amser ragor i'w wneud. Mae'r ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn anodd i lawer o bobl, yn enwedig plant. Rwyf wedi manteisio ar y cyfle yn yr adroddiad hwn i nodi rhai o'r ffyrdd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw sydd wedi cael, ac sy'n parhau i gael, effaith nas gwelwyd o'r blaen ar gynifer o blant a'u teuluoedd.

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod POB plentyn yn cael ei gydnabod a'i barchu a'i fod yn gwireddu ei botensial. Ni ddylai unrhyw blentyn syrthio drwy'r rhwyd. Dylai pob plentyn gael yr un cyfleoedd i fyw bywydau iach, hapus a diogel.

Rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig, fel eiriolwr a hyrwyddwr dros hawliau plant, i wneud popeth o fewn fy ngallu i ymgorffori hawliau plant yng ngwaith y llywodraeth.

Julie Morgan AS

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyniad a Chefndir

I bwy mae'r adroddiad hwn?

Mae'r adroddiad hwn i unrhyw un sydd â diddordeb yn hawliau plant a gwaith Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth bwysig am yr adroddiad hwn:

  • Yn yr adroddiad hwn ystyr plant yw unrhyw unigolyn 0-18 oed.
  • Esbonnir unrhyw eiriau mewn print du yn y ‘rhestr termau’ ar dudalen 32.
  • Yn y fersiwn ar-lein o'r adroddiad hwn, gallwch glicio ar wybodaeth wedi'i thanlinellu mewn print glas. Bydd hyn yn mynd â chi at adnoddau sy'n ymwneud â'r geiriau sydd wedi'u huwcholeuo.
  • Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r math o eiriau a ddefnyddir yn aml mewn ysgolion gyda phlant 11 oed a hŷn. Gwnaethom asesu pa mor hawdd yw'r ddogfen i'w deall gan ddefnyddio Golygydd Apiau Hemmingway. Sgôr o 10 yw da ac unrhyw beth llai yw gwell. Cafodd rhai adrannau sgôr mor isel â 6. Cafodd rhannau eraill sy'n fwy technegol sgôr o 9. Sgôr gyfartalog y ddogfen hon yw 8.
  • Os hoffech ddarllen yr adroddiad hwn mewn iaith wahanol, sgroliwch i waelod y dudalen we a chliciwch ar ‘Ieithoedd Eraill.’ Cliciwch ar yr iaith rydych am ddarllen yr adroddiad hwn ynddi.

Beth yw'r Adroddiad Cydymffurfiaeth ar Hawliau Plant?

Dywed y Cynllun Hawliau Plant fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ysgrifennu adroddiad er mwyn esbonio sut mae wedi rhoi sylw dyladwy i hawliau plant. Gelwir yr adroddiad hwn yn 'adroddiad cydymffurfiaeth'. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad cydymffurfiaeth ar hawliau plant bob dwy flynedd a hanner. Mae'r adroddiad cydymffurfiaeth hwn yn ymdrin â gwaith sydd wedi'i wneud rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2023.

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r un strwythur egwyddorol ag a ddefnyddiwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru yn Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant.

Mae'r adroddiad yn cynnwys adrannau ar y canlynol:

1. Ymgorffori Hawliau Plant

2. Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu

3. Grymuso Plant

4. Cyfranogi

5. Atebolrwydd

6. Y Camau Nesaf

Beth yw CCUHP?

Mae CCUHP neu Gonfensiwn y Cenhedloedd ar Hawliau'r Plentyn yn gytundeb cyfreithiol sy'n nodi hawliau pob plentyn 0-18 oed. Mae gan bob plentyn hawliau, ni waeth beth fo lliw ei groen, ei rywedd, ei gredoau crefyddol, ei rywioldeb, ei allu, yr iaith y mae'n ei siarad neu unrhyw beth arall. Mae gan bob plentyn hawliau, ni waeth beth fo'i gefndir.

Mae CCUHP yn nodi sut y dylai llywodraethau gydweithio er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn gwybod bod ganddynt hawliau a sut i'w hawlio. Mae hyn yn golygu cydweithio er mwyn sicrhau bod plant yn cael yr hanfodion sydd eu hangen arnynt i dyfu, bod yn ddiogel, bod yn iach, cael eu clywed a chyflawni eu potensial llawn.

Beth yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a sicrhau ei bod yn lle gwell i fyw a gweithio.

Yn 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn fel ‘y Mesur’).

Mae adran 1(1) o'r Mesur yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru:

  • i roi sylw dyladwy i Ran 1 o CCUHP a'i rannau o'i Brotocolau Dewisol wrth wneud penderfyniadau; ac

mae adran 5 o'r Mesur yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru:

  • i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP a rhannau o'i Brotocolau Dewisol i'r cyhoedd (gan gynnwys plant a phobl ifanc).

Mae'r dyletswyddau hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion ystyried hawliau plant ym mhob a wnânt sy'n effeithio ar blant. Rhaid iddynt hefyd ystyried y penderfyniadau a wnânt sy'n effeithio ar bawb ac nid dim ond plant. Mae hyn yn cynnwys pethau megis yr amgylchedd, yr economi neu'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Beth yw'r Cynllun Hawliau Plant?

Dywed adran 2(1) o'r Mesur fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru nodi'r ffyrdd y mae Gweinidogion yn cyflawni eu dyletswyddau yn adran 1 o'r Mesur neu'r ffordd y byddant yn gwneud hynny. Cynllun Hawliau Plant Llywodraeth Cymru, neu'r ‘Cynllun’, yw'r ddogfen sy'n nodi'r pethau y mae angen i Weinidogion a'r rhai sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru eu gwneud er mwyn ystyried CCUHP yn eu gwaith. 

Nod y cynllun yw:

  • cefnogi'r gwaith o lunio polisïau o ansawdd uchel i wella bywydau plant a phobl ifanc.
  • helpu plant i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu polisïau sy'n effeithio arnynt;
  • helpu plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau.

Cyhoeddwyd fersiwn wedi'i diweddaru o'r Cynllun Hawliau Plant ym mis Rhagfyr 2021. Wrth ddiweddaru'r Cynllun, gwnaethom wrando ar farn plant a phobl ifanc drwy wneud y canlynol:

Pwy yw'r Gangen Hawliau Plant?

Rôl y Gangen Hawliau Plant yn Llywodraeth Cymru yw gwneud yn siŵr bod y cynlluniau a nodir yn y Cynllun yn digwydd.

Mae hyn yn golygu:

  • helpu pobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru i ddeall beth yw hawliau plant a sut y gallai eu gwaith effeithio ar yr hawliau hynny.
  • arwain ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau CCUHP ac argymhellion Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig.
  • diweddaru'r Cynllun Hawliau Plant.
  • llunio Adroddiad Cydymffurfiaeth, fel hwn, er mwyn nodi sut mae Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd yn Adran 1 o'r Mesur, bob dwy flynedd a hanner.
  • helpu'r bobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru i gynnwys plant yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
  • helpu'r bobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru i gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant. Mae Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn darparu tystiolaeth o'r ffordd y mae timau yn ystyried CCUHP wrth wneud penderfyniadau. Ceir rhagor o wybodaeth am Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant ar dudalen 26.
  • gwneud yn siŵr bod cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn prosesau llunio polisi. Mae'r Gangen Hawliau Plant yn gwneud hyn drwy roi cyllid i Plant yng Nghymru weithio gyda phlant.
  • gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru sy'n gweithio gyda phlant yn gwybod am hawliau plant.
  • gweithio gyda grŵp o arbenigwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn llunio'r polisïau gorau posibl ac yn gwneud y penderfyniadau gorau posibl. Gelwir y grŵp hwn yn 'Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant' (CRAG).
  • gweithredu fel y prif gyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn swyddfa annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Ymgorffori Hawliau Plant

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae'r mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i roi sylw dyladwy i CCUHP wrth ddatblygu neu adolygu deddfwriaeth a pholisïau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion roi ystyriaeth briodol i ofynion CCUHP, gan eu cydbwyso â'r holl ffactorau eraill sy'n berthnasol i'r penderfyniad dan sylw.

Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio a gweithio gydag eraill er mwyn gwireddu hawliau plant. Mae hyn yn golygu defnyddio CCUHP i wneud yn siŵr bod penderfyniadau yn gwella bywydau plant.

Dylai fod yn glir bod hawliau plant wedi cael eu hystyried pan wneir penderfyniadau.

Sut mae hawliau plant wedi'u hymgorffori yn Llywodraeth Cymru?

  • Nodi'n glir sut mae cynlluniau a pholisïau yn cysylltu â CCUHP.
  • Gwneud yn siŵr bod Gweinidogion a swyddogion yn meddu ar wybodaeth dda am hawliau plant.
  • Nodi'n glir sut mae rhoi hawliau plant wrth wraidd penderfyniadau yn gwella gwaith y Llywodraeth.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch plant yn cael hyfforddiant ar CCUHP.
  • Gwneud yn siŵr bod tîm sy'n gyfrifol am hawliau plant yn Llywodraeth Cymru.
  • Gwneud yn siŵr bod yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi a hyrwyddo hawliau plant ar gael.

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ymgorffori hawliau plant?

  • Datblygodd ‘Cynllun Plant a Phobl Ifanc,’. Mae'r Cynllun yn esbonio'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru.
  • Rydym wedi nodi cynllun gweithredu ar sut i wneud Cymru yn Genedl Noddfa. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys targedau a chamau gweithredu clir ar gyfer sicrhau bod Cymru yn wlad lle mae pobl sy'n dod i ailddechrau ac ymsefydlu o'r newydd yn gwybod bod eu hawliau i fod yn ddiogel ac yn rhydd rhag gwahaniaethu wedi'u gwarantu.
  • Newidiodd y gyfraith a gwneud cosb gorfforol, megis smacio, yn anghyfreithlon.
  • Datblygodd hyfforddiant ar effeithiau cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc.
  • Datblygodd ganllawiau er mwyn helpu awdurdodau lleol i helpu pobl ifanc â phrofiad o ofal i gael dyfodol llwyddiannus a byw'n annibynnol.

Datblygodd gwricwlwm newydd sy'n gosod dyletswydd ar ysgolion i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

  • Mae gan bob plentyn yr hawl i amgylchedd glân ac iach. Rydym wedi nodi cynlluniau ynglŷn â sut y gallwn gydweithio ledled Cymru er mwyn creu amgylchedd glanach, gan wneud Cymru yn lle iachach i fyw.

Astudiaethau Achos: Ymgorffori

Astudiaeth Achos 1: Cynllun Plant a Phobl Ifanc – Polisi Cyffredinol i Blant

Yn 2021, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu Rhaglen Lywodraethu. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi'r pethau pwysig y byddant yn eu gwneud dros bobl sy'n byw yng Nghymru erbyn yr etholiad nesaf yn 2026. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiadau i blant. Dengys y Cynllun Plant a Phobl Ifanc, a lansiwyd ar 1 Mawrth 2022, yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wireddu'r ymrwymiadau hyn i blant.

Rhannodd 173 o blant a phobl ifanc ledled Cymru eu barn ar y Cynllun drafft ym mis Ionawr 2022. Hefyd, cyfarfu pum person ifanc a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad â'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Chwefror 2022 er mwyn trafod eu barn ar flaenoriaethau'r Cynllun.

Mae'r cynllun yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod plant a phobl ifanc:

  • yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
  • yn cael eu trin yn deg.
  • yn cael cymorth drwy addysg a hyfforddiant a thu hwnt.
  • yn cael eu cefnogi i deimlo'n gryf yn feddyliol ac yn emosiynol.
  • yn cael eu cefnogi i gael cyfle teg mewn bywyd.
  • yn byw mewn cartref da a diogel.
  • yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i aros gyda'u teulu neu ailymuno ag ef, lle y bo'n bosibl.

Cyflwynir adroddiad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y Cynllun Plant a Phobl Ifanc bob blwyddyn. Caiff y diweddariad blynyddol cyntaf ar y Cynllun ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023. Caiff gwaith ei wneud i gynnwys plant yn y broses hon.

Mae'r Cynllun yn bwysig am fod Gweinidogion Cymru am gael y gorau i blant yng Nghymru, ni waeth beth fo'u cefndir, o ble y maent yn dod, nac ym mhle y maent yn byw. Mae hyn golygu sicrhau bod Cymru yn wlad hapus, iach a diogel i dyfu i fyny, byw a gweithio, nawr ac yn y dyfodol. Gwlad lle mae plant yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt ac yn eu gwerthfawrogi. 

Dangosodd y Cynllun Plant a Phobl Ifanc sut mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar blant a'u hawliau. Mae'r cynllun yn cynnwys polisïau am addysg, diogelu a sut mae Llywodraeth Cymru yn gwrando ar blant. Mae hyn yn golygu un weledigaeth glir ar gyfer yr hyn y bydd y penderfynwyr lefel uchaf yn Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod hawliau plant yn cael eu cydnabod a'u parchu. 

Astudiaeth Achos 2: Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 – Dyletswydd i Ddeall Hawliau

Mae hawliau dynol yn thema drawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru. Yn 2021, pasiodd y Senedd Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

Mae adran 64 yn gosod dyletswydd ar ysgolion, lleoliadau a darparwyr Addysg Heblaw yn yr Ysgol gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion i wneud y canlynol:

1) hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP.

2) hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

i bobl sy'n addysgu ac yn darparu cyfleoedd dysgu yn eu lleoliadau.

Gall y Cwricwlwm i Gymru fod yn fan cychwyn i wireddu hawliau dynol mewn bywyd pob dydd. Pan fydd oedolion sy'n darparu cyfleoedd dysgu i blant yn gwybod am hawliau plant ac yn eu deall, maent yn gallu addysgu amdanynt yn well. Mae hyn yn golygu bod plant yn gallu gwybod beth yw eu hawliau a sut i'w hawlio yn well. Gall oedolion sy'n deall hawliau plant yn well wneud yn siŵr bod profiadau plant o hawliau yn yr ysgol yn well hefyd. Er enghraifft, mewn cymorth bugeiliol neu deimlo bod pobl yn gwrando arnynt ac yn eu gwerthfawrogi fel dysgwyr.

Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu

Beth yw Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu?

Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei atal rhag hawlio ei hawliau oherwydd gwahaniaethu. Mae a wnelo cydraddoldeb â gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach, yn ddiogel a chystal ag y gall fod.

Ystyr cydraddoldeb yw trin pob plentyn yn deg, ni waeth beth fo ei fywyd gartref, ei allu, ei hil neu ei rywedd.

Ystyr cydraddoldeb yw gwneud yn siŵr bod anghenion unigol plant yn cael eu diwallu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd ag eraill i gyflawni eu potensial.

O dan CCUHP (Erthygl 2) mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu. Dylai oedolion ddeall y rhwystrau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau. Dylai oedolion hefyd ddeall bod plant yn aml yn dioddef gwahaniaethu oherwydd eu hoedran. Pan fydd oedolion yn cydnabod hyn, gellir cymryd camau i fynd i'r afael â'r achos o wahaniaethu.

Dylai oedolion ddeall y gall penderfyniadau a wneir heddiw wahaniaethu yn erbyn cenedlaethau o blant yn y dyfodol.

Sut mae cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu wedi'u hymgorffori yn Llywodraeth Cymru?

  • Nodi ffyrdd clir o hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn plant mewn polisïau a chynlluniau.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru yn meddu ar wybodaeth gyfredol am Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant rheolaidd am anghenion gwahanol grwpiau o blant.
  • Deall anghenion grwpiau penodol o blant er mwyn gwneud penderfyniadau gwell.
  • Rhoi gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy'n briodol i'w hanghenion. Er enghraifft, eu hoedran.

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu?

  • Datblygodd ganllawiau fel bod yn rhaid i oedolion sy'n gweithio gyda phlant wrando ar blant nad ydynt yn cael yr un cyfleoedd i gael eu clywed:
  • Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru ar gyfer 2021.
  • Polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion 2022.
  • Datblygodd gynlluniau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn mynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol o blant. Mae hyn yn cynnwys:
  • gwaith gyda grwpiau o blant sydd wedi wynebu tlodi er mwyn datblygu fersiwn ddrafft newydd o'r Strategaeth Tlodi Plant i ymgynghori arni.
  • datblygodd Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022.
  • cynllun i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.
  • ariannodd Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, sydd ar agor ddydd a nos, er mwyn helpu dioddefwyr troseddau casineb. Mae hyn yn cynnwys cymorth penodol i blant a phobl ifanc.
  • cynhaliodd gynllun peilot lle roedd Bwndeli Babi yn cael eu rhoi i deuluoedd â babanod newydd. Mae'r bwndeli hyn yn cynnwys gwybodaeth am hawliau i gefnogi rhieni newydd.
  • sefydlu canolfannau Gofal Plant i blant gweithwyr allweddol a phlant a oedd yn agored i niwed yn ystod pandemig COVID-19.
  • neilltuo £225m er mwyn sicrhau prydau ysgol am ddim i blant ledled Cymru erbyn 2024.
  • sicrhau bod hawliau plant wrth wraidd ein systemau a'n dulliau o gefnogi iechyd meddwl a llesiant (NYTH).
  • ehangodd raglen Dechrau'n Deg er mwyn cyrraedd tua 2,500 o blant ychwanegol 0-4 oed ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae gennym gynlluniau i ymestyn hyn yn 2023-24.

Astudiaethau Achos: Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu

Astudiaeth Achos 3: Triniaeth iechyd meddwl i Blant a Phobl Ifanc - Cydgynhyrchu Fframwaith NYTH

Mae'r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol yn grŵp o bobl ifanc sydd yn aml â phrofiad bywyd o iechyd meddwl a llesiant. Mae'r grŵp yn gweithio i wneud y canlynol:

  • mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl a rennir gan bobl ifanc.
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ledled Cymru er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae'r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol wedi cydgynhyrchu fframwaith er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant a phobl ifanc. Gelwir y fframwaith hwn yn NYTH.

Mae NYTH yn adnodd cynllunio i helpu pobl sy'n gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc i ddatblygu dull system gyfan o gefnogi iechyd meddwl a llesiant. Mae hyn yn golygu sefydliadau yn cydweithio i gynnig y cymorth cywir ar adeg gywir yn y ffordd gywir i fabanod, plant a phobl ifanc.

Mae cydgynhyrchu yn rhan bwysig o fframwaith NYTH. Bydd angen i unrhyw un sy'n defnyddio NYTH ystyried sut mae pobl, gan gynnwys plant, yn cael eu cynnwys yn y gwaith o greu gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant. Mae hyn yn golygu cydweithio â phobl sy'n defnyddio gwasanaeth mewn partneriaeth gyfartal gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i helpu i'w gynllunio.

Ym mis Hydref 2022, symudodd NYTH i Lywodraeth Cymru ac mae bellach yn cael ei roi ar waith. Mae gan bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y canlynol:

  • unigolyn sy'n arwain NYTH
  • cynllun ar gyfer y ffordd y caiff NYTH ei gyflwyno'n lleol
  • grŵp rhanddeiliaid ieuenctid, sef grŵp o bobl ifanc y bydd y Bwrdd yn gweithio gyda nhw er mwyn gwneud yn siŵr y gwrandewir ar leisiau plant.

Bydd set o enghreifftiau arfer da o NYTH ‘ar waith’ ar gael yn fuan.

Fel rhan o waith NYTH gyda'r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol, mae pobl ifanc wedi llunio cerddi, straeon a gwaith celf sy'n adrodd eu hanes o iechyd meddwl a llesiant. Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys datblygu adnoddau hyfforddi a hunanasesu ar gyfer NYTH. Caiff yr adnoddau hyn eu cydgynhyrchu â phobl ifanc ac maent yn cynnwys y gwaith creadigol y maent wedi'i greu.

Astudiaeth Achos 4: Datblygu Strategaeth Tlodi Plant newydd

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi strategaeth tlodi plant a'i hadolygu'n rheolaidd.

Dylid datblygu'r strategaeth ddrafft gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i wrando ar leisiau pobl y bydd ein strategaeth yn effeithio arnynt.

Ym mis Mawrth 2023, ariannodd sefydliadau i ofyn i blant a phobl ifanc beth sy'n bwysig iddynt a beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt. Roedd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • siaradodd Plant yng Nghymru ac Achub y Plant â 76 o blant a phobl ifanc.
  • ymgysylltodd Voices from Care â 26 o bobl ifanc â phrofiad o ofal.
  • siaradodd Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru â 54 o blant a phobl ifanc Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ac ymgysylltodd Women Connect First â 14 o bobl ifanc Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
  • cynhaliodd 15 o sefydliadau a grwpiau cymunedol sesiynau drwy gynllun grantiau bach a oedd wedi'i dargedu at y rhai â nodweddion gwarchodedig. cymerodd 1070 o blant a phobl ifanc, gan gynnwys plant, plant a phobl anabl a niwrowahanol, pobl ifanc LHDTC+, pobl ifanc a oedd yn cael cymorth oherwydd digartrefedd a rhieni ifanc ran yn y sesiynau.
  • arweiniodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gynllun grantiau bach ar ein rhan, a oedd yn agored i bob Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol yng Nghymru. Drwy'r sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd drwy'r cynllun hwn cafodd 162 o blant a phobl ifanc eu cynnwys.

Hefyd, cynhaliodd sefydliadau a grwpiau cymunedol ledled Cymru sesiynau gyda phlant a phobl ifanc roeddent yn eu hadnabod neu roeddent yn gweithio gyda nhw eisoes. Cafodd y sesiynau hyn eu cyflwyno mewn nifer o ffyrdd gwahanol, fel rhan o sesiynau gweithgareddau chwarae neu weithgareddau i deuluoedd, ac mewn digwyddiadau. Drwy'r dull cymysg hwn roedd 1,402 o blant a phobl ifanc yn gallu dweud wrthym beth sy'n bwysig iddynt a llywio ein penderfyniad ynghylch beth i'w gynnwys yn ein strategaeth.

Roedd llawer o'r problemau y soniodd oedolion wrthym amdanynt yn debyg i'r pethau y dywedodd phlant a phobl ifanc eu bod yn bwysig iddyn nhw. Fodd bynnag, roedd rhai pethau y soniodd plant a phobl ifanc wrthym amdanynt mewn perthynas â'u profiadau na fyddent, o bosibl, yn cael eu deall yn llawn gan oedolion. Mae'r strategaeth ddrafft yn cynnwys yr hyn a glywsom gan blant a phobl ifanc â phrofiad o dlodi ac yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r materion y maent wedi dweud wrthym eu bod yn bwysig iddyn nhw a'u teuluoedd a sut y bydd yn ymateb iddynt.

Byddwn yn parhau i ymgynghori ar Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru yn ystod haf 2023. Rydym yn anelu at gyhoeddi strategaeth derfynol erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023.

Astudiaeth Achos 5: Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Yn 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ei ‘Chod Ymarfer’ ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae gan bobl ag ADY anhawster neu anabledd dysgu sy'n gofyn am gymorth dysgu penodol sy'n wahanol i'r cymorth a roddir i bobl eraill o'r un oedran â nhw.

Mae'r Cod yn nodi'r rheolau a'r ffyrdd o weithio i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at 25 oed sydd ag ADY. Mae'r rheolau hyn yn gymwys i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Dywed y Cod (tudalen 36 o'r Cod yn benodol) fod yn rhaid gwrando ar blant ag ADY a'r rhieni, y teuluoedd a'r oedolion eraill sy'n eu cefnogi a'u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Mae hyn yn golygu:

  • gwrando ar farn, dymuniadau a theimladau plant, pobl ifanc a'u rhieni.
  • deall pwysigrwydd cynnwys plant, pobl ifanc a rhieni cymaint â phosibl mewn penderfyniadau
  • darparu gwybodaeth a chymorth i'r plant, y bobl ifanc a'r rhieni er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

Bydd helpu plant, eu rhieni a'u teuluoedd i gyfranogi'n ystyrlon yn eu helpu i deimlo'n hyderus bod eraill yn gwrando ar eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau ac yn eu gwerthfawrogi, hyd yn oed os byddant yn ei chael hi'n anodd eu cyfleu. Drwy gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, dylai plant ag ADY a'u rhieni fod yn fwy ymwybodol o'u hawliau a'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt, a fydd yn eu helpu i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu dysgu. Mae anghenion plant yn fwy tebygol o gael eu deall ac mae'r cymorth a gânt yn fwy tebygol o weithio iddynt. Mae hyn yn golygu y gall plant gyflawni eu potensial a chael pob cyfle i ddatblygu i fod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain.

Astudiaeth Achos 6 – Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae rhai pobl yng Nghymru yn wynebu hiliaeth. Weithiau mae yn yr ysgol neu yn y gwaith neu pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau neu'n defnyddio gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal a'u parchu. Rydym am wneud mwy. Rydym am sicrhau bod Cymru yn wlad lle mae pawb yn ddiogel ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i baratoi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol newydd. Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar 7 Mehefin 2022. Ei weledigaeth yw creu “Cymru sy'n Wrth-hiliaeth erbyn 2030'.

Nod y Cynllun yw newid bywydau pobl drwy fynd i'r afael â hiliaeth. Mae hyn wedi cynnwys, ac mae'n parhau i gynnwys, gweithio gyda phlant sydd wedi wynebu hiliaeth.

Mae hyn yn cynnwys:

  • grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
  • Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr
  • Cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig a chymunedau ffydd eraill
  • Ffoaduriaid neu geiswyr lloches.

Cyn i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gael ei lunio, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru i gynnal cyfres o 'sesiynau gweledigaeth' gyda phlant a phobl ifanc. Roedd y sesiynau hyn wedi galluogi plant a phobl ifanc â phrofiad o hiliaeth i rannu eu safbwyntiau. Gwnaeth y safbwyntiau hyn helpu i lywio gweledigaeth, cenhadaeth a diben Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Yn 2020-21, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun. Roedd yr ymgynghoriad ar gael mewn fformat hawdd ei ddeall, ynghyd â fideo i blant a phobl ifanc.

Ariannodd Llywodraeth Cymru grwpiau cymunedol a sefydliadau hil i gynnal sesiynau ymgysylltu ledled Cymru. Cymerodd bron 2000 o bobl o bob ystod oedran ran yn y sesiynau. Ymhlith enghreifftiau o'r ffordd y cafodd plant a phobl ifanc eu cynnwys mae'r canlynol:

  • Casglodd Tros Gynnal Plant (TGP) farn pobl drwy gyfweliadau a sgyrsiau unigol. Fe'u cynhaliwyd gan staff prosiect yn benodol gyda phobl ifanc gan ddefnyddio gwahanol blatfformau ar-lein.
  • gan ddefnyddio arolwg a ddatblygwyd gan Race Council Cymru, ymgysylltodd Fforwm Cenedlaethol Ieuenctid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol â phobl ifanc drwy arolwg ar-lein, dros y ffôn neu drwy grwpiau ffocws ar-lein. Siaradodd y Fforwm Ieuenctid â 65 o gyfranogwyr ledled Cymru. Cofnodwyd 21 o grwpiau ethnig wrth fynd ati i feithrin dealltwriaeth o brofiadau pobl a chymunedau.
  • Ymgysylltodd Diverse Cymru ag oedolion a phobl ifanc Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn ystyried eu hunain yn Ddu.
  • Ymgysylltodd Horn Development Association â 256 o deuluoedd sy'n nodi eu bod yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n byw ledled Caerdydd.

Gellir darllen adroddiad yr ymgynghoriad llawn yma.

Mae gan bob plentyn hawliau, ni waeth beth fo'i gefndir. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n ffoaduriaid sydd â'r un hawliau â phlant a aned yng Nghymru. Nod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yw cryfhau hawliau plant, gan wneud yn siŵr y gall y plant y mae hiliaeth yn effeithio arnynt fod yn rhydd rhag gwahaniaethu, tyfu i fyny i fyw bywydau iach a diogel a chael eu clywed mewn materion sy'n effeithio arnynt.

Yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae camau gweithredu penodol y bwriedir iddynt ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc yn cynnwys:

Delio â phrofiadau o hiliaeth

  • Rydym yn disgwyl i ysgolion hyrwyddo cydraddoldeb hil yn eu lleoliadau a herio digwyddiadau hiliol a senoffobig.
  • Rhaid i ysgolion yng Nghymru gofnodi pob digwyddiad hiliol ac ymateb iddo. Pan fydd digwyddiadau, mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch sut maent yn herio hiliaeth.

Addysgu am hiliaeth

  • Mae addysgu hanes a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol bellach yn orfodol yn y cwricwlwm i ysgolion. Mae llawer o ysgolion ledled Cymru yn cynnwys hanes cymunedau Du ac ethnig leiafrifol fel rhan o'u cwricwlwm.
  • Rydym yn disgwyl i bob ysgol addysgu amrywiaeth a chreu diwylliant gwrth-hiliol.

Grymuso

Beth yw Grymuso?

Dylai hawliau plant rymuso plant. Mae grymuso yn golygu gwneud yn siŵr bod plant yn cael gwybodaeth am eu hawliau a'u bod yn gwybod sut i'w hawlio.

Mae grymuso yn newid y gydberthynas rhwng y plant fel deiliaid hawliau ac oedolion sy'n gwneud penderfyniadau. Mae grymuso yn golygu oedolion yn rhannu pŵer â phlant er mwyn gwneud penderfyniadau gyda'i gilydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod plant yn cael rheoli'r hyn sy'n digwydd yn eu bywydau yn well.

Mae oedolion sy'n deall hawliau plant a pham maent yn bwysig mewn gwell sefyllfa i helpu plant i fod yn rhan o lywio penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae plant sy'n gwybod am eu hawliau yn fwy abl i ddwyn oedolion i gyfrif am y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch eu bywydau.

Sut mae grymuso wedi'i ymgorffori yn Llywodraeth Cymru?

  • Rhoi gwybodaeth i bobl er mwyn gwella eu dealltwriaeth o hawliau plant.
  • Dileu rhwystrau i'r pethau sydd eu hangen ar bobl i ddeall a defnyddio hawliau plant.
  • Hyrwyddo hawl pob plentyn i gymryd rhan a chael eu clywed pan wneir penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
  • Gwneud yn siŵr bod plant yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn penderfyniadau. Er enghraifft, llunio dogfennau sy'n hawdd i'w deall ac yn briodol i oedran unigolyn. Mae hyn yn golygu bod yn glir ynghylch cyfleoedd, er mwyn i blant allu dewis a ydynt am gymryd rhan.
  • Gwneud yn siŵr y gall plant graffu ar benderfyniadau a wneir amdanynt. Mae hyn yn golygu cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau i oedolion sy'n gwneud penderfyniadau a'u dwyn i gyfrif.

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn teimlo eu bod wedi'u grymuso?

Llunio fersiynau sy'n briodol i blant o gynlluniau allweddol sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc. Mae enghreifftiau yn cynnwys: 

Astudiaethau Achos: Grymuso

Astudiaeth Achos 7: Cynllun Codi Ymwybyddiaeth o Hawliau Plant

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Codi Ymwybyddiaeth o Hawliau Plant gyntaf ym mis Tachwedd 2021. Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Nod y Cynllun yw codi ymwybyddiaeth o CCUHP i blant, teuluoedd a'r bobl sy'n gweithio gyda nhw. Drwy'r Cynllun mae Llywodraeth Cymru am rymuso ‘... pob plentyn a pherson ifanc i arfer eu hawliau fel dinasyddion Cymru a’r byd.’

Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o hawliau plant mewn pum maes, sef:

  1. Plant a Phobl Ifanc

Cynnig cyfleoedd ystyrlon i blant a phobl ifanc sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed ledled Cymru.

  1. Y Blynyddoedd Cynnar

Codi ymwybyddiaeth o hawliau plant ymhlith pobl sy'n gweithio yn sector blynyddoedd cynnar.

  1. Addysg

Codi ymwybyddiaeth ymhlith penaethiaid ac arweinwyr addysg o CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

  1. Y Sector Cyhoeddus

Darparu cymorth i sefydliadau ac arweinwyr yn y sector cyhoeddus ymgorffori dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn eu gwaith.

  1. Rhieni a Gofalwyr

Helpu rhieni a gofalwyr i ddeall pwysigrwydd gwrando ar blant mewn materion sy'n effeithio arnynt.

Mae cynnydd allweddol sydd wedi'i wneud hyd yma yn cynnwys y canlynol:

  • Rydym wedi adolygu sut y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Gan weithio gyda Plant yng Nghymru, rydym wedi newid y ffordd y mae Cymru Ifanc yn gweithio ac wedi cefnogi model sy'n ystyrlon ac yn gynhwysol er mwyn sicrhau y gwrandewir ar blant. (Ceir rhagor o fanylion am hyn ar dudalen 27).
  • Rydym wedi cynnwys cwestiynau am hawliau plant yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Mae hyn yn ein helpu i fonitro a yw'r gwaith yn y cynllun yn gwneud gwahaniaeth. Gwnaethom ofyn y cwestiynau canlynol i ychydig o dan 115,000 o blant 11-16 oed:
  1. Ydych chi wedi clywed am CCUHP?
  • Nododd 7% o'r plant nad oes gan blant yng Nghymru hawliau.
  • Nododd 50% o'r plant eu bod yn gwybod rhywfaint neu gryn dipyn am hawliau plant. Roedd ymatebion yn cynnwys, ‘mae gennyn ni hawliau a gallwn restru rhai.’
  • Roedd (40%) yn gwybod 'cryn dipyn am eu hawliau' a CCHUP. ‘
  • Nododd cyfran gyfartal o blant (y ddau yn 50%) fod ganddynt rywfaint o wybodaeth neu gryn dipyn o wybodaeth.
  1. Faint rydych yn ei wybod am CCUHP?
  • Er i 36% o'r bobl ifanc nodi eu bod wedi clywed am CCUHP, nid oedd y rhan fwyaf o bobl ifanc (45%) wedi clywed amdano neu nid oeddent yn siŵr (19%).
  • Nododd cyfran is o ferched (35%) eu bod wedi clywed am CCUHP o gymharu â bechgyn (37%) a phobl a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch (38%).
  • Rydym wedi datblygu fforwm cenedlaethol i rieni/gofalwyr, sef grŵp a sefydlwyd i wrando ar leisiau rhieni a gofalwyr yn y penderfyniadau a wnawn sy'n effeithio ar blant a theuluoedd yng Nghymru.
  • Rydym wedi sefydlu rhwydwaith sydd â'r nod o ddeall anghenion plant bach iawn o ran hawliau plant. Gelwir y rhwydwaith hwn yn Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar.
  • Rydym wedi gweithio gydag arweinwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn deall pa hyfforddiant sydd ei angen ar bobl i wybod am hawliau plant. Yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi'i ddweud, rydym wedi gwneud newidiadau:
  • Rydym wedi newid hyfforddiant ar hawliau plant fel ei fod yn seiliedig ar oedran plant e.e., hawliau plant yn y blynyddoedd cynnar; hawliau plant i blant; deall hawliau plant i blant yn eu harddegau a phobl ifanc.
  • Rydym wedi ariannu gweminarau sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â hawliau plant megis tlodi, yr argyfwng costau byw ac iechyd meddwl.
  • Rydym wedi helpu pobl sy'n gweithio ym maes addysg i ddatblygu modiwlau hyfforddiant ar hawliau plant. Mae'r sesiynau hyn ar-lein yn helpu ysgolion i ddeall hawliau plant (gan gynnwys hawliau plant anabl) a'u hyrwyddo i ddysgwyr.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei Chynllun Codi Ymwybyddiaeth erbyn diwedd 2023, gyda chynllun diwygiedig yn cael ei gyhoeddi yn 2024 os bydd ei angen.

Astudiaeth Achos 8: Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

Mae Cymru wedi ymuno â mwy na 60 o wledydd ledled y byd sy'n gweithio tuag at roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Ystyr cosb gorfforol yw trais lle mae rhywun arall yn achosi anaf neu niwed i'ch corff.

Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Gydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020 a daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn golygu bod gan blant yr un amddiffyniad cyfreithiol ag sydd gan oedolion rhag ymosodiad. 

Mae'r polisi hwn yn seiliedig ar CCUHP. Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn rhag pob math o drais Mae cadw plant yn ddiogel drwy ddiddymu amddiffyniad cosb resymol yn cefnogi Erthygl 19 o CCUHP. 

Yn 2021-22, cafwyd 3,245 o gysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol lle roedd cosb gorfforol yn ffactor. Mewn 1,635 o'r rhain, cosb gorfforol oedd yr unig ffactor.

Mae rhaglenni rhianta cadarnhaol megis 'Magu Plant. Rhowch Amser Iddo' yn rhan allweddol o'r gwaith o fynd i'r afael â chosbi plant yn gorfforol. Mae ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth wedi hyrwyddo rhaglen 'Magu Plant. Rhowch Amser Iddo' ochr yn ochr â gwybodaeth am 'Stopio Cosbi Plant yn Gorfforol'. Y nod yw hyrwyddo rhianta cadarnhaol fel dewis amgen yn lle cosb gorfforol. 

Roedd ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth yn cynnwys hysbysebion ar y teledu a'r radio a hysbysebion digidol.

Rhoddodd ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar giplun ar safbwyntiau o ddechrau 2022, cyn i'r gyfraith ddod i rym. Nododd yr adroddiad y canlynol:

  • roedd 71% o rieni/gofalwyr plant 7 oed ac iau yn anghytuno bod angen smacio plentyn weithiau o gymharu â 63% yn 2018.
  • Ers 2018, roedd ymwybyddiaeth o'r gyfraith a chefnogaeth iddi wedi cynyddu. Nododd 59% o'r ymatebwyr eu bod o blaid y newid yn y gyfraith, o gymharu â 38% yn 2018.

Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod:

  • cysylltu negeseuon ynglŷn â stopio cosbi'n gorfforol a rhianta cadarnhaol yn gweithio
  • ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o fanteision newid y gyfraith wedi bod yn llwyddiannus.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i godi ymwybyddiaeth ymhlith plant. Mae'n bwysig bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn ffordd briodol a diogel. Mae hyn yn golygu cynhyrchu gwybodaeth o ansawdd da sy'n diogelu eu llesiant.

Rydym yn gweithio gyda Plant yng Nghymru i rannu gwybodaeth mewn ysgolion a mentrau presennol. Mae hyn yn golygu y gall trafodaethau gael eu cynnal rhwng plant ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt, mewn lleoliadau priodol.

Astudiaeth Achos 9: Hawliau plant i fabanod a phlant bach

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau y gall pob plentyn hawlio ei hawliau. Isod ceir dwy enghraifft o'r ffordd y caiff hawliau plant eu hyrwyddo i deuluoedd ac oedolion sy'n gweithio gyda babanod a phlant bach ac yn gofalu amdanynt.

Bwndeli Babi

Cynhaliwyd cynllun peilot 'Bwndeli Babi' rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021. Cymerodd 200 o deuluoedd o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ran yn y cynllun peilot. Cafodd rhieni newydd eitemau hanfodol a chanllawiau i'w helpu gyda'u baban newydd. Darparwyd y Bwndel Babi fel rhodd i groesawu eu baban newydd i'r byd, heb unrhyw amodau ynghlwm wrtho a heb stigma. 

Cyfrannodd cynllun peilot 'Bwndeli Babi' at y canlynol:

  • sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, drwy gyfeirio teuluoedd at wybodaeth a chyngor ar rianta a rhaglenni cymorth.
  • mynd i'r afael â gwahaniaethu drwy sicrhau bod yr un eitemau hanfodol ar gael i bob teulu.
  • mynd i'r afael â thlodi, drwy ddileu rhai o'r costau y mae teulu yn eu hwynebu pan gaiff baban ei eni.
  • diogelu'r amgylchedd drwy osgoi cynhyrchion untro, gan leihau faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir a defnyddio cyflenwyr lleol lle y bo'n bosibl.

Cynhaliwyd gwerthusiad o'r cynllun peilot. Cafodd y Bwndeli Babi eu croesawu gan y rhieni a gymerodd ran. Gan adeiladu ar lwyddiant y cynllun peilot, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gynnig Bwndeli Babi i ragor o deuluoedd ledled Cymru.

Caiff gwersi a ddysgwyd o'r cynllun peilot eu hystyried ymhellach a'u cynnwys yn y ffordd y caiff y gwasanaeth ei gynllunio pan gaiff ei gyflwyno ledled Cymru. Rhoddir pwys ar gyfeirio rhieni newydd at wybodaeth ac arweiniad. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am Hawliau Plant a bydd yn helpu i wneud yn siŵr y gall babanod gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Gwrando ar fabanod a phlant bach.

Dylid gwrando ar bob plentyn. Gall hyn fod yn heriol yn ymarferol, yn enwedig yn y Blynyddoedd Cynnar.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i Plant yng Nghymru wneud ymchwil a dod o hyd i ffyrdd o wrando ar fabanod a phlant bach iawn. Mae Plant yng Nghymru wedi treialu dulliau gweithredu gyda babanod (0-1 oed), plant bach (1-2 oed) a phlant cyn oed ysgol (3-4 oed).

O ganlyniad i'r cynllun peilot, datblygwyd yr adnoddau canlynol:

Cyfranogi

Beth yw Cyfranogi?

Mae gan bob plentyn yr hawl i lywio penderfyniadau sy'n effeithio arno, ei deulu a'r gymuned y mae'n byw ynddi. Mae cyfranogi yn golygu gwrando ar blant pan wneir penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Dylai plant gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall pa benderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Dylai plant wybod pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sy'n effeithio arnynt a dylent gael cyfleoedd i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

Dylid cynnig cyfleoedd i lywio penderfyniadau mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac aeddfedrwydd plant. Nid yw'r ffaith bod plentyn yn ifanc neu'n gymharol anaeddfed yn rheswm dros ddiystyru ei farn na rhoi llai o sylw iddo mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Dylai cyfranogi fod yn broses ddiogel, alluogol a chynhwysol. Dylai cyfranogi gefnogi sgyrsiau rhwng plant ac oedolion sy'n gweithio gyda nhw.

Sut mae cyfranogi wedi'i ymgorffori yn Llywodraeth Cymru?

  • Nodi bylchau a chyfleoedd lle y gallai plant a phobl ifanc gyfranogi ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.
  • Cynnwys plant yn y gwaith o gynllunio a dylunio gwasanaethau.
  • Dileu'r rhwystrau sy'n atal plant rhag cyfranogi. Er enghraifft, gwybodaeth sy'n anodd i'w deall, trafnidiaeth, iaith.
  • Rhoi cymorth ychwanegol i blant sydd ei angen.
  • Dysgu am y ffordd y mae sefydliadau eraill yn gwneud hyn yn dda.
  • Datblygu targedau clir ar gyfer gwrando ar blant y mae'n bosibl nad ydynt yn cael eu clywed bob amser.
  • Cynnwys plant wrth recriwtio staff sydd â chyfrifoldebau sy'n effeithio arnynt.
  • Rhoi adborth i blant. Mae hyn yn golygu dweud wrthynt sut mae eu barn wedi cael ei hystyried.
  • Mabwysiadu'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed?

  • Rhoddodd gyllid i Cymru Ifanc i ddiweddaru'r ffordd rydym yn gwrando ar blant er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn cael cyfleoedd da i gymryd rhan. 
  • Ariannodd arolwg Coronafeirws a Ni a wrandawodd ar blant yn sôn am effaith y pandemig ar eu bywydau. Rhoesom systemau ar waith a'u helpodd i oresgyn y problemau roeddent yn eu hwynebu.
  • Cynhwysodd blant yn y broses o recriwtio Comisiynydd Plant Cymru.
  • Rhoddodd gyllid i Cymru Ifanc i gyflogi gweithiwr cyfranogiad yn benodol er mwyn deall anghenion plant anabl a'r gwaith sy'n cael ei wneud gyda nhw.
  • Helpodd blant ifanc i ymchwilio i faterion yn ymwneud â hawliau plant yng Nghymru a rhannu'r materion hynny â'r Cenhedloedd Unedig. 
  • Darparodd gyllid er mwyn sicrhau bod plant yn cael cyfle cyfartal i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael profiadau newydd drwy Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles, wrth inni adfer ar ôl y pandemig.

Astudiaethau Achos: Cyfranogi

Astudiaeth Achos 10: Adolygu Cymru Ifanc

Mae Cymru Ifanc yn brosiect sy'n cael ei redeg gan Plant yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Nod Cymru Ifanc yw rhoi llais i blant yng Nghymru ar faterion sy'n effeithio arnynt, er mwyn i'w barn gael ei chlywed, yn enwedig gan Weinidogion yn Llywodraeth Cymru a llunwyr polisi eraill.

Nod Cymru Ifanc yw bod mor gynhwysol â phosibl er mwyn i'r plant hynny sy'n cael yr anhawster mwyaf i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed yn gallu gwneud hynny yn ogystal â'r rhai sy'n cael llai o anhawster i leisio eu barn.

Yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2023, helpodd Cymru Ifanc fwy na 1,000 o blant i gymryd rhan mewn 41 o gyfleoedd cyfranogi.

Yn ystod 2022, wrth i Gymru ddod dros effeithiau pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru a Plant yng Nghymru wedi gweithio'n agos i lunio model newydd sy'n gwneud yn siŵr bod plant yn cael cyfleoedd ystyrlon i rannu eu barn.

Mae hyn yn cynnwys:

  1. Cynnal rhagor o gyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Mae Aelodau Fforwm Cymru Ifanc yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ar benwythnosau preswyl ledled Cymru er mwyn trafod y materion sy'n bwysig iddynt. Caiff penwythnosau preswyl Cymru Ifanc, a gynhelir bod chwarter, eu cylchdroi o amgylch Cymru er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob rhan ddaearyddol o Gymru yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn bersonol.

  1. Cael cyfleoedd i ddod yn arweinwyr.

Mae Cymru Ifanc yn canolbwyntio ar ddatblygu plant fel arweinwyr, gan ddarparu hyfforddiant ac achrediadau sy'n eu helpu i wneud eu gwaith fel aelodau o'r fforwm hyd eithaf eu gallu. Mae hyn yn cynnwys dysgu am CCUHP, y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol a beth yw fforymau a beth maent yn ei wneud.

  1. Sefydlu grwpiau i ganolbwyntio ar faterion sy'n bwysig i blant a Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o fodel cyfranogi wedi'i ddiweddaru Cymru Ifanc, mae byrddau cynghori newydd sy'n cynnwys plant a phobl ifanc wedi'u sefydlu. Mae byrddau cynghori yn gweithio ar fater penodol yn y Llywodraeth ac yn cyfrannu at lunio a gwerthuso polisi yn y maes hwnnw. Y byrddau cynghori hyn yw:

  • Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc
  • Bwrdd Cynghori ar y Warant i Bobl Ifanc
  • Bwrdd Cynghori LHDTC+
  • Grŵp Ieuenctid ar gyfer Cadw'n Ddiogel Ar-lein
  • Grŵp Cynllun Gwella'r Gyllideb
  • Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc
  • Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol
  1. Gwneud yn siŵr bod cymorth priodol i blant sy'n agored i niwed.

Ar ddechrau 2023, rhoddodd Llywodraeth Cymru ragor o arian i Plant yng Nghymru er mwyn iddo gyflogi gweithiwr sy'n gyfrifol am gefnogi plant a phobl ifanc anabl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae gan yr unigolyn hwn brofiad o helpu plant y mae eu llais, o bosibl, yn llai tebygol o gael ei glywed i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu ac arwain prosiectau fel Rhaglen Cenhadon Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.

Isod ceir enghreifftiau o ble mae cymorth penodol wedi cael ei ddarparu er mwyn goresgyn rhwystrau i gyfranogi sy'n ymwneud â gwrando ar blant:

  • prynwyd cyfarpar electronig i blant a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn ystod y pandemig er mwyn iddynt allu cyfranogi. Mae model cyfranogi hybrid (ar-lein ac wyneb yn wyneb) wedi parhau ers y pandemig er mwyn gwneud yn siŵr y gall cynifer o blant â phosibl gymryd rhan.
  • arweiniodd cyfraniadau gan blant yn yr ymgynghoriad ar Fil Cynhyrchion Plastig Untro Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol at newid y Bil ynglŷn ag anghenion meddygol pobl anabl. Cymerwyd camau i wneud yn siŵr y gall hawliau plant anabl gael eu diogelu, drwy sicrhau y gallant gael y cyfarpar sydd ei angen arnynt o hyd, hyd yn oes os bydd wedi'i wneud o blastig untro. Cafodd y newidiadau hyn eu cyflwyno i blant mewn ffeithluniau hawdd eu deall er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Astudiaeth Achos 11: Coronafeirws a Fi a Coronafeirws a Ni - Gwrando ar Blant yn ystod y Pandemig

Coronafeirws a Fi

Ym mis Ionawr 2021, daeth Llywodraeth Cymru â Chomisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid Cymru ynghyd i geisio barn plant a phobl ifanc.

Ymdriniodd arolwg Coronafeirws a Fi â themâu megis iechyd, addysg, yr effaith ar fywydau cymdeithasol plant ac anghenion grwpiau penodol. Hwn oedd yr ail arolwg cenedlaethol o'i fath.

Roedd fersiwn symbolau o'r arolwg hefyd ar gael a defnyddiwyd tasgau a oedd yn cynnwys gweithgareddau â lluniau fel dewis amgen yn lle'r fersiwn destun o'r arolwg. Roedd hyn wedi helpu plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gymryd rhan.

Cymerodd 19,737 o blant 3-18 oed ran.

Helpodd y canlyniadau Lywodraeth Cymru i ddeall y ffordd orau o gefnogi plant yn ystod y pandemig a thu hwnt.

Coronafeirws a Ni

Ym mis Medi 2021, lluniodd Comisiynydd Plant Cymru yr adroddiad, 'Coronafeirws a Ni'.

Nododd y Comisiynydd ar ei gwefan, y pethau a wnaeth Llywodraeth Cymru yn dda mewn ymateb i ganfyddiadau'r arolwg:

  • cyfarfu Gweinidogion, gan gynnwys y Prif Weinidog, â phlant a phobl ifanc er mwyn gwrando ar eu profiadau ac ateb cwestiynau.
  • cyfarfu'r Prif Weinidog a'i swyddogion yn rheolaidd â Chomisiynwyr a phenderfynwyr eraill er mwyn gwrando ar bryderon ac ateb cwestiynau.
  • diogelodd y Llywodraeth y rhan fwyaf o hawliau cyfreithiol i blant ag Anghenion Addysgol Arbennig.
  • darparwyd arian gan y Llywodraeth ar gyfer Haf o Hwyl. neilltuwyd £12 miliwn ar gyfer gweithgareddau am ddim i blant ledled Cymru yn ystod gwyliau'r haf yn 2021 a 2022.
  • cynigiodd pob ysgol ddarpariaeth addysgu ar-lein drwy adnoddau digidol a meddalwedd a oedd ar gael am ddim ar Hwb.
  • yn ystod y cyfnodau atal byr a'r cyfyngiadau symud rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021, roedd plant yn gallu mynd i ganolfannau gofal plant. Plant gweithwyr allweddol a phlant o grwpiau agored i niwed oedd y rhain.
  • Gwnaeth Llywodraeth Cymru yn siŵr bod plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cael prydau bwyd pan oedd ysgolion ar gael. Roedd hyn yn cynnwys yn ystod gwyliau'r ysgol. Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud hyn.
  • ni chafodd yr un plentyn o dan 18 ei gyhuddo o dorri rheolau COVID-19.

Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod y gwaith ar Coronafeirws a Ni a'r ffordd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru, yn enghraifft dda o gynnwys plant.

Astudiaeth Achos 12: Y Warant i Bobl Ifanc

Ym mis Tachwedd 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Gwarant i Bobl Ifanc.

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu potensial.

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn gwarantu y caiff pobl ifanc gynnig cymorth i wneud y canlynol:

  • ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant,
  • dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

Mae'r warant wedi'i hanelu at bob person ifanc 16-24 oed sy'n byw yng Nghymru.

Mae gwrando ar bobl ifanc yn rhan annatod o'r gwaith o ddatblygu'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n gweithio dros bobl ifanc yng Nghymru.

Ym mis Mai 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Sgwrs Genedlaethol â Phobl Ifanc. Nod y Sgwrs Genedlaethol yw gwrando ar leisiau'r bobl ifanc y mae'r Warant i Bobl Ifanc yn effeithio arnynt fwyaf. Mae hyn yn cynnwys pobl Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant a phobl ifanc a allai fod yn llai tebygol o gael eu clywed.

Yn ystod cam un o'r Sgwrs Genedlaethol, cyfrannodd pobl ifanc eu profiadau o gael hyfforddiant, addysg a gwaith, gan gynnwys:

  • eu dyheadau.
  • yr heriau y maent yn eu hwynebu.
  • eu hymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael iddynt.
  • eu syniadau ar gyfer ffyrdd o ymgysylltu'n well â phobl ifanc yn y dyfodol.

Cymerodd pobl ifanc ran yn y sgwrs drwy arolygon, grwpiau ffocws a sesiynau a hwyluswyd gan sefydliadau allanol.

Gellir darllen yr adroddiad ar gam un o'r Sgwrs Genedlaethol ar y Warant i Bobl Ifanc a diweddariad ar gyfranogwyr yma.

Ystyriodd yr ail gam o'r Sgwrs Genedlaethol ar y Warant i Bobl Ifanc rai o'r materion allweddol a godwyd yng ngham 1 yn fanylach. Mae'r Sgwrs Genedlaethol yn helpu i lywio arlwy'r Warant i Bobl Ifanc yn y dyfodol.

Bwriedir i'r Warant i Bobl Ifanc roi'r cymorth cywir i bobl ifanc ar yr adeg gywir. Mae'n galluogi pobl ifanc 16-24 oed i fanteisio ar y canlynol:

  • un llwybr syml i'r warant drwy Cymru'n Gweithio. Mae hyn yn golygu cymorth a chyngor gan gynghorwyr. Darperir cymorth ar sawl ffurf, gan gynnwys ar-lein ac wyneb yn wyneb.
  • cymorth a chyngor ar hunangyflogaeth drwy Syniadau Mawr Cymru.
  • lleoedd ar un o raglenni Cyflogadwyedd Cymunedol allgymorth Llywodraeth Cymru (gan gynnwys rhaglenni Twf Swyddi Cymru+, Cymunedau am Waith a Mwy, a ReAct+).
  • help i ddod o hyd i brentisiaeth.
  • cyfleuster chwilio am gyrsiau newydd, mewn addysg bellach neu addysg uwch.
  • atgyfeiriad at un o'r rhaglenni a ariennir gan bartneriaid eraill, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau neu awdurdodau lleol.

Sefydlwyd Bwrdd Cynghori ar y Warant i Bobl Ifanc er mwyn parhau i wrando ar leisiau pobl ifanc. Bydd gwaith y Bwrdd Cynghori hefyd yn adeiladu ar yr adborth a gafwyd drwy'r Sgwrs Genedlaethol. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cymru Ifanc.

Astudiaeth Achos 13: Recriwtio Comisiynydd Plant Cymru

Ym mis Ebrill 2022, dechreuodd Rocio Cifuentes yn ei rôl fel Comisiynydd Plant Cymru, gan wasanaethu fel y pedwerydd Comisiynydd ers i'r rôl gael ei chreu yn 2000.

Mae'r broses ar gyfer dewis Comisiynydd newydd yn hir a chymhleth. Rôl y Comisiynydd yw hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru, ac mae'n eithriadol o bwysig bod y person cywir yn cael ei benodi.

Cafodd plant a phobl ifanc eu cynnwys mewn modd ystyrlon drwy gydol y broses o ddewis Rocio Cifuentes.

Cadeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol banel trawsbleidiol i ystyried y ceisiadau. Cafodd y panel hwn ei gefnogi gan banel o bobl ifanc,

a aeth ati i ystyried datganiadau personol yr ymgeiswyr addas a'u gosod mewn trefn. Roedd y datganiadau hyn wedi'u hysgrifennu'n benodol i blant a phobl ifanc. Defnyddiwyd safbwyntiau'r bobl ifanc i lywio'r penderfyniad i wahodd chwe ymgeisydd i'r cam cyfweliad.

Rhoddodd y chwe ymgeisydd a gyrhaeddodd y rhestr fer gyflwyniad i ddosbarth o ddisgyblion blwyddyn chwech yn Ysgol Gynradd Gwyrosydd. Rhoddodd pob ymgeisydd gyflwyniad am bum munud, ac wedi hynny, gofynnwyd yr un tri chwestiwn iddynt gan dri o'r disgyblion. Cafodd y sesiynau hyn eu ffilmio a'u cyflwyno i'r panel o bobl ifanc a'r panel trawsbleidiol i'w hystyried. Darparwyd adroddiad hefyd yn amlinellu adborth y plant ar bob un o'r chwe ymgeisydd. Cafodd yr adroddiad hwn ei ystyried gan y ddau banel cyfweld.

Cafodd pob un o'r ymgeiswyr ar y rhestr fer eu cyfweld gan y panel o bobl ifanc, a gyflwynodd ei sgoriau a'i adborth i'r panel trawsbleidiol. 
Cafodd yr ymgeiswyr hefyd eu cyfweld gan y panel trawsbleidiol, a aeth ati hefyd i ystyried yr amrywiaeth o adborth a gafwyd gan y plant a'r bobl ifanc, y cyflwyniadau yn yr ysgol, ac adborth y panel o bobl ifanc cyn argymell ymgeisydd i'w benodi.

Atebolrwydd

Beth yw Atebolrwydd?

Rhaid i bobl sydd â dyletswydd i helpu plant i arfer eu hawliau fod yn atebol. Mae hyn yn golygu dangos sut a pham y mae penderfyniadau sy'n effeithio ar blant wedi'u gwneud yn y ffordd honno.

Er mwyn bod yn atebol, mae'n rhaid bod ffyrdd o gadarnhau i ba raddau y mae penderfyniadau yn cefnogi hawliau plant. Mae hyn yn cynnwys nodi ffyrdd o newid a gwella os bydd penderfyniadau'n cael effeithiau negyddol ar hawliau plant.

Er mwyn gwneud hyn yn dda, rhaid i benderfynwyr fod yn onest a rhoi rhesymau dros eu penderfyniadau a'u gweithredoedd.

Er mwyn arfer eu hawliau, rhaid i blant wybod bod ganddynt yr hawliau hynny. Dylai plant hefyd wybod pan na allant arfer eu hawliau, a sut i wneud cwyn neu herio penderfyniadau a gweithredoedd.

Sut mae atebolrwydd wedi'i ymgorffori yn Llywodraeth Cymru?

  • Rhoi gwybodaeth i blant am sut y gallant ofyn cwestiynau a herio penderfynwyr.
  • Sicrhau bod plant yn ymwybodol o'u hawliau. Mae hyn yn golygu rhoi gwybodaeth iddynt er mwyn deall cyfrifoldebau a rhwymedigaethau deiliaid dyletswydd.
  • Defnyddio Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant i ystyried yr effaith y mae penderfyniadau'n ei chael ar hawliau plant.
  • Sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau i blant.
  • Cyhoeddi diweddariadau sy'n dangos ein gwaith tuag at wireddu hawliau.
  • Rhoi adborth i blant yn rheolaidd.
  • Rhoi gwybodaeth hawdd ei deall i blant ynglŷn â sut i wneud cwynion neu ddwyn staff i gyfrif.

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau ei bod yn atebol am ei gwaith ar hawliau plant?

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • llunio Adroddiadau Cydymffurfiaeth Hawliau Plant, fel yr adroddiad hwn, bob dwy flynedd a hanner ers i'r Mesur gael ei gyflwyno.
  • sefydlu grŵp o uwch-swyddogion (Cyfarwyddwyr) i arwain gwaith ar y Cynllun Plant a Phobl Ifanc.
  • cyhoeddi o leiaf 216 o Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant. Mae tystiolaeth o'r asesiadau hyn yn effeithio ar benderfyniadau a wneir mewn perthynas â hawliau plant.
  • paratoi cyflwyniadau ac ymateb i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant, gan ddangos ein cyfrifoldebau dros blant, a'r gwaith rydym yn ei wneud i'w cyflawni.
  • cyhoeddi taflen i blant ynghylch gwneud cwyn, sy'n esbonio sut y gall plant roi adborth i Lywodraeth Cymru a sut i wneud cwyn os na fydd adran 1 o'r Mesur yn cael ei chyflawni. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am fannau eraill lle y gall plant gael cyngor hefyd. Er enghraifft, Meic Cymru a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

​​​​​​​Astudiaethau Achos: Atebolrwydd

Astudiaeth Achos 14: Y Cenhedloedd Unedig: Adroddiadau Gwladwriaethau sy'n Barti

Mae'r ffordd y mae gwladwriaethau yn cymhwyso CCUHP yn cael ei monitro gan y Pwyllgor ar Hawliau Plant.

Bob rhyw bum mlynedd, bydd y Pwyllgor yn adolygu pa mor dda y mae pob gwladwriaeth yn rhoi'r hawliau a bennir yn CCUHP ar waith.

Rhaid i bob un o lywodraethau'r DU gydweithio i gyflwyno adroddiadau i'r Cenhedloedd Unedig. Dyma'r brif ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i gyfrif am ei gwaith ar hawliau plant.

Mae sefydliadau eraill, a phlant, wedi bod cael eu cynnwys drwy gydol y broses hefyd.

Dechreuodd y cylch adrodd presennol yn 2020.

Cyflwynodd sefydliadau, gan gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Grŵp Monitro CCUHP adroddiadau i'r Cenhedloedd Unedig, yn eu cynghori ar yr hyn y dylent ofyn i Lywodraeth y DU adrodd arno.

Ynghyd â Chomisiynwyr Plant Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru adroddiad ar y cyd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig. Lluniodd y Comisiynwyr hefyd adrodd “Are we there yet?” , yn seiliedig ar safbwyntiau plant ym mhob un o bedair gwlad y DU.

Yna, cyflwynodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ‘List of Issues’ i Lywodraeth y DU ym mis Chwefror 2021. Dyma'r materion pwysig y mae'r Cenhedloedd Unedig yn disgwyl i Lywodraeth y DU adrodd ar gynnydd yn eu cylch. Roedd hyn yn cynnwys cwestiynau i Lywodraeth Cymru.

Ar 15 Mehefin 2022, ymatebodd Llywodraeth y DU i restr o faterion y Cenhedloedd Unedig. Yn ei hymateb, dangosodd y cynnydd a wnaed ledled y Deyrnas Unedig ar hawliau plant.

Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yn canolbwyntio ar y gwaith a wneir yng Nghymru. Dyma'r gwaith y mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i'w arwain. Er mwyn bod yn atebol i blant, cyhoeddwyd fersiwn i bobl ifanc o'r adroddiad hwn hefyd.

Ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth y DU, cyflwynodd Comisiynydd Plant Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Plant a Grŵp Monitro CCUHP ail gyfres o adroddiadau i'r Cenhedloedd Unedig, a chawsant eu gwahodd i Genefa i ateb cwestiynau am eu hadroddiadau.

Cyflwynodd Comisiynydd Plant Cymru, mewn partneriaeth â Chomisiynwyr Gogledd Iwerddon a'r Alban, adroddiad ar ymatebion plant hefyd. Lluniwyd fersiynau i bobl ifanc a fersiwn symbolau o'r adroddiad hwn.

Aeth chwech o wirfoddolwyr Cymru Ifanc ati i arwain darn cenedlaethol o ymchwil gyda phlant o bob cwr o Gymru, gan gyflwyno eu hadroddiad i'w ystyried. Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru. Gellir darllen astudiaeth achos sy'n ymwneud yn benodol â'r prosiect hwn isod.

Cyfarfu Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig hefyd â Gwladwriaeth y DU sy'n Barti, sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, ym mis Mai 2023, lle y gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â CCUHP.

Yn dilyn y cyfarfod â Llywodraeth y DU, lluniodd y Pwyllgor adroddiad yn amlinellu ei Sylwadau Terfynol a'i Argymhellion. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i'r DU ei wneud, ym marn y Cenhedloedd Unedig, i wella ei gwaith ar hawliau plant. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Mehefin 2023.

Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn awr i ystyried a nodi'r camau y mae angen iddi eu cymryd i ymateb i'r argymhellion a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig.

Astudiaeth Achos 15 – Ymchwilwyr Ifanc: Adroddiad i'r Cenhedloedd Unedig

Fel rhan o'r gwaith i gyflwyno adroddiadau i'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant, bu'n hanfodol deall y gwaith hwn o safbwynt plant eu hunain.

Yn 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i Plant yng Nghymru i gefnogi grŵp o wirfoddolwyr Cymru Ifanc i lunio Adroddiad Plant. Gweithredodd y gwirfoddolwyr fel ymchwilwyr i ddeall y materion pwysig sy'n wynebu plant wrth geisio arfer eu hawliau.

Y Broses Ymchwil

  1. Adolygodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ddogfennau ac adroddiadau a oedd yn dangos yr hyn a oedd yn bwysig i blant.
  2. Gwnaethant gysylltu â phob un o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru, ac amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant, er mwyn meithrin dealltwriaeth well o flaenoriaethau ar gyfer plant.
  3. Gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd, lluniodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc gwestiynau ymchwil i'w gofyn i blant a phobl ifanc.
  4. Rhwng 2020 a 2022, cyfrannodd mwy na 1,000 o blant a phobl ifanc at yr adroddiad drwy weithdai, gwyliau, digwyddiadau a grwpiau cynghori.
  5. Gan ystyried yr holl adborth a gasglwyd, lluniodd y gwirfoddolwyr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cenhedloedd Unedig.

Nododd yr adroddiad argymhellion allweddol ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â hawliau plant.

Gwrando ar blant yng Ngenefa

Yn gynnar ym mis Chwefror 2023, ariannodd Llywodraeth Cymru daith i Genefa ar gyfer chwech o wirfoddolwyr Cymru Ifanc. Yno, gwnaethant gyfarfod â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant. Ochr yn ochr â phobl ifanc o bob cwr o'r DU a Jersey, cafodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ddau gyfarfod â'r Pwyllgor. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, cawsant gyfle i fynegi eu barn am hawliau plant yng Nghymru a chyflwyno argymhellion o'r adroddiad. Mae'r argymhellion hyn yn nodi'r hyn y dylid ei wneud, ym marn plant, i wella pethau.

Ystyriodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig argymhellion y plant i'r DU a Llywodraeth Cymru.

Astudiaeth Achos 16: Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant

Yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yw'r prif ddull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i sicrhau ein bod yn rhoi sylw dyladwy i hawliau plant. Mae Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn dangos ac yn cofnodi'r effaith y mae penderfyniadau polisi yn ei chael ar hawliau plant. Rhaid i dimau ac adrannau yn Llywodraeth Cymru gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant wrth ddatblygu polisïau newydd neu wneud newidiadau i'r rhai sy'n bodoli eisoes, os byddant yn effeithio ar blant mewn unrhyw ffordd.

Ym mis Rhagfyr 2021, gwnaethom ddatblygu ein Templed ar gyfer Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant er mwyn ystyried argymhellion blaenorol y Cenhedloedd Unedig i gryfhau ein canllawiau i staff ar hawliau plant. Mae'r templed newydd yn cynnwys ysgogiadau i'r staff ystyried sut mae eu gwaith yn effeithio ar grwpiau gwahanol o blant mewn ffyrdd gwahanol, a phwysigrwydd ymchwil a data.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, gwnaethom hefyd lunio llawlyfr staff a modiwl e-ddysgu er mwyn helpu pobl i gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant. Mae'r adnoddau hyn yn rhoi canllawiau ar sut i gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn dda, a'r pethau allweddol i'w hystyried wrth eu cwblhau. Er enghraifft, maent yn awgrymu ffyrdd gwahanol y gall timau wrando ar safbwyntiau plant ac yn helpu timau i ystyried unrhyw wahaniaethu posibl yn erbyn plant. Maent hefyd yn hyrwyddo Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc. Mae'r rhain yn nodi'r materion allweddol ac arferion da y dylai staff fod yn ymwybodol ohonynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Ers mis Ionawr 2020, rhaid i bob Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Nid yn unig y mae hyn yn ein dwyn i gyfrif i'r cyhoedd ond mae hefyd yn rhoi enghreifftiau o arferion da i eraill eu dilyn. Rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd 98 o Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant.

Wrth gwblhau asesiad, mae'n ofynnol i lunwyr polisi nodi'r hawliau yr effeithir arnynt. Os bydd penderfyniadau yn cael effaith negyddol, rhaid i gamau gael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.

Defnyddir Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant i lywio ein cyngor i Weinidogion.

Mae gan Lywodraeth Cymru Gangen Hawliau Plant ddynodedig sy'n rhoi cyngor a chanllawiau ar gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, mae'r Gangen wedi adolygu 94 o Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant ac wedi rhoi cyngor arnynt. Yn ogystal, mae'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant yn cynnig adborth a phroses graffu allanol ar fersiynau drafft o Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant.

Argymhellion o Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Medi 2020)

Yn ein Hadroddiad Cydymffurfiaeth diwethaf (2020), gwnaethom nodi y byddem yn gweithredu ar argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Medi 2020 a dderbyniwyd.

Dyma amlinelliad bras o'r cynnydd a wnaed:

  • Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyhoeddwyd Cynllun Hawliau Plant newydd ym mis Tachwedd 2021.
  • Rydym wedi parhau i danlinellu pwysigrwydd hawliau plant yn ein gwaith. Mae'r enghreifftiau a nodir yn yr adroddiad hwn ar gydymffurfiaeth yn dangos ein bod wedi gwneud y canlynol:
  • ymgorffori hawliau plant yn ein cyfreithiau, ein polisïau a'n strategaethau.
  • gwneud ymdrech benodol i warantu hawliau plant sy'n llai tebygol o allu eu harfer.
  • llunio adnoddau i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant i fabanod, plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw.
  • dysgu oddi wrth eraill, a gwella'r ffyrdd rydym yn gwrando ar blant. Mae hyn yn cynnwys gwrando ar blant eu hunain a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Rydym wedi derbyn awgrymiadau a wnaed gan aelodau o Rwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru, a sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant.
  • diweddaru ein canllawiau a'n prosesau ar gyfer staff, er mwyn gwella sut y cawn ein dwyn i gyfrif.
  • cyhoeddi ein Hasesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant er mwyn bod yn fwy agored o ran ein gwaith ar hawliau plant.
  • Rydym wedi datblygu e-fodiwl rhagarweiniol i bobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru. Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru ac mae'n dangos pam y mae'n bwysig eu hystyried fel rhan o waith y Llywodraeth.
  • Rydym wedi datblygu cyfleoedd i Weinidogion a swyddogion ymgysylltu'n fwy rheolaidd â phlant. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd dysgu i ddeall y materion sy'n effeithio ar blant mewn ffordd uniongyrchol.
  • Rydym wedi cryfhau ein canllawiau ar gynnal Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, er mwyn ei gwneud yn glir pryd a sut y dylid cwblhau a chyhoeddi Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant.
  • Ers mis Ionawr 2020, mae pob Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant a gwblhawyd wedi cael ei gyhoeddi ar-lein fel mater o drefn.
  • Yn ein 'Cynllun Gwella'r Gyllideb', rydym wedi nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i wneud penderfyniadau cyllidebol sy'n effeithio ar hawliau plant.
  • Rydym yn gweithio gyda phlant i ddatblygu Cynllun Gwella'r Gyllideb i blant. Bydd hwn yn cynnwys gwybodaeth am benderfyniadau cyllidebol sy'n haws ei deall ac yn ein gwneud yn fwy atebol i blant.
  • Rydym wedi cryfhau'r canllawiau yn ein llawlyfr staff ar ystyried effaith penderfyniadau cyllidebol ar hawliau plant.
  • Rydym wedi datblygu cynllun penodol i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant ledled Cymru.
  • Rydym wedi gwneud deall hawliau dynol yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru.
  • Mae'r ‘Cynllun Hawliau Plant’ diwygiedig yn cydnabod y gall fod angen help ar blant i wneud cwyn. Rydym wedi cyhoeddi taflen i blant ynghylch gwneud cwyn, sy'n esbonio sut i roi adborth a sut i wneud cwyn os na fydd sylw dyledus yn cael ei roi i hawliau plant. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am fannau eraill lle y gall plant gael cyngor hefyd. Er enghraifft, Meic Cymru a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Yn 2021, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Lywodraeth y DU yn galw arni i gadarnhau'r protocol dewisol ar weithdrefn gyfathrebu.
  • Rydym wedi gweithio gyda Plant yng Nghymru i ddatblygu model cynrychioliadol cynaliadwy ar gyfer Cymru Ifanc.
  • Gwnaethom lunio a chyhoeddi adroddiad penodol i Gymru mewn ymateb i restr y Cenhedloedd Unedig o faterion, a gwnaethom hefyd lunio fersiwn i bobl ifanc o Adroddiad Cymru.
  • Rydym wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i aelodau Senedd Cymru ar gynnydd mewn perthynas â hawliau plant. 

Y Camau Nesaf: Beth yw'r camau nesaf i Lywodraeth Cymru?

  • Rydym yn croesawu Adroddiad Sylwadau Terfynol CCUHP, a gyflwynwyd i Wladwriaeth y DU sy'n Barti, sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, ym mis Mehefin 2023.
  • Rydym yn cymryd amser i ystyried yn ofalus yr hyn y mae'r Cenhedloedd Unedig wedi ei argymell i wella gwaith ar hawliau plant yng Nghymru.
  • Byddwn yn llunio ymateb yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd, ac yn ei gyhoeddi.
  • Rydym yn bwriadu cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses hon, yn ogystal ag aelodau o'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant.

Gan fod yr adroddiad hwn yn ymdrin â Gwladwriaeth y DU sy'n Barti yn gyffredinol, byddwn yn hefyd yn gweithio gydag aelodau gwladwriaethau eraill sy'n barti.

  • Byddwn hefyd yn gwneud y canlynol:
  • llunio Diweddariad Blynyddol ar y Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Caiff hwn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023.
  • adolygu'r Cynllun Codi Ymwybyddiaeth o Hawliau Plant. Byddwn yn gwneud hyn mewn ymgynghoriad â phlant, teuluoedd a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw yng Nghymru. Byddwn yn cyhoeddi Cynllun newydd yn 2024.
  • parhau i wella'r ffordd rydym yn gwrando ar blant yng Nghymru. Byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod cyfleoedd yn gynhwysol ac o ansawdd da.
  • gwerthuso ac adolygu Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, a'r broses Nod Barcud. l ifanc.

Rhestr Termau

Achub y Plant: Mae Achub y Plant yn sefydliad byd-eang. Yng Nghymru, mae Achub y Plant yn ymrwymedig i fynd i'r afael â thlodi plant fel bod plant bach yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i dyfu, datblygu a dysgu.

Argymhellion Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig: Bob pum mlynedd, mae'r Cenhedloedd Unedig yn archwilio'r DU gyfan, gan gynnwys Cymru, o ran i ba raddau y mae'n cyflawni ei haddewidion o dan CCUHP. Maent yn asesu faint o gynnydd a wnaed tuag at roi'r cyfleoedd a'r mesurau diogelu sydd wedi'u hymgorffori yn CCUHP i bob plentyn. Gelwir yr awgrymiadau y maent yn eu rhoi i'r Llywodraeth yn Argymhellion Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig.

Asesiad Effaith Integredig: Defnyddir Asesiadau Effaith Integredig i gefnogi'r gwaith o graffu ar benderfyniadau a wneir yn y llywodraeth. Drwy gwblhau Asesiad Effaith Integredig, rhaid i swyddogion ystyried effeithiau eu penderfyniadau ar fywydau pobl, yn enwedig pobl agored i niwed. Mae Asesiadau Effaith Integredig yn debyg i Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant, ond cânt eu cwblhau ar gyfer penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru, nid plant yn unig.

Bwrdd Cynghori Cymru Ifanc: 

  • Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc: Mae'r grŵp hwn yn cyfrannu at yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru, ac yn llywio hynny.
  • Bwrdd Cynghori ar y Warant i Bobl Ifanc: Mae'r Bwrdd Cynghori ar y Warant i Bobl Ifanc yn rhoi arweiniad a chyngor i Lywodraeth Cymru ar y cynnydd a wnaed o dan y warant. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen 10.
  • Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein: Diben y grŵp hwn yw llywio'r gweithgareddau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw yn y dyfodol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i gadw plant yn ddiogel ar-lein. Mae plant yn cael cyfle i roi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar y cyngor a'r cymorth y maent yn eu cael.
  • Grŵp Cynghori ar Gynllun Gwella'r Gyllideb: Crëwyd y grŵp hwn i weithio'n benodol gyda Thîm Gwella'r Gyllideb i gyd-lunio fersiwn i bobl ifanc o Gynllun Gwella'r Gyllideb Trysorlys Cymru. Mae'r grŵp yn weithredol ers mis Tachwedd 2022 a bydd yn parhau i weithio gyda Thîm Gwella'r Gyllideb drwy gydol 2023 hyd nes y bydd y fersiwn i bobl ifanc o'r Cynllun wedi'i chyhoeddi ochr yn ochr â'r Gyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr 2023.
  • Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc: Gwahoddir pob un o wirfoddolwyr Cymru Ifanc i ymuno â'r Bwrdd Prosiect ac i fynychu cyfarfodydd yn bersonol neu ar-lein ym mhob un o'n pedwar digwyddiad preswyl am ddim a gynhelir yn ystod y flwyddyn. Nod y Bwrdd Prosiect yw craffu a chynghori ar waith Cymru Ifanc gyda phlant a phobl ifanc a throstynt.
  • Sefydlwyd y Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol i bobl ifanc sydd â phrofiad bywyd o iechyd meddwl a llesiant neu ddiddordeb arbennig yn y maes. Mae'r grŵp yn mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl a rennir gan bobl ifanc. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen 11.

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol: Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sefydlu grwpiau o'r enw Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae aelodau'r Byrddau yn cydweithio i sicrhau bod gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl yn yr ardal leol ar gael.

Cenedl Noddfa: Nod Cymru yw bod yn ‘Genedl Noddfa’ gyntaf y byd. Ein gweledigaeth yw sicrhau ym mha le bynnag yng Nghymru y bydd pobl sy'n ceisio lloches yn mynd, y cânt eu croesawu a'u deall, ac y caiff eu cyfraniad unigryw at fywyd cyfoethog Cymru ei ddathlu.

Comisiynydd Plant Cymru: Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru. Dechreuodd yn y swydd ym mis Ebrill 2022, a bydd yn Gomisiynydd Plant am saith mlynedd. Ei gwaith yw hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau: Mae'r Confensiwn hwn yn pennu hawliau pob person anabl. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bwriad i ymgorffori'r Confensiwn yng nghyfraith Cymru. Mae 184 o wledydd ledled y byd wedi mabwysiadu'r Confensiwn.

Craffu: ystyr craffu yw archwilio'n agos. Yn yr adroddiad hwn, wrth sôn am graffu, rydym yn cyfeirio at gyfleoedd i archwilio a gofyn cwestiynau am y penderfyniadau a wnawn. Mae hyn yn golygu sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed wrth i benderfyniadau a pholisïau gael eu cynllunio, a rhoi adborth ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio cystal.

Cydymffurfiaeth: Mae hyn yn golygu dilyn y rheolau a chyrraedd y safonau a bennwyd. Yn yr adroddiad hwn, mae cydymffurfiaeth yn golygu adrodd ar y ffordd rydym wedi rhoi sylw dyladwy i hawliau plant.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC): Sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru. Nod CGGC yw galluogi sefydliadau gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth yng Nghymru.

Cymdeithas Datblygu Horn: Mae'r Gymdeithas hon yn rhoi ystod amrywiol o gymorth i gymunedau sy'n byw ledled Caerdydd.

Deiliaid Dyletswydd: Ynghyd â'r Llywodraeth, mae pawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc yn ddeiliaid dyletswydd o dan CCUHP. Mae hyn yn golygu bod gan oedolion sy'n gweithio gyda phlant gyfrifoldeb i gynnal hawliau plant.

Diverse Cymru: Elusen yng Nghymru sy'n cefnogi pobl sy'n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu.

Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant:

  • Ymgorffori: Rhoi hawliau plant wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu: Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod cystal ag y gall fod.
  • Grymuso plant: Gwella gallu plant fel eu bod yn gallu manteisio'n well ar hawliau.
  • Cyfranogi: Gwrando ar blant a rhoi sylw ystyrlon i'w barn
  • Atebolrwydd:Dylai awdurdodau fod yn gyfrifol am benderfyniadau a chamau gweithredu sy'n effeithio ar fywydau plant

Fforwm Cenedlaethol Ieuenctid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: Nod y Fforwm yw tynnu sylw at leisiau pobl ifanc 11-25 oed o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a rhoi mwy o lais iddynt.

Gorfodol: Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bobl wneud rhywbeth. Gall hyn fod yn rhywbeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu rywbeth sydd wedi'i bennu mewn polisi.

Grŵp Monitro CCUHP: Grŵp Monitro CCUHP Cymru yw grŵp o asiantaethau a sefydliadau sydd â'r dasg o fonitro a hyrwyddo CCUHP yng Nghymru. Mae'r grŵp hwn yn annibynnol ar y llywodraeth. Sefydlwyd Grŵp Monitro CCUHP yn 2002 ac ers mis Mai 2016, mae wedi'i hwyluso gan Plant yng Nghymru. 

Gweinidogion: Gweinidogion yw'r Aelodau o'r Senedd sy'n rhan o Lywodraeth Cymru. Cânt eu penodi gan Brif Weinidog Cymru ac maent yn gyfrifol am feysydd polisi penodol yn Llywodraeth Cymru. Bydd Gweinidogion yn siarad ar ran Llywodraeth Cymru yn y Senedd ac yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

LHDTC+: Mae LHDTC+ yn cyfeirio at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar (neu 'pobl sy'n cwestiynu' weithiau), rhyngryw, arywiol ac eraill. Mae'r "plws" yn cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill.

Llywodraeth Cymru: Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, sy'n cydweithio i lunio polisïau a deddfau sy'n gwneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio. Gelwir Arweinydd Llywodraeth Cymru yn Brif Weinidog Cymru. Mae'r bobl sy'n gweithio yn y Llywodraeth yn gyfrifol am wella addysg, iechyd, trafnidiaeth, cynllunio, gwasanaethau cymdeithasol, diwylliant, y Gymraeg, yr amgylchedd, a llawer mwy.

Niwrowahanol: Ystyr niwrowahanol yw pan fydd ymennydd person yn prosesu, yn dysgu neu'n ymddwyn yn wahanol i'r hyn a ystyrir yn ‘nodweddiadol.’ Mae hynny'n golygu bod gan unigolion niwrowahanol gryfderau gwahanol a'u bod yn wynebu heriau gwahanol i bobl nad yw'r gwahaniaethau hynny yn nodweddu eu hymennydd.

Plant yng Nghymru: Sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. 

Pob Llywodraeth yn y DU: Yn yr astudiaeth achos ar adroddiadau Gwladwriaethau sy'n Barti i'r Cenhedloedd Unedig (tudalen 27), mae ‘‘Llywodraeth’ a ‘Gwladwriaeth y DU’ sy'n Barti' yn cyfeirio at bob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig, sef Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Gogledd Iwerddon, a llywodraethau tiriogaethau tramor a thiriogaethau dibynnol ar y Goron. Mae'r rhain yn cynnwys Jersey, Beilïaeth Guernsey, Alderney, Sark, ac Ynys Manaw.

Protocolau Dewisol: Mae'r rhain yn nodi gofynion ychwanegol sydd eu hangen i fynd i'r afael ag anghenion sy'n newid plant. Lluniwyd y Protocolau ar ôl i CCUHP gael ei fabwysiadu, a chânt eu defnyddio i fynd i'r afael â phryderon newydd am blant. Maent yn ‘ddewisol’ am nad ydynt yn rhwymo'r llywodraethau sydd wedi ymrwymo i CCUHP yn awtomatig. Er mwyn mabwysiadu'r protocolau, rhaid i lywodraethau ymrwymo iddynt ar wahân.

Yn 2000, ychwanegwyd dau brotocol dewisol at CCUHP:

  1. Mae un yn gofyn i lywodraethau sicrhau na chaiff plant dan 18 oed eu recriwtio'n orfodol i'r lluoedd arfog.
  2. Mae'r ail yn galw ar wladwriaethau i atal puteindra plant, pornograffi plant a gwerthu plant ar gyfer caethwasiaeth. Mae'r rhain bellach wedi'u cadarnhau gan fwy na 120 o wladwriaethau, gan gynnwys gwledydd y Deyrnas Unedig.
  3. Ychwanegwyd trydydd protocol dewisol yn 2011. Mae hwn yn galluogi plant yr ymyrrwyd â'u hawliau i gwyno'n uniongyrchol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.

Race Council Cymru: Y sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i drechu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail hil. Ystyr hil yw lliw croen person neu nodwedd gorfforol arall. 

Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru: Arweinir y Rhwydwaith hwn gan Plant yng Nghymru. Grŵp o bobl ydyw, sydd â chyfrifoldeb am gyfranogiad neu ddiddordeb mewn gwella cyfleoedd i blant gael eu clywed. Mae'r Rhwydwaith yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: Mae'r Rhwydwaith hwn yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2013, a'i nod yw gwella iechyd a llesiant pobl ifanc yng Nghymru. Drwy arolygon, mae'r Rhwydwaith yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i gynhyrchu gwybodaeth o ansawdd da am iechyd a llesiant plant.

Senoffobig: Mae hyn yn golygu casineb at rywun neu drin rhywun yn wahanol am ei fod yn dod o wlad arall.

Sylw dyladwy: Yr ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau wrth wneud penderfyniadau.

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid: Nod y tîm hwn yw diwallu anghenion plant a phobl ifanc, teuluoedd ac unigolion Du ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys herio ystrydebau negyddol am amrywiaeth ethnig a chodi ymwybyddiaeth o gymunedau amrywiol sy'n byw yng Nghymru.

Tros Gynnal Plant Cymru (TGP Cymru): Elusen yng Nghymru sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac sy'n rhoi amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys gwasanaethau eirioli i blant sy'n derbyn gofal, cymorth i bobl ifanc ddigartref, ac arferion adferol i gyn-filwyr. Mae TGP Cymru hefyd yn cefnogi plant a theuluoedd sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, yn ogystal â phobl ifanc sydd â statws ceisiwr lloches neu ffoadur.

Women Connect First (WCF): Elusen yng Nghymru a sefydlwyd i gefnogi a grymuso menywod Du ac Ethnig Leiafrifol i wireddu eu potensial.

Y Cenhedloedd Unedig: Sefydliad sy'n cynnwys bron pob un o wledydd neu genhedloedd y byd. Erbyn yr 21 ganrif, roedd gan y Cenhedloedd Unedig fwy na 190 o aelodau. Prif nod y Cenhedloedd Unedig yw heddwch byd-eang.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Mae'r Comisiwn hwn yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb. Mae Comisiwn penodol i Gymru, sef EHRC Cymru.

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Sefydlwyd y Pwyllgor hwn gan y Senedd i ystyried polisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn y cynnwys plant a phobl ifanc; addysg; iechyd, gwasanaethau gofal a gofal cymdeithasol fel y maent yn berthnasol i blant a phobl ifanc.